Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Ffetan y Gol.

VSIAFELL Y BEIRDD

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

VSIAFELL Y BEIRDD sjahyrobion gogyler &'r golofn hon i'w Oyf-I Hno': PEDROG, 217 Prescot Road, Liverpool I Oorn y Gad. -Mae nifer y sillafau a'r odl yn gywir, ond nid oes gennych linell o gyng- hanedd o gwbl. Y Dyn Cydwybodol.—Et yn credu, ar sail profion pur gryfion, fod rhai'n ceisio dianc rhag ymrestriad milwrol trwy Iwfrdra di- gydwybod, yr wyf yn credu hefyd fod llawer yn gwrthwynebu'n hollol gywir a gonest, ac mai nid eu diystyru na'u diirmygu a ddylid. Mae'r gan hon yn ddigon awenyddol, ond yn rhy ysgubol, hyd yn oed mewn cerdd. Gellid meddwl oddiwrth y gerdd hon nad oes y fath beth a chydwybod yn bod o gwbl, neu, os oes, nad yw o ddim pwys. Yr Ogof. -Un dywyll iawn, ac yn ofer y chwilir am un drychfeddwl goleu ynddi. Heblaw hynny, mae'r iaith a'r fydryddiaeth yn wallus iawn. CYMERADWY. Y Caiser, David Emrys. NEWID AMSER I ER a/m horiawr ymyrryd,-iienvici awr Fu mewn dydd o'm mebi,d,- Anian ni newid ennyd, A'r hen haul sy'r un o hyd.-PEDROG. DAVID EMRYS. I Cyflwynedig i Mr. a Mrs. H. Ariander Hughes, London City & Midland Bank, Llanberis, ar ol dywed am Iwyddiant eu bachgen, David Emrys, yn ennill y wobr flaenaf mewn arholiad ynglyn a Chymanfa Ysgolion. Mi glywais ym Meirionydd Am lwydd eich Emrys lan I'r prydydd a'i bedyddiodd, Mae hyn yn destyn can. Mi wela'i fod yn tyfu Mewn rhin a phob mawrhad, A buan caf ei weled Yn dalach dyn na'i dad. Pan y bedyddiwyd Emrys Yn Seion gyda'r saint, Myfi, ac nid y bachgen, Pryd hwnnw gafodd fraint Dywedwch wrtho 'fory,— Cyn hanner dydd ryW dro— Fod prydydd ym Meirionydd Yn falch ohono fo. Mi wyddwn gynt yn eithaf Na chaffai'r llanc ddim cam, Ni fagodd Sir Feirionydd Hawddgarach gwraig na'i fam Mae traddodiad au'r teulu O'r ddeutu'n loew'u gwawr, Yn hudo Emrys heddyw, 'Rwy'n siwr, i fynd yn fawr. 'Rwy'n cofio Gellid ara, A'i fwynder teg ei liw, 'Rwy'n cofio'n well na hynny Yr hedd fu 'nghartre'r Rhiw Hawddamor heddyw i Emrvs, Sy'n tyfu o gyff mor lân,- Os gwelaf flwyddyn arall, Mi wnaf ryglyddach can. Blaenau Ffestiniog R, R. MORRIS PLE MAE'R DELYN ? (Atebiad i gyfaill). I MAE nhelyn eto yn ei bri, Erllid corwyntoedd byd, A mynnaf rygnu'm bysedd llesg Ar d annau hon o hyd. Mae'r niwl o'm cylch fel hugan ddu, A'r storm yn ennill tir A'm henaid innau'n crynnu braidd, A 'nghalon dan ei chur. Mae telvn beraidd llawer ffrynd Yn ddarnau yn y glyn, A chaddug nos yn gwrlid ddaw Dros lawer bywyd gwyn. Ond canu wnaf, er gwaetha'r storm, A'rllvv,vdrewarfyngrudd, r Mewn hiraeth dwys am weled gwawr Yn ernes Cymru Fydd." Y Bontnewydd CPL. RHYS JONES. Y MILWR. I UN yn dwr bro hen ei dad,-a goreu Wladgarwr ei henwlad, Yw'r milwr, -rnab un bwriad Ar ei Iw i gadw'r wlad. A gwr yw sydd hygar ei wedd,—heddyw P Caiff haeddiant pa ryfedd ? Dod 'nol i'w hen orfoledd A fyn gwlad, trwy fin ei gledd. 