Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
DRWY n GAD CAPLAN.1
DRWY n GAD CAPLAN. 1 Llith III.—Odfeuon yr hen Ysgubor. Yr Oedfa Gymraeg.—Rhoddais eisoos fras olwg ar y gwaith crefyddol 1:1 wneir ymysg y milwyr. Yn y ffosydd ceir mwy o angen amdano, ond bydd yr anawstarau i'w gyf- lawni'n fwy. Bydd lleoedd oylfeus i gyfarfod yn brinnach, a symudiadau'r catrorlau yn fwy ansicr. Oblegid hyn, bydd yn anodd trefnu ymlaen Haw, ac weithiau, ar ol trefnu, daw rhyw orehry myn newydd ar ffrwst i dorri ar draws y cwbl. Er hynny i gyd, at y rhai rhyfedd a gawsom eisoes, yr wyf wedi cael odfeuon o gwmpas y ffosydd nad ant yn anghof byth. Dywedais o'r blaen fod. dwy gatrawd yn newid a'i gilydd yn y ffosydd. Golyga hyn fod dwy ohonynt yn y ffosydd dros y Saboth, ac na ellir rhodui gwasanaeth iddynt yno. Trefnwn y pryd hwmiw iddynt gael oedfa cyn mynd yno. Cynhullir.d gwir- foddol fyd(I hWnn, ond daw lufor dda yng nghyd y rhan amlaf, Er fod y bechgyn, at ei gilydd, yn lion a gobeithgar, gwyr pob un am y parygl o'u cwmpas bob dydd. A phan gewch nifer o honynt i ddod o'u gwirfodd i oedfa am saith ar gloch y bore cyn brecwest, gellwch fentro y caiff yr Efongyl wrandawiad astud ac awchus, ac na fydd ffurfioldeb yn y mawl na'r weddi. Dyma rai o'r cyfarfodydd mwyaf dwys y bum ynddynt eriood. Ni cheisiaf ddisgrifio pob oedfe. Cymeraf yr oedfa gyntaf a'r olaf a gefais wrth y ffosydd yn enghraifft o'r Ueill. Pan ddoallais gyntaf fod dwy gatrawd ar fynd i'r ffosydd, ac y byddent yno dros y Saboth, moddvliais ar unwatth am drefnu oedfa iddynt. Buaspch yn disgwyl y byddai'r awdurdod.au'n falcli lawn i roddl avvr o'r bore neu'r prvnhawn i'r b9chgyn i ddod i'r oedfa. Ond md felly. Ychydig ofala llawar o'r rhai sydd me .vn aw durdod am grefydd. Felly rhaid mm ddod at em gilydd fel y C'ristnogion gynt. cyn daehreu gwaith y dydd, a chwrddwn am saith ar y gloch. mewn hen ysgubor wrth oleu canhwyll- au. Er llawenydd mawr i mi, daeth infer fawr ynghyd i'r oedfa hon, "hyd na annent hyd yn oed o gwmpas y drws. Rhoddir yr hen air cyfarwydd allan Dyma Babell y Cyfarfod, Dyma gymod yn y gv aed a chenir y geiriau gyda ffresni cor y wig ar doriad gwawr. Yna darllennir Salm xci. Pan ddeuir at ymadroddion fel y rhai hyn a'r cyffely b "Nld ofni rhag dychryn y nos, na rhag y saeth a ehedo y dydd, na rhag yr hamt a rodio yi y tywyllwch, na rhag y dmistr a ddinistrio ganol dydd," gallaf eich sicrhau fod yr ymadroddion hyn yn meddu ystyr mor real mm ag a feddent l'r awdur ei hun. A rhydd yr ymadroddion, "Am it i wneuthur yr Arglwydd, fy noddfa, sef y Goruchaf, yn breswylfa iti, ni ddigwydd iti mwed, ac m ddaw pla yn agos l'ch babell." gysur