Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
•V GOSTEG. Daw'r rhain yn ein nesaf Gosteg Atebion i Ohebwyr, fel tae. Gyda'r Ffosydd yn Ffrainc. Gan y Parch. Gapten James Evans, B.A. Chwith Atgof Pedr Hir am Mrs. Maria Owen, un o wragedd llengar a theilwng Bro Hiraethog. Nodion Middlesbro a'r Cymau,
8yboeddwyr y CymodI Y Saboth…
8yboeddwyr y Cymod Y Saboth nesaf Y METHODISTIAIB CALFINAIDD PmNOti ROAD-10 a 6, W. Henry DAVID ST-10.30 a 6, E J Evans SfTECtAKEJfOB ST-10.30 a 6, J. Daniel Evans DOTOLAS ROAD—10 a 6, D. Jones CHATHAM ST.-10.30a6, W O Jones OROSSHALL ST.—10 30 a 6, R Aethwy Jones AKFIELD ROAD-I0.30 a 6, John Owen, Caernarfon KVWSHAH PARK-10 a 6, 0 Eilian Owen DOOTLB-10 a 6, Peter Williams VAKKFIBLD—10.30 a 6, W F Phillips, Tenby gynt SSACOKBS—10.45 a 6-30, L Lewis 6AKSTON—10.30 a 6, G R Jones BOOK FERRY—10.30 a 6, 0 J Owen WALTON—10.30 a 6, D. D. Williams WATERLOO—10.30 a 6, H H Hughes Pill ROAD—10.30 a 6. R W Roberts EDGE LANE-IO.80 a 6, G. W. Griffith WEBSTER ROAD—10.30 a 6, W M Jones » LAIRD ST—10.30 a 6, T J Rowlands WOODOHCRCH ROAD—10.30 a 6, H Williams, Amlwch lqnw BRIGHTON—10.30 a 6-30, T 0 Jones. Tabernac! WIST KIRBY-ll a 6-30, A Wilson Roberts, Bootle SOUTHPORT—10.30 a 6. J H Hughes, ElJesmere I'ort HirrroN QUARRY—10.30 a 6, WaisTov-10.30 a 6, John Evans, Birkenhead Sle. HELENS—J Peron Jones St. Helens JUNCTION-G C Evans, Coedway SKILMEBS D ALE—10.30 a 6 John Evans WIGAN-2.30 a 6. Griffith Evans EXLESXERE PORT—10.30 a 6, ■ASHTON-IN-MAKERFIELD— 10.30 a 6 R Parry Jones UPPER WARWICK STREET-8.15, Chwaer Evana SMITH STREET-6, 13ANKHALL-6-15. J H Morris MIDDLESBROUGH—10.30 a 6,30, M R Moses IUNDERLAND-10.S0 a 6, RIP Jones IIPJI!'i'NYMOOR-lO.SO a 6 Wm Hughes EASINGTON—10.30 a 5.30. E J Jones ELDON-IO.30 a 5.30, T J Owen SUTTON OAK (Undebol)-10.30 a 5 30, Aaron Owen, YR AOHOSION SEISNIG OAKMELD RD—10.45 a 6.30 R G Jones JlnRTON BROW-1 0.45 a 6.30, D J Owen CATHARINE ST—11 a 6.30, J Talog Davies WILLVER RD-10.45 a 6.30 G H Evans SPELLOW LANE-11 a 6.30, JLIBCARD—10.45 a 6.30 Emlyn James BREEZE HILL—11 a 6.30, H R Jones OBBELL. BOOTLX-ll a 6.30, J Howell Evans YR ANNIBYNWYR lABERNACL—10.45, W A Lewis, 6-30, 0 L Roberts PÁBx ROAD—10.30, Proff J Evans, 6, J Vernon Lewis GROVE ST-10-30, T Price Davies, 6.15, D Adams OurTON RD—10.30, 0 L Roberts, 6, W A Lewis OT MERSEY ST-10,30, J Vernon Lewis, 6, Proff J Evans, Aberhonddu 1 MARSH LANE—10.30, 4 6, A Jones KENSINGTON-10,30,G J Williams, 6,T HWilliams,Bangor VNM?Y BD-10.30, A Jones, 6, iJSCARD—10.45, D Adams, 6-15, T Price Davies VICTORIA ST-10.30, T H Williams, 6, G J Williams HBATHFIELD RD—1030, Ysgol, 2.30, D Adams BALMORAL ROAD—10.30 a 6, E H Roberts BARLESTOWN—10.30 a 5.30, OwehlJyn Jones, Rhesycae IIOUTHPORT-ll a 6.30. ASHTON-MAKERFIELD—10-30 a 5.30, W Jones, Ashton PREBCOT— 2.15 a 5.45 Xbatto HEATH-6.45, Wm Hughes, Lerpwi OOLBORNE—10.30 a 5.30. Y WESLEAID OAXPIIMD-10.30, J Roger Jones, 6, Prvce Hughes SPELLOW LANE—2.30 a 6. J Roger Jones BoOTLE-10,30 T Isfryn Hughes, 6, R W Jones Boo. HILL-10.30, Cyfarfod Gweddi, 6, T I Hughes KNOWSLEY RD-10.30, R W Jones, 