Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
o Big y Lleifiad
o Big y Lleifiad Sef Byd a Helynt Cymry Lerpwl. -1 Blwyddyn Anfield ] Anfonodd rhywun gopi o adroddiad. blyn- yddol eglwys M.C. A afield Road yma, a byddai'n eithaf peth gennym gael rhai'r eglwysi eraill, os byddwch cystal a'u hanfon. Bu'n flwyddyn eithriadol ei threuliau yn Airfield. canys codwyd organ ac ystafell genhadoi newydd ar gost o Y.2,666, ac ebe'r Anerchiad ar ddechreu'r adroddiad :— Gwelwn fod y swm hardd ot2,163 wedi ei dalu o'r ti,etilidu uchod yn ystod y "flwyddyn drwy roddion parod yr aelodau." Rhifai'r cymunwyr 579 ar ddiwedd 1914; at hynny, y mae yno 130 o blant, a 5 ymgeis- ydd am aelodaeth, gan ddwyn cyfanrif yr aelodau i fyny felly i 714, o'i gymharu a 639 y flwyddyn cynt. Y cyfanrif ar lyfrau Ysgol Sul Anfield Road ei hufr ydyw 420 ceir 130 ar lyfrau'r gangen ysgol yn Smith Street, yn gwneud 550 cydrhyngddynt. Y mae yma drefniant ymweliadol llawn a manwJ iawn a chyda'r fath nifer o frodyr a chwiorydd yn gwneud eu gwaith yn weddol gyson, go anodd i'r un esgouluswr lechu'n hir yng nghyffimau'r eglwys hon, a saif ymysg y rhai goreu'i llwydd a'i llewyreh ar lannau'r Mersey, a hynny, nid yn awr yn unig, ond ar hyd y blynyddau. Cyfrannodd yr aelodau 1383 III II at y weini- dogaeth, £ 143 /16 /8 am yr eisteddleoedd at y tlodion; £ 176 /1 at dry- ;E49 /7 chinefa yrEmpres8 of Ireland <^t30 j13 /6 at Gymdeithas y Groes Goeh ac y mae cyfan- swm cyfraniadau'r flwyddyn, a chynnwys y £ 2,163 /13 ,/6 a nodwyd at yr organ a'r ystafell genhadol, yn cyrraedd y swm mawr o £ 3,458/7/7. Cly'r Adroddiad gyda rhoi enw a ehyfeiriad pedwar ar bymtheg o aelodau'r eglwys a ymiijiodd A'r Fyddin. Dvra nodyn neu ddau ar Flwyddyn Anfield wrtb frasgamu drwy'i Hadroddiad. k Canwch o'r Frest. Dyma arwvddion fyrdd, wrth gerdded parciau a godre'r ddinas yma, fod y Gwanwyn wedi'n cyrraedd unwaith eto. Hawyr bach 'does fawr er pan oedd yma o'r blaen nac oes, eithr ni waeth i chwi na finnau heb gwyno a nogio,-mynd raid i ganlyn cenlli'r blyn- yddoedd sy'n cludo dyn mor chwyrn a chyf- lym. tua'r mor a elwir inarwolaeth," clnvedl Cyiiddehv, er mai dim ond hanner y gwir a ddywed y llinell honno, canys y mae'r un llef yn ein cludo hefyd tua'r dorian las a elwir Atgyfodiad sydd ar y lan bellaf draw i'r mor mawr a dwfn hwnnw. Y mae swn y Gwan- wyn i'w glywed Yng nghyntaf-—yn ffresni'r awyr, sy mor hyfryd- i'w synhwyro rliagor petrol ffiaidd dyn. Yn ail—Yn y glesni sy'n carpedu meysydd yr hen ddaear mor sweet rhagor oilcloth dyn. Yn drydydd—Yn nhinc newydd yr adar sy'n twitian yn y coed, ac sy'n bwrlymu'u profiad mor bersain oddiar bob gwrych a brigyn. Ac yn canu heb yr un copi, ben- dith arnynt canys pwy welodd yr un Fwvalchen Bigfelen na Cheiliog Bronfraith smotiog yn dal rhyw goflaid o briciau pys y Solffa neu'r Hen Nodiant o'i flaen wrth salmio'i foliant a'i ddiolchgarwch i'r Brenin Mawr am ei bry' genwair ? Twt a chwi, gantorion y ddaear, canwch o'r frest, yr un fath a chor y wig k, CystwyorCybydd Wrth ddirwyn ei thymor gaeaf i ben y nos o'r blaen, cynhygiodd un o Gymdeithasau JJenyddol Glannau Mersey yma wobi- am yr araith oreu a,r Y Cybydd. Cystadlodd pym- theg, a phob un yn lluchio cymaint o bethau crafog ag a fedrai at y dyhiryn anghynes hwn-nw,sef pethau tebyg i'r rhain :— Ei