Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Tn \I it W L-Li e. t OLD pOST OFPICE PLACe LAR6E$T MUCTION LOWEST PRtCBS Teuephonk 3075 Royal.
' / ..; '■ . .III Drwodd a…
'■ Drwodd a Thro. YSGARTHION PRESTATYN.—Y mae Bwrdd Llywodraèth Lleol a'i fryd ar gychwyn ymchwiliad cyhoeddus i gais Prestatyn am ganiatad i fenthyca 128,000 i wella dreiniau'r dref, sef i gludo'r sgarthion a dali'wchadw'n ddihareb o dref am iechyd ac awyr lan. YSIGO DAN EI PHJVN.—Ddydd Gwener diweddaf, cafwyd Mrs. Elizabeth Humphreys, gwraig i lugail, wedi ymgrogi yn ei thf- yn Llanidloes. Y oedd hi'n agos i ddog a thrigain oed, ac wedi dioddef yn drwm gan ball cwsg. Dyma'r trydydd i ladd ei hun drwy ymgrogi yn Llanidloes yn ystod mis o I amser. DIM O'Cll MWMIAN DEUBIG.—Yr oedd Mr. R. G. Ellis, swyddog yr olusen plwy, Bethesda, wedi amlygu ei fwriad i Warcheid- waid Undeb Bangor a Beaumaris i ymuno a'r Pyddin a phan ei galwyd gerbron y Bwrdd ddydd Gwener diweddaf ac y gofynnwyd iddo aioniddymunaigaeleiesguodi (exempt) "Dim o'r fath both," ebe Ellis, "fy nylet. awydd ydyw mynd." Dyma gadeirydd yr Undeb yn taro'r bwrdd nes oedd yn gwegian, a'r holl aelodau yn clapio'u cymoradwyaeth wrth glywod atebiad mor groyw a phendant, yn lle'r mwimian deubig yma sy'n laru dyn. I LE GWELL, OND I SIR HYLLACH -Y mae Mr. John Rowlands, is-bostfeistr Oicoieth era deuddeng mlynedd, wedi cael ci b@nodi'in is-bostfeistr Hednesford, swydd iStajSord. RHODD RASOL.-YR oecid pobl Colwyn Bay a'r ardal wedi hel £ 650 i'w cyflwyno'n anrhog i Miss Hovey, B.A., arei gwaith yn «wblhau un mlynedd ar hugain o waith fel prifathrawes Coleg Penrhos, sef yr ueh-ysgol i enethod. Bellach, y mae hithau wedi estyn y £ &50 yn ei grynswfch i Gymdeithas y Grpes Gocb, at brynnu motor  .? GW El NY DDI A E TH Y GRIFFT.-Dyn a blaen ar ei bensil yw'r Parch. Eynon Davies, sy'n Bgrifennn O'rBabilon Fawr (sef Llundain) i'r TY8tl)pb wythnos. Son y mae mewn un paragraff am y Lly wodraeth Gydbleidiol yma, -y Coalition Government ac ebe fo :— Dyna'r gwaethaf, o dan y Llywodrae'th gymysg hon,-—'does neb yn gwybod pwy I yw pwy. 'Does egwyddorion gan neb. Pawb a'i ffidil boliticaidd 'yn y t6.' Toriaid a Radiealiaid fel rhes o &o?<?e 31 stamps, gan mor debyg ydynt. Atgofir ni am yr hen gloc enwog hwnnw nad oedd neb yn ei ddeall ond y crane oedd yn berchen arno. Pan oedd bysedd y cloc hwnnw ar ddeuddeg, a'r cloc yn taro dau, dyna brawf ei bod yn again munudi saith o'r gloch. Tebyg iawn yw Coalition Government. 0, am yr hen amser gynt Y OWN BENTHYG.-Rhai cwta a sych eu hateb i bopeth Cymreig ydyw awdurdodau Llundain, canys er fod amryw o drefi Gwy- nedd wedi apelio am gael gwn Germanaidd i'w ddangos i'r bobl-sef un o'r Ilu gynnau a gym- rwyd yn y rhyfel gan y catrodau Cymreig—• dyma'r ateb a gafwyd mai dim ond un gwn ellid ei hebgor rhwng y chwe sir y ceid hwnnw'n fenthyg am wythnos i bob sir ac y byddai raid mynd ag oar ei gylchdaith fel hyn wedi ei ddangos yng Nghreesam yfory (dydd Gwener), yna mynd ag o ymhen yr wythnos i un o drefi Sir Fflint, ac ymlaen wedyn i F6n, Arfon, Meirion a Maldwyn. 