Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Drwodd a Thro.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Drwodd a Thro. Lloyd Georges vw enw r milwvr yn y rhyfel ar y shells mwyaf a ollyngant y dvddiau hyn at y gelyn. Bu'r Parch. John Williams, M.A., ficer Llanwddyn, farw Chwefrol y laf, ac a gleddid no ddydd Gwener diweddaf. Ficer Hengoed yn gweinyddu, a chynryehiolwyr o Gorffor- aeth Lorpwl yn brcsennol. Yr oedd Mr. Williams yn ficer y Llan adeg troi'r lle'n llyn at gael diod i filiwn trigolion Lerpwl. 4- A dyna beth trist a welodd ef ac eraill yr adeg honno, sef gweld ami i ffarmwr a thy- ddynwr yn dihoeni a marw cyn ei amser wrth gael eu troi o'u tyddyn i wneud He i'r Ilyn. Hid oes neb ar y ddaear all hiraethu mor ddw??s a'r Cymro am ei hen gartref. Hwd- iwch Geiriog yn dyst, canys dyma ddau o'i nawpennill i'r??l?oedd gerdrws eihen gartref :— Mae nant yn rhedeg ar ei hynt I ardd fy nghartref i, Lie cod odd un o'm teidiau gynt Ddisgynfa iddi hi Mae helyg melyn uwch y fan Lie syrthia dros y dibyn ban, A choed afalau ar y lan, Yn edrych ar y Hi'. o dan ddisgynfa'r dwr mae llyn A throsto bont o bren, A charreg fawr, fel marmor gwyn, Gynhalia'r bont uwch ben Fe mebyd dreuliais uwch y lli'. Yn eistedd yno arni hi, A mwy na brenin oeddwn i Pan ar fy Ngharreg Wen. -.0- 31 o dafarnati sydd yii nl-xref Ftlint; ac ychydig yn llai, os yr un, fu'r meddwi yncldynt y flwyddyn ddiweddaf, yn 01 yr ystadegau a gafwyd yn llys y trwyddedau ddydd Mercher diweddaf. 4- Mewn cyfarfod o Gyd-Bwyllgor Heddgeid. wadol Sir Fflint, a gynhaliwyd yn yr Wydd- grug yr un diwrnod, tystiai Dr. Williams y buasai estyn y ddeddf newydd parth cau'r tafarnau yn fendith o'r fwyaf i'r sir. -< Agorid ysgol elfennol newydd ym Mhorth Aethwv ddydd Mercher diweddaf, a thrwy haelioni mawr teulu Treborth y cafwyd hi. Cyiranmodd Mri. J. R. a H. R. Davies hym- theg cant a hanner o bunnau at y pum mil, cyfanswm y gost. Cafwyd anerchiadau gan y Prifathro Harris, Coleg Normalaidd Ban- gor; Mr. Hugh Thomas (is-gadeirydd y Pwyllgor Addysg), a'r Parch. John Williams, Brynsiencyn. A egyr ysgol a gau garchar, ebe'r hen air. A hi'n rhedeg i ddal motor-bus Pwllheli fore dydd. Mercher diweddaf, syrthiodd Mrs. Roberts, Ty'n yr Onnen, Fourcrosses, yn farw ar y ffardd.. Y mae edefyn ein heinioes mor fain a bran nes na wiw i neb ohonom dros drigain oed roi plwc rhy sydyn arno. Hefyd, cwympodd John Griffith, melinydd dog a thrigain oed, oddiar ei feic wrth olwyno o Aberdaron i Nanhoron, ac a fu farw ymhen ychydig funudau o'r briw oedd ar ei ben. Golchwyd eorff llongwr i'r lan yn ymyl Aber- ,claron, ac i bob golwg wedi boddi ers talm o amser.  Y mae arddangosfa Cymdeithas Amaeth- yddol Siroedd Dinbych a Fflint wedi cael ei rhoddi heibio eleni eto. Bydd hwn y trydydd tro iddi gael ei hoedi. 