Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
mr GOSTEG. 1 Y NEWYN PAPUR. Gan fod y Llywodraeth wedi lleihau cy- maint ar atforion deunydd papur i'r wlad hon, 3;0 fod raid talu crocbris eithafol am bob taflen ehono, a gawn ni daer-erfyn ar ein darllenwyr i brynnu'r BRYTHON yn yr un siop hyd y ■ jellir, a rhoi archeb bendant am ei gael yn wythnosol a chyson, modd y gwypo'r gwerth- wr pa nifer i'w cael, ac osgoi pob gwastraff ar -rifynnau afraid a thros ben. PWYSWCH Y LLYTHYR.-Y mae unryw lythyrau'n cyrraedd yma dros y pwysau a [ninnau'n gorfod talu dwy geiniog o ddirwy arnynt, dro ar ol tro. Gofaled yr anfonydd am bwyso'i lythyr, a dodi'r nifer gofynnol o stampiau arno; onite bydd raid inni ei wrthod.
DYDDIADUR.
DYDDIADUR. IS-Dmma Owen Glya DYn." ? 1.8,20, 21—Cyfarfod Setydlu yn Earbfleld Road 16-4)arlith Crosshall Street e a Chynaerdd Olaughton Road W 2647-Cyladod Pregethu Marsh Lane MAWKTH I—CXnio GWyl Ddewi t—<)ymMifa Unedig y Plant yn ParkfieJd Is-Orbrfod v Gymdeitbas Gonedlaethol u-n-cyfarfod Pregethu Great Mersey Street 10, 11, 12-Oymanfa JPlynyddol Wesleald Lerpwl, etc. Is-Derath Crosshall Street ? U-19-eyfarfod Pregethu Grove Street a Heatkfield fid. It-Cyfarfod Pregethu Vittoria Street 546-Cytarfod Pregethu Laird Street 20-.C-ylarfod Pregethu yn Martin's Lane 27-Cym-fa Ganu'r M.C. ABRLLL. M—OyIarfod Cystadieuoi Unedig ya Croashall Street 20, 21, 22 yn Palmerston Drive MAI St. a Heathfield Road M-21—Cyiarfod MBEEBFIN. 5—Eisteddfod Gerddorol Gwyddehrem
iyhoeddwyr y CymodI
iyhoeddwyr y Cymod I Y Saboth nesaf. I Y METHODISTIAID CALFISAIDD PBISOBS RoAD-IOa 6, D Teewyn Evans DAViD STREET—10.30 a 6, J. Daniel Evans FMMABBSCE ST—10 a 6, W. M. Jones DOUGLAS ROAI)-10 a 6, E. J. Evans CHATHAM STRam.-1030 a 6, L. Lewis QBASSHAIJ. ST.-IO 30'a 6, R Shomaa, Bontnewydd ASNMD ROAD-10.30 a 6. O. Lloyd Jones SHWSHAM PARK-IO a 6, D. Jones fteTLB-10 a 5, J. Owen PARKITELD—10.30 a 6,-Gwel hysbysiad SHACOMBE—10.30 a 6, B. B. Hughes GABmx-lo.So a 6, D. D. Williams BOCK FKEHY—10.30 a 6, O. J. Owes WAMON—10.30 a 6 G. W. Griffith WAIEEIOO—10.30 a 6, W Owen PBIILRoAD-IO.30 a 6. W. O. Jones BMH LAHB—10.30 a 6 R. Aethwy Jonea WEBSTEK ROAD-10.30 a 6 W. Henry LAM STREET—10.30 a 6 T. J. Rowlands WooDCHtraoH BOAD—10.30 a 6, R. W. Roberts Saw BEISHTON—10.30 a 6, W S Jones, Caer WBST KmBy-ll a 6, J H Morris SOUTHPORT—10.30 a 6. R Davies HHYTON QTJARRY—10.30 a 6 William Hughes WfflWTOS—10.80 a 6 David Haghea SIr. HBLENS Juiqmox-Bdmund Griffiths, fix. HELENS—J Peron Jones ELLKSMESE PORT—10.30 a 6, ABHTON-IN-MAKEKPIBLD—10.30 a ft, SKSIHBBSDAUB—10.30 a 6, | WtQAir—2.30 a 6. 