Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
GOSTEG.
GOSTEG. fair am Bregeth.—Drwg gerxnyrn fod yn sanhosibl cael Ile i'r ysgrif. Liitb yr Hen fFas.-Y mae hon, sef o'r Llofft Stabal, ar tudal. 4, yn werth ei darllen, ac yn cadw chware teg campus i'r gweision ffermydd. J. Morgan, rltah.-Diolch am rifynnau'r Catnbrian--cyliooddiad glan a diddorol iawn ei gynnwys, ac arno ol dethol a golygu da, ac nid bwrw'r cwbl ddaw fel gwagu berfa. Y mae yma amryw bathau gwerth ou codi a'u dwyn dan lygad Cymry'r Hen Wlad. Yn y pwyslais y mae'r pwyth.—Ynglyn a'r bwyth a ddyiynnweh o'r bregeth,saf i'r bobl yma sydd newydd wybod fod gan- ddynt gydwybod "-un drom a than y burned ais ydyw; ond a ni'n adnabod y dyn a'i dywedodd,hawdd y crejwn mai nid yn y geir. iau yr oedd y pwyth yn gymaint ag yn y pwyslais crafog a'r elrychiad deifiol, canys y mae'r pregethwr poblogaidd hwnnw'n feistr ar oslef, a mwy yn ei oslef o'r hanner nag sydd yn ei eiriau. Y mae hi fel cyllell JEniog a'i Ilafn drwy Ich bywyd cyn ichwi gyfrif daa. Un arall medrus ddigyffelyb ar ollwng gvraed drwg o grefyddwyr grwgnachlyd oedd yr Hybarch Edward Mathews, Ewenni. Yr ydym yn edrych'ymlaen yn eiddgar am y •ofiantsy'n cael ei sgrifennu iddo gan y Parch. T. J. Morgan, yr Wyddgrug. Cymrwch amser i wneuthur un iawn, Mr. Morgan, a 8hofiwch roi'r stori honno am yr wningen a'r own (sef Cwn Annwn) yn y gyfrol. Ond ni fedrwch chwithau, er eich medrused, ddim rhoi oilwg a chuchiau Mathews yn y llyfr, na'r watwareg ddiangof honno a glywid yn ei oslef ac a araf rygnid uwchben beilchion a chwydd edigion ei gynulleidfaoedd. Bobl annwyl dyna'r myniawyd minioca'i flaen a rwygodd o-wigen wynt erioed. Atgof am yr hen FacQuie.—Diolch am y pwt llythyr a ddaeth yma echtoe oddiwrth Pwyma -un o'm hen gydweithwyr gynt pan gysodem mor fain ein gobrwy ar bapur sy bellach yn yr an fan a'i berchennog. Y mae'r llythyr yn fy stgoffa am hen gysodydd arall, hyn lawer na chwi, y cydweithiwn ag ef yn swyddfa'r p- 8- papur crefyddol a gyhoeddid yn Lerpwl pan ddeuthum i ymJ,'n llencyn cwta'i lodryn a llyweth yr olwg o'r wlad ers talm. MacQuie oedd ei enw melyn a sipsiwnaidd iawi ei liw a'i lygad, ond na chafodd neb ohonom wybod erioed o ble y daethai nag ymhlo'r oedd ei deoilu, os oedd iddo deulu. Lletyai gydag Iddewon ac a felltithiai y rhai hynny am eu d efod au bablaidd w rth funud io a degymu eu mintys crefyddol. Yr oedd yn ddyn tua'r trigain oed yma ar y pryd yn ddrang ei dymer a phigog iawn ei dafod fclawd ac anghynes yr olwg, cerpyn o siwt saiinlyd amdano a rhyw fotwm neu ddau yn d&l yr hen gleiriach od wrth ei gilydd. A rhyw ddau fotwm fydd yn dal cysodydd wrth ei gilydd bob amser bron. Fe ffroonai gymauit o snuff nos bod arogl hwnnw i'w glywed deirllath oddiwrtho a phe cawsid snapshot ohono'n cysodi ar ei eistedd, yn ei gwman ar ei stol, a'i draed yn ymyl ei drwyn," buasai'n edrych yn debycach i ddraenog nag i ddyn, ac yn llun gwerth ei gadw gan fy mrodyr yn y grefft gysodyddol. Fe hoffwn weld y cartwnydd medrus, T. Salisbury Jones Crewe, yn treio'i law ar lun o'r hen FacQuie, seiliedig ar y bras-bortreiad uchod. Ydych oh",i'n clywed, T.S. ? Orefydd a Chrintachnoydd.