Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Basgedaid o'r Wlad.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Basgedaid o'r Wlad. iBydd yn dda gennym gyhoeddi pob rhyw I newydd addaw yma o'r vjlad, hyd y oaniatao'n gofod. Boed pawb yn fyr ac yn flasas, ac ni welsoch chui erioed gymaint o nwyddau'r wlad y gellir eu pacio i'r Fasged fach.] 0 FETHESDA Cvmanfaoedd gafwyd yma yn ystoa y Gwyliau. Dydd Gwener y Groglith, cafwyd cymanfa ganu flynyddol y M.C. Hon yn hen gyman fa a hanes iddi am ei chanu, a, thystiolaeth pawb oedd yno ydyw na chafwyd gwell caIlU, os cystal, na dydd Gwener di- weddaf, a chapel eang Jerusalem dan ei sang. A dyna olygfa hardd oedd yno Yr oedd mynd ar y canu, a'r basses wedi rhoddi sylfaen urddasol 'i'r cyfan. Er cymaint o ganu fu ar v cydgan Teilwng yw'r Oen, cafwyd canu rhagorol amo, ac ni ddylai unrhyw daflen gymanfa ganu fod heb y d6n Henvon (E. T. Davies), gan mor dda y hi. Yr oedd y gymanfa eleni yn un eithriadol, gan fod rhai o urddasolion y wlad yn bresennol, sef Syr Henry Jones, Glasgow Syr Joiin Ewart Primrose, cyn arglwydd faer Glasgow; yr Athro Thomas Jones, Glasgow a Thomas Jones arall, cyn faer Gwrecsam a'r gantores adnabyddua, Mrs. Mary Davies. Cafwyd araith gan Syr Henry Jones a Syr John Prim- rose, ac amlwg arno ei fod yn mwynhau y canu er nad yn deall y geiriau. Canwyd un o'r hen donau Cymreig, Pen Calfai-ia, iddo, ar y Bryn Calfaria (Wm. Owen, Prysgol) a dyna ganu gafwyd Deallem lod Syr John Primrose yn arweinydd y gun yn un o egl wysi mwyaf Glasgow, ac mae'n bur debyg y buaaai'n hoffi cael canu fel hyn yn ei eglwys, ond nis gall neb ond y Cyrary ganu fel hyn. Gwnaeth v ddau arweinydd eu gwaith yn rhagorol. Mr. Wm. Owen, Carneddi, yn cwyno ei fod yn mynd yn hen nid oedd yn ymddangos felly, ond yn ol ei arfer yn Ilawn tan a gwres, ac yn gwybod ei waith. Er yn mynd ymlaen mewn dyddiau, y mae yma rai yn barod i lenwi'r bylchau ac fe ddylai'r Cyfundeb fod yn falch o Mr. R. D. Griffiths, Pant Road. Yn sicr, mae ynddo adnoddau arweinydd llwyddiannus, a gwnaeth rhai aylwadau pwrpasol ac amserol i'r eglwysi, aef rhoddi mwy o gefnogaeth i Ganiadaeth y Cysegr. Yn y cvngherddau y mae'r canu goreu at eigilydd, ond fel arall ydy lai fod, y cysegr piau'r canu, ac yno y dylai r canu goreu fod. Mae llawer o eglwysi yn edrych ar gyfarfod canu fel rhyw gyfarfod i'r plant. Gobeithio y caiff ei sylwadau y sylw ddylent gael yn yr eglwysi. Mr. R. R. Griffith, organ- ydd Jerusalem, ofalai am yr organ. Cymanfa rftgorol. Cymanfa bregethu oedd y llall, Hef gan yr Annibynwyr. Hon yn hen gymanfa, a chewri Cymru wedi bod yn gwasanaethu ynddi. Y rhai canlynol yn eu hwyliau goreu eleni :— y Parchn. B. Davies, D. D., Castell newydd Rhvs. T. Williams, Lerpwl; T. E. Nicholas, Liangybi, Ceredigion; J. L. Williams, I M. A.,B.Sc.. Aberystwyth W. Lloyd Morgan, D.D., Pontardulais: T. Mafonwy Davies, Solfs; Lie,.velyii Williams, Llandudno. Cy- manfa Iwyddiarmlis, ond drwg oedd gan eglwys Belhesda fod ei diweddar wemidog, y Parch. Rhys J. Huws, yn rncthu dod oher- wydd afieehyd. Caffed adferiad buan.