Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
RELIABLE WATCHES SRIiF-EXPANDIN G, POCKET AND WRISTLET WATCHES, NOTICE.—Special Offers this day High-grade Watches, by eminent makers, IQe, aeving in every jE. Every watch cleaned, tasted, and timed, and warranted for a period of years. Also a grand display of Self- j§xp9>nding Watch Bracelets, and Strap Watches, with plain and luminous dials, now offered at DEDUCED PRICES, forming salable GIFTS. Goods stored free until \ed. '??RICE LIST POST FREE. DAVIES'S, 30 LOW HILL (Via Old Swan or West Derby Oars). Close Wed. at I. Open all Sat. Davies's Price 16/18/6. USUALLY 214. Russell's English Gold Hunter OffiW'S HIGH-GRADE PERFECT KEY- LBBS LEVER HUNTER, by THOS. RUSSELL and SON, noted makers to Royal. ty; Church Street, Liverpool, British manu- 16 JEWELS, 41-plate, meter balance, non-magnetio, fully jeweled Brequet Spiral Overcoil Spring, adjusted to temperatures and positions; KBJiPS GREENWICH TIME, mounted in strong, heavy SOLID GOLD Government Steaded and Hall-marked Cases (all through) witJient mark or scratch makers' and our GUARANTEE FOR 25 YEARS; new this Y&nt (proof); also Solid Gold Gent's WAL. THAM RIVERSIDE HUNTER sale, ilO IBs., usual £ 18; dead guntlmist; <wan»nted 25 years; new 6 months ago. Approval, month's trial. HMH-GRADE WATCHES—HALF USUAL Davies's Price, 13/19/6 USUALLY £8.. RmseWs Gold Expanding Watch Bracelet. SISSH-CLASS PERFECT LEVER, LAT. FKST SOLID GOLD WATCH-BRACELET •patent SELF-EXPANDING, Hall-marked throughout, by those famous makers, THOS. RUSSELL and SON, Church Street, Liver- pool, makers to Royalty 15 RUBIES, ahronometer Balance, Brequet Spring, Patent Keyless, and latest improvements; KEEPS PERFECT TIME; warranted by makers and ourselves 25 years. New last Year (proof); approval. Others by noted niaken at f 2/7/6, £ 2/14/—, £3/16/ Also Benson's, Londoj. Watch Bracelet; sale "Jigi-.p usually £ 10. Also Russell's Ditto, -14 jfk$/ and gun-timists. Oavies's Price, 16/11 Silver& Gold Strap Watches. LADY'S STERLING SILVER, high-grade, £ uB-fs0welled Strap Wristlet, ACCURATE TIMIST. Also Gent's full-size Sterling ailvar, bold dial, sale 21 ditto, superior, with LUMINOUS DIAL, SALE 27 /6; also Lady's SOLID GOLD Strap Wristlet Watch, i fully jewelled, sale 27}6,30 and 35 Also Solita Gold High-grade Russell and Sons, OhaMh Street, Liverpool, Strap Wristlet, sale ;12 /12 Also Russell Gent's Gold Wrist- let, sal) £ 2 /17 /6, usually £ 5 /5 Also Gent's 1 Solid Gold WALTHAM Lever Wristlet, dead gun timist, sale price £ 4/7 /6, usually ISveay Watch guaranteed. RELIABLE WRISTLET WATCHES. Davies's Price, S2/2/ USUALLY 15. Gent's Waltham Rolled Gold Hunter. World-famed 10-carat Rolled Gold KEYLESS WALTHAM" HUNTING LEVER, timed to a few seconds per month ruby jewelled, brequet spring, timed to positions and temperatures parent keyless and latest improvements warranted 20 years perfect ia all detail. Also ditto by Lancashire Watch Oo»j Prescot; now 29/6. Also ditto Elgin Hunter, 32/6. Ditto, Russell and Son, 36/6. Alao 6-guinea Rolled Gold Chronograph Key. lees Hunter, by Thos. Russell and Son, Church Street, Liverpool; now 12 /14 /6. Approval. Deposit secures. Free storage.