Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

FY MHUