Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Advertising

Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu

I 1 ?' I t Y Daith a'r Drofa. I I, Atgof am bererindod 1904. j A DWEYD y gwir, teimla'r Merlyn yn euog drwyddo, ebe fo wrth yr ysgrifennydd, am na ddywedasai air yinholl cyn hyn am y wib a gafodd rai misoedd yn ol i F6n, sef wrth gadw cyhoeddiad gyda Chymrodorion Bro Goron- wy ond cyn mynd at honno, rhaid iddo, ebe fo, gael dweyd gair o'r atgof melys sydd gan- ddo am daith arall a gafwyd i'r Fro odiaeth honno Ddygwyl Awst, 1904, pan aeth yno ar borerindod undydd gyda Chymdeithas Longar Lerpwl,—cymdeithas a ffurfiwyd fel ffrwyth darlithiau cofiadwy'r Athro John Morris Jones yn y ddinas y gaoaf cynt ur Weithiau Goron- wy. Yr wyf ar Lannau Mersey yma, ydwyf, ers deugain mlynodd bellach ond dyna'r! gaeaf mwyaf llenyddol ei flas a welais i erioed. Hwnnw oodd pen llanw'r ysbryd conedlaethol yn Lerpwl a gresyn i drai ddod ar spring tide- mor fendigedig. Nid rhyw bitw gwelw o ?yn hulliad ond ugeiniau ar ugeiniau yn tyrru i wrando a mwynhau. Ac nid ffodusion golud og na gwyr lien proffosedig yn unig a geid yn y dyrfa, ond degau o feibion a merched y swyddfeydd a'r siopau—ie, ae o'r genethod gweini hefyd, bendith arnynt A llu mawr a Gweithiau Goronwy—[argraffiad Foulkes, a'r j Llyfrbryf yn llygeidio'i fwynhad wrth weld ei lyfrau mynd ar flaen y llanw]—ie, Gweithiau Goronwy yn un llaw, a phapur a phensil yn y Hall, ac yn ysgrifennu nodiadau ar yr amryfal bwyntiau a godid, mor ddyfal ag y gwelid pob ieuanc a. rhywbeth ynddo yn ysgrifennu rhediad y bregeth yn yr oedfaon flynyddoedd yn ol ond golygfa dlos yw honno na welir mohoni byth braidd heddyw. Ys gwn i pain? Gwnawn, fe hoffwn i weld Gaeaf etc fel Gaeaf llenyddol 1903-4, yn Lerpwl, a thrwy Gymru. Y mae gan y Saeson eu Shakespeare Society, ou Browning Society, ac yn y blaen pam na chaem ninnau oin Goronwy Society a'n Islwyn Society a'n Morgan Llwyd Society ac yn y blaen ? Y pethau a fwynheid fwyaf o ddim yn y darlithiau fyddai'r agor dorau hen garcharau," sef oedd hynny egluro geiriau cyfoethog a meddyliau clos Goronwy, a'r ambell ergyd ffraeth a saethid megis rhwng cromfachau ond gee cymoder wq, ferlyn! canys pe llaciwn dy ffrwyn ac y'th ollyngwn i garlamu ar ol yr hen oiriau hynny, bach o le fyddai yn dy lith i ddim o hanes yr ymweliad a M6n ac felly, y pranciwr chwidrog, tyrd yn dy ol i ail gychwyn dy atgof am Bererindod swynol 1904 it it 11 Llan y Medd a'r Delyn. Cyrhaeddwyd Llannerch y medd a'r Morlyn erbyn un ar ddeg y bore Awst hwnnw a dyna lle'r oedd haid o lonorion Mon ac Arfon wedi dod i'n cyfwrdd er mwyn cyd-gerbyda â ni i Fro Goronwy a Morusiaid Pentre