—DAVIES'S, 30 LOW HILL. DAVIES'S FOR ACCURACY AND PRECISION. Davies's Price, 1/15/ USUALLY £ 4/4/- Russell's Silver, Keyless Hunter. QUITE NEW THIS YEAR, GENT'S HEAVY HIGH GRADE, THOROUGHLY RELIABLE KEYLESS SOLID SILVER HUNTING LEVER, by RUSSELL and SON, Church Street, Liverpool; new 1915 (proof), plain Sterling Silver damp and dust tmof cases, indestructible crystal glass. CHRONOMETER BALANCE, BREQUET SPRING, NON-MAGNETIC, patent key. less, and latest improvements without mark en scratch; PERFECT TIMEKEEPER; month's trial. Cash refunded if not as repres. ented. Approval. Stored free. Guarant. eed 20 years. Month's trial. DAVIES'S GUARANTEE EVERY WATCH 22 Ct. Wedding Rings. LUCKY GUINEA GOLD, GOVERN. MENT HALL-MARKED, INCLUDING HALF-A-DOZEN TEASPOONS, AT 20/ 25/ 35/- & 45/ UAVIE'S S, Su a LuftW Hill. CARD PBEB. Telephone iioyai 1167. ?Aiioabiiiiiaed It, t ROBERT ROBERTS 18SATB AGMNTr 33 Netherfield Road South Bu Property to W In various parts oS tfe own. Mortgages arranged. Volustionamod 205 Established 1884. Phone 1140 Rootle U 541 WOOSNAM ROBERTS. F.A.I., Estate Agent, Bootle Estate Office, Personal, Practical, Prompt, and Reliable Management of all Classes of Real Estate, 52 STANLEY RQAO, BOOTLE (% doors from Bedford Road) elegrams Woosnam. Booxlm.' Telephone No. 7000. J. LEWIS JONES. "SSTATL AGKNT VALTJSB, 60 Victoria St., Liverpool, Properties carefully managed. Reals pi aosally oollected. Purohaaes and Sales at gottated. Mortgagee arranged and Iasnraaet effected.* THOMAS tit JONES, ASTATB AGBNT8 VALUHRS. INVUSTMSXT mwLmwm. 67 Lord Street, Liverpool Telephone No. —-1888 Bank. Properties Bought and Sold. Mortgage trranged. Valuations made. Rents collected tilL. SI 7 Axnwm. IBBSABLIOWND 1878 Stephen Roberts & Son MMTATE JLGBNTS A VALUBBS. 137 Everton Road, Liverpool Properties carefully managed. Rents ptt tonally Collected. Purchases and Bak afogetiated. Mortgages arranged and Is ..■araooes affected Henry Jones, ESTATE AGENT, VALUER PROPERTY AUCTIONEER, 3 Lord Street, Liverpool Tafci SA.. ,.S,. O. JONES WILLIAMS, F.A.I.. VSTATK AGENT h VALUER* 11 Boundary Place, Moss St Liverpool. tat. lass. b Telephone: 5611\8781 Telephone 8546 Ba, nk JONES (jTllUGHES, ESSASE OFFICE, 13 Wbltechapeli Liverpool FREEHOLD LAND FOR SALE. Advances Made. R, E. HUGHES, Bstate Agent, ^Surveyor Valuer, Charing Cross, Birkenhead. Telephone No.-56 B'hesd. Elas Hoasea to Let and for Sale in various parts of the Town and oat districts. Also Land to be Sold for Baildlng purposes. Advances Made tc Bailders. Estates laid out. £ tents,Collected, and Property carat ally managed. L, AC JL jfciai BLANCHARD PILLS Art oarlTsiM lot si) InogolaritlM, to, tt»«y ■pMdti> aSoni ralfisl and novom fall toaUevitott oil watMnfk at f boy tapenede Finoyroysi, Pil Octbia, Bitter AppU, Ai BLANCHARffS art. the best of all Pill for Womea." sold In boxea. Illi, by BOOM* BtaaebM, TatiobM Braatbea. and all Obemiata. or post tm, same prlee, ften LESLIE HAfTVN, Lte. Chemista.J4 Delaten Laae 1.110." Y DDRAIG GOCIL" THOMAS 0 JONES, Bookseller, 16 BROWNLOW HILL (opposite Midland Adelphi Hotel). Large stock of Welsh Books, new and second hand. I r"1 ■"1 ANWrD, PESWCH, INFLUENZA-Mae y rhain gyda ni bob amser. Pair hinsawdd gyfnewidiol fod llawer o ddioddef oddiwrth Beswch, Bronchitis, Pas, Dolur Gwddf, Crygni, Caethdra, Diffyg Aaadi. Y mae'r hen feddyginiaeth DAVIES'S COUGH MIXTURE eto ar y blaen, ac yn cael ei gwerth- fawragi yn fwy nag erioed, bob amser wrth law,. yo felys, yn cynhesu y freat, ac yn rhyddhau'r phlegm. Bydd dose mewn pryd yn ddigon. Is. l id. a 21. 