— M in Ogwen. RHOSLLANERCHRVGOG A'R CYLGH- Cyjrannu o'u caloii,Dyna hanes Ysgolion Sul y Rhos yn y cyfwng presennol. Gwnaeth yagol Sul y Capel Mawr y swm anferth o -996 yn ei chasgliad chwarterol hyn yma yn ych- wanegol at gasgliad o B4 bob Saboth. Clir- iwyd^dros £ 400 o ddyled yr achos yn ystod y flwyddyu ddiweddaf, trwy roddion gwir- foddol, heb gymorth na Basar na chyngerdd na dim o'r eyfryw. Go, dda, onite Y Parch. Wynn Davies yw bugail y praidd, a phob peth yn." my ried yn hwylas dan ei gyfatwyddyd.— Gwnaeth Ysgol Sul Penuel (B.) ei chasgliad ohwarterol, pryd y eRsg-lwydEOI,-sylweddol- wyd eryn dipyn mwy nag ocddis wedi fwriadu Dyma ddiadell y Parch. D. Wyre Lewis, sydd yn oithaf adnabyddus trwy'r cylchoedd i gyd oherwydd ei ddiwydrwydd a'i ynni ymhlaid orefydd.—Casgliad Bethlehem eto yn £ 352 am hanner bJwyddYll. Rhyw anturiaeth ydyw hon gogyfer a chyllid y basar fawr ddi- wedd v mis hwn. Dr. Peter Price ydyw'r eacob yn y lie hwn, a mawr y tyrru ar ei ol bob Saboth i wrando pethau Pita-,vr yr iech- ydwriaetVi. Gwyl y Pasg.-Tipyn. yn dawel y treuliwyd Gwyl y Grog a'r Pasg yma, a'r glowyr yn bodloni i gymeryd dim ond dydd Gwener yn ddirwnod seibiant, er mwyn bod yn ffyddlon i'w gwlad. Gwyl Bregethu Mynydd Seion, Ponkey.— Dr. Gwvlfa Roberts a B. Morris, Pont y berem, gyhoeddai'r Cymod yma, yr adeilad hardd o dan ei sang ar hyd y dydd, a chryn arddeliad ar v Genadwri y canu yn enexthiol a threfnus, a phawb yn mynd adref wedi cael eu gwala a'u gweddill o'r danteithion. Gyngerdd Prawf.-Dyna gynhelid yn y Pafiliwri yma nos Wener y Groglith, a'r rhain yn treehu unawd soprano, Miss Rose Roberts; unawd tenor, Merville Jones, Gwrecsam; unawd baritone, J. Williams, Ponciau rhai heb ennill o'r blaen, J. Jones, Ponciau her unawd,Ted Hughes, Cefn mawr; beehgyn Herbert Dodd, 2-Emlyn Evans; genethod, Hilda Wynn Davies. Cor Meibion y Dyffryn (Mr. Ben Evans). Cor cymysg ar y don Heatherdale Dyffrynwyr, dan arwemiad Mr. Ben Evans. Adroddiad i blant Hilda Wynn Davies: Adroddiad i rai mewn oed Mrs. Ellenor Jones, Rhos. Mr. Jacob Ed- wards, v Rhos, gloriannai'r canu, a Mr. J. T. Jones, B.A., Dinbych, yr adroddvvyr. Y beirniad cerddorol yn rhydd ac i bwynt; carem gyfeirio at Mr. Jones fel beirniad yr adroddiadau. Yr oedd yn amheuthun ei glywed yn rhoddi'r feirniadaeth allan a pha ryfedd ? gan ei fod yn feistr ar y gelf ei hunan, so yn gwybod beth ydyw adrodd cystal a neb. Dyma'r dynion ddylai fod yn feirniaid yn y cyfeiriadau hyn. EISTEDDFOD TAL Y BONT- sef y Tal y Bont iach a mynyddig hwnnw sydd filltir neu ddwy uwchben y Bala. Cyn- haliwyd hi ddydd Gwener y Groglith ac er gwlyped yr hin, caed