0- G WAN U CIGNOETH.—Aeth yn ymryson erasineb cignoeth yng nghyfarfod llywodraeth wyr Ysgol Sir Caergybi ddydd Mercher di- weddaf rhwng y Prifathro a'r Ficer ac eraill ynglyu & dyletswydd un o'r athrawon i ymuno ac iddynt hwythau ymorol am un yn ei le. Y Prifathro eisiau ei gad w, am ei fod yn hollol anhebcor i'r ysgol; ae fod ganddo wrth wyneb iad greddfol a chydwybodol i ladd neb. Ond dyma rai o'r pethau crafog a luchiwyd at y ddadl honno A cos ganddo wrthwynebiad cydwyhodol i eraill ymladd drosto, tybed ? Ac ebe'r Ficer, wrth glywed ei fod yn barod i weithio ar baratoi offer rhyfpl Y mae'r athro hwn yn barod i wneud fErwydron fferyllaidd i eraill eu defnyddio, ond ni pherygla'i groen wrth eu defnyddio'i hun, Y mae'r fath beth yn ddirmygus o anghyson. CLEC Y C,ANO.,V.-Y mae'r Canon Davies (Dyfrig). Bangor, wedi mynd i Leam- ington am newid awyr, a cheisio hybu o'r gwaeledd a'i goddiweddodd y mis diweddaf. Creodd o dipyn o stwr yn Ngorsedd Bangor y llynedd drwy gymell awdur- dodau'r Eisteddfod i daflu'r cystadleuaethau barddonol—yr Awdl a'r Bryddest ac yn y blaen-yn agored i Saesneg a Chymraeg. Gwgu a chuchio'n hyll ar yr awgrym a ddarfu'r Orsedd, ond blysio braidd i'w chefnogi yr oedd rhai o'u cofndryd mwy glafKlwraidd eu sel ciros yr itith. Y C Y-IIRO CRINTACH.-Yng nghyfarfod blynyddol Adfordy'r Morched yn y Rhyl,— sef y Convalescent Home—ddydd Iau diwedd. af, dywedai'r adroddiad y bu yno 480 o gleifion y llynedd, ac fod cynifer a 155 o'r rheiny'n dod o swydd Stafford a 101 o swydd Warwick. Cwyn a sen pobl Lerpwl ar hyd y blynyddoedd ydyw fod (cynifer o Gymry'n cael dod i'w hysbytai, a chael medi o ffrwyth athrylith meddygon blaeiia'r (idinas i-nor rhad,it hwy a'u cenedl yn cyfrannu mor gywilyddus o grin- tach at gynhaliaeth y lleoedd hynny. Ym- ddGngys fod Saeson swyddi Stafford a War- wick yn tyrru'r un mor Iluosog i ysbytai Cymru ond sut y eyfi-annant, nis gwyddom. Byddai'n ddiddorol cael gwybod, er mwyn tewi'r gwyn a'r sen os oes modd. -9- PEITHYNEN I'R MWY A'I DDEWR. DER.Niewii pwyllgor yn Aberystwyth, nos Iau ddiwotldaf, hysbyswyd fod trysorfa'r meichiafon Eisteddfodol yn cyrraedd £ 843 88., er mai dim ond am £ 500 y gofynnid. Daeth llythyr oddiwrth y Parch. W. Roberts, ficer Llangedwyn, yn awgrymu fod y pwyllgor yn dilyn,esiampl Llangollen yng ngwyl fawr 1898, a chynnyg poithynen yn wobr i'r milwr Cymreig dewraf ar faesy gad awgrymodd y Proff. Stanley Roberts fod y morwyr Cymreig yn cael eu cynnwys, ac folly y pasiwyd yn unfryd. Y mae peithynen yn beth hen a chywrain a diau y bydd cryn giprys amdani. Y mae rhaglen y testy nan wedi ei chwtogi'n fawr, a'r ddrama wedi ei phlicio ond erys cystadleuaethau'r corau cymysg, cor y merch- ed, a chorau plant. Gwyl ddeuddydd fydd yr wyl a sbardynnir pawb i'w gwneud yn deil- wng o'r dref. 6 I GADAIR ALAFON.