9tl (postage, 3<j[.)-Hugh Davixs, Chemist, Machynlleth MOLRAT.-At Ladd Tyrchod. Ysgrifenna John Pryse, Maes y me.rch < Blinid ni acw gan dyrchod cynhyddent bob blwyddyn, fel yr oedd y tir a golwg ddifrifol amo, ac yr oedd amaf gywilydd ohono ond clywais fod Mr. Hugh Davies, Chemist, Machynlleth, wedi dyfeisio peth i'w lladd yn ddidrafferth iawn.—Ei enw ydyw 4 Molrat,' mewn packets it 6d, yr un. Prynnais backet, a rhoddais ef yn 01 y cyfarwyddyd am ben pryfed genwair rhoddais y rhai hynny yn llwybr y twrch. Ni chod- a dd y twrch mwy."
Basgedaid o'r Wlad. ■I 1
Basgedaid o'r Wlad. I 1 ORIEL AW R ALUN Dirwes.Y mae rhyw gynnwrf wedi dod i'r oriclau yma yn ddiweddar ynghylch y Cymanfaoedd Dirwestol. Dywed rhai mai un ddylid gael, a honno'n anenwadol. Cwyd :rr Hen Gorff ei wrychyn braidd yn erbyn dileu ei un ef, ei bod yn hyn na'r un anenwadol, yn fwy Cymreig, yn fwy crefyddol, ac yn gwneuthur gormod o ddaioni i'wrhoddi ifyny. Y cwestiwn yw, pa un ai dwy ynteu un yw y goreu. Pa un ai un gan bob enwad, pe bai modd cael hynny, ynteu un gan yr lioll enwadau, a wna fwyaf o ddaioni ? Os mai un Gymanfa an- enwadol a wnai fwyaf o les i'r wlad, dylai Sion Gorff roddi heibio barch i henaint ei Gymanfa ef, ac ymuno -os ymuno—mewn gwirionedd a'r boll enwadau. Pam, tybed, na chynhaliai pob enwad Gymanfa Ddirwestol? A pham hefyd na wnai y rhai sydd heb yr un eu rhan yn well gyda'r un anenwadol ? Atebed rhywun. Te a Gwedii Daeth arogl te blasus i fyny o'r Wyddgrug i'r orie!au yma yn fisol ar hyd y gaeaf. Te'r boneddigesau. Dywedodd rhywun wrth fynd heibio mai ei amcan yw dod a hwy i well adna- byddiaeth o'i gilydd, ac i well cyfeillgaiwch. Ni wyddom ddim beth yw ei ddylanwad, ac ni wyddom beth yw materion y trafodaethau a'r ymddiddanion ynglyn ag ef. Byd nes y cawn wybod, cawn dybio a dyfalu. Ond beth bynnag am y te, tystiolaethir yn gryf fod Cyngor yr Eglwysi Rhyddion yn foddion llawer o ddaioni. Trefnir ganddo i gynnal cvfarfod- ydd gweddi yn y tai. Nid peth hawdd hyd yn oed i weinidog, gwraig gweinidog, na neb arall, yw treiglo o dy i dy, a gadael bendith ar ol. Ond tystiolaethir yn ddifloesgni fod treiglo o dy i dy yn yr Wyddgrug a'r cyffiniau yn y cyfarfodydd gweddi hyn yn foddion bendith. -Llygadu: Deallaf fod un o eglwysi Dwyrain Dinbych yn llygadu i fyny i un o'r orielau am weinidog, a bod ei llygaid wedi disgyn ar un o dalion ein tir. Nèwydd cyfrinachol ar hyd yr orielau yma yw hyn eto, a beth fydd y canlyniad, amser a ddengys.-Didr),iydd. 0 SIR FFL,.INT.-Nos ydyw hi ar grefydd yma, beth bynnag am siroedd eraill Cymru. Ewch man y myniioch ar y Goror, dyna glyweh cwyno ar y cynulliadau, yn enwedig rhai'r wythnos. Ni bu adeg well yn hanes y Sir erioed yn fasnachol: try olwynion trafnfdiaeth yn gyflym, a chysuron cartrefi heb ball; ond am Eglwys Dduw, mae hi yn isel a gwael ei gwedd.-illab y Bone, O'R liEN SIR, SEF SIR FON.—Llawer o glod sydd i berfFormiad Cwmni Drama Penuel (B.), Llangefni, gydag Ar y Groesffordd. Hwy sydd yn mynd a hi ym Mon, ac am yr eildro yn Neuadd Dref Caergybi, gan yr Annibynwyr, a'r Parch. R. P. Williams yn llywyddu. Owain Cybi yn canu gyda'r tannau, a Miss Evan Griffith chwim ei byseddyn rhoi'r cywair iddynt-wyres yw hi i'r bardd byw R. Mon. --Yma ac acw, a'r pellter yn fawr oddiwrth ei gilydd, ydyw hanes teulu Mr. a Mrs. Rd. a Mary Jones Bodffordd: y tad a'r fam yn byw yr ochr hon, a phump o'u plant mewn sefyllfaoedd anrhydeddus yr ochr arall bell i'r Werydd donnog. Un o'r meibion —y Parch. D. R. Jones—yn weinidog yn Garvin, Minn., a ddaeth trosodd saith mlynedd ar hugain fn ol ir Americ, a bu am deirblwydd yn fyfyriwr yng ngholeg Moody yn Chicago. Dyna adar yr un nyth wedi hedeg ymhell, ac heb obaith dod yn ol i'r hen nyth cynnes ym Mon.