Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

DYDDIADUR.

iyhoeddwyr y CymodI

Advertising

Y CYFAHFOO MISOL.J

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y CYFAHFOO MISOL. J Cynhaliwyd Cyfarfod Pedwar-Mlsol yn David Street Chwefror gfed. Am 3.36 cyfarfod y Pregeth wyr, dan lywyddiaeth y Parch. R. Aethwy Jones. M.A. Caed trafodaeth ar Atbrawiaeth Cospedigaeth. Agor- wyd gan y Parch. R. R. Hughes, B.A. Yr oedd eglwys David Street wedi gwahodd holl aelodau'r Cyfarfod Misol i de am 5. Daeth cynulliad da ynghyd i fwynhau'r danteithion. Diolchwyd i'r eglwys ac i'r chwiorydd am eu llafur gan y Parch. R. Aethwy Jones, M.A., a Mr. J. C. Roberts, Walton y Parch. D. D. Williams yn cydnabod. Cynhaliwyd Cyfarfod y Blaenoriaid am 5, dan lywyddiaeth Mr. John Williams, Wigan, yn absenol- deb y llywydd dewisedig, Mr. Joseph Bellis. Caed rhydd-ymddiddan ar Pa ddefnydd ddylai'r eglwysi wneud o'u hyegoldai a'u hystafelloedd i gyfarfod ag anghenion ein pobl ieuainc yn eu horiau hamdden." Arweiniwyd gan Mri. Hugh Lloyd, Seth Roberts, a Hugh Evans. Nid oedd gan yrun o'r brodyr weledig- aeth eglur y gellid dim yn effeithiol yn amgen i'r hyn a wneir. Galwodd Mr. Hugh Lloyd sylw at y daioni mawr a ellid wneud pe bae gennym ystafell ynghanol y dref, un anenwadol, math o fan cyfarfod i'w gweithia ar linellau'r Y.M.C.A., a disgwyliai weled hyny'n ffaith rhyw ddiwmod. Am 6.30, Cyfarfod o'r Gweinidogion a'r Blaenor- iaid y Ilywydd, y Parch. J. H. Morris, yn y gadair. Pasiwyd i anfon cydymdeimlad y Cyfarfod Misol a'r rhai canlynol: Mr. John Williams, Southport, yn bur wael; Mr. Morgan Jones, Spennymoor, wedi cyf- arfod a damwain Mr. T: J. Thomas, Chatham Street, yn wael; tri o flaenoriaid David Street, Mri. John Jones, David Jones, a Thomas, yn absennol oherwydd Hesgedd a gwaeledd. Galwodd y llywydd ar y Parch. R. Aethwy Jones, M.A., i ymddiddan a blaenoriaid David Street, a datganodd lawenydd y Cyfarfod Misol wrth weled Mr. Jones yn bresennol. Diolchodd yntau i'r Cyfar- fod Misol ac i'r eglwysi am eu caredigrwydd iddo, gan obeithio fod ei waeledd yn ei gymhwyso i fod yn wel] gweinidog. Cafwyd profiad aeddfed a thine siriol ynddo, fel y dywedai y Parch. R. Aethwy Jones, gan y pedwar blaenor oedd yn bresennol. Cafwyd hanes yr Achos yn David Street gan Mr. John Williams. Ym Mehefin 1909 y bu'r Cyfarfod Misol yma o'r blaen. Collasom bedwar o flaenoriaid, a dewiswyd tri er hynny. Ymadawodd ein gweini- dog, y Parch. John Roberts. Adnewyddwyd y capel, ac aed i gost bur fawr; mae'r holl ddyled wedi ei thalu. Galwyd y Parch. D. D. Williams yn weinidog, ac mae ei ddyfodiad yn dwyn ffrwyth. Rhif yr eglwys ar ddiwedd 1909 oedd 562 ar ddiwedd y flwyddyn ddiweddaf yr oedd yn 566. Cynygiodd y Parch. R. Aethwy Jones benderfyniad ein bod yn llawenhau wrth weled y llwyddiant sydd ar yr achos. a'r ynni sydd yma i gario gwaith yr Arg wydd ymlaen. Pasiwyd, a chaed gair gan y Parch. D. D. Williams, gan alw sylw fod un o'r swyddogion-Mr. John Thomas-er wedi pasio pedwar ugain oed, yma dair gwaith y Sul. A bydd yn peidio a myned at ei fusnes ddydd Iau fel y gallo ddod i'r seiat. Darllenodd yr ysgrifennydd adroddiad pwyllgor yr ymweliad a'r eglwysi, i ddechreu Mawrth 2 ac i barhau hyd ddiwedd y mis. Mater: rmostyngiad gerbron Duw yn wyneb yr amgylchiadau presennol (lago iv, 7). Pasiwyd. Darllenodd yr ysgrifennydd lythyr oddiwrth ysgrif ennydd y Gymdeithasfa, yn dweyd fod Mr. Enoch Rogers ar dir i gael ei ordeinio, os bydd y Cyfarfod Misol yn cymeradwyo. Pasiwyd yn unfryd. Hysbysodd y Parch. E. J. Evans nad oedd adrodd- iad y Gronfa Fenthyciol yn barod, ac fod anhawster i'w gael yn barod. Hysbysodd y Parch. R. J.-Williams fod anerchiad y llywydd (y Parch. J. H. Morris) yng Nghymdeithas- fa Beaumaris, wedi ei argraffu, ac y rhennir ef yn yr eglwysi. Galwodd Mr. Stephen Roberts sylw at y pwysig- rwydd o yswirio'r capelau rhag yr awyrlongau. Mr. Robert Roberts, Y.H., a ddywedodd iddo weled y Prif Gwnstabl mewn perthynas i'r goleuni. Gofyn- nodd iddo a oedd yn angenrheidiol i'r gwasanaeth derfynu am 6.30. Dywedodd na chaniateid i'r goleu lewyrchu gormod i'r heol, rhaid gwneud rhywbeth i dywyllu ychydig ar y ffenestri. Dywedai y Parch. R. Aethwy Jones ei fod ef yn deall y bydd raid rhoi'r goleu allan 6.30. Cynygiodd ein bod am fis yn dech- reu gwasanaeth yr hwyr nos Sul am 5, a dibennu am 6.30. Mae blinds ar yr ysgoldai, a gallwn gynnal y cyfarfodydd yn yr wythnos yn hwyrach. Bydd y dydd wedi estyn digon erbyn yr ailiSul ym Mawrth, a gallwn fyned yn ol i'r hen drefn. Cefnogwyd gan Mr. J. C. Roberts. Am 7.30, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus. Mater: Treialon yt Eglwys yn gyfle i godi i dir uwch mewn cymeriad a gwasanaeth, seiliedig ar Luc 21, 19. Y Parch. W. M. Jones, Mr. Wm. Pritchard, a'r Parch. John Owen yn annerch.

Heddyw'r Bore I

Advertising

DAU rü,'li AFOIM.