-Er mwyn ichwi ddallt, papur Saesneg enwad ol oedd yr hen P- S-, a'i berchennog—(un o Brotest- aniaid pengry' a chwilboeth Ulster)—yn gwisgo barf laes ac archoffeiriadol, &c yn sgrif- ennu pethau da a defosiynol iawn eu tdn yn ei nodion a'i lithoedd wythnosol, ond yn chwysu'r m6r allan o esgyrn ei weithwyr am y bripeya mwyaf gWarthus o gyflog. Ond pe t»uasai'n ysgrifennu eystfLI a Phaul, a phre- gethu oystal a Chrysostom, nid byth yr achubai f -enaid i pa ?, glemiwn wrth gysodi ei feddyliau am rhyw ddeuswllt y golofn yn lie dhweugain. Wyddoch chi beth, yr oedd ei aaniongradd yn ddr-wdod yn ein ffroenau, can- ys lie i ddarnlwgu dyn oedd y swyddfa, a dyddiau'r frechtan driagl a'r cap scotch oedd y dyddiau hynny i mi. Ac os iawn y cofiaf, -oni fu Bradlaugh'r anffyddiwr yn edliw yn y National Reformer mai'r papurau crefyddol oedd y rhai mwyaf crintach eu cyflog o holl bapurau'r deyrnas <' Sut bynnag, rhyw ddeu- -ddeg a phymtheg swllt oedd eitha'n henillion yn y Glondyke baradwysaidd honno ac os cyrhaeddid deunaw swÎlt. y fo'n gwarchod fe gawn hanner coron i'w gyrru i'r hen fam gartref. A hyn oil am gysodi pregethau, os gwelwch yn dda ond a'i helpo tua hanner hynny a enillai'r hen FacQuie druan, canys yr oedd ei gorffilyn wedi crino a'i fysedd wedi eamu nes fod yr esgyrn yn tremio arnoch drwy'i lewis mor foelion a chlogwy-iir Mig- neiit tua Thrawsfynydd. Ofnaf mai pinsied o snuff a bar a syeh oedd eithaf ei saig af, canys pe'ch clywsai'n cnoi tamaid go amheuthun, fe fedrei sbio mor ddeisyfol arnoch nes methu ohonoch beidio a'i ostyn yn ei grynswth iddo. A pheidiwch a chwei"- thin am ei be i na'i ddirmygu, canys yr oedd ynddo ddigon o allu a diwylliant, o dan pi siwt aeimlyd i gyd, i'ch baglu'n chwap mewn dadl, ac i beri i chwi sbio'n bur hurt a lloaidd pan yn methu gwybod sut i'w ateb. r Gael Pregeth i'w Gynhesu.-Ond at hyn yr wyfYll dod (1) Yr oedd yr hen feistr yn rhy gybyddlyd i odd ef tan inni yn y g weithty a chan fod cysodi'n waith mor llonydd, bydd- ai'r erepach ar ein bysedd a'n gliniau'n clecian yn ei gilydd ar hyd misoedd y gaeaf. Ac os oer nyni'r rhai ifanc a llawn o waed, pa mor oar a rhynllyd yr hen FacQuie, wrth rincian dannedd dan osod ei ddarn pregeth yn y gongl ? (2) Yr oedd pregeth, gw e ith Dr. Talmage, arfer a chyrraedd bob wythnos o Now York, sef proof printiedig at ei hail gy- hoeddi "yn ein pipur ni," Ac fe wyddoch am Talmage, maipregethwr eras a ffwrneislyd ydoaJd, ac arogl y brwmstan materol ar y rhan fwyaf o'i draethiadau. Agnostic go bell oedd yr hon FacQuie, ac wedi mynd yn fwy felly wrth gysodi pregothau am ddeuswllt y golofn ac un bore dydd Llun oerach na'r eyffredin, dyma bregeth Talmage yn cyrraedd o'r Gorllewin pregeth ar Uffern yd oedd, a HeU oedd oi phennawd mewn llythrennau Itreision. Dyna'r hen gysodydd yn llonni drwyddo a chan osod ei hun yn ei le ar ei otol i ddechreu ei elrysodi, Now we shall be warm at last! ebe'r hen ddraenog dwfn ei fewyslnis. I Awstralia yr hwyliodd toe wedyn ond diau ei fod ymhellach lawer na hynny ere blynyddoedd. Peidiwch chv-i na finnau a dogmateisio dim am ei gyflwr mynd a gwaith ein Gwneuthurwr oddiarno yw hynny, ac anghofio'r dan adnod honno, Efe a roddes bob barn i'r Mab."
