Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

..Ffetan y Gol.

rSTAFELL Y BEIRDO

O Lofft y Stabal.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

O Lofft y Stabal. I MrsTAR GOLYGYDC,—Coeliwch fi, fydd y byd ma byth yr un-un i mi wedi gweld fy llith yn y BRYTHON, Ac yn union fel y sgwen is i o. Hwrach y dysga i dipin wrth fynd ymlaen, ac mi geisia hefyd. Ond ma'n dda gin fod yn rhydd i neud peth fel hyn yn fy fford dfy hun. Dro byd yn ol, miawn ffair ben tymor, mi brynis lyfr swllt o waith Islwyn, ac roeddwn i'n dotio at i "dragwyddol hool o. Miawn dosbarth yn rysgol Sul, mi son is am y peth, ond mi drodd yr hen athro annwl, Robat Jos, arna i. Cododd i sbectol ar i dalcian, drychodd yn syn i ngwymab i, ac mi ddeudodd, Paid a chyboli gwirion Dyna bedi gwyrdroi'r Sgrythyr. Dydi dy dragwyddol heol di ddim ond lladrad cyfrwys o'r 'ffordd dragwyddol sy'n y Salm. A chofia di ma nid rw brydyddion balch, ond saint, gaiff fynd hyd y ffordd honno. Ma llyfra'r beirdd ma'n bla gwaeth na'r frech wen. Paid a rhwbio ynyn nhw, machgian i." Roedd gin i barch calon i'r hen athro, ac roedd gynno fo hawl i son am saint," achos roedd o'n un o honyn nhw, does dim dowt. Ond mi ois i at y llyfr swllt wedyn, a cheisis i ddallt o, a'r diwedd fu imi gredu fod yr hen sant yn cyfeiliorni; ac wedi imi gael sgwrs efo rw brygethwr oedd yn fardd, wrth i ddreifio fo i'w daith Sabotlj, roeddwn i'n sicir i fod o. Ond erbyn i'r gola ddwad i fy meddwl i, roedd Robat, J6s wedi madal a'r fuchedd hon, hynny yw, wedi marw a doeddwn i ddim yn leicio'i drwblo fo wedyn. Wal, syr, mi gAs i lawar o fins wrth geisio dallt y llyfr swllt. Y gwaethaf oedd fod y bardd weithia'n chwara mig a mi. Roedd o'n ymgolli miawn niwl, ne roedd i ola fo'n rhy danbad i mi,, ond beth bynnag oedd y matar arno fo, fedrwn i mo'i weld o ambell dro. Ac rydw i'n leicio llyfra'r prydyddiox, os bydd rw sens ynyn nhw, ac ma gin i lawar ohonyn nhw'n y Llofft yma. Diawst i, syr, ma nhw'n gwmni digon difir, ar y cyfan. Byddaf vn dotio atyn nhw'n sbn cimin am aur ac angylion," ac yn dotio at y syniad fod cimin o betha felly wedi dwad i'r fath le a Llofft Stabal-sychlyd, lygotog, dlawd Ond rhy.id cofio ma am brydyddion yr ydan ni'n son. Er i bod nhw'n sbn am aur, aur, aur, byth ac yn dragywydd, fydd gynnyn nhw ddim yn i pycedi, yn ol y rhai welis i hyd y wlad ma ac ma rhai ohonyn nhw'n sôn am angylion byth a hefyd, ond i cneuon nhw mor wag o honyn nhw ag y deudid fod prygetha Hen Berson y Llan ma stalwm o ddrvch- feddylia. Wedi'r cwbwl, syr, peth rhyfadd iawn ydi meddwl dyn—ia, hyd nod meddwl creadur o Hen Was. fel sy'n sgriblian hyd y papur ma rwan. Pan fo'r meddwl mewn rw afiaeth d.ilywodraeth, ac yn chwara'n nwyfus, mi