0 Jones UPPSE WARWICK STBBET—6.15 J R Morris SHIm B6 BABEHAIiL—6.15, MWBIBSBROUQB—10.30 a 6,30 B. P. JOB" a 6, M B Moses SWBJRATMOOB—10.30 a 6. Cyfarfod Ysgol BASINOTON—10.30 a 5.30, J Jones JIUow-IO.80 a 5.30 T J. Owen SBTTOS OAK (Undebol)—10.30 a 5.80 B G Williams YB ACHOSION SEISNIG OAKjnw.n P.D-10.45 a 6.30 J E Hughes,Brynsiencyn Sniaos BBOW—10.45 a 6.30 8 G Brans OATHABXSE STREET—11 a 6.30, J. Xaiog Davies WOLMEK BOAD—10.45 a 6.30. Gwilym H Kvans tsntuow LAO-l1 a 6.30, G. R Jones LWAzb-10.45 a 6.30, Emlyn James ltetwi BILL-11 a 6.30, R Ridehalgb Jones «»»»J BOOTLS—11 a 6.80, J H.Evans YR AKNIBYNWYB ^ABBBNAClr—10.45 A. Jones, 6.30 0 L Roberta _PZI4?D Adams 6 Dr Owen Evans OBon &mEE-lO.SO, Dr Owen Evans 5, D Adams OtavroN RD—10.30 T Price Davies, 6.16, J. J. Roberts QC. MSBSSr ST.-Io.so J 0 Williams, 6 D W Owen, Amwythig MABSB LAHB—10.30 0 L Roberts, 6. A Jones, XJIHSINGTON—10.30 D W Owen, 6, J 0 Williams "PBINITY ROAD-10.30 R 0 Jones 5.15 W Roberts LMAILD-10.45. J J Roberts, 6.15. T. Price Davies VHBTOBIA ST—10.30, W Roberts, 6 Oyfarfod Gweddi BK&HIRIBID RD—10.30, Ysgol, BAIMOBAJC. ROAD—10.30 a 6, E H Roberts Liscara BARLESTOWN—10.30 a 5.80 G J Williams, Birkenhead BoUTHPORT-11 a 6.30, AaHTON-TN-MAKERjiELD—10.30 a 5.so.T H Williams, PKB8COT—10.30 a 6.30, R Williams Crewe THATTO HEATH-5.45, T C Jones, Lerpwl GOIBOBNE—10.30 a LBO, Y WESLEAID LUXISELD—10.30, R. W. Jones 6 J. Roger Jones 8PBLLow IANB—10.30 J. Roger Jones 6, R W Jones BooTLz-10,80 E T Hughes, 5 T. Isfryn Hughes JfDQB HILL—10.30 D Jones 6 Jos Price KROWBLEY BOAD—10.30 T Isfryn Hughes 6 D Jones IfnYDD SEION-10.30 W R Williams 6-H Harris Hughes BtBKEifHEAD—10.30 H Harris Hughes 6 Ed Davies WiD^sa—10.30 a 6, R W Davies FTABFLTON—2.30 D Tecwyn Evans, 6 W R Williams J96KKK0KT—10.45 Edw Davies 6 H Williams Y BEDYDDWYR STBBSTOH VILLAGE—10.30 a 6 D. Powell BABLSHELD RD—10.30 a 6,-Gwel hysbysiad BALLIOL ROAD—10.30 a 6, Peter Williams BOCSHELD STREET—10.30 a 6, M. Griffiths WOODLANDS—10.30 H R Roberts, 6.30 J Davies BSOB LAKE—10.30 J Davies 6 H. R. Roberts 8KA00XBB—10.45 a 6.15, R. Lloyd JPAUCEBSTOK DBIVE—10.30. L. W. Lewis, 6, E.W.Wynne EGLWYS RYDD Y CYMRY CAxnure STREET—10.30, Hugh Jones, 6. W. 0. Jones BjfiH PARK STBEBT—10.30 D Davies 6 R Thomas BOO^LIS—10.30 Cyfarfod Gweddi 6 R T Robert4 JteBKSNHSAD—10.30 W 0 Jones, 6 D Bavies D03ALDS0X STREET—10.30 a 6 W A Lewis 11 YR EGLWY8 SEFYDLNDI6 8«tYt BDT-ll a 6.30, B. D. Hughes ASAPH SAST—10.45 a 6.30, UUHNIOL 8AHT—11 a 6.30, Griffith Jones Wuar&BD SASX—11 a 6.30, J. Hughes