cryf i nmnau fel i'r Salmydd ei hun. Yna cenir emyn arall y tro hwn Cofla, Arglwydd, dy ddy weddi, Llama ati fel yr hydd. Dyma ui o hoff emynau em cyfarfodydd. Ac er fod y bechgyn yma yn madd wI am rywbeth gwahanol i'r hyn a feddylir amdano (os meddylir hefyd) yn addoldai Cymru, rhydd yr hen air ollyngdod helaeth i'n teimlad a'n hiraeth, wrth ganu Ac na ad i'w holl elynion Arni'n hollol gael y dydd. Yn nesaf arweimr mewn gweddi for a phwr; pasol. Nid oes amser i ragymadroddi, nac ) hysbysu'r Bod Mawr am yr hyn y gwyr yn llawer gwell na ni amdano. Yr ydym ynghyd i un amcan mawr a phwrpas. Ond wrth geisio ei gysgod a'i amdciiffyn a'i drugaredd, nid anghofiwn ein rhai annwyl gartref, a'r rhai sydd yn gweddio drosom. Yna cenir Pan oedd Sinai yn melltennu, A'i tharanau'n rhwygo'r nan. Dyma un arall o'r hen emynau sydd yn help mawr inni roddi gollyngdod i'n henaid allan yma, wrth ei ganu yn swn y t-iranau a'r dychrynfeydd o'n cwmpas. Am ei neges trv 'r pregethwr i'r Philipiaid ii, 29-30, "Canys i chwi y rhoddwyd, bod i chwi, er Crist, nid yn unig i gredu ynddo of, ond hefyd ddioddef drosto ef gan fod i chwi yr un ymdrin ag a welsoch ynof fi, ac yr awron a glywch ei fod ynof fi." Mantais testun fel hwn i ni yma yw, nad oes aisiau rhagymadroddi o'i gwmpas cyn dod at y neges, Gv- el y bochgyn oi ergyd atynt ar unwaith. Gwelant ei fod yn neges iddynt heddyw mown ystyr mwy real nag a fu erioed o'r blaen, sef y fraint ychwanegol o gael dioddef o bleid yr achos mawr, a'r dioddefaint hwnnw yn ein cysylltu wrth ddioddefwyr mawr yr oesau fel Apostol Paul, ac, yn fwy na'r cwbl, wrth Grist ei hun. Cyn ymwahaJiu cenir emyn arall 0 Arglwydd Dduw Rhaglvmiaeth Ac Iachawdwriaeth dyn, Tydi sy'n llywodraethu Y byd a'r net dy hun Yn wyneb pob caledi Y sydd neu eto ddaw, Dod gadarn gymorth i mi I lechu yn Dy law. O'r holl emynau i gyd, dyma'r dwysaf a mWyaf pwrpasol hwyrach i'n profiad a'n hangen yma. A sut y gallaf ddisgrifio'r bech- gyn yn ei ganu cyn ymadael o'r oedfa am saith ar gloch y bore cyn mynocl i'r ffosydd ? Dyna'r cyfarfod trosodd ac ar hyd y ffyrdd fe glywch adsain yr hen emyn Yn wyneb pob caledi, Y SYDD, neu eto DDAW, Dod gadarn gymorth i mi I lechu yn Dy law. "Dychwel y pregethwr adref, ga I geisio galw i gof yr wynebau oedd yn bresennol, a meddwl pa rai ohonynt fydd yn oisiau pan gawn gwrdd nesaf. Cyn nos trannoeth daw'r newydd fod un yn nhragwyddoldeb, ac oraill wedi eu clwjfo Yn hyn i gyd ceisiwn eto ganu Yn wyneb pob caledi, Y sydd neu eto ddaw. Yr Oedja Saesneg.