Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

DAU T U'R AFON.I

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

DAU T U'R AFON. I YMHLE Y MAE'R EUROS YN YM- GUDDIO ?-Nowydd glywed fod Mr. J. E. Pritchard (Euros y Delyn) yn Lerpwl yma ers ysbaid ond os gwir, ymhle y mae'n ym- guddio ? Canys y mae ef yn llanc rhy ddis- glair ei ddoniau i oddef iddo ymgadw o'r golwg mewn dinas fel hon, lie y mae miloedd o'i gydwladwyr a fuasai'n gwynfydu pe caent gyfle i'w glywod yn clecian penhillion teleidiaf yr Hen Wlad wrth ganu gyda'r tannau. Y mae'r hen gyfarodd Cymreig lond ei lais a'i ysbryd, a cliyfriiiaeli dyfna'r delyn ar flacnau'i fysedd y mae hefyd yn fachgen galluog mewn llawer peth arall, ond ei fod yn un gwylaidd tuhwnt, nac wedi dysgu dim ar y grefft gain o hunan-hysbysebu. Clywais mai ym Mod Meurig, Botanic Road, y mae'n byw; ac or ei wyleidd-dra i gyd, fe olafaf fi na chaiff Ffestiniogwr mor folys a chyforiog oi ddawn ddim llonydd o hyn ymlaen. "<>* CATHOLIGBWYDD LLYFR JONAH. -liarlithiai y Parch. D. Tecwyn Evans B.A., ar Lyfr Jonah yng nghapel Vittoria Street (A.), Birkenhead, nos Fawrth yr wyth- nos ddiweddaf T. A. Lloyd, Ysw., Lerpwl, yn y gadair a'r Parchn. G. J. Williams a W. M. Jones yn diolch amdani ar y diwedd. Traddodai hi eilwaith nos drannooth (nos Fercher) yng nghapel Spellow Lane (W.); Gol. Y BRYTHON yn cymryd lle'r cadeirydd absennol a'r Parch. J. Roger Jones, B.A., Chief-Inspector Jonos. a Mr. Rd. Morris, yn cyflwyno'r diolchgarwch. Tystiwyd fod y ddarlith yn agoriad llygad gwerthfawr i doreth aelodau'r eglwysi ei bod hi'n dangos cyfarwyddineb ca,rtrefol fi llenyddiaeth oreu a diweddaraf y pwne yn dangos gwrthuni'r syniadaumaterol a chwerthinllyd a, goleddwyd mor hir am y llyfr a'i amcan a'i ystyr ac yn gollwng goleu Beirniadaeth Feiblaidd mor glir ond mor deg a goddefgar nes bod yn gwbl ddidramgwydd i'r mwyaf hen ffasiwn eu ffydd yn y lie. Yn wir, rhai o'r rheini oedd ucha'u porthi wrth weld y dehongliad newydd a chywir yn graddol ddod a'r stori i'w lie a'i hystyr i'r amlwg. Stori Ddwyreiniol a chvf- riniol ydyw Llyfr Jonah, a ddefnyddiodd Dwyfol Ysbrydoliaeth i gyfiwynO datguddiad uwch am Dduw a chyffrodinolrwydd ei ga' iad i argyhoeddi'r Iddew cul a rhagfarnllyd mai nid rhyw gorbwll bach cenedlaethol a pher- thynol iddynt hwy'n unig oedd Cariad Duw, ond eigion awyddus i life dros yr Anial Cen- hedlig, a dyfrhau a ffrwythloni'r ddaear i gyd. Yr oedd ynddo rhyw led ac ehangder a barai fod llyfr Jonah yn argoel o'r llanw catholigrwydd a ddaeth mor gryf yng Nghrist nes chwalu canolfury gwahaniaeth" conedlaethol am byth. ARGOEL AM GY.NIANPA.