I DYDPiAiSUR. lJ,í Æ"" )I.,l'.…
I DYDPiAiSUR. lJ,í Æ"" )I.,l'. )1. JEisKll-Jj. 10, 21, 22 23-Cymanfa'r Pasg yn Palmerston Drive MAI tO-21-Cyfarfod Pregethu Grove St. a Heathfield Road 27—Cymanfa Y sgolion y Bedyddwyr 27, 28-Cyfarifod Pregethu Park Road MEHEFIN. 6-Eisteddfod Gerddorol Gwyddelwern GORFFENNAF 8, a 9—Cyfarfod Pregcthu Vittoria Street
I Gyhoeddwyr y CymodI
I Gyhoeddwyr y Cymod I Y Saboth nesaf I I Y METHODISTIAID CALFINAIDD I PEIHCES ROAD-10 a 6, J Elias Hughes, Brynmenai DAVID ST-10.30 a 6 D. D. Williams FITZOLARENOE ST—10 a 6, R. R. Hughes DOUGLAS ROAD-10 a 6, W. Henry CHATHAM ST.—10.30 a 6 JH Hughes, EUesmere Pert CROSSHAIR ST.-lo 30 a 6 AN FIELD BOAD—10.30 a 6, Richard Williams, Llanelli NBWSHAM PARK-10 a 6, R. Aethwy Jones BOOTLE-10 a 6, R. W. Roberts PABKFIBID—10.30 a 6 J Foulkes Evans Qwyddslwern 8IAC0MBB—10.30 a 6, J. H Morris QAESTON—10.30 a 6, J. Daniel Evans BOCK FEBBY—10.30 a 6, 0 J. Owen Vf ALTOS—10.30 a 6 E J Evans W ATERLOO-10.30 a 6, G. W. Griffith PEEL ROAD-10.30 a 6. 0. Lloyd Jones BDGE WNIÐ-IO.30 a 6 Wm Owen, Conwy WEBSTER BOAD—10.30 a 6 D. Jones LAIRD ST—10.30 a 6 T J Rowlands WOODCHURCH ROAD-1 0.80 a 6, W 0 Jones VEW BRIGHTON—10.30 a 6, H Edwards, Hen Golwyn ffEST KiRRY-11 a C, T J James, Llanelwy SOUTHPORT—10.30 a 6. B Davies HTJYTON QUARRY—10.30 a 6 John Klias Ellis WHIST0S—10.30 a 6 ST. HELENS—Chwaer Evans ST. HELENS JUJiOTION-R P Jones,Warrington BLLESMERE PORT-10.30 a 6, ASHTON-IN-MAKEBWELD—10.30 a 6 E Rogers SKELHERSDAIIB—10.30 a 6, Wigan—2.30 a 6, Owen Jones UPPER WARWICK STRICET-ti.15 SKITB STREET—6, Cyfarfod Gweddl >. BASK HALL—6-15, MIDDLESBROUGH—10.30 a 6,30 R P Jones SUNDERLAND-10.30 a 6, M R Moses SPBSNYMOOR—10.30 a 0. T J Owen EASINGTON-10.30 a 5.30, Cyfarfod Gweddi ELDON-10.30 a 5.30 J LI Willliams SUTTON OAK (Undebol)-10.30 a 5 30 Cyfarfod Gweddi YR ACHOSION SEISNIG OAKMELD RD-10.45 a 6.80 P 0 Williams TTVERTON BROW—10.45 a 6.30 G Harries Lamb CATHARINE ST-11 a 6.30, J Talog Davies WILLMERBOAD—10.45 a 6.30; 0 R Evans SPicLLow LANE-11 a 6.30, G B Jones LLSCARD—10.45 a 6.80, Emlyn James BREEZE BILL-ll a 6.30, H Bidehalgh Jones ORRELL, BOOTLE-11 a 6.30, J Howell Evans YR ANNIBYNWYR TABERNACL—10.45, A Jones 6 E Roberts, Pentrefoelas PARS ROAD-10.30 Henry Jones,; 6PH Lewis, Bermo QROVE ST-10.30 P H Lewis 6 Henry Jones, Trefriw OLInoN RID-10.30 T Griffith, 6 J H Williams, Bolton GT. MERSEY ST-10.30 D H S Davles,O WThomas,Bootib MARSH LANE—10.30 E Roberts 6 A Jones KXNSINGTON-10.30 W Thomas 6 D H S.Davies, Cwmparc TRINITY BOAD—10.30, G J Williams, 6 Calvert Jones LISCARD-10.45 J HWilliams,6-15 T Griffith, ColwynBay VITTORIA ST—10.30 Oalvert Jones, 6.16 G J Williams ELZATHFUCLD RD-10.30, Ysgol, 2.30, Henry Jones BALMORAL ROAD-10.30 Cyfarfod Ysgol 6 Cyf Gweddi IIIARLJDSTOWN-IO.80 a 5.30 Cyfarfod Gweddi 'OUTBPORT-ll a 6.30, ASHTON-IN-MAKERHELD—10-30 a 5.80, M Llewelyn, Manceiniom ftEscoT-2.80 a 5.45 Arthur Jones, Bagillt FHATTO HEATH—5.45, Cyfarfod Gweddi 90ltB0RNE—10.80 a 5.30, Y WESLEAID OAlrPlln D-10.30, J Roger Jones 6 T. Isfryn Hughes SPELLOW LANE—10.30 T Isfryn Hughes 6 G Evans BooTLic-10,30 R W Jones 6 J Roger Jones EDGE HILL-10.30 J Lloyd Jones, 6 Efrydydd KIiOWSLBY IELD-10.30 Efrydydd 6 B W Jones MYNYDD SEION-10.30 R W Davies 6 D Tecwyn Evans BIRKENHEAD—10.30 D Tecwyn Evans, 6 Ed Davies WlDSES—10.30 a 6, John Roberts (JARSTON—2.30 Edward Davies 6 B G Thomas BGREMONT—10.45 Ed Davies 6 B W Davies ABHTON-IN-MAKERFIELD—10.30 a 6 R W Jones, Bootle FARLESTOWN—2 Efrydydd 5.30 Mauriee Roberts GOLBORNE—10.30 5.30 Efrydydd SPRING Y?EW—10 30 D Rowlands 6 Hugh Roberts LEIGH—10.80 a 5.45 John