Advertising
FRANCIS & HOLLAND, Sight Testing Opticians, AFRICAN HOUSE, 6 WATER STREET LIVERPOOL. (Close to the Town Hall). EVERY WOMAN ØouLD send a stamps for 00x33 page Illustrated Book G QODtaiDiDgvaluabIe information how all Irregularitiw 4mad Suppressions may tee entirely avoided or removed by simple means. Recommended by eimaent Physicaiis, as Mm only Safe, Sure and flwmimi Remedy. Neve; ftaij Thousands of Testimonials. Established 1862. Mr. PAUL BLANCHARD MaMtBwu. Dililai Lane, LONDON
Y CYFAHFOO MISOL.J
Y CYFAHFOO MISOL. J Cynhaliwyd Cyfarfod Pedwar-Mlsol yn David Street Chwefror gfed. Am 3.36 cyfarfod y Pregeth wyr, dan lywyddiaeth y Parch. R. Aethwy Jones. M.A. Caed trafodaeth ar Atbrawiaeth Cospedigaeth. Agor- wyd gan y Parch. R. R. Hughes, B.A. Yr oedd eglwys David Street wedi gwahodd holl aelodau'r Cyfarfod Misol i de am 5. Daeth cynulliad da ynghyd i fwynhau'r danteithion. Diolchwyd i'r eglwys ac i'r chwiorydd am eu llafur gan y Parch. R. Aethwy Jones, M.A., a Mr. J. C. Roberts, Walton y Parch. D. D. Williams yn cydnabod. Cynhaliwyd Cyfarfod y Blaenoriaid am 5, dan lywyddiaeth Mr. John Williams, Wigan, yn absenol- deb y llywydd dewisedig, Mr. Joseph Bellis. Caed rhydd-ymddiddan ar Pa ddefnydd ddylai'r eglwysi wneud o'u hyegoldai a'u hystafelloedd i gyfarfod ag anghenion ein pobl ieuainc yn eu horiau hamdden." Arweiniwyd gan Mri. Hugh Lloyd, Seth Roberts, a Hugh Evans. Nid oedd gan yrun o'r brodyr weledig- aeth eglur y gellid dim yn effeithiol yn amgen i'r hyn a wneir. Galwodd Mr. Hugh Lloyd sylw at y daioni mawr a ellid wneud pe bae gennym ystafell ynghanol y dref, un anenwadol, math o fan cyfarfod i'w gweithia ar linellau'r Y.M.C.A., a disgwyliai weled hyny'n ffaith rhyw ddiwmod. Am 6.30, Cyfarfod o'r Gweinidogion a'r Blaenor- iaid y Ilywydd, y Parch. J. H. Morris, yn y gadair. Pasiwyd i anfon cydymdeimlad y Cyfarfod Misol a'r rhai canlynol: Mr. John Williams, Southport, yn bur wael; Mr. Morgan Jones, Spennymoor, wedi cyf- arfod a damwain Mr. T: J. Thomas, Chatham Street, yn wael; tri o flaenoriaid David Street, Mri. John Jones, David Jones, a Thomas, yn absennol oherwydd Hesgedd a gwaeledd. Galwodd y llywydd ar y Parch. R. Aethwy Jones, M.A., i ymddiddan a blaenoriaid David Street, a datganodd lawenydd y Cyfarfod Misol wrth weled Mr. Jones yn bresennol. Diolchodd yntau i'r Cyfar- fod Misol ac i'r eglwysi am eu caredigrwydd iddo, gan obeithio fod ei waeledd yn ei gymhwyso i fod yn wel] gweinidog. Cafwyd profiad aeddfed a thine siriol ynddo, fel y dywedai y Parch. R. Aethwy Jones, gan y pedwar blaenor oedd yn