Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Ciianla a Sciat U Wesleaifl.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ciianla a Sciat U Wesleaifl. Y Deg Cennad, f OVNHALIODO YVosloaid Cymraeg Lerpwl a'r cyJch eu Cymanfa a'u Cyfeillach flynyddol Mawrth 10 12 a dyma'r deg cennad a gy- hoeddodd y Cymod y Parchedigion HUGH HUGHES, Hen Golwyn THOMAS HUGHES, Felinheli Dr. HUGH JONES, Bangor (efe'n cymryd lIe'1' Parch. O. Evans, Llanrwst, a ludd- iwyd gan waeledd). J. FELIX, Manceinion O. MADOC ROBERTS, Bangor J. KELLY, Abergele D. GWYNFRYN JONES, Fflint D. EGWYS JONES, Blaenau Ffestiniog EVAN RO'BEBTS. Croesoswallt T. ISFRYN HUGHES, Oakfleld Yn y GyfeiUach. Dechreuwyd gan y Parch. R. n • Davies » ac yna sylwodd y llywydd, sef Mr. J. Jones- Devonshire Road:—Pan gyfarfyddem flwydd, yn ol, fe'n hamgylchynnid gan gwmwl du iawn ac os l'hywbeth, y mae'n dduach heno na blwyddyn yn ol. Ein diogelwch ni ydyw parhau i ymddiried yn. Nuw a chofio mai ein Tad ni sydd ar yr orsedd, ae mq/i Efe sydd yn teyrnasu. Y mae ein heglwysi ni wedi cael eu hysbeilio o'u dynion ieuainc trwy'r cylch, ac yr ydym wedi cael eirt gadael yn wan oher- wydd hynny. Dylai hyn hefyd ein gwasgu ni vB nes at Dduw, yr Hwn sydd yn Noddfa ac yn nerth i ni. ac yn gymorth hawdd ei gael mown cyfyngder." Ni chollasom neb oedd yn dal cysylltiad amlwg a'r G-ymanfayma drwy angau, ond collasom un brawd annwyl sawn, sydd wedi symud i Gymru i fyw, Mr. Ed.ward Jones, Spellow Lane. Gwasanaeth- odd y Gymanfa or oi sefydliad, ae yr wyf yn sicr ein bod i gyd yn gwerthfawrogi y gwas- -anaeth neilltuol » wnaeth i'n hachos yn y oylch. Y mae yn annwyl gan y ddwy gylch- daith, ac yr ydym i gyd yn dymuno prydnawn dedwydd iddo. Yr ydym wedi cyfarfod ynghyd i ystyried pwnc pwysig iawn, pwnc amseroliawi-t (.'j.-efycid a'r'Oes." Gobeith- io ein bod wedi dod yma heno gan ddifgwyl cenadwri ar y cwostiwn pwysig yma, ac y byddwn yn derbyn argyhoeddiadau dyfnion, a,c yn gweithredu yn ol yr argyhoeddiadau hynny, onito ni fyddant o ddim gwerth i ni. Y mae i enaid orbit tragwyddol. Agorwyd gan y Parch. D. Egwys Jones' I sef ar Crefydd a'r Oes yn y person unigol. Yr eehel y try y bywyd crefyddol arni yw per- sonoliaeth,—y person unigol, 'yn ei dynged preifat ei hun. Ni fedrwch chwi ddim cario myfyrdod crefyddol ymlaen ond yn nhermau personoliaoth. Y mae budd yr unigol yn y peth cyntaf mewnmyfyrdod ar grefydd. Yr Hwn a'm carodd i, ac a'i dodes ei Hun drosof fi." Fe ddywad hen chwedl Norse fod y duw Thor wedi ceisio gwagu'r corn diod, ond methodd, er eeisio'n ddyfal ac egniol. Dy- wedir iddo geisio eorli rhyw greadur bach eiddil. Methodd wagu'r con, oblegid y mor ydoedd. Methodd godi y ereadur, am mai y Oread ydoedd. Os medrwch blymio i ber- sonoliaeth dyn. chwi fedrwch ddarllen holl ystyron y cydfyd, holl broblemau y gym- deithas ddynoL a holl ddirgelion yr hunan personol a thragwyddol. Y