Williams ST HILENS- Y BEDYDDWYR EVERTON VILLAGE-IO.30, a 6 D. Powell BARMFIELD RD-Gwener 10.30 a 6 T Davies, Trefach 2.30 Peter Williams. Sul, 10.30 Jubilee Young, Felin Ganol, 2.30 a 6 Thos Davies BALLIOL ROAD-Gwenet, 10.30 a 6 Jubilee Young, :2.15 Thos Michael. Sul 10.30 Thos Davies, 2.15 a 6 Jubilee Young. BOUSHELD ST-10.30, a 6, M. Griffiths WOODLANDS—10.30 a 6, J Davies EDGE LANE—10.30 a 6 H. R. Roberts SXACOMBE—10.45 a 6.15, R. Lloyd PALMERSTON DRIVE—10.30, L. W. Lewis, 6, E.W.Wynne EGLWYS RYDD Y OYMRY CANNING STREET—10.30 W. O. Jones 6E Evans HIGH PARK STREET—10.30 Cyf Gweddi 6 R Thomas BOOTLE—10.80 R Thomas, 6 W 0 Jones BIRKENHEAD—10.80 D Davies 6 R T Roberts DONALDSON STREET—10.30 RT Roberts 6 D Davies YR EGLWYS SEFYDLEDIG DEWI SANT-11 a 6.30, R. D. Hughes ABAPH SANT-10.45 a 6.80, SJones-Parry DEINIOL SANT—11 a 6.30, Griffith Jones WINIFRED SANT-ll a 6.30, J. Hughes
Cymanfa Ganu Bedyddwyr Lerpwl…
Cymanfa Ganu Bedyddwyr Lerpwl ar Cylch. I LGAM G.W.IEE.] I CYNHALIWYD hon nos Fercher, y 12fed cyf., yng nghapel Everton Village, 0 dan arweiniad y cerddor hyfedr a phrofiadol, Mr. J. T. Jones, arweinydd C6r Meibion onwog y Cymric a throdd allan yn rhagorol, er dioddef i raddau od d iwrth yr amgylchiadau adfyd us presennol Wrth yr offeryn yr oedd Miss M. E. Roberts, Bootle, a wnaeth ei gwaith yn fedrus. Llyw- yddwyd gan y Parch. T. Michael, B.A.,B.D. Canwyd y tonau Regent Square, Glanwydden (J. H. Roberts), Llanbeblig, Milwaukee (Dr. Protheroe), Elijah, GwylJa (Dr Lloyd Evans), Hollingside, Arabia (tr. y diwoddar Mr. R. Mills, Rhos), Danville (Dr. Parry), a DwyfQT- he a alau Gymreig wedi ei chynglianeddu gan Dr. J. Lloyd. Williams, Bangor Chant yn A leia.f (Batteshill) ac un arall yn A fwyaf (Crotch); y Metrical Chant brydferth, Y Wlad Well" (Alaw Ddu) a Vesper (ar y terfyn), ynghyda'r Anthemau, Y rhai sydd yn hau mown dagrau (Emlyn Evans) a Co Morhawddgar (Dr. Parry). Dechrouwyd y cyfarfod gan y Parch. J. Vernon Lewis, yr hwn a ddarllenodd ran gyfaddas o'rYsgry thyr, ac a offrymodd Weddi, a chanwyd yr Anthem Genadlaethol gyda gwres. Caed anerchiad rhagorol gan y llywydd. Sylwai fod yr leau yn aros 5m destyn emynau a mawl yr oesoedd. Yr oedd beirdd yr oesoedd yn bwrw eu coron- au i lawr wrth ei draed, Ef. Yn yr omynau, caffai'r holl gynulleidfa gyfle i roi mawl i Dduw, a dylai pob un ganu. Anogai rieni i roi addysg gerddorol i'w plant, fel y delent yn ddefnyddiol gyda'r rhan bwysig hoi o was- anaeth y cysegr. Canwyd pob t6n yn effeithiol, ao amryw yn rhagorol. Canodd yr holl gynulleidfa Regent Square urddasol Smart i ddechreu, ac yr oedd yn rhagorol o ran a-mseriad, sofydlowgrwydd, a bywyd. Tdn ragorol yw Glanwydden Mr. J. H. Roberts, a chanwyd hi mewn ysbryd dymunol. Pwynt da oedd cyflymu'r amser y 1 llinellau ola'r ddau bennill cyntaf ac ar hyd y pennill diweddaf. Yr oedd y Bass yn w alius ary nodyn cyntaf (seithfed y cord) yn y bodwaredd linell, ac felly collwyd effaith dda. Canwyd pennill cyntaf Llanbeblig yn brudd a theimladwy, a'r diweddaf gyda phriod- oldeb ncilltuol, yn gyflymach ac mewn ysbryd gorfoleddus. Datganiad meddylgar oedd hwo, a difrifwch priodol yn y llinellau lie y gofynnid hynny. Canwyd ton swynol Mil- waukee gyda'r teimlad dwfn a weddai i'r omyn hwn. Grllasai'r Tenors wneud gwell dafnydd o'r efolychiad o'r alaw yn y llinell gyntaf. Canwyd yr omyn ar Elijah yn weddi- gar. Yr oedd yn ddatganiad glan a theim- ladwy. Ton brydferth yw Gwylfa, eiddo'r diwecldar annwyi gyfaill Mr. D. Lloyd Evans O,iwadO ai, annwyl p-, a chafwyd canu tlws ami, oddieithr ddarfod i'r Tenors arwain y lleisiau oddiar lWybr tonyddiaeth