fod o yn gado i'w winedd dyfu fodfedd yn hwy nag ewinedd pobl eraill, er mmyn medru crafangu gymaint a hynny'n well. Ei fod o mor hoff o'r hen ddaear yma nes cadw llawer ohoni dan ei ewinedd budron. Fod ei wane anniwall wedi magu rhyw olwg mor farus ac ellyllig arno, nes fod yr angylion yn cadw draw oddiwrtho rhag maeddu'u hadain a mynd yr un fath a fo. Fod ei siwt yn wastad yn seimlyd na dim ond un botwm yn dal yr hen gleiriach carp- iog wrth ei gilydd. Fod ei lygad, wrth basic bane, yn debyg i lygad barcud neu gudyll coch pan ddis- gynno hwnnw ar aderyn blasus. Mai hanfod crefydd ydyw rhoi, ond mai hanfod cybydd ydyw cael. Am y cwbl y mae pob cybydd," ebe un o feirdd y Gymdeithas. Mai da yw ennhildeb, ond mai dieflig yw cybydd-dod. Ac megis mai o yfwyr cymedrol y ceir meddwon, felly o bobl grintachlyd o gynnil y ceir cybyddion ac os mynnech gael taw ar ddyn tafodrydd, gofynnwch iddo ddweyd ymhle y mae cynhildeb yn darfod a chybydd-dod yn dechreu,—cneuen na thyr o byth mo'i phlisgyn. Fod gan bawb ei hoff-emyn, ac mai hon oedd hoff-emyn y Cybydd :— Am yr aur rhaid ymorol, Heb yr aur bydd pawb ar ol. Yr englynodd un o'r beirdd i'r Cybydd, os byth y'i gollyngid i Baradwys mewn camgymeriad yn y crowd, na chodai byth mo'i bell. oddiar balmant heolydd aur y Nef. Ac fod Goronwy Owen wedi rhybuddio'r Diafol rhag ei ollwng i fewn i'w le yntau. Can stwffwl cist uffern" rhagddo, ebe Bardd Mon mor goeglyd. Yn olaf, teimlid mai'r ddau englyn a ganlyn fyddai oreu eu rhoi ar garreg ei fedd Abert,ha oes i borthi'i wane,—geilw Golud yn nydd ei oerdranc Pe cai, 'e fwriai'i fawrwanc Arian y byd i'r un banc.Alafon. Moli hen aur melynwedd—wna'r Cyby dd, 'Reibiwr cibawg, Ihvydwedd Trwy'i wane, a'i grafanc ryfedd, Deil ei bwrs hyd ael y bedd.—Trebor Mai Dyna ddigon o'i gystwyo am heddvw. Rhy hen i ddweyd ødnod. I Pur ychydig o blant ein heglwysi, unwaith y'u derbynnir i'r Cymundeb ac yn gyflawn aelodau, eiff byth wedyn gyda'r lleilli'r llawr i ddweyd eu hadnod yn y seiat. Y maent yn ormod o bobl bellach, a pheth i blantos yw peth felly, debygant hwy. Ond clywais am un eneth-tua'r ugain oed yma, sy'n ddawnus tuhwnt ar adrodd a chanu, ac wedi ei geni a'i magu ar Lannau'r Mersey yma-ddeil i fynd lawr gyda'r gweddill bob Saboth, ac a ddywed ei hadnod heb ystyried fod neb yn medru mynd yn rhy hen a chlyfar i wneud peth felly. A'i chlywed hi'n dweyd yr adnod mor groyw a dilediaith nes gyrru ei meddwl a'i neges i galon y gynulleidi'a,yw un o wleddoedd seiadau'r eglwys fach honno. Naw wfft i'r plantos hynny aeth yn ormod o bobl i ddy- wedyd eu hadnod yn y soiat. G. •S2 Brenhines y Cymdelthasau. I Cymdeithas y Beiblau ydyw honno ac mewn cyfeisteddfod o Gangen Gymreig Lerpwl nos Fawrth yr wytlmol ddiweddaf, hysbysodd y trysorydd (Mr. Owen Evans) fod dwy rodd arbennig wedi dod i law yn I ychwanegol at gasgliadau'r capeli, sef I (1) £ 50 oddiwrth foneddwr oedd yn aelod yn eglwys M.C. Princes Road, ac a ddewisai gadw'i enw yn gudd. I (2) Cymunrodd o £ 100 tan ewyllys y 1 ddiweddar Mrs. Margt. Edwards, Pembroke Road, Bootle. Anfonir y gymunrodd ganpunt yn ei chryn- swtli i'r Fam Gymdeithas, a chyda hi rodd arall o dri chant o bunnau. Hysbysodd yr ysgrifennydd (Mr. Arthur Venmore) fod y Gangen wedi dosbarthu dros chwe chan' copi o Destamentau Khaki i'r bechgvn a ymunodd