Eiriait- ell. Y mae caredigrwydd y Monwyson yn ddihareb ydyw, y mae ond ni freuddwyd- iodd y Lleifiad llwydion fod y fath groeso chwilboeth yn eu haros, canys nid oedd yr f helynt a'r byhw a gawsid gyda chroesawu'r Brenin yn Lerpwl yr wythnos cynt ond megis cynhebrwng o'i gymharu a thanbeidrwydd y gorohian a gafodd haid Lerpwl gan ysbrydion cydnaws Mon ac Arfon ar Sgwar Llannerch y Madd. Lluman yn chwifio o bob ffonestr y "Maes dan ei sang o bentrefwyr ac o bobl y wlad oddiamgylch yn eu mysg, doreth o blant trystiog y Gan a'r Delyn, a mwy fyth o feirdd o bob maint, siap ac odl. Dacw Bwyll- gor Lerpwl a rhai o wyr amlwg y Sir yn esgyn i'r clamp o gerbyd oedd ar ganol y Maes ac oddivno, dacw Feilir M6n vn codi i ddarllen anerchiad croeso Llenorion Mon i Lanorion Lerpwl, ac yn ei ddarllen mewn llais cryf, • croyw. ail yn unig i gawrfioedd ddiangof Howell Harris wrth weiddi "7 Deuwch ar blant y Codwm. Wodi i'r Parch. John Will- iams (Princes Road y pryd hwnnw) ddiolch a chydnabod dros ei frodyr, caed gair o fendith yr Athro John Morris Jones ar yr ymweliad, a dibennwyd Oodfa'i' Maes gyda ga]w ar y Prifardd Job i adrodd gosteg o'i benhillion arbennig gogyfer a'rBererindod, a hwn yn bennill cloi Pan fo'r utgorn, mingorn mawr," Yn galw'r dulawr deulu, Pan fo Mon yn eirias fflwch," A'r cread trwch yn chwalu, Bydd awdur Cywydd mawr y Farn Uwchben y darnau'n canu Cafodd y penhillion y fath arddeliad a chy- meradwyaeth nes v bu raid i Job eu hadrodd doirgwaith yn ystod y diwrnod hwnnw; a ninnau, a glywsem gymaint am rysedd a cheirch gwylltion Goronwy, yn teimlo'n falch clywed pregethwr selied yn arddel ei gred lydan fod enaid y Bardd Dit ar gael or y cwbI. a hynny, mae'n debyg, am iddo droi at ei Arglwydd a aylwedd ymbil edifeiriol Rhys Jones y Blaenau ar ei ddeufin :— ':0 i niaddeu gamau i gyd, Hyll foiau fy holl fywyd." Dyna i chwi weddi dda—a hor. tt tt -ir O'r naill wynfyd i'r Hall Bu rhai ohonont yn sbio ar greiriau Haw- yagrifol y, Dr. Evans, sydd bollach, hynaf iaethydd diddan, dan y dorian. Yna, wedi cydfwytavn y Neuadd Nowydd, corbydodd y Pererinion i'r Dafarn Goch, cartrof Goronwy obe rhai ond peidiwch a bod mor sicr, ebe eraill, Ymlaen oddiyno i Lwydiarth Esgob, lie y buwyd yn edrych llawysgrifau'r Bardd Coch, darganfuwr Goronwy, yn ol y stori wlad- Ymlaen wedyn Ties cyrraodd Pentro Eirianell, He y mae bellach ffermdy nowydd holaethwyeh, a'r hon Bontro Eirian- ell, lie ganed ac y maged y Morusiaid, yn feudy yn ei gefn- Caed ajitryw areithia-v, cia ar y buarth ond merwinwyd clust y cyfar- wydd gan un o wyr amlwg y genedl, hyddysg tuhwnt yn ei rych ei hun, ond dybryd ei anwybodaeth o Gyrpraog Goronwy, canys wrth glensio prif hoelen ei araith a chwpled n'r gair "gwraidd "(man,ly) ynddo, cyn-! hanodd of yn unsillafog, gan hurt-feddwl mai g-.vrai(I-d root) ydoodd. Yr oedd wynob Yr Athro yn study mewn cynddaredd, a flys arno dynnu'r dyn i lawr o ben y domen siarad, Caed diwrnod heulog ar ei hyd dychwelwyd i Lannerch. y Medd erbyn saith ar gloch yr hwyr a beth oodd yn y fan honno ond Cym- deithas Mon wedi arlwyo cinio arbennig o stwns ffa Mon i wrido a graonu tipyn ar lwydion trefedigaethus Lerpwl. Ac wadi teithio drwy'r awelon a bod cymaint awch ar y cylla, fe fwytawyd y crochanaid anferth mor llwyr nes camp i'r analyst craffaf byth brofl y bu'r bwyd ynddo orioed. Encor i'r Stwns ebe'r Lleifiaid barus wrth estyn yn un rhes am ail a thrydydd platiad. A it it tt Oddiwrth y Bwrdd at y Bedd Wedi clirio'r crochan, aed i gadw cyfarfod cyhoeddus a'r rhaglen wedi ei threfnu gan y Parch. James Da vies, M.A., yntau bellach yn y bedd. Ficfr Dowi Sant, Lorpwl, y to, a mwynachoffeiriadniwisgoddgrysgwyn. Ac nid mwvnmohono am ei fod yn wan a meddal. Nage wir canys medrai ddywodyd Nago yn chwyrn a diofn os byddai eisiau. Achubai bob cyfle i ymrwbio yn ei genedl, a chredai yr ai dyn duwiol i'r Gogoniant serch iddo fod yn Ddatgysyllwr rhone. Ac erbyn cofio, y fo a glywais yn dweyd iddo gael llythyr gan Ddeon Howell, ychydig ddyddiau cyn i'r sant a'r efengylydd gwir eneiniedig hwnnw ddod yma i ddarlithio ar Emynyddiaeth Cymru, yn peri iddo ofalu nol y Parch". Griffith Ellis a'i debyg yno, canys yr wyf yn hoffi cymdeithas y saint o ba gorlan bynnag y bdnt. Esgobion Cymru,—dau o honoch yn onwedig I -dyna i chwi batrwm mewn graslonrwydd a phe'ch calon cyn lleted a chyn llawned o waed cynnes ein Brawd Hynaf ag oodd calon y Llawdden duwiol, buan y gwelech y gwenyn Ymneilltuol yn heidio'n ol i'r Cwch Eglwysig, a ninnau'n cael Eglwys iawn a gwir Genedl- aethol o'r diwedd, yn lie rhyw chwegr Seisnig o Senedd Llundain. Ond am y gwenyn, ni ddychwelant byth ar eich galwad wrthun a thraws-estronaidd chwi, canys yr ydych yn ymgreinio gormod i D,y'r Arglwyddi ac i'ch pennaeth archesgobol o Gaergaint; yn mygu asbri'ch cenedl; ac yn cydgynllwyn yn ystrywgar i gadw gwyr galluocach a dysgedicach na chwi oich hunain i ficera'n bell ym mro'r estron, a hwythau'n dyheu yn eu calonnau ar hyd y blynyddoedd am gael bod gartref i agor sluice yr Eglwys yng Nghymru a gollwng llanw'r adfywiad cenedlaothol drwy ei dorau i'w hiachati o'r Cantuaritis diffaith a'i parlysodd. Maddeuwch inni am grwydro ffordd yna enw James Davies a gododd hiraeth ynnom amdano, ac a barodd inni adael bwrdd y wiedd yn y Llan am funud, i blanniin blodyn bach o barch ar fedd un sy'n gu ei goffadwriaeth o hyd. Ac heblaw hynny, y mae a wnelo'r drofa hon a'r Bererindod hefyd, canys Goron- wy, o bawb, gystwyodd fwyaf ar yr Esgobion a'i cadwodd yntau o wlad ei dadau, drwy benodi rhywffefryn palasog i bob bywoliaoth, a'i gadw yntau, a mwy yn ei ben na'r oes honno o Eglwyswyr i gyd gyda'i gilydd, i ddarnlwgu yn Donnington a Walton a Northop, yn debyg i'r fel y gwna'u dilynwyr esgobyddol yng Nghymru heddyw. I tt tt tt !