——Y ffugchwedl ferfedd piau hi yng Nghaergybi fel llawer llearall, fel y prawf y ffaith hon: al'an o'r 1,295 Hyfrau a roddwyd allan i'w darllen o lyfrgell y dref y llynedd, yr oedd 1,093 yn nofelau Nid rhyfedd fod cymaint edlychod o feddyliau mewn llawer man, pan feddylir saled eu bwyd. Eu nefoedd yw eu nofel," medd rhywun. Teimlir chwithtod yn Llanerchymedd ar ol Mr. John Owen, o ddinas Y BRYTHON, ac a dariodd yno oddeutu 32 mlynedd ac yn dra adnabyddus a der- byniol gan y Cymry, ac a droes lawer nid yn unig ymysg esgidiau, ond ymmydcerdd a Hen. Yn fab hynaf Ehedydd Mon, ac yn frawd i Ap Ehedydd, ac i Cuhelyn Mon, Llanddeusant, ac fel hwythau yn ym- ddiddori mewn can a thelyn.-Brawychwyd yr hen dreflan, a thorrwyd ar hedd ei Saboth, pan ledwyd y newydd am farw sydyn un o ddynion ieuainc add- fwynaf y Llan, Mr. John McNeil, a drigai gyda'i fam yn y King's Head Hotel, ac efe onid 32 mlwydd oed. Ymunasai a'r GwyrMeirch, ond oherwydd dihoenedd daeth adref.-Y dydd o'r blaen, rhoed y dorian ar ewyneb un o drigolion hynaf a pharchusaf Amlwch, Miss Mary Lewis, Tredarth, a hi yn 89 mlwydd oed. Bu am ran helaeth o'i hoes yng ngwasanaeth Gwredog a gwnaeth gofal y teulu ei nawnddydd hir yn siriol a theg. Y Parch. H. Williams, y Fron, yn gweini yn ei hangladd. Pruddhawyd calon ami un yng Nghaergybi pan glywyd huno o Mr. John Williams, y diver daeth- o waelod y m6r i fyny lawer tro, a daw eto i fyny o waelod bedd yn amser da y Nef. Aeth i lawr yn ei anterth, yn ddeuddeg a deugain oed.- Gwerth eiddo'r diweddar wr da, Mr. R. J. Edwards, yr ynad hedd 0 Gaergybi, oedd deng mil a phedair punt ar bymtheg a deugain. Diddorol iawn y Hythyr a anfonwyd gan y Capten Williams, llywydd y Tarra, a suddwyd gan y gelyn, sydd ers amser gydag eraill yn garcharor dan ofal y Tyrciaid. Cenmyl garedigrwydd y swyddogion Tyrcaidd: yn gorfod byw mewn ogof, heb ymolchi am ddyddiau yn cael )"run fraint a'rmilwyr, sefllandcwpan 0 flawd, a Hond cwpan o reis bob dydd, ond ar adegau yn cael ychydig gig. Dywed fod y dynion yn bwyta malwod, ond nadydoeddef wedi cael digon o stuinog i awchu am yr ymdreiglen iysnafog honno.-Llygad agored. "SSJBtWSWWP 0 ABERYSTWYTH.—Am y Twrch Trwyth, darlith y Tabernacl, ac leuan Gzvyllt.—At Olygvdd Y Brython, Syr,—Synnais yn fawr weled nodiad o'r eiddoch dro yn ol na fuoch erioed yn Aberystwyth, a gresynnwn am eich diofryd i gadw'r merlyn o'r porfeydd gwelltog ar lannau hudolus Ceredigion. Hvderaf y bydd mam eich cariad at yr Eisteddfod yn nydd ei gofwy, yn difa eich diofryd ac y clywir swn carlamiad y merlyn ar Benglais o dan belydrau haul tesog Awst. Pe buasech yn y Tabernacl, Aber- ystwyth, nos Fawrth ddiweddaf, yn gwrando ar y llyfrwerthwr amryddawn, Jack Edwards, yn ennyn tâncariad yng nghalon y plant at yr hen dadau fu'n arloesi y tir yng Nghymru gyda'r emyn a'r mawl, credaf y buasech yn barod i waeddi Diolch iddo ac y buasech yr anghofio'r Twrch yn swyn y gan. Ni chaed un amser well dwyawr o