a'r Fyddin o eglwysi Cymreig Lerpwl a'r cylch, ar draul o tua E25 i'r gangen. Hyn ac Arall. Llithrodd gwall trwstan ond doniol i'r rhifyn diweddaf, sef yn hanes cyfarfod cystadleuol eglwys M.C. Princes Road Can disian ddylasai fod, ac nid can ddisain. Sut yr oedd modd i neb glywed peth felly, dwedweh ? Dyma blic bach a ddanfonwyd yma o bregeth y Parch. J. Puleston Jones, M.A., ym mhulpud Princes Road nos Sul ddiweddaf, sef o Bregeth y Tair Gweledigaeth oddiar Dat. v, 5-7 1, y Llyfr 2, y Llew 3, Yr Oen: — Mi wn i mai gwerinfa fawr ydym ni heddyw, ac nid oes neb balchach o hynny na fi; ond y mae arnomeisif-u.Breniii. Llew i agor y llyfr,—Rhywun digon cryf i 1 ddofi yr amydd sydd ynnom am wneud I ein ffordd ein hunain." 3k Ein cymydog Pedr Hir a gyfarchai Gymro- dorion Port Talbot nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf, sef ar Owen Glyn Dwr. Ap Nataan, nai'r Archdderwydd Dyfed, yn y gadair, ac amryw o lenorion Cwm Afan yn siarad ar y diwedd. Y mae'r darlithydd wedi ymchwil mor llwyr ag odid i neb i hanes ein Prif Cymro, wedi ail ysgrifennu ei ddrama boblogaidd ar y testyn, ac ar fedr ei chyhoeddi i'w chwarae. Bu un o Gymry mwyaf hawddgar a, chref- yddol Lerpwl farw ddydd Mawrth yr wythnos hon, yn 11 Strathmore Road, set Mr. Henry Parry, brodor o Fethesda oedd yn y ddinas ers llawer o flynyddoedd, oedd yn drigain oed, yn flaenor yn eglwys Newsham Park or y flwyddyn 1895, a fu'n llywydd Undeb Ysgol- ion Methodistiaid y cylch, ac oedd yn wr a gerid gan bawb a'i hadwaenai. Daw gair pellach amdano gyda hanes ei angladd yn ein rhifyn nesaf. Cleddir yn Anfield dydd Sadwrn am dau. !8.. I DAU TU lp R AfON. TE PARTI PLA.NT RAMILIES ROAD.—Nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf, daeth plant yr Ysgol uchod yngiiyd yn gryno i fwynhau eu te parti blynyddol a ddarparwyd eleni gan Mrs. Jenkins a Mrs. Backhouse, a nifer o chwiorydd eraill yn eu cynorthwyo. Ar ol i'r plant gael eu digoni, cynhaliwyd cyfarfod amrywiaethol dan lywyddiaeth Mr. David Williams, a rhoes anerchiad fel arolygwr, yn taflu golwg yn ol ar d flwyddyn. Y plant fu'n cymryd rhan oedd Nansi Mary Davies, 5 oed, yn' canu unawd Glyn Jones a Miss Hannah Evans yn canu deuawd; Emlyn Hughes yn canu penhillion a rhoes Mr. T. C. Davies adroddiadau hwyliog. Clifford Rob- erts oedd y goreu am ail-adrodd hanesyn, Harold Hughes yn ail, a Peter Jones yn drydydd. Am ganu unawd Gwennie Will- iams oedd yr oreu, Glyn Jones yn ail, a Gwladys Hughes, Mabel Jones, a Nellie Jones yn gydradd drydydd. Rhoddodd v cor plant hefyd ddatganiad o Lwli Bye yn fedrus iawn. Diolchwyd gan Mri. T. J. Griffiths a Harry Williams, i'r chwiorydd am ofalu am y te, a'r arolygwr am ei ffyddlondeb, ac i'r rhai canlynol am eu llafur gyda'r plant ar hyd y tymor Miss Lizzie Hughes, Miss Lily Owen, Miss M. Hudson Owen, a Mr. R. J. Jones, fu'n weithgar a ffyddlon ryfeddol, ac a roisant dair noson o bob wythnos am fisoedd i hyfforddi a dysgu'r plant yng ngwahanol adrannau r gwaith. Bu agos i mi anghofio dweyd am yr hwyl a gafwyd gyda'r caneuon ystuin--vr action songs-gan y genethod Misses Gwennie Williams, Lalla Roberts, Gwyneth Jones, Lydia Jones, Mable a Nellie Jones. Cafwyd dadl fuddiol ac addysgiadol hefyd mewn Cymraeg croew gan Mabel a Nellie Jones. Gresyn gweled cyn lleied o bobl mewn oed yn bresennol (ac eithrio'r mamau), gan y buasent drwy eu presenoldeb yn dangos eu cefnogaeth i'r plant yn eu cyfarfod terfvnol fel hyn, ac i weled. ffrwyth llafur yr ychydig ffyddloniaid fu mor ymdrechgar a diwyd gyda'r plant ar hyd misoedd y gaeaf.