-Caed tair rihyrsal gogyfer a, Chymanfa Ganu ddyfodol M.C. Lerpwl, sef nos Sadwrn ddiweddaf, yn Crosshall Street brynhawn Sul yn Waterloo, Miss Vera Henry wrth yr organ a nos Sid yn Douglas Road, a Mr. W. J. Roberts wrth yr offeryn yno. Mr. T. Hopkin Evans, Mus.Bac. Castellnedd, yn arwain y tair ac yn tystio fod y canu'n bur dda ac addawol, er nad oedd y cynulliadau mor luosog, Aeth cynulliadau mawrion, ac yn frith o bob enwad a chorlan, i wrando Dr. Moelwyn Hughes yng nghapel Parkfield, Birkenhead, fore a hwyr y Saboth diweddaf. SERPENTINE ROAD, EGREMONT.~NOS Wener ddiweddaf, cynhaliwyd ymgomwest y Gymdeithas Lenyddol. Trefnwyd rhaglen y tro hwn gan Misses Jennie Parry a Hannah Williams. Cymrwyd rhan mewn canu, adrodd a chystadlu gan amryw o'r aelodau, a chaed cyfarfod difyr a diddorol. Llyw- yddwyd gan y Parch. R. W. Davies. NosjWener ddiweddaf, yn Crosshall Street, cyfarfu pwyllgor cerddorol Cymanfa Ysgolion M.C. Lerpwl a'r cylch o dan lywyddiaeth Mr. G. W. Hughes, pan gyflwynodd yr ysgrifennydd llafurus, Mr. R. Oswald Jones, adroddiad o waith yr is-bwyllgora fu'n dewis tonau i Gymanfa 1917,1 ac ycadarnhawyd y cyfryw. Trefnwyd amryw bethau craill hefyd yngJyn a Chy- manfa 1916. Edrychir ymlen at Gymanfa lwydd- iannus eto eleni. Testyn y Parch. O. Lloyd Jones, M.A.,B.D., o flaen Cymdeithas Lcnyddol Trinity Road (W.) nop Lun yr wythnos hon oedd T Sipsiwn. Anerchiad llawn diddordeb, a brith o fflachiadau gwreiddiol ar hytddi. Cafodd Mr. Jones dderbyniad cynnes iawn gan aelodau'r Gymdeithas. Llywyddid gan y Parch. R. W. Jones Mri. R. E. Jones a Job Jones yn cyflwyno'r diolch; a chafwyd sylwadau gan Mrs Wm. Davies, Mrs. Job Jones, a Mr. E. C. Jones. Drwg gennym am broledigaeth Mr. Robert Jones, blaenor y gan yn Stanley Road. Collodd eneth fecban yr wythnos ddiweddaf-yr ail mewn amser byr. Claddwyd hi yn y Rhewl, ger Rhuthyn, ddydd Sadwm diweddaf. Gwasanaethwyd gan y Parch. 0. Lloyd Jones, M.A.,B.D. Saif ei gorweddfa yn union wrth droed bedd yr hyglod Emrys ap Iwan. Cydymdeimlwn yn fawr a Mr. a Mrs. Jones yn eu profedigaeth. CYMDEITHAS LLEN A CHAN DAVID STREET.— Chwefrol Sfed, cynhaliwyd cyfarfod cystadleuol, a'r ysgoldy yh orlawn, dan arweiniad y Parch. D. D. Williams, a Mr. E. E. Morris yn y gadair; cafwyd anerchiad byr a phert ganddo, a rhodd hael at yr achos. Beirniad canu, Mr. R. Vaughan Jones adrodd, Mr. R. Pierce Jones y ddau yn eu hwyliau goreu, er trymed y clorian a gawsant yn y rhagbrawf, etc. Dyma fel y syrthiodd y coelbren Llawysgrif, dan 10 i, Leslie Roberts cydradd 2, Evans ac Eluned Ro b erts. Dan 1 4 Eluned Roberts. Dan 14: 1, Gwladys Gore; 2, J. E. Kyffin. Arholiad Ysgrythyrol: dan 12 t, Eluned Roberts 2, Stephen Griffiths a Nesta Rob- erts. Dan 14: 1, Elsie Roberts; 2, Jennie Will- iams 3, J. E. Kyffin a Bessie Griffiths. Dan 16 Lizzie Roberts. Dan 21 Maggie Williams; 2, Olwen Williams 3, Cassie Jones. Rhoddwyd gwobr i'r holl blant a safodd yr Arholiadau Ysgrythyrol. Mittens, dros 15 1, Dora Jones. Dan 15 Lizzie Roberts. Ionic Solffa Sight Test: 1, Gwladys Gore 2, J. E. Kyffin. Adroddiad dan 15 I, Lizzie Rob- erts ac Eluned Roberts 2, Stephen