bur, ar yr ail linell yn y trydydd pennill. Rhoes yr arweinydd froddegaeth dlos i'r emyn hwn. Da oedd gennym gwolod yr hen Arabia mor ragorol, gyda'r amryw iaeth diddorol a fabwysiadodd yr arweiii),dd-y lleisiau beny waidd yn unig yn cymryd. llinell- au cyntaf rhai o'r penillion, a'r Tenor a'r Bass yn dod i mewn yn y llinellau diweddaf. Tdn a mynd ynddi yw Danville. Dr. Parry, ar y Mesur 2.8, er o'r braidd yr adnabyddem y Doctor ynddi. Canwyd hi'n neilltuol o eff- eithiol. Trefnwyd a chynghaneddwyd Dwy- for yn chwaethus. Y mae 'r efelychiad rhwng yr Alaw a'r Bass yn bur effeithiol. Canwyd hi yn rhagorol. Canwyd y Salmdonau yn ardderchog. Y mae hyn yn olfen bwysig bob blwyddyn yn y Cymanfaoeid hyn. Doella r cantorion eu gwaith yn drwyadl, ac ânt drwy'r Chants yn feistrolgar. Yn yr anthem Y rhai sydd yn hau yr oodd y Tenor ychydig yn ansefydlog yn nechreu'r Quasi- Recit, ac fe fethodd y Soprano gymryd i fyny yr esgyniad o Ci A' ar y geiriau a fedant." Torrodd y Soprano hefyd y f awddeg derfynol "Hewn gorfoledd ychydig yn anffodus. Gyda r eithriadau hyn, cafwyd datganiad cyffredinol neilltuol o effeithiol o'r Anthem. Cafwyd datganiad campus o "Mor Hawdd- gar "-y symudiad cyntaf yn brydferth a chwaethus, a'r ehodgan gyda meistrolaeth. Arweinodd Mr. Jones gyda'i ddeheurwydd dirodres arferol. Tynnodd allan y goreu o'r cantorion. Yr oedd y Gymaafa hon yr eilfod arbymtheg o'rgyfresiddo'iharwainyn ddifwlch, yr hyn a sieryd yn hyawdl am syniad ei enwad amdano, a'uhymddiriedaeth ynddo. Yng ngliwrs y blynyddoedd, gosod- odd ei argraff yn ddwfn ar ganiadaoth yr onwad yn y ddinps a'r cyffiniau. Yr oedd lloisiau'r Sopranos eleni yn rhagorol o glir ac unol, a'r Bass yii jerthol. Yr oedd y Tenor yn dda, ond nid mor unol ag y clywyd hwynt. Yr oedd nifer o leitiau cyfoethog ymhlith y Contralto, ond teimlid fed hefyci rai lleisiau unigol i-tad ooddyat o ran eu nodwedd yn cyframu at y cyd-doddiad hapusaf-llaisiau iouainc, fe ddichon. Yr oedd y pedWar llais gyda'i gilydd, modd bynnag, monvii cyflwr da iawn, ac y 1 ateb gyda'r parodrwydd mwyaf i alwadau'r arweinydd galluog. Cafwyd fel hyn Gymanfa ragorol, a hyderwn y bydd hon eto yn symbyliad i ganiadaeth yn y cylch; Dylesid dweyd ddarfod i frawd na cha vsom ei enw ddarllen Psalm 104, ac offryniu Gweddi, ynghanol y cyfarfod arferiad hapus yn y Cymanfaoodd hyi. Haedde'r ysgrifennydd medrus a diwyd, Mr. J. T. Davies, glod am ei wasanaeth gwerthfawr tuagat lwydd y Gymanfa, yr hon e bery yn ei phoblogrwydd.
Heddyw'r Bore I
Heddyw'r Bore I sef bore dydd Mercher. 0 BARED I BARED.O'r paill bared i'r Hall fel pendil cloc, yw agwedd y Llywodraeth at Orfod- aeth Filwrol; ac anawsterau'r Prif Weinidog, i gadw'r Cabinet gyda'i gilydd, yn rhai mawr ac anodd eu goresgyn. Lied annelwig yw'r olwg lieddyw'r bore, er na raid rhot gormod pwys ar a ddywed goheb- yddion clebrog y papurau. Cael eu tAl wrth y golofn y maent hwy, ac nid wrth y gwir, a dyna'r pam fod eu Hithoedd mor hir ac mor dra gwybodus a myflol. tt DEUNYDD COPI DA .Prin fod neb yn y Weinyddiaeth nac allan ohoni sy'n ddeunydd cystal copi i wenci'r wasg a'r cydwladwr hyglod Mr. Lloyd George; amdano ef y rheffir mwyaf o ddrwg a da bob dydd ac wythnos a mawr y dyfalu'r wythnos hon pa beth a ddaw o'i ymlyniad disyfi dros yr hyn a gred ef sy'n angenrhaid milwrol. Hyn sydd sicr,— mai fel y cred y gwna ef, cyfarthed a gyfartho ond mawr hyderir na ddigwydd dim a baro iddo fyndallan o'r Weinyddaieth. Byddai hynny'n drychineb ymherodrol. tt BRAW CORW EN.