— Dylasem fod wedi crybwyll yr wythnos ddi- weddaf, pan gyda'r cyngerdd, i Miss Annie Davies a Mr. Griff Owen gael hwyl dda ar y deuawdau, ac yn garedig iawn rhoddodd Miss Davies unawd gysegredig yn y gwasan- aeth yn Webster Road v nos Saboth dilynol. —T.J. 6. MA.JOR OWEN HERBERT WILLIAMS.— Llawenydd mawr i ni ydyw detbll am ddyrch- afiad y Cymro a'r meddyg ieuanc Dr. Owen Herbert Williams i fod yn major, ac hefyd yn acting etaff officer y West Lancashire.a. Mon- wyson ydyw'r meddyg, fel ami un o feddygon enwocaf Lerpwl o'i fiaen, unig fab Mrs. Williams, Bodrwnsiwn, Llanfaelog. Cyn myned i Edinbro yr oedd yrn Meaumaris, dan Mr. Madog Jones, ac y mae ef a meddyg ieuanc addawol arall o Fon, Alun Rowlands, Bryngwran, registrar St. Bartholomew, Llun- dain, yn blu disglair yn het Mr. Madog Jones. Mae Mr. Herbert Williams ers peth amser yn gweithredu fel surgeon y Mill Road Infirmary, ac hefyd fel assistant surgeon yn y Southern, yn ogystal ag fel demonstrator mewn anatomy yn y Brifysgol. Yr oedd newydd osod ei blat ar ddrws y ty lie bu'r annwyl Ddr. O. T. Williams yn Rodney Street pan dorrodd y rhyfel allan. Ac yn awr, newydd droi ei ddeg ar hugain, ar ol gwasanaethu fel capten am dymor, mae wedi cyrraedd ei majority yn y fyddin. Fe gaiff Golygydd y BRYTHON, os ewyllysia—ac os gall—Gymreigeiddio y geiriau sy'n disgsifio cyraeddiadau'r Major mewn gwahanol gylchoedd. Y rheswm ein bod ni yn mynd i'r drafferth o ysgrifennu gair amdano ydyw ei fod yr hyn oil y mae'r geiriau anghyfiaith a ddefnyddir yn ei ddynodi, a'i fod hefyd yn wr ieuanc mor annwyl, dysyml a diymhongar, fel yr ydym yn llawenychu yn ei ddyrchafiad, ac yn faleh ohono ac o'r gwasanaeth pwysig a gyfiawna yn yr argyfwng presennol. Yn Blackpool y mae ar hyn o bryd. Nid oes llawer o Gymry yno, ond y mae y Major a swyddog Cymreig arall sydd yno-Lieut. Jones, un o aelodau Princes Road-wedi gofalu am gadw Dygwyl Ddewi ac hefyd sicrhau mor bell ag y gellir wasanaeth crefyddol Cymraeg i'n milwyr sydd I yn Blackpool. -R,. R,. fl. LAIRD STRFET.-Nom Fercher ddiweddaf perfformiwyd Cantata yr Adar gan blant y Gobeithlu, o dan arweiniad Mr. Llew. Wynne Williams, yn cael eu cynorthwyo gan Mri. Elias Jones, Alun Thomas, R. Llewelyn Jones, Gough Williams, Mrs. W. Edwards, Mr. Evan Evans, ac eraill. Diolchwyd gan y Parch. T. J. Rowlands, M.A.,B.D., Mri. J. Morgan a W. Edwards. Cywilyddus o deneu oedd y cynhulliad, ac yn dangos diffyg cefnogaeth i'r rhai fu'n llafurio gyda'r plant. Rhoddwyd llyfrau i'r plant am gasglu at y Genhadaeth Dramor. Gwasanaethwyd wrth y berdoneg gan Mrs. Owen, Gorwyl.-R.J.G. EG IN CHATHAM STREKT.