Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Christmas Sale of Watches SELF-EXPANDING, POCKET AND WRISTLET WATCHES. SALE TIME.—Special Offers during Sale. High-grade Watches, by eminent makers, I os. geving in every £ ■ Every watch cleaned, tested, and timed,and warranted for a period of years. Also a grand display of Self- Expanding Watch Bracelets, and Strap Watches, with plain and luminous dials, now effered at SALE PRICES, forming suitable XMAS and NEW YEAR GIFTS. Goods stored free until required. SALE PRICE LIST POST HiKK. DAVIESS, 30 LOW HILL (Via Old Swan or West Derby Oars). Davies's Sale 26/12/6 USUALLY £ 14 Russell's English Gold Hunter GENT'S HIGH-GRADE PERFECT KEY- LESS LEVER HUNTER, by THOS. RUSSELL and SON, noted makers to Royal- ty, Ohurch Street, Liverpool, British manu- facture throughout 16 JEWELS, i -plate, chronometer balance, non-magnetic, fully jewelled Brequet Spiral Overcoil Spring, adjusted to temperatures and positions KEEPS GREENWICH TIME, mounted in strong, heavy SOLID GOLD Government Stamped and Hall-marked Cases (all through) without mark or scratch makers' and our GUARANTEE FOR 25 YE ARS new this year (proof) also Solid !Gold Gent's WAL- THAM ,c "RIVERSIDE" HUNTER; sale, £ 10* 16s., usual ICIS; dead gun timist warranted 25 years new 6 months ago. Approval, month's trial. HIGH-GRADE WATCHES—HALF USUAL. Davies's Sale, 13/19/6 USUALLY £8. Russell's Gold Expending Watch Bracelet. HIGH-CLASS PERFECT LEVER, LAT- BST SOLID GOLD WATCH-BRACELET patent SELF-EXPANDING, Hall-marked throughout, by those famous makers, THOS. RUSSELL and SON, Church Street, Liver- pool, makers to Royalty 15 RUBIES, chronometer Balance, Brequet Spring, Patent Keyless, and latest improvements KEEPS PERFECT TIME; warranted by makers and ourselves 25 years. New last vear (proof) approval. Others by noted makers at £ 2/7/6, £2 114 ¡, 13 /16 1-, Also Benson's, Londo. i. Watch Bracelet; sale usually £10. Also Russell's Ditto, fA 115 and £ 5/IS /— gun-timists. Sale Price, 16/11 Silver & Gold Strap Watches LADY'S STERLING SILVER, high-grade, full-jewelled Strap Wristlet, ACCURATE TIMIST. Also Gent's full "size Sterling Silver, bold dial, sale 21 ditto, superior, with LUMINOUS DIAL, SALE 27 /6 also Lady's SOLID GOLD Strap Wristlet Watch, fullv jewelled, sale 27 /6, 30/ and '35/ Also Solid Gold High-grade Russell and Sons, Chu reh Street, Liverpool, Strap Wristlet, sale £ 2 /12 Also Russell Gent's Gold Wrist- let, seb £ 2/1716, usually £ 5 /5 Also Gent's Solid Gold WALTHAM Lever Wristlet, dead gun timist, sale price £ 4/7 /6, usually Every Watch guaranteed. SALE PHICES RELIABLE WRISTLET WATCHES. Davies's Sale, e 1/16/6 WORTH £ 5. Gent's Waltham Rolled Gold Hunter. World-famed 10-carat Rolled Gold KEYLESS WALTHAM" HUNTING LEVER, timed to a few seconds per month rbuy jewelled, brequetispring, timed to positions and temperatures parent keyless and latest improvements warranted 20 years perfect ia all detail. Also ditto by Lancashire Watch Co., Prescot; now 29/6. Also ditto Elgin Hunter, 32/6. Ditto, Russell and Son, 36/6. Also 6-guinea Rolled Gold Chronograph Key- less Hunter, by Thos. Russell and Son, Church Street, Liverpool; now £2 114/6. Approval. Deposit secures. Free storage.—DAVIES'S, 30 LOW HILL. DAVIES'S FOR ACCURACY AND PRECISION. Davies's Sale, 1/15/ USUALLY Russell's Silver Keyless Hunter. QUITE NEW THIS YEAR, GENT'S HEAVY HIGH GRADE, THOROUGHLY RELIABLE KEYLESS SOLID SILVER HUNTING LEVER, by RUSSELL and SON, Church Street, Liverpool; new 1915 (proof), plain Sterling Silver damp and dust proof cases, indestructible crystal glass. CHRONOMETER BALANCE, BREQUET SPRING, NON-MAGNETIC, patent key- less, and latest improvements without mark or scratch; PERFECT TIMEKEEPER; month's trial. Cash refunded if not as repres- ented. Approval. Stored free. Guarant. eed 20 years. Month's trial. DAVIES'S GUARANTEE EVERY WATCH 22 Ct. Wedding Rings. LUCKY GUINEA GOLD, GOVERN- MENT HALL-MARKED, INCLUDING HALF-A-DOZEN TEASPOONS, AT 45/ DiVIES'S, 30 LOW HILL. CARD FREE.