26 Orlando St., Bootle JOHN HUGHES HWYRDDYDD GWANWYN SEFYLL 'rwyf dan wrid y nen, Yng ngogoniant hwyrddydd Gwanw^n Ac yn edrych ar y don, Wrthi'n golchi'r tywod melyn; Mae y creigiau o fy nghylch, Yn mynegi cyfrinachau Ac yn aros yn ddisyfl I wrthsefyll grym y tonnau. Hedfan mae y wylan wen, Dan fwyn suo'i hwyrddydd gaiol, Ac yn chwilio am ei nyth Yng nghilfachau Ynys Seiriol Mae y cefnfor o fy mlaen, Am filltiroedd yn ymledu Ac addurnir brig y don Gan belydrau y goleudy. Rhoi ei mantell mae y nos Yn ddirodres dros y cread Yn nistawrwydd dwfn y gwyll Mae gogoniant Duw yn siarad Swn diddarfod. ton yn awr Sua'r wylan fach i gysgu Pan mae popeth yn ei hiin, Cariad Duw gaiff ei amlygu. Daw y ser, o un i un, Hyd y wybren i oleuo, Megis angel glan y nef, Gyda lampau yn eu dwylo. Hwyrddydd gwanwyn, gweld yr wyf, Mewn prydferthwch sydd yn amlwg, Fod fy Nuw sydd yn y nef Yn fy nghofio, er o'm golwg. Talw?-n, Mon PERCY HUGHES Y GW ANWYN WANWYN tlws, o fedd y gaeaf, Y cyfodi di yn hardd, Swn dy droed sy'n deffro'r blodau Yn y maes ac yn yr ardd Gwisgo'r dolydd gyda meillion, Lie chwaraea'r oenig lion Llethrau'r bryniau a'r dyffrynnoedd, r A adfywiant oil o'r bron. Mae y dderwen fawr, henafol, Wedi clywed swn dy droed, Mewn gorfoledd yn ymdrwsio Fel genethig ddeunaw oed Cor y wig a pher alawon Heddyw yn ymlonni sydd, A daw'r hedydd mwyn i ganu Melys don wrth borth y dydd. Yr amaethwr diwyd, yntau, r Sydd yn prysur hau yr had Wedi'r hau ei holl obeithion, Caiff ei fedi mewn mwynhad Daw y wennol ar chwim ad en, Daw y gwcw las ei lliw Grug y mynydd, dol a gwaenydd, Oil sy'n dweyd mai Gwanwyn yw. ELERCH. MERCH Y MYNYDD I (Gwenith Gwyn). MORWYNIG lan ar lethrau'r bryn Sydd gyda'r wyn a'r defaid, Yng nghanol brwyn a blodau grug Yn seinio'i nodau tanbaid A dyma'r ferch a garaf fi, A byddaf iddi'n ufudd A thra bydd haul yn llywio'r dydd, Fy merch fydd Merch y Mynydd. Mae gan yr adar bach eu rhod, Ar wanwyn blwyddyn neVirydd Ac anian wyn, a'r defaid man, Yw pori ar y mynydd Mae gennyf innau yn fy serch Rhyw lannerch mwy na'i gilydd, A'r lawnaf oil ar hyn o bryd Yw llannerch Merch y Mynydd. .v nv d d. Fe gan y gog ar ben rhyw gainc, A hon yw mainc ei llwyfan Ar ddau o nodau by chain del Bodlona hon ei hunan 'Rwyf innau fel y gog yn lion, Yn cael fy arwain beunydd, I'r mynydd draw, gan gwyn fy serch, I gwmni Merch y Mynydd. P" Bydd blodau man a'u llygaid lion, A'r tir yn llawn briallu, A'r meillion hardd orchuddia'r ddol, Yn swynol erbyn hynny A chlychau Eglwys fach y Llan Yn datgan eu llawenydd,— Pan rwymir dau, mewn cwlwm serch Y fi a Merch y Mynydd. I Bangor J. 0. ROBERTS

Advertising