bresennol. Cafwyd hanes yr Achos yn David Street gan Mr. John Williams. Ym Mehefin 1909 y bu'r Cyfarfod Misol yma o'r blaen. Collasom bedwar o flaenoriaid, a dewiswyd tri er hynny. Ymadawodd ein gweini- dog, y Parch. John Roberts. Adnewyddwyd y capel, ac aed i gost bur fawr; mae'r holl ddyled wedi ei thalu. Galwyd y Parch. D. D. Williams yn weinidog, ac mae ei ddyfodiad yn dwyn ffrwyth. Rhif yr eglwys ar ddiwedd 1909 oedd 562 ar ddiwedd y flwyddyn ddiweddaf yr oedd yn 566. Cynygiodd y Parch. R. Aethwy Jones benderfyniad ein bod yn llawenhau wrth weled y llwyddiant sydd ar yr achos. a'r ynni sydd yma i gario gwaith yr Arg wydd ymlaen. Pasiwyd, a chaed gair gan y Parch. D. D. Williams, gan alw sylw fod un o'r swyddogion-Mr. John Thomas-er wedi pasio pedwar ugain oed, yma dair gwaith y Sul. A bydd yn peidio a myned at ei fusnes ddydd Iau fel y gallo ddod i'r seiat. Darllenodd yr ysgrifennydd adroddiad pwyllgor yr ymweliad a'r eglwysi, i ddechreu Mawrth 2 ac i barhau hyd ddiwedd y mis. Mater: rmostyngiad gerbron Duw yn wyneb yr amgylchiadau presennol (lago iv, 7). Pasiwyd. Darllenodd yr ysgrifennydd lythyr oddiwrth ysgrif ennydd y Gymdeithasfa, yn dweyd fod Mr. Enoch Rogers ar dir i gael ei ordeinio, os bydd y Cyfarfod Misol yn cymeradwyo. Pasiwyd yn unfryd. Hysbysodd y Parch. E. J. Evans nad oedd adrodd- iad y Gronfa Fenthyciol yn barod, ac fod anhawster i'w gael yn barod. Hysbysodd y Parch. R. J.-Williams fod anerchiad y llywydd (y Parch. J. H. Morris) yng Nghymdeithas- fa Beaumaris, wedi ei argraffu, ac y rhennir ef yn yr eglwysi. Galwodd Mr. Stephen Roberts sylw at y pwysig- rwydd o yswirio'r capelau rhag yr awyrlongau. Mr. Robert Roberts, Y.H., a ddywedodd iddo weled y Prif Gwnstabl mewn perthynas i'r goleuni. Gofyn- nodd iddo a oedd yn angenrheidiol i'r gwasanaeth derfynu am 6.30. Dywedodd na chaniateid i'r goleu lewyrchu gormod i'r heol, rhaid gwneud rhywbeth i dywyllu ychydig ar y ffenestri. Dywedai y Parch. R. Aethwy Jones ei fod ef yn deall y bydd raid rhoi'r goleu allan 6.30. Cynygiodd ein bod am fis yn dech- reu gwasanaeth yr hwyr nos Sul am 5, a dibennu am 6.30. Mae blinds ar yr ysgoldai, a gallwn gynnal y cyfarfodydd yn yr wythnos yn hwyrach. Bydd y dydd wedi estyn digon erbyn yr ailiSul ym Mawrth, a gallwn fyned yn ol i'r hen drefn. Cefnogwyd gan Mr. J. C. Roberts. Am 7.30, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus. Mater: Treialon yt Eglwys yn gyfle i godi i dir uwch mewn cymeriad a gwasanaeth, seiliedig ar Luc 21, 19. Y Parch. W. M. Jones, Mr. Wm. Pritchard, a'r Parch. John Owen yn annerch.