0 Mewn cwest ar gorff Maurice Pryce, Aber- rhiw, ger Trallwng, yr wythnos ddiweddaf, tyatiwyd y cafwyd ei gorff yn yr afon gyferbyn ¡ a'r Talbot Hotel, lie y buasai'r noson cynt yn yfed. Dywedid ym Mbwyllgor Heddlu Sir Fflint fod y Prif Gwnstabl. Ifor Davies wedi cynhilo yn ol wyth gan punt yn y flwyddyn drwy ei ffordd ddeheig a chydwybodol o gyfleu'r heddgeidwaid. Yn llys trwyddedol Pwllheli, ddydd Mer- cller diwoddaf, hysbyswyd fod Syr Hugh Ellis Wanney, gwr y Gwynfryn, wedi penderfynu eau tafarn y Belle Vue, Llanystumdwy a'i ;:00 ef fel perchennog, a'r Hall fel tenant, wedi cydsynio i beidio a gofyn am ddimai o iawn. Diolchodd Mr. Wm. Geogre i Syr Huw yn wresog a hawddgar, ar ran y Blaid Ddirwestol. 4- Dal i drymliau a ehynhyddu cymaint y mae'r drafnidiaeth ar ffordd fawr Caergyb] nes fod Cyngor Sir Fon mevvn penbleth sut byth i ddwyn y draul drom 0'1 hadgyweirio ar ol vr holl fodura a throlio llwvthog sydd ar hytddi. A'r rhai sy'n ei rhychu fwyaf sydd leia'u cywilydd a'u cyfraniad at y gost. CwVn a phenbleth Cyngor Sir Gaernarfon vdyw hyn fod dwyfil a hanner o bjronau o golled ar Ysgol Amaethyddol Madryi. Bu trafod hefyd ar bwnc eael gwell arolygiaeth ar eni a magu plant. Yr oedd Mr. a Mrs. Joseph Davies, Caerdydd, wedi bod mewn cynhadledd gyda'r Cyngor, ae wedi dadlennu'r cynllun llwvddiannus iawn sydd ganddynt gyda gwragedd y Deheudir. Byddai traul blynyddol y eynllun cynygiedigyn £335 tal ai Bwrdd Llywodraeth Lleol £ 142 o'r 1335; ac yr oedd y Cyngor wedi derbyn, a hynny'n ddiolchgar iawn, gynnyg Mr. a Mrs. Davies i ddwyn gweddill traul y eynllun am y flwydd- yn gyntaf, gael i'r Cyngor weld y lies drost- ynteu hunain. 4- Mudiad da ac angenrheidiol iawn yw'r schod, ond bu llawer o'r bobl sy'n clwcian drosto mor selog heddyw, yn gofalu IIPwer mwy cyn y rhyfel am wyau'u ffesants nag am fythynod a phlant eu tenantiaid. 4- Yng nghyfarfod Cyngor y Drefnewydd, Sir Drefaldwyn, nos Iau ddiweddaf, hysbysid y ganwyd 61 o fechgyn a 44 o enethod yno'r llynedd, sef yn hollol o chwith i'r arferiad. Ygenethod fyddai yn y mwyafrif bob blwydd- yn hyd yma. Ai dymuniad y mamau yn wyneb rhaid y rhyfel a barodd y newid ? ?' ? Gwelid Hun Capten Hughes, Criccieth, ym mhapurau Saesneg dydd Gwoner diweddaf, sef ynglyn d'i frwy dr Hvyddiannus am bedair awr a submarin y Germaniaid ym Mor y Cajioldir. Y mae cadernid creigiau Sir Gaernarfou i'w weld yn ei wyneb, a'r wep herfeiddiol honno sy'n cael bias ar yrru gelyn i'r gwaelod. 4- Bu'r Parch. J. S. Jones, ficer Llan tysilio, Llangollen, farw'n sydyn yr wythnos ddi weddaf. Yr 6cdd yn ddeunaw a thrigain oed wed i bod yn ficer yno ddeugain mlynedd a chan ei fod yn un o bregethwyr Cymraeg a Saesneg goreu'r Gogledd, tyrrai miloedd o ymwelwyr yno i'w wrando fisoedd yr haf. Yn yr eglwys uchod yr arferai y diweddar Syr Theodore Martin (cyfaill mynwesol i'r Ficer ar hyd ei oes) ddarllen y llithoedd—ie, eu darllen nes oedd y Beibl yn Feibl newydd bob tro, ae nid rhygnu a gwrnad u ei adnodau nes gyrru dyn i golli oi ras yn lle'i gael. Mynych hefyd y gwelwyd y Prifardd Brown- ing a'r ddiweddar Holen Fawcit (priod Syr Theodore) ymysg yr addolwyr. 