mae rhai fel po'n awgrymu mai rhyw agweddau ar feddwl dyn ydyw crefydd, neu rhyw gyngreddf eneid- ioL Ac y mae tin, pan yn siarad am amryw, aaeth profiad, yn dweyd Cyn belled ag yr ydym yn delio a'r cyffredinol, yr ydym yn delio ag arwyddion y Sylwedd mawr. Ond y foment yr ymdriniwn a phethau preifat, yr ydym yn cyffwrdd rectlitie8 yng ngwir ystyr y gair." Go dda Ond yr ydym ni yn tystio yma heno na wyddom beth ydyw ystyr per- sonoliaeth nes dod i undeb a. Phorson y Gwar- sdwr mawr ei Hun. Y mae ambell un fel pe buasai am droi y Seiat i ryw classroom i ddysgu psychology. Gwyddor leuanc yw honno, ac wedi gwneud camre broision ond or hynny i gyd, dengyseigwendid. Ymaeyn son am is-ymwybyddiaeth, ac y mae hynny'n beth na wyr hi ddim byd amdano. Y mae hi fel ambell i gyfandir a welir ar fapiau, a'r gair unexplored arno. le Ac yn unexplor- able hefyd. Er hyn i gyd, y mae crefydd yn golygu mwy na dyn yn ei oreu ac ar ei orou. Y mae yn goiygu Duw yn ei oreu ac ar ei oreu. Nid rhywbeth sydd yn ein meddwl ni. Beth am feddwl Duw ? Oblegid myfi a wn y moddyliau yr wyf fi yn eu meddwl amdanoch chwi." Y mae i enaid dyn orbit dragw* ydclol. Crefydd-cyfran gynhyddol dyn ym mywyd Duw. Enaid dyn yn dod-i gymundeb a, Gwaredwr byw. Ac nid oes fawr o drefn ar enaid nes y daw y Gwaredwr i mewn. Y mae personoliaeth dyn yn mynd i bob man, ac yn fratiog hyd nes y daw y Gwaredwr i mewn- Yna, y mae trefn arno. Dim ond dyn w di ei berffeithio yn Nuw a gyrhaeddodd yr ystyr briodol i'r gair "personoliaeth." Mewn orefydd y mae dyn yn darganfod ei hun. Mown gwybodaeth y mae yn cychwyn oddi- wrth Dduw. Nid ydyw yr organ meddyliol sydd 3rnnom ni dim yn amrywio. Ygwrth- rych sydd yn wahanol. Nid ydyw crefydd ddim yn dibynnu ar ein dyfodiad ni at Dduw. Duw sydd yn eyeliwyn. Efe sydd yn dyfod atom ni. Nid yr hyn yr ydym ni yn ei wybod amdano Ef, ond Efe a'n hadwaen ni. A dyna sydd yn arbennig mown crefydd Duw sydd yn cin hadnübod nI. A dyna sydd yn ardderchog, gwybod yr adweinir n i, y cerir ni, ac y ceisir ni, ac y darganfyddir ni, ac y cedwir ni i fywyd tragwyddol. Wedi i ni ddod i'r fan yna, yna y mae Duw yn dyfod vn awdurdod i'n bywyd ni, yn awdurdod ter- fynol. Yr Arweinydd anffaeledig at Dduw ydyw Crist, a'r awdurdod terfynol ydyw Duw. Y mae ein hufudd-dod ni trwy argyhoeddiad personol, trwy ymroddiad per- sonol. Ffydd, yn yr ystyr o ymddibyniaeth ar y Duw grasol. Nid gwirionedd yn unig ydyw crefydd lesu Grist yn nghalon dyn, ond gras" Y gras a'r gwirionedd a ddaeth. trwy lesu Grist." Gras yn gyntaf gras yn bennaf. le J A gras yn unig fedr ein rhyddhau ni, dod i gyfamod rhyddid lesu Grist. Y mae yn bwysicach i chwi gael free soul na free thought. Os cewch enaid rhydd, chwi gewch free thought, ac ni chewch chwi mo free thought mown unman arall. ¥n yr oes lion yr ydym yn dechreu codi at grefydd ysbrydol, foesol a chymdeit.has bersonol. Os ydyw