6, J Uoyd Jone9 MYNYDD SEION-10 30, H Williams, 6, Edward Davies BIRKENHEAD—10.30 a 6, D Tecwyn Evans WlDNES—10.30 a 6, R W Davies GARSTON—2.30, Ed Davies, 6, J Lloyd Jones KGREMONT—10.45. Edward Davie3, 6, W R Williams ASHTON-IN-MAKERFIELD—10.30 a 6, E W Owen BARLESTOWN—2, E W Owen, 5.30, H Roberts GOLBORNE-2, 5.30, E R Evans SPRING VTEW-ln.30, Efrydydd, e. D Rowland LZIGH-2 a 5.45, Efrydydd m HELENS— Y BEDYDDWYR BVERTON VILLAGE—10.30 a 6 DPoweli BARLSPIELD RD-10.30 a 6, T Michael BALLIOL ROAD—10.30 a 6, 0 I,Iovd Jones BOUSFIELD ST-10.30 a 6, M Griffith WOODLANDS—10.30 a 6-15, Myfyriwro Pangor EDGE LANE—10.30 a 6 H. R. Roberta I.ACOMRE-I0,45 a 6.15, R. Lloyd PALHERSTON DRIVE—10.30, L. W. Lewis, 8, E.W.Wynne EGLWYS RYDD Y OYMRY CANNING STREET—10.30, W. O. Joneo, 6, R T Roberts HIGH PARK STREET—10.30 a 6, R L Williams BooTLE—lO.SO.D Davie-, 6. W 0 Jonef BIRKENHEAD—10.30, R T Roberts, «, D Davies DONALDSON STREET—10.30 a 6, Isaac Smith, Rhos YR EGLWYS SEFYDLEDIG J DEWI SAT-ll a 6.30. R. D. Hughes ASAPH SANT—10.45 a 6.30. S Jones-Parry DEINIOL SANT—11 a 6 30. Griffith .Tones WINIFRED SANT—11 a 6.30. J. Hughes
Advertising
ADVICE FREE.—Mrs. Stewart, Herbal Specialist, 9 Guinea Street, Bristol. FORD Radiators, new pattern, oils and greases JL tubes and tyres.-Wholesale Factors, JAMES CHzw and Co., 58 Paradise St., Liverpool. IN STOCK. 6/6 h.p. Budge-Multi & Rudge Sidecar; Demonstration ontflt, in perfect order, Cash Price £55. Sf h p. L.M.C. 3 speed, Chain-cum-Belt drive. Splendid machine for solo or sidecar work. Cash Price £ 66 2" Od. 8i h.p. B.S.A. 3 speed, Chain-eum-Belt drive. Cash Price £62. Si h.p. Rudge-Multi, Russian War Service Model, Enam- elled service Green; in perfect order. Cash Price t47 10s. 0d. We have only one each of the above, First Cheque received secures same. ONLY A FEW LEFT. Smart people are investing in onr Universal" Cyctea 95 15a. Od of which we have only a few left. We did large business last week. If you did not avail yourself of our offer last week of" Cycles at pre-war prices," may we suggest you give us a call this week The cycle will sen itself to you at RLLTDCE-WRITWORTH, Ltd., 101 Bold Street. Repairs to any make of cycle. BLUE BELLS Daises, Violets, Primroses, Cowslips and all other lovely lowers of our English spring are now in full bloom; why not go and see them ? The most pleasant way is on a ayele, but the cycle must be a good one, such as our special bargain cycle at pre-war price. Ladies or Gents 11 1DRo Od. or 12 payments of 13/9. BUDGE-WHITWORTH, Ltd., 101 Bold Street. Liverpool Guardian Trade Protection Society 'Phone 4865 ijank. Tir," -Irqoiition The Oldest Provincial Tf\.4.0E PFCORSCNOV SOCIETY A MTTTU All SOCIETY Governed by a Board of Honorary Directors. or terms write- F MEATHER, Secretary, 41 N,,rtb Job" Livrtrpoo p .u.u. PAINLESS DENTISTRY. j (Son of the late J. Lamploush, for many years in the Denial Profession at Mold and, Holywell). im Deural urer", 235 EDGE LANE, LIVERPOOL. Honrs—10 a.m. to 8-30 p.m. Consultation free, a BTel. 245 AnfieldSS
-- -,- -1-" fo Big yI Lleifiad.