o Big y Lleifiad.
o Big y Lleifiad. Llawlyfr ar y Gwyrthiau ychydig sydd a law anfonweh ar fyrdcr. Gwel td. 8. Dyma'r pill oedd ar gerdyn gwadd y milwyr i Gyngerdd Croeso diwcddaf Bankhall :— Y dyn pwysicaf fedd ein gwlad Yw'r milwr dewr ar faes y gad, Rhown iddo barch a bri; Nid dysgu ieithoedd yw ei rym, Ond handlo cledd a'r bidog llym, I gadw'n bywyd ni. MWY. 0 GOD-POWER A LLAl 0 HORSE PO WER.—Mewn pregetli ragorol ar un o adnodau Habacuc, ym mhulpud Laird Street, Birkenhead, bore Sul diweddaf, sylwai y Parch. O. Lloyd Jones, M.A.,B.D., fod inawr son y dyddiau hyn am Dreadnoughts a super-Dreadnoughts ac fod hon yn 18.000 ho-rse-power a'r llallyh 20,000 hor'-e-power ac yn y blaen load mai eisiau mwy o God-power sydd ar y byd a'r eglwys mwy o hynny yn ein gweddiau a'n holl fywyd hwnmv'n unig ddawa, heddweh iawn ac a ddeil. Y DRY OH A'J WE LED YDD. —Dy ma fel yr ysgrifenna Huwco Penmaen ng nghol- ofn Gymraeg N Rhyl Record and AdtWTÛseryr wythnos ddiweddaf Os nad yw'n darllenwyr wedi gweled y "BRYTHON am yr wythnos ddiweddaf. mynnweh ei gael a darllenweh Trwy'r "Dryeh,' lie y ceir trem Pedrog ar yr "hen flwyddyn, ac yn bennaf rhawd v Rhyfel. Y mae wedi dilyn symudiadau vr Armagedon o wythnos i wythnos er pan dorrodd allan, ac nid oeddym yn gweled dim gwell ar y mater yn ein hiaith. Mae'r bardd yn sylwedydd craff, yn meddu barn aeddfed, a thraetha ei farn yn bwyllog mewn Cymraeg firain." CYFRINIWR MAWR Y CYMRY.— Testyn darlith y Parch. D. Tecwyji Evans, B.A., gerbron y Gymdeithas Genedlaethol nos yfory, sef nos Wener, fydd Morgan Llwyd o Wynedd. Y mae gwahoddiad taer a chynnes i bawb ddod yno, aelodau o'r Gymdeithas neu beidio ond vmoroled pawb, hyd y gallo, ddod mewn pryd erbyn chwarter i wyth, yn lie llusgo yno fesur un ac un, a chadw'r drws i wichian ar ei echel pan fo'r pethau goreu yn cael eu dweyd. Y mae cyfoeth y testyn a safon y darlithydd yn warant am. wledd; ac ni ddywedwyd mo'r cwbt o lawer eto am Gvfriniwr mawr v Cymry. UN 0 BLANT YR UWD RFlYNION. —Cwrddais fy hen gyfaill Henry Jones, Beech Road, Birkenhead, heddyw'r bore, ary ffordd i'r Clwyd yma un o Fedyddwvr yr Wood- lands ac un o blant Sir Fon sydd -tr Ittiiiit,,u'r Mersey ere ugeiniau o flynyddoedd, ac sy'n tynma at oedran yr addewid Ysgrythyrol. ond mor hoyw'i gorff a'i galon a.g ami i bendrist hannercant. India Rubber "di'chdeurrlldd chi, deydwch ? "ebwn i. Taw a'th goegni, 'r gwaleh," ebr yntau. Rhaid ei fod wedi disgyn o dylwyth yr uwd rliyiiioii-N- peth goreu'n y byd am osod mer a rhuddin ym mhawb. A chofier hynny gan silod y te a'r deisen. Aeth yn son am yr oed a'r flwyddyn newydd; ac ebr yntau :— ''Fel hyn y byddent yn son am oed yn y wlad pan oeddwn i yn hogyn Faint ydi'cli oed chi ? Wei, mi fvddaf yn hyn a, hyn y cyneua. gwair nosa, neu'r Wylfabsant nesa, neu'r Wyl Fihajigel nesa' Ac yn y blaen. Y mae wedi digio'n bwt wrth Mr. Lloyd George am droi o du'r Coitsgrip- siwn atgas, ac yn darogan mai Chamberlain yr ail fydd ei ddiwedd o," sef deckreu'n eilun y bobl a dibennu'n eilun y bendefigaeth. Yr oedd ei sylw yn f'atgoffa o'r hyn a ddywedodd patriarch arall yng Ngwrecsam y mis o'r blaen un sydd wedi hanner addoli'r gwr o Griccieth ar hyd ei oes :— Gwybod y mae o fod Evan Jones, Caer- narfon, wedi marw ne fasa to byth yn meiddio closio at liaid Arglwydd North clifte yna, na rhedeg ar ol eu Jac lantarn dwyllodrus i Gars Gorfodaeth." Sut bynnag am hynny, hir oes i Henry Jones a gresyn na fuasai pawb o blant Mon wedi byw'r un fa,th nes medru camu mor gyflym a'r bachgen pedwar ugain o Beach Road. Dyma fel y can Creigfab (y Parch. T. J. Williams, Rock Ferry) y dyddiau liyll. SWJl y rhyfel fawr yn Iwrop Glywir heddyw dan y nen, Ni ddaw heddwch i deymasu Heb gydnabod Duw yn ben Ymostyngwch, Dyma la is y rhyfel hon. TUAG A T Y PUMCANT. Dyimi ragor o danysgrifiadau a dderbyniwyd at y pum cant o bunnau a gesglir at y motor ambidance y bwriedir ei chyflwyno dros Gymry'r cyloh i'r Fyddin •— Mr. W. O. Roberts. 10 0 0 Mr. John Frimston 3 3 0 Mr. T. Humphreys-Jones 2 2 0 Mr. R. Williams-Jones 2 2 0 Mr. W. D, Hughes 2 2 0 Mr. C. O. Hughes g 2 0 Mr. Evan Moirg an 2 2 0 Aid. O. K. Jones 1 ) 0 Mr. Hugh Lloyd 1 ] 0 Mrs. Edward Roberts.1 1 Q Mr. G. H. Edwards. i i o Mr. R. E. Hughes l ] 0 Mr. David Jones, Cremlyn 1 0 0 Y Parch. John Owen 0 10 6 Mrs. Lydia Jones 0 2 6 0 2 6 Hefyd. heliodd plant eglwys Wesleaidd Trihity Road, Bootle, £ 1-5-6—casgliad campus o'i maint; a phe gwnelai plant yr holl eglwysi'n gyfatebol, buan y cesglid eu cant hwy o'r pumcant. Y mae cryn bellter eto rhyngom a chyrraedd y swin gofynnol; ac a gawn ni ymroi o ddifrif, pawb yn ol ei allu, i fynnu cadw enw da'n cydgenedl yn y ddinas drwy estyn bendith mor angenrheidiol i'r clwyfedigion ar v maes ?.
