Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
YSlAFELL Y BEIRDD J
YSlAFELL Y BEIRDD J ayahrrchion gogyfer a'r golofn hon i'w oyf- eirw:PBDROG, 217 Piesoot Road. Liverpool Y Llong Danforol.-Y cyrch yn wallus. Edith Cavell.-Din-i ond y cyrch yn gwb ddidramgwydd o ran cynghanedd yn yr eng- lyn cyntaf a dim ond y llinell olaf yn yr ail- yn wir, gwall yw honno hefyd. Er Cof.-Rhy gyffredin o lawer, yn enwedig am wrthrych mor deilwng. Beth allsai fod yn fwy ystrydebol na hyn,- Heddyw cawn ar glawr y BRYTHON Hanes un nodedig iawn ? Y Gyllell Wair.-A. chyffelyb yw hwn,- A wnewch chwi, Mr. Vulcan, Roi min i'r gyllell hon, Fel gallwyf ladd pob German Sydd ar y ddaear gron ? Na. nid y N blinds Ystafell y Beirdd i lawr hyd yn hyn, ond yn y nos ac mae eu cael i lawr yn gweddu'n burion i ambell rigwm ddaw i fewn yma—heblaw'r rhigymau o'm gwaith i fy hun. Ple mae'r Caiser ?—Wn i ddim, wir, ac ni wyddoch chwithau chwaith. Pe cyhoeddid yr englynion hyn, ac iddo ddeall beth sydd ynddynt, ofnaf y buasai yntau yn ceisio'r bardd. Er fod yr englynion yn gynghanedd- ol, yn sicr ddigon maent yn rhy reglyd-rheg., feydd noethlymun sydd yma a rhaid inni beidio a dysgu plant Y BRYTHON i regi Y Pafod.-Rhyfedd i chwi wneuthur gwall mewn englyn sydd, ar wahan i hynny, yn rhagoro], a gwall mor hawdd i'w osgoi,- Ufuddaf was yw'r tafod. Paham na ddywedasoch Ufudd was yw y tafod ? CYMERADWY.-Mae nerthoedd y mynydd- oedd mawr, Y Rhyfel Presennol, Ap Qwyddon, Newid Fywyd, Syr Robert Peel, Cwyn Coll am E.M., Y Gannwyll, Yr Angor, Y Lwy Bren, Yr Hen Dderwcn, Llygad y Dydd, Y Tafod (wedi tynnu'r ddafaden wyllt honno ymaith), Ymson fy Mam, Ar Briodas Cyfaill, D. Lloyd George. Ac mae yma bentwr arall yn disgwyl eu nithio. I'M "CYD-FILWR" MOELWYN I MILWR," erioed, yw Moelwyn,-tynnu mellt O'i wn mawr Wna gelyn Deil bob herr a dewrder dyn,- Arwr iawnder, er undyn.-PEDROG. YRIODAS AP GWYDDON AG AWEN MONA. ANNWYL Ap, pwy a'i trapiodd ? sut y bu ? Ei ddenu oedd anodd Awen Mona yma wenodd, Ac elai i'r fagl o'i wir fodd. Y RHYFEL PRESENNOL. DYFERYN wedi ei fwrw—i'r llawr O'r Llyn o Dan hwnnw Mae'r Dwyrain firainyn ferw-weithion, A nifer y meirwon yn F6r Marw. J. J. TY'NYBBAICH. COFIO AR DDYDD CYFYNG CoFIR aelwydydd cyfain,—yng nghyfyng Ofid dydd wylofain Duw ry awel i druain, Ysig dront ymysg y drain. I oror wyw'r goreu'r ros,—o'i Wynfa, Enfyn Ef i aros Mewn eigion mae yn agos, A thraidd ei nerth wraidd y nos. Amledd o falm i wylaidd fod *a ddaw, Ar ddydd o ymosod 1, Heb ei hurio ca barod ■ Adnoddau Duw iddo'n dod Trwy y storm sy'n ein tristau,-rhydd lor Ei dda drugareddau Mae'i law o hyd yn amlhau Diddanwch ei rad ddoniau. Y dagrau sy'n gwau'n y gwynt,—i nef lor, Diferion o emrynt Tanbaid drueiniaid ar hynt, Diolchiadau'i lwch ydynt Penmachno R. LLOYD JONES EIN CARTREF GYNT. Y BWTH sy'ng ngodreu'r mynydd mawr A edrych tros y fro, A changau'r onn yn cwympo i lawr I orffwys ar ei do, A'r graig tu cefn yn siomi'r gwynt Ein cartref dedwydd ddyddiau