Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Cyboeddwyr y Cymod I

Advertising

Family Notices

Advertising

Clep y Clawdd I

Advertising

Corea Gympo, yr an Oddieactre…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Corea Gympo, yr an Oddieactre W ARRlNGTON.Cynha.liwyd Cyfarfod Dir- westol yn Crosfield Street nos Lun, Mai 15, dan nawdd Cymdeithas Ddirwestol y Chwior- ydd. Llywyddwyd gan Mrs. R. Parry Jones, gan yr hon hefyd y cafwyd papur gwir ddiddorol yn ymdrin a gwahanol agweddau dirwest, ac yn annog pob ymdrech o'i blaid. Siaradwyd ymhellach gan Mrs. Griffiths, Mrs. W. T. Williams, Mrs. E. E. Hughes, Mr. R. Roberts a'r gweinidog. Canwyd geiriau addas ahynod swynol gan Mrs. W. T. Williams a Miss Nellie Thomas. Yn fisol y cynhelir y cyfarfodydd hyn, a disgwylir cryn ffrwyth oddiwrthynt. ST. HELENS JUNCTION: Cyfarfod Dwbl.- Dyna a gynhaliwyd. yn addoldy M.C. y lie uchod nos Sadwrn ddiweddaf. Y cyntaf yn gyfarfod y Genhadaeth Dramor: un o'r gyfres cyfarfodydd a, d refnwycl yn Lerpwl a'r cylch. Llywyddwyd hwn gan Mr. Hughes, Chatham Street. Traddodwyd anerchiad diddorol ar waith yn y meysydd cenhadol yn. Cassia gan y Parch. E. M. Rees, y cenhadwr Cafodd wrandawiad astud., a hyderir yr I enillodd garedigion adnewyddol yn eu sel dros gynorthwyo'r gwaith cenhadol yn India bell. i Yr ail gyfarfod a ddilynodd ar sodlau'r uchod, o dan lywyddiaeth y Parch. J. Peron Jones, o natur ychydig yn wahanol. Cyng- erdd a chyfarfod anrhegu ydoedd hwn. Y prif atyniad oedd cyflwyno lluniau cywir a ffram- edig i Mr. David a Mrs. Catherine Jones, 114 Pecker's Hill Road, St. Helens Junction, i gofio am eu priodas aur, a ddathlwyd ych- ydig amser yn ol. Cyflwynwyd darlun y ,rlgig i'r gwr, a darlun y gwr i'r wraig, yn ddeheig a doniol, gan Mr. Thomas Roberts, Ingleside, Huyton, ar ran y tanysgrifwyr,■—■ efe'n gyn-flaenor yn eglwys St. Helens. Yn ychwanegol, cyflw-ynwyd pwrs yn cynnwys nod au arian i Mr. David Jones, ar ran eglwys a chynulleidfa St. Helens Junction, fel arwydd o'n hedmygedd a'n parch yn cyflawni swydd trysorydd yr eglwys am ugain mlynedd. I Gwnaed hyn ar ran y tanysgrifwyr gan y Parch. J. Peron Jones, gan ddatgan y teim- laclaii a'r dymuniadau da sydd ym mynwes Ilu ar eu rhan. Cantorion y cyfarfod oedd Mri. Willie Hughes a Robert Griffiths, Miss M. Lizzie Jones a Mrs. Penrhyn Hughes adroddwyr,MissMargt. Jane Jones aMr. T. J. j Williams; pianyddion, Miss Davies, A.R.C.M. a Mrs. Wilson, yn chwarae eu bysedd medrus ar berdoneg benthyg gan Mrs. Trevor Jones cynygwyr a chefnogwyr y diolchiadau Mri. Peter Griffiths a Rd. Jones ysgrifenyddion a thrysoryddion y ddwy gronfa anrhegu Mri. Edwin Edwards, Wm. Hughes, John Edwards, a Thomas Hughes. Boddhawyd pawb. YSGOL SABOTHOL ST. HELENS JUNCTION.-—'Er fod tua deugain o ddynion ieuainc y Ile wedi ymadael i wisgo khaki y brenin, llawen gennym am safle anrhydeddus yr ysgol hon eleni yn arholiadau'r Undeb Ysgolion. Daeth wyth o wobrwyon yma. Y gyntaf a'r ail wobryn arholiad Ysgrythyrol y GWjrrthiau i'r un dosbarth ymysg y plant. Tra bo llafur ynglyn a gwaith yr Ysgol Sul, credwn y deil ei thir yn ein gwlad. ASHTON-IN-MAKERFIELD Marw.