-1-" fo Big y I Lleifiad. Cyhoeddi Eisteddfod 1917 a hwng dwy gannon ym Mharc .1 Birkenhead. YDYW, y mae'n dyn ar ddeugain mlynedd er pan welwyd Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol yn Birkenhead o'r blaen ond os Duw a'i myn, fe geir gweld hynny unwaith eto brynhawn dydd Sadwrn wythnos i'r nesaf, megis y dengys yr hysbysiad ar tudal y 6ed. Dyma rai fydd yno'n areithio a gwreich- ionni oddiar y Maen Llog Dyfed yr Archdderwydd o Gaerdydd, Pedrog, Pedr Hir, Hawen, Cadfan, Tec- wyn, Syr Vincent Evans, Eifionydd, Ap Gwyddon, Gwynedd, ac yn y blaen. Gobeithio y bydd hi'n braf ac yn hindda, canys y mae'r beirdd a'r gorseddogion, a bagad o urddasolion gwlad a thref, i droedio'r prif heolydd yn eu erysbeieiau Ilaesion ac amryliw, hyd oni chyrhaeddont Cannon Hill, yrn mhen uchaf y Pare, a elwir felly am fod yno ddwy gannon a gipiwyd oddiar y Rwsiaid yn Rhyfel y Crimea, ac sydd i danio yn Gymraeg am y waith gyntaf erioed y prynhawn hwnnvv, sef drwy i rai o'r beirdd ergydio'u henglynion poethion i fewn drwy un pen ae j'r rheiny gJedan allan o'r pen arall heb ladd neb ond Die Shon Dafyddion a gwawdwyr Philistaidd a dienwaededig iaith a defodau'r hen Gymry. Diau y bydd yno dyrfa faw, A chan y rhgffir am Gylch Cyfrin yr Orsedd, goreu fydd brysio yno mewn pryd, cyn i'r estroniaid CenhedJig lenwi'r lie nes na bo modd i neb ar y godreu pell weld na chlywed. Bydd yr olwg yn un swynol odiaeth, a'r hyn a ddywedir yn godiad ysbryd i bob Cymro teilwng o'r enw, Cofiwch fod mewn pryd, i gael lie rhwng y ddwy gannon. Nid oea dim ceiniog o dal am weld na chlywed. +? HEM DDU AR ODRE'R FANTELL WEN.- Y mae Mr. G. W. Hughes, G. & L.T.S.C., wedi cael ei ail ethol am dair blynedd arall ar Gyngor Llywodr- aethol Coleg y Solffa, l,lundain. Pump o Gymry oedd ymysg yr ymgeiswyr, a'n cyd-ddinesydd pobl- ogaidd oedd yr uchaf o'r pxifl|p, Aclodau'r Coleg biau'r hawi i ethol y Cyngor, ac y maent hwy ar wasgar drwy'r Deyrnas i gyd. Ac yng Nghymanfa Gyffredinol Colwyn Bay, bythefnos yn ol, penodwyd Mr. Hughes yn ymddiriedolwr Cronfa Ysgoloriaeth Gerddorol Eleazar Roberts, ar ran y Cyfundeb, yn ddilynydd y diweddar Mr. Thos. Thomas, Caerdydd. Dyma amcan y Gronfa hon Os bo llanc neu lances yn dangos dawn go amlwg fel cerddor neu gantor, ond heb ddigon o foddion i fynd ymlaen a chael chwarae teg,-wel, ymorol na bo'r rheini, beth bynnag am bawb arall, ddim ar ol, ond eu bod yn cael addysg gerddorol mewn coleg, er mwyn i'r gallu a'r athrylith gael cyfle i sgleinio a dod allan. Ac y mae tipyn o hem ddu tlodi ar odre mantell athrylith yn peri iddi edrych yn wynnach a harddach na mantell felen y lleill, tt CAEL HrD I BREGETHWR.-Clywais ddweyd mai un o bethau goreu'r Gymanfa GyfTredinol yng Ngholwyn Bay oedd araith y Parch. J. Lewis Jenkins, bugail newydd eglwys M.C. Oakfield Saesneg yma a dyma ddywedodd y Parch. J. Puleston Jones wrth godi i siarad ar ei ol, ac fe wyr ef yn o dda beth yw'r gwahaniaeth rhwng swri a sylwedd :— Diolchwcb am y Gymanfa GyfTredinol, pe am ddim ond cael o hyd i hwn-(chwerthinl,. Ond er mai yn Saesneg yr oedd yn siarad y mae cryn lawer o'r Cymro ynddo, a Hawer o r Methodus Methodus ydi o yn un peth, mae'n dechreu'n ddistaw-(chwerthin.); peth arall 'dyw o ddim "yn credu mewn siarad os na bydd o'n cario'r gynulleidfa gydag o, ac yr oeddym wedi mynd i co rywle gyda'r areithiwr, wedi cael ein cario a'n cqdi, ac yn dechreu dweyd, Gwnawn dair ('pabell I-Chwerthin,)." Yr oedd araith yr lberiad gloywddu o'r De yn frith o syniadau byw, hwn yn un :— The appeal for economy to-day, unless it is wise and moralised, may make us a nation of misers and I would prefer a nation of spendthrifts to a nation of misers." tt BALM I'R CLAF A'I GALON FRIW.—Y mae'r Parch. John Evans, Beaconsfield Street, wed. cyhoeddi ail gyfrol o'r Iacbawdwriaetb, sef detholiad o adnodau ac emynsu a brcfodd yn gysur a chynhal- iaeth i'r cleifion yr ymwel a hwy yn ysbytai'r ddinas. Y mae yma ambeU air o brofiad a dawdd galon y caletaf; ac egyr y Ilyfryn a phenhillion Mr. R. H. Jones, Up. Brighton, i'r Gymracs yn yr Tsbyty :— 0 ferw y ddinas, ei thorf, a'i thrwst, Mi droais i ysbyty gerllaw; Ynghanol y cleifion gorweddai Cymraes, Yn dawel heb arswyd na braw. 