—Cynhaliwyd cyngcrdd Gobeithlu Eglwys Chatham Street nos Fercher ddiweddaf Mr. T. Lloyd Jones yn y gadair, a Mr. J. Claude Lewis yn ysgrif- ennydd. Y eynhulliad yn un pur luosog, a'r rhaglen fel y canlyn :—Cydgan, Gweithiwn dros yr Iesu; adroddiad, Grandpapa's Spectacles, Enid Hughes; unawd, Awn yn unfrydol, Dilys Pritchard adroddiad, The Cow, Glyn Pritchard deuawd ar y piano, Dance of the Shadows, Enid Hughes a Nina Hughes; adroddiad, My Dollies, Gwyneth Davies (gyda chymeradwyaeth uchel); ad- roddiad, The Violet, David Roberts deuawd, Y L.li, Nesta Roberts a M. Pritchard; adroddiad, TKe Telephone, Gwyneth Jones adroddiad, Cymro yn darganfod yr America, H. Thomas; unawd, Gwnewch bopeth yn Gymraeg, Tommy Ll. Jones, mewn hwyl ac arddull iawn adroddiad, The Angel, Irene Price can ystum, Morwyr Bach adrodd- iad, Y Tragwyddol Dad, Gwyneth Thomas can ystum, The Little- Soldiers; unawd, Your King and Country need you, Nina Hughes adroddiad, My Cat, Jennie Jones cydgan, Cofia ddweyd y gwir. Anerchiad y cadeirydd. Rhannu arian v banc, gan y Parch. R. R. Hughes, B.A.; adroddiad, Such grace to m'ine be given, Ethel Roberts can ystum, Little Mothers adroddiad, Trust in God, Ivor Jones; adroddiad, Y Wialen Fedw, Osborne Hughes can, Dim ond deilen, Buddug Lewis (rhagorol) adroddiad, Ym- gom Plentyn, Lily Jones adroddiad, Some- body's Grandpapa, Ewart Davies (arddeliad neilltuol) unawd, Gwcw Fach, Gwyneth Lloyd Jones adroddiad, Nant y Mynydd, Tommy Lloyd Jones unawd, Y mae'r Iesu'n galw, Olwen Pritchard adroddiad, March- ing to Germany, Leslie Price; adroddiad, Wind in the Frolic, Glyn Price drama, Tyf- iant Stori, Misses G. a B. Lloyd Jones, B. Lewis, a M. a D. Pritchard adroddiad, Bod yn blentyn Iesu, Tommy Jones; cydgan, Galon Lan. Hen Wlad fy Nhadau. God Save the King. CYMDEITHAS CYMRU FYDD „ ANFIELD. The above Society is to be congratulated on the dramatic talent evidently possessed by several of its members. The evening of the 16th March was in the capable hands of Mrs. H. E. Jones, and by her kind exertions we were favoured with two comedic per- formances of a very meritorious order., The first was a duologue entitled A fair encounter, in which the characters were very efficiently sustained by Mrs. H. E. Jones and Miss Margaret Williams, both revealing a nice appreciation of the humour of the situations involved. This was followed by a mirth- provoking farce, litrn him out, played with a briskness and finish which did all infinite credit, by the Misses Nellie Roberts, and Dora Williams, Messrs. E. A. Cox, Russell Ed- wards, H. E. Jones and R. Noel Sellars. Mrs. Moreton Parry presided gracefully, and on the proposition of Mrs. Cernyw Jones and Mrs. Hugh Lloyd, a cordial vote of thanks was accorded to all. It is gratifying to know that the same company repeated their per- formance before a battalion of the Bantams in Birkenhead with evident appreciation.— On the 23rd, under the presidency of the Rev. O. L. Roberts, an admirable illustrated lecture on Lakeland was delivered by Mr. Trevor Whittaker, the lantern, as usual, being in the safe hands of Mr. Russell Edwards. The lecturer's vivid word-painting of the scenes exhibited, together with his evident close acquaintance with and admiration for the poets and literary celebrities associated with them,—such as Wordsworth, Southey, De Quincey, and Coleridge—made the dis- course an intellectual delight, A hearty vote of thankii was accorded to the lecturer, chairman and lanternist, on the proposition of Dr. Chas. Edwards and Mr. Oswald Roberts. Dygwyd y tymor gaeaf eleni i derfyn mewn modd hapus drwy gynnal ymgomwest a chyngerdd. Trwy garedigrwydd y Misses Jones, Bedford Street, eafwyd rhaglen beni- gamp, Dyma'r datgeiniaid Misses Dora