Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Advertising

Advertising

Trem!.—Ffenestri Tywyll.

Tram li.-Diafol ar Frys.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Tram li.-Diafol ar Frys. Mae Germani'n ein bygwth, unwaith eto, » dialedd newydd o wybr a mor. Mae hi'n alluog, ebe hi, i wneuthur difrod digyffelyb ar ein llongaumasnach, a'r mis nesaf y bwr- iada ddangos hynny. Tybiem ni, fel y tybiai y cyffredin o bobl, ddarfod iddi wneuthur ei goreu i dagu morwriaeth atforol ac allforol ei^ Hynys. Hi a wnaeth lawer yn ddiamheuob ond nid dim byd tebyg i'r hyn a addawodd, canys llwyddodd Lloegr i ddala lluaw8 o'i suddlongau, ac atal rhwyeg ei rhuthr yn gyffredinol. Er hynny, ynf yd fyddai tybio fod ei chyfundrofn a'i "suddlongau wedi ei dihysbyddu, ac nad all roi cyfrif erchyll o'i grym cyn hir. Arfer Germani, ar dir, mor, ac awyr, yw cymryd ysbaid o amsor i baratoi, ac wedi hynny ruthro allan, gan geisio synnu'r byd a rhamant disglair. Cymharol dawcl yw ei suddlongau era tro bellach, a gall mai ar- wydd yw hynny o'i bod unwaith eto'n paratoi ar gyfer rhuthr. Heblaw hynny, digon tebyg fod ganddi erbyn hyn nifer o 'suddlongau newydd, a mwy offeithiol yn ddiau, na dim fu ganddi o'r blaen. Ni fedrwn gredu mai byg- ythiad gwag yw ei heiddo. Cyn y nodasai amserei hymosod, hawdd y cred wn fod gandd i ddarpariaeth helaeth a grymus, a hyder yn effeithiolrwydd y ddarpariaeth honno. Cred o'r dechreu yng ngallu ei suddlongau, ac ni all nad yw wedi gwneuthur y defnydd goreu o'r flwyddyn a hanner a aeth heibio i'w hamlhau a'u perffeithio. Ond nid yw'r suddlongau eithr rhan o allu Uyngesol y gelyn, ac mae'r neb a d^b fod y longau a geidw yng Ngham- las Kiel yn rhydlyd eu magnelau'n agored i ysgytiad gerwin, ryw fore. Gall, yn wir, nad yw'r bygythiad 4'r suddlongau ond arwydd o symudiad helaethach, canys mae hi weithiau yri cyflym nesu i bwynt pan wesgir y gelyn i geisio'n taro a'i holl nerth ar y mor. Rhaid iddo,antu,pio rhywbeth mawr cyn hir. Prin y gall neb gredu y bydd iddo wynebu ein Llyng- es ni ymhob pwynt, ond efallai mai ei ymgais fydd ymosod ar adran o'n Llynges ni, gan obeithio ei dinistrio, a chael nifer o'i longau rhyfel taawrion drwodd i F6r y Werydd. Nid oes le i amheuaeth nad yw'r Caiser yn ysu o awydd i daro Lloegr. Pe deuai ei longau rhyfel o'u llbches, fe ddeuai holl rym ei Zepelins a'i suddlongau'r un pryd. Pan dery Loegr, myn ei tharo a'i holl nerth, ar dir, mor, ac o'r wybron. Mae'r gnofa am wneu- thur hynny yng ngholuddion Germani, ac ni fydd lonydd heb wneuthur y cais. Faint bynnag ei gyfrwystra i gamarwain gyda golwg ar y cynllun sydd ganddo, ceir arwyddion eglur o iwriad y gelyn i ymosod d'i holl nerth. Rhaid addef nad oes gan Loegr, hyd yn hyn, yr un gallu awyrol hafal i'r Zepelin, nac ychwaith un offeryn effeithiol i'wchyrraedd oddi isod. Gwir na lwyddodd y Zepelin hyd yma i ennill fawr iawn mown ystyr filwrol, ond pair lawer o ddinistr ar drysor a bywydau, ac mown brwydr gallai ddod yn offeryn o gryn berygl. Wedi'r holl swn a siarad am ddarpar yn ei erbyn, mae'r teclyn erchyll hwn, fel rheol, yn dod trosodd, yn peri difrod, ac yn dianc heb ei ddal. Clywsom ers tro fod y Germaniaid yn ymgrynhoi i Belgium a Ffrainc. Dywedai rhai mai hysbysiadau camarweiniol y gelyn ei hun a gyhoeddai hynny. Beth bynnag, profwyd eisoes fod y Germaniaid wedi eu hatgyfnerthu yn y gorllewin, ac wedi taro'n drwm ar y Cynghreiriaid yno, yn enwedig y Prydeinwyr. Gwyddant o'r goreu fod amser yn ffafr y Cynghreiriaid, ac mai goreu po gyntaf y gallant hwy fod yn barod i symud i'w herbyn. Atgofir ni, unwaith etc, o eiriau-r Datguddiad, Gwae y rhai sydd yn trigo ar y ddaear a'r mor canys y diafol a ddisgynnodd atoch chwi, a chanddo lid mawr, oherwydd ei fod yn gwybod nad oes iddo ond ychydig amser."

I Trem IIL-Byddwch hyderus

Advertising