gynt. 0 flaen ei ddrws mor brid yr ardd Fel Eden yn y coed, Ond trwy ei glaswellt iraidd, hardd, Ni cherddodd sarff erioed A thros ei llwybrau'r llawrwydd gwyrdd A blyg mewn boneddigaidd urdd. Cterllaw mae llyn, sydd lyfn a glain, Ac o'i gylch goedydd ir, A'r haul bob bore gwymp y rhain I'w ddyfroedd gloew, clir A phistyll bach yn murmur cerdd 0 flaen ei ddrws, is ywen werdd. Ni chawn o fewn y lannerch ddawn Celfyddyd yn ei bri, Ond yno anian bur a gawn Yn ei swyn pennaf hi; Per sain y ffrwd, a swn y gwynt, Y swyn ein Cartref ddyddiau gynt. Fy chwaer, a gawn ni fynd yn ol I'r hen baradwys dlos, Pan ddaw yr haf ali fill i'r ddol, A'i lygad dydd a'i ros ? Mae yno rywun, vv-yddost ti, A'i groesaw'n dda'n ein disgwyl Ni. jDolgellau EDNANT I
Advertising
EVERY WOMAN, bouLD send sWn'ps for our 3p&ge Illustrated Book ctmtainmg valuable information how all IrregulMitiet and S?preMioM may be entirely avoidd%rg?e=.d ?yaimplemeana. Recommended by emuMntPhymcant) tz,Y? =L,u?,4, mV Sure and Senuine Remedy Neve: ? Thousands of Testimonials. Established 1862. Mr. PAUL BLANCHARD Beim»nti$taBte,f.Dal«ton Luw, LONDON
Basgedaid o'r Wlad. -1
Basgedaid o'r Wlad. -1 I .-O'R DE. I PORTH, CWM RHONDDA.-Nos Iaua nos Sadwrn (Ionawr 27 a'r 29) cawsom y fraint o wrando perfformiad dau waith o eiddo cerddor Cymreig, sef Deffro, mae'n ddydd a Rejoice in the Lord, yr Afchro D. Evans, Mus. Doc., Caerdydd, gan Gymdeithas Goraul Bethania (B.), Porth, yng nghapel y Taber- nacl. Anaml iawn y clywir perfformio gwaith cerddorion ein gwlad yn y parthau hyn gwell gennym gyrchu dwr dros afon, ac afon- ydd mawrion tryloew yn Ilifo o dan riniog ein tai. Cymrwyd geiriau'r dernyn Saesneg o'r Ysgrythyf Lan, a chyfansoddwyd geiriau'r dernyn Oymraeg gan Ddyfed. Axweinydd y cor yw'r Bonwr Tom Thomas, L.R.A.M., A.R.C.M., y cerddor a'r Athro Llais adna- byddus o'r Ynyshir. Y mae efe bellach yn enwog, ymysg cerddorion Cymru, fel awdur- dod yn ei faes, ac y maent yn gyfarwydd a'i erthyglau meistrolgar ar y gangen hon yn y Cerddor. Da y gwnaeth Bethania yn rhoddi inni y fath wledd. Nid antur fach oedd ym- gymeryd a'r gwaith, oherwydd hwyrfrydig iawn yw ein Cymdeithasau Corawl i canu cyfansoddiadau Cymry. Paham y mae felly, nid hawdd inni ateb. Gofyn y wlad i'w meibion gael eu He priodol ar orsedd calon y genedl, ond mor ddibris ydym i wrando ar lais ein gwlad. Cafwyd prawf amlwg o hynny yn y cyngherddau hyn. Cyhoeddwyd agor y drysau am saith ar y gloch, ac er cyrraedd ohonom ni am ddeng munud wedi saith, yr oedd y capel enfawr eisoes yn orlawn ac ugeiniau wedi eu siomi. Onid yw'n hen bryd inni ddeffro o'n cysgadrwydd a gwerthfawrogi talent meibion ein gwlad ? Rhoddodd Beth- ania arweiniad da i Gymdeithasau Corawl y Rhondda hyderwn y dilynir hi gan liaws eto. Y peth pennaf parthed y perfformiad hwn ydoedd mai perfformio gwaith Cymro a wnaed. Eto gwelwyd ffaith ddiddorol arall, sef absenoldeb enwadaeth gul. Er mai Cymdeithas o dan nawdd yr eglwys Fedydd- iedig