Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

VOT GOSTEG. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

VOT GOSTEG. I Cowl Eildwym.—Diolch i chwi am eich nodion; and da chwi, anfonwch hwy yn Gymraeg, canys yn nm peth, nid oes gennym mo'r amser i'w cyfieithu ac yn aii, nid oes byth yr un bias ar beth cyfieithiedig ag sydd ar beth a geir yn syth o lygad y ffynnon. Ac os medrwch chwi gyfieithu oun iaith heb fod bias y Hall ar eich broddegau, chwifedrwch fwy nag a fedrwn ni, a mwy nag a fedrodd neb o ran hynny. Hwyrach mai'r peth nesaf i berffeithrwydd yn y ffordd honno yw'r Beibl Cymraeg. Ie, cewri mewn Cymreigiwch ac ysgolheigdod oedd y gwyr a droes yr Oraclau Dwyfol i'n heniaith ni, er fod bias Semitiaeth y Dwyrain ar ambell ymadrodd a ddaeth o'u dwylo kwythau hyd yn oed. Ond go ychydig, ebe'r bobl sydd yn gwybod, Foel Drmyn, Corweii.Ie, un o'ch ardal chwi yn Edeyrnion yna yw Mr. Hugh Davies (Alltud yr Andes), ond ei fod wedi ymfudo i Ddeheudir America ers deng mlynedd ar hugain neu fwy, sef cyn eich geni chwi. bron. Y mae iddo frawd yn Llundain; a dyna'r cwbl a wyddom amdano, heblaw ei fod yn lienor dyfal, yn ysgrifennydd mynych a goleuedig i gylchgronau'r Gymdeithas Phonetig, ac yn awyddus iawn i gael sillafu'r Gymraeg wrth yr un egwyddor, •nd ma fyn nemor neb ohonom groesawu mo'r chwilen anwyddonol honno. Dyma ichwi ffaith ddiddorol am yr Hugo gwreiddiol aeth un o Gymry ieuainc Birkenhead i Valparaiso rai blynyddodd yn 01 thwitiodd am Gymry dim ond wyth oedd ar gael ynddi; ymffurfiwyd yn Gymdeithas Cymrodorion coffhawyd Dewi Sant pan ddaeth y cyntaf o Fawrth heibio a beth feddyliech, fe glywodd yr Hugo am y peth, ac a deithiodd bob cam o'r Andes—wyth can aailltir o ffordd-er mwyn bod efo'r wyth yn y cinio a thystiolaeth Lloyd Birkenhead ydoedd mai efe oedd enaid y cwrdd, a'i fod mor Gymreig a llawn < afiaeth awen a chan a phe newydd roddi hwb cam a aaid i'r lie o ben y Berwyn. Ar y Beibl a'r Brython y mae'n byw, ac nid ar y cibau a fwyt&'r moch Ysbaenig a Sacsonaidd yn y wlad bell. Anfonwch iipyn o hanes pethau pwysicaf Corwen a Bro Edeym- ion bob tro y daw hamdden. Awdur Tomi a Nedw.—Gan eich bod yn gofyn hynny, beiddiwn ddywedyd, er Ueied a wyddom a mofelau, mai'r Parch. E. Tegla Davies, gweinidog gyda'r Wesleaid sydd ar hyn o bryd yn Llanrhaeadr- ym-Mochnant, yw'r portreiadwr goreu yng Nghym- ru ar fechgyn y wlad, o'r deg i'r ugain oed yma. Diau fod eraill cystal am ddisgrifio cymeriadau hyn end neb o'i gystal am ddisgrifio castiau a helbulon ysgol a chapel a phob profedigaeth a thrwstaneidd- iwch a ddaw i ran plant y wlad yn yr oedran hwnnw, megis dysgu adnod erbyn y seiat a chael cerydd a bonclust am ei hanghofio chwarae triwant o'r ysgol a rh,oi blewyn ar balf y llaw i dorri min cansen yr hen sgwl mynd i hel cnau a dal brithyll yn lie mynd t'r cyfarfod gweddi a'r seiat; a chael eu dal ym siherllan afalau Pen y Bryn gan Dafydd Thomas a gorfod cael gwaelod newydd i'r llodryn ar ol y guifa draws dau ben lin ei dad; a mil a mwy o droeon cyffelyb-troeon hawdd iawn siarad amdanynt, ond anodd i bawb ond y gwir