Heddyw'r Bore I
Heddyw'r Bore I MEGINA IAS DDRWG.-Ynllysynad- on Llanrwst, ddydd Llun diweddaf, lle'r adnewyddid trwydded dwy cinema'r dref, tystiai Mr. T. Williams, swyddog hel plant i'r ysgol, fod Ilaweroedd o'r plant, yn Ille mynd i'r ysgol, yn troi i Goed Gwydyr, i ladrata bonion a changhennau i'w malu'n ysglodion i'w gwerthu at gael ceiniogau i fynd i neuaddau'r lluniau byw. UFFERN G WREC SAM.—Wrth gyf- lwyno'r adroddiad ttm y flwyddyn i ynadon Gwrecsam ddydd Llijn diweddaf, dywedai'r Is Brif-Gwnstabl Tippott ei bod hi'r flwyddyn lanaf yn hanes y dref onibae am un peth, sef hwn :— Pod yna dystiolaeth a ddangosai y gwelwyd cant ond dwy (98) o ferched mewn un dafarn ar yr un adeg-rhwng saith ae wyth arglocb y nos-yn yfed, ac yn cydymollwng i gyfeddach gymysg a'r dynion nes fod yn hen bryd cael rhyw fatb o gyfraith ar y peth. A pheth hollol gyBredin oedd gweld deg neu ugain i fyny i'r deg ar hugain a'r hanner cant 0 ferched yn nhafarnau'r dref. Adnewydd- wyd yr holl drwyddedau ond gan rybuddio'r tafarnwyr am iddynt wneud popeth a ellent i leihur yfed yyeg y merched ac i lwyr ddiddymu'r arferiad o roddi diod ar gael- strapping yn ol slang y Ilymeitwyr. Y CYNLLVN YN DECHREU DWEYD. —Y mae cynllun cyhoeddedig y Cadfridog Owen Thomas i ddiogelu lie a buddiannau y milwyr Cymreig pan ddychwelont o'r rhyfel yn dechreu dwyn ffrwyth eisys, canys ddydd Iau diweddaf penderfynodd Pwyllgor Addysg Sir Gaernarfon wneud pob penodiad o hyn ymlaen dros .dro'n unig, sef temporary, fel byddont yn rhydd i estyn eu Ile'n :ol i r athrawon hynny sy'n aros gyda'r Fyddin a'r Llynges, neu ynte ymoro) am le cystal iddynt rywle arall. Hefyd, fod pob swydd sydd ar law'r pwyllgor-megis clercod, swyddog hel plant i'r ysgol, etc.,—yn cael eu cadw i ddynion a ddychwelont o'r rhyfel. Dyma gam yn yr iawn gyfeiriad, a gwerth ei ddilyn gan awdurdodau cyhoeddus eraill Cymru. DOWCH PR AMWYTHIG.—Wythnos i yfory—sef dydd Gwener, Chwefror 25--y mae'r Gynhadledd Gymreig Genedlaethol i'w chynnal yn yr Amwythig i drafod holl gynUun y Cadfridog Owen Thomas, pryd y disgwylir cannoedd o gynrychiolwyr yno o Dde a Gogledd i'w fabwysiadu a'l roddi mewn grym. Os bydd y gynrychiolseth yn deilwng o'r wlad ac o'r achos, bwriedir oyhoeddi rhestr lawn o bawb ddaw i'r Gynhadledd, i'w hanfon i'r milwyr yn y rhyfel, gael iddynt gael achos i lawenhau wrth weld fod eu cydwladwyr gartref yn ystyriol o'u dyletswydd tuag atynt, eu bod yn gwerthfawrogi eu glewder a'u haberth ar ein rhan ni, ac yn benderfynol, drwy'r cynllun hwn, o weld eu bod hwy a'u teuluoedd yn cael chwarae teg, o ran gwaith a swydd a chynhaliaeth, pan ddychwelent o'r Armagedon. 0+- ANGLADD ALAFON.-Gresynem fod yn llwyr annichbn inni fod yn angladd Alafon, ein hen gyfaill cu a chywir, a gleddid ym Mryn'rodyn, ddydd Sadwrn diweddaf. Fel yr hysbysem yr wythnos ddiweddaf, bu farw yn nh:Y'i frawd, y Parch. W. O. Owen (Llifon), Abergele; ac yno, wrth gychwyn y corff, cymrwyd rhan gan y Parchedigon. Ellis James Jones, M.A., Rhyl, a W. R. Owen, B.A. Yna aed gyda'r tren, y rhain yn brif alarwyr: Llifon a'i briod (merch y di- weddar Barch. Hugh Jones, D.D., Llangollen); a nith. Yng nghapel Brynrodyn, llywyddid gan y Parch. R. M. Jones, Glasgoed (cadeirydd Cyfarfod Misol Arfon), a chymrwyd rhan gan y Parchedigion John Owen, M.A., Caernarfon (Engedi); R. Price Ellis, Beddgelert; R. H. Watkin, Dinorwig; Rd. Jones (Glan Alaw); J. Puleston Jones, M.A.; T. Gwynedd Roberts; J. Williams, Brynsiencyn; R. G. Roberts (B.), Caemarfon Ellis J. Jones Mri. Wm- Venmore, Lerpwl; R. O. Williams a H. Men- ander Jones. Wrth y bedd wedyn gan y Parchn. Wm. Griffith, Diagwylfa T. E. Jones, Cefn y Waen; a D. O'Brien Owen.