crefydd lesu Grist ynoori, yr ydym yn cofio mai asg wrn o 'n hasgwrn ni, a chnawd o'n cnawd ni, ydyw ein cyd-ddynion, a'r Efeagyl yn beth sydd yn cyfleu yn iawn ein syniad am y byd yma fel y dylai fod. Doled dy deyrnas gwnelor dy ewyllys at y dda,ear mogis ag y mae yn y nefoedd." Ac y mae ceisio cyrraedd y delfryd yna yn golygu dau beth arall sydd yn dal per- thynas. a natur foesol dyn. Teimlo yr un lath a lesu Grist at y byd yma. Y mae yr hen fyd yma yn nobl. Pwy bynnag a ddylai roi v byd yma i fyny, y ni ddylai fod yr olaf i wneu- thur hyiiiiy. Pet,'Il arall, nid yn unig gweld a theimlo yr un fatli a lesu Grist. Y mae rhyw- beth mwv. Bywyd o ymgysegriad. Dÿma yr arbrawf mawr terfynol. Dyma ras terfyn,ol lesu Grist, a dyma, bra.wf sicraf, pennaf, ym- hob oes, ein bod yn rhoi ein hunain. Spend. and be spent in the work." Y mae yn resyn na chaem fwy o weledigaeth lesu Grist yn yr oes hon. Yr ydym yn gyfaddas i beth wm- bredd o feirniadaeth, ond nid pryder yabrydoL NM ydym mor gyfadd?s a'n tadau i gyfodi i fynyddoedd Duw o waelodion y liawi-, gan ramant ei gymdeifchas ysbrydol. Pan ddaw dyn personol i'w le, daw yr hen fyd i'w Ie. a dim cynt. Y C'irtref yw Shecina'n Cenedl- Y Ptrch. D. GWYNFRYN JONES, ar Grefydd a'r Oes yn y teulu. Y mae'n debyg mai rhodd crefydd, rhodd Cristnogaeth, yw y cartref fol yr ydym ni yn ei adnabod heddyw. Y mae Cristnogaeth wedi rhoi i wareiddiad liaws o roddion teg iawn, ond mi gredaf m -i y rhodd decaf a'r mwyaf bendithiol ohon nt i gyd yw'1' cartref. Byddai Mr. Gladstone yn dwüyrJ ei fod of yn fodlon cymryd y rhodd yma, OR mynner, fel prawf pennaf o wirionedd a. dwvf- oldeb crefydd The Christian home is the great Christian apologetic." Yr ydym ni, o gynefindra, yn analluog i weled mawredd hyn. Ganwyd ni i'w ganol yn union fel y ganwyd ni i weled y goleuni. A rhaid inui wrth dipyn o ymdrech i godi ein hunnin o ganol Ile, yr ydym a rhoi ein hunain mewn lie arall. Nid fel y mae pethau heddyw yr ooddynt bob aroser- Pe bur (pm yn mynd o'n gwareiddiad ein hunain i wareiddiad atall, y mae'n debyg m .r gwareiddiad mawr ydyw'r gwareiddiad Ma- hometanaidd. Y mae llawer o bethau gwych yng nghrefydd Islam, ond fe wyddoch fel y mae wedi cael ei difwyno gan rwyddineb ysgariad ac amlwreiciaeth. Yr oedd Groeg a Rhufain yn medru ymffrostio mewn mamau ei thriadoi. Trwy 'r cwbl, yr wyf yn credu mat rhodd Cristnogaeth yw'r cartref fel yr ad. waenwn ni of heddyw. Beth sydd yn y cartref ym Mhrydain a gwledydd goreu'r byd, rhagor a fu cyn Crist ? Purdeb ychwanegol bri ar ferch. Y mae ysbryd lesu wedi bwrw serthedd allan, wedi codi merch, ac wedi rhoi calon anwylach ar yr aelwyd. i blenfcyn bach. Both ddylai y cartref wneud dros grefydd ? Dylai wneud rhywbeth, neu fe fydd yn anniolchgar. Y mae arnaf ofn fod y teulu yn cael ei anghofio fel cyfrwng i wella,r byd, i ddwyfoli'r byd, i sancteiddio'r byd. Y mae'n cael ei