Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Cyboeddwyr y Cymod I

Advertising

Family Notices

Advertising

Clep y Clawdd I

Advertising

Corea Gympo, yr an Oddieactre…

Advertising

DAU -AFON.-

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

JParhad o tudal. 5 BOUSFIELD STREET.—Mai 10, cynhaliwyd cyng- erdd a Social yng nghapel y Bedyddwyr, y Parch. Myles Griffiths yn y gadair. Cynhulliad cryno, a chanodd Miss Clara Collier (soprano), Miss Cissie Jones (contralto), Mr. Griff Owen (tenor) ac Arvon Hope (humorist). Ar ol y cyngerdd, yr oedd te wedi ei baratoi yn yr ysgoldy, yr hwn a fwynhawyd yn fawr. Yr oedd y ffordd gartrefoI a chroesawgar oedd gan yr ho 11 gyfeillion yn y rhan yma y fath fel mai'r farn gyffredinol gan rai presennol o enwadau eraill oedd ei fod yn batrwtn i rai o eglwysi Cymreig y ddinas. Mai i Sfed, ar ol wythnos o gystudd caled, bu farw Mrs. Williams, annwyl briod Mr. R. T. Williams, 17 Cranbourne Avenue, Birkenhead, yn 38 oed. Ail ferch ydoedd i Mr. a Mrs. Hugh Pugh, 3 Islwyn Terrace, Dolgellau. Collodd fachgen deuddeg oed ddwy flynedd yn ol, a hiraethodd lawer amdano. Claddwyd ddydd Mercher yn Fiuybrick Hill, yng ngwydd torf barchus,a ffaith brudd oedd fod ei bach- gen bach tri mis oed yn cael ei fedyddio yr un pryn- hawn. Gwasanaethwyd gan y Parch. T. J. Row- lands, M.A., B.D. Cydymdeimlir yn fawr a'i phriod a'i phum plentyn, a dymuna Mr. Williams ddiolch am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd i'r teulu. Yr oedd yn sibrwd yr emyn Trwy ddirge1 ffyrdd mae'r uchei lor yn dwyn Ei waith i ben pan yn croesi y glyn, a chanwyd yr emyn yn eSeithiol yn Laird Street nos Saboth er cof amdani. Dymunir i'r Drych gofnodi'r uchod.-R.j.G TXIIL GWALIA, EDGE LANE.—Nos Fawrth ddi- weddaf, gorseddwyd y swyddogion newydd gan y Dirprwywr H. Davies. Hefyd darllenwyd cylchlythyr oddiwrth yr Uwch Brif Demlydd, gan y Br. John Owen. Dywedai fod gobaith y bydd j'r hen Demlau gael eu hail-sefydlu erbyn y gaeaf. Cafwyd gair er lies yr Urdd gan y Br. Henry Davies, a chanodd y- Br. G. Davies y gan swynol Llythyr fy Mam. Llyw. yddwyd gan y Prif Demlydd Br. John Williams Cyfeiliwyd gan y Chwaer M. Davies.-Cymraes, COLLEDION PEEL ROAD.-Mae'r eglwys yn Peel Road wedi cael colledion trymion yn ystod yr wyth- nosau diweddaf. Tua diwedd Ebrill, cyrhaeddodd gair fod y Preifat Edward Hughes wedi marw o'i glwyfau yn Ffrainc. Gwr ieuanc hoffus a charedig iawn ydoedd Ted, a theimla'r rhai a'i hadwaenai oreu i'r byw wrth feddwl am i fywyd ieuanc mor obeithiol fynd yn aberth i'r gelyn. Yr oedd ei lythyrau o'r j ffrynt yn rhai diddorol a tharawiadol iawn. Brodor o dueddau Abergele ydoedd, ac y mae yma gydym- deimlad dwfn a'i rieni a'i berthynasau ereill. Loes drom gafodd Mr. a Mrs. Barma, Rossini Street' hefyd, sef colli plentyn ieuanc annwyl iawn er yn ieuanc, anodd oedd Jgollwng gafael ohono a'i heb- rwng i Longmoor Lane. Ymhen yr wythnos, cleddid Tommy Williams, ail fab Mr. a Mrs. Edward