DAU T U"R AfON.1
DAU T U"R AfON.1 Gwelir oddiwrth yr hysbysiad y cynhelir Gwyl Bregethu flynyddol Canning Street nos Sadwrn a'r Sul nesaf y Parchn. T. Idwal Jones, y Rhos, a J. Vernon Lewis, Park Road, yn efengylwyr a dau gampus ydynt, dau a thipyn o rym a graen ar eu cenadwri. Nos Lun bydd yr Idwal dawnus a hyawdl yn tra ddodi ei ddarlith boblogaidd ar Y Pregcthwr a'r Gxorandawr. Dengys hysbysiad mewn colofn arall y daw Mr. Wilfrid Jones, Gwrecsam, i Lerpwi bob wythnos i ddvsgu cerddoriaetli. Li.wyddiant Cerddorol.—Da gennym gofnodi, llwyddiant un o ddisgyblion Miss M. Williams, A.M.I.C., 20 Whitiand Road, sef Miss Phyllis Edwards, 12 Phillimore Road, yn arholiad diweddaf y Musical Inter- national College, Llundain, wedi pasio yn y first class yn y Junior Division. Birkenhead.—Nos lau, yn Parkfield, caed Cymundeb i'r tair eglwys Fethodistaidd. Darllenwvd a gweddiwyd gan y Parch. W. M. Jones. Arwciniwyd gan y Parch.- W. O. Jones, a cliaed anerchiad cyn cvfranogi gan y Parch. T. J. Rowlands, M.A.,B.D. Caed noson dawel a bendithiol. Y llynedd y cych- wvnwyd, a daw felly yn sefydliad blynyddol, fel anvydd o deimladau da rhwng y fam a'r ddwy ferch.—R.J.G. Martin's Lane, Liscakd.—Mewn eyng. erdd yn y lie uchod nos Ia.u ddiweddaf, cyf lwynwyd time piece hardd a phar o vases aria-n i Mr. John Williams, Wernfa, Liscard Road, ar achlysur ei briodas a Miss Evans o'r Wern, Ceredigion, a. nith Mr. Aaron Evans, Liscard Road. Yr ysgoldy'n orlawn o bobl a phlant awyddus iawn i anrhydeddu un sydd wedi bod mor wasanaethgar a nodedig o lwyddiannus fel arweinydd y Gobeitlilu, ac arweinvdd v ganynyr Ysgol Sul. Cvflwynwyd yr anreg- ion gan y Parch. T. Price Davies, njewn araith fywiog ac yn llawn humour datganodd ein dyled i Mr. Williams am ei lafur diflino gyda'r plant am nifer o flynyddoedd, a sylwodd ar y ffaith galonogol fod Undeb Gobeithluoedd Lerpwl a'r cyffiniau wedi datgan eu gwerth- fawrogiad o'i dalent a'i fedr cerddorol trwy ei ddewis i arwain y gymanfa y llynedd yn Great Mersey Street a'r farn gyffredinol ydoedd ei fod wedi cyflawni ei ran yn ardderchog, ac Illai dyna'r gymanfa oreu a 11 ?,fa?rc h gawsom ers 11awer blwyddyn. Llongyfarch- odd ef hefyd am auturio i fyd nad yw ef ei hun wedi anturio iddo etc rhoddodd groeso cynnes yn enw'r eglwys i Mrs. Williams i'n plith, gan fawr obeithio y cai'r cldau fywyd llawn o ddedwyddwch a defnyddioldeb. Diolchodd y ddau niewji areithiau cynnes a theimladwy am y geiriau caredig ac am yr anrhegion. Cafwyd areithiau gwresog gan y Mri. E. Griffiths, J. Hughes, A. T. Evans ac E. H. Roberts. Cafwyd cyngerdd rliagorol gan aelodau'r Gobeithlu, a'r plant i gyd wedi cael te lawn cyn hynny .-—E.H.R.
Nodion Trwyddedol.