'Roedd yno yn unig ynghanol y llu, Yn estron mewn gwedd ac mewn aeg; Oes neb yn eich deall, ? gofynnais cyn hir: "Oes 'ma neb yn medru Cymraeg ? "Wel, na," meddai hithau, "y Saeson yw pawb; A minnau heb ddeall eu haeg." Ond," ebai drachefn, "y mae yma Un— Mae Hwnnw yn medru Cymraeg." "'Rwy'n gweld wrth y daflen sydd uwch eich pen Fod gennych chwi feddyg o fri." Wel, oes," meddai hithau, ond waeth i chwi prun, Y Fo yw fy Meddyg i." Gobeitbaf yn fawr cewch fynd adre cyn hir— Adre i fyw yn eich bro "Nid y fi sydd i drefnu pa bryd y cfif fynd; Ond at adre pan y dywed O." Ymwel Mr. Evans a Chymry'r holl ysbytai'n ddi- fwlch ers dTOs ugain mlynedd, ac heb geiniog o dSl gan nag eglwys na chymdeithas—dim ond y tal distaw a dwfn-felys a ddyry'r Nef iddo'r ochr yma, heb son am a gaiff yr Ochr Draw. tt TIRION OS TTWTLL.—Y mae'n dda gan fy nghalon gael cyhoeddi'r llythyr isod ac a deimlais yn euog braidd na buaswn wedi bod yno ymhell cyn hyn yn edrych am y Cymry tirion os tywyll sydd yn Ysgol y Deillion yn Hardman Street, petae ddim ond er mwyn peri imi ddiolch yn ddyfnach nag erioed am y ddau lygad yma, er eu IIwyted. Diolch yn faw i bob! Chatham Street a Grove Street am fod mor garedig wrthynt. A dyfna' diolch, diolch y dall. Gwelais rai ohonynt yn cael eu nol i gyngerdd yn y -nail] neu'r Hall o'r ddaugape1 uchod, ac a dsoinai ddeigryn llawenydd i'm Uygad pan yn gweld eu mwynhad, wrth fethu pelydru aHan o'u dau lygad, yn cerdded yn iasau drwy groen eu hwynebau. o ydyw y roae pob modfedd o'r hen gorffyn cywra in yma'n medru siarad yn ei ffordd ei him pan gynhyrfir ef gan rywbeth mawr. Meddyliwch am drwyn ambell cynic a welsoch,—y mae'n draethawd ym- gnawdoledig ar surni, ac a droisai Lyn y Bala'n finegr pe digwyddai blannu ei flaen tursiog yn ei ddwr. Ond rhoswch i wastatu pethau, a dod a chwi atoch eich hun—ac ati hithau-dyma wen genau a gwefus un o rianedd Cymru'n disgyn mor dirion arnoch nes eich bod yn teimlo mor braf a phe baech yn cael eich fanio ag aden angel. Ond ei llygaid yw coron ei hwyneb hi, wedi'r cwbl, a druan o'r dall sy'n gorfod mynd drwy'r byd hcb weled hwnnw. Fe'i gyr i gwyno fel Miltwn am ei ddellni yntau ö. Seasons return, but not to me returns Day, or the sweet approach of even or morn, Or sight of vernal bloom, or summer's rose, Or flocks, or herds, or human face divine. From the cheerful ways of men Cut off, and for the book of knowledge fair Presented with an universal blank Of Nature's works, to me expunged and rased, And wisdom at one entrance quite shut out. Pwy ohonoch a fedr ddweyd ystyr yr hen air hwnnw ? Saith mlynedd y byddis yn darogan dellni cyn ei ddyfod. K kt1 BENDITHIO MRS. WM. THOMAS.-Madd- euwch i mi am ymdroi; a dyma'r llythyr :— Ysgol y*Deillion, Hardman St., Lerpwl, 8 Meh. ANNWYI, MR. GOI.YGYDD,—A gawsoch chwi erioed lythyr, ys gwn i, o'r ysgol hon o'r blaen ? Mae yn wybuddys i chwi, modd bynnag, fod yna amryw o fechgyn Cymru bob amser yn yr Ysgol yn dysgu rhyw grefft neu'i gilydd. 'Rydym yma o wahanol siroedd Gogledd Cymru, gan fwyaf, yn ceisio cyfaddasu'n hunain i ennill ein torth. Nid ydym yn dod i cyffyrddiad agos a bywyd y dref, ond derbyniwn lawer o garedigrwydd gan rai pobl yma. Y mae Eglwysi Chatham Streer a Grove Street wedi dangos caredigrwydd mawr a chyson tuag atom, ac yn gwneud rhywbeth o hyd i sirioli ein bywyd. Y rheswm fy mod yn ysgrifennu atoch heddyw ydyw fod arnaf eisiau i chwi wybod am yr outing ardderchog a gawsom yr wythnos ddiweddaf Aeth Mrs. Wm. Thomas, Aigburth Drive, a ni Gymry'r Ysgol allan am motor drive i Knowsley Park. Mae ami i fraint i'w chael y dyddiau hyn o fod yn Gymry. 