yw hon, Methodistiaid oedd y cvfansodd wyr ac Annibynwyx- oedd y llywyddion dewis- edig. Hapus y syniad, onite ? Rhagflaen- wyd gweithiauV Dr. Evans gan ganeuon gan y prif gantorioll Miss Blodwen Lloyd, R.C.M. (Porth); Miss Annie Williams, Coleg Caer- dydd (Porth) a Mr. D. Price Howells (Porth). Methodd y tenor dewisedig, Mr. Tudor Da vies, R.C.M., Llundain, a dod yno, gan ei fod wedi ymuno a'r Llynges Brydeinig, a gwrthod o'r awdurdodau ei ryddhau. Cy- merth Miss Lloyd at ei unawdau of, a Mr. Tudor Williams at ei waith yn y triawd a'r pedwarawd (Rejoice in the Lord). Cynorth- wywyd y cor gan gerddorfa Mr. Percy Smith, a chyfeiliwyd gan Mr. D. J. Evans o Goleg Caer- dydd, a Miss Ceinwen Williams (Porth). Cafwyd cyngherddau anarferol o dda, a ddengys fod yr arweinydd a'r c6r wedi llafurio yn galed, gan gyd-dynnu nes cyrraedd pinacl uchaf llwyddiant. Dymunwn longyfarch Mr. Thomas ar ei fedr yn paratoi ei gor mor berffaith erbyn dydd y praw, a hefyd ar goethter a chyfoeth lleisiol y datganwyr. Hyderwn nad yw hyn ond dechreu, ac y par- heir eto am flynyddau lawer. Y mae'r garreg sylfaen yn gadarn, disgwyliwn weled adeilad addurnol. Melys, moes mwy." LLITH GLANN AU AFAN Arthur yn Gyfodi.—Dyna destyn darlith Mrs. Silyn Roberts, B.A., y Barri, gerbron Cymrodorion Margam a Dyffryn Afan, y 15fed cyfisol, Ychydig gafwyd o ramant bywyd Arthur, yn hytrach aeth a ni yn naturiol a chartrefol iawn at ystyr sylweddol y rhamant a'i alegori, gan ddehongli yr hyn a olygai'r syniad Arthur yn cyfodi mewn cysylltiad a ni fel cenedl a Chymry unigol. Profodd Mrs. Roberts ei bod yn deall cenadwri ei thestyn, ac ni ofna ei thraetht,n fddifloesgni,.er y golyga hynny iddi fyncgi llawer o'n diffygion fel cenedl. Siaradai a flflam wladgar yn gloewi ei llygad, a'r llygad hwnnw yn edrych ar y rhai a anerchai, ae nid ar bapur. Yr oedd yn amlwg ddigon fod y cynhulliad astud oedd yn gwrando arni yn cael ysbydiaeth, ac awydd newydd i fod yn fwy ymdrechgar nag erioed i gynorthwyo Arthur i gyfodi. Llywyddwyd gan Hyfreithon, a thalwyd diolch gwresog i Mrs. Roberts gan Mrs. W. Thomas, Aberafan, merch Mr. Phylip Thomas, y lienor gwladgar o Gastellnedd, a chefnogwyd gyda'r un hwyl Gymreig gan Mr. John Phylips-gwraig yr arweinydd corawl enwog o Aberafon. Wrth gydnabod y diolch, mynegodd Mrs. Roberts mai'r Gymdeithas hon oedd y fwyaf a'r Gym- reiciaf a fu yn annerch erioed, a dyna farn pob darlithydd a gawsom ar hyd y tymor. Mae I darpariadau ar waith gan bwyllgor y Gym- deithas i gael ymgomwest nos Wyl Ddewi yrgwrgwahoddedigfeleni fydd Penar, cofiann- ydd Watcyn Wyn.— Ysbryd Siencyn Penhydd. 2.-0'R GOGLEDD. I Cairo Fon- I MARW YNAD.—Ymdaenodd braw drwy dref Caergybi ar ledaeniad y newydd o farw Sydyn Mr. R. J. Edwards, fu am oddeutu 40 mlynedd yn rheolwr y London City and Mid- land Bank, ac fel Edwards y Bane yr adweinid ef drwy'r dref a'rYnys yn gyffredinol Ganwyd ef yn Abergele yn 1849. Dechreu- odd ei yrfa fel bancer yn Ninbych. Codwyd ef i rfainc ynadolyn 1899 ac wedi marw Mr. Forcer Evans, gwnaed ef yn gadeirydd. Yr oedd yn saethwr a physgotwr dan gamp, yn Gymro gwladgar, yn Eglwyswr selog, ac yn wr da, cymwynasgar, a chymeradwy gan bawb. Claddwyd ef ym mynwent St. Seiriol. MARW BARDD.