Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
DRINK i DWYRy 9 on wi TEA. The Tea of Old Time flavour.
Advertising
KEENORA Self=Raising FLOUR It Makes Perfect Pastry, Scones, ec. SoLB WHOLES ALB ÂGEHTØ- MORRIS & JONES, Limited, Liverpool end Mannhesfer
Advertising
Beaty Bros Ltd. MILITARY TAILORS. OFFIC M,IlaS UNIF ORMS < OF EVERY KIND. ALL ACCESSORIES FOR FIELD SERVICE. LOWEST POSSIBLE PRICES. ONLY ADDRESSES: Church St. and London Rda, j. LIVERPOOL I Close at I ptm Wedaasdaya. Open all day Saturdays. 'Phone—3925 BanRJ »»• 580 Bootle W. GdIntns I SODS, JBilitapy, Haval & Civil Tailors, 29SOUTH JOHN ST., LIVERPOOL ASJSO 349 STANLEY ROAD, BOOTLE. Complete Military Outfits INFANTRY SWORDS 63/- with Sword Knot I Nett. Send for Price List. A yw'ch Llygaid yn eich blino ? o Yw pethau'n troi'n niwlog ac anelwig? Dyna arwydd a rhybuddIlethdod y llygad, a dylech ga el eu hedrych rhag blaen eu gwaethygu wna'u hesgaulso- Gallwn ni, gyda'n hoffer gwyddonol, ddweyd wrthych 08 oes arnoch angen gwydrau; ac os felly, eich cjrflenwi A'r rhai a barai fwyaf o tea i chwi. Galwch heddyw- ARCHER & SONS Brealcht speciallate. 73 LORD STREET, I SelydlwydiM. LIVERPOOL I MORRIS EVANS' Household Oil IS STILL ahead of all other remedies FOR Rheumatism, Sciatica, Lumbago and Wounds, of all kinds. In bottles t/3 & 2/9 Grocers cf: Chemists, or direct for allow prices from MORRIS EVANS & Co., THB MANUFACTORY, FESTINIOG, N. WALES, LIVERPOOL The "-SHAFTESBURY," MOUNT PLEASANT, About 4 mint, valk from Lim* ø. A Ctttiral Stat M< > Pirat-class Temperance Hotel. Moderate ob T»U.: Bbaitesbnry Hotel, L'pool." Phoo., ASK FOR IDRIS Table Waters In Syphons and Bottles, SODA WATER, POTASH WATER, SELTZER WATER, LEMONADE, DRY GINGER ALE, Etc., etc. IDRIS & Co., I Ltd., Mcrfimmberland St., LIVERPOOL D. GRIFFITHS 0 SON all Breca Rd., and 9 Mosa St., L'vool. Pianos «Ss Organs by all the leading makers. From 87" per month. fraiPBosBfl—4Wx Aafleld A 3771 hI AL Cofiant y Parch. John Jones, Talysarn. GAlf Dr. OWEN THOMAS. Fel newydd. Llian, 7s. 6ch. Swyddfa'r 'Brython, Lerpwl. ROBERTS 49 EDWARDS, ESTATE AGENTS, 64 Kirkdale Rd., Liverpool I Telephone: 2193 Reyal.
Tram l-Brwydr Nor yI Gogledd.