- Y mae Corwen a'r ardal mewn syndod trist uwchben diflaniad Mr. H. W. Anwyl, prifathro'r Ysgol Gyngor, yr hwn sydd ar goll er bore dydd Sadwrn diweddaf. Ddwy flyneddyn ol claddodd ei briod; ac yn troedio tua'r fynwent y gwelwyd ef olaf, tua'r hanner awr wedi naw. Y mae tua'r hanner cant oed; yn ddiacon gyda'r Annibyn- wyr; yn frawd y diweddar Syr Edward Anwyl, a'r Parch. Bodfan Anwyl, Pont y pridd. Mawr y chwilio sydd amdano ymhob cilfach, ond heb siw ohono hyd yr adeg yr ydym yn ysgrifennu. tt RHTW DDA TMHOB DRWG.-Dywedodd Dr. Frank Jones, arolygydd meddygol Gwallgofdy Dinbych, bethau go darawiadol yng nghyfarfod blyn- yddol yr ymwelwyr a'r sefydliad hwnnw ddydd Mawrth yr wythnos hon, sef yn un peth Fod amryw o'r gwallgofiaid wedi gwella a dod atynt eu hunain ar ol bod yn neuaddau'r lluniau byw—y cinemas, er yn gwrthod yn lan a mynd i ddawns na chyngerdd. Bu tipyn o drafod ar osodiad y meddyg; a'r farn ydoedd y dylid gwneuthur mwy a mwy o ddeunydd o'r gramoffon a'r cinema fel moddion i ddiddanu'r meddwl, i leddfu'r nerfau ysig, ac i gael cynghanedd yr iechyd a mantol y meddwl yn ol at ei gilydd fel cynt. Ac ebe'r Dr. Jones ymhellach :— Nid yw'r awdurdodau meddygol ddim yn unfarn eto ar y pwnc hwnnw, sef prun ai achos gwallgof- rwydd yw meddwdod ynteu'i effaith. tt GLEWDDYN CAERNARFON.-Daetli y Royal Engineers sydd a'u pencadjys yng Nghaernarfon yn rhengoedd i'r Maes ddydd Llun diweddaf, pryd y cyflwynid bathodyn hyglod y D.C.M. i'r Quarter- Master Sergeant Edward Williams, mab Mr. Griffith Williams, y Llythyrdy, sef am ei ddewrder a'i ddeheu- rwydd yn Gallipo'i. Cyrnol Cregan a'i cyflwynodd, ac yr oedd yn dda gan ei gydnabod 6weld un arall o hogiau'r dref yn dwyn clod iddi hi a'i deulu.
Advertising
OFFIOK TRAINING CLASSES. SPECIAL Rapid Course for those who desire to become Shorthand Typists in one session. NO TIME WASTED BY OUR METHODS SPECIAL DAY & EVENING CLASSES. Send for prospectus before arranging winter study. REOO SCHOOL, 21 HarringKft St. (off Gastle-St). 0 Phone 8666 Bank, GYMANFA Y BEDYDDWYR. Pregethir yn PaSmerston Drive, Litheriand, Nos Iau, Gwener y Groglith, Nos Sadwrn, a Sul y Pasg (nos Iau anos Sadwrn am 7, Gwener a'r Sul 10.88, 2 a 6) Gweinyddir gan y Parch. J. L. JONES, PANT T CELYN, BRYCHEJNIOG, alr Parch. W. H. OWEN CAP BUWCO), RHOSNEIGR, MON. Capel y Wesleaid, Plimsoll Street, EDGE LANE. CYNHELIR Cylch wyl y Capel uchod, Nos Sadwrn ar Sul, Ebrill 29 a'r 30, 1911.. G wasanaethir gan y Parchn. J. Roger Jones, B.A. a D. Tecwyn Evans, B.A. Trefn y Moddion Nos Sadwrn am 7, a'r Sul am 6 ar y gloch, Parch. TECWYN EVANS, B.A. Bore SuI am 10-30, Paroh. J. ROGER JONES, B.A. Gwneir Casgliad ymhob Oedfa. Eglwys y Bedyddwyr, Everton Village. 1 Nos SADWRN a'r SUL, EBRILL Cynhelir Cyfarfod Pregethu BLYNYDDOL yn yr Eglwys uchod. o Pregethir nos Sadwrn am 7, gan Proff. J. T. Evans, M.A.,B.D. Y Sabboth, am 10-30 Parch. David Adams, B.A. Am 2-15 (yn Saesneg)- Proff J. T EVANS, M ARD Am6- Proff. J. T. Evans, M.A.,B.D. Eisteddfod Gwyddelwern, MEHEFIN 8fed, 1910. Rhaglen odidog-Pris Ceiniog1 rsg.-R. IDRIS WILLIAMS, THOS. GRIFFITHS, Gwyddelwern, Corwen- Gydnabod Gydymdolmlad. Dymuna'r Parch. E. J. EVANS 4 Highfield Road, Walton, a'r teulu, gydnabod gyda diolch y llu c lythyrau a dderbyniasant oddiwrth gyfeillion a chydnabod yn datgan cydymdeimlad a hwynt yn eu galar. YOUR. HEALTH requires the greatest possibl. care in these days of strain and tention. The best doctor you can possibly have is cyete exercise. We have over 100 cycles in stock at all prfces from 10s. Od. to S13 15s. Od. Why not try oar Doctor ? Call, write or 'phone 2582 Royal, and we will tell you how you can improve your health by cycle exereisc Rudge-Whltwosth. Ltd., Bold