—Oedfa Gymraeg ydoedd yr uchod gan mwyaf. Gyda rhai o'r cet- rodau bydd y gwasanaeth gan mwyaf yn Saesneg, ac un felly ydoedd yr olaf a gawsom wrth y ffosydd. TrefnWyd hon am saith ar gloch yr hwyr cyn mynd i'r ffosydd, a chwrdd wn mewn hen ysgubor gymaint ohoni ag sydd yn weddill, heb na drws na ffenestr. Wedi uyrraedd yno,oefais y cwmni a letyai yno wrth eu bwyd, newydd dqyehwelydo orchwyl I mlled, dydd. Byddai'r amihog ac angharochg i ymyrreth a hwy wrth eu bwyd ond myn- nert i ni fynd ymlaen a'r gwasanaeth, ao addawant ymuno a ni wedi gorffen bwyta. Hynny a wneuthom. Aethom i'r pen arall i'r ystafell ac ymlian tipyn vmunodd pawb a, ni Eglwyswyr, Pabyddior ..c Ymneilltviwyr. Crybwyllais rai o'r emynau Cymraeg sydd mor ami yn rhodcti gollyngdod i'n profiad. Nodaf eto rai o'r emynau Saesneg. Dach- reuv\yd. v Loson hon gydag eiddo Watts Our God, our help in ages past. Rvwsut y mae yn hon ryv allu i ddwyn oin hvsbrydoedc' i gyswllt a'r Mawreddog a'r Tra- gwyddol. Nid lIe i brofi'r Bod o Douw yw'r ffosyda. Ni wn fod hyn yn blino llawer yma. Dymuniad ein henaid yma, ynghanol y terfysg a'r dmistr, yw teimlo'n traed yn gadarn ar Graig yr Oesoedd, a phwyso'n hunain ar y gwirionedd.au arhosol, a'r Duw a fu'n breswyl pob cenhedlaetli. Pa ryfadd fod canu mawr ar hon yme ? Weai oarllon 1 Thes. v, am yr an.seroedd a'r 14 pryuiau," cai.wyd Jesn, Lover of my soul. Er fod yr ystorm yn nieddwl yr iiwutir yn wahanol i'r storm sydd yma, gwasanr.otlia'r weddi a phrofiad gwirione(let,,t ac mor briodol y ddwy linell olaf o'r ail l.xsniall, pan y mae'r golyn wed.i ysgubo'r parapets i lawr, a hwjrtheu'n odigvsgod dan g^wod o shells COVfT my defenceless head, With the shadow of Thy wing. Wedi gweddi, cenir un arall o'r hoff emynau I need Thea every hour. Nogos y pregethwr heno yw Esaiah lv, 6-7 Ceisiwch yr Arglwydd tra galler ei gpel Ef, golwch arno tra fyddo'n agos etc. Dyma deatun eto nad oes eisiau ymdroi cyn dod at ei neges. Onid oes llawor o'r bechgyn yma'n cofio adeg pan oedd Duw'n agos iawn atynt, yn nyddiau plentyndod a bore oes, pan oedd ou cydwybod. yn dyaer a'u calon yn lan ? Ac oni fu'n liawdd ei gael i rai ohonynt yn y Diwygiad, neu yn nydd rhyw draUod ac ing ? Eithr bu'n mhell oddiar hynny fe ddichon, a hwythau'n methu cael gafael arno gan arnheu- on ? Ond yma, ynghanol realities bywyd a tlr agwrydd.old.eb, danv Duw'h agos at y caletaf ri galon, a hawdd ei ga, I i'r mwyaf ei ofnau a'i amheuon. Ac nid oes i'r drygionus ond gad- ael ei ffordd a'r gwr anwir ei feddyliau a dychwelyd at yr Arglwydd i gaffael maddeu- ant a heddwch, ac o'u cael i wynebu'r dyfodol yn dd.ibryd.er a digryn. Ardd.el vyd y genad- wri yn amlwg y noson honno, a thystiai'r distawrwydd a deyrnasai drm y'r lie fod Duw'n agos iawn atom. Yr oedd lesu o Nasareth yn mynd heibio. Ar y diwedd