-Dycld Mercher, yr 17eg cyfisol, wedi cystudd byr, bu farw'r hen frawd hoffus Thomas Hughes, 453 Bryn Road, yn ei 72ain flwyddyn. Yr oedd yn una fawr hoffid gan bawb, yn adna- byddus i gylch eang yn yr ardaloedd hyn, oherwydd ei fod ar hyd ei oes yn teimlo cryn ddiddordeb mewn canu. Canodd lawer gyda. chdr perthynol i lofa y Garswood Hall, a ch6r Cymreig eglwys M.C. Carmel, pan oedd yn ei fri flynyddoedd yn ol. Difyr oedd gwrando arno yn myned drwy hanes gornest y CSr enwog hwnnw. Caffai caniadaeth y cysegr sylw arbennig ganddo. Byddai yn ei afiaith pan fyddai mynd ar y canu, a chanodd lawer ar ei wely cystudd. Er wedi cyrraedd yr addewid, yr oedd ei ysbryd yn parhau yn ei ieuengrwydd, apharyfedd, pangofiwnyrhwyl a gaffai ar ganu emynau am ei Waredwr? Yroedd yn aelod ffyddlon o eglwys Carmel, a phob amser yn barod i wneud a allai gyda'r Achos Mawr. Daeth tyrfa luosog i'w heb- rwng i'w orffwysfan ym mynwent Ashton, brynhawn dydd Llun, yr 22ain, pryd y gwas- anaethai ei weinidog, Mr. Enoch Rogers, yny capel ac ar lan y bedd. "Heddwch i'w lwch," oblegid "Coffadwriaeth y cyflawn sydd fendiedig." Mae cydytadeimlad Cym- ry'r cylch a'r plant sydd mewn hiraeth dwys, ac a'r teulu oil. Anfonwyd blodeudyrch heirdd gan Mr. a Mrs. Robert Ellis (merch a mab yng nghyfraith), Mr. a Mrs. Daniel Griffiths (merch a mab-yng-nghyfraith), Mr. a Mrs. Edward Davies (merch a mab yng- nghyfraith), Mr. a Mrs. John Clayton (merch a mab yng nghyfraith), eglwys Carmel, ei gydweithwyryny lofa, aelodau Ysgol Saboth- ol Annibvnwyr Sychtyn (ger yr Wyddgrug),a Mr. a Mrs. Pearson, St. Helens. Trefnwyd. yr angladd gan Mr. R. Parry, 262 Bolton Road. --Dathlu, Terfyn Tymor Qobeithlu Carmel. •—-Brynhawn a hwyr dydd Sadwrn diweddaf. bu Gobeithlu Carmel yn cyfranogi o wledd a ddarparwyd gan chwiorydd ieuainc yr eglwys, o dan air-dygiaeth y gweinidog llafurus: y byrddau huliedig yn edr\-ch yn ardderchog, oni buan y gwelid y pethau bach yn difa'r danteithion ac wed i'r te, aethpwyd allan i faes perthynol i'r capel i chwarae tipyn. Derbyniai pob un aurafal, a chafwyd cyng- erdd llewyrchus iawn gan y plant yn yr hwyr. yn cael eu cynorthwyo gan Misses M. E. Thomas, Bolton Road Miss Edith Morris a Miss M. E. Thomas, Bryn Road Mr. Wm. John Lloyd yn canu penillion a Mr. Arthur Jones yn cyfeilio. Cyflwynwyd gwobrwyoa am bresenoldeb, prydlondeb, glanweithdra, ae ymddygiad da yn ystod y tymor, gan Mr. Enoch Rogers. Diwrnod a hir gofir gan y plant fydd hwn, a derbynied pawb agynorth- wyodd ddiolch y pwyllgor. Gwobrwyo eto prynhawn Sul, cyflwynwyd tystysgrifau i nifer o blant Carmel a lwyddodd yn arhol- ladau Dysgu Allan Cymanfa Undeb Ysgolio. M.C. Lerpwl a'r cylch yn Fitzclarence Street, y 13eg cyfisol Dosbarth dan 15 oed lorwerth Jones, Ty capel. Dan 12 oed Tommy Jones, 70 Bolton Road Phoebe Jones, Ty capel; a Hugh G. Jones, 191 Bol- ton Road. Dosbarth dan 10 oed Glyn Jones, 70 Bolton Road Violet Jones, 26 Bolton Road Maggie J. Roberts, 195 Bolton Road a Maggie Jones, Ty capel. Hyderwa y bydd llawer iawn chwaneg yn ymgeisio y tro nesaf, ac y cawn weld hefyd enw rhai o'm plant yn rhestr y gwobrau.-O.H.J.

Advertising

DAU -AFON.-