4- Golffa ar y Sul yw asgwrn y gynnen ddi-baid yn Llandudno. Yr oedd Mr. Pierce Jones wedi arfaethu dod a chynnyg gerbron y Cyngor i setlo'r ffrae drwy gael gan Glwb y Maes Du roddi heibio chwarae ar y Sul nes y bo'r rhyfel ar ben ond cynhaliwyd Bord Gron ar y pwnc ddydd Mercher diweddaf, sef o aelodau'r Clwb ac o gynrychiolwyr Eglwysi Rhydd ion. y dref,—prif wrthwynebwyr y chwarae. 4- Mr. Chantrey a lywyddai; a phan awgrym wyd dod hanner y ffordd i gyfarfod caseion y golff drwy i aelodau'r Clwb ymrwymo i roddi'r chwarae heibio ar oriau mod-dion gras yn yr addoldai,gwrthododd cynrychiolwyr yr Eglwysi Rhydd ion hynny, gan ddywedyd yn bendant mai ei roi heibio'n hollol ar y Sul oedd yr unig beth a'i bodlonai hwy. 4- Pan ofynnwyd wedyn Os cymerid llais y trigolion ar y pwnc, ac i hwnnw fod yn ffafr golffio ar y Sul, a dderbyniech chwi'r fath fot yn derfyn ar y peth ? Yr oedd un o fugeiliaid yr Eglwysi Saesneg yn fodlon i hynny ond dau o fugeiliaid yr Eglwysi Cymraeg yn erbyn, ac mai eu diofryd hwy oedd dal i'w wrth wynebu'n ddisyfl' nes cael eu barn i fuddngol- iaeth. Os felly," ebe cynrychiolwyr y Clwb, ni waeth heb drafod gair pellach ar y pwnc ac fe aeth pawb adref. Yr oedd y Cadfridog Owen Thorn a-s ym Mon ac Arfon yr wythnos ddiweddaf, yn egluro'i gynllun godidog i ddarpar ar gyfer y milwyr Cymreig pan fo'r rhyfel ar ben. Cafodd groeso cynnes a gwrandawiad astud gan ael- odau'r Cyngor Sir ac eraill; pendorfynodd Cyngor y ddwy Sir gefnogi of i'r earn, gan ddatgan eu teimlad fod yn ei gynllun rag- welediad pell adarpariaethrasol a gwir angen- rheidiol. Dim ond gwr a'i ben ai galon yn eu lie fuasai'n meddwi a chynllunio mor ardderch- og. Y mae Cynhadledd Genedlaethol i'w chynnal yn nhre'r Amwythig ar y 26ain o'r mis hwn i drafod yr holl bwnc, a d,offro'r wlad i'w chyfrifoldeb partb ei weithio allan heb oed, i na man esgusa. Y mae Syr Francis Edwards, A.S., yn graddol wella o'r oruchwyliaeth feddygol y bu dani 'r dydd o'r blaen. 4- Ddydd Mercher diweddaf, anfonodd ynadon Fflint fachgen deg'|oed i Andrew Hogg, paent- iwr, Halkyn Street, i ysgol ddiwygiadol am chwe blynedd am dorri i dý No. 8 yr un heol, a lladrata arian ac eiddo oddiyno. a'i rieni i dalu deunaw yr wythnos drosto nes del ei amser i ben. 4- Y mae'r Parch. T. Jones-Parry Ph.D., gweinidog eglwys M.C. Rehoboth, Prestatyn, wedi ymuno a chatrawd Gymreig newydd y R.A.M.C., sef o efrydwyr y colegau a gweini- dogion yr eglwysi sydd wedi cael ei ffurfio'n ddeucant a hanner neu fwy o rifedi i weini ar giwyfedigion y rhyfel, a'u cysuro'n ysbrydoi a thymhorol. Bu Dr. Jones-Parry yn Ger- mani'n efrydu am ei Ph.D., ac a wyr yn lied dda sut rai yw'r Germaniaid drwy ei lygaid ei hun ac nid drwy lygaid y newyddiadurwyr sy yn pardduo am gyflog, megis y mae eu newyddiadurwyr hwythau'n ein pardduo ninnau am gyflog. Ni fu'r wasg drwy Iwrop a'r .America erioed morddibris o'r gwir ag ydyw yn nydd ymaflyd codwm mawr y Cen- hedloedd. Cafodd Llangollen iraw a symiod yr wyth- nos ddiweddaf pan glybuwyd am farwolaeth Mr. J. Owen Davies, cadeirydd y Cyngor, a gwr hysbys a, mawr