nofelydd fedru eu nyddu'n aofel mor odiaeth o swyno] ag y gwnaed yn Hunan- gofianttotni. Clywsom fod yna un a rail—Nedzv—ar y gweill; ac 0 bob cymwynas a allai'n llenorion ei gwneuthur a'n hiaith y blynyddoedd hyn, dyma'r fwyaf a'r rheitiaf wrthi: ysgrifennu llyfr stori ac eraill fyddo mor addas a naturiol nes fod bechgyn a genethod o'r deg oed i fyny yn methu'n lan a'u cau cyn eu gorffen 0 glawr i glawr. Yr adolygiad goreu ar gyfrol felly ydyw gwylio faint o ysu fydd ar fachgen neu eneth amdani wedi iddo ddechreu ymgladdu, law o bobtu'i ben, yn ei phenodau. r Chwilen Sbelio. "—Os mai dyma'r enw goreu gennych ar y deffroad sydd yng Nghymru heddyw o blaid orgraff ddiwygiedig a synhwyrol, wel, dyna hi, ihyngoch chwi a'ch chwaeth, cyd ag y cofioch hyn, wyddoch, sef fod yn anhraethol haws s :arad yn fach ac yn goegiyd am beth na phrofi dim 'r gwrthwyneb. A dyma a welsom ni gyda hyn, megis gyda phopeth 0 ran hynny: mai po fwyaf aawybodus y byddo dyn o'i bwnc, mwya'n y byd ei bendantrwydd dogmataidd a hollwybodol wrth siarad neu ysgrifennu amdano, ac mor anoddefgar o bob goleuni newydd a golygiad gwahanol nes colli arno'i hun a dechreu dawnsio a dvmu o'ch cwmpas, fel un o'r Indiaid Cochipn a fo am eich scalp. Ni chaed neb eto a fedrodd sgrifennu Cymraeg perffaith, ma neb yn honni hynny ond y rhai sydd bellaf 0 fedru. Gwyddom, er ein gofid, fod pob llith a sgrfiennwn 711 frith o wallau ac a droseddau yn erbyn anian ac idiom yr iaith, eithr dysgasom hyn, ac a ddaliwn i'w qldysgu sef bod yn barod bob amser i ymostwng i rai gwybodusach ,a medi 0 ffrwyth eu hymchwiliad, eithr nid mewn ymostyngiad slafaidd wedi ei ddallu gan emdygedd addoliadol. eithr k Ilygad ago red i weld pa beth sydd yn wyddonol ac yn wir. Gwnewch chwithau yr un modd, yn lie ewynnu'ch cynddar- edd fel pe baech yn pastynnu nythaid 0 nadroedd mewn tomen dail. Rbaglen ddi-alcobol.-Beadith ar ben Pwyllgor Eisteddfod Birkenhead!—y maent newydd basio'n unfryd na bo adferteisio'r un dafn 0 gwrw na gwirod ar raglen eu testynau. Campus I ac yn glod i'w chwaeth a'u hargyhoeddiad dirwestol. Dim ond un raglen Eisteddfod ddi-alcohol hollol a welsom ni erioed, a Rhaglen Llangollen, 1908, oedd honno, heb arogl yr un dafn o'r breci damniol ami o glawr i glnwr, er i un cwmni cryf geisio ac ail-geisio'n daer am dudalen ohoni i'w cwrw hwy, a chynnyg talu crocbris am y lie. Ond Na chewch ebe'r argraffydd, gan ysgomio'u harian gwaedlyd. Cof gennym am un Raglen Eisteddfod Genedlaethol wahanol iawn, as yn frith drosti o hysbysiadau tafamyddol, ac arogl cwrw'r fan yma a chwisgi'r fan arall yn codi i'ch ffrcien bob yn ail ddalen agos, nes ymron a'ch gyrru i gredu mai cerdded heibio clobyn o fragty yr oeddych. Dan nawdd Duw .'i Jangnef yr oedd yr Wyl honno, ebe hi ar g lawr y rhaglen; ond a bamu oddiwrth ei hysbys- iadau, yn debycach lawer ei bod hi Dan nawdd y Dafam a'i Dadwrdd. Da iawn, Birkenhead Dim perygl i chwi fod ar eich colled. Rbtffu anwiredd ar, dal.