adloniant ac ys- brydiaeth- Gymreig. Cafwyd cydwead hapus o'r ffraeth, y digrif, a'r tyner-ddwys, wrth atgoffa'r hen arloeswyr cerddorol yng Ngheredigion. Pa nifer o ddarllenwyr Y Brython, tybed, a wyr mai yn Aber- ystwyth y dechreuodd leuan Gwyllt ei yrfa gerddorol, ac mai yno hefyd, y cyhoeddwyd Blodau Cerdd, rhag- redegydd y Cerddor, y cyhoeddiad sydd wedi gwneud cymaint o wasanaeth i gerddoraieth yng Nghymru. Un o bethau mwyaf tarawiadol y darlithydd oedd ei ddarlleniadpenigamp o ragyma dro dd leuan Gwyllt i'r Blodau Cerdd. Tarawai un rhan ar ein dust fel llais o'r tragwyddolfyd yng nghanol erchyllterau'r dydd, a daeth i'n meddwl ar y funud y carai darUenwyr Y BRYTHON gael golwg ar y rhag ymadrodd," a themtir ni i anfon copi ohono ichwi. Maddeuwch yr hyfdra ar ran un na sgrifennodd erioed o'r blaen linell bapur newydd.—Arfonfab. 11 Blodai* CFRDD At leucngtyd yr Ysgo Sabbothol.-Serchus Gyfeillion-Mac yn llawen iawn genyf gael cyfarfod a chwi ar faes hvfryd Cerddoriaeth; ac, er mai casglu "Blodau yw ein gwaith, hyderwn y bydd y rhai hyny y fath ag y bydd eu harddwch, er perarogl, a'u tynerwch, yn fcueddu i feithrin ynom hoffder at yr hyn sydd wir brydferth, i buro ein chwaeth, fel y byddo llvgredigaethau ein gwlad yn rhy ffiaidd genym eu harfer, ac yn effeithio ar ein serchiadau nes eu gwneud yn rhy dyner i lid na chenfigen i nythu o'u mewn, ac yn rhy wresog i ddim ond cariad a thang- nefedd i anadlu yn eu hawyrgylch. Mae yn ddiau fod gan Gerddoriaeth ryw ddirgel swyn dros y natur ddynol; a pha ryfedd ? onid iaith y teimlad ydyw ? a gwyddom yn dda, pan lefara y teimlad, fod effaith ryfeddol yn sicr 0 gael ei gynyrchu. Mae Cerddoriaeth, ganoedd o weithiau cyn hyn, wedi toddi hall serchiadau y galon ddynol, a'u bwrw yn un tryblith i'w mould ei hun, pa beth bynag a fyddai hyny. Ar brydiau, a llawer rhy ami ysywaeth, cymerai feddiant o holl deimladau y milwr toddai ac arllwysai hwynt yn ddylif tanllyd yn llonaid ei fynwes, nes ei hyrddio yn un eirias ffrwd i safn magnel ei elyn, ar faes y gwaed. 0 dduwies odidog! Camddefnydd anfad arnat oedd hyn a rhyfedd na buasit wedi cymeryd dy aden a chanu yn iach am byth i fro marwolion, am dy dreisioi gyflawni y fath erchylldra. Yr oeddwn y funud hon yn myncd i wneuthur adduned i ti yn enw dynoliaeth, na chawsit byth ond hynny y fath sarhad, hyd nes y teflais fy llygaid tua chyfandir Ewrop; yno gwelaf er fy ngalar, ei bod yn rhy gynar etto. Drachefn, a wehveh yr adyn draw ? hawdd darllen yn y fflnmiau acw sydd yn ymluchio allan drwy ei lygaid, fod ei galon yn berwi gan ddigofaint yn erbyn un o'i gyd-ddynion mae yn rhuo yn gyffelyb i grombil Vesuvius, gan fygwth ymdori yn ddylif o ymddial amo; ond dacw Gerddoriaeth yn dyfod ymlaen, a thrwy beiriannau cywrain y llais, neu dannau tyner y delyn, neu ryw offeryn arall, wele hi yn dyhidlo ei gwin neithdar- aiddi'w fynwes losgedig, ac yn tywalit allan el galon. mewn ffrydiau grisialaidd o ddagrau. Lie a ballai i ni fyned ymhellach ar hyd y maes hwn yn bres- ennol; efallaiyeawnhamddenynolllaw. Rhwydd hynt ichwi nes y cyfarfyddom eto ar yr Aelwyd." -leuar, Gxyllf, GWRECSAM Manvolactb Mr. Henry Yottes.