anghofio "yvoithiau yng nghysgod y genedl. Sut y gellir dosrannu golud Rhag- luniaeth yn decach ? Sut y gellir gwneud v tir yn gynhaliaeth i'r werin, ac nid yn bleser i'r mawrion ? Sut y gellir esmwytho tipyn ar obennydd yr hen a'r cystuddiedig ? Bydd- ai'n dda gennyf w-eled Cristnogion yn ymroi â'u holl galon i ddadrys tipyn ar gwestiynau fel yna. Ond pan fyddom yn ymroi ati gyda rheiny, peidiwn ag anghofio fod yna, rywbeth arall sydd yn cyffwrdd bywyd y genedl yn nes, yn dryma.ch, yn effeithiolach nag unrhyw ddiwygiSjd. trefnidol a gwladol rhywbeth y mae ,pob diwygiad trefnidol a gwladol yn codi ohono. Nid oes yr un diwygiad oymdeith- asol yn ddiwygiad hir ei barhadoni fydd byw- yd teuluaidd. y wlad yn iach. Y mae brwydr- au mawr a buddugoliaethau mawr y Wiadwr iaeth i gael eu hymladd \ll hennill ar yr ael- wyd, wedi'r cwbl. Calon y wladwriaeth yw'r cartref. Os nad. yw'r galon yn iach, y mae'r corff i gyd yn glwyfus. Os bydd gwenwyn yn llygad y ffynnon, y mae'r fltrydiau i gyd yn farwol. Pan welaf ambell i oithafrwydd, y mae gennyf ofn hyn ofn i ferched erlyn y cysgod yn 1\hy ddyfal nes colli'r sylwedd, wrth geisio mynd i mewn i ddysgeidiaeth, a phroff- eswriaeth, i gy lchoedd gwahanol mewn byd a masnach heddyw. Ond nid yw merch mor swynol mown un man ag yn ei hoffeiriadaeth yn y teulu. Nid oes dim byd yn gyfrwng i wella, i godi, i achub byd ymhob modd na chartref. Yr wyf yn ofni i'r cartref gael ei anghofio fel offeryn i buro'r byd, yng nghysgod eglwys Dduw. Fu crefydd gynulleidfaol erioed y peth yw hi heddyw. Fu ei chyfryng au erioed mor luosog fu ei gwelediad hi erioed ra w eang, diolch am hynny. Ni fuas- wn i yn hoffi mynd yn ol at bopeth hen, ond yr wyf yn ofni rhag ofn fod pris mawr ar y pethau newydd yma. Yr wyf yn ofni mai pris rhai o'r pethau newydd ydyw pris rhai o'r hen bethau rhagorol. Gaf fi wasgu arnoch am beidio ag anghofio y cartref er mwyn cofio'r eglwys ? Beth wnaiff ddarllen y Gair yng nghysegr Duw yn fendith ? Alwy o'i ddarl Ion gartref. Siarad a'r plant am gomisiwn mawr y Meistr Ewch i'r holl fyd a phregethwch yr efengyl i bob creadur wnaiff y cyfarfod cen- hadol yn fendith. "Beth ddylai crefydd y teu- lu fod heddyw ? Dylai gynnwys tri o bethau, beth I bynnag. Hyfforddhint-benodol, dde- ffinioL Dysgu rhai o athrawiaethau mawr crefydd. Paham ? Am hyn y mae addysg y wladwriaeth yn gwbl fydol. Y mae ysbryd amheuaeth ar led. A'r unig beth fedr wneiid ein pobl ieuainc yn symol ddiogel yn eu canol i gyd ydyw, eu bod wedi gweled sights crefydd yn eu cartref eu hun. Yr wyf yn dweyd na ddylai ysgolion y wladwriaeth osod eu dwylo ar y touli-i yn rhy drymion ar oriau hamdden y plant. Fe ddylai roi cyfle i rieni ddysgu crefydd i'r plant. Heblaw hynny, dylai fod purdeb Piwritanaidd yn yr atmosphere. Cywirdeb, cariad os oes eisiau rhywbeth, y mae oisiau cariad i wrthweithio ysbryd hun anol y byd cariad i ddofi Ilid