Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

a wool, -GOSTEG. [

I.DYDDIAOUR, I

iyhoeddwyr y Cymod I

Advertising

Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu

Basgedaid or Wlad. I a a 0 GASNEWTDD Eghoys Mynydd Seion(A.).- Prynhawn dydd lau diweddaf, cynhaliwyd cyfarfod uefydlu y Parch. R. J. Pritchard, o Salem, Penmaen- mawr, yn weinidog ar yr eglwys uchod. Llywydd- wyd gan y Parch. R. E. Peregrine, B.D., Rhymni. Agorwyd y gwasanaeth gan y Parch. Tudwal Evans, a chafwyd hanes yr alwad gan Mr. David Williams, ysgrifennydd yr eglwys. Offrymwyd yr urdd-weddi gan y Parch. H. P. Hough. Cafwyd anerchiadau croesawgar gan Mr. John Williams, ar ran Mynydd Seion Mr. David Jones, fferm Clawddu, ar ran eg- lwys Llantarnam; Hen. S. N. Jones, ar ran Cym- deithas Gymreig y dref; y Parch. A. W. Anderson, dros yr Eglwysi Seisnig a'r Parch. D. IT. Williams, D.D., a D. D. Joseph. Cynrychiolwyd eglwys Salem, Penmaenmawr, gan Mri. Wm. Jones a W. J. Roberts, a chafwyd tystiolaethau uehel i Mr. Pritchard fel gweinidog a Christion. Y Parch. W. Salmon, cyn- weinidog Mynydd Seion, yn canmol yr eglwys, a'r Mri. T. Thomas, Penywern, Dowlais, a'r Parchn. D. R. Williams (Dowlais), Joseph James, B.A. (Llandysilio), a Stanley Jones (Caernarfon) yn canmol y gweinidog newydd. Diolchwyd i bawb am y derbyniad croes- awgar gan y Parch. R. J. Pritchard. Pregethwyd nos Fercher a nos lau gan y Parchn. Joseph James a Stanley Jones. 0 Sir FniDt. I i-Gan FAB r BONC: Cafodd tre* Daniel Owen bregeth dasus nos Lun ddiweddaf* sef ar ol Cyfarfod Misol y Sir, gan y bachgen gwych a dyfodd o David Street, Lerpwl, sef y Parch. H. H. Hughes, Bangor, ar Nid felly y dysg- asocb Grist. Soniai am yr hen ddyn a'r dyn newydd"; nid hen o ran amser, meddai, olygir, gan fod y ddau wedi eu geni yr un adeg, ond hen am mai hen frenin ydyw wedi ei ddymchwe! oddiar'yr orsedd. Beth ddvwedceidwaidyr athrawiaeth am hyn, tybed? Dyma i chwi dafell arall: Gwelodd aelodau cref- yddol yn arwyddo cardiau dirwest yn dweyd eu bod yn ymwrthod a'r ddiod feddwoJ tra paro'r rhyfel, er mwyn y brenin a'u gwlad. Yn enw popeth, lie buont cyd ? Os nad oes dim mwy na gwladgarwch yn gofyn hyn, Nid felly y dysgasom Grist." Yn wir, yr oedd yn damaid amheuthun iawn clwff iawn o Fara'r Bywyd, ac nid rhyw friwsion wedi eu hail ysgubo. Brysied eto i gwr y Clawdd.-Cafwyd Eisteddfod dda yng Nghoedllai. Cloriannwyd y cantorion gan Mr. W. M. Roberts, Gwrecsam; y Parch. Christmas Jones, Sychtyn, yn arwain, a bamu'r Hen a'r arholi. Llywyddwyd yn ddeheig a blasus gan y Parch. T. Miles Jones, Treuddyn, a'r d'dau olaf yn pwyso'r adroddwyr. Clywsom i orsaf- feistr Llanfynydd anfon truth dda o'i hwyl ar Ryfel a Gwarefddiad," a dywedodd y pybyr Forfin iddo gael 5° llinell benigamp ar suddiad y Lusitania, gan un o urdd y ffordd haearn," sef guard y tren o'r Wyddgrug i Frymbo fyglyd.