fydda'n teimlo weithia fel tasa Haw anwel- edig yn gafal yn ffrxvyn y nychymig gwyllt i, edig yn gafal yn ffrw ac yn fy-nal yn y fan, na fedr i i symud dim, ond sefyll yn syn a mud, nos chwysu a chrynu gin ofn, na wn i ddim yn iawn pam, ond mod i miawn rw gylch o ddistawrwydd, a hwnnw mor fyu-fol y bydd af yn disgwl iddo fo droi'n Llais A dydi peth fel hyn ddim yn newydd i mi o gwbwl yn y Llofft ma, na miawn llefydd erill. Mi deimlis felly wrth ddarllan gwaith Morgan Llwyd o Wynedd, a rw Domos o Kampus—fel y dylswn ddeud o'r blaen, nid ar brydyddiaeth yn unig yr wyf yn byw. Llyfra ofnadwy yw'r rheoni i ddyn i ddarllan wrtho'i hun, mewn lie unig, distaw, wrth ola cannwll Ond mynd i ddeud yr oeddwn i am rw atalfa sydyn ddoth ar fy meddwl i heno, wedi imi ddechra sgwenu'n lied ddigri, fel tasa. Cofiwch nad ydw i ddim yn un o'r bobol rheini sy'n rhy dduwiol i chwerthin tipin, a laiciwn i dcim bod. Ma ambell un o'r rhain a'i clonna cyn sychad a ChOOd gorcyn, a'r peth tybyca i wen fedar i gwynr I) nhw naud yn peri i chi feddwl am blat ar gauad arch Ond yn ceisio deud roeddwn i na fedra i ddim byw o hyd ar betha digri, ac, yn Air, mi fydd petha felly'n chwara rw fath o dric a mi—yn y nghodi i fynu, ac wedyn, yn y ngollwng i lawr i rw ddyfndora o sobrwydd mwy nag erioed. Felly, meddaf, unwaith eto, y ces fy hun heno. Mi deimlwn yn union fel tasa rw ffenast, na wyddwn i ddim amdani, v edi agor yn sydyn, a rhw ddylanwad dwys, tawal, fel o fyd arall, yn ffrydio dros fy holl natur. A son am "angylion ddaru newid hin- sawdd y Llofft yma mor sydyn y tro hwn. 0 ma'n dda gin i'r angylion-y gwir angyl ion, wyddoch, ac nid siam. Mi wn i'n burion fod Ilawar o rw bobol yn meddwl ma crydur- iaid dwl a difanars sy'n byw miawn llofftydd stabla gwlad fel hyn, ac nad oes fa wr o wahan iaeth rhwng i gwareiddiad nhw a'r cyffyla sy'n byw yn union tanynt. Ac hwyrach ma i hynny y pridola nhw fy nghred mewn angylion. Ond deudwch wrthyn nhw, syr—ys gwelwch chi'n dda-drosta i, nad ydi'r Hen Was yma'n malio botwm corn yn i barn nhw, o ran hynny, fel tasa. Nid miawn un lofft yr ydw i'n byw. Miawn gwirionadd, rydw i-y fi sy ynna i-yn byw mewn giarat nad ydw i ddim am i neb arall ei hawlio hi. Rydw i'n cario honno efo mi, rhwng y nwy ysgwydd, i bob man, bob amsar, ddydd a nos, ynghwsg ac yn effro. Rhw dro, mi ddoth rw ola rhy- fedd.ol i'r giaret yma, ac mi welis i bod hi'n perthyn i mi, fod ynni hi orsedd Barn, a bod gin i hawl ddwyfol iddi hi. Dydw i ddim yn styfnig, a dda gin i mo'r bobol anffaeledig yma byddaf yn diolch am bob cymorth gan ddynion—ar y tylera ma cynghorwyr, ac nid brynhinoedd, fydda nhw. Mi ddois i i weld, os na fynnwn i'r hawl unbonaethol hwn, na fyddai'r swn o'r giarat yma'n ddim