St., Liverpool Furniture Bought outright for Cash, distance no object. Salet by auction on owners' premises. GREETHAM & SON (Est. 1848). Auctioneers, Valuers, 27 Newington, Liverpool j, also 18 Rydal Bank and 106 Liscard Roa4 Liscard. Tel. 646 RoyaL Balls' Wedding Rings. Guinea Gold Wedding Rings from 7/6 ttc 60/ Half dozen Best Electro-plated Spoone given to each purchaser of a Ring. BALL'S LUCKY WEDDING RING DEPOT, 33ILONDON ROAD, LIVERPOOL Finger Size Card post free. Close on Wednesdays at 1 o'clock. TO TAILORS. GOOD COAT MAKERS at once. Constant employment. Apply J. Hughes, 20 Oxten Road, Birkenhead. TELERAU AM HYSBYSIADAU. Man Hysbysiadau, megis Morynion yn eisiau, etc., Genedigaethau, Priodasau, Marwolaethau 14 o eiriau, un tro, la. 3d., a 6d. am bob tro. ychwanegol 21 eto eto Is. &2.,a 6d. eto 28 eto eto Is. 9d., a 9d. efco 35 eto etc 2s. 3d., a lB. eto Rhaid anfon blaendal gyda'r aroheb. Am delerau hysbysu Cyfarfodydd, Eis teddfodau, etc., a Trade Advertisement ymofyner a Hugh Evans a'i Feibion, Swydd ? a'r BRYTHON, Liverpool. Printed and Published by the Pro- prietors, Hugo Evans and Sons, 356..8 Stanley l(oad,Llverpool. in the County of Lancaster. Tel 89* Bootle,
DAU TUPR AFON.
Parhad o tudal. 5 I Roberts, ei hathrawes, a'r dosbarth, ac hefyd lyfr I Jackie gan ei athrawes, Miss Gwen Davies. Cafwyd gair gan Mr. E. J. Jenkins a Mr. W. Philip Davies. Mawr fwynhawyd unawdau gan Miss Phyllis Davies. ac unawdau ac adroddiad gan Mr. Philip Davies, Cyfeiliwyd gan Miss Phyllis Davies a Mrs. D. W. Davies. Yr ydym yn ddyledus iawn i'r rhai a fu mor ffyddlon gyda'r cyfarfodydd hyn, yn enwedig Miss Nellie Roberts a Mr. Leonard Jones, ac yr oedd y cyfarfod diddorol a gawsom yn tystio i'w hymroddiad gyda'r gwaith.-Un oedd yno. MARW YN CANTERBURY.—Dyna ddaeth i ran y brawd hoff, Mr. John Lankshear, mab hynaf Mr. a Mrs. Lankshear, Denton Grove, aelodau ffyddlon yn eglwys M.C. Newsham Park. Dair wythnos yn ol, ymunodd a'r 5th King's Liverpool, ac anfonwyd ef gyda Ilu eraill i Canterbury i fynd drwy'r cwrs angen- rheidiol; ond goddiweddwyd ef yn sydyn gan boenau arteithiol, ac fe'i dygwyd i'r ysbyty ond er yr holl allu meddygol a thynerwch y rhai oedd yn gweini amo, ehedodd ei ysbryd ymaith, ac efe'n ymddiddan a'i chwaer, Miss Lankshear, oedd wedi cyrraedd erchwyn ei wely ychydig oriau cyn ei farw. Loes lem yw hon i'r teulu, sydd hefyd yn bryderus am eu mab ieuengaf (a'r unig fab erbyn hyn) sydd yn ffosydd Ffrainc. Claddwyd ddydd Mawrth, y i8fed, ym mynwent Everton, ynghanol amlygiadau o gydym- deimlad dwys, a gosgordd o filwyr y Royal Welsb Fusiliers, dan ofal Serg t. R. J. Hughes, yn cyd- gerdded o bobtu i'r cerbydau. Y Parch. R. Aethwy Jones, M.A., yn gwasanaethu, a'r trefniadau yng ngofal Mr. J. T. Jones. Cynhaliwyd Cyfarfod Cenhadol Cymreig yn y Tabemacl, Belmont Road, nos Lun ddiweddaf,—un o gyfres yr Wyl Genhadol flynyddol perthynol i eglwysi Annibynnol Cymreig a Seisnig y cylch. Cymerwyd y gadair gan Mr. Robert Davies, Park Road, un o henafgwyr parchusaf y cylch, a rhoddodd anerchiad priodol ar y dechreu. Siaradwyd gan Miss Myfanwy Wood, China, a'r Parch. Wm. Evans, Madagasgar. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod gan amryw o'r gweinidogion Ileol. Cofir yn hir am anerchiadau y Cenhadon, a gwnant les mawr yn ddiau i bawb a gafodd y fraint o'u clywed. Byddwch yn ofalus o'ch Ilygaid, yn anad dim a goddJwch inni gyfeirio eich sylw at hysbysiad Mri. Archer a'i Feibion ar tudal l-gvryr sydd mor hysbys yn Lerpwl a'r amgylchoedd am eu cyfar- wyddineb a phopeth perthynol i'r llygad a'r golygon, ac sydd mor barod a chymwys i gyfarwyddo pawb a el atynt gyda golwg ar arbed y golygon a chad yr iawn wydrau ac yn y blaen. j BLODEUYN YN CAEI. EI DORRI I LAWR YN ¡ GYNNAR.