Nodion Trwyddedol. [GAN PLENYDDj I Llawlyfr ar y Gwyrthiau rhaid ei fod yn dda, gweinidogion y gwahanol enwadau a chlerigwyr yn ei ganmol, a'i brvnu, Gwel td. 8. RHAID i gyfarfod blynyddoly Trwyddedu gael ei gynnal o fewn y 14eg dydd cyntaf o fis Chwefroj, ac unrhyw ohiriad sydd raid ei gynnal o fewn mis i'r Cyfarfod Blynyddol. Gellir cael hysbysrwydd o'r amser yng Ngorsaf yr Heddgeidwaid neu yn Swyddfa Clerc yr Ynadon. Nid oes hawl- gan unrhyw ynad a fo'n ddarllawr, yn ddistyllydd, yn fragwr, neu yn fan werthwr (retailer) diod feddwol i weithredu mewn llysoedd trwyddedol os bydd ei fasnach o fewn i'r dosbartli-xieu o fewn dosbarth ar y terfyn. Mae cyfranddaliwr (shareholder) mewn cwmnl darllaw hefyd yn anghymwys. Nid oef eisiau unrhyw rybudd pan wrth- wynebir trwydded newydd, ond bydd yn briodol hysbysu clerc yr vnadon. Ond pan yr eir o gwmpas gwrthwynebu adnewyddiad trwydded gofyxma'r gyfraith saith niwrnod o rybudd clir, hynny yw. saith niwrnod heb- law'r dydd y gweinyddir y rhybudd a'r dydd y gwrandewir yr achos, i'r apelydd am y drwydded. Rhaid i'r rhybudd fod yn ysgrifenedig, ac yn cynnwys mewn termau cyffredinol y seiliau i'r gwrthwynebiad. Yma dylid bod yn. dra gofalus nad eir ymlaen lieb y rhesym- au mwyaf clir a'r tystiolaethau a'r tystion cadarnaf. Gall sel ambell waith droi i'w dinistr ei hunan. Mae pob methiant yn y Llys Ynadol, yn emvedig mewn gwendid profion, yn fwy o niwed i ddirwest na pheidio ag ymddangos i wrthwynebu. Y gyfraith yw, fod yn rhaid i'r un a fo'n apelio am drwydded newydd roddi 21 diwrnod o rybudd o'i fwriad i overseers y tlodion ac i arolygydd yr heddgeidwaid, ac o fewn wyth niwrnod ar hugain cyn Sesiwn y Trwyddedau, ac am ddau] Sul yn ddilynol rhwng 10 y bore a, 5 y prynhawn, rhaid iddo roddi rhyb- udd o'i fwriad i apelio am drwydded ar y ty a fwriada. i hynny, a'r un modd ar ddrws vr eglwys neu'r addoldai, Rhaid iddo hefyd hysbysu ei fwriad yn y newyddiadur lleol heb fod dros bedair na than ddwy wythnos cyn gwneud yr apel. Ac mae methij yn un o'r pwyntiau hyn yn gwneud yr apel yn ofer. Mae deiseb yn erbyn caniatau trwydded wedi ei Uawnodi gan feddianwyr neu sy'n dal eiddo yn y cyleh yn beth a ddylai feddu dylanwad ar weithrediad y faine. Dylid gofyn yn arbennig i weinidogion eghvysig ac Ymneilltuol, ac aelodau byrddau cyhoeddus, arwyddnodi'r ddeiseb. Byddai cyfarfod oy. hoeddus i wAhdystio yn fanteisiol, a chopiau o'r penderfyniadau i'w hanfon i gadei^ydd y fainc. Hefyd, byddai cyfarfod yn yr awyr ago red ar y spot y bwriedir y drwydded yn werthfawr, a chynllun i gasglu pleidleisiau yn | erbyn, a hynny cyn i'r blaid loleb gael y blaen. Er nad yn anhebgor llogi cyfreithiwr, eto llawer mwy diogel yw gwneud, a gofalu am y goreuon, a thalu iddynt yn anrhydeddus canys natur ddynol yw cyfreithiwr, ac mae anrhydedd yn helpu cydwybodolrwydd ac egni. I wrthwynebu "adnewyddu." rhaid wrth gyfreithiwr, caiiys mor fuan ag y dealla'r tafarnwyr y bydd gwrthwynebiad, cyflogir y gallu mwyaf medrus, a thelir yn dda iddynt am wasanaeth. Mae'n nesaf i amhosibl i ddyn eyffredin fedru sejyll ei dir er iddo feddu cydwybod i Dduw ond medd twrne'r bir o'r ochr arall ben i ddynion, a drain a drysni'r Gyfraith y fath fel mai gwr a botasau pres raid ga.el i rodio drwyddynt. Da fvddai i ddirwestwyr lenwi'r llvsoedd, ac nid fel eu gwelir yn fYlych-yr fwynebau rhuddgoch, a'r colofnau eiddil a nieinion a'u cynhahant. Hwyrach mai dyma olwg ddif- rifolaf y Llys Gvvladol—cynulleidfa o hunan- leiddiaid—o'r hyn lleiaf yn ymddangos felly. Na adawer i'r llysoedd fod heb rai gweinidog- ion yr Efengyl a diwvgwyr cyrncjeithasol a-mlwg i weled a gwylio'r gweithrediadau.
Gyda'r Milwyr Cymreig yo ffrainc.