'Roedd Mrs. Thomas wedi clywed y gog ryw ddiwrnod yn y wlad, a meddyliodd fel y buasem ni fechgyn yr Ysgol yn hoffi ei chlywed. Ac aeth a ni. Wedi i ni fynd i fewn i Knowsley Park pwy a ddaethheibio o bawb ond Lord Derby, a wyddoch chwi, Mr. Golyg- ydd, mi dynnodd i het i ni. Treat annisgwyliadwy oedd el weted'ef, ond beth am y gog ? Sut y gwyddai fod Mrs. Thomas yn disgwyl iddi ddod yno y p'nawn. hwnnw ? Ond 'roedd yn amlwg fod yna ryw ddealltwriaeth rhwng y foneddiges fawr ei chalon a'r gwew, oblegid daeth i'w chyhoeddiad yn brydlon, a chawsom odfa gerddorol felys odiaeth. A chododd yr hwyl. Canasom hen alawon Cymru, a Sospan Bach a Keep the home fi-res burning. Pan yn dych- welyd yn ol, pwy a'n cyfarfu drachefn ond Lord Derby, a'r tro hwn cododd ei law arnom. Wedi hynny olwyno'n ddifyr i Aigburth Drive, lie derbyn- iwyd ni gan Mrs. a Miss Thomas, y Parc.h. R. R. Hughes, Chatham Street, a Major Herbert Williams. 'Rol hynny, nid cinio, Mr. Gol., ond grand banquet. Ac yna un o'r cyfarfodydd byrfyfyr difyrra y buoch ynddo erioed. 'Roedd yr hwyl wedi codi; a phe basa'r BRYTHON yn cael gafael ar holl ffraethebion y cyfarfod hwnnw, gallai fforddio i retirio yn bur fuan. Cynhygiwyd diolchgarwch i Mrs. Thomas gan Edward Price, a chefnogwyd gan Edward Owen. 'Roeddwn i wedi meddwl cael englyn iddi, ond 'ddaeth yr awen ddim mae'n debyg y daw un o'r dyddiau nesa, a phan ddaw anfonir brysneges i'r Parch. R. R. Hughes, i ddod i'w ddal i'r BRYTHON cyn iddo ddianc. Wedi diolch 'roeddan ni yn meddwl cychwyn adre, Mr- Gol., ond na 'choelia fawr. 'Roedd yn rhaid cael y Sospan Bach a'r Home Fires wedyn, ac aros i swper. Ni aethom ar 01 swpar mewn style yn y modur. 'Rwy'n siwr y bydd yn dda gennych gael y pwt hwn, Mr. Golygydd, gyda hanes diwrnod difyr yn ein bywyd, a hefyd ddeall am garedigrwydd mawr Mrs. Thomas tuag atom. Ac nid dyma'r waith gyntaf. Hi yw'r gyntaf i fynd a bechgyn yr Ysgol yn ei motor. Pe buaswn yn medru ei hanfarwoli mewn can, gwnawn. Ond beth bynnag am ei chanmol ar gan, mae'r bechgyn i gyd a finna yn ei bendithio yn ein c,-tloiia.- Wyf, anwyl Mr. Golygydd, yr eiddoch yn gywir, THOMAS ROBERTS (Cesarea, Arfon). ti CWYRTH 0 W A RED IGA El H.—Y chy dig, ond odid, o ddarllenwyr Y BRYTHON a wyddai mai mab hynaf yr hynaws fardd-offeiriad, y Parch. R: W. Lloyd-Owen (Mathajarn), cyn-ficer Eglwys Oen Duw, yw'r Midshipman J. I-I. Lloyd-Owen, a achubwyd yn ddianaf pan suddodd y Queen Mary ym mrwydr fawr* Mor y Gogledd, y dydd olaf o'r mis diweddaf. Aethai i lawr gyda'r ]long, ond fel gwyrth daeth i fyny i'r wyneb wedyn, a nofiodd am dros hanner awr; a phan oedd ei nerth ar fin paliu, daeth destroyer heibio ac a'i cipiodd i fyny i'w bwrdd. Un swyddog arall, yn ddiglwyf, a dau glwyfedig, a nifer fach o'r dwylo, oedd y cwbl a achubwyd o'r mil eneidiau oedd ar fwrdd y Hong anffodus. Deallwn fod ail fab Mathafarn ar y King Alfred, a'r ieuengaf o dan addysg ym Mhrifathrofa Caergrawnt. tt TUSW BRITH- Y mae'r Parch. O. J. Owen, M.A., wedi symud i. fyw i ig Hydro Avenue, West Kirby, yn y gobaith y bydd i hynny beri lies i iechyd gwannaidd Mrs. Owen Parha'i gysylltiad a'r eglwys yn Rock Ferry, a bwr- iada gadw'i gyhoeddiadau Sabothol yn Lerpwl a'r cylch fel o'r blaen. Mrs. Owen yn ferch y diweddar Mr. Eleazar Roberts, a gymerwyd ymaith mor dirion cyn dyfod yr Armagedon a fuasai'r fath loes a siom i garwr mor fawr ar heddwch ac i gashawr mor ddisyfl ar bob gorfod a gorthrwm militaraidd. Darlithiai'r Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., ar Ann Griffiths yn Nolanog nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf, sef o fewn hwb cam a naid bron i'w chartref, Dolwar Fach. Un o ddisgynyddion yr emynyddes yn y gadair, sef y Parch. E. Griffiths, lleifod a lluaws o weinidogion a gwyr amlwg y Sir wedi cerbydu yno i wrando ac unwaith eto "weld y mannau bu." Cynhaliodd TemI Gwynedd, Laird Street, Birken- head, gyfarfod agored nos Fawrth yr wythnos ddi- weddaf, dan lywyddiaeth y Prif Demlydd John Evans Glenart. Caed papur gan Mr. Goodman Ellis; anerchiad gan Mr. Hugh Jones adroddiad gan Mr. Evan Evans; cAn gan Mr. Humphrey Roberts; detholiad ar yr offeryn gan Miss Olive Jones cingan Miss Doris Roberts; ac ar amnaid y llywydd, cododd pawb ar ei fud-sefyll am eiliad neu d'dau, i amlygu eu parch i'r milwr mawr oedd wedi cael eihyrddio i dragwyddoldeb mor sydyn y noson cynt—Arglwydd Kitchener. Y mae'r Parch. Lodwig Lewis, Seacombe, wedi derbyn galwad i fugeilio