canwyd un arall o'n hoff emynau Saesneg :— When the roll is called up yonder I'll be there. Rawdd deall sut y mae hon yn un o'r favour- ites. Cenir hi'n ami gertref, ond nid yw'r ffigiwr mor real i neb ag ydyw i'r milwr. Bob tro y try illan ar parade, bydd galw'r enwau i gael gweld fod pawb yno. Hawdd i'w ddychymyg fynd i'r ochr draw ac i ofyn pwy fydd yno i ateb ei enw. Llawer gwaith y gclwir yr enwau yma ar ol bod yn y ffosydd. Bydd enw hwn heb ei ateb am ei fod wedi ei glwyfo, ac arall heb ei ateb am fod llais ei berchennog wedi distewi am byth. Ond yr ochr draw ? Byddaf Fl yno. When the roll '8 called up yonder, I'll be there. A d;ehon fod llawer, wrth ganu, yn meddw* mai'r ochr draw yr etyb ei enw nesaf. Ar ddiwedd yr oedfa, gweinyddwyd y Cymundeb i'r aelodau crefyddol oedd yno. Talcen hen flwch oedd y bwrdd, gyda llian gwyn drosto. Erbyn hyn y mae geniiyf Field Communion Service, a bydd gennyf ddigon o ddiaconiaid wrth law bob amser i'm cynorthwyo. Oymer- wyd o'r bara sy'n arwydd o'r Manna nefol, cynhaliaeth y bywyd yabrydol, Ei gorff dryll- iedig Ef, acyfwyd o'r cwpan, yrarwyddlim o'r Aberth drud, ac o'n hymgyflwyniad ninnau i'r un gwasanaeth ac aberth yn yr un ysbryd. Yn wir, meddaf i chwi, nad ,yfaf mwy o ffrwyth y winwydden hyd y dydd pan yfwyf of yn newydd yn nheyrnas fy Nhad." Beth pe gofynnid ar y diwedd pwy oedd a hawl i ddweyd yr adnod yma ? Ond meddai y Gwr a'i llefarodd Ni pherthyn i chwi wybod yr amsaroedd a'r prydiau, y rhai a gadwodd y Tad yn oi feddiant eihun," a diolch iddo byth am hynny Er hynny, cyn ios drannoeth, yr oedd un o'r caredicaf a'r hawddgaraf ohonom, ond odid y tebycaf i'w Wared wr yn yr oedfa honno, wedi profi o ffrwyth y winwydd en yn newydd yn Nheyrnas ei Dad. Ddar- llenydd, ar dy esmwyth fainc yn dy gartref clyd, a Wyddost ti faint dy ddyled i hwn a'i gyfielyb ? Glywi di yntau'n dweyd Hwn yw fy nghorff yr hwn a dorrir drosoch ? Yn fy ymyl, ar lan oi fedd, sifai ei swyddog, a dywedai wrthyf a'r dagrau brwd yn treiglo dros ei ruddiau Nid adwaenwn well Crist- ion yn fy myWyd. Ow ei golli ef o bawb Tyfodd yn sant ae yntau ond llanc ugain oed. Gwelais lanciau deunaw oed wedi ychydig wythnosau yn y ffosydd, yn gwisgo agwedd dynio i. Ac yn yr un amser gwelais eraill yn tyfu at fesur oedran cyflawnder Crist. Gwaith pwysig gyda ni yn y ffosydd yw'r claddu, ond rhaid gadael hynny hyd y llith nesaf. I- JAM. EVANS J
Advertising
isr SYLWCH AR HYN Fod prinder a drudau- iaeth papur y fath fel na allwn anfon yr un copi dros ben o hyn ymlaen i'r gwerthwyr ac os am fod yn ssier o'ch' « BRYTHON," y rhaid ichwi eiarchebu gan eich newsagent arfer- ol ymlaen llaw.
IAr ddaint v Gribin.