- Y Parch. T. E. Jones, M.A., Cefn y Waen. yw goly newydd y Drysorfa, (M.C.) yn lle'r Alafon: CNEC LLANDUDNO.—Wedi dadl hir, a brathu heger o bobtu, penderfynodd Cyngor Llandudno ddydd Sadwrn diweddaf, drwy fwyafrif o 11 yn erbyn 8, o blaid cynhygiad Mr. Pierce Jones, sef oblegid y fath wahaniaoth barn sydd yn, y dref gyda golwg ar chwarae golff ar y Sul, fod gofyn i Bwyllgor Lly wodraethol y Clwb orchymyn na bo dim chwarae ar y Sul ar linciau'r Maes Du nes y bo'r rliyfel ar bon." Hysbysir maxwolaeth y Parch. O. B. Jones, a fyddai'n fugail eglwys M.C. Ffynongroew, cyn i afiechyd beri iddo ymneilltuo rai blyn- yddoedd yn ol. Yr oedd yn 74ain oed yn frodor o Langynog, Maldwyn a chanddo ddau fab yn y Fyddin. Yn Wigan y bugeil. iodd gyntaf. BANGOR A'1 PHITW £ 37 Dywedodd Maer Bangor air go blaen wrth grefyddwyr y ddinaa honno nos Wener ddiweddaf, sef wrth ly wyddu yng nghyfarfod Cymdeithas y Beiblau. Yn un peth, yr oedd y cynhulliad yn un echrydus o deneu ddeng mlynedd ar hugain yn ol, nid oedd yna'r un ad,eilad yn y ddinas a ddaliai'r dyrfa fawr a heidiai i gyfarfod blynyddol y Gymdeithas. Nid oedd y bobl ddim yn ystyried maint eu dyled i'r Beibl, canys ar ddechreu'r ganrif o'r blaeu, yr oedd Cymru mor baganaidd ag yw'r India heddyw, na chymaint ag un drwy'i phentrefi a allai ddarllen gair o'r Qraclau Dwyfol. Ond beth oedd casgliad Bangor golegol i gyd gyda'i gilydd ? Dim ond rhyw bitw o ie37. Rhad arni Siaradwyd ymhellaeh gan y Parch. Wellesley Jones, cynrychiolydd y Fam Gymdeithas, ac amryw eraill. + Y PEN DRAMODYDD.—Yn 1616 y bu Shakespeare. Prifardd yByd,farw, sef y gwr a ddywedodd This England never did, never shall, Lie at the proud foot of a conqueror ac y mae mudiad mawr ar droed i ddathlu'r tri chanmlwyddiant.drwy geisio cael pob gwr, gwraig, d. phlentyn drwy'r Ymherodraeth i gyd i brynnu a gwisgo bathodyn, o Ebrill y 25ain (dydd ei eni) hyd Fai'r 3ydd (dydd ei farw). Bydd y bathodyn yn ddigon rhad i fod o fewn cyrraedd y tlotaf; ac aiff yr elw at y Groes Goch ae i leddfu'r dioddef a'r newyn yn Belgium ac yn y blaen. Cofiwch brynnu un. KHAKI YN LLE CRYS GWYN.—Gwt plaen ei air ydyw'r Parch. W- Greg well, ficer Harthall, sir Gaer, canys dyma bwt o'r hyn a ddywed yn ei gylcligrawn plwy am ddyletswydd clerigwyr i Y.-n-uno &r Fyddin, a newid eu crys gwyn am y Khaki :— A ninnau eisiau pob gronyn o'n dynol- iaeth i achub y wlad, pa synnwyr sydd mewn fod swm anferth o alhi ymladdol yn snech-ymguddio tu ol i phylacterau a chrysau coch a gwyn yn lie yn nillad khaki'r Brenin ? Pe buasai pob curfwl a chlerig yn oed milwr yn ymffurfio'n fataliwn, fe wnaent fwy i brysuro diwedd y rhyfel ofnadwy hwn na holl litani'r byd- oedd. Paham y dylai'r rhyfel hwn fod yn achlysur i neb daflu'r hen lach a sen honno i wyneb dyn, sef fod y natur "ddynol yn ymrannu'n dair rhywogaeth (sex) meibion, merched, a clilerigwyr ? Yn hollol fel arall y mae barn Esgob Lerpwl, sef nad gweddus na manteisiol i Deyrnas Dduw na'r Deyrnas Gyfunol ydyw i glerigion newid eu gwaith na.'u gwiag, ac mai fel cysur- wyr ysbrydol y cynh liant fwyaf ar emeidiau'r genedl.