Tram l-Brwydr Nor y Gogledd. O'R diwedd, fe gyfarfu cyfrannau cryfion o lyngesau Prydain a'r Almaen ei gilydd ym Môr y Gogledd, ac ymladdwyd un o'r brwydr- au mwyaf a fu ar for, nid yn unig erdechreu'r rhyfel hwn, eithr hefyd er deehreu hanes. Panydym yn sgrifennu, nid y w'rholl fanylion mewn llaw, ac mae'n amheus a geir y fath beth cyn y terfyno'r rhyfel. Mae eisoes amryw chwedlau rr daeit, acnidallant oil fod yn wir, canys maent yn hollol groes i V gilydd. Llawer anos adrodd hanes brwydr fawr ar y m6r nag ar y tir. Nid yw y rhai a fo ynddi, nac hyd yn oed yr arweinwyr, yn gweld yn glir beth a fo'n digwydd ond mewn cylch cvm- harol gyfyng yn ami. Y peth mwyaf cymysgyd a dyrys o bob math ar ymladd vw ymladd felhyn ar for. Ceirdarn o adroddiad oddiyma ac oddidraw, gan hwn a'r llall-o long bysgota, neu ryw long arall addamwein- iodd fod yng ngolwg peth o'r helynt ac o ddamau fel hyn fe geisir nyddu hanes am sut y bu. A rhaid cydnabod mai diddorol bopeth a ymddengys yn debyg i wir ar fater mor bwysig. Clywir rhyw bethau ag y dy- wedir i garcharorion—neu waredigion-Ger- manaidd eu hadrodd. Ond yr ydym yn dibynnu gan mwyaf ar adroddiadau swydd- ogol y Morlys. Yn ol arfer y gelyn, ac yn ol ei angen presennol am rywbeth disglair i godi calon ac ennyn hyder ym mhobl Germani, credwn y bydd i'r awdurdodau yno roi'r gorliw ar eu gwrhydri. Da cael y fath ach- lysur ar gyfer y methiant—hyd yn hyn-i oreagyn cadarnfeydd Verdun. Ond, o'r tu arall, gallwn fod yn bursiery gwna Prydain ei goreu i roi'r wyneb mwyaf ffafriol ar yr hyn a ddigwyddodd ym Môr y Gogledd. Ac feI yr awgrymwyd eisoes, llawerhaws cadw rhannau o gyfrinach y m6r na chyfrinach y tir-er, yn ddiau, fel y profwyd dro ar ol tro, na fynegir ar fyrder holj ddigwyddiadau'r tir chwaith Mae'r polisi o gadw rhyw bethau annymunol yn ddigon naturiol, ac yn faddeuadwy ar rai amgy lchi ad au, megis y cedwir newyddion drwg mown teuluoedd rhag trallodi rhywrai ynddynt. Eto, ar y cyfan, fe gamgymerir trwy bolisi felly, a mynych y gwelwyd mai gwell fuaeai mynegi'r caswir, a darfod ag ef.
Trem ll-Beth a ddigwyddodd.
Trem ll-Beth a ddigwydd- odd. Beth, gan hynny, hyd y gellir gweled, a ddigwyddodd ym M6r y Gogledd ? Cyfarfu adran gref-os adran hefyd-o lynges Ger- mani adran gref o'n llynges ninnau. Taran- asant ar ei gilydd a grym mawr. Yn ol yr adroddiadau cyntaf, ymddangosai fod llynges Lloegr wedi cael y gwaethaf o lawer, ac felly y cyhoeddwyd, mewn gorfoledd mawr, ym Merlin. Bu clych buddugoliaeth yn canu, a mawr y llawenydd yn yr holl wlad honno. Dywedid gan yr awdurdodau a'r newydd- iaduron ddarfod i lynges ieuanc Germani brofi'n ormod o fedr a grym i bigion y llynges gryfaf yn yr holl fyd, a'i tharo'n syfrdan, ar dde ac ar aswy. Cyhoeddid ddarfod i o leiaf dair o'n Dreadnoughts mwyaf a diweddaraf ni gael eu suddo, ac na suddwyd yr un long gyf- atebol iddynt hwy o longau Germani. Ond fe gyhoeddodd Morlys Lloegr wedi hynny na suddwyd ond un-y Queen Mary-o'n Ilongau rhyfel pwysicaf ni. A phan yr ydym yn sgrifennu, dymadrydydd adroddiad y Morlys i law, ac yn fwy calonogol na'r ddau blaen- orol. Ceidw nifer ein colledion ni yr un, ond gwneir allan fod