*r • { i-i* fi' I Chware Marblis I Y Parch. Thomas Hughes, Golygydd I llednais, meddy Ibraff yr Eurgrawn Wesleaidd, I a lywyddai'r cyfarfod a ddilynodd Swper y I Stwns ofe'n weinidog yn Lerpwl yr adeg honno, ac a fuasai yno hyd heddyw pe cawswn .i fy ffordd. Da chwi, Wosloaid aniiu-vl,, dyrwch ben ar ffiloreg y gyfundrefn deir- blwydd a symudol yma, canys pan fo dyn a thipyn o wreiddioldeb a grym personoliaeth ynddo-io, pan fo hwnnw'n dechrou cael gafael o ddifrif ar oi bobl a'i gylch, ac yn dechreu gosod delw ei foddwl a'i ysbryd arnynt, dyma chwi'n ei gipio i ffwrtki gorfydd ei glust, ac yn ei daflu i ben draw'r byd yn rhywle arall, i ail ddechreu'r un gwaith y fan honno dmchefn, heb byth gael cyfle i'w orffen yn unllo. Gennych chwi y mae amryw o Hoelion Wyth praffa'r pulpud Cymreig hedd- yw ac yr ydych yn gwneuthur cam dybryd a. hwy ac deh gwlad drwy ryw chwaro marblis fol hyn. Wyddoch chwi am ba beth y byddaf fi'n meddwl wrth edrych ar eichffordd o symud eich gweinidogjon ? Wel, am lyfr yn dod allan yn rhannau, ac yn cael ei adael yn rhydd heb byth gael ei rwymo'n gyfrol gyfan. Ac fe wn i fod rhai o'ch pregethwyr goreu a chryfa'u cynheddfau yn cashau'r gyfundrefn, ac yn grosynu na chaent lonvdd i fyw yulIe lletya. ++ ++ it H H Plicio r Chwyn. I Und sut bynnag am symud eu gwemidog- ion. cyn gado'r Wesleaid, gadewch inni eu llongyfarch ar y newid mawr a. ddaeth drostynt o ran eu Cymraeg a'u cenedlaetholdeb. Naturiol i bren oedd a'i ffm yn Lloegr fod tipyn o liw estron ar ei ddail ac o flas Soisnigaidd ar ei ffrwyth end pan impiwyd y Gangon, sef y Gymanfa Wesleaidd Gymreig, yn naear Cym- ru, ac y cafodd dipyn o ymroolaoth a rhyddid i sugno'i nodd o bridd yr Hen Wlad, tyfodd ac ireiddiodd. Edliw y byddom fod y Wesleaid yn andwyo'r iaith a'u clogyrnach, ac yn bathu llymrigod o eiriau gwftg ac afluniaidd fal moddiannau am foddion, mynedol am orffennol, tragwyddoldebau am dragwyddol- deb, ac yn y blaen ond dyma'r gwir amdani erbyn heddy w, sef mai eu gweinidogion hwy sydd ar y blaen o neb yng Nghymru braidd i blicio'r chwyn a'u taflu i'r domen. Y mae a wnelo Goronwy, a'n llith ninnau a hyn oil, canys dyma'r fel y mae'I' pethau'n cydio Goronwy a saerniodd y Gymraeg ac a'i gwisg- odd yng ngwisgoedd ei gogoniant brodorol efo, yn ein hoes ni, a swynodd yr Athro J. Morris