-Wedi wythnos o gystudd daled, bu farw Mr. John Williams (Alawfardd), Llanfachraeth, yn 68 mlwydd oed. Yr oedd yn llenor medrus, ac yn fardd awenyddol. Cyfrannodd yn helaeth i'r wasg newyddiadur- 01" a chyfoethogodd y prif gylchgronau ag ysgrifau blasus agwerthfawr, ac a, chaneuon 11awn teimlad a swyn. Diau nad oedd yy M6n hynafiaethydd mwy ymchwilgar, nac Eisteddfodwr mwy selog a chymeradwy. Nodweddid ei gymeriad gan addfwynder a thawelwch dymunol. Heddwch i'w lwch. MARW ALAFON.—Parodd y newydd o farw Alafon brudd-der drwy gylchoedd llenyddol yr Ynys. Yr oedd yn wr a anwylidgan bawb. Gwasanaethodd fel beirniad yn Eisteddfodau y sir, ac edmygid ef ar gyfrif ei gymeriad hardd a'i foneddigeiddrwydd Cristnogol. Mae un o feirdd yr Ynys, Hywel Cefni, wedi llunio pennill nodweddiadol o'i gymeriad :— I Mae'n all over am wenau Alafon- Anwylyd y genedl, hud ei geinion Ydoedd wych ei allu, di-ddichellion,— Yn byw'n y golwg ddiben ei galon Negesydd y da' gyson,—dirodres, Duwiol ei hanes, a di-elynion. CWMNI DRAMA LLANGEFNI.-Dyma gwm- ni sydd wedi esgyn yn gyflym i boblogrwydd. Y flwyddyn hon y maent wedi rhoddi dau berfformiad o'r ddrama Ar y Groesffordd i gynulliadau lluosog yn Neuadd Dref Llan- gefni. Yr wythnos ddiweddaf, llannwyd Neuadd Dref Caergybi hyd yr ymylon 0 wran- dawyr astud, a chawsant foddhad anghyffred- in. Yr oedd y llwyfan a'r golygfeydd wedi eu trefnu'n foddhaol a'r actio yn arddangos talent ddisglair a chwaeth uchelryw. Y mae yr enwog Ap Harri yr un o'r cwmni, ac yn cymryd rhan amlwg, er difyrrwch dirfawr i'r cynulliadau. 0 FAES Y GWAED.-Wedi gwasanaethu'r Fyddin fel meddyg am dros flwyddyn yn Ffrainc a mannau eraill, mae Dr. Llewelyn Jones, Llangefni, wedi dychwelyd yn ol, a dechreu ar ei waith fel cynt yh y dref. YN GAPLAN.—Mae'r Parch. A. Rees Morgan, gweinidog eglwys Bedyddwyr Seis- nig Caergybi, wedi ei benodi yn gaplan yn y Fyddin Gymreig. Ganwyd ef yn Nhreborth, gerllaw Abertawe. Addysgwyd ef yng Ngholegau Caerfyrddin a Bangor. Mae'n weinidog gweithgar a llwyddiannus. MARW YN YR AMERICA.—Dyna hanes Mair Mon, genedigol o Amlwch, a phriod i weinidog ym Mlossburg, Pennsylvania. Enill- odd safle uchel fel cantores pan yn ieuanc, a gelwid yn fynych am ei gwasanaeth ym. mhrif gyngherddau'r wlad. Mae ei mam eto'n fyw, ac yn 80 mlwydd oed. Dyma englyn hapus o eiddo'r bardd awen- ber Gwilym Berw, rheithor Abergynolwyn, i Neuadd Syr John Pritchard Jones, yn Niw- bwrch Ernes o Iwydd yr Ynys lan—a'i moes Fel mam Cymru gyfan Uchel lys celf, ac achles can, Yw Neuadd y Barwn loan. LLEWELYN [Dowch bob wythnos, y Llewelyn llengar a chyfarwydd .-GOL.]