cynulliadau lhosog, a'r capel helaeth yn rhy fach i gynnwys y dyrfa a heliodd tuag yno'r hwyr. Dyma'r gwyr amlwg beirniad y canu, Mr. T. T. Powell, Pen y groes, Sir Gaernarfon, am yr eil dro blynyddol; yr adrodd, Mr. J. H. Jones, Gol. Y BRYTHON, Lerpwl; beirniaid eraill y Parch. O. Ellis, Llanuwchllyn y Parch. J. O. Jones, Llandderfel; Mri. R. Rowlands, Llan- drillo R. Roberts, J. R. Jones, J. E. Hughes a D. Ll. Jones, Bala R. Evans, swyddfa'r Seren, Bala Dr. D. Peters, Bala; Ap Gwrtheyrn, y Bala Mr. J. Edwards, sur- veyor, Bala Mr. D. Edwards, Felin newydd, Bala; Mr. Aneurin Owen, B.A., Ysgol y Cyngor, Cynwyd Mrs. Williams, Tawelfan, a Mrs. R. W. Roberts, Dolafon, Bala. Cyfeil- ydd, Miss L. Pritchard (Perdones Cynfal), Ffestiniog; telynores, Miss A. C. Lloyd (Telynores Teg-id), y Bala arweinydd y ddau gyfarfod, Mr. 1. R. Jones, Llandrliio meth- odd Mr. J. J. Edwards, Llanuwchllyn, a dod i lywyddu'r prynhawn llywydd yr hwyr oedd Dr. Williams, Y.H.,C.S., y Bala; swyddogion y pwyllgor llywydd, Mr. Ll. Vaughan Humphreys, yr ysgolfeistr trysorydd, Mr. P. G. Peters, Ty nant ysgrifennydd, Mr. R. E. Roberts, Rhyd y defaid. Dyma fuddugol- ion y prynhawn :—Llawysgrifen (i rai dan 12): 1, Gwilym Edwards, Cwmtirmynach 2, R. Williams, Celyn 3, Caradog Roberts, Tal y bont. Arholiad i rai dan 10 1, Arthur Rowlands, Moelygarnedd; 2, Caradog Rob- erts, Tal y bont; 3, David Peters, Tal y bont; 4, Eirianwen Jones, Tal y bont. -Arholiad dan 12:1, Myfanwy Roberts, Cwm 2, Gwen- dolen Jones, Tal y bont 3, Annie W. Hughes Pant glas Ann E. Roberts, Cwmtirmynach, a M. E. Owen 4, J-. H Roberts, Tal y bont, a. J. E. Jones, Pant glas. Unawd i rai dan 9 1, Lizzie M. W. Jones, Celyn 2, May Ll. Evans, Moel y garnedd 2, Hannah J. Jones, Celyn. Adrodd i rai dan 6, Ymffrost Dafydd bach 1, E. Cath. Roberts, ("elyn 2, John W. Jones, eto; 3, Hannah J. Jones, eto; 4, Robert W. Jones, eto. Unawd dan 12, Biigeilio'r (hvcnith Gwyn 1-, Harriet J. Roberts, Cwmtirmynach; Robert Evans, Celyn; 3, E. Edwards, Cwmtirmynach. Unrhyw ran gyfan o'r Hohvyddoreg 1 Caradog Roberts, Tal y bont; Sallie Jones. Tal y bont; a Maggie Roberts, Llidiardau 2, Ceridwen Roberts Tal y bont; 3, Jennie Roberts, 'Tal y boiit. Ithoeld Mam 1, Janet Roberts, Llidiardau, a Blodwen Jones, Tal y bont. Sillebu i rai dan 18 1, Maggie Rob- erts a D. T. Lewis, Tal y bont 2, Ceridwen R berts, Tal y bont 3, Mair Roberts, Cwm- tirmynach. Hyfforddwr 1—3 1, Ann E. Roberts, Cwmtirmynach 2, Kate Rowlands, Tv'n y bont. Scarf weu 1, Lily Ed- wards, Celyn 2, Mair Roberts, Cwm 3, Grace A. Rowlands, Celyn. Gweithio ar ganfas 1, Annie B. Jones, Cwmtirmynach 2, Susy Edwards, Arenig. Unawd dan 16: 1 blas Grqerddan 1, May Owen, Tal y bont; 2, Kate E. Peters, eto; 3, Blodwen Hughes, Llanfor. Adrodd, dan 10 1, Lizzie M. W. Jones, Celyn 2, Trefor Ll. Evans, Moely- garnedd 3, May