Jones ac eraill tebyg eu bryd i efrydu Goronwy, ac i drosglwyddo ei arddull r.'i asbri llenyddol i'r cannoedd efrydwyr yn y-Cologau Cenodlaethol a'r YsgoUon Sir, etc. ymysg y rheini, caed awdur Yr Iaith Gymraeg ei Horgraff a'i Ghystrawen, y llyfr a wnaeth fwyaf o'r un i haitr had da ym meddyliau'r worin lengar, Dd f,, a Gogledd llifodd yr un dwf glan hefyd i Lestri'r Trysor, ac y mae'n mynd o lyfr i lyfr ae o bapur i bapur byth or hynny. A phan esgynnodd y -Parch. Thos. Hughos (dilynydd cyson ar ddarlithiau Goronwy yn 1904) i gadair Yr Eurgraum, nid rhyfedd felly fod y cylchgrawn hwnnw heddyw gyda'r puraf ei Gymraog a mwyaf graenus ei ysgrifau o'r un yng Nghymru. Ffrydiau o lyn Goronwy ydyw y rhain i gyd, ac erbyn edrych, chwi welweh fod yna rhyw reswm a deddf i garnau crwydrol Morlyn Mynvdd erbyn deall eu geometry, it it it Ar ol y Blewyn Glas Ond yr wyf yn eich clywed yn brochi agweiddi ers ineityii Pa both sydd ar y delfiyn yn gado'i bwne fel hyn o hyd ar yr esgus Ileiaf ? Wedi ymdroi cyhyd efo darlithiau Goronwy, meddwi wedyn ar win croeso'r Llan, a gorfoledd-a uwchben stwns ffa sir Fôn, dyma'r drelyn yn troi oddiwrth fedd James Da vies i gicio nyth cacwn, a mynnu gwthio'i farn fach am drefniad- aeth Wesleaidd arnoin,-pwnc y bu cowri £ C crefydd, o John Wesley i John Jones, yn methu'n lan a chydsynio arno. Cadw'th £ £ ben yn dy grochan, 'y ngwas i, nes y del rhywun heibio i ofyn am dy bitw barn a dyro wybod sut y dibonnodd y Bererin- dod, heb ragor o'th grwydro (liamean. Yr ydych yn siarad yn ffraeth a phigog i'w ryfeddu end yn bur arwynebol serch hynny, ac yn ddygn eich anwybodaeth am ganonau lien a sgriblyddiaeth. Yr wyf yn hen gerdd- wr o anian ac arfer ac os gwelaf y ffordd yn estyn yn syth a llychlyd o fy mlaen am rai miiltiroedd, yr un fath a honno sydd o Bont Llyfni i Glynnog, bydd fy nghaion yn ym- ollwng a'm corff yn llesghau ynghynt o'r hanner ond os bydd yna drofa go ami, ac amrywiaeth golygfa, fe gyrhaeddaf ben y daith yn gynt, or i'r ffordd fod yn hwy o filltir- oodd nag ar hyd y ffordd seth. Dyna afch- roniaeth y peth," chwedl John Margiad Owen ers talm a pho gwelsech ben draw'm llith sech o'ch blaen ar ei hyd, fe fuasech wedi blino ers meityn, a nogio yn lie dal ati i ddarllen. Y mae Deg Gorchymyn yr Hen Destament yn ddigon syth, fol y gwyddoch drwy brofuid, mae'n ddiau yn wir, erbyn cofio, Llath Foesen (llathen Moses) y byddai'r Hoq Gymry yn galw'r Deg. A phwy fel hwy am roi enw iawn a phort ar bob peth ? Ond or ei sythni i gyd, fe fuasai'r ddynoliaeth druan wedi nogio'n lan a thorri ei chalon a thaflu'r drol ers d wy filo flynyddoedd onibai i'r Mab ddod yma a mynd a ni ar hyd y "ffordd newydd a bywiol," sy mor