Griffiths a Nesta Roberts. Unawd dan 16, Tyner wyn y praidd: 1, Eluned Roberts; 2, May Williams; 3, Nellie Williams. Unawd o 14 i 18, Breuddwydy Frenbines 1, Dilys Holland 2, Maggie Williams 3, Hannah Williams. Deuawd dan 15, Gwel faner Dirtvest i, Benni Williams, May Williams 2, Annie Jones a Lizzie Roberts 3, Bessie Griffiths a Willie Roberts. Tri phennill telyn: W. D. Simon. Adrodd, i rai dros 15 Mr. Boden. Her-unawd i, Miss M. J. Pettigrew; 2, Mri. W. Williams a Trevor Jones. Parti 0 blant, Casglu'r Sgubau gawn Parti Johnnie Kyffin j a rhoddodd y beirniad wobr i barti Annie Jones. Cyfarfod bywiog a liwyliog, yn enwedig gyda her-unawd a'r partion. Diolchwyd i'r cadeirydd a'r ddau feirniad gan y Parch. D. D. Williams a jinir. J. R. Roberts. Chwefrol 15, traddodai'r Mr. G. W. Hughes el ddarlith ar Tonau,Emynau a Chaniadaeth, dan lyw- yddiaeth y Parch. D. D. Williams. Cafwyd darlith ragorol ac addysgiadol. Dymunwn longyfarch Miss Euncie Thomas, Treflyn, Birkenhead, yn llwyddo i cnnill tystysgrif yr Oxford Senior Examinatiou, Northwich Centre, gyda chymeradwyaeth arbennig mewn Gwybodaeth Ys- grythyrol a'r Iaith Saesneg a'i Llenyddiaeth, ac amryw faterion creill.-R.Y.G. YMADAWIAD MR. GEORGE MORGAN HUGHES.— Bythefnos yn ol, adroddem hanes marwolaeth mab a merch i Mr. Hughes, Empress Road; ac mae gennym heddyw i gofnodi marwolaetk Mr. Hughes ei hun. Yr oedd yn gystuddiol ers tro, ond yn meddu ewyllys gref, fel y daliai i fynd allan hyd o fewn deuddydd i'w ddiwedd, pryd y tarawyd ef gan pneu- monia, yr hyn a fu'n angeuol iddo. Prudd-dyner oedd yr olwg arno yn angladd ei allnwyl fab, yn crynnu gan wendid, ond yn mynnu mynd. Brodoro Amlwch oedd Mr. Hughes, o'r He y daeth i Lerpwl tua dechreu'r ganrif hon. Carai Fon mor bur ag y gwnaeth Goronwy erioed. Yr oedd yn gymeriad arbennig, ac yn Gymro i'r earn, er ei fod mor hylithr ei Saesneg a'i Gymraeg. Meddai allu- oedd meddwl cryf, a chafodd addysg dda ym more'i oes. Bu yng Ngholeg Mount Street pan yn ieuanc, ac yn mynychu Capel Grove Street, yn adeg Hiraeth- og. Yr oedd yn gerddor medrus, a bu am flynydd- oedd yn organydd yng nghapel Annibynnol Porth Amlwch. Meddai gof gafaelgar, a dawn anghyffredin i adrodd a gofiai, ac i ddisgrifio digwyddiadau. Ped arferasai ysgrifennu megis yr adroddai hanes, gwnel- sai lenor enwog. Difyr oedd ei wrando'n mynd dros hanesion am gerddorion, beirdd, pregethwyr, ac enwogion a gyfarfu yn ei oes. Yr oedd yn Eisteddfod Caernarfon pan enillodd Hwfa Mon y gadair, a gwel- odd wyneb yr anfarwol Eben Fardd ar y Ilwyfan-y tro olaf, ond odid, cyn i Eben dyner dynnu ei hun i fewn o fywyd cyhoeddus ei wlad, ac efallai'n siomedig. Gwyddai lawer am Lew Llwyfo, Tanymarian, Mars- iant, a lluaws eraill, a diddorol ei ddarlun o Nicander, yn gystal ag o ymweliad Oliver Goldsmith a Mon. Erbyn hyn, gresyn gennym feddwl fod cymaint o hanesion difyr wedi mynd ymaith