- Mawrth 22, yng ngorsaf Acrefair, pan ar ei ffordd adref o'r Cyfarfod Misol ym Mhontcysyllte, bu farw Mr. Henry Jones, yn ddisymwth iawn. Yr oedd yn 63 mlwydd oed, ac yn bur adnabyddus trwy'r cwbl o Ogledd Cymru fel cynrvchiolydd Mri. Grimshaw & Co., Manchester, am lawer o flynyddoedd. Daeth i WrccJiam tua deugain mlynedd yn ol, ac ymaeiododd yn eglwys Seion, ac yma y bu yn ffyddlon iawn gyda phob rhan o'r gwaith o hynny hyd ei fedd. Dewis- wydef ynflaenoryn 1902, a chymrodde: ran a diddor- deb neilltuol yng Nghyfarfod Misol Dwyrain Dinbych o'r cychwyn. Efe ydoedd llywydd dewisedig y Cyfarfod Misol am ran olaf y flwyddyn hon, ond cyn dechreu ar waith y swydd hon, g^Iwyd ef adref at waith mwy anrhydeddus fyth. Claddwyd ddydd Sadwrn diweddaf, ym mangre'i febyd, Clawdd- newydd, ger Rhuthyn. Cymrwyd rhan yn y ty yng Ngwrecsam gan y Parch. J. T. Jones, B.A.,B.D., ac Evan Jones, ac yng NghlawddNewyddgan y Parchn. R. E. Morris, M.A., Edward Williams, B.A.,B.D., R. J. Jones, Llanelidan E. Williams (B.), Pandy'r Capel; a'r Mri. Edward Lloyd a J. Alban J ones-dau o'i gyd- swyddogion yn eglwys Seion. Dygwyd tystiolaeth sicr i'w gymeriad a'i waith. Cryfder, pur deb, a gonestrwydd oedd ei nodweddion ynghyda llawer iawn o garedigrwydd, ac yr oedd iddo barch cyffred- inol. Bydd bwlch amlwg iawn ar ei ol yn eglwys I Seion. Yn y Drefnewydd, ddydd Gwener, ymhen pythef nos ar ol ei annwyl briod (merch hynaf y diweddar Barch. Wm. Hughes, Coedmadog, Talysarn), bu farw Mr. D. J. Evans, (Prudential Assurance Co.), brawd hynaf Mr. E. W. Evans (y Cymro), Dolgellau. Bu'n preswylio yn Nhalysarn, Conwy a Thrallwng, ac yn wr defnyddiol mewn eglwys. Cydymdeimlir a'i ddau fab, Pierce a Charadog.—R.J.G. Gwahoddedigion Cymanfa Pasc Penmachno a'r cylch eleni ydyw y Parchn. Rd. Morris, M.A., Bala H. H. Hughes, B.A., Lerpwl; a J. E. Davies, Tre- ffynnon. Amhosibl gwell triawd. Duw cymanfa- oedd Cymru a ddel atynt. Marwolaetii A CHLADDEDIGAETH MRS. OWEV Gweddw'r Parch Robert Owen, Ty Draw, Wydd- grug.—Ddydd Llun diweddaf, rhoddwyd gweddillion marwol y chwaer uchod i orffwys yng Nghladdfa Gyhoeddus yr Wyddgrug.. Yr oedd wedi cyrraedd yr oedran teg o 86. Bu'n byw am flynyddau yn y Gadair Elwa, ac yn Nolwgan yn Eifionydd. Oddeutu 35 mlynedd yn ol— symudodd i Waenynog, gei Din- bych, ac ar ol arhosiad byr ymMhrestatyn,symudodd i Ty Draw,Wyddgrug, lie y preswyliodd hyd farwol- aeth ei mab, Mr. Roger Owen. Bu'n byw ar ol hynny gyda'i merch, Mrs. Roberts, yn yr Wyddgrug; ac ers pedair blynedd cartrefai gyda'i mercb, Mrs. Eames, yn Upper Bangor. Profodd ei hun yn wraig a mam ragorol, a chyflavvnodd ei dyletswyddau teuluaidd trymion gyda gofal, diwydrwydd a ffyddlondeb arben- nig. Gwnaeth ei rhan i gynorthwyo ei hannwyl briod gyda gwaith y weinidogaeth. Ymroddodd i'w gwaith priodol ei hun yn ei chartref, ac ymegniodd i ddwyn ei phlant i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Bu iddynt naw o blant: y mae'r hynaf yn adna- byddus a pharchus iawn yng nghylch Lerpwl, sef y Parch. Wm. Owen, diweddar weinidog Webster Road, yn awr o'r Gyffin, Conwy. Daeth dau neu dri ohonynt yn flaenoriaid, ac y mae un o'r merched yn briod i'r aelod anrhydeddus dros Fon, y Gwir Anrhyd. Ellis Jones Griffith. Cafodd weled claddu tri o'i phlant ar ol iddynt dyfu 1 oedran, sef Mrs.William Jones, Ruthyn Robert Owen, yr hwn a gollwyd ar y mor a Mr. Roger Owen, yr hwn a ddilynodd ei dad yny TyDraw. Yn ystod y blynyddocdd diweddaf yr oedd wedi colli ei golwg yn llwyr; ond er hynny, cedwid ei meddwl yn dawel ac ymostyngol, ac yn wir yn siriol. Ymhyfrydai mewn gwrando darlleniad