Gyda'r Milwyr Cymreig yo ffrainc. [Gas Y Parch. R. PERIS WILLIAMS. G NA-li FCSAM,,] O'm pabell yn un o wersylloedd y FyddinBry' deinig rywle yn Ffrainc," ar gwr un o goed- wigoedd mwyaf y wInd hon, yr wyf yn ysgrif- en.uu ychydig ynghvlch y gwaith ynglyn a'r "deyrnas nad yw o'r byd hwn ymhlith y milwyr Cymreig sydd yn swn y rhyfel. Rhaid i mi fod yn ofalus beth a ddywedaf, oblegid cyforwyddir ni i beidio ag ysgrifennu dim all fod o fudd a mantais i'r gelyn, a gorchymynnir i ni beidio a rhoddi enw'r gwahanol gatrodau, na mynegi dim ynglyn a'r syiiiudiadau--o ba le y deuant, nac i ba ley rant. Er pan laniais yma rai wvthnosau'n oil bum mewn dinas- oedd, trefi a phentrefi, a. gwelais a chlywais bethau a lynant yn fy nghof tra byddaf byw. Darllenais lawer ynghylch rhai o'r lleoedd er dechreu y l'hyfel, ond erbyn hyn fy llygaid a ganfu y difrod a wnaed arnynt. Bum yn aros ym mhencadlys y Fyddin Brydeinig yn Ffrainc, ac yna yn symudol o fan i fan am beth amser. O'r diwedd, cyrhaeddais y lie yr wyf ynddo yn awr. Nid oes yma na thref na phentrefi, ac y mae rhai milltiroedd rhyngom a'r dref agosaf. Gofalaeth Fugeiliol.—Cynhwysa'm gofal- aeth fugeiliol "ddwsin o wahanol wersylloedd lie y daw cannoedd lawer o filwyr ar eu ffordd i'r firing line," a'r lie y dychwela rhai ohon- ynt am seibiant ar ol bod trwy'r tan. Cyn- hwysa hefyd tua deuddeg o ysbytai, lie y mae rhai cannoedd o filwyr clwyfedig neu glaf- Disgwylir imi fugeilio y milwyr Cymreig perthynol i'r gwahanol enwadau yn y gwer- sylloedd a'r ysbytai hyn. Er pan ddeuthum yma, bum yn ymddiddan ag ugeiniau o'r bechgyn. Un peth sydd wedi fy synnu yw, fod cynnifer o Gymry yn y catrodau Seisnig —llawer ohonynt wedi ymuno cyn bod son am y Fyddin Gymreig. Nid oes amheuaeth, pe gellid cael rliostr gyliawn o'r Cymry sydd mewn catrodau heblaw y catrodau Cymreig, na cheid fod cyfartaledd pur uchel o Gymry wedi ymrestru. Digon anodd vn fvnych vdvw dyfod o hyd i'r Cymry. Wedi cael gafael ar Gymro bydd hwnnw, fel rheol, yn gwybod aan bob Cymro arall yn yr un gatrawd ag ef, a thrwy ddyfod o hyd i un, rai troeon, yr ydym wedi cael agoriad i drefedigaeth o Gymry mewn pebyll yn agos i'w gilydd. Mewn pebyll y mae'r holl filwyr sydd yn y gwersyll- oedd hyn. Diddorol iawn ydyw yr, hyn a fynegir gan ami un o'r milwyr wrth oleu cannwyll ar ganhwyllbren o gaead bocs sigarets, yn y babell gyda'r nos, Odfeuon.—Bydd gennym ar y Saboth ddwy oedfa Saesneg a dwy oedfa Gymraeg, ac Ysgol Sul yn y prynhawn, a chynhelir cyfar- fodydd amrywiaethol a chyngherddau llwydd. iannus bob nos trwy'r wythnos. Cawsom rai odfeuon a'r eneriiad yn amlwg iawn arnynt mewn ambell oedfa profasom yr un peth ag a deimlasom yng Nghymru yn ystod y Diwyg- iad, a'r bechgjm a'u gruddiau'n wlybion gan ddagrau wrth ganu rhai o hen emynau annwyl Cymru. Bore dydd Nadolig cawsom Gymun. deb ac yn sicr, yr oedd yr eneiniad yn amlwg ar y gwasanaeth. Dywedai rhai o'r bechgvn ar y diwedd y cofient byth am y Cymundeb hwn. Ymhen ychydig ddyddiau yr oedd amryw ohonynt yn y firing line. Cawsom