LI. Evans, eto. Y casgliad goreu o brennau a blodau y Beibl: 1, Annie C. Hughes, Pantglas 2, Aiice A. Jones, Tal y bont; 3, May Owen, Tal y bont. Arholiad dan 14: 1, Goronwy Owen, Moel y garnedd; 2, Ceridwen Roberts a Kate E. Peters, Tal y bont; 3, Johnny Edwards, Cwmtirmynach 4, Ann E. Evans, Alice A. Jones a May Owen, Tal y bont. Adrodd i rai dan 14: 1, Harriet J. Roberts, Cwmtirmynach 2, Johnny Ed- wards, eto 3, Kate E. Peters, Tal y bont. Canu gyda'r delyn i rai dan 16 1, Harriet J. Roberts, Cwmtirmynach; 2, Blodwen Hughes, Llanfor 3, Hannah J. Parry, Bala I 4, May Owen, Tal y bont. Cvfarfod vr Hwvr. Arholiad dan 16: 1, Maggie Roberts, Tal y bont, ac Annie C. Hughes, Pant glas 2, Kate Roberts, Tal y bont; 3, Humphrey Evans, Tal y bout, a Ceinwen ac "Anfedrus." Arholiad dan 18 1, J. H. Roberts, Moel y garnedd 2, Sarah Davies, Tal y bont. Arholiad dan 25: 1, Jennie Rowlands, Moel y garnedd 2, Ann E. Roberts, Tal y bont, a Jane E. Jones, Llidiardau. Traetlmwd dan 25: 1, Anwen Roberts, Tal y bont; 2, Ann E. Roberts, eto. Embroidered Pillow Slips: 1, Anwen Roberts, Tal y bont; 2, S. A. Thomas, eto, a Bessie Rowlands, Moel y garnedd. Triawd i rai dan 18, Gweddi Plentyn: 1, P. May Owen, Cerid- wen Roberts a Menna M. Evans, Tal y bont 2, Parti Susy Edwards, Celyn. Unawd sop- rano neu contralto 1, John D. Jones, Arenig. Canu gyda'r delyn (eyfyngedig i'r cvlch) daeth pedwar i'r llwyfan Wm. Roberts, Tal y bont, yn gyntaf. a Caradog R. Pugh, Llidiardau, yn ail. Cystadleuaeth adrodd i rai dan 18, I bias Gogerddan 1, J. J. Evans, Llidiardau 2, Lizzie Richards, Tal y bont. Adrodd yr Hyfforddwr 1, Ann E. Evans, Tal y bont; 2, Menna M. Evans, eto 3, M. E. Owen, Gwendolen Jones, eto 4, Gwladys Ellis, Tal y bont, a Mair Roberts, Cwmtir- mynach. Eto, 7-12 Kate Ellen Peters, Tal y bont. Socks 1, Mrs. Roberts, Bryn melyn 2, Mrs. Davies, Tal y bont. Traeth- awd y merched 1, Anwen Roberts, Tal y bont; 2 Lizzie Edwards, Llidiardau 3, Jane E. Jones, eto. Prif gystadleuaeth canu gyda'r tannau; chwech ar y llwyfan, a Robert Roberts, Tai'r felin, ac Ellis Jones, Trawsfynydd, yn gyfartal gyntaf. Penillion i'r Modur John Roberts, Ty'n y bont. Englynion De Wet Thos. Jones, Ty'n y bont. Prif adroddiad 1, J. Williams, Pant glas 2, H. R. Hughes, Bala. Trwsio sach 1, R. T. Jones, Cwmtirmynach. Stompar D. T. Lewis, Tal y bont. Unawd contralto neu baritone, Geisiwch yr Arglwydd: D. LI. Jones, Bala. Casgliad o hen ddywediadau 1, Annie B. Jones, Cwmtirmynach; 2, Jane E. Jones, Llidiardau, ac Anwen Roberts, Tal y bont. Deuawd agored i'r cylch 1, Anwen Roberts ac Ellen Williams, Tal y bont; 2, Susy Edwards a'i chyfeilles. Ateb cwest- iynnau ar Rebreaid 1, Anwen Roberts, Tal y bont 2, R. T. Jones, Cwmtirmynach; 3, Evan Williams, Arenig. Prif draethawd 1, John Roberts, Celyn 2, Ann E. Roberts, Tal y bont, a Jane E. Jones, Llidiardau. Parti