I Ar ddaint v Gribin. Rh;vi pert eu pwyth o<<dd yr hen fwirdd. a dyma fel y sennod.d un ohonynt y Bala oblegid rhyw gam a gawsai yno Y Bala, lie bawa'n y byd—drwy gilydd. Drigolion gwrenwynllyd Llawn biiriaeth, afiaetli hefyd. Y giapiog gor sy'n glop i gyd. -< Y mae Mr. Simon Harris, Globe Street, Penarth, wedi cyrraedd y cant ot-)d ac yn cychwyn ei ail gant: yn gryfach nag y Cychwynnodd ei gyntaf. -9- -9- -9- Gwr pobiogaidd iawn gan oi gvd\ mladdwvr yw'r Capt. Hamlet Roberts, mab Dr. Evan Roberts, Pen y groes, Sir Gaerna"fon a fu'n ymgeisydd Undobol dros Fflii-it ac sydd nowydd gael dyrchafiad milwro] rywlo tua'r Aifft. Yr oodd gyda'r Frigad Gymreig yn Gallipoli. ac y mae'n bentewyn d.ewr a diangol o'r gyneuodig dan lawer tro. Nid oes dim o'r s wen cyn rho £ lresgar ynddo a dyna pam fod y bechgyn yn barod i wneud popeth iddo. Dim ond dau drosed.dwr oedd i ddod gor bron Ilys chwarter Sir Ddinbych y dydd o'r blaen, na dim un gerbron llys chwarter Mon ym Miwmaris. le, hen wlad go lan yw hi, o ran pechodau rhyfygus ond mewn lly's uwch y daw ei phethau gwaelaf i'r golwg. -9- Gadawodd Mr. Thos. Rowlands, fferm yr, Hendy, Llanfair P.G., Mon, f 101. 175 o'i ol. -9- Y MAE'r Parch. G. H. Havard, M.A.,B.D., Rhyl, wedi cael galwad i fugeilio eglwys Lady Huntingdon yn Nhalgarth. Os el i'r De, bydd yn golled i Fethodistiaeth Dyffryn Clwyd am un o'i wyr goreu a galluocaf, Y f,th lu o feddyliau am Howel Harris ac eraill o gewri'rDiwygiad sy'n hongian wrtliTalgartli -enw cu Y mao'r Cadfridog Jones Vaughan, Tyddyn Llwydyn, Pwllheli, wedi marw, yn dair ar ddeg a thrigain oed. ?Iab ydoedd. i'r diwedd ar Canon Jones, Bangor, ac yn y Fyddin ers hanner canrif, gan mwyaf yn yr Ind ia, ac oedd yn swyddog ieuanc pan yn ymladd ynghanol cynddaredd yr Indian Mutiny, pan oedd dannedd y mynyddWyr duon yn sgloinio mor ellyllig wrth wanu'r Prydeiiiaid. Yr oodd y Cadfridog yn C.B., ac wedi ennill y D.S.O. Efe a clrefnodd y Pageant digyffelyb o dywys- ogion yr India adeg ymweliad y Brenin Edward yno pan yn Dywysog Cymru. Y mae meichiafon Eisteddfod Bangor wedi ymddwyn yn anrhydeddus a thalu pob dimai o ddyled yr Wyl Genedlaethol fis Awst di- waddaf. Trefnu Meichiau cvn bod dyled," ie, a thalu'n ddirwgnach pan ddaeth dofyd— gwaith caletach o lawer. Da clywed fod y Parch. Thos. Chas. Williams, M.A., wedi gwella digon i ail esgyn i'w bulpud. hoff yn y Borth. A gwell ganddo ddringo grisieu hwnnw n .'r un grLiau arall. -0 "Cynhitwch ymhopeth arall os rhaid hynny ond am eich bywyd, peidiwch a chynhilo yn addysg y plant, boed clem y rhyfel y peth y bo hi," ebe Arglwydd Sheffield wrth rannu'r gwobrwyon yn Ysgol Sir Girree- sam ddydd Gwener diwaddaf. Nowydd da oedd gan Gydbwyllgor Hedd- geidwadol Sir Ddinbych i'w ddy wed yd yn eu cyfarfod chwarterol yr wythnos ddiweddaf, sef fod meddwdod wedi lleihau yn y Sir- Pa hyd yrhaid inni aros i weld ein gwlad druan wedi dod