Gymundeb arall y nos Saboth cyntaf o'r flwyddyn newydd, gan fod nifer o'r milwyr wedi methu dyfod fore Nadolig, a defnynnodd arnom y nefol wlith yn y Cymundeb hwn hefyd. Ar ddiwedd un o'r odfeuon daeth bacligeii o un o ardaloedd gwledig Sir Ddin- bych atom, a dywedodd ei fod wedi disgwyl llawer am gaplan yn medrii Cymraeg, oher- wydd nas gallai ddweyd ei feddwl wrth gaplan Seisnig. Bu'r bachgen hwn trwy'r tan. Daethai allan ym mis Tachwedd, 1914. Yr haf diweddaf bu farw ei fain a chafodd fvnd adref i'w chladdu, ond cyrhaeddodd yn rhy hwyr i fod yn bresennol yn y cynhebtwng. Dywedodd fod yr adnodau a'r emynau a ddysgodd ei fam a'i nain iddo yn gysur mawr i'w feddwl pan yn y ffosydd, ac fod y cyng- horion a gafodd gartref gan ei. ieni a'i athraw- on yn dod yn fyw iawn i'w gof pan yn swn y frwydr. Magwyd ef yn yr eglwys, ond pan aeth oddicartref crwydrodd o'r gorlan mynegodd ei awydd i ddod yn ol, a gofynnodd a oedd yn bosibl iddo gael ei dderbyn yn aelod y noswaith honno, gan ei fod yn debyg o fynd i'r firing line un o'r dyddiau nesaf. Wylai'n hidl wrth adrodd ei deimlad. Gwahoddais ef gyda mi i'm pabell, ac yno rhoddais iddo ddeheulaw cymdeithas a derbyniwyd ef yn aelod o eglwys lesu Grist. Penliniodd yn fy ymyl; penlitiiais innau, a gofynnais am fen- dith Pen yr Eglwys ar waith v bachgen hwn yn rhoi ei hun yn gwbl Iddo. Amlygodd awydd am gael Testament Cymraeg (yr oedd ganddo Destament Saesneg), a da oedd gennyf gael rhoddi copi iddo. Ysgrifennais at weinidog yr eglwys lie y magwyd ef i ofyn i'r frawdoliaeth yn ei hen ardal roddi ei enw ar lyfr yr eglwys. Yr Y sbytai.- Yn yr ysbytai yr ydym yn ceisio cysuro'r cleifion a'r clwyfedigion. Llonna'r Cymry pan gyferchir hwy yn iaith "hen wlad ein tadau." Ambell brynhawn, pan af i ysbyty, bydd yno rai o'r clwyfedigion yn paratoi, ac yn cael eu paratoi, i fynd tros- odd i Loegr ceir amryw yn eistedd wedi ym- wisgo a label wedi ei rwymo wrth fotwm eu siaced, yn edrych yn llon; a chyn gofyn ohonom iddynt, dywedant eu bod yn disgwyl y motor tambula,)tcci'w cli-ido i'r orsaf agosaf i gyfarfod cerbydres y Groes Goch, neu i'r Hospital Boat i groesi i Brydain. 'Rwy'n mynd adre heddyw Gwnaed popeth ellid yn yr ysbytai, ac hefyd yn y gwersylloedd, i beri fod y 25ain o Ragfyr mor debyg ag y gellid i Nadolig yr hen wlad. Y dyddiau 1 cyn yr wvl, pan ymweem a'r ysbytai, yr oed</ y nurses a bechgyn y R.A.M.C. a phob un o'r clwyfedigion a'r cleifion oedd yn abl, wrthi'a. I addurno'r parwydydd, ac ochrau'r pebyll, a. dail bvtholwyrdd a phapurau lliw. ond nid anodd oedd canfod fod ar ami i fachgen hit, aeth am gartref. Ceir cyngherddau yn aclilysurol yn yr ysbytai a'r gwersvlloedd, Daw rhai o gantorion goreu Llundain drosodd j. ganu. Gyda chwmni fu vma'r wvthnos ddiweddaf, yr oedd Mr. Madoc Davies, a bu raid iddo ail ganu, a chanu wedi hynnv, ar 01 canu Cymru annwyl, gwlad y delyn." Canodd yn gampus, nes codi hiraeth arnom am Gymru annwyl. Bedd y Milwr.