Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

O'r De Draw.

ILlith Glannau'r Afan. I

I Ein Cenedl ym Manceinion.

IAm Lyfr.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I Am Lyfr. Heb fympwy wrth feio, Na gweniaith wrth ganmol, COF I ANT WATCYN WYN (Gydadar luniau). Gan y Parch. Penar Griffiths' Pentre, Abertawe. Caerdydd argraffwyd gan yr Educational Publishing Co., Ltd.—Un o'r Cymry mwyaf hawdcigar a fu erioed oedd Watcyn Wyn a rhyw gwhvm serch di- ddatod rhyngddo a phawb a gafodd y fraint a'r hyfrydwch o'iradnabod. Lie bynnag y cwrddoch ag un o'i hen efrydwyr yng Nghwm- aman, neu a rhai o lenorion a gorseddogion yr Eisteddfod, geiriau hoffter ac anwyldeb di- ragrith amdano a gewch bob amser ac yr oedd cyhoeddi hanes ei waith alchrynhodeb o'i feddyliau, a'i sylwadau ffraeth a chyrhaedd- gar, yn gymwynas fawr a'r genedl. Cafodd Penar destyn cofiant cyfoethog a diddorol uwchlaw'r eyffredin, ae ymddengys i ni iddo gyflawni'r gorchwyl a ymddiriedwyd iddo gyda medr a llwyddia«t teilwng, ac fod y naws a'r gwlith oedd ar yshryd y bardd a'r pregeth- wr wedi eu cadw i'r genhedlaeth a ddel. Dyma i chwi enw'r penodau Ei Fyd a'i Fro Ei Eni a'i Febyd y Bachgen a'r Dyn Ieuanc Newid Byd Hogi'r Cryman Cystadlu a Breuddwydio Yr Ysgolfeistr Heulwen ac Awel; Llwyfan ei Phulpud Y Golygydd a'r Lienor; y Bardd yr Emynydd yr Orsedd a'r Delyn Chware Awen Trwy Ddellt y Bardd a'i Ardal y Bardd Gartref. Hefyd, ceir ei ddarlith ar Mynydd- og ei anerchiad ar Y paratoad goreu ar gyfer y Weinidogaeth: a phedair o'i bregethau. Cyfrol lan, chwaethus, a rhyw ddigrifwch a swyn trwyadl Gymreig ar bob tudal. Cawn ddyfyhnu ambell ddam maes o law, i ddangos deunydd y fath ddiddanwch ae adeiladaeth sydd yn y Cofiant. Os oes rhyw lyfr a barai i'n milwyr angliofio'u gofid yn eu heldrin a'u halltudiaeth, dyma fo, heb os nae onibai.

Advertising