ei barch drwy'r dref'a'r ardaloedd. Cafwyd hyd i'w het a'i ymbarelo agored yn y canal nos Wener, gyferbyn a'r ty a godasai iddo'i hun orbyn ei briodas a boneddiges o Lerpwl; ond er gwagu'r dwr, heb ddod o hyd i'w gorff yr oeddis hyd yma. Yr oedd tua deugain oed, ac yn cwyno gan wendid iechyd.1 Yr oedd yn absennol o'r Cyngor nos Fercher, a synnid at hynny, gan ei fod mor gyson yn ei le a'r gad air. 4- Yng nghyfarfod Gwarcheidwaid Tlodion Undeb Conwy, yr wythnos ddiweddaf, hys- bysid fod 44 o blant yn y ty heb gyfrif y rhai oedd yn adran y plant; ae ebe un o aelodau'r Bwrdd, a swn coegni crafog yn ei bwyslais Y mae yma, ainryw byd o ferched hyd y cyrrion yma sy'n cadw c .vn a chathod anwes -eu pet dog a'u pet cat a gwych o beth fyddai eu gweld yn dod i'r tloty ac yn dewis babi bach i'w fagu a rhoi cymaint o foethau iddo ag a roddant ar hyn o bryd i'w cwn a'u cathod. 4- Casglwyd £ 8 12s. yn eglwys hlwyf Pres. tatyn fel ffrwyth apel y Ficer ar ran y Crist- nogion Armenaidd a lofruddir mor eliyllig o giaidd gan y Tyrciaid ac ynghanol yr £ 8 12s. yr oedd modrwy aur wedi dod oddiar un o'r platiau casglu. Pet.h mawr yw cy- ffwrdd y galon ac wedi i honno ddechreu agor, ni waeth ei hagor i gyd a thy wall t y i /x cwbl i'r plat. Dyna, mae'n debyg, a ddy- wedodd rhoddwr y fodrwy wrtho of ei hun. Fe fedrai rhai o Hoelion Wyth Cymru'r dydd iau gvnt. chwarae ar galon y cybydd caletaf nes peri iddo ollwng y darn tair oedd yn ei law ac a fwriadai ei roddi ar y plât- gallent, a'i orfodi waethaf yn ei ddannedd i gydio mewn hanner sofren a'i thincian yn godog yn erbyn y pres, a. honno 'n sbio i lawr ar y ceiniogau cochion, a dvwedyd Neswch draw, rhag iehwi faeddxi fy lliw aur melyn i." Y mae'r Parch. AViii. James, gwoinidog eglwysi Annibynnol Sarn a Phenllwyn ers deugain mlynedd, wedi rhoi'r fugeiliaeth i fyny. Wrth ollwng Wm. Owen, Pen y Mynydd,— gwas ffarm o Landdona—yn rhydd oddiwrth gyhuddiad o drespasu ar ol giam ar ystad Baron Hill, datganodd yr ynadon eu cred fod yna dyngu anudon ar y naill ochr neu'r llall- ga,n y cipar neu ynteu gan y cyhuddedig, ni fedrent hwy benderfynu gan brun. Dygid cyhuddiad cyffelyb gan Lewis Owen, ffermvvr, Llanddona, yn erbyn Wm. Jones, gwas fferm Bryn Tirion ond taflwyd yr achos hwnnw allan am fod y dystiolaeth yn annigonol. Pan fydd y papurau Saesneg yn cofnodi rhyw hanesion fel yr uchod, byddant yn eu gosod mewn lie digon amlwg ar ben y golofn, a More Welsh Perjury yn bennawd bras iddynt, ac mor sych-sancta,idd a phe bai yna '-ddim tyngu anudon o gwbl yn Lloegr. A'u helpo fe wyr pob barnwr a ehyfreithiwr yn amgenach, ac fod pob llys drwy'r wlad yn g'lymau > Ig'lwyddau, nos fod swyddogion y fainc a'r heddgeid waid wedi colli eu ffydd yn y natur ddynol a mynd i ofyn gyda Philat :— Beth yw Gwirionedd ? Yr ydym wedi colli nabod arno er pan ddeuthom i'r ffau fondigrybwyll hon, lie y mae'r fath ymgegu a gwyro geiriau." A chwi glywsoch yn ddiau beth a ddywed- odd y Barnwr Bucknill wrth annerch y rheithwyr ym Mrawdlys Lincoln