—Cyfeirio'r ydym at farwolaeth Thomas John, annwyl blentyn Mr. a Mrs. Wm. Williams, 148 Garmoyle Road. Dioddefodd gystudd blin, ond byr, ac er pob gofal meddygol, gwywodd Ebrill iofed, a chymerodd yr Arglwydd ef gartref, ac efe newydd gyrraedd ei ddwyflwydd oed. Claddwyd ym myn- went Allerton Ebrill 14, pry d y gwasanaethwyd gan y Parch. H. H. Hughes, B.A.,B.D. Chwith meddwl na chawn weled ei wyneb annwyl a'i wen siriol mwy- ach, pan yn ein cyfarfod wrth y drws. Nawdd y Nef i'r teulu yn eu galar a'u hiraeth.-E.L.R. CROESO WOODCHURCH ROAD.-Trwy garedig- rwydd Mr. a Mrs. R. E. Hughes, Crofton," gwa- hoddwyd aelodau'r eglwys, a nifer o filwyr clwyfedig o ysbytai'r dref, i Coffee Supper, Ebrill 13, yn ddar- pariaeth helaeth o bob math ar ddanteithion; yn ychwanegol at hyn, yr oedd yna raglen ragorol o ganu ac adrodd. Agorwyd gyda chan, Mountain Stream, gan Miss M. E. Davies, Clwyd House. Deuawd ar y berdoneg, Misses Dorothy Hughes a Joan Davies. Can, Until, Sergt. Perrin. Can, There's a land, Miss Maggie Jones (Megan Bedw), yn neilltuol o dda. Yna cafwyd amryw ddamau doniol iawn gan Arvon Hope, Lerpwl. CAn, The Gift, Miss Davies; adroddiad, Torri Amod Priodas, y Preifat Jones, a gorfu iddo ail adrodd. Detholiad ar y berdoneg, Mrs. Griffiths Aberystwyth. Adroddiad dynwaredol, Private Rog- ers cafodd hwyl anarferol. Adroddiad, Somebody's Mother, Miss Enid Humphreys. Canu penillion, Mr. W. R. Holland, a Miss Freda Holland, gyda'r delyn. CAn, Private Rogers. Detholiad ar y delyn, Miss Freda Holland. Can, Angus Macdonald, Miss Will- iams. Anerchiad y Parch. W. O. Jones, yn croes- awu'r milwyr. Gair gan Preifat Rogers, yn diolch dros y milwyr am y wledd a'r cyngerdd campus. Terfynwyd y rhan yma o'r cyfarfod gan Miss Maggie Jones, trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau, Auld Lang Syne, a God Save the King,-pawb yn uno yn y cyd- gan. Agorwyd yr ail ran gan Arvon Hope, yn ei hwyliau goreu. Can, Goleuni yn yr hwyr, Miss M. E. Davies. Deuawd, Gwys i'r gad, Mri. Foulkes a Humphrey Roberts. Adroddiad, Y Gtvlithyn, Miss Rowlands, Heathley." Detholiad ar y delyn, Miss Freda Holland. Cin, Liam y Cariadau, Miss Will- iams. Canu penillion gyda'r delyn, Miss Lizzie Jones. Can. Gwlady Delyn, Mr. T. A. Edwards. Can, B chgyn Cymru, Mr. Humphrey Roberts yn cael ei ailalw, ac yn canu Till the boys come home. Can, Cartref, Miss Williams. CAn, rr Ornest, Mr. H. Roberts. Diolchodd y Parch. W. O. Jones a Mr. Thos. Davies i Mr. a Mrs. Hughes am y wledd, ac i bawb gymrodd ran. Can, Tr Hen Simdde Fawr, Mr. Humphrey Roberts, gydag arddeliad neilltuol, Cyfeiliwyd ar hyd y cyfarfod, yn eifeithiol iawn, gan Mrs. Eames., Arweiniwyd y cyfarfod yn ddeheig gan Mr. Ifan Tomos. Casglwyd £ /3 /6- at gysuron i fechgyn yr eglwys yn y Fyddin a'r Llynges. Terfynwyd cyfarfod gwir dda gan Mr. Humphrey Roberts, trwy ganu Hen Wlad fy Nbadau.-T.,I.E. EGLWYs M.C. WATERLOO.-Nos Saboth ddi- weddaf, cynhaliwyd oedfa o Fawl. Daeth cynhulliad lluosog yno, a chanwyd y rhan fwyaf o'r tonau, yng nghyda'r ddwy anthem o lyfr y Gymanfa Ganu ddi- weddaf. Llywyddwyd gan y Parch. Wm. Henry, arweinydd y canu ydoedd Mr. William Parry; caf- wyd datganiad rhagorol o When I survey the wondrous Cross gan Miss Dora Rowlands, B.A. Yr organydd oedd Miss Vera Henry, a gwnaeth ei rhan er boddhad cyffredinol. Cyfarfod dymunol a bendithiol iawn, a barn amryw ydoedd mai dymunol fyddai cael oedfa o'r fath yn amlach nag unwaith mewn blwyddyn.