meibion: Parti J. D. Jones, Arenig. Wythawd cymysg Parti Ellis Jones, Traws- fynydd. Y mae'r wyl hon yn ddeg ar hugain oed, ac wedi bod o fudd a bendith lawer i'r ardaloedd hyn-- BOOLE, CAERLLEON- Nos Wener y Groglith, cynhaliwyd y seith- fed cyngerdd blynyddol er budd Ysgol Sul M.C. Hoole. Cymerwyd y gadair gan Mr. Henry Jones, Albion Park, a dyma un o'r cyngherddau goreu gafwyd ers llawer o flyn- yddau. Dyma'r cantorion: Miss Marian Davies, Gwrecsam Mr. Willie Rees,Shotton a Mr. J. Wilford Roberts, Connah's Quay. i Cafodd pob un ohonynt dderbyniad cynnes, a thystiai'r encores a gafodd pob un fod y gynulleidfa luosog wrth ei bodd. Cafwyd J rhannau offerynnol hefyd, fel arfer. Gwefr- eiddiodd Mr. Sam Auckland y dorf a'i gQncertinas-y magic boxes, fel y galwodd un hwynt; a'i fedr i dynnu miwsig o'r boxes hyn yn dangos ei fod yn llawn deilyngu ei deitl o Concertina King. Cawrom wasanaeth Miss Olwen Roberts o Adwy'r clawdd, yn adrodd, —hithau mor fedrus a'r cantorion, ac yn cael ei hail alw ar ol pob adroddiad. Yr oedd ei I chlywed yn adrodd The First General Election yn toddi calon y gwrandawyr. Canodd Cor Plant Hoole, o dan arwoiniad Mr. Teasdale, yn rhagorol iawn. Mr. Harold Jones oedd y cyfeilydd medrus. Hyderwn y ca'r Ysgol yn Hoole elw da oddiwrth y cyngerdd, ac y ca'r I brodvr a'r ehwiorydd sy'n gweithio mor ddiwyd yn y rhan hon o'r ddinas galon i fyned rhagddynt gyda gwaith mor dda.—C.M. I 0 DREFFYNNON I MARWOLAETH MRS. JONES, ROSSLYN.— Cydymdeimlir yn fawr a'r Hen Plaenor diddan yn ei drallod a'i alar mawr, ym marwolaeth ei annwyl "Fali," fll'n gymaint ymgeledd a swcwr iddo am dros hanner can inlynedd. Yr oedd y ddiweddar Mrs. Jones yn feddiannol ar lawer lawer o elfennau'r wraig rinweddol,— tynerwch, caredigrwydd, ysbryd tangnefedd- us, ac argyhoeddiad tawel a dwfn o wirion- eddau mawr y byd ysbrydol. Gorffennodd ei gyrfa faith mewn hedd a hyder llawn yn ei Hanwylyd. Dodwyd ei chorff mewn bedd yrn mynwent. Seion, Carmel, ddydd Sadwrn, Ebrill iydd. Angladd preifat, y Parch. J. E. Davies, Treffynnon, yn gwasanaethu. Dy- muniad ein calon ydyw ar i Dduw fod yn nerth a noddfa i'n hen frawd a chyfaill yn ei gaba,n unig, ac yn dwr o amddiffyn gwastadol i'r holl deulu.-Cyfaill i'r teulu. 10 ROSLLANERGHRVGOG I CYNCERDD BLYNYDDOL CÔR UNDJSBOL I CAPEL MAWR Ri-ios.-Nos Fercher cyn y ddiweddaf, cafwyd cyngerdd o radd uchel yn y lie uchod, pryd y llannwyd yr adeilad eang gan gynulleidfa barchus ac astud. Dyma'r seithfed tro i'r Gymdeithas Gorawl berfformio prif weithiau, fel y dengys y rhestr ganlynol 1909, Judas Maccabwus (Handel) 1910, Messiah (Handel) 1911, Job (D. Jen- kins) 1912, Requiem Mass (Mozart) 1913, Light of Life (Elgar); 1914, Elijah (Mendel- ssohn). Y tro hwn aed c'r llwybr gyffredin, a pherfformiwyd dau waith rhagorol. Yn rhan gyntaf y cyngerdd cafwyd Minnehaha, sef yr ail ran o