Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Advertising

Advertising

Trem I-Melltiged ig !

Trem ll-Ebal a Garisim.

Goreu Gymro, yr un Oddieartre

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Goreu Gymro, yr un Oddieartre ASHTON-IN-MAKERflELD.-Nos Sadwrn, yr 8fed cyfisol, cynhaliodd pobl ieuainc Carmel (M.C.) yr olaf o'u cyfarfodydd am y tymor, ar ffurf cyngerfM uch- raddol, pryd y llyw>*ddai Mr. John Williams, Wigan, yn ddeheig, a thraddododd anerchiad byr ac i bwrpas yn ogystal ag estyn rhoda hael Dyma'r cantorion sopranos, Miss Dora Davies a Mrs. Mary Davies contralto, Miss Blodwen Davies bass, LIew Arfon a Mr. W. J. Lloyd yn canu penhillion eyfeilydd; Mr. Arthur Evans, Ashton. Hwyl dda odiaeth ar y cwbl. Cafwyd dau unawd swynol iawn gan Miss Dora Davies, ac felly hefyd Miss Blodwen Davies. Yr oe'dd y Llew a Mrs. Davies mewn hwyl dda yn canu'r ddeuawd, T Llaetbferch a'r liugail. Campus oedd datganiadau'r Llew o I fyny bo'r nod a Telynau'r Saint pan ei ailalwyd a'r un peth ellir ei ddweyd am ei holl ddatganiadau gwefreiddiol, ar y White Squall a Nacw. Derbyniol iawn oedd Mr. W. J. Lloyd yn canu penillion, sef Hiraethgan Dewi Havesp ar yr alaw Morfa Rbuddlan a Can y Mor Mr. Rowland Roberts, Llanberis, ar Llwyn Onn bu raid iddo yntan ddod ymlaen eilwaith ar ol yr Hiraethgan. Wedi'r diolch- iadau gan Mri. 0. H. Jones a Rowland Parry, terfyn- wyd drwy i'r Llew arwain gytda Hen Wlad sy Nhadau. Tystiolaeth pawb ydoedd ein bdd wedi cael gwledd, geiddorol yng ngwir ystyr y gair, a hiraethwn am ei chyffelyb eto yn fuan.—O.H.J.

Advertising