Williams, Gondover Avenue (Prior Street gynt). Morwr oedd Tommy, ac wedi IIwyddo yn ei alwedigaeth nes dod yn swyddog cyfrifol a gwerthfawr. Bu am dymor yn California, a thra yno bu yn selog a gweithgar yn yr Ysgol Sul a chyda'r achos Cymraeg yn Seattle, a Chymro iawn ydoedd er ei eni a'i fagu yn Bootle. Trodd yn ol i'r mor, ond cafodd annwyd a ddat- blygodd yn ddarfodedigaeth yn y gwddf, a bu farw yn 28 oed. Anodd sylweddoli fod un mor iach a chydnerth, mor 11awn o ynni, ac yn fywyd pob cwmni y byddai ynddo, yn gorwedd mor dawel heddyw. Cydymdeimlir yn fawr a'i rieni, ei fam yn wael ers blynyddoedd, a'r ergyd yn un drom iawn. Claddwyd ym mynwent newydd Bootle, Ebrill 29. Ymhlith y dorf luosog yr oedd Mrs. Barma (hynaf), nain y plentyn bach y soniwyd amdano eisoes. Yr oedd yn iach a hoew y pryd hwnnw; yroeddynycapel dran- noeth; ond nos Fercher, tarawyd hi gan egryd o'r parlys, bu farw drannoeth, a chleddid hithau ymhen yr wythnos yn Longmoor Lane. Credwn mai o Gaer- aarfon y daeth yma, ac ni bu neb yn ffyddlonach i'r moddion na hi. Cydymdeimlir yn ddwys a'i phriod a'imaba'ideuluyneuprofedigaethchwerw. Gwein- yddwyd yn y claddedigaethau hyn gan y Parch R. W. Roberts, B.A.,B.D., a chynorthwyid ef yn y. diweddaf gan Pedr Hir, o gorlan yr hwn y mae Mr. Barma yn aelod ffyddlawn. Traddododd Mr. Roberts bregeth angladd i'r tri wythnos i'r Saboth diweddaf. Yr wythnos ddilynol bu farw Mrs. Hughes, Elm Drive, ymhen y flwyddyn i'r diwrnod y cleddid ei gwr, Mr. John Hughes, a fu'n flaenor am flynyddoedd yn Peel Road. Yr oedd ei horiau olaf yn rhai nad anghofir byth, ar gyfrif y gorfoledd a'r hyder a'i meddiannai. Cymeriad distaw ond cryf ydoedd, ac heblaw bod yn ffyddlon gyda'r Achos, gwnaeth lawer o ddaioni mewn ffordd ddistaw. Yr oedd yr aelod hynaf o'r eglwys, yn cofio ac yn bres- ennol pan ddechreuwyd Ysgol Sul yn Rhyl Street. Treuliwyd y Seiat nos Iau i goffhau amdani, ac yn enghraifft o rai pethau a ddywedwyd adroddid yr hyn a ganlyn gan frawd a'i hadwaenai ers 36 o flyn- yddoedd Miss Jones oedd yr adeg honno, a chadwai dy i'w thad oedd yn weddw. Rhyw ddiwrnod. dyma ddau lencyn o Gymru at y.drws i edrych am lety. Oedd, yr oedd yno le, ond er mai merch ieuanc wylaidd a distaw ydoedd, yr oedd ganddi amodau. A oeddynt ill dau yn ddirwestwyr ? Nac oeddynt. Felly, nid oedd llety i'w gael; ac wedi mynd oddiyno a bod am awr yn edrych am le arall, daeth y ddau yn ol, arwyddwyd dirwest, a derbyniwyd hwy i mewn. Un o'r ddau ydoedd Mr. John Hughes, a ddseth yn briod iddi. Claddwyd yn Longmoor Lane gwein- yddwyd yn Y tý gan y Parch. R. W. Roberts, B.A. B.D., ac yn y fynwent ganddo ef a'r Parch. E. J. Evans, Walton. Trefniadau'r angladd yng ngofal Mr. P. Lloyd Jones. Swm ystad y 4iweddar Mr. Owen Jones, plumber, Park Road East, Birkenhead, oedd £ 3,754. AT Y MopnR AMBULANCE.- Coron (5 H wedi cyrraedd oddiwrth J. R. Will- iams, milwr sydd yngbanol y rhyfel ar y Cyfandir, er cof am ei gyfaill Charlie Stockley.