yn rhemp ac yn rhigl. Peth arall-—disgyblaeth. Helped y Nefoedd nj i feddwl am y pethau yma ac i'w J byw. Drwy'r Eglwys y daw'r byd i'w le. I Y Parch. HUGH JONES. D.D. (yn cymryd lle'r Parch. O. Evans, a lesteiriwyd gan afiechyd rhag dod i'r Gymanfa), Crefydd a'r oes yn yr Eglwys. Y mae modd i chwi gael eymdeithas heb grefydd, ond dim eglwys. Yr hen ddeffinaid o eglwys ydyw—" cynulleidfa o gredinwvr." Os credinwyr, y maent wedi au hachub trwy ras Duw. Felly nid oes dim eglwys heb grefydd. Fe all fod ymofvnwyr e g '] -kv am iachawdwriaeth. Gall fod rhai wedi syrthio a mynd i dir dirywiad, heb y profiad a fu ga.nddynt o'r blaen ond peth hanfodol i eglwys yw crefydd. Eglwys cynulleidfa o gredinwyr eymdeithas grefyddol. A ydych yn credu hyn ? A ydych yn credu mai cy- mundeb credinwyr a'i gilydd ydyw y seiat ? Y mae gennyf ofn mai un o arwyddion yr oes bresennol ydyw, bod yn ddiofal am gymundeb y saint. Wrth gwrs, ni fedrai i mo'i ddeall o,, Yr wyf yn gweled ymhob man arall fod y tebyg yn mynd at, ei debyg-.cerddorion a beirdd. a lienorion yn naturiol. A ydyw felly yn eglwys Dduw, tybed ? Tybed mai'r cyfrif am anffydcjlondeb yng nghymundeb y saint yw diffyg profiad crefyddol ? Ac os nad oes profiad crefyddol. yr wyf yn dweyd fy marIl onest fy hun, nad oes dim crefydd' Y mae llawer iawn o siarad yn y dyddiau yma am y rhwymedigaeth a ddaw i orffwvs ar yr eglwysi i gyfarfod a'r agweddau newydd fydd ar grefydd ar ddiwedd y rhyfel yma. Wy- ddoch chwi, yr eglwys yw'r offeryn sydd gan Dduw i weithio ar y byd ac i osod y byd mewn trefn. Y hi yw'r gallu mawr. Nid wyf am ddiystyru gwasanaeth bydol yr eglwys. Y mae yna beth felly. Yr wyf yn eiddigus iawn dros i'r eglwys beidio ag esgeuluso y byd sydd o'i chwmpas, a rhoi bara i'r newynog, a dillad i'r noeth.—hyd y gall. Ond dyma'r pwynt sydd gennyf fi cyn y daw yn ymarferol mewn gwirionedd, rhaid iddi gael profiad o grefydd. Dyma y peth pwysicaf. Po fwyaf diwylliedig fo eglwys, addasaf yw i gynhyddu mewn cref- ydd bersonol ac i fod o wasanaeth i'r byd. Man,tais ryfeddol ydyw cael golud at wasan- aeth yr eglwys. Ni fedr yr Eglwys ddim gwneud ei gwaith heb hwn. Ond beth byn- nag am wybodaeth, a pheth bynnag am gyf- oeth at wasanaeth yr eglwys, Eglwys yn adnabod Duw, yn byw mown cymundeb a Duw, o dan arweiniad Ysbryd Ðuw,dyna'l' Eglwys a fedr wneud ei gwaith. Meddyliwch hyn o ddifrif, bob un drosto'i hun yr wyf yn aelod o'r Eglwys y mae'r lesu mawr am i bob aelod Jen wi ei gvlch gwneud ei waith bod yn filwr yn Ei fyddin bod yn faen yn Ei deml; bod yn dyst* drosto Ef. Y mae'r lesu am i bob un weithio yn ei Eglwys. Nid y pregethwr a'r blaenoriaid yn unig, ond pob un yn ol ei allu ei hun. A'r cwestiwn mawr lieiio ydyw hyn A ydym yn ymdeimlo a'n eyfrifoldeb i Dduw, i ofalu am burdeb yn yr Eglwys ac am dclylan,wad i ennill y byd at lesu Grist. ? Ymgysegrwn o'r newydd Iddo heno, a byddwn yn