-Sibrydir yma a I thraw trwy'r Sir fod y Capelwyr yn edrych ati na chaiff y tafamau ddim adfeddiannu y rhyddid a feddent cyn yr Armagedon. Hailwc. Ymfyddino syddiffordd yma ymhobman y llanciau yn cerdded yn Hu i'r canolfannau i gael eu gwisgo a'r brethyn lIwyd; ac ami un ohonynt na wyddai beth oedd cysgu ar wely gwellt a bwyta bwyd garw, yn gorfod wynebu'r caledi, a'i annwyl fam yn poeni am ei bachgen gwanllyd. Clywsom un yn dweyd Wel- soch chi'run erioedmorbarticular ag o, rhaid ibopeth fod yn iawn ac wyddoch chi, fyta fo ddim pob peth. Misi iawn oedd o, druan bach. Mi fyd'd yn anodd iddo wynebu'r Margarine yna wedi arfer hefo'r menyn ffres idref bob amser.Dyna flas a gafwyd ar gyngerdd y Wesleaid yn Llaneurgain. Dyma'r doniaU: John Foulkes, Halkyn, baritone; Jabez Trevor, Coedllai, tenor; Miss M. A. Evans, soprano, Halkyn; Miss F. A. Jones, Halkyn. Miss Freda Holland a Miss Salisbury o Birkenhead yn methu dod i'w cyhoeddiad. Cafwyd gwledd amheuthun.- Y cantorion ar eu goreu doniau'r Goror ofeddynt. Medd y Sir ei thalent mewn can, nid oes eisJau cyrchu dwr tros afon. 2—Gan PWYMA Llywyddion C.M. Sir Fflint am 1917 yw'r Parch. Tudwal Davies, Rhosesmor, a Mr. W. Rogers, Coedllai. Y mae llywyddiaeth y C.M. yn mynd trwy'r gwahanol ddosbarthiadau yn ei thro, a thro dosbarth Treffynnon oedd i ddewis y gweinidog, a thro dosbarth Llanarmon i ddewis y blaenor. Rhyw gynllun newydd yw hwn ac yn ol rhai, perthyn i'r ddiwinyddiaeth newydd, nid yr un Gampelaidd, ond yr un sy'n credu fod pawb yn deil- wng o bob swydd. Fodd bynnag, diau y bydd awen- au'r C.M. yn hollol ddiogel am 1917. A dechreuwn rwbio ein llygaid, gan hyderu fod gobaith am dipyn o Ysbryd y Peth Byw yn y wladeto. Arweinydd y canu yn Sasiwn y Plant dosbarth yr Wyddgrug eleni yw'r Parch. G. Parry Williams, M.A. 0 mgr anodd i'r teilwng gael ei le Oni. bai am ragfarn, buasai'n arweinydd llawer Sasiwn. aChymanfa cyn hyn. Cred rhyw ddosbarth na ddylai gweinidog ymyrryd i'r"canu o gwbl. Y mae pob un diduedd a diragfarn yn disgwyl am ganu ardderchog eleni yn Sasiwn y Plant yn yr Wyddgrug, a diau na chant hioy eu siomi. Pryd, mewn difrif, y daw cerddorion, a llawer dosbarth arall, i adnabod eu dawn a'u gallu ? ac i garu 1lespob cyfarfod o flaen clod ? O'r Hen Sir, sef Sir Fou. I Bu r Athro Ifor Wiilliams. Pnfysgol Bangor, yn ysgoldy y M.C. ym Mhorthaethwy y nos o'r blaen, yn traethu ar Ddmoiau'r Hen Gymry. Yn ystod y ddar- lith, wych, canwyd gan y baswr o'r Borth, Mr. J. H. Dew. Efe ar ymweliad a'i gartref, ac mor boblogaidd gyda'r Saeson fel Harry Drew. A dyna hapuswaith yn y cyfarfod oedd cyflwyno timepiece hardd i Mrs. O. Roberts, ar achlysur ei mynedi fyd y fodrwy. Y hi wedi bod wrth yr organ am 16 mlynedd. -Ddechpeu yr wythnos ddiweddaf, cylfwynodd Eglwys y Bedydd- wyr Seisnig yng Nghaergybi oriawr aur i'w gweinidog, y Parch. A. Rees Morgan, ar ei ymadawiad yn gaplan i'r 68tb Welsh division. Ni cheid yn y dref wr rhad- lonacb, a'i wyneb fel heulwen yn ymlfd y felan." o ami i galon. A'r diacon hynaf, sef y Seiriol Wyn llen- gar, yn cyflwyno'r anrheg.