yn ddigon iach a moesol i osod ei sawdl drom ar wegil marw'r Sarff felltigaid hon ? Bu Mr. G. H. Ellis, Pen y Mount, Llan Ffes- tiniog, farw ddydd Iau diwedd if, yn saith a thrigain oed. Efe oedd uchel siryf Meirion yn 1905; efe oedd piau chwareli Duffws ei hun i gyd, a chanddo gryn lawer i'w ddweyd hefyd wrth amryw o ehwareli eraill yr ardal. -0- Y mae cyfarfod mawr cyhoeddus i'w gynnal ym Mhorthmadog, Ebrill yr 28ain, i edrych beth a tllir ei wneuthur i sbardynu'r fasnach lechi, sy mor farw ers blynyddoedd bellach. Bydd yno feistri a gweithwyr, cyn- rychiolwyr y ffyrdd haearn, aelodau seneddol a gwyr amlycaf yr ardaloedd. Mor chwith gweld cei gwag a distaw Porthmadog rhagor fyddai yn nydd anterth y chwareli, pan oedd hyfryd swn y malu a'r llwytho i'w glywed, a'r llongau'n mynd a cheubal y Moelwyn a'r Manod i bedwar ban byd. Hai lwo y daw'r hen swn yn ol,ac na welir dim rhagor o gynhiteikfu gwair ar waelod ei dociau. Dyma'r geirieu oedd ar y dabled goffa i yswairi hoff Penarddlag a ddadorchuddiwyd yn yr eglwys honno ddydd Iau diweddaf :— To the Glory of God. And to remember a Gallant Soldier, pure in heart and ever loyal to duty, worthy of the honoured name he bore, WILLIAM GLYNNE CHARLES GLADSTONE, Lieutenant Royal Welsh Fusiliers, Lord-Lieutenant of the County of Flint, Member of Parliament. The Holy Rood above this Chancel Arch was restored by his Mother and Sisters, while by his Tenants and many friends from far and near the Gladstone Wards of the Chester Royal Infirmary were dedicated to the memory of the young Squire of Hawarden, who wrote in wol and wrought in deeds in the trenches in France his life's own best motto "It is not the length of existence that counts, but what is achieved during that existence, however short." Less than thirty years-but crowned with the love than which no man hath greater, he laid down his life for his friends near Laventie, April 13th, 1915. He was a veray parfit gen til Knyghte." God Reste his Soule. A da dros ben oedd y deyrnged a dalodd Esgob Llanelwy iddo wrth ddadorchuddio. Bu'r Proff. Fleure, Aberystwyth, yn annerch y Cymrodorion yn Llundain nos Iau ddiwaddaf ar Ancient Wales. Anthropological Evidences. Dyma un sylw :— Ar hyd glan m6r Cymru, cewch fod y bobl gan mwyaf yn llydan eu pennau a du eu gwallt, yn enwedig ar hyd sir Benfro a Morgannwg. O'r Bala a'r wlad hyd yr Abermaw a Thowyn y daw'r dynion talaf a goleuaf eu gwallt, a'u pennau'n llydain a chrwn, tebyg i'r diweddar Tom Ellis annwyl. -401- Y mae'r Lieut. G. Morgan-Owe i, mab ieuengaf Llwyn Derw, Llandinam, wedi cael ei ladd yn y rhyfel. Y mae dau frawd iddo yn y Fyddin-yr hynaf, Capt. Morgan-Owen, enwog fel ciciwr y bel, wedi dychwelyd adref yn wael o'r Mediterranean a'r ail, Major Gethin Morgan-Owen, wedi cael y D.S.O. am ei ddewrder yn Gallipoli. -.0- Bu Mr. Goorge Brymer farw yng Nghaer- narfon, yn un ar ddeg a phactwar