Advertising
EGLWYS Y BEDYDDWYR., EARLSFIELD ROAD (WINDSOR STREET GYNT). Ordeiniod a Sefydliad Mr. Thomas Michael, B.A.,B.D.. YN WEINIDOG YR. EGLWYS, CHWEFROL lOea- SOfed, a'r 21ain, 1016. TREFN Y CYFARFODYDD Sadwrn, am 4.30 pregethirgan y PRIFATHRO EDWARDS,D.D,, ColegCaerdydi Bore Sul, am 10, Pregethir gan y PARCH. J. THOMAS, Cilgerran. Prydnawn Sul, am 2, CWRDD ORDEINIO MR. T. MICHAEL., B A.,B D. yn Weinidog yr Eglwys. Traddodir y Cyngor (Charge) gan y Prifathro Edwards. Cadeirydd: Y Parch. Joseph Davies, Birkenhead. Cymerir rhan gan Weinidogion y Cylch. Nos Sul, am 5, Pregethir gan y PARCH. J. THOMAS. Nos Lun, am 7, CWRDD CROESAWU- Cadeirydd: Parch. D. PoweR. Cymerir rhan gan amryw o Weinidogion y gwahanol enwadau. GWAHODDIAD CYNNES I BAWB. NOS SADWRN NESAF Ii OHWAREUIR DRAMA OWAIN GLYNDWR (Pedr Hir) 1DY GORDON INSTITUTE, STANLEY ROAD, KIRKDALE, (Ae nid yn y Town Hall, Bootle, fel yr hyabyswyd); Gan GWMNI GLYNDWR. Drysau'n agor am 7. I ddechreu am 7-80. Tocynau-Z/1/6cb. Gymry I Dowch yno'n dyrfaoedd Undeb Cania M.C. Lerpwl a'r Cyffiniau. CYM4NFA GANU MAWRTH 27 Cynhelir REHEARSALS yuglyn Wr uchod dan arweini&d T. Hopkin Evans, Mus.Doc., Neath, fel y canlyn- NosSadwrn nesaf, Chwefror 19. am 7 o'r gloch, yng Nghapel Crosshall Sf Prynhawn Saboth am 2 o'r gloch, yng Nghapel Waterloo. Nos Saboth, am 5, yn Nghapel Douglas Road. GWABODDIR CANTORION Y CYLCH PR CYFARFODYDD. jgfi Dechreulr y cyfarfodydd yn brydlon gan ein bod dan angenrheldrwydd I orffen yn gynnar. Central Hall, Renshaw Street. 0 GRAND CONCERT^ Will be given by the Pupils of Mr. T. ARMON JONES, R.A.M., on SATURDAY EVENING, APRIL 1st, 1916, Assisted by Mr. GRIFF OWEN Madame GLADYS WILLIAMS, Birkenhead- (The Well-known Tenor ) (Adjudicator National Eisteddfod), Elocutionist. Mr. T. ARMON JONES, R.A.M., Baritone (with Duetts by Messrs. Armon Jones & Griff Owen) THE CENTRAL HALL CHOIR assisted by the MISSION CHOIR. Accompanists—Mar. J. W. WHALLEY and Miss ELSIE. BALL. Chairman •• •• •• Mr. ANDREW LINDSAY, J.P. Doois open at 7-0; commence 7-30. TCiMte, l/«, 6d. and 3d. Eglwys Parkfield, Birkenhead. PREGETHIR Y SUL NESAF am|10-30 y bore a 5-30 yr hwyr gan Dr.OelwunBugneS. DAUER SYL W I Oherwydd ymriad yr Awdurdodau yng nglyn a'r Goleu, ni chynhelir Cyfar- fodydd yr Wyl Ddirwestol yr wythnos nesaf yn ol y trefniadau. Capel y WealealdClallchtoa Road, BIRJrBNHJlAD. Te a Chyngerdd BLYNYDDOL, Dydd lou, Chwefror 24, 1916. Teary byrddau o 4-30 hyd 6-80. Oyagcrdd am 7-80 CADEIRYDD— R. PIERCE JONES. Ysw., Lerpwl CANTowow- Madame Lilian Lloyd, Lerpwl. Madame Annie Beatie, A.R.C.M., Lerpwl. Mr. Oriff Owen, Lerpwl. Mr E. Walter Williams, Talysarn. Cytellydd-Miss GERTRUDE PETERS. TocynM-Tea?CymghefdAta T CT.rt.jd4 1.^ u„|(, 4c„ Mr. WILFRID JONES, A.R.A.M.. TEACHER OF SINGING, Begs to announce that he- visits Liverpool weekly. For terms apply to- Moisis. IRUSHWORTH & DREAPER Idington, or Brynmeirion, Wrexbam. TELERAU AM HYSBYSIADAU. JlAnHysbysisdau, megis Motynion ya eieiatL, etc., Genedigaethau, Priodason, Mamolaethau 14 o eiriau, un tro, Is. 3d., a M. am bob tro ychwaaqgol 21 eto eto 18. 6d.,a6d. eto 28 eto eto lo. gd., a Od. etoo 35 eta etc 2«r. 3d., a le. eto Rhaid anfon blaendal gyda'r asohefe. Am delerau hysbysu Cyfarfodydd, BISK teddfodau, etc., a Trade Adversisommo, ymofyner A Hugh Evans a'i Feibaon, Swydd- fa'r BRYTHOW, Liverpool. Printed and Published by the Pro- prietors, Hugh Evan. alldSolu, 316.8 Stanley Road, Liverpool, In the County of Lancaster. Tel jpifjBootle.