ond eco i bob math o leisiau croosion. Ac mi bender- fynaif, yn reit stowt hefyd, na werthwn i moni hi t Lubral na Thori, nac un creadur arall," eirwadal yr Apostol Pol. I gwerthu bi ? Na, mae Iii',i ffri howld, ac yn etifeddiaeth ges 1 gan y Nhad Gal] neb fynno ddwad i'r Llofft Stabal ma, ac un ergid o'r gwn mawr" fydda'n ddigon i gneud hi a minna'n sbarblis man ond gyda golwg ar y Giarat lie mae Barn a Ffydd yn trigo, mi af i gyngrair ag angylion, ac a holl northoedd y Nefoed.d, fely medraf herio pob dyn neu gythral a fynnai ymwthio i fiawn iddi trwy drais. Ca pob dyn, yn enw'r Nef, ryddid i ddewis y petha y rhaid iddo fod efo nhw am dragwyddoldeb. Ond am angylion, fedar neb byth ladd y nghred i ynnyn nhw, yn .veledig ac anweledig —mwy nag y medr'd gneud i mi gredu ma rhagrith oedd yr emyn a sibrydodd mam cyn marw, ac ma llusern lledrith oleuodd y wen ola ar i gayneb nofol, pan oedd hi'n drychyd i fynu at Rywun oedd hi'n i wold-Yl1 i weld, tuhwnt i bob amheuaeth. 0 angylion caredig a ffyddlon 1, Mi fum i'n teimlo mor unig ar adega fel y credwn ma'r angylion oedd yr unig ffrindia feddwn i ar y ddyear. Mi fum miawn profiad al wnai imi deimlo fod pawb o nghwmpas i wedi troi'n bobol ddiarth." Ond ddaru'r angylion rioed y ngadal i'r amsera hynnu. A choeliwch chi ne beidio, mi wn i fod rhai ohonyn nhw'n dwad j Lofft y Stabal ma'n y nos-bob nos hefyd. Welis i'r un hot silc yn y drws ma o gwbd, a pherig bywyd iddi fasa dwad, achos ma p )n y drws mor isel. Ond mae angylion yn dwad ffordd fynno'n nhw, ac mor ffond o'r hen Ie a minna. Yn wir, roeddwn i'n nabod un ohonyn nhw stalwm, ac mi fu'n cysgu efo mi am flynydda. Jac fyddwn i, ac erill, yn i alw fo. Roedd Jac yn ormod o angal i wbod i fod o'n WI. Byddai'n bwyta bob pryd efo ninna, y:i cadw dletswydd a gofya bondith ar y bwyd, ac yn gweithio'n ddiwyd hyd y tir yma. Roedd i gefn o wadi crymu tan bwysa lIafnr, a charpia oedd am y cofn hwnnw'n amal. Ond angal oedd Jac, er hynny, waeth un gair na chant. Mi fydda'n fmeddwl fod yr Angal Jac Jls yn ymweld a mi bob nos, efo rhai erill—achos mi hedodd Adra oddiwrtha i, o ran bod mewn corffyn, ers tro byd. Wel, dyma fi'n gorfod terfynu'r tro hwn eto heb ddeud fawr o'r hyn fwriadwn, Diffoddaf y gannwll, ac wedi imi orfadd y i y ngwely mi ddaw fy ffrindia i fiawn. Does yma ddim iddyn rhw gael, ond Hen Was unig. Ond mie'n dda gini feddwl na cha nhw ddim arogl dafn o ddiod feddwol ar f'anadl i, ac mi adawaf yr Hen Lyfr yn y gorad ar gauad yr hen gist ma. Croeso i fiawn, angylion mwyn A phwy bynnag aroll, mewn cym. deithas a Pharlamant, sy'n y'n hesgeuluso, diolch i fonddigion fel chi am fod mor osty igedig, ae am gymryd dyddordeb yn achos Hen Was-mewn Llofft Stabal

Advertising