. PENRHOSGARNEDD, GER BANGOR. —Ni all neb ddweyd fod. trigolion Penrhos- garnedd yn hollol fyddar i alwadau eu gwlad yn yr efrgyfwng presennol. Rhoddodd lu o'i meibion dewr i'r Fyddin, ac yn ddiweddar rhoddodd Cwmni Draroa'r Ile ei wasanaeth yn nwylo'r Groes Goch. Perfformiwyd drama boblogaidd Serch Hudot ym Mangor a'r Faenol a sicrhawyd swm sylweddol i'r Gymdeithas ardderchog honno. Yn ol tystiolaeth beirn- iaid galluog, pe wedi anturio i'r maes, nid oes amheuaeth na welsid y cyfeillion hyn ymysg pigion y gystadleuaeth genedlaethol. Os llwyddir i gadw'r Cwmni ardderchog hwn yn gyfan am ychydig flynyddoedd, diau y bydd galw mawr a mynych am ei wasanaeth. LLANDDULAS. Rhoddodd eglwysi M.C. Llanddulas a Llysfaen alwad uifryd i Mr. T. W. Thomas, Disgwylfa, Ebenezer, Arfon, i'w bugeilio. Ac er mawr foddhad yr eglwysi, y mae ntau wedi ateb yn gadarn hao1. Dymunwn fendith yr Arglwydd ar yr uniad W. BETHESDA Cyngerdd Bethania.-Ed- rychir ymlaen yn galonnog yn yr ardal a'r cylchoedd at y cyngerdd a drefnir gan deulu Bethania: (A.). Eleni y cantorion enwog can lynol a. wasanaethai soprano, Miss Nellie Evansj R.A.M. (chwaer Madame Laura Evans Williams)—diau y daw Miss Evans i safle uchel fel cantores, ac y bydd galw mawr am ei gwasanaeth. Y tenorydd oedd Mr. T. Egryn Humphreys, enillydd y wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor wedi ei glywed, nid ydym yn rhyfeddu iddo gipio'r llawryf. Baritone: Mr. Emlyn Davies, A.R.C.M. mae ef o flaen y eyhoedd ers llawer blwyddyn er hynny nid yw yn heneiddio o gwbl. Sylwodd yr arweinydd nad oedd yr un blewyn gwyn ar ei ben nac ar ei lais. Efe oedd ffefryn y gyn- ulleidfa. Credaf ei fod yn canu'n well nag erioed. Os oes rhywun yn ameu, rhodder cyfle iddo brofi fy mod yn dweyd y gwir. Cyfeiliwyd yn feistrolgar gan Bencerddes Arfon a chafwyd unawd ar y berdoneg ganddi, a deuawd campus ganddi hi a'i chwaer -Miss Hannah Eardley. Mae'r pwyllgor yn sicrhau gwasanaeth y Bencerddes ers blyn- yddau, a hynny'n profi ei gwerth. Deiniol Fychan oedd yn arwain ac yn adrodd, a Mr. Caradog Rees, A.S., yn gadeirydd. Da gennym ddweyd iddo ddyfod yn unswydd o Lundain i gadw'i gyhoeddiad. Rhoed der- byniad croesawgar iddo, a rhoes yntau anerch- iad rhagorol, a phrawf o'i gydymdeimlad ag I amcan y cyngerdd. Diolchwyd gan Mr. W. J. Parry, Llys Coetmor John Jones, Y.H., a llywydd y pwyllgor-Mr. D. Pennant Evans. Yr ysgrifennydd gweithgar oedd Mr. M. Hughes, Tan Lttn. Darllenwyd yr englynion canlynol gan Mr. Ben Jones i'r cadeirydd :— Gwr hir o riniau siriol :—cawr ydyw Ein Caradog ddoniol Gwr o ddysg garodd ysgol, A than y gwaith yn ei gol. Gwr dewr roes res o gewri—'r etholaeth I wylo yn ddifri' Rhai yn llesg a'u dagrau'n lli, Eraill fwynhaent y miri. Diau trwy'i ddawn o'r diwedd-fe ddringodd Ryw angel i'r Senedd Fe dyfa hwn hyd ei ,Aedd-yn ddyn crwn Ry' angau i bwn gwreng a bonedd. EBENEZER, ARFON.