Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Advertising

Advertising

Tpam I.-,, Pethau mawr i ddigwydd."

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Tpam I. Pethau mawr i ddigwydd." MAE dyn yn teimlo fod rhywbeth mawr iawn ar ddigwydd," ebai cyfaill y dydd o'r blaen. Yn teimlo ? Ie, ond mae hwn yn deimlad pur gyffredinol, ac yn cynnwys hefyd fwy o reswm nag y gallai dyn yn hawdd ei ddeffinio mown goiriau. Nid ydym am osod y teimlad ar lefel proffwydoliaeth na dewiniaoth o fath y yn y byd. Nid yw yn anffaeledig. Cofiwn ddarfod i'r Cadfridog Syr John French, yn gynnar yn y rhyfol, ddywodyd ei fod yn teimlo'n bod yn mynd i ennill" brwydr neilltuol, yr hyn ni wnaod ar y pryd, eithr i'r gwrthwyneb yn hytrach. Ac nid i fuddugol- iaeth yr ydym yn cyfyngu'r teimlad y soniwn amdano'n awr. Credwn, beth bynnag, mai nid teimlad dall, na dychymyg gwamal, yw'r un a bajir inni gredu fod pethau mawr—mwyn na dim a fu hyd yn hyd i benderfynu tyngod y rhyfel-ar ddigwydd, ac efallai wedi dech- reu, yn enwedig yn Verdun. Mae Germany, tuhwnt i bob dadl, yn credu mai yn awr neu byth yw ei hawr hi i grynhoi ei holl north ynghyd, a'i fwrw hyd yr eithaf yn erbyn y Cynghreiriaid. yn y gorllewin. Dywedai Bernhardi yn ei 1 fr, Rhyfel Nesaf Oemani, i nad oedd yn tybio y gallai'r Germaniaid ym- ladd i fuddugoliaeth ar y ddau ffrynt mawr, Dwyrain a Gorllewin, yr un adeg, yn enwedig os byddai Lloegr yn eu herbyn gyda Ffrainc a Rwsia. Yr hyn yr ofnai efe nad allsai ei wlad ei wnouthur yr anturiwyd iddo ganddi. Tybed nad yw hyd yn oed Bernhardi ei hun wedi synnu at ddirfawr allu Germani ac Awstria i sefyll allan cyhyd, ac mor effeithiol, yn erbyn y Galluoedd cryfion sy'n curo arnynt o bob ffrynt ? Ond nid yw Germani, hyd yn hyn, wedi ennill buddugoliaeth der- fynol yn orbYlèyr un o'r Galluoedd Mawr sy'n ei herbyn. Tarawodd Rwsia'n drwm, drwm, a churodd ei byddmoedd yn ol ymholl. Ond mae Rwsia wedi adennill nerth, mewn dynion a pheiriannau, a phob math ar gyfarpar rhyfe 1 ac yn ddiweddar wedi troi ar ei gelyn, a'i gadw'n ol ac wedi taro'r Twrc mor rymus fel ag i barlysu ei ymgyrch tua'r AifEt a'r India, a bygwth g wneuthur hpll rwysg ey frwysddrwg Germani yn y Dwyrain Agos yn gymharol ddiwerth iddi. Ni fedd gynnifer o'r byddin- oedd crwydr a feddai unwaith, i redeg rhwng Dwyrain a Gorllewin. Wedi methu dryllio a chwalu byddinoedd Rwsia, mae hi'n awr, yn ddiamheuol, yn ymgais at ymosodiad aruthr yn y Gorllewin. Mae Paris yn nod gan y Caiser, a'i amcan i daro Ffrainc i'r llwch yn ei ben, chwyddedig fyth. Rhaid ei fod bellach wedi paratoi cymaint ag sydd ganddo o ddyn- ion, a chyflenwad aruthr o beiriannau rhyfel. Hyd heddyw (dydd Llun), nid yw'r frwydr ddiangof yn erbyn Verdun wedi talu am yr aberth a wnaed yno mewn modd yn y byd. Pa un bynnag ai fel ymgais i ennill safle o bwys yn yr ymgyrch tua Paris, neu ynteu i gvflawni arddangosiad milwrol disglair i'w droi ar lygaid gwledydd amhartiol-yn enwedig