eglwys Cruglas, Abertawe, yn ddilynydd y Parch. T. E. Davies, Treorci. Yn 1891 y daeth Mr. Lewis i Liscard Road. Merch Dr. Owen Thomas oedd ei ddiweddar briod, ac y mae iddo fab yn y Fyddin. Y mae'r Parch. E. J. Jones, B.A., Llangernyw. wedi cael rhyddhad gan ei eglwys i ddod i efengylu i'r milwyr Cymreig yn LItheHand yma. Bu mawr flas ar genadwri a gwaith y Parch. D. P. Jones, a ddaeth yma i'r un gwaith o'r Groes, Dinbych. Mor anwastad yw dylanwad y rhyfel. Clemio a methu cael deupen y llinyn at ei gilydd y mae llawer o deuluoedd gweithwyrtrhai mathau o waith; end bancio wrth y dyrneidiau y mae crefftwyr yr ierdydd mawrion yma, a rhai ohonynt yn gweddio am hedd- wch a'r genau ac am i'r Armagedon barhau a'r galon. Gwelir oddiwrth hanes y Cyfarfod Misol ar tudal. 5 fod y Parch. R. Aethwy Jones, M.A., wedi dywedyd amryw bethau diddorol a theilwng o sylw wrth drafod ystadegau'r nwyddyn. t Yr oedd y Parch. R. W. Roberts, B.A.,B.D., Peel Road, yn un o'r wyth cennad a bregethai yng Nghymanfa Bethesda Fawr yn Arton y Suigwyn hwn. Y mae Mr. R.O. Eamts, B.Sc., o Laboratory Port Sunlight, wedi cael ei benodi i swydd gyfrifol gyffelyb ond uwch dan gwmni y British Dye yn Huddersfield, lie y mae ffrwyth ymennydd gwyddonwyr yn cael ei grynhoi i'r amcan o ennill y diwydiant hwn yn ol o ddwylo'r Ellmyn, oedd medi medruso ac elwa cymaint oddiwrtho rhagor y ni. Mr. Eames yn un o blant Bangor, ac yn gefnder a Dr. Gwilym Owen, Prifysgol Lerpwl gynt, Prifysgol Auckland bellach. £7,752 oedd gwerth ystad y diweddar Mr. Edward Parry, Westminster Road, a blaenor yn eglwys Anni- bynnol Great Mersey Street. Y mae Pedr Hir wedi sgrifennu drama 3r311- Iorzverth 0 Gaerlloen, un genedlaethol, fel Owain Glyn Dwr, ac i'w llwyfannu ddechreu'r gaeaf nesaf. Dyma'i phrif gymeriadau lorwerth, Gzvladys ferch Seisyllt, Tr Arglwydd Brews, Mailt (gwraig Brews), 1- Brenin John, a Charadoz-math ar gomedian direidus ac anturiaethus sy'n gwlwm a llatai campus rhwng lonoerth a'i Wladys, ac a ddyry gyfle i lygeidiwr ac ymnyddwr ystwyth fel Arvon Hope ddangos ei ddawn Yr oedd Chief Petty Officer Hywel Glyn Roberts, mab Mr. a Mrs. John Roberts, 128 Bedford Road, Bootle, ym mrwydr fawr Mor y Gogledd, fel peirian- nydd ar y Barham, llong newydd o faint y Queen Mary, a niweidiwyd yn dost ond a ddaliodd aryr wyneb. Disgynnodd un o ergydion y Germanlaid i ganol y sachau blawd, ac onibae i hyriny dorri ei nerth, y tebyg ydyw maj'n ysgyrrion y biiasai'r Ilong a'r cwbl. Ymunodd Hywel Glyn a'r llynges ar ddechreu'r rhyfel; ac y mae iddo ddau frawd yn y fyddin Ogwen Lloyd Roberts, Lieut. yn y Royal Welsh Fusiliers, ac yn Ffrainc ers tair wythnos a'r Preifat Elwy Clwyd Roberts, 3rd Batt. Liverpool Pals, ac yn Ffrainc ers chwech mis. Y mae Master Wm. Ivor Jones (mab Mr. a Mrs. Wm. Jones, G. & L.T.S.C., Glover Street) a Master Griffith John Williams (mab Mr. a Mrs. D. G. Will- ams, Willmer Road) wedi ennill ysgoloriaeth wert h 1 Lg 15s. am bedair blynedd i'r Birkenhead Institute. Da mechgyn i. Dyma chwi wedi rhoddi eich troed ar ffon gyntaf yr ysgol sydd a'i phen yn Rhydychen a Chaergrawnt. Mynnwch gyrraedd ei chrib, îJ1 dau AT r MOTOR AMBULANCE- ¡; C Dosbaith Mr. J. R. Williams (Ysgol Prince, Road1) Crwvdr Rabv Mere, trwv Mr. M. G. c. I Roberts. I 15 0 I Drwy H.E.R p 2 6. Cyfanswm yr hyn a gafwyd, £436; £64 yn cisiau gwblhau'r £ 500. :j:t' yr TsMT GwAMA, EDGE LAKE.—Nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf, cafwyd cAn 3" Tylwyth. Teg gan y Br. Ernest Hughes. Adroddiad gan Miss Jones, o Birkenhead. Hefyd gair ar Sut i lwyddo fwyaf ar y Deml, gan y Br. R. O. Jones, J. M. Evans, Henry Davies, G. Davies a'r Prif Demlydd. Llywyddwyd gan y Prif Demlydd Br. John Williams.—Cymraes.
Advertising
CYHOEDDI Eisteddfod Genedlaethol 1917 Eir drwy'r ddefod hen a hudol hon 41 .JI Ym Mharc Birkenhead DDYDD SADWRN, MEHEFIN 24ain, 1916 Yr Orymdaith i gychwyn o'r HA YMARKET 2.30, a'r Orsedd i w chynnal ar CANNON HILI;, pen ucha'r Pare, amdri ar y gloch. MUT* Dewch yno'n llu, ac mewn pryd, cyn i'r estroniaid cenhedlig lenwi'r cylch, fel na bo lie ichwi weld a chlywed.