beth amser yn ol Fe wn y fath wmbredd o dyngu anudon sydd hyd yn oed mewn civil cases. Ac ? yr wyf yn siarad odd iar ddeugain mlynedd 0 brofiad." Ac a glywsoch hwyraeh ddywediad y Com- missioner Kerr yn Llys Sirol Llundain :— "Dywododd y Salmydd yn ei ffrwst Pob dyn sydd gelwyddog.' Yr wyf t1 wedi eistedd yma am hanner can mlyn- odd, ac yn dweyd yr un pcth yn ham- 41 ddenol ac heb ffrwst na phetruster yn v d byd." A thra bo'r Sais parod ei sen yn cael ei wyi-it ato, fe awn ninnau ymlaen aty nodyn iiesaf: Y mae Aberystvwth yn cael ei blino'n fawr gan haid o fechgyn—o'r tair ar ddeg i'r pymtheg ocd-sydd wedi ymffurfio 'n Red Globe Gang ae torri i dai a siopau'r ardal gan ladrata a dangos beiddgarwch ac anian enbyd iawn mewn rhai mor ieuainc. Dal- iwyd rha,i ohonynt yr wythnos ddiweddaf, wedi dwyn punnoedd o arian o siop, a chan ddynt oriadau, lamp i fflachio, a chelfi lladrata hafal i'r carnleidr cyfrwysaf a chyf- lymaf yn Llundain. Y mae He i ofni fod gwaed Gwylliaid Cochion Mawddwy heb ddarfod hyd heddyw. Y mae'r hanes yn enbyd i'w ddarllen i gyd, ac yn eglur-ddangos faint bynnag o golegau cenedlaethol sydd gennym, fod arnom fwy o eisiau Coleg yr Aelwyd na'y un ohonynt. 4- Yn llys ynadon Caernarfon, ddydd Sadwrn diweddaf, apeliai Ann Williams, Felinlieli. am lythyr-ysgar oddiwrth ei gwr ar sail ei greulondeb tuag ati. Dyma'r ffeithiau fel y'u gosodwyd gerbron gan ei chyfreithiwr :— Yr oedd hi'n weddw a chanddi dri o blant pan briododd hi'r d-iffynydd fis Awst diweddaf. Yn fuan wedi priodi, ceisiodd ei pherswadio i werthu'r cwbl i fyny a mudo hefo fo i sir Fon ond yn rhagweled mai barus am gael oi harian i'w grafangau yr ydoedd, ac nad dim amgenach na hynny, nacaodd symud ber. Aeth yntau'n giaidd wrthi wedyn, ac a'i bygythiodd ac ai curodd hi ac a falodd y dodrefn. Y mae o mewn gwaith ar hyn o bryd ond nid oedd ganddi hi ddim eisiau cydfyw ag o, nae eisiau ffyrling o arian cynhaliaeth ganddo chwaith. & Ac wedi elywed yr haies, caniataodd yr ynadon ei llythyr-ysgar iddi, gan gofio englyn Trebor Mai am yr ystad briodasol:- g Ystad o Dduw, ystad dda iawn,—ydyw I Priodas gariadlawn Ond er—ond er mor diriawn, i Stad ag ond ei bond yn 11awn. t Y mae Mr. Howell Thomas—un o Gymry I Amlwg Llundain—wedi ysgrifennu llyfr o I hanes a gorchestion Catrawd y Royal TVelsh Fusiliers o'i sefydliad dri chan mlynedd yn ol I hyd yn awr. Daw'r gyfrol alln yr wythnos hon o wasg T. Fisher Unwin, Llundain. Un o lyfrau poblogaidd Lloegr hanner can mlynedd yn ol oed,d Famous Regimenti of the British Army;, y mae'r 23rd yn un o'r rhai enwog 11 v dywedir ei hanes yn y gyfrol honno ond dyma. iddi lyfr iddi hi ei hun, gan Gymro, ac nid gan estron sy'n gvveld dim gogoniant na S glewder yn neb cyffelyb i'r hyn a wel yn y Seotiaid peisiog e chras eu pibroch. Nid oes glodusach catrawd yn y Fydc in na'r 23rd ac y1. rhyfedd iau, yn Namur a Liege a lleoedd I erpill Ffrainc a Fflanders yr enwogodd ei hun gyntaf dan y Cadfridog Marlborough dri a chan mlynedd yn ol. Bwch barfog a