lawn o Rosyn Saron ar un ochr ac o Lili'rDyffrynoedd ar y Hall, ac o drofau Cariad a Maddeu- ant ar bob Haw. Fe ddaw pawb a'i lwyth adref ar hyd y Lon Droellog yn y diwedd. Pan ddeuai hen ferlen John,Hughes, y cariwr o Gaernarfon i Lansolhaoarn, i olwg ffordd Glynnog ym MhontLlyfni, arafai ei throt yn y fan"; ond pan welai drofa'r Sportsman Bach, fe gyflymai bob cam, gan foddwl, ebe John Hughes, pan ofynnais iddo pam, fod ei stabl a'i hebran am y gongl i bob trofa. Peidiwch chwi na finnau ag edrych i lawr ar goffyl nag anifail yn y byd yr ydym yn bur debyg yn y bon, welweh chwi a phe dywed- em y gwir yn groyw yn ein eyffesion, byddai raid inni addef mai'r gred braf mai Stabl a Phreseb y Wynfa Wen tudraw i Drofa'r Bedd sydd yn ein sbardynnu ninnau i gref- ydda a dal i gludo baich ein bywyd i bon Gallt y Farn. Rhyw flawyn glas fel yna a hudodd y Mor- lyn druan o'i ffordd mor bell; ac os na faddeu- wch iddo, yr ydych yn hollol wahanol i'ch Tad Nefol. Digon anghydnaws a'i anian yw cael ei gaethiwo mewn ystabl fwll ynghanol y dref a pha!-t gaffo'i oll wng ambell dro fol hyn, pa ryfedd fod y creadur yn lluchio'i garnau i'r entrychion wrth arogli ffriddoedd rhyddid a shamant yr Hen Wlad. Mil gwell gauddo, ebe fo, hoi oi gopi ffordd honno nag vv-rth lyfu'r waag Saesneg feleu ac anghynes. Bydd yn taflu ei farchog yn ami oddiar ei gefn, ac yn mynd Llemyn o acnid no y mynnai oi feistr, yr un fath a morlyn yr hyb-arch efengylydd gwreiddiol o'r Wern Ddu. Mynd i'w gy- hoeddiad yr oadd o ar ei gefn rhyw fore Sul rhusiodd y merlyn am rywbeth neu'i gilydd carlarnodd heibio'r capol lie'r oodd o i ddisgyn a phregethu a phan waeddodd y pen blaenor north esgyrn ei ben ar ei ol, I blo'r ewch chi, Rhobet William ? "Yn wir ichi," dwn i ddim, gofynnwch iddo fo," obo'1' patriarch wrt.h golli ei het ac ymglymu am war y merlyn. Gofynnwch chwithau iddo fo. Ac inni ddychwel unwaith oto at gyfarfod y Llan, cafwyd areithiau hwyliog a thanbaid ar ol y swper, sef gan y llywydd a Job a Mr. J. G. Rowlands, B. A., a satellite neuddau i lenwi'r bylchau cydrhyngddynt pawb yn bendigo'r dydd a'r deffroad llenyddol a roes fod i'r Bererindod a'r ddwy Gymdeithas a LleifiaidLerpwl yn cyrraedd adref erbyn dau ar gloch bore drannoeth. Hawyr dyma fwy na'r gofod wedi mynd cyn dwoyd gair o hanos yr ail wib i Fro Goron- wy. Nid oes dim i'w wneud bellach ond ei hoedi am bythefnos, gael gweld beth fydd i'w ddweyd am Gymrodorion y Bonlloch a Thy'n y Gongl, ac am y soiat folys a drouliwyd dan nenbron y Seneddwr gwladgar a hyddysg ym Mhlas Llan id an, yntau'n credu yn Goronwy, ae yn medru adrodd talpiau o'i weithiau. Llygad y Wawr J.H. J. -o -——.

I', 1 1?'1. -I -I-t Y Daith…

Cymry Amlwg.