ugain oed. Brod or ydoedd o Garn Dolbenmaen. Symud odd yn gynnar i Flaenau Ffestiniog, lie y tyfodd ei fusnes drapery'n gyfiym. ac yr ym- neilltuodd yn 1887. Dygwyd y busnes ym mlaen wedi hynny gan ei farch. Mab iddo yw Mr. Geo. Brymer (Brymer & Da vies), Caernarfon, ldUrs. Beale (Llanberis) yn ferch iddo. '9 Dirwywyd rhes o blant Rhostryfan a'r Waen Fawr yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn diweddaf am ffaglu eithin hyd y ffriddoedd. Goddeithio ydyw un o'r pethau goreu gan blant y wlad, ac yn demtasiwn fawr iddynt gychwyn y tan ar awel o wynt er mwyn sbio ar y fflamau'n estyn eu tafodau i'r entrych' Credid mtt i'r Capten Sam Roberts-a fu farw'rfvyth'los ddiweddaf yn y Groeslon, ger Pen y groes—oedd yr olaf yr fy NO longwyr yr Alabama enwog, a adeiladwyd yn Yard Laird, Birkenhead, adeg y rhyfel cartrefol rhwng De a Gogledd America, ac a wnaeth y fath enw iddi ei hun fel pirate ship yn erbyn y Taleith- iau'r adeg honno. Yr oedd Roberts yn dair a phedwar ugain oed, ac yn byw ar bensiwn yr hen a thrugaredd ei gymdogion. Hwyliodd o Melbourne adeg y rhyfel liwnnw daliwyd y Hong yr oedd ynddi gan yr Alabama cymer- wyd ef a phedwar Cymro arall (John Roberts, Traeth Coch Thos. Williams a Lieut. Morris Caernarfoii a Hughes, Caergybi) yn gar- charorion. Ar ei bwrdd y buont am wythe nosau mewn heiyrn ond pan eu gollyngwyd o'u cadwyni, ymunasayit a'i chriw, a buont arni am dri mis ar ddeg, gan ddianc oddiwrthi yn Capetown. Hen longau a he i ymladd-wyr y dyddiau gynt oedd piau hi o lawer gan yr hen forwr, a Twt oedd ei air am arwein- yddion diweddar y Llynges e 'r Fyddin. Pe buasaiNapoleon a Nelson yn fyw heddy w, nid fel yma y buasai hi ar Loegr," ebe'r hen rychor wrth falu ei gatiad nesaf. -0- Diangodd pedwar o Germaniaid y Fron Goch, uwchben y Bala, o'u caethiweo mawr fu'r hel a'r curo twmpathau amdanynt; ac fe'u daliwyd ar ffriddoedd Llandegla-yn -Ial brynhawn dydd Sadwrn diwaddaf, un ohonynt yn balff dwy lath a chwe troedfedd o daldra, a'r lleill rywbeth yn debyg i chwi a finnau, ond eu bod yn madru sgyrnygu'n hyllach a sbio'n fwy dan eu cuwch. Dyma'r naw dewisedig gan y Llvwodracth i edrych ifewn i drefniadau r gwaith Prifysgol Cymru a'i thri coleg cenedlaethol, a chwilio ymha ffordd y gellir gwella pethau gyda golwg ar gyfansoddiad, swyddogaeth, a galluoedd y Brifysgol a'i thri choleg :— Y Gw'r Anrhyd. Argl. Haldare, O.M., K.T., F.R.S., Ll. D. (Cadeirydd). Proff. W. H. Bregg, F.R.S., M.A., D.So. Quain Professor of Physics in the Univers-, ity of London Yr Anrhyd. W. N. Bruce, C.B., Bwrdd Addysg Syr Owen M. Edwards, M.A. W. H. Hadow, Ysw., M.A., D.Mus., Prifathro Armstrong College, Newcpstle. A. D. Hall, Ysw., M.A., F.R.S., Dirprwvwr dan y Development Act. Syr Henrv Jones, M.A., Ll.D., D.Litt. Syr William Osier, Bart., F.R.S., M.D., D.Se., Ll.D., D.C.L., Rhydychen. Miss Emily, Penrose, M.A., Prifathro Somer- ville College, Rhydychen