Hiawatha Coleridge-Taylor, a rhaid addef fod y gynulleidfa wedi ei llyncu i fyny gan mor feistrolgar y Cor. Mae'r gwaith, fel y gwyddis, wedi ei drefnu ar farddoniaeth Longfellow, ac yn cymeryd ffurf neilltuol, gan fod y trefniant yn un corawl gan mwyaf, ac felly yn naturiol mae y rhan fwyaf o'r gwaith yn gorffwys ar y Cor. Rhifent oddeutu tri chant, o leisiau yr oedd y cydasiad i'w deimlo yn rhagorol, a rhoddwyd datganiad cryno a glan o'r gwaith prydferth hwn. Canwyd yr unawdau gan Madame Emily Breare a Mr. Powell Edwards ac er mai ychydig o waith mewn cymhariaeth oedd ganddynt, rhoddas- ant foddlonrwydd cyffredinol, gan mor feistr- olgar oeddynt ill dau. Dymunaf longyfarch y Pwyllgor ar ei anturiaeth yn cyfiogi cerddorfa lawn at y cyngerdd hwn. Rhaid addef mai dyma'r unig Gymdeithas Gorawl yn y Rhos antnriodd ddigon i goel cerddorfa, y r hyn, yn ol eift barn ni, sydd yn anhebgorol i wneud y gweithiau clasurol hyn yn gyflawn. Mawr hyderwn y oyact i gymaeirnasau corawi eraiii yr araai ei efelychu, er mwyn rhoddi cyfie i'r cylch yma fwynhau cerddoriaeth yn ei gogoniant. Yn eilran y cyngerdd, perfformiwyd My Spirit was in heaviness Bach, a sicr gennym fod nodwedd y gerddoriaeth yma yn gyfryw ag a ofynnai am gryn fedr i'w feistroli. Cododd y cor a'r unawdwyr i fyny a'r amgylchiad. Cenid y cydgan agoriadol mewn arddull can- moladwy y gwahanolleisiau yn cymeryd eu rhan mewn dull meistrolgar. Mr. Evan Lewis oedd yr unawdydd tenor aeth ar ei union i serch y gynulleidfa gyda'i lais awynol. Diau fod yr unawd tenor yn y gwaith hwn yn un o'r pethau mwyaf anodd, ond dangosodd Mr. Lewis ei fod wedi llwyr feistroli ei waith yn ogystal ag yn yr unawd Rejoice, 0 my Spirit, a chafodd glap uehel. Felly yn hollol y gwnaeth Madame Breare a Mr. Powell Edwards,efe'n un o fechgyn y Rhos, meddyliwn lawer ohono. Yr oedd y ddeu- awd gan y ddeuddyn hyn yn un o pethau godidocaf y cyngerdd. Tipyn yn anffortunus ydoedd Miss Frances Jones, y contralto, wedi dioddef oddiwrth afiechyd ers rhai wyth- nosau, ac mewn gwcndid Ni wnaeth chware teg a hi ei hun. Nid oes gennyf ond canmoliaeth i'r Cor ar hyd y gwaith, ond cyrhaeddwvd coron y canu yn y cydgan diweddaf. Pe nodem y lleisiau goreu, dywedem yn ddibetrus mai'r soprano a'r bass oeddynt, yn neilltuol y diweddaf, yn cymeryd y fugue i fyny mewn modd urddasol iawn. Aeth pawb adref a'r Praise and honour yn ringio yn eu clustiau. Nid oes gennym ond llongyfarch yr arweinydd galluog, Mr. E. Emlyn Davies, F.R.C.O., ar ei ddisgyblaeth benigamp ar y Cor, yn ogystal ag ar y band' Cafwyd gwasanaeth Dr. Caradog Roberts wrth yr organ, a bu'n gaffaeliad mawr i'r gwaith. Y trefniadau yn nwylo medrus yr ysgrifenyddion, Mri. J. R. Jones a Joseph Davies, a sicr gennym iddynt lafurio'r ddiwyd cyn y gallent ddwyn y fath drefn ynglyn a'r cyngerdd. Yr elw at drysorfau y Rhyfel.— Ap A8aff.

Advertising