gydag ef. Pan y trafacliai yng Ngogledd Cymru, mynych y cyfarfu a John Ambrose Lloyd, ac nid hawdd fuasai taro ar ddyn a wyddai fwy am gerddoriaeth a chanu Cymru yn ystod hanner olaf y ganrif o'r blaen. Ganed ef yn gerddor, a diwylliodd ei hun yn y gelfyddyd. Yr oedd ei wybodaeth gyffredinol o'r byd, yn enwedig ynglyn a masnach a phethau cyffredin bywyd, yn syndod o helaeth a manwl. Carai ymgomio, ac ni cheid ei fedrusach yn y gwaith. Ni allai oddef dyn oni fyddai'n barod i ymddiddan. Clywsom ef yn beio meddyg a ofalai *amdano, oherwydd ei fod yno rhy dawedog, ac yn canmol un arall am ei fod yn eistedd ar erchwyn ei wely, ac yn scwrsio! Bu'n ddiacon yn Eglwys Annibynnol Kensington am tua deuddeng mlynedd, ac yn nodedig o ffyddlon. Teimlai ddiddordeb ymhob peth, hoffai fod ymhob cyfarfod, ar y Saboth a noson waith. Fel enghraifft o'i anian gerddgar, gellir crybwyll y ffaith syml ddarfod i Modulator y Gobeithlu gael ei osod ar bared yr ysgoldy dro'n ol, a chan ei fod yn ei olwg mewn cwrdd gweddi gofynnodd am droi ei wyneb ar y pared, ei fod yn aflonyddu arno. Hawdd deall hynny, canys i un o'i anian ef yr oedd y nodau ar y llen yn fyw, ac yn canu Er fod yr hin yn erwin, cafodd angladd lluasog, yng Nghladdfa Anfield, bryn- I hawn dydd Gwener diweddaf, pryd y gweinyddid I gan y Parchn. J. O. Williams (Pedrog), a T. Price Davies, Liscard. Bydd yn chwith gan lawer golli hen gyfaill mor ddiddorol a ffyddlon, ac mae cyd- ymdeimlad dwys a'r teulu oil yn wyneb eu profedig- aethau mawrion. Bu un o'i feibion- James—yng nghaledi Gallipoli, dychweoldd i'r wlad hon dan glefyd, ac mae'n awr yn aelod o seindorf filwrol yn Blackpool. Gadawodd Mr. Hughes nifer lluosog o blant ar ei ol, y rhai, fel yntau, sy'n meddu'r elfen gerddgar i raddau helaeth. Mae John, yr hynaf, yn un o'r gweithwyr goreu yn eglwys Martin's Lane, Liscard, a bu'n arwain Cymanfa Ganu Unedig y Plant, ynglyn ag Undeb Annibynwyr Lerpwl a Birkenhead. RoBERTs-Hur.HEs-Medi 16eg, gan y Parch. W. M. Jones, yng nghapel Parkfield, drwy drwydded ar- bennig, Mr. Owen Roberts, iferyllydd, Porth- aethwy, a Miss Myfanwy Hughes, merch Mr. a Mrs. Owen Hughes, Bodlondeb, o'r un lie. Eidd- una llu o gyfeillion bob llwydd i Mr. a Mrs. Roberts. Dyma dipyn rhagor a ddaeth i law'r ysgrifenyddion at bumcant y Motor Ambutance Aaron R. Fox. I i o I Ysgol Sul Douglas Road I o o PRINCES ROAD r Cyfarfod Cystadleuol.-Gohir- iwyd y cyfarfod am wythnos, sef hyd nos Fercher yr wythnos ddiweddaf. Caed ystafell orlawn, a ias gystadlu frwd. Beitniaid: y Parchn. D. D. Will- iams, H. H. Hughes, B.A.,B.D., J. Talog Davies, ac E. Griffith, Mrs. R. J. Williams, Misses H. Andrews, a J. Edwards, M.A., Mri. Humphrey Roberts, B.A., R.E.Edwards, J.J .Morgan,J. R. Owen, aPhencerdd Tegfan. Cadeirydd, W. 0. Roberts, Ysw; arwein- ydd, Mr. J. R. Morris cyfeilydd, Miss Edith Jones, A.R.C.O.,L.R.A.M. Swyddogion y