Ghwith Atgof am Alafon.I
Ghwith Atgof am Alafon. I I Cyfaill pur a dyn diogof. I I- 4 r » GLYWSOCH chi am farwolaeth Alafon ? oedd y gair cyntaf a sibrydwyd yn fy nghlust ar ddechreu'r seiat y nos o 'r blaen. Tarawyd fi a syndod mawr. Euthum yn fud, ac nid agorais fy ngenau. Am funud neu ddau, nis gwyddwn yn iawn ymlile'r oeddwn, ai yn y corff, ynteu allan ohono. Dychmygwn fy mod yn rhywrle dieithr, pell, yn chwilio am yr ysbryd pur oedd newydd adael ei babell fregus, a chymryd ei adgn gref o Wyndre Abergele, i Wynfa Duw/ Pan ddychwelais o'r tir breuddwydiol hwnnw, yr hyn a ddy- munaswn uwchlaw popeth fuasai cael mynd yn ol i'r ty, i feddwl ac i wylo. Haws oedd meddwl na siarad, a haws wylo na'r ddau. Y geiriau a ddaeth i fy meddwl ar y pryd, ac sydd yn arog eto, oodd adnod Dafydd am Jonathan, pan gwympodd y gwr ieuanc, ardderchog hwnnw ar fynyddoedd Gilboa. "Gofid sydd arnaf amdanat ti, fy mrawd cu iawn fuost gennyf fi." Yr oedd i Alafon lawer o gyfeillion. Dyna ddarllenir yn y newyddiaduron, a dyna'r dystiolaeth glywir ar bob Ilaw ac yn hyn, yr oedd yn eithriad yn ei oes. Ychydig ydyw'r dynion y mae iddynt lawer o gyfeillion ond yr oedd gan Alafon lu mawr ohonynt credai pob un o'r rheiny mai efe oedd eu cyfaill goreu ar y ddaear, ac yr oeddynt yn credu'n iawn. Cefais innau'r fraint o fod yn un o'i gyfeillion, annheilwng mae'n wir, eto un ohonynt ac yn y cymeriad hwnnw yr ysgrifennir y geiriau hyn. Nid wyf yn son nemor amdano heddy w fel progethwr, lienor, a bardd, llawer llai ceisio penderfynu ei safle yn y cylchoedd anrhydeddus hyn da N hamdden eto i sylwi arno yn amrywiol weddau ei fywyd defnydd- iol a hardd. Nid yr hanesydd, na'r beirniad, sy'n ysgrifennu heddyw, ond cyfaill, yn. traethu ychydig o'i atgofion am gyfaill, a gymrwyd oddiarro yn llawer rhy fuan. Yn lied ddiweddar y deuthum i gydnabyddiaeth bresonol ag Alafon gwyddwn amdano ers blynyddoedd fel lienor a bardd, ac edmygwn ef yn fawr, yn arbennig ar gyfrif glendid a choethter ei waith. Ond ni wyddwn i ddim am y dyn ei hun, ond yn unig i'r graddau yr oedd ei farddoniaeth yn ei ddatguddio. Tua phedair blynedd i rwan, ysgrifennodd ataf ynglyn a mater neilltuol; cychwynnodd hynny ohebiaet-h rhyngom, ac euthom yn gyfeillion mynwesol, er heb weled wynebau ein gilydd oddigerth unwaith erioed. Yn fuan wedyn, trefnodd Rhagluniaeth i mi ddod i fyw am y bryn ag ef, a bwriwyd ni gryn lawer i gymdeithas ein gilydd yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf. Bum gydag ef gartref, ac oddicartref c lywais ei ochenaid leddf, a'i chwerthiniad iach gwyddwn am ei groesau a'i obeithion gwelais ef i lawr yn y cysgodion prudd, ac i fyny ar y mynydd- oedd, yn y wawr a'r awelon. Erbyn