Advertising
YN EISIAU. (GENERAL SERVANT; respectable Welsh T family. Apply, Adams, Trefdawel, Watton Park, Liverpool. "U_ _< CYNHADL F.DD FELBL/ilDD MUNDESLET (yr unfed ar dd-¡:).-Oherwydd y Rhyfel, cypheHry Gynhadledd—yr unfed ar ddtg, a'r Parch. G. Camp- bell Morgan, D.D., ynllyv.ydd ami—yn Llar drindod deni, Cprffennaf 3ydd i'r i4eg. Ebagien y trefniadau pregctku, darlitfiau, etc., yn baiodac i'w chael drwy anfon amlen (foolscap) a stamp i Mr. Arthur E Marsh, Westminster Chapel Buckingham Gate London, S.W. D EPUTATlON SECRETARY wanted to represent the British and Foreign Sailors' Society in North Wales and Liverpool (Welsh), age 35 to 40. Bi-linguist. Good salary given. Apply with full particulars to Secretary," 680 Commercial Road, London, E. Welsliilc,M. Church- Connah's Quay TheSixth Annual Eisteddfod & Band Contest will be held on Monday, Aug. 7, 19 1BANK HOLIDAY) Adjudicator, D. D. PARRY, Esq., A.P.C.M. r ist of Subjects Hd. post free to be hnd from- D. L. Williamsi, 34 Salis-bury St., Shotton. J. J. Jones, Bryntirion, Beaconsfield Rd., Shotton, BARDDONIAETH GOBJONWY OWEN. ..1 J Obwecbed Argraffind. Gyda BywgraflfiaA gan Pedrog a Llyfrbryf. Amlen, lb. Swydd,fa'r "Brython," Lerpwl., Swyddfa'r "Brython." Lerpw!. ? i Printed and Published by the Pro- y r rhetors, Hugh Evans and Sons, 3,qt.& » Stanley Road. Liverpool, In the Cowatfcj of Lancaster. Tel 901 Bootle.
CYMANFA'R SULCWYN ey Mtill…
Parhad 0 tudal. 5 --I Duw'n mynd yn araf er mwyn i ti a finnau fedru cydgerdded agO. Y Parch. J. PüàSTON JONES, M.A. • Fe.darawyd y cyweirnod yn hollol deg gan Mr. John Owen ar y dechreu. Ffyddlondeb carictor, ac nid ffyddlondeb peiriant, yw ffyddlondeb y Brenin Mawr. Ymaf; yn cael ei gyffelybu yn yr adnodau yma i ffyddiondeb Duw mewn natur. A dyna yw deddfaxi natur yn yr Hen Destament—cyfamod Duw mewn dyn. Duw'n gwneud Ei Hun yn Un y gall dyn gydweithio ag Ef a ehyfrif arno. "Cyfamod fy hedd ni syfL" Gwyliwn" feddwl yn beiriannolim.ffyddlondeb y Brenin Mawr. ■ Yr ydym yn meddwl am Dduw fel rhyw swm gwas- tadol o rym-ffrwd o ddylanwadau. D.yna yw Duw gan ryw bob!; y mae olwynion ei ddeddfau yn mynd ydynt, ond y maent yn mynd yn araf iawn hefyd. Gallwch feddwl am Dduw dan ffigyrau fel yna, fel rhywbcth sydd yno o hyd. Gwnewch y defnydd a wneloch ohono, y mae Ef ei Hun yr-un fath. Y digyfnewid peiriannol yma y mae rhyw bobl yn son am Dduw nes peri i chwi feddwl fod ei gyffwrdd yn rhywbeth tebyg i'r grisiau cerdded welwch chwi yn Llundain, y moving siaircasc--grisiau yn mynd i fyny yn araf deg, rhyw ddwy filltir yn yr awr. Os cerdd- wch chwi mi ewch dipyn cynt, ond mi ewch sut byn- nag. Y mae rhyw syniad fel yna am alíu'r Brenin Mawr—rhyw alluoedd yn mynd yn gyson, ac yn ein cario gyda hwy. Ac yr wyf yn meddwi mai'r,ffordd yna y cododd y ffrwd o ddylanwadau." Ysgubo dynion yn eu blaenau, pa un bynnag a wnelont hwy rywbeth ai peidio. Ond yr wyf yn credu fod ffydd- londeb Duw yn rhywbeth mwy na hynny—yn rhyw- beth byw iawn. Duw y mae personau tebyg iddo ei Hun yn effeithio arno yw ein Duw ni. Hynny ydyw, y mae rhywbeth ganddo, peth a wna Inni gydweithio gyda Ef. N!d y woM'M? ?Mtf?M. Nid dyna yw Duw, n f? cymeriad a natur yh ateb i gymeriad arall, na fedr.o ddim peidio ag, ateb os bydd rhywbeth a wnaiff ei jdro yn rhywle. 'Y mae yh mynd ato, ac yn ei gynorthwyo ac yn ei godi. Duw yn respondio i'w greadur yw ein Duwni, yn rnynd igyfamodâ dyn, ac yn gwahodd dyn' i gydweithredu ag Ef e; Hun. "Duw gyda ni. Duw'nsytWiafno'm. Ac y mae y peth a wnelo Fo yn dibynnu i fesur ar ein bod ni yn gwneud rhywbeth. 