DAU rü,'li AFOIM.
Parhad o tudal 5. CYFARFOD PREGETHU PARK ROAD.—Nos Sadwrn a'r Sul diweddaf, daeth tyrfaoedd Iluosog ynghyd i wrando cenadwri'r Efengyl a draethwyd gyda nerth a sicrwydd mawr gan ddau o bregethwyr cryfaf yr enwad. Bore Sul, pregethwyd gan y Parch. Ben Davies, Panteg, ar Ymarfogi a r un meddwi-y medd- wl oedd yng Nghrist Iesu, ac wrth ei wrando teimlwyd mor annhebyg yw ein meddyliau ni sydd yn esgor ar gynifer o adfydau yn y byd. Traddodwyd drachefn nos Sadwrn a'r hwyr y Sul ddwy bregeth gan y Parch. D. Stanley Jones, Caernarfon, nas anghofir mohonynt gan y rhai a'u clywodd pregethau oedd yn deffro awydd cryf ym mhawb i adfer Crist i'w le yn y bywyd personol ac yn y byd sydd yn eiddo iddo. Ni chlywyd Mr. Jones erioed yn pregethu gyda mwy o ddylanwad. Yr oedd ei sylwadau fel llusern yn chwilio allan gonglau pellaf dirgelion pob calon yn y gynulleidfa, ac yn creu dyhead gwirioneddol ymhob enaid i beidio â phechod fel y dylai pob pregeth gywir wneud. Teimlwyd nerthoedd y byd a ddaw yn ymweled a ni dan ei weinidogaeth, ac yn cael ei fynegi yn y canu bendigedig yn yr oedfa nos Sul, pan yr unai pawb 0 galon ac o un ysbryd i ganu clodydd yr Hwn yn unig sydd yn deilwng o fawl a gwasanaeth y rhai sydd yn ei ddilyn. Ftrwythed yr Efengyl ogoneddus a glywyd ym mywyd pawb a'i gwrandawodd. CYFARFOD PREGETHU Y TABERNACL.-Cynhal- iodd yr eglwys yn y Tabemacl, Belmont Road, ei chyfarfod pregethu blynyddol nos Sadwrn a'r Sul di- weddaf. Nos Sadwrn, pregethwyd yn yr ysgoldy gan y Parch. Ben Davies, Panteg. Bore Sul, am 10.45, yn y capel, gan y Parch. Stanley Jones, Caer- narfon. Yn yr hwyr am 4.45, gan y Parch. Ben Davies. Er gorfod gwneud i ffwrdd ag oedfa'r pryn- hawn, a newid amser oedfa'r nos, cafwyd cynulleidfa- oedd lluosog, a phregethu ardderchog. Yr oedd y ddau bregethwr yn gwbl adnabyddus i'r cylch, ac yr oedd y ddau dan yr eneiniad yn amlwg. CVMRU FYDD UP. PARLIAMENT STREET.-TreuI- iwyd nos Wener ddiweddaf mewn ymgomwest wedi ei threfnu gan y chwiorydd. Methodd Mrs. J. G. Rowlands ddod yno i arwain, a chadeiriwyd yn ei He gan Mr. J. E. Owens. Wedi cystadleuon difyr y rhan gyntaf, ymneilltuwyd i'r llyfrgell i gael lluniaeth. Yna'n ol i wrando Miss Mabel Roberts yn canu Proposal a Spring Song Mr. Gethin Owen yn canu Trumpeter, 11-69 Express, Mother Macree, a Sands of the desert growing old; Mr. R. H. Williams yn canu penillion, a Miss Roberts, Botanic Road, yn adrodd yr Excursion i Fanchester, a How Daddy outwitted the priest. Miss Edith Jones, A.R.C.O.,L.R.A.M., yn tynnu mel o'r tannau man." Y lluniaeth wediei anfon gan Mrs. J. G. Rowlands. Diolchwyd yn gynnes ac yn hwyliog i bawb gan Mr. Ellis P. Evans, trysorydd y Gymdeithas. COLLED MERTON #RoAD.