hyn, yr oeddwn yn ei adnabod yn weddol drwyadl, nid am fod vtnrhyw graffter yn perthyn i mi yn y fford(I honno, ond am ei fod ef mor Iftn, mor bur, mor dryloyw. Mae ambell gyfaill y rhaid ei wylio'n barhaus yr ydych yn teimlo fod yn ei natur ryw gilfachau cudd, a chonglau tywyll, a cheunenfcydd dyfnion, vn cymell ysbrydion malais a bradwriaethj i gartrefu yno, nes yr ydych yn arswydo rhag mynd i mewn iddynt..Ond am Alafon, yr oodd y ewbl yn y golwg nid oedd yno ystafelloedd cloedig, nac ogofeydd peryglus yr oedd ei holl natur yn agored ger ein bron, a phelydrau gwirionedd yn ei goleuo i'w chyrrau pellaf. Yr oedd Alafon yn weithiwr diwyd a chyson gweithiai bob dydd a thrwy 'r dydd, agweith- iai ymhell i'r hwyr. Efallai iddo wneud niwed i'w iechyd drwy hynny, yr un fath, ysywaeth, a llawer un arall. Nid wyf fi erioed wedi fy argyhoeddi o'r fantais o weithio hyd yr "oriau man mae'r golled gryn lawer yn fwy na'r ennill. Os am gorff iach a meddwl clir, dylai pob dyn fod yn ei wely awr neu ddwy cyn hanner nos,' ac allan ohono drachefn yn lied fuan wedi'r glasiad. Amser gorffwys y(tyw'i- nos gorffwys mae natur yn y nos a chan fod dyn yn rhan o natur, nis gall droseddu yn ei herbyn hi hob dorri deddfau ei fywyd ei hun, ac y mae torri'r rheiny yn meddwl cosb Gweithiai Alafon yn hwyr meithriniodd yr arferiad honno pan yn ieuane ac fel pob arfer ddrwg, hi drodd arno yn y man, ac a'i llywodraethai a gwialen haearn. Heblaw hynny, yr oodd yn caru ei waith yn fawr iawn. Ni welais i neb erioed mor angorddol hoff o'i waith ac yr wyf braidd yn sicr mai unig ffynhonnell ei lawen- ydd yn y cyfnod y cefais i y fraint o'i adnabod oedd ei waith a'i Waredwr. Ei fyfyrgell yn yr Ysgoldy oedd y man goreu ganddo ar wynob y ddaear yroedd meddyliau mwya'r oesoedd yn y cyfrolau heirdd ar estyll honno, ac ym- gollai yntau mewn cymundeb dwfn a hwy, yn nistawrwydd ei ystafell, a Thim y gath yn gorwedd yn ddioglyd yn ymyl ei draod. AfAe'n. sicr na fu dau erioed mor annhebyg i'w gilydd ag Alafon a Thim, na dau erioed yn fwy hoff o'r naill y Hall. Gweithiai Alafon yn ddiorffwys o fore hyd nos, ac ni chymrai hamdden i ddim ond gyda'i brydiau bwyd ond ni wnai Tim yr un ffrwythad ond lladrata a chysgu. Gwalch direidus oedd Tim, a chwaraeai rai triciau, hyd yn oed a'i feistr caredig, oedd yn ymylu ar ddiffyg egwyddor, a dweyd y goreu amdanynt. Pan ddoi'r cinio i'r bwrdd, a digwydd o'i berchennog droi ei gefn, ond odid na byddai rhyw gyfran o'r arlwy ar goll erbyn y dychwelai. Mawr fyddai'r miri am beth amser yr awyr yn 11awn cyffro, a phopeth yn arwyddo dinistr a chelanedd ond terfynai'r storm mewn goll. yngdod i Tim, a maddeuant llawn a rhad, ar yr amod nad oedd beiddgarwch o'r fath ddim i ddigwydd mwy. Bum heibio'r Ysgoldy y dydd o'r blaen, ac un o'r pethau a'm cyffyrdd- odd fwyaf oedd yr olwg hiraethus ar Tim. Neidiodd ar fy nglin, ac odrychodd ym myw fy llygaid, fol pe'n gofyn a fedrwn i