-Nos Sadwrn ddi- weddaf, o dan lywyddiaeth Mr. H. Ariander Hughes, banc, Llanberis, rhoddodd C6r Un. debol y fro, o dan arweiniad Mr. Wm. Lewis, berfformiad o gantawd Dafydd y Bugeil-lanc. Cynorthwyid y Cor gan gerddorfa effeithiol,. a rhoddwyd gwledd o'r radd uchaf i'r rhai oedd yno. Diddorol oedd gweld cynifer o filwyr wedi dyfod adref i gy-mryd eu lie yn y c6r, heblaw y dynion oedd wedi mynd weithio i Lerpwl. Mwynhawyd canu rhag- orol gan gynulleidfa fawr. O'r Hen Sir, sef Sir Fou. -1 Bu'r Parch. R. B. Jones, y Porth, yng nghapel y Bedyddwyr yn Amlwch am ddwy noson yntraethu i gynhulliad mawr,ahynny gydag angerdd a difrifwch anghyffredin. Proffwyd fel Elias yw efe, a difrifwch a sobr- wydd y Farn ar ei wyneb, ac yn mynegi y caswir wrth ei oes, ac nid yn ffals-ragritjhio wrthi ei bod yn gwella ymhob dim. Mo edlym ei air nad ydyw eglwysi'r wlad heddyw cystal ag oeddynt chwarter canrif yn ol Gresyn na chaem ni fwy o ddynion tebyg iddo i ddweydy gwiryn ddifloesg wrthjwyresmwyth y clustogau melfed, ac nid eu suo i gysgu.- Yn Armenia, Caergybi, mwynhawyd gweini- dogaeth y Parch. H. Harris Hughes, Lerpwl, a J. Roberts, Rhyl.-A'r llong Rathmore ar gyrraedd y lan yng Nghaergybi yr wythnos ddiweddaf, digwyddodd i deithiwr ar ei bwrdd syrthio i'r dwfn, a cheuodd y don amdano. Aeth i dragwydddoldeb heb neb yn gwybod dim o'i hanes, na chymaint a'i enw.Daeth deigr hallt i lygad llawer Monwyson wrth ddarllen llythyr tyner a chyffrous ei ddisgrif- iad o eiddo'r Parch. Llywelyn Lloyd a'i gymrodor,L. Samuel Jones, o faes y gyflafan yn Ffrainc. Efe'n gweinyddu yn angladd y ddau athro ieuane a dewr o Gaergybi a ladd- wyd gan y belen a thrymed gawod dan y gelyn fel y gorfuwyd ffoi i ymguddfan cyn gorffen y gwasanaeth ac yno, yn yr ogof, yn lie a lan y bedd, y canwyd yr hen emyn Bydd I myrdd o ryfeddodau, etc. Cyfyng fu diangfa Llywelyn Lloyd ei hun shell yn disgyn i'w ymyl, ond i bwll o ddwr arhoddai ef y diolch am hynny i weddiau hen saint yr Ynys drosto.-A dyna lythyr diddorol a dder- byniodd athro Llanfachraeth oddiwrth ei nai (Awstin) o Ddwyrain Affric, yn disgrifio ei gyflxr a'i fyd peryglus, yng nghanol llewod a llewpardiaid, a'r scorpion, a phryfetach gwen- wynig eyffelyb yn eu colynnu mor enbyd ddydd a nos. Yr hyena'n gwibio heibio, a digon o nerth a llymder yn ei ddannedd i dorri clun mul ymaith ag un brathiad a'r anghen fil hyll, y rhino, a'i drwyngorn yn croesi i'r camp a chan wytned ei groen, y fwled yn mennu dim arno. Dyna ddioddef y mae rhai o I flodeu hawddgaraf ein cenedl.—Llygad Agored
IMILWYR A MORWYR I -CYMRU.-I
I MILWYR A MORWYR I CYMRU. I Cymry Ame, ica ar Cynllun Cenedlaethol. Cenadwri rat y Cadfridog Owen I Thomas. DDYDD Sadwrn, cafodd y Cadfridog Owen Thomas y llythyr canlynol gyda'r cable oddi wrth Gymry America o berthynas i'r Cynllun Cenedlaethol i ddiogelu buddiannau milwyr a morwyr Cymru :— At y Cadfridog Owen Thomas, Llywydd Byddin Cymru, Pare Kinmel, Gogledd Cymru. ANNWYL GADFRIDOG THOMAS,—Dymuna Cymry Chicago, gan fynegi teimlad cannoedd o filoedd o'u hiliogaeth yn yr Unol Daleithiau, roddi croeso cynnes i'ch Cynllun Cenedlaethol er diogelu buddiannau milwyr a morwyr Cj