—Bu'r Parch. W. O. Jones, Aber, yn darlithio ym Meulah (M.C.), Bodorgan. ar Jhn Jones. Teimladwy odiaeth oedd llythyr y caplan, y Parch. Hugh Jones, Glanwydden gynt, at riaint galarus y milwr ieuanc, Mr. Ed. Williams, Elusendy, a aeth yn aberth i'r belen yn Ffrainc. Rho ddai'r llythyr hanes ei farw a'i gladdu, a'r caplan yn mynd trwy'r gwas- anaeth yn Gymraeg. Llwyddodd chwe merch ieuanc iawn o'r Capel Mawr i gasglu wyth cant a phump o wyau i'w hanfon i'r milwyr clwyfedig. Wedi wythnosau o bryder, daeth gair i Mrs. Stirrup, Creigle, Llangefni, fod ei mab, y Lifft. R. Stirrup, yn ddiogel yn yr Affrig bell. Efe'n frawd-yng-nghyfraith i'r Parch. Tecwyn Evans, ar Prydeiniwr cyntaf i sangu Iauudi, prif ddref y German yn Nwyrain Affrig. Anfonwyd ef yno gyda dyrnaid y Native Pioneers, a chawsant y dref yn wag ond o ryw bedwar dyn y trigolion wedi ffoi. Daeth penaethiaid y gwahanol lwythau allan i dalu gwrogaeth iddynt, a chyflwynas- antferlynyn rhoddi Lifft. Stirrup? Beth fyddai i chwi Mr. Gol., gael ei fenthyg ganddo wedi y delo ag o drosodd, i'ch cludo ar eich gwibdeithiau gorlawn o ddiddordeb ? Gwrthododd y Parch. W. P. Thom- as (B.), Cemaes a Mynydd Mechell, yr alwad daer a dderbyniasai oddiwrth un o eglwysi cyfrifol y De J Hysbysodd ei beitderfyniad i'w gorlan nos Saboth, a mawr oedd eu llawenydd o ddeall fod llygad bach dylanwadol y De wedi methu a swyno y tro hwn. Ystyrrir Mr. Thomas yn un o weinidogion ieuanc mwyaf addawol yr enwad, a deallwn ei fod yn aberthu cryn dipyn wrth aros.—Llygad Agored. AM TW OH. --Dydd Sedwrn cyn y diweddaf, yn sydyn, bu farw'r cyfaill iouane Edward Elias, mab Mr. Owen Elias, Abererch, Llaneilian, ac y roao cydymdeimlsd y cymdogion yn ddwys a.'r rhieni trallodus yn eu profediga-eth. Yr oedd y hachgen wedi cyrraedd 18 oed ber a blinderus fu ei siwrnai ond digon or hynny i ddatblygu nodwecldion a ffyddlond-ob i achos yr Arglwydd, fel ag i'w osod yn rheng flaenaf ffyddloniaid yr eglwys yng nghapel Siloh, Pen Gorffvvyefa, o'r hon ymae ei dad trallodus yn un o'r blaenoriaid hyiiaf. Yr oedd yn hynod am drysori y Beibl yn ei gof, a thrwy hynny a'r fagwraeth grefyddol a dderbyniodd, cafodd y cymhwysiad goreu ar gyfer y byd anweledig y mae orbyn hyn wedi mynd i fyw ynddo am byth.—J.E.R.

Basgedaid or Wlad.I a

[No title]

Ffetan y Gol.

Advertising

Gorea Cymrro, yr un OddiearfcFe