Jones, E. Utley, y Mri. Edward Davies, Dan Williams, a'r Cymric Party, dan arweiniad Mr. R. Vaughan Jones, gyda Mr. Frank Cresswell, L.R.A.M., fel crythor, a Mr. T. J. O. Jones, F.R.C.O., L.R.A.M., fel cyfeilydd ac unawdwr celfydd ar y berdoneg. Hefyd, daeth Mr. Russell Edwards i'r amlwg am y tro cyntaf fel adroddwr gydag anrhydedd. John Ellis, Ysw., a lywyddai. Cafodd y rhaglen gymeradwyaeth diamheuol, a hyfryd clywed y caneuon Cymraeg yn cael y fath dderbyniad. Terfynwyd yn yr hwyliau goreu yn yr ystafell uwchben, yng nghwmni'r cwpan sydd yn llonni heb feddwi. Diolch i foneddigesau y Gymdeithas, yn arbennig felly y Misses Euronwy Jones a Nora Ed- wards. Diolchwyd i bawb ar gynhygiad Mri. Harold Hughes a J. C. Thomas. Rhaid cyf- addef y bu'r tymor eleni mor llwyddiannus ag erioed, er yr holl anawsterau. Un peth yn nnig y dymunem wneud sylw anffafriol arno ydyw y lie cefn a roddir i Gymry a'r Gymraeg ynddi. Y mae argoel am bethau gwell yn y cyfeiriad yma y tymor nesaf, os caiff yr ysgrif- ennydd nweydd, Mr. H. R. Hughes, roddi ei fwriad mewn grym. Y MEIBIOW TN LLE'R TADAU.—Yn Edge Lane (M.C.) y Saboth diweddaf, pregethodd Mr. T. Alun Williams, Talysarn (mab y Parch. W. Williams). Bachgen ieuanc 25 oed dymunol dros ben ydyw, ac argoela fod yn bregethwr da, Y mae ganddo flwyddyn eto yn y Bala. Efe yw y degfed i godi yn eglwys Talysarn y diweddar Barch. D. Lloyd Jones oedd y cyntaf, yn 1860.
Y GOLOFN GANli.
Y GOLOFN GANli. Cymanfa Ganu M.C. Lerpwl a'r I Cyffiniau. I [GAN G.W.H.] I CYNHALIWYD hon yn y Sun Hall, 1101 Lun, f Mawrth 29ain; o dan arweiniad y cerddor galluog o'r Deheudir, Mr, T. Hopkin Evans, Mus.Bac., Castell Nedd. Blaenorid y Gerdd- orfa gan Mr. R. W. Jones, ac yr oedd Miss Gwladya Pritchard wrth y piano, a Mr. J. H. Roberts, Mus.Bac., wrth yr organ. Llyw- yddwyd yn ddeheig gan Mr. Wm. Patton. Dechreuwyd y moddion gan y Parch. G. W. Griffith, B.A.,B.D., Sylwodd y llywydd, yn ei anerchiad budd. iol, fod gan y canu ddylanwad ar rannau eraill y moddion, a dylid gwneud pob ymdrech i ymdaflu iddo. Ystyriai y dylai arweinyddion gael pob cefnogaeth gyda'r gwaith pwysig hwn a sylwai fod rhai, er yn meddu gallu, yn rhoi ond ychydig o help. Cyfeiriodd yn barchus at y diweddar annwyl Mr. Harry Evans, a arweiniai y Gymanfa ddiweddaf, a, sylwai ddarfod i'r Gymanfa honno gyrraedd y pwynt uchaf. Fel Mr. Harry Evans y llynedd, apeliai yr fcrweinydd at y gynulleidfa ar y dechreu i ymatal rhag curo dwylo, ond dweyd Amen os mynnent, gan gofio mai cyfarfod crefyddol ydoedd, a bod y lie gysegrediced am yr adeg a phe byddent mewn addoTdy, oherwydd "lie y mae dau neu dri," etc. Cauwyd San Remo, Heatherdale (Dr. Car- adog Roberts), Ystwyth, Whitford, Gopsai, Gwylfa (y diweddar D. Lloyd Evans), Berlin, Dominus Begit Me, Penlan, Bremen, Mawlgan (J. H. Roberts), chant, Fy enaid, bendithia; yr anthem.au Llana, 0 Arglwydd (Crotch) a Jior hawddgar (Dr. Parry), ynghyda'r cydgan Be not afraid (Mendelssohn). Cafwyd cymanfa ragorol a bendithiol eto eleni. Yr oedd y lleisiau'n dda, a'r canu'n gyffredinol o safon uchel, a rhai tonau'n ardderchog. Canwyd amryw gan yr holl gynulleidfa, megis San Remo, Heatherdale, Gopsal a Penlan ac oherwydd ei maint, nid oedd yr amser gyda rhai ohonynt yn rhyw ystwyth iawn. Yr oedd y canu'n nerthol iawn, modd bynnag, gan gynulleidfa