roi rhyw oleuni iddo ar ddirgelwch ymadawiad ei feistr hoff. Druan o Tim Yr oodd Bodfan yn holi amdano yn y Cymro. Gwybydded y gwr dawnus fod Tim ar dir y byw hyd yma, ond ni synnwn i ddim llawer gly wed y nowydd ei fod wedi marw o dor calon, a hynny'n fuan. Dweyd yr oeddwn fod Alafon yn caru ei waith, ac felly yr oedd ac eto, nid oedd yn ddarllenwr mawr, both byimag yn oi flynydd- oedd diweddaf. Fe ddywododd rhywun fod dyn yn peidio a darllen o ddifrif ar ol pasio deugain oed efallai fod rhywbeth yn hynny, ond nid yw'n wir eyffrodinol. Nid oodd Alafon yn peidio a darllen am ei fod wedi colli yr archwaoth at hynny, ond am fod ganddo gymaint o waith arall i'w wneud, a chymaint o'i galon yntau ynddo. Ysgrifennai lawer iawn yr oedd yr ias wallgof wedi ei chau o fewn ei esgyrn. Blinai yn ymatal, ac nis gallai beidio. Yr oedd yn lienor o anian a greddf a gwnaeth ei ran yn ffyddlon i gyf- oethogi llenyddiaeth ei wlad am flynyddoedd maith. Efe oedd un o'r beirdd cyntaf wyf yn gofio yn ?T?so? y P??<. Edrych??? ymlaen yn eiddgar am y Dy?o?/ct fach bob mis, a'r ddau both cyntaf i sylwi arnynt fyddai'r lluniau a'r farddoniaeth. Fel rheol, ceid tri neu bed war o ddarnau barddonol, a dwy neu dair o gathod ymhob rhifyn, a byddai'r gystadleuaeth yn dyn iawn ambell dro, prun ai'r cathod ynteu'r farddoniaeth gai'r lie blaenaf. Ond byddai gweld anw Alafon yn setlo'r pwnc ar unwaith. Yr hyn a'm swynai i yn ei farddoniaeth y pryd hwnnw oedd yr ergyd o gynghanedd oodd ynddi; ac yr wyf yn meddwl i hyn lynu wrtho i'r diwedd. Gwirionai ar gynghanedd a phan gymbellai'r foneddiges brydferth honno ei hunan arno, rbis gallai ei gwrthod. Gelwir y gynghanedd yn fesur caeth ac etc, nid y mesur oedd yn gaeth i Alafon, ond efe oedd yn gaeth i'r mesur. Ysgrifennodd lawer i'r cylchgronau, yn arbennig i'r Geninen. Gwaith prudd-felys fuasai olrhain oi ysgrifau yn y cyhoeddiad cenedlaethol hwnnw, o'igyphwyn hyd yn awr gwnaothent gyfrol werthfawr iawn. Ysgrifonnai yn rhwydd a naturiol, e, byddai graen dda ar oi waith, ond dim llawer o addurn yr oedd ymhell oddiwrth fod yn stylist llonyddol. Buaswn i yn disgwyl tipyn ychwaneg o hynny ynddo nid oedd dim neilltuol yn ei arddull, ond yn unig ei bod yn lan a dianaf ac wedi'r cwbl, beth mwy na hynny sydd eisiau. Ysgrifennodd golofn "Lien a Chan" i'r BHYTHON am gyfnod maith, ac yr oedd honno yn un o'r pothau goreu yn y papur rhagorol hwn. Ond prif hyfrydnveli Alafon oodd barddon. i barddonai am fod barddoniaeth ynddo. Gall y rhan fwyaf ohonom beidio a, barddoni, os na bydd rhyw obaith am wobr o rywlo ond canai Alafon heb ddisgwyl gwobr yn wir, ei wobr of oedd ei gan ei hun. Enillodd wobrau mawr, a chollodd wo bran inwy ond er coUi'r wobr, fe gadwodd ei gan. Dechreu- odd ganu'n fore, a daliodd ati hyd yr hwyr. Un o'r pethau diweddaf a wnaeth oodd tri neu bedwar o emynau i lyfr tonau newydd Mr. Haydn Jones, y Seneddwr cerddgar o Dowyn Meirionydd. Gwelais