m ru a'u teuluoedd dros adeg y rhyfel ac ar ol hynny. Llongyfarchwn chwi ar ddyfeisio cynllun sydd mor wladgar a dyngar, a'r hwn, yn ei amcan cyffredinol yn ogystal agyn ei fanylion neilltuol, sydd yn corffori y goreu a'r uchaf yng nghenedlaetholdeb y Cymry. Dangosodd Cymry'r America eisoes, drwy gyfraniadau gwirfoddol a sylweddol at Drys- orfa Angen y Rhyfel yng Nghymru, ac mewn dulliau eraill, eu bod yn gwerthfawrogi yr aberthau mawr a wnaeth Cymru ar ran dynol iaeth yn gyffredinol. Yn y ffeith fod 200,000 o arwyr Cymru wedi cynnyg eu gwas- anaeth i'w gwlad er amddiffyn hawliau a rhyddid dyn yn yr argyfwng hwn a ddaeth ar y byd, gwelant fod Cymru heddyw yn parhau i fyrovesu y cariad hwnnw at ryddid a roddodd fod i'r Unol Daleithiau, ac sydd, er toriad cyntaf gwawr hanes, wedi hynodi Hil Gomer mewn modd arbennig. Amlygwyd y nod- wedd genedlaethol hon yn ymdrechion Cymru am annibyriiaeth yn y Canol Oesoedd, yn ogystal ag yng nghyhoeddiad Annibyniaeth yr America, gweithred a arwyddwyd gan gynifer o Gymry enwog, enwau ac actau y rhai a anrhydeddir hyd heddyw gan y byd gwar- eiddiedig. Mae gofynion amhleidgarwch cen edlaothol o angenrheidrwydd yn gwahardd i'n dynion ieujiinc yn y wlad hon gynnyg ou gwas- anaeth i chwi drwy ymuno a byddin odidog Cymru, yr hyn y byddai miloedd lawer o Gymry ieuainc yr America yn falch ogael gwneud. Ond nid yw, ac nis gall, gofynion amhleidgarwch wahardd i ni amlygu'r balch- ter cenedlaethol sydd yn cynhesu ein calon- nau, yn bersonol ac yn gymdeithasol, wrth ganfod yr ateb goddiog a roddodd bechgyn o'r un gwaed a ni yn Hen Wlad ein Tadau i alwad angen ein gwlad. Cas gwr na charo'r wlad a'i maco." Celtic hearts can never fail When Cambria calls To Arms Nis gall unrhyw ystyriaethau cyd-genedl- aethol ychwaith ein hatal rhag gwerthfawrogi ac amlygu ein hedmygedd uchel o'r Cynllun cenedlaethol a gwladgar mawr a osodwyd ar droed gennych chwi er budd a lies y rhai hyn- ny o'n cyd-genedl ar dir a mor sy'n cadw i fyny mewn modd mor odidog heddyw draddod- iadau goreu gorffennol ein cenedl. Nis galIwn ond gofidio fod ehangder Môry Werydd yn ein rhwystro i ddanfon, fel y dymtinasem, gynrychiolwyr i'ch cynhadledd genedlaethol, a hawlio lie i Gymry'r America ar eich pwyll- gor cenedlaethol. Os caniata'r amgylchiadau i chwi ddanfon dirprwyaeth o'ch pwyllgor cenedlaethol i'r Cyfandir hwn, gallwn eich sicrhau y cant dderbyniad croesawus a chynnes, acy ca eu hapel wrandawiad llawn o gydymdeimlad gan ddisgynyddion American- aidd yr hiliogaeth wareiddiedig hynaf yn y byd. Yn yr hyder cryf y bydd i'r Cymry ym mhedwar ban y byd gadarnhau'r syniadau a amlygir gennym uchod, ac y bydd i Dywysog- aeth Cymru yn arbennig, yn ei gwerin a'i bonedd, roddi i'ch mudiad ardderchog y der- byniad calonnog a'r gefnogaeth sylweddol a haedda, ac am yr hwn y gweddiwn.—Wyf, yr eiddoch yn wladgar, DAVID T. HARRIES. Llywydd Gymdeithas Cymry Chicago. 635 So. Elmwood Avenue, Oak Park, Chicago, Ill. 19 Chwef. 1916.