-Diolch i chwi am eich cefnogaeth, S.J. Yr ydys wedi gwneud felly o ddechreu'r rhyfel, fel yr awgrymwch. Dyna'r pam fod Y BRYTHON mor foel a newyddion rhyfel, canys pa ddiben syrffedu'n darllenwyr A rhyw gawl eildwym cyfieithiedig o'r papurau Saemeg, a hwnnw'n goeg i gyd cyn i ddyn ddechreu ei gyfieithu. Ac am experts o ohebyddion rhyfel sy'n agrifennu i'r Wasg Saesneg, nid oes rithyn o werth yn eu llithoedd, er y byddai un ohonynt yn cael canpunt yn yr wythnos, yn ol a glywsom, am ei ysgrifau Y fath wastraff! canys er ei fod yn sgrifennu mor goeth a golygus, ni ddaeth yr un o'i broffwydoliaethau erioed i ben ac yn He bod yn broffwyd, y mae ef a'i ddarogan wedi dirywio i fod yn ddim gwell yng ngolwg y bobl na dewin a brudiwr mor ddiwerth ei goelio a'r Sipsyn salaf o deulu Abram Wood. Ni chododd o byth mo'i ben fel cynt ar ol i'r Punch digymar ei goegni wneud y fath gyff gwawd ohono ef a'i fap a'i anwybodaeth hollvrybodol, Y dyn ei hun yn siarad mor godog a phe*" gwybod am bob nyth eacwn drwy Ewrop. Peidiwch a bod mor ehud a'i ddarllen, nac mor ddwbl ehud a'i goelio ar ol ei ddarllen. Oel, S.J., y mae gan bapur Cymraeg rywbeth amgenach i ymgyrraedd ato nag arlwyo cawl eildwym o'r Spectator na Land and Water na'r un papur na chylchgrawn Saesneg arall; ei waith ef ydyw mynd yn ei flaen i dyfu ei yd a phobi ei dorth ei hun, a digon o flas bara cartref ami, Ylllle rhyw hen flas bara pryn 0 siop y papurach Saesneg a dimai. 'm T Swp Cylchgronau.-Buasai'n dda gennym gael dywedyd rywbeth yn debyg i deilwng am y cylch- gronau a ddaw yma ond y mae'n amhosibl gwneu- thur dim mwy na'u cydnabod, a gweddio am i fywyd pob un ohonynt gael ei arbed o'r Armagedon yma sy'n lladdpapurau a chylchgronau hebl iw lladd dynionac anifeiliaid. Gofid mawr oedd gweld sylw y dydd o'r blaen fod rhai o gylchgronau Cymru'n dioddef mor arw nes ymron a mynd i'r wal. Gresyn fyddai gweld yr un ohonynt yn pallu, canys y maent yn porthi bias goreu Cymru, pob un yn ei gylch a'i ddos- barth a dylai pawb sy'n deilwng ei alw'n lienor a gwladgarwr roddi popeth i fyny 0 flaen y papurau a'r cylchgronau sydd yn cadw ei wlad yn Gymru Jân ac yn Gymru lonydd. Dyma rai sydd yn gwneud hynny; r Dysgedydd, Cymru, Cymru'r Plant, rr Eurgrawn Wesleaidd (y mae eisiau tynnu'r y yna allan o'r Wesleaidd ar y clawr fel sydd eisiau tynnu'r y o'r dyddorol sydd ar glawr y BRYTHON) Welsh Outlook, Y Cerddor, r Gymraes, r Llusern, Yr Ytnofynnydd, Y Gorlan, r Lladmerydd, Trysorf a'r Plant, r Drysorfa Dywedodd yr Athro Ifor Williams, M.A., Bangor, yn ei ddarlith hyglod ar I, afar Gwlad, bob tro y cleddir hen wr neu hen wraig yng Nghymru, fod darn o'r iaith Gymraeg yn cael ei gladdu gyda hwy, gan fod rhai hen eiriau o'r oes o'r blaen yn darfod wrth iddynt hwy farw ac felly hefyd, pe cleddid rhai o'r cylchgronau uchod, fe gleddid darnau o fywyd goreu Cymru. Golwg byw sydd amoch ar y bwrdd yma heddyw a byw byth y byddoch, bob un. — F3 Cymry Carlton.-Ymddangosodd hanes Cymanfa Ganu Cymry Swydd Efrog yn Y BRYTHON diweddaf. Rhy buiyr.-Nodion yr Wyddgrug a Threfiynnon wedi cyrraedd ddiwmod yn rhy hwyr. Deuant yr wythnos nesaf.

!DYDDIADUR. '-

lyhoeddwyr y Cymod

CAFFAELIAD 0AKFIELD

Advertising

Ffetan y Gol. I

[No title]

Advertising