o'r Gair, ac mewn mynychu moddion gras. Fel y cerdd- ai blynyddoedd aeddfedai ei pbrofiad, a hyfryd oedd ei chlywed yn mynegi ei theimlad yn seiadau Twr- gwyn, ac yn wir mewn cymdeithas gyda'i hannwyl gyfeillion. Yr oedd yn naturiol o dueddfryd of nus a phetrusgar (timid). Adroddai ei phrofiad unwaith yng nghlyw ei phriod, y Parch. Robert Owen, ac a amtygai amheuaeth gyda golwg ar ei chrefydd. Ac meddai Mr. Owen, ar ddiwedd y seiat, gan gyfeirio at yr hyn a ddywedai: "Mae Mary yn ameu ei chrefydd, ond nid oes neb arall yn ei hameu." Ac yn ddiau, dyma tarn pawb a'i hadwaenai. Cludwyd y corff o Fangor i'r Wyddgrug. Gweinyddwyd yn y tv cyn cychwyn gan yr HybarchDdaniel Rowlands, M.A., efe ryw dair blynedd yn hyn na'n chwaer. Yn y gIaddfa yn yr Wyddarug, gweinyddwyd gan y Parch. R. J. Jones, Twrgwyn; John Owen, Anfield Thomas Mor- gan a J. J. Morgan, Wyddgrug; a'r Parch. Ellis Lloyd, Bwcle. Yr oedd y Parch: G. Parry Williams, i M.A., y Wyddgrug, yn analluog i fod yn bresennol, oherwydd ei fod yn y Deheudir y Sul. Daeth llu 0 1 hen gyfeillion ein chwaer yn yr Wyddgrug i ddangos ( eu parch iddi, a gwelsom amryw o Fangor.
fo Big y Lleifiad.
fo Big y Lleifiad. Set Byd a Helynt Cymry Lerpwl. DEWRYN OLAF <l BIRKENHEAD Yn Armagh, y Werddon, y dydd o'r blaen cleddid Capt. Bond Shelton, yr olaf un o'r rhai a achubwyd oddiar y Birkenhead, sef y Hong gludo milwyr a aeth yn ddryllia.u ar lan m6r Deheubarth Affrioa yn 1852, digwyddiad y bydd son amdano ddydd- iau'r ddsear oblegid hyn Yn gweld fod y llong yn suddo'n gyflym, ae nad oedd dim gobaith achub y cannoedd milwyr. dyma'u Cyraol yn eu galw i sefyll i gyd yn rhengau trefnue. a chan weiddi Steady, boys, and die like Englishmen, dyma fo a'r pedwar cant yn mynd i'r dyfnder a thragwyddoldeb heb grynnu na sj-mud ber o'u lie, yr un ohonynt. Peidiwch chwi, bobl wastad a moethus eich dygiad i fyny, a bod yn rhy barod i lachio na milwr na morwr y mae mwy o Dduw yn eu dewrder digWyn hwy nag sydd mewn bvwyd esmwyth a phorfforaidd, pa mor gooth bynnag r CrMRO MAWR 0 AWSTRALIA.-Ym mhwyllgor gweithiol y Gymdeithas Genedlaethol, nos Fawrth yr wythnos hon, tan lywyddiaeth Mr. David Jones, cadeirydd y Gymdeithas, penderfynwyd anfon gwahoddiad i'r Gwir Anrhyd. W. M. Hughes, Prif Weinidog Awstralia,i giniawa a hwy,a derbyn croesifi filoedd cydgenedl ar Lannau Mersey. Efe drosodkf yn y wlad hon; yn Gymro a welodd oleu dydd ar y cyntaf rbywle tua godreTrwyn y Fuwch, Llandudnc; sy'n cael ei anrhydeddu gan brif ddynion a phrif ddinasoedd Prydain Fawr sy'n llefarydd fawr ail t Mr. Lloyd George ei hun, yn ol y gohebyddjon a'i clywodd; a phwysicach na hynny, sy'n wt o fam a gwelediad a grym personoliaeth tuhwnt i'r cyffredin r, wladweinwyr ei oes; ac sy'n enghraifft arall, at y llu sy'n codi ar bob llaw y blynyddoedd hyn, o'r fel y mae'r Cymry'n cyrraedd y crib ymhob rhan o'r byd ac ymhob gorchwyl a galwedigaeth. Ber yw ei egwyl, canye arfaetha ddychwelyd y mis nesaf drwy Canada ond fe ofala cadeirydd y Gymdeithas fynd ato drwy'r drws iawn. Da y cofir am y diweddar Tom Price, Prif Weinidog rhanbarth o Awstralia, yn ymweled at ni rai blynyddoedd jm ol, ac yn tynnu'r fath dyrfaoedd o'i hen gyfoedion Cymreig ac eraill yn Leipwl i'w weld a'j wrando. Llafurwr ffraeth a diofn dyn oedd Price, heb honni fawr o addysg na diwylliant, ond 1t gwybod sut i daro'r hoelen ar ei phen lie bynnag