Advertising
Yn awr yn Barod. COFIANT THOMAS 6[[, — GAN — THOMAS GWYNN JONES. Cynnwysa y cyfrol 650 o dudalenau yughy ag amryw ddarluniau. Pris wedi ei rwymo mewn Illan hardc 61- Cyhoeddedlg gan GEE a'i FAB. Cyf., Dinbycb J. HUGHES — Tailor,— 20 Oxton BIRKENHEAD.  ?/? ^/Ladies'   /Costumes From  />) 55/ 63/- Perfect Fitting Guaranteed. RING UP 1.S7r FOR PATTERNS. W. A J. VENMORE, Estate Agents & Voluers 200 SCOTLAND RD., iiverpoal Vti 4216 &opJ (2 liueo;), ALLAN mail LINE To CANADA JVERPOOL, GLASGOW, LONDON IcBAJU TO CANADA, NEWFOUNDLAND ft U.S.A. ALLAH'S, 11 James St., Liverpool: 14 Cookspnr St., S.W., and 103 Leadenhall St. London, B.C. U. W. DUG[iESpa. & L.T.S L (Arosiowdd p Oantt tMt Sihapti M.O. Printu fl. Arweinydd Cymanfaoedd Canu, Beirniad, ac Arholwr. Parotoir Vmgtisxoyr at Dystyagrifau utoehm OtJleg y Solla, Hen Nodiant a SolI., 70 KINGSLEY ROAD LERP* J. Lloyd Jones, & Co., ESTATE AGENTS, &c 6 Lord Street Liverpccl r»lMrUUtM GM MARK DIM TALU YMLAKN LLAW. ARIAN YN FENiTHYG. (yn ddistaw bach), mewn symiau bach neu favv (heb fod llai na £ 10}- AR ADDAWEB T BENTHYCIWR El HU BEFYDLWYD RRS 45 MLYNEDD. ac yn awr yn rhoi jf80,000 YN FBHTUYtt BOB BLWYDDXJ Am daflen a thelerau ymofrnner a George Payne a'i Feib., 3 Crescent Road, Bhyl, a 16 School Lane, Liverpool. HARTLEY & CO., Liverpool 202 LONDON ROAD. « BALES BY AUCTION EVERY tUESDAr AND FRIDAY AT ONE SATUBDAl NIGHTS SEVEN fALOABLE HOUSEHOLD FDB^ITU&B Oll AJbi DESOEIPTIONS. MAGNIFICENT NBW AND lEOOND-HAND PIANONORTES, LARGE VABIBT1 OF BEDSTEADS, BEDDING 40, BVIIB Y NECESSITY FOR HOUSEKEEPING. ATTEND THESE SALES AND SAVE AT LBAPT 18 PER CENT. A MAGNIFICENT SELECTION 01 UPERIOR FURNITURE IS ALWAYS KEPT 1- :TOOK AND ANYTHING MAY BE PUROHAMB BY PRIVATE TREATY GOODBSTORBD. On view 8.30 a.m. to 9 80 p.m.; Saturday 1 V,a. 8lephone 1708 Royal. OONSIGNMENTS (EITHEB LARGE OR SMAL1 OF ANY DESORIPTION INVITED FOR THBIB iALBS. BEST RESULT GUARANTEED. If you want The most Comprehensive POLICIES uro THE BEST TERMS write for partioulan to The Gresham LIFE, fiRE, AND ACCIDEN1 Insurance Offices. Dead Office i 8t. Mildred* House Poultry, LONDON. IL.g. Branch Office i 014 Exchange B'lde LIVERPOOL. JAMES B. SCOTT, General Manager I Rhifyn y Gaeaf Y BEIRNIAD CYLoHGBAWN CHWABTSBOL dan nawdd Cymdeifchasau Cymreig y Colegas Cenedlaetho) < than olygiaeth J. MORRIS JONES. Cynnwya— N GEORGE BORROW YNG NGHYMRU Syr Vincent Evans IF AN RHYDDERCH Miss L. M. Owen (Moelona) ANNIBYNWYR MON GAN MLYNEDD YN OL Y Parch. O. L. Roberts GORONWY OWEN Y Parch. T. Shankland A ELLIR DISGYBLU'R MEDDWL ? Yr Athro Wm. Phillips UN 0 LYFRAU WILLIAM SALESBURY Ifor Williams NODIADAU IEITHYDDOL Caleb Rees, Ifor Williams, a'r Golygydd GOHEBIAETH Yr Athro W. Phillipsa T. J,.Jen kin. ADOLYGIADAU gan y Parch. Ddr. Maurice Jones a'r Golygydd. Sagb Bvans a'i Feibion, Argraff"it, 866, 868 Stanley Road. Lerpwl