amlach ar ein gliniau, yn gofalu mwy am grefydd ar yr aelwyd a chyn y medrwn wneud hynny, rhaid inni gael cref. ydd bersonol. Ofown Filitariaeth, Y Parch. THOWAS HUGHES ar Crefydd a'r Oes yn ei pherthynas a'r Genedl. Daw dyian- wadau arbennig yn y dyddiau hyn i orffwys ar y genedl fach yr ydym ni yn perthyn iddi,- dylanwadau a'u.tuedd i brofi'n anfantais i'w bywyd ysbrydol. Yr wyf yn awyddus yn arbennig i gyfeirio at ddylanwad sydd wedi dod yn ddiweddar i orffwys arnorn ni fel Cymry, dylanwad all brofi yn achos dirywiad ysbrydol difrifol, os na wnawn ni, sydd yn aelodau eglwysig, ein rhan i'w wrthweithio. Yr ydym ni yng Nghymru wedi cael air newydd sbon fel ychwanegiad at ein geirfa Gymraeg. 0 Sir Fon y mae wedi dod, a'r Athro J. Morris Jones yw ei awdur. Yr oedd arnom angen am y gair. Dyma fo,-milita,r- iaeth, fel cyfystyr i'r gair Saesneg militarism, Y mae gwahaniaeth rhwng militarism A milwr. iaeth. Yr wyf yn falc-h o'r gair, ond yr wyf yn arswydo rhag inni yng Nghymru gp,(,l N- peth y mae'r gair yna yn ei olygu. Yr wyf yn rhydd i siarad ar y mater hwn oherwydd fy mod ymysg y rhai sydd wedi eu harwain i gredu nas gallwn ni ymgadw oddiwrth y rhyfel ofnadwy sydd yn mynd yn rnlaen yn awr heb beryglu ein buddiannau ein hunain. Un o'r profedigaethau rnwyaf i mi oedd dod i'r tir yna, ac yr wyf mor effro ag undyn i werth y gwasanaeth pwysig y mae ein bechgyn ieuainc yn ei gyflawni, trwy fynd allan i sefvll rhyngom a'r gelyn. Yr wyf yn edmygu eu hunanaberth. A llawor noson, wrth fvneI i orffwys, yn nhawelwch fy nghartref. byddaf yn modclwl am y bechgyn sydd ar dir a mor yn aberthu eu cysuron a phoryglu eu bywyd er fy mantais i. Bydd geiriau yr awdurdod uchaf yn dod i fy meddwl gyda grym Cariad mwy na hwn nid oes gan neb, sef bod i un roi ei einioes dros ei gyfeillion." Ond wrth ddywedyd hynny, yr wyf yn arswydo wrth feddwl am y perygl y mae Cymru yn ei wynebu y dyddiau hyn. Yr wyf yn meddwl fy mod yn gweled militariaeth yn gwasgar dylanwad amlwg y dyddiau hyn, mewn ardal- oedd gwledig yng Nghymru. Byddaf yn gweld plant bach yn chwarae milwyr. Yr wyf yn gweled blaenoriaid eglwysig yn cyfar- fod ei gilydd, ac'yn lie ysgwyd Haw yn y ffordd hen ffasiwn, yn salutio. Y mae pethau fel yna yn arwyddocau pethau pwysig i mi. Os na byddwn ni yn effro i geisio gwasgar y dylan- wad yna, druan o grefydd y dyfodol. Y mae galw am i ni fod yn effro i roi pwys ar ein bod yn cadw yr ymdrech ddifrifol ofnadwy sydd yn mynd ymlaen y dyddiau hyn yn y goleu I priodol hyd y gall-wn; synied amdano yn ol dvsgeidiaeth yr. Hen Lyfr yma, rhag iddo amharu ein bywyd gorou iii. (Cyn. i'r siaradwr olaf gael prin dechreu ar ei bwnc, trowyd y goleu i lawr, yn ol y trefn- iadau milwrol, ac felly ni chafodd chwarae teg, yn enwedig gan i rai o'r siaradw-yr o'i flaen gymryd mwy na'u rhan o'r amser gosodedig]. Terfynwyd trwy weddi gan y Parch. J. Felix.

Advertising