-—Bore dydd Calan, yr oedd- wn yn inynd heibio i fynwent lie y claddwyd cryn nifer o filwyr a syrthiodd yn y brwydrau. Daeth ton o brudd-der fdrosof wrtli fynd i mewn trwy'r fynedfa. Ceirbeddauyiiiilwyr Prydeinig ar y 11aw dde wedi mynd trw?r porth ac ar y Haw chwith. ceir beddau milwyr Ffrainc. Ar fan fechan bedd pob un ohonynt y mae croes o bren, ac ar y pren croes y mae enw'r ymadawedig, a'r gatrawd v per- thynai Jiddi, ynghyda dydd ei farwolaeth. wedi ei baentio. Ar ychydig o'r beddau, ceir beddfaen. Y bore hwnnw, yr oedd dau fach- gen yn gwneud trefn ar feddau rhai o'u cyfeills ion. Ceir llwch anirvw Gvmrj- yn y fynwent hon. Ar dwmpath o gerrig ynghanol y fynr went, ceir baner ein gwlad, ynghyda baneri'r gwledydd sydd yn ymladd gyda ni, vn cvhwf- an yn yr awel. Pr FJosydd.—Prynhawn ddoe, bum yn hebrwng, am tua phum milltir o ffordd, nifer o'r milwyr Cymreig ar eu ffordd i'r ffosydd. Yr oeddynt yn mynd yn galonnog iawn, ac yn canu yn y glaw wrth orymdeithio tan eu batch* Yr hyji a'm gofidiai oedd fod amryw ohonynt heb Destament Cymraeg, ac y mae'r stoc oedd gennyf o Destamentau Cymraeg wedi gorffen, Onid oes ymhlith fy narllenwyr gvfeillion. parod i ddanfon rhai Pan yn Northamptoa y llynedd, ac wedihynny vng Ngholwvn Bay a Chaer Wynt, derbyniais rai cannoedd 0 Destamentau Cymraeg a Saesneg a chysuron i r milwyr. Mae'r Lly wodraeth yn gofalu am yr hyn sydd "anhehgorol angenrheidiol. 1 ond dylid cael rhai pethau dros ben hvnnv. Mawr werthfawrogid yr hyn a ddanfonwyd o'r blaen. Derbyniol iawn, yn wir mwy der- byniol, gan fod pethau o'r fath yn brinnach yma, fvddai rhoddion o lyfrau "diddorol i'r bechgvn yn yr ysbytai, a chvsuron o bob math i'r milwyr yn y gwersylloedd. Gellir danfoa. parseli heb fod yn drwm trwy'r llythyrdy ond os yn rhy drwm i ddod gvda'r post, gellir eu eyfeirio i mi,Core of the Military For- warding Ofifcer, Southampton. Gofaler am bacio mewn bocs, a thalu'r cludiad gyda'r t-ren i Southampton. Rhodder gyda'r cyfeiriadj For the Troops,' a danfonex llvthyr i'm hysbysu fod parsel ar y ffordd. Cellir eyfeirio llythyrau i mi i No 2 Territorial Base Camp, British Expeditionary Force, France. Parhewch i weddio drosom. Ol-Nodiad.—Bydd yn bleser gennyf ym, holi ynghylch beehgyn yn v gwahanol vsbvtai, ar dderbyniad llvthvr. Os na fvdd v sawl yr ymholir yn ei gylch yn y rhan o'r wlad lie yr wyf, danfonaf at un o'r caplaniaid yn y man. lie bo'r clwyfedig neu'r claf.
Advertising
Mr. WILFRID JONES, ARAM.. TEACHER Of SINGING, Begs to announce that he visits Liverpool weekly. For terms apply to- Masiri. RUSHWORTH & IDREAPER", blington, or Brynmeirion, Wrexham, Dwy Action Song Cymreig Da. Y MILWYR BYCHAIN (The Little Soldiers). Y MAMAU BYCHAIM (The Little Nurses). Gan Pedr Alaw. TONIC SOLFFA, 2g. yr un Drwy'r post, 2ie. HEN NODIANT, 6ch. yr un. Drwy'r post, 6 c. Cystai a'r goreu a gwell na llawer aøhMddit yn Saesneg, Cyhoeddedig yn SWI-ddfalr- Brj thon," 356,358 Stanley Rd., Liverpool. J. HUGHES — Tailor,— 20 Oxton Rd 2 Price St. BIRKENHE*Dv^y{atfjes» f £ > costumes i AvF From 50/ 55/ 63/- Perfect Fitting Guaranteed. RING UP 157,. FOR PATTERNS*