mor fawr, ac fe aeth rhai o'r tonau hyn yn rhag- orol, megis Heatherdale a Penlan. Cafwyd canu gwir ragorol ar Whitford, Gwylfa, Bre- men, a Dominu8 Begit Me. Trinid Gwylfa yn brvdferth. Tlws hefyd oedd Berlin, gyda'i mynegiant amrywiol, a plnvyntiau gwerthfawr fawr. Datganiad swynol gafwyd o d6n hyfryd Dykes (Dominus Regit Me), yr ail bennill yn cael darlleniad hynod feddylgar. Yr oedd Bremen yn gampus, a thriniaeth ar yr emyn yn ddiddorol. Diau fod Mr. J. H. Roberts wedi ei foddhau yn y datganiad byw a hyfryd o'i Fawlgan. Cafwyd hwyl neilltuol gyda Whitford, a phethau gwerthfawr yn y darlleniad o'r emyn. Sylweddolwyd y difrif- weh angenrheidiol yn nechreu'r ail bennill. Canwyd y chant yn dda, a chystal ag y clyw- yd chants mewn cymanfaoedd blaenorol. Y mae angen llawer o ymarferiad gyda'r rhain i gael ystwythter, unoliaeth a mynd pri- odol arnynt, a diau fod llawer yn canu na chawsant ond ychydig ymarferiad ar y chant ddwbl hon. Yr oedd y cydsymud yn ddi- ffygiol, a'r effaith yn gymysglyd gydag ambell adnod ond yn sicr, ar y cyfan, aeth y chant yn hynod dda. Yr oedd yr anthem Llona, 0 Arglwydd, yn brydferth iawn, a gwir deim- ladwy. Cafwyd datganiad tra chanmoladwy o Mor hawddgar,—y symudiad cyntaf oedd fwyaf effeithiol. Hwn yn gryno a thlws odiaeth. Yn y triawd canai'r contralto yn ardderchog, a'r llais hwn oedd fwyaf gafael- gar. Tueddai rhai o'r tenors i lusgo'r amser mewn mannau, ac yr oedd y bass yn eisiau weithiau mewn gloewder sain ac eglurder ynganiad, Amlwg fod lliaws heb feistroli'r fugue, oherwydd nodweddid rhannau oboni gan ansicrwydd. Ond ar y cyfan, aeth yn lied effeithiol. Gyda chydgan anodd fel Be not afraid, ni ddisgwylir i ddatganiad cymanfa ganu gyrraedd safon uchel c6r disgybledig, am resymau amlwg ac heb fanylu, ond sylwi fod rhai o'r leads yn weiniaid ac ansicr, a'r sopranos yn colli mewn nerth ya yr ail symudiad (y mwyaf anodd o gryn lawer, wrth gwrs), gellir dweyd fod y cydgan wedi myned yn dda ac effeithiol ar y cyfan, y* enwedig y symudiad cyntaf a'r diweddaf Gweithiai'r contraltos eu rhan brydferth neilltuol hwy yn y symudiad diweddaf y ardderchog, a chanai'r holl gor y rhan hox y. rymus iawn. Rhoddodd y gerddorfa gynnorthwv gwerth- fawr, ac y mae clod yn ddyledus i Mr. R. W. Jones. Dangosodd Miss Pritchard a lb. Roberts eu medr arferol, ac yr oedd eu gwas- anaeth yn effeithiol iawn. Yr oedd y Proff. Levi, Aberystwyth, ym bresennol, a chafwyd anerchiad byr, rhagorol, ganddo, yn ei ddull bywiog a diddorol. Fel Cymro pybyr, anogai'r dorf i gadw'r iaith Gymraeg mewn dinas fel Lerpwl. Mawi fwynhai'r canu, a theimlai ddiddordeb yn yr emyn Fel, fel yr wyf (seiliedig ar Just a# I a in), oherwydd yr oedd yn adnabod yr awdur yn dda. Tybiai y byddai'n ddiddorol i'r gynulleidfa glywed mai ar y Dardanelles (cyfeiriwyd at hyn yn Y BRYTHON diweddaf) yr vsgrifennwyd y geiriau. Gwyddai llawer mai at ei dad, yr Hybarch Thomas Levi (cyn- olygydd enwog Trysorfa y Plant) y cyfeiriai. Cyfeiriodd yr arweinydd yn dyner a pharchus at y diweddar Mr. Harry Evans, gan sylwi ein bod fel cenedl yn galaru ar ol cerddoir rhyfeddol o alluog, ac mai ar y llwyfan hon yng nghymanfa'r llynedd yr ymddangosodd yn gyhoeddus am y tro diweddaf. Ar ddy- muniad yr arweinydd, canodd y dorf 0 fryniau Caersalem ar Crugybar (ton a hoffid gan Mr. Harry