y copi gwreidd iol, ac y maent yn dda odiaetlv caiff saint y dyfodol flas a bendith wrth eu canu. Ni chanodd ond yohydig ar ochr ddigrif bywyd credaf y dylasai wneud, oblegid yr oedd y dawn ganddo. Medrai Alafon ganu'n ddigrif urddasol. Buasai tipyn mwy o bothau fel Modryb Sian ynUes iddo ef ei hun, ac yn addysg i eraill. Gwnaeth lawer iawn o fedd- argraffiadau. Mae ugomiau 'o'i englynion wedi eu hargraffu a phin o haearn ar gerrig oer mynwentydd ein gwlad. Safai Mr. Puleston Jones a minnau ar lan ei fedd pan ollyngid oi arch i ddaear Brynrodyn, a beth welwn ar garreg fedd rhyw wraig dduwiol, yn ein hymyl, ond englyn o waith Alafon. EfaUai na chyfansoddodd yr un bardd yn ystod yr hanner canrif ddiweddaf fwy o englynion nag of ond rhag i neb feddwl mai bardd yr englyn ydoedd, ac hob fod yn fawr ddim arall, mae'n rhydd i mi ddweyd iddo adael ar ei 01 swm mawr o farddoniaeth, yn awdlau cain a phryddestau gwych, rai ohon- ynt ynfil o linellau yr un. le, bardd oedd Alafon. Nid wyf fi yn mynd i geisio pender- fynu heddyw ymhle y safai ymhlith beirdd oi genedl fe wneir hynny gan wyr cymwysach na mi ar wahan i hynny, fe'i gosodir yn ei le gan amser yn araf deg, a thebyg y bydd ein dilyn wyr ymhen can mlynedd yn gwybod ei safle gryn lawer yn well na ni. Gellid dweyd llawer amdano fel pregethwr, ond nid oes hamdden i hynny heddyw. Hyn sydd sicr yr oedd yn anhraethol well pregethwr nag y tybid yn gyffredin ei fod. Dywedodd un o'r siaradwyr ddydd ei gynhebrwng iddo gadw allan o'r pulpud rai o'i ddoniau disgleiriaf diau fod hynny'n wir, ond llawn mor wir a hynny oedd yr hyn a ddywedwyd gan un arall, sef nachafodd Alafon ei werthfawrogi fel pregethwr i'r graddau y dylaasi, o lawer iawn. Mae rhinweddau ami ei fywyd glan wedi cael lie mawr yn y papurau yn barod, fel mai afraid i mi ydyw ailadrodd yr hyn sydd wedi ei ddweyd mor dda oisoes. Gwr Duw oedd Alafon. Bu fyw yn dawel, heb utganu o'i flaen, na galw sylw ato'i hun mewn un modd, a threiddiodd ei ddylanwad drwy y gymdogaeth, ond ni wyddai neb mor fawr oedd y dylanwad hwnnw, ties y cymrwyd ef i ogoniant. Mae'r bwlch yn llydan, a'r galar ar ei ol yn fawr. Mae'n bryd i mi sychu f'ysgrifell, a chychwyn i'm eyhoeddiad. Cwsg, fy nghyfaill Alafon melys fo'dy hun. Cymysgais fy nagrau a'r dorf fawr wrth orch- wyn dy orweddfan, ond disgwyliaf dy gwrdd- yd eto ryw fore gwyn, yn hardd dy wedd, a'th gan yn felysach nag erioed. R.H.W.
Advertising
XSTOP ONE MOMENT V A Oh. Dear Doctor ?F? Must My Darling Die There is very little hope, but try Tudor Williams' PATENT BHLSIlin OF HOJEI WHAT IT 18 Tudor Williams' Patent Balsam of Honey. Is an 4SMnoe of. the purest and most effiw- eioua herbs, gathered on the Welsh Hills ond Valleys in the proper season, when their vii tnes are in full perfection, and combiner with Pure Welsh Honey. 