pwyllgor llyw- ydd, Mr. R. H. Jones trysorydd, Mr. R. Ll. Phillips ysgrifenyddion, Miss Jennie Evans a Mr.J.E.Jones; trefnyddion y llwyfan, Mri. J. R. Jones a David Williams. Buddugwyr: Traethawd: Miss Eirys Lloyd Phillips. Crynhodeb o bregeth 1, Dorothy Jones; 2, Glyn Williams; 3, Olwen Williams. Aiholiadau HunangofianiTomi-danig: I, Lowri Hughes; 2, Grace Jones. Dan 16 1, Hywel Jones; 2, Grace Jones 3, Eilian Roberts. Yr laith Gyln- raeg dan 10: 1, Keri Hughes; 2, Ifor Griffiths; 3, Doris Jones; 4, Arthur Ellis. Dan 12 I, Gwen- nie Griffiths; 2, Helen Richards; 3, J. R. Jones. Dan 14 1, D. Griffiths; 2, Hywel Jones 3, Eilian Roberts; Dan 16 Alwyn Jones. MeysyddLlafur —Safonau IV, V: i, Helen Richards; 2, Keri Hughes; 3, Glyn Roberts; 4, Hannah Lewis. VI, VII: i, Phyllis Williams; 2, Eilian Roberts 3, Sylvanus Jones; 4, Leslie Jones. VIII, IX; I, Alwyn Jones 2, Jennie Jones 2, Peter Oliver; 4, Ch. Lewis. Gwyrthiau Crist: dan zz i, Dorothy Jones 2, Ella Evans. Adrodd dan 19 i, Gwen Witham; 2, Margaret Draper. Dan 16 1, Annie Roberts. Dan 12 i; Gwennie Griffiths 2, Helen Richards. Dan 10: i. Arthur Ellis; 2, Gwerfyl Ellis; 3, Eurwen Davies. Cerddoriaeth: Partion cymysg Parti Mr. Thomas Jones. Partion plant: I, Cor Gwladys Jones 2, Cor Leslie Jones. Deuawd I, Glyn ac Eirys Jones 2, David a Gwennie Griffith. Canu penillion i, Glyn Jones 2, David Griffiths. Unawdienethod dan 16 1, Martha Brown 2, Marie Roberts. Unawd i fechgyn dan 16 I, Leslie Jones 2, Glyn Jones. Unawd i blant dan 10 i, Gwerfyl Ellis; 2, Arthur Ellis. Unawd ar y berdoneg— gwobr, cwpan arian: I, Grace Jones; 2, Maisie Hughes. Unawd ar y berdoneg, i rai dan 16: i, Gwennie Griffiths; 2, Hywel Jones 3, Gwyneth Davies. Celf: Brusbzvork i, Ernest Davies; 2, Grace Jones. Drawing j, Ernest Davies; 2, Willie Williams. Woodwork: t, Alfred Jones; 2, Sylvanus Jones. Gwau Socks, pob oed: Miss M. H. Davies. Dan 18: 1, Gwyneth Davies a Louie Jones yn gyfartal; z, Martha Brown a Gwladys J. Owen yn gyfartal. Dan i z Nellie Davies. Diolch- wyd i bawb gan y Parch. H. H. Hughes a Mr. Cledwyn Hughes. Y Gymdeithas Lenyddol.-Nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf, darllenwyd papur rhagorol gan 'Miss Edith Jones, A.R.C.O.,L.R.A.M., ar Feistri Cerddorol y byd Chwaraeodd ami i enghraifft o'u gweithiau ar y berdoneg, a datganwyd unawdau gan Miss Mabel Roberts. Diolchwyd gan Miss Sydney Evans, Mri. J. J. Thomas a J. R. Morris, a chadeir- iwyd gan y Parch. H. H. Hughes. Diameu fod hwn yn gyfarfod o radd uchel iawn. BLUE-LABEL MARGARINE.—Y dyddiau yma oherwydd amgylchiadau eithriad'/l y Rhyfel a phris- iau yr ymenyn wedi codi fel pob nwydd arall, mae galw mawr am y substitute i fenyn, sef Margarine ac yn ddiamheuol, y mae y brand adnabyddus, y Blue Label, ymhlith neu y blanaf. Prawf 0 hyn ydyw y galw arbennig amdano. 0

Clep y Clawdd,I sef Clawdd…

I .■— iHeddyw'r Bore