eiddo'r gelyn yn fwy nag y tybid ar y cyntaf. Collasom ni 14 o longau rhyfel—3 battle cruisers, 3 cruisers. ac 8 des- troyers. Nid yw'r Morlys yn cyfrif y f awrlong 10 Warspite yn ein colledion, er ddarfod i'r Ahnaen wneuthur hynny. Erbyn hyn, cy- hoedda'r Morlys fod y rheswm cryfaf dros gredu fod colledion yr AImaenwyr yn fwy na'r eiddom ni, nid yn unig ar gyfartaledd i nerth cymharol y llynghesau cyflawn, eithr hefyd long am long yn y frwydr fawr hon, canys collodd y gelyn 18 o longau—2 battleships, 2 Dreadnought battle cruisers, 2 light cruisers, o leiaf 9 destroyers, ac un submarine, etc. Yn awr, nid oes unrhyw oleu y gellir ei daflu ar y mater a gyfiawnha, ysgafnder calon yn wyneb y ffeithiau diamheuol sy'n y sefyllfa. Heblaw y miliynau o arian y wlad afwriwyd i waelod mor, mae gennym i gofio y nifer lluosog-tua 4,000 fel yr yinddengyp--o fywydau a goll- wyd. Onibai ein cynefindra a thrychinebau diweddar, buasai'r fath ddigwydd a hyn yn taro braw i galon yr holl fyd gwareiddiedig. Ein cyd-ddynion dewr Bychan feddyliai mwyafrif poblogaeth y wlad hon beth oedd yn mynd ymlaen rhwng prynhawn y dydd olaf o Fai a bore'r cyntaf o Fehefin Pan ym- nythem ni yn ein cartrefi cysurus, ac y mwyn- haem ein cwsg arferol, ceid y dynion hyn allan ar y m6r, mewn ymdrech ddi-orffwys, yng nghanol peli'r gelyn, a llawer ohonynt naill ai yn cwympo'n archolledig ar fwrdd eu llong, neu yn suddo i'w chanlyn i waelod y mor— wrth amddlfiyn eu gwlad a'u cartrefi Ac eto, mae rhywrai a gyfrifant nad oedd yr holl aberth a wnaeth y dynion hyn erddynt yn werth pleidlais o ddiolch, ac y buaeai'n anfri ar eu duwioldeb iddynt eu rhoi
Tram III-Cryfder eini Llynges.
Tram III-Cryfder ein Llynges. Ond nid yw'r cwmwl du heb ei ymyl arian. Os cywir yr adroddiadau heddyw, mae'r gelyn yn waeth allan wedi brwydr fawr Mor y Gogledd nag ydoedd o'r blaen. Gall Prydain ddaly collodion agafodd yn llawer iawn gwell j na'r Almaen. Mae'n eglur ddarfod i'r gelyn- ac yn gall iawn o'i du ef—ddianc i'w noddfa pan welodd nifer o longau cryfaf ein I lynges yn neshau. A chofier fod cilio'n ol yn cyn- nwys methiant yn ei amcan eithaf. Nod ei ymgais, yn ddiamheuolj oedd torri trwy y ilynges Brydeinig, a tharo glannau Llofegr. Ni 1 wyddodd yn ei ymgais, ac ni chyhoeddwyd eto ddarfod i gynifer ag un o longau rhyfel mawr dorri trwodd i'r cefnfor nac unman arall. Addefir gan bawb, ond y gelyn fod gafael y Llynges Brydeinig ar y moroedd yn parhau yn ei rym, a bod ei gallu'n gyffredinol heb ei amharu. Buwyd yn bygwth arnom rhyvi "wn mamr" y bu'r gelyn yn ei baratoi ers tro bellach, a chredem hefyd fod gancldo'r fath offer dinistr ar ein cyfer. Ond cyn belled ag y caed datguddiad o'i gyfrin- achau yn y frwydr ddiweddaf, ni welwyd prawf fod ganddo'r fath ddwrn newydd i'n taro. Waeth faint a genir ar glychau ym I Merlin, ni a~ hynny newid dim ar ffeithiau. Gall beri ysbrydiaeth i galon y bobl, ond nid gwanhau nerth y Llynges Brydeinig. Didd)rol ynglýn a'r frwydr hon yw'r farn gyffredinol a goleddir gyda golwg ar bolisi llynghesol Scott a Fisher. Mynnai'r cyntaf mai ar submarines y dylasai Lloegr osod ei bryd pennaf, ond yr olaf a bwysai ar longau mawr. Erbyn