'Fvdd Ef eiHun ddim yr un fath'wrth'inriifdd pi far^i'w fWriadau sgy bydd wrth inni fod yn fywiddynt.. Mi fedrro ran rnedru, ysgubo pethau yn eu blaenau-yri anrlibynnol arnom, ond ,riid' dyna'i garicto'r;- 1Aè y mae el gytundeb amyn rhwym' arno. Y mae wedi clymii eThun. Ei fusn'es o yw- ?"? ti d w c d i gwybod sut''y.!mae.'wcdi'gwHi?ud.' Y"mae wcdi rhwymo'i Hun na ddigiwn wrthyt ac na'th geryddwn." Y mae wedi mynd i gyfamod a dynion, ac wedi gosod ei enfys yn y ewrnwl, ei fod yno, a'i fod yn cyd.weithio â n1: Y mae aminni gyd- weithio ag ef yn y greadigaeth =-pryd hau, pryd medi, ha a gaeaf, ni phaid." Ewch chwi ymlaen. ai chymryd yn ganiataol y byddaf gyda chwi. Nid yw Hwn ddim yn. symud heb i ddynion symud efo Fo. Byddai Robert Roberts, Clynnog, yri dweyd fod maddeuant ac ediie] rwch fel yr edau a'r ncdwydd, ebe r edau wrth y.nodwydd Dos di i ba le b"nna. y medrot fynd, mi ddof ar dy ol." Y Duw mawr yn blino yn y mater, yn gweld ei bobl yn mynd dan draed. Sut na ddeffroal o gysgu, ac fel cadam yn bloeddio gwedi gwin ? Y macyn rhy ffyddlon icido'jl Hun i symiid. yil y petbau mawr yma nes byddo dynion yn barod i symud efo Fo.. y mae'n ddigon doeth, yn, ddigon niedrus yn ddigon craff i ysgubo pob gwrthwynebiad o'i flaen. Ond nid DuwHalIalluog yn Unig ywDuw, ond Duw Cariad. Ac un peth na fedr cariad mo'j wneud yw, symud ei bun. Y maent yn dweyd nad yw Natur ddim yn hoffi gwagle'; nid yw Duw'n ei hoffi. Deddf cariad yw symud rhywun gydag d. Gwell gan gariad gymryd ei .amser y rnae pobi :111 methu ei ddeall. Er pan hun&dd y tadau, y mae pethau yn aros fel yr oeddynt o ddechreu y greadie- aeth. fcJ.ynaybuacybydd.hi." Nid ydych yn ei ddeall. VNjd yw'r Arglwydd yn oedi ei addewid, ond hirymarhous yw Efe tuag'atom ni, beb ewyllysi bod neb yn go'Uedig, ond dyfod o bawb i edifeirwch." Sut y mae yn mynd mor araf deg ? Er mwyn cael rhai i'w ganlyn y mac. Ymdroi y mae er mwyn gweld a ddowch chwi efo Fo. Sutna wnaeth rywbeth o'r blaen ? Pryd y gwelwyd mwy o eisiau'th law ?" Disgwyl dy gael gyda mi yr ydwyf, medd Dow. Y mae Ei-gyfainod wedi ei giymt; wrth grcadur bach fel ni. Yr oedd Esau yn cynnyg bcnthyg ei filwyr i ddanfon Jacob adref. Yr oeddynt wedi eu magu ar yr un aelwyd, ond yr oedd Esau wedi anghofio sut tin oedd Jacob, ac fe gynhygiodd ei filwyr i'w ddanfon ef a'i deulu a'u golud adref. Na, diolch iti, medd Jacob. Mi awn adref mewn diogelwch. Nid ydym yn arfer marchip. Yr ydych chvvi niewn training, Rhaid i filwyr gerdded yn y pace eu hunain.tkirtl, inch pact Pwy sydd i set!o sut y mae'r m i]wr i fynd ? Y cawr y tywysog. Pwy sydd i roi marching orders i'r ffermwr ? Y gwannaf, y lleiaf, sydd i dclweyd yrna. Duw y cariad yw ein Duw ni; y mae yn medru gwneud fel a fynno. Lluniwr y mynyddoedd.. Creawdr y gwynt,y r Hwn a dywylla y.dydd yn nos, ac a gerdda ar uchelderau y ddaear. Nid dyna'r cwbl. "Yr Hwp a fynega i ddyn betb yw ei feddwl. Y mae Duw yn medru brasgamu o glogwyn i glog- I wyn ydyw, y mae yn medru, ond gwell gandde- fynd yn araf er"mwyn cael sgwrs a'i blentyn. Gwelf ganddo gymryd yn araf deg er mwyn eich cael chwi a finnau i gydgerdded ag 0. Ac wedi ein cael ni i'r llwch i ddechreu, welsoch chwi crioed mor fuan y dwai ei fwriadau grasol i ben. Y mae Duw yn anfodloJl symud heb gario ei greadur gydag Ef. Dechreuwyd y Seia t drwy ddarllen a gweddio gan y Parch. T. Jones, Rhostyllen fe'i dibennwyd drw-v, weddi gan y Parch. W. D. Rowlands, Caerfyrddin Mr. G. W. Hughes, G. & L.T. S.C., a arweiniai'r canu Miss Edith Jones, L.R.A.M.,F.R.C.O., oedd wrth yr offeryn. cyrhaeddodd y casgliad fx8 sos., s dyma'r casgiiad mwyaf a gafwyd erioed yn y Seiat Fawr, rhyfeI neubeidio.