y codai ei forthwyl. Ys gwn i sut un ydyw Hughe8 I llrN AC ARALL.Dyma beth neu ddau arall a fu gerbron Pwyllgor y Gymdeithas nos Fawrth •— Pasio i anfon llythyr o gydymdeimlad a'r Cyng- horydd Wm. Evans, Y.H., yn ei waeledd hir, ac y» llawenhau glywea ei fod yn graddol wella. Efe's via 0 ftyddloniaid mwyaf cyson y Gymdeithas. a gweithiwr hywaith a selog gyda phob mudiad da Llawenheid hefyd weld Mr. J. Evans Thomas, y cyfreithiwr hysbys, yn bresennol yn y pwyllgor; yntau wedi diQdddUesgedders talm bellach, crd yn graddol hybu. Ar waethaf rhyfel a phopeth, llwyddiant digara- syniol fu darlithiau'r Gaeaf leni,—y cynulliadau ya lluosocaeh nag y buont ers tymhorau, a'r darlith- wyr wedi paratoi'n deilwng ac ar eithaf eu dawn a'u galluoedd, ac nid rhyw lyfiad arwynebol o rywbefck nesaf i law. Pasiwyd i ddal ati'r gaeaf nesaf, pwy bynnagfyddbyw,ac enwyd dau neu dri o broffwydi, ac un broffwydes golegaidda disglair iawn ei dysg, gyda golwg ar gyhoeddiad. Bu pwnc y motor ambulance gerbron a thalwy^ gwrogaeth i sel yr ysgrifennydd (Mr. R. Vaughan Jones) a'r trysorydd (Mr. R. Roberts, Y.H.) am eu hymroddiad a'u deheurwydd gyda'r casgliad. Wele ddaugyfraniad yn rhagor :— Eglwys Dewi Sant, Hampstead Rd. £r5 0 e- Mr. Lewis Hughes o to 6 Cydnabuwyd eisoes yn Y BRYTHON 351 0 0 366 JO 6 Yn eisiau.. 133 9 6 £500 0 a Gan fod addewidion eraill i ddod i lawr, ac mai rhyw gant 0 bunnau'n fras oedd rhyngom a chyrraedd y pumcant angenrheidiol, gosodwyd ar nifer o aelodau'r pwyllgor i bwrcasu'r motor, er mwyn idtdo fynd at y gwaith da a dwys sy'n aros amdano ar faes y gwaed, —gwaith y dylem ei chyf rif yn fraint gael bwrw eithaf ein rhodd tuag ato, bawb ohonom. tt ABL A DIYMHONGAR.—Y Parch. R. H. Watkins, Dinorwig, a bregethai ym mhulpud Stanley Road fore a hwyr y Sul diweddaf; ac a draethodi feddyliau preiffion mewn ysbryd diymhongar ac ago& at galon y ddwy oedfa a'i gwrandawai mor astud. Gwyr beirdd a Ilenorion Cymru ysgrifennydd mor gryf a bachog ei frawddeg ydyw ac nad oes odid ei amgenach yng Nghymru am bortreiadu bardd neu lenor neu bregethwr, os bo ynddo dipyn o ddeunydd i'w ddawn. Dyma sylw neu ddau a glywsom ar ol y Sul: Gwyddom beth syddyn iawn, ond mae eisiau ein cadamhau i'w wneud. Gweddiai Iesu Grist 0 Dad, maddeu iddynt; canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur ond nis gait « weddio fel yna yn ei eiriolaeth drosom ni heddyw. Yr oedd rhyw esgus o reswm dros y croeshoelia.d cyntaf, ond nid oes o gwbl dros yr ail-groeshoelto, ,e Pechwn o'n gwirfodd." Duw ydyw dechreu pob peth ond pechod. Mae dechreiiad pechod ynddirgelwch,ac ni waetb 10 iddo aros felly. Peth pwysicach yw gwybod a oes diwedd iddo. Gall dyn roi bod i bechod, on4 rhaid cael Duw i'w ddileu. Fe ddaw Duw ar dy ol di i bob man ond! uffem ac nid wyf yn sicr na<i achubwyd ambelf un o'r fan honno, o'i hymylon beth bynnag. Pentewyn wyf fi wedi ei gipio o'r tin,' meddai'r proffwyd. Onid yw dynion yn ffol, yn ceisio diddanwck H mewn lie y gwyddant yn eithaf da nad yw i'w gael yno. Chwilia rhai amdano mewn cyfoeth ond y gwaethaf ar olud ydyw ei fod yn costio cy- maint. Nid yw meddu aur ac arian yn ddrwf "ynddo'i hun: rhydd gyfle i wneud daioni-, ond credaf wedi'r cyfan mai dynion tlawd sydd u wedi cael mwyaf o'r byd hwn hwy a roddodi fwyaf iddo, beth bynnag. Y dyn a ysgydwodj Iwrap yn y bymthegfedganrif oedd John Calvin Parhad ar tudal. 6,