Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Y Got Oddicartref.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y Got Oddicartref. Achubwr Lloyd George. YN hanes y tridiau-a-darn yn Birmingham yr wythnos ddiweddaf, soniem am y Superin- tendent Morgan (leuan ab Ieuan), sef y gwr a achubodd fywyd gwerthfawr ein eydwladwr mawr Mr. Lloyd George yng nghythrwfl diangof y dref honno panlaeth i'w Thown Hall i wrthwynebu Rhyfel De Affrica (1900) ac i gystwyo a dinoethi y diweddar Joseph Cham- berlain am ei waith yn hysio'r gweryl gostus a di-esgus honno. Haedda'r achubwr mwy na'i grybwyll ac wele'i lun a gair am ei orchest glcdfawr :— Helicdd tyrfa hanner can mil o gwmpas Neuadd y Dre'r noson dan sylw gwehilion a thom cymdeithas oedd miloedd ohonynt, wedi eu hysio a'u cynddeiriogi'n bwrpasol ers dyddiau ac wythnosau gan y papurau Jingo- aidd nes ymddiofrydu y mynnent y fo a'i fywyd. Malwyd ffenestri a lampau'r adeilad yn deilchion a cheisiwyd bob sut dyllu trwodd a chwalu'r pedwar cant a hanner heddgeidwaid a gylchent yr Hall. Toe, dyma rai o'r mileiniaf ohonynt i nol anferth o bren allan o ysgaffaldiau adeikd newrydd a gcdid gerllaw dyma'i lusgo a'i gael a'i ben blaen yn union gyferbyn a Drws B, sef y fynedfa i'r llwyfan a'r ystafell lie y disgwylid y byddai Lloyd George dyma res o ddwylo yn gafael o bobtu'r post ar ei hyd a chan weiddi Un DAU TRI yn union fel y bydd llongwyr wrth lwytho llong, dyma hergwd mor chwyrn iddo at y drwsnes oedd hwnnw'n yfflon, a'r porth a'r styffylau yn chwyrlio'n gawod o sglodion i'r entry ch. Nid oedd wiw dioddef eilif.d yn hwy; "Rhuthrwch a ffoniwch ebe'u pennaeth wrth y plismyn, a rhuthro a ffonio ddarfunt mor heger a diymatal nes fed lladd un dyn, anafu ugeiniau mor dost nes eu hysigo am eu hoes ;f ac yr oedd y fath ochen a glafoeri cynddaredd ar bob llaw na chlywyd mo'i ddieflicach. erioed yng Nghethern y Fall. Yn aberth a briwsion rhyngddynt yr -aethai corffilyn Mr. Lloyd George onibai am y <3ast a'r cynllwyn gwreiddiolddiail a filachiodd i ben ei gydwladwr, y Superintendent Morgan, canys cyn i'r drws gael ei falu, ac i'r rhuthr mawr i'r Neuadd ddigwydd, yr oedd y Super, eyflymgraff wed i gwisgo'i gydwladwr onwog yn niwyg heddgeidwad wedi ei osod i gyd-gerdded a dwain o'r cotiau gleision fiwrdda hwy drwy Paradise Street (Gehenna Street oedd hi'r noson honno); a'r plismon fel tae yn troedio'i left, right I left, right mor godog a gwastad a'r un o'r deuddeg, ond yn crynnu wrth feddwl na ellid ychwanegu un cufydd at ei faintioli," rhag i'w siwt edrych mor Uac a llaes. Gyda'u bod yn Broad Street, dyma'i snechio fel llysywen i gerbyd yr Henadur Cook, a'i yrru nerth y carnau draw i dy hwnnw, a'r dorf dwp yn gwybod dim byd, ac yn flin a rheglyd ei haraith drannoeth pan gaent'fod eu deryn wedi hedeg i Lundain heb gymaint a phluen o'i adain ar ol i'w rannu rhyngddynt. Gor- chest anfarwol oedd hon a chyhyd ag y bydd son am Lloyd George yn y byd, bydd son hefyd am y gwr a'i hachubodd mor graff a gwreiddiol o balfau dyhirod gwallcof Bir- mingham. Bedyddiwr selog ddisyfl o Felin Cryddau, ger CastelllNedd, ydyw'r Super y fosydd cystal a bod yn fugail a blaenor achos Cymraeg ei gyfundeb yn Birmingham y mae yno'n gyson croesawa bob dieithrddyn; ac y mae ei ben a'i galon at wasanaeth pawb a ddaw ar ei ofyn o'r Hen Wlad. Y mae yn, heddlu'r dref er y flwyddyn 1877 ac wedi dringo i'w swydd uchel fel Superintendent a Phrif Glerc y Pencadlys Heddgeidwadol yug ngrym ei alluoedd pybyr ac effro tuhwnt. Gwyr gymaint a'r un cyfreithiwr am y deddf- au trwyddedol; y mae holl ystadegau r llys a'r amryfal achosion ar flaenau'i fysedd. Y fo a'r staff sydd tano fydd yn darpar yr ystadeg- au'r dref gogyfer a'r Watch Committee. Sieryd y Ffrangeg, fel Ffranewr, a'r Eidaleg fel Eidalwr. Ond nid oes yr un o'r ddwy iaith honno na'r Saesneg yn cael mynd a lle'r Gymraeg, canys y mae'n llenor hyddysg yn nhrysorau iaith ei fam yn >eiddgar tuhwnt dros ryddid gwladol ac eglwysig Cymr.u ac yn achub pob cyfle i'w harddel hi a'i hiaith, yng ngwydd pwy bynnag y bo. Dysgodd Gymraeg i amryw byd o Saeson ieuainc.. a .cheir hwy'n selog ddilyn ei ddosbarth darllen yn ystafell eang y Bedyddwyr yn Station Street. Y mae'n gwmni o'r diddanaf yn draethwr stori hafal i Ddaniel Owen yti ei anterth yn ddiderfyn ei barch a'i groeso gan bob cenedl yn y ddinas y mae'n gefn ac amddiflfyn i'r gwan a 'phawb a geidw ar y Llwybr Cul; ond am droseddwyr y Ffordd Lydan a geisia -ddianc o'i balfau, cant hwy brawf digon di- ymwad ei fod yn feistr ar y Mesurau Caethion mewn mwy nag un ystyr. Y mae'n wr cryf a Uydan ei ddwyfron yn graff a sicr o'i weled- igaeth unwaith y'i caffo ac yn enghraifft o Gymro sy'n gorfodi llond dinas o estroniaid i synio'n uchel am Gymru, ac i'w barchu a'i fawrhau am ei fod yn medru cyfuno Uymder eyfraith a Ilareiddiwoh dalon. Llygad y Waver. J.H.J.

Buddiannau Milwyr a Morwyr…

-0-Ffetan y Gol.

Advertising