411 the ingtsditnt are perfectly pure. WHAT IT DOES J Tudor Williams' Patent Balsam of Honey. Cures Coughs, Golds, Bronchitis, Astbai Whooping Cough, Croup, and all disorders e the Throat, Chest, and Lungs. Wonderfa Cure of Children's Coughs alter Measles; It is invaluable to weak-chested men, dftlisatt women and children. It sueeceda wheiv all other remedies fail. Sold by all Chemist* and Stores in I 1-, 2 16, and 4/6 bottles: st direct from Proprietor for 1/3, 1/9, f Great saving in purchasing the larcn bottles. WHAT IT HAS DONE FOR OTHERS- I A Stipendiary and Magi?tfate in the Count? oE GIA- morgan remarks: I feei it my duty to worm y? that I have been using your Tudor W ii-V i;?bMxoot Honey in my famUy, which is a large one, for man, years, and have proved its great value, having = nothing else for C-ough during Measles, Whooping CtouBb and Bronchitis, and can highly recommend it to all parents for tacit compialats. Ii YOU NEED NOT SUFFER I DiMaM? a sin, inasmuch that, if you act righUy, at the right time, it can, to a great extent, be avoided. Here Is the preventative. The fitUloment you start Sffs'^l.Ta^SSTaoS?.'1"' Tudor Williams' Patent Balaam of Honey, It has saved thonsands I it will save you. It is pre- pared by a fully qualified chemist, and is, by virtue (4 its composition, eminently adapted for all OM? of Coughs, P?' Bronchitis, Asthma, etc.,it exemimp iPn'ifl, uence upon the mucous Uningol the throat, windpipe, and small air V18,80thatQotbma but warmed pure air passes into the lungs. THE CHILDREN LIKE IT It is the product of the.Honeyoomb, ah"W sally treated to get the best results. THEY ASK FOB IT. So different from most Medioinea. Nice to take I Cures Quickly For vocalists and public speakers it has at equal, it makea the voice aa clear as a ML M Ii Inventor: D. TUDOR WiLtIAMS, R.S.D.L. Manufaotumr < TUDOR WILLIAMS, Medical Hall, Aberdare, Wales WHOLESALE AGENTS Messrs. Robert Davies d Co., Grocers Grayson Street. Liverpoo Messrs. „ Evans, Sons, Lescher a Webb Wholesale Oraggists, Hanover St. Liverpool iMi essrs J, o. hn Thompson & Co., Wholesale Druggists, 58 Hanover St; L.øoo Telephone 711 A.flelo. P. Lloyd Jones FUNERAL DIRECTOR, 364 Stanley Rood, L'poot, TELEPHONE-261 BOOTLE, tTELEPHONE-575 AN FIELD J. T. JONES, funeral Undertaker, E"VEI\ TON ? AMhfystM? ?? t?t, -.UStnaSK, LIVERPOOL. Funerals personally arranged to all Parts. Telephones-Aulteld. 809 and 290. 155 KENSINGTON. LIVERPOOL. R. W. EVANS, Funeral and Wedding Director, All ordera personally attended to through- out at moderate charges. Highest testimonials can be seen. Removalsto an 1 from Wales. BARGAINS.- UnderwOOds, Remingtons^ JL) Yosta, Smith, Premier, Barlocks, Em- pires, Oliver, Blieks, Royal Standard, from ..12 new condition, See the REX dBSS worth for 12 guineas. -LoNGmoyts, 41b North John Street, Liverpool, Sole Agency Carona Portable Typewriters. For Bedsteads and Bedding. w. WHITTLE SON & STOTT, LTD., 116, 118 t) 120 WHITECHAPEL, LIVERPOOL. 0 II Telephone 2137 Royal. 7