Evans), er parch i goffadwr- iaeth y diweddar gerddor annwyl. Canwyd y don gyda nerth a hwyl. Ni chafwyd yr Amen yn y gymanfa hon, a gallwn ddychmygu clywed rhai cyfeill- ion gorselog drosti yn gofyn mewn llais toddedig, Pa le mae'r Amen ? Gwnaeth yr arweinydd ei waith yn or chest- ol. Yr oedd ganddo feistrolaeth Iwyr ar y cantorion, y gerddorfa, a'r gynulleidfa, ae arweiniai gyda brwdfrydedd a hwyl, gan ddangos fod ganddo lygad i weled a chalon i deimlo. Medd gymwysterau uchel y gwir arweinydd, a thyn y goreu allan o'r tonau a':r emynau. Cafodd ef ei hun hefyd fwynhad a boddhad yn y Gymanfa. Hyfryd oedd gan ysgrifennydd y nodiadau hyn gyfarfod Mr. Hopkin Evans unwaith eto, a'i groesawu i Lerpwl. Dygid atgofion melys iddo o ychydig ddyddiau hapus a dreuliasai yng Nghastell Nedd flynyddoedd yn ol, pan fawr fwynhaodd gymdeithas y eerddoj mwyn a medrus. Terfynwyd y Gymanfa drwy weddi gan y Parch. T. J. Rowlands, M.A.,B.D. Yr oedd y cynhulliad yn un o'r rhai mwyaf a welwyd erioed yug Nghymanfa'r Sun Hall. yr hyn a brawf fod yr wyl yn parhau yn ei phoblogrwydd a'i bias. Y mae clod yn ddyledus i Mr. William Parry, ysgrifennydd galluog a ffyddlawn y Gymanfa, am ei ym- I drechion diflino i'w gwneud yn llwyddiant mor fawr.
I Ffetan y Gol.
I Ffetan y Gol. I Birkenbead Easter Eisteddfod, 1914 I To the Editor of Y BRYTHON DEAR SIR.-With respect to the letter of Messrs. Hughes and Evans I should be pleased to know how they reconcile two statements they make. The surplus money they hold, being public money, could in no way be utilised unless public consent were obtained. Yet at the close of their letter they state that, as far as they are concerned, the shares of the surplus they have received will be forwarded to the funds of the National Eisteddfod. Who authorises them to do this.? If the majority on the committee of the Easter Eisteddfod have not the power (as Messrs. Hughes and Evans state) to say how the money is to be used, how can they, being in the minority, so decide to forward theirs to anywhere they please ? They ought, it appears to me, to apply the "public consent" argument to their own case. Being a business enterprise, was it public money after all ? If these two gentlemen were not in favour of receiving any of the funds, they ought, it appears to me. to have returned their shares with reasons to the Secretary, who forwarded it to them.— Yours faithfully, LOOKER ON.
Family Notices
GENI. MORGAN.—Mawrth 31, yn Islwyn, Llandrin. dod Wells, i R. M. Morgan, M. A., a Mrs- Morgan, B.A. (nee H. Lloyd Jones), mab. PRIODI. ROBERTS-JONES.—Ebrill 5ed, yn Jerusalem, Cerrig y drudion, gan y Parch. J. Morgan Jones, Mr. William Roberts, J14 Brailsford Road, Manchester, a Miss Emily Jones, Tanrhiw, Cefnbrith. MARW. EVANs.-Mawrth 28ain, yn ei thrigfod, Pres. wylfod, Wreesam, Elizabeth, gweddw y diweddar William Evans, Ysw., Tyfry, Mon, ac wyres y Parch. John Elias, o Fon, yn 81 mlwydd ced. WILLIAMS.—Ebrill 1, William James, unig blentyn Mr. a Mrs. William Williams, Bryn dedwydd, Cefnbrith, Cerrig y drudion, yn flwydd a phedwar mis oed. EF. COF, RICHARDS.—Er Serchus Gof am- fv annwvl briod David, yr hwn a ymadawodd a'r fuchedd hon trwy ddamwain ar y s.s. Cedric, Ebrill Sfed, 1914, Cofion hiraethus ei wraig a'i blant, A. Richards, 203 Fonthill Road.