heger ei dwlc ydyw ei mascot hi; ac y mae'r hen Gymro'n debyg iawn i'w fwch pan fo'i wrychyn i fyny wrth ruthro ar y gelyn, Yr oedd Phoebe Davies, priod preifat yn y R.W.F., o flaen ynadon Dinbych ddydd Sadwrn diweddaf ar gyhuddiad o feddwi ac esgeuluso'i phum plentyn. Rhwymwyd hi hyd ddegpunt ar y cyhuddiad olaf, ac oedwyd v Hall, sef y meddwi, am fis o amser. Marwolaeth ddamweiniol oedd dedfryd y trengholiad a fu ym Modelwyddan ddydd Sadwrn diweddaf, ar gorff y Preifat R. P. Thompson, dyn deg ar hugain oed o Gaerdydd oedd wedi cael ei glwyfo yn Loos, wedi dych- welyd a chael ei osod gyda'r 17th Batt. Welsh Regiment ym Mharc Kinmel, ac a laddwyd fel hyn, yn ol tystiolaeth ei gyd-fil wyr :— Aethai ef a hwythau i'r Rhyl i gael trin eu dannedd ac wrth ddychwelyd cawsant eu codi i motor-lurry a elai i gyfeiriad eu gwersyll. Wedi pasio Rhuddlan, chwyth- wyd cap Thompson ac wrth neidio i'w ddal, cwympodd ac aeth olwynion y wagen drosto. Bu farw yn ysbyty Kinmel. Ond tystiai Mr. Rd. Sykes, cadeirydd Cyngor y Rhyl, ei fod of yn pasio'r lurry yn ei motor, iddo wold ci a gwningen, ac yna weld Thomp- son yn neidio megis ar ol yr wningen. Efe a'u cludodd i'r ysbyty. Addefodd y milwyr fod ganddynt gi gyda. hwy, ond gwadent iddo fynd ar ol yr un wningen. 4- Y mae'r Sequah wedi marw mewn ysbyty J yn Johannesburg, yn ddeuddeg a thrigain j oed, ac heb geiniog ar ei helw. Brodor o Gernyw ydoedd Hartley wrth ei enw i iawn ac wedi bod yn heddwas yn Llundain am beth amser, dochreuodd ar ei hynt fel coog-feddyg—quack doctor. Gwnaeth ffortwn o filiwn ar dro, ac a'i-gwariodd y naill dro ar 01 y Hall; ac fe sonnir amdano yma oblegid ei fod mor hysbys drwy Gymru, ac oblegid i filoedd on cyd wlad wyr fod yn ddigon ehud i'w goelio a heidio ato o bellter i fynd dan ei driniaeth. Yroedd ganddoddigon o faldordd, ac o ryw fath ar lithrigrwydd ac ysmaldod a, dynnai filoedd i'w wrando, geg a ehlust, ac i estyn eu douswllt am ei eli a'i bilsen oedd mor wyntog a 11awn o geriach ag e'i hun. Enillai fwy mown noson am fytheirio chwedlau nag a enillai pregethwr blaena'r deyrnas mown blwyddyn am draethu'r Drefn. Ymwisgai fel un o'r Indiaid Cochion, ac a d aerai eifod yn un a chan edrych yn fawr- eddog, byrlymai'n oraclaidd ddigyffelyb. Gydag achosion o grud cvmalau. aelodau diffrwyth, a'r tebyg y disgleiriai fwyaf ac wedi gosod y band i ganu eu cyrn yn ddigon ucliel rhag i'r dorf gly wed nadau'rsawlafyddai dan y driniaeth gymalau neu ynteu dynnu dannedd, ar oi gerbyd yn yr awyr-agored, fe rwbiai'r clef nes y bydda i'n ehwys cbwil- boeth am funud ai hwnnw adref dan neidio a gorfoleddu am dridiau neu bed war, pryd y dy(,Iiwelai'r lieii boenau'i'wddanta'rhon :tiffni i'w aelodau, ac y tarai yntau ei ben yn y vval am fod mor ffola, choelio'r brygawthwr ffals a domerraai olud mor r ;vy,dd o'r gwrandawyr a estynnent eu gyddfau i gael eu pluo ganddo o'u pres. Gymry annwyl peidiwch a lluchio'ch arian drud i bob rhyw gwac cegrwth a gyfyd ei stondin ar sgwar eich pentref. j*

Advertising