y Balcanau a'r Dwyrain Pell—y cymrodd mab y Caiser ei rtithr y tro hwn, ni lwyddodd yn y naill na'r llall. Ac yn y cyf- amser, adenillodd y Prydeiniaid safle a goll- esid ger Ypres, a mwy na hynny, yn ol addef- iad y gelyn ei'hun, yr hyn a brawf nad yw llinell y gelyn yn gryf ymhob pwynt ar un- waith. Er hynny, gellir disgwyl rhuthr- gyrchoedd nerthol ganddo mewn unrhyw bwynt o Verdun i For y Gbgledd. Taenwyd chwedl—ai gwir ynteu gau, nid oes neb heddyw'n gallu profi—ddarfod i 20 o longau rhvfel mwyaf Germani lithro allan o Gamlas Kiel i F6r y Baltic. Os gwir hyn, anodd meddwl both allai fod yr amcan, oddigerth gwneuthur arddangosiad, neu fynd trwy ryw .ymarferiad llyngqeol. Pe baent eisieu brwydr gallasent ei chael yn ddioed trwy ddyfod allan i For y Gogledd, lie mae llynges Lloegr yn disgwyl amdanynt. Eto, yn ddiameu, mae cnofeydd dirdynnol yng nghrombil Kiel, ac arwyddion o geisio cyfle manteisiol iymosod. Polisi eyfrwys y Caiser o hyd fu ceisio gwasgar cymaint ellid ar bwyntiau'r rhyfel i Brydain, fel ag i deneuo'r llynges ym Mor y Gogledd. Ond ni ellir parhau'r chwarao nemor hwy, ac am hynny y mae arwyddion gwewyr anniodd- efol ar Gamlas y Kiel. Ac ymddengys fod pawb o'r Prydoinwyr, yn enwedig y Llynges ei hun, yn dyheu am i'r Caiser ddod allan 01 lechfeydd, gan gredu mai dyna fyddai debycaf o ddwyn y rhyfel i derfyn. Tu cefn i'r holl arddangosiadau hyn, mae'r ffaith ddiwM fod adnoddau hyd yn oed Germani'n cyflym brinhau, mewn dynion a chynhaliaeth. Ni all rliuadau'r magnelau foddi gwaedd gwragedd a phlant Berlin am ymborth, na disgleirdeb arddangosiadau milwrol guddio'r cyfyngder du sydd tu cefn i'r oil. Ac, yn sicr, nid ha wdd y gellir credu y gall wledvdd y naill ochr na.'r llall ymgynnal tawer yn hwy cyn dihysbyddu au north. Gellid meddwl fod holl adnoddau'r teyrnasoedd, mewn dynion a golud, yn ym- dywallt mor helaeth a chyflym i'r rhyfel treul- fawr hwn fel ag i'w gwneuthur yn annichon iddo barhau nemor yn hwy. Mae yma Niagara'n ymarllwys, ond heb gyflawnder dihysbydd Ontario tu ol iddo. Eglur yw mai bwriad y Cynghreiriaid oedd oedi'r ymosodiad mawr terfynol hyd ymlaen i'r Gwanwyn, ac felly gael amser i ddwyn eu paratoadau ymlaen i'r pwynt eithaf o nerth. Yr un mor eglur yw ddarfod i'r Germaniaid gredu hynny, ac mai goreu iddynt po gyntaf i wneuthur a allont. Gan iddynt hwy symud, rhaid fydd i'r Cynghreiriaid symud hefyd. Naturiol yw fod ygelyn a ninnau'n gosod yr wyneb oreu ar y sefyllfa, or ceisio cadw hyder eu pobl heb ymollwng, ac atal achos i'w gilydd bryderu. Mater o amser, ac efallai byrrach, nag y tyb llawer, yw i adnoddau'r teyrnasoedd redeg allan, a'r cwestiwn pwysig yw-Prun ochr all ddal i fyny hwyaf ? Gan hynny, pan edrychir ar yr holl sefyllfa, ac yr ystyrrir holl arwyddion yr amserau, nid anodd credu mai mynegiad o reswm cyson a ffeithiau diamheuol oedd dywediad ,ein cyfaill—ei fod yn teimlo fod rhywbeth mawr iawn ar ddigwydd."

Trent ll.-Galw allan.

Advertising