-Yn ymadawiad Mr. William Roberts, 12 Orwell Road, a hunodd yn yr angau ddydd Gwener diweddaf, yn 64 mlwydd oed, bydd gwagle yn eglwys Merton Road, Bootle, nas llenwir yn fuan. Brodor ydoedd o ardal Llithfaen, wedi ei ddwyn i fyny mewn amaethdy bychan o'r enw Tir Gwyn. Yng ngwaith Setts Nant Gwrtheyrn y dechreuodd ennill ei fara pan yn lianc, a dringodd i fod yn is-oruchwyliwr yno yn Ued ieuanc. Daeth i Lerpwl yn 1883, at y masnachwyr coed adnabyddus, Mri. Joseph Owen & Sons, Melrose Road, ac yno y treuliodd y 32 mlynedd diweddaf, yn fawr ei barch ac wedi cyrraedd safle uchel yn y fasnach. Yr oedd yn gymeriad nodedig—yn grefyddol wrth natur, o feddwl treiddgar a dychymyg byw, a dogn da o sense of humour yn llawn o natur dda, parod ei gymwynas, a hael ei galon. Cymrai ddiddordeb arbennig mewn dynion ieuainc, a bu'n foddion i dynnu llawer llanc i'r llwybr uniawn, a'u cadw rhag mynd ar ddisperod. Dewiswyd ef yn flaenor gyda'r Methodistiaid yn Llithfaen pan nad oedd ond 26 oed, ac ymarferai lawer ag areithio ar ddirwest, yr Ysgol Sul, etc. I eglwys Stanley Road yr aeth ar ei ddyfodiad i Lerpwl, ac yno y bu hyd sefydliad Eglwys Rydd y Cymry yn 1901. Yr oedd yn un o arweinwyr y mudiad, ac un o sefydlwyr yr eglwys ym Merton Road, ac yno y bu yn swyddog gweithgar a dylan- wadol hyd y diwedd. Yr oedd yn un o'r siaradwyr goreu mewn cyrddau crefyddol, ac am rai blynyddau pregethai'n fynych, nes y pallodd ei iechyd. Pe wedi ymroddi i'r gwaith, nid oes ddadl na buasai yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd. Liefarai lawer ar; ddamhegion, a gallai ergydio'n drwm pan fydda angen. Nid dieithr ydoedd i'r wasg, ac yr oedd yn un o'r llythyrwyr goreu a welwyd. Gwr heddychlon ydoedd, yn hoffi'r encilion, yn bwyllgorwr aeddfed el fam, ac yn gyfarwyddwr doeth. Teimlir colled ar ei ol yn eglwysi'r cylch, ac yn arbennig ym Merton Road. Gedy weddw unig i alaru ar ol priod hoff ac addfwyn. Merch ydyw Mrs. Roberts i'r diweddar J. Wilson, postfeistr Nevin, a chyfnither i Mr. L. Wilson Roberts (Gwas y Gog), Abermaw, a'r brodyr Wilson Roberts, y masnachwyr te 0 Lerpwl. Cym- rwyd ei weddillion marwol i orffwys mewn hedd ym mynwent Nefyn. Cychwynnwyd o orsaf Lime Street am 8.30 fore dydd Mawrth diweddaf, ac yr oedd nifer luoosg wedi ymgynnull i dalu'r deyrnged olaf iddo Y Parch. W. 0. Jones, B.A., a blaenoriaid Merton Road, yn mynd gyda'r gweddillion, ynghyda'i weddw, ac eraill. Trefniadau'r angladd yng ngofal Mro P. Lloyd Jones, Stanley Road.Cyfaill.