Advertising
r Am Gacenau Poslefon I'wdln, a ^ies I I BORWICK'S I ^BAKING POWDER. | omm mi 1 W. & J. VENMORE9 Estate Agents & Volueri- 200 SCOTLAND Ri), tiverpsi bLwPJ!lOU Ko 4216 Royal (S lines). ALLAN "teff LINE To CANADA LIVERPOOL, GLASGOW, LONDON & HAYRB TO CANADA, NEWFOUNDLAND & VSA. ALLAN'S, 19 James St., Liverpool; 14Cockspor St., S.W., and 103 LeadeithaH St., London, B.C. 6. W. BlGHESjQ- & L.T.S c (Antatoodd graso p, Ughaptl M.O, p"aø')t Arweinydd Cymanfaoedd Canu, Beirniad, ac Arbolwr. Parotoir Ymgeisnoyr at Dytyagrifav uusehat Coleg y Solffa, Hen Nodiant a Solffa, 70 KINGSLEY ROAD LERP* J. Lloyd Jones, & Co., TATB AGENTS he 6 Lord Street. Liverpool .1.11,0.. au SAMK DIM TALU YMLAEBT LLAW. ARIAN YN FENTHYG. (yn ddistaw bach). mewn symian bach neu fawr (heb fed llai na £ 10) AB ADDAWEB Y BEJvTHYCIWR El BU. BEFYDLWYD ERB 45 MLYNEDD. ac yn awr yn rhoi iCB0,000 YN FENTHYG BOB BLWYDDI* Am daflen a theleran ymolynner a George Payne a'i Feib., S Crescent Road, Rhyl, a 16 School Lane, Livsrppol, THE REAL WELSH CURE HAYMAN B ?)! o t tm   I BALSAM I t t WEUP,8 ? BESWCH ae ANWYD J ill Amhrisiadwy gyda ?AJ???. HR Poteli 1/3 a 31- 1 ill GAR OLL FFBRYLLWYR A GROSERC HI HARTLEY & GO., Liverpool 202 LONDON ROAD. SALES BY AUCTION EVERY fUaSDAST AND FRIDAY AT ONE, SATURDAY NIGHTS AT SEVEN. VALUABLB HOUSEHOLD FURNITUBB OP ALI DESOBIPTIONS. MAGNIFICENT NEW AND SECOND-HAND PIANONOBTES, LARGE VAKIET1 OF BEDSTEADS. BEDDING, Ac EVBRY NECESSITY FOR HOUSEKEEPING. ATTEND THESE SALES AND SAVE AT LEAn <9 PER OBNT. A MAGNIFICENT SELECTION O. SUPERIOR PUBNITUBB IS ALWAYS KEPT IN STOCK AND ANYTHING MAY BE PURCHASED BY PRIVATE TREATY GOODS STORED. On view 8.80 a.m. to 9 10 p.m.; Saturday 1 p.m. elephoiie 179S Royal. CONSIGNMENTS (EITHER LARGE OR SMAL1 kiP ANY DESCRIPTION INVITBD FOR THIMB SALES. BEST RESULT GUARANTEED. ARTIHCIAL TEE1". Tel-No. 245 Anfield. J. P. Lamplough (Son of Mr. J. Lamplough, for many years in the Dental Buwinesa in HolyweU and Mold). DENTAL SURGERY, 235 EDGE LANE Liverpool. Gold, Porcelain and Amalgam Fillings. Repairs and Re-models, Painless Extractions by the most approve method, 18. Hours daily, 10 a.m. to 8-30 p.m. Terms to suit all. Satisfaction guaravteed. Consultations free. M Liverpool Guardian Trade Protection Society 'Phone 4865 Baak, Wireq t?r,3 H ltÍ<.H" The Oldest Provincial TRADE PROTECTION SOCIETY A MUTUAL SOCIETY Governed by a Board ot Honorary Directors. or terma write—F. MEATHER, Secretary, 41 North John Street. Liyerpoo- Furniture Bought outright for Cash, distance no object. Sala, by auction on owners' premises. GREETHAM & SON (Est. 1848). Auctioneers, Valuers, 27 Newington, Liverpool also 18 Rydal Bank and 106 Liscard Road" Lis card. k.. Tel. 646 Royal.