heddyw, ymddengys fod y farn wedi troi'n bur bendant o blaid y Dreadnoughts. Dyma'r tyrau symudol sy'n diogelu ffyrdd y moroedd, yn y pen draw, er fod y llongau llai, a'r submarines, yn dra phwysig. Yn wir, mae'n eglur ddarfod i'r submarines fod ar waith effeithiol o bobtu'n y frwydr fawr. Ni allwn lai na chofio cyn lleied o ddefnydd a wnaethai'r gelyn o'rllestrihyn. yn gystal ag o'r Zepps, ers tro bellach a gwnai hynny inni gredu ei fod yn paratoi ar gyfer rhyw gydweithrediad pwysig yn rhywIe, Cyhoeddwyd ers misoedd yn ol fod nifer o longau rhyfel yr Almaen yn mynd trwy ym- arferiad helaeth, ac mewn eydweithrediad a Zepps. Bellach dyma'r gyfrinach allan,. Hyd y gwelwn, ni wnaeth y Zepps lawer o ddifrod yn y rhuthr, ond cawsant fantais arbennig i ganfod syinudia<Jaun,llongau ni. hyd ymhell, ac i hysbysu IJynges y gelyn o hynny. Mae'n syn na fuasai gan Loegr bellach, rhywbeth tebyg at wasanaeth y Llynges. Trwy y fantais hon, ymddengys yn bur sicr ddarfod i Lynges yr Almaen lwyddo i ddianc yn union mewn pryd cyn i Jellicoe ei dal a'i dinistrio. Wei .mae'n hawdd i unrhyw un ofyn cwestiynau, a hynny hefyd a, mwy o ofid a siom nag o ysbryd beirniadol ac ym- hongar. Teimlwn siom yn arbennig ddarfod i'r llong fawr Queen Mary gael ei suddo. Dywedir ddarfod i'r gelyn grynhoi ei nerth ami hi ar unwaith, ac mai hi a suddwyd gyntaf oil. Dengys hyn graffter a medr y gelyn. Hawdd hefyd yw gofyn paham y gadawyd yr adran agosaf i bwynt y perygl mwyaf heb gyflawnder o'r llongau cryfaf. Ond y peth doethaf yw aros nes y ceir yr adroddiad swyddogol a chyfiawn oddiwrth Jellicoe ei hun. Rhaid inni barhau i gadw mewn cof fod safle'r Llynges Brydeinig yn wahanol i eiddo'r Almaen. Rhaid i'n heiddo ni wylio pob pwynt ond gall eiddo'r gelyn grynhoi ei nerth, a dewis ei gyfle, i daro ar un pwynt a hawdd meddwl amdano'n llwyddo i ddod allan yn sydyn, cyn bod dim ond adran o'n Llynges yn ei gyrraedd. Ac ymddengys i ni mai felly y bu'r tro hwn. Cafodd cryfder y gelyn adran o'n Llynges ni, llawer gwannach nag ef, i'w wynebu ond adran na fynnai encilio er hynny. Diau y ceir y. Diauy ce i r gweld ddarfod i Beatty cliwanegu gorchest ddisglair arall o wroldeb at ei rai blaenorol. Mynnai gadw mewn gafael a Llynges yr AJmaen hyd nes y cyrhaeddai Jellicoe ag atgyfnerthion, ac nid arno ef yr oedd y bai—os oedd bai ar rhywun-na ddeuthai'r cymorth mewn pryd, fel y gellsid cau am longau'r gelyn. Ni chredasom o'r dechreu yn null Churchill ac ereillo ddiy tyrru galiu, medr, a gwroldeb yr Almaen ar for mwy nag ar dir. Siarad ffwlbri fu'r son am eu Llynges fel petasai hi'n ddim ond cynifer o gychod pysgota. Na 1 mae'r Almaenwr yn alluog,
Advertising
DONEGAL TWEED CO. LIVERPOOL'? T A TT HO C FOREMOST' MAKE IP-YOUR MIND TO PLACE YOUR ORDER EARLY FOR THAT NEW SUIT, ———— PRICES AS USUAL. S .tt ij '30/ NO EXTRA Su:t to Measure FROM 30/0 charges* FIT GUARANTED. IT WILL PAY YOU TO SEE OUR Famous Indigo Serge Suit 40/= NOTE ADDRE: 8 LONDON HO., LIVERPOOL Manaqer JOHN JONES. Also 95, 10«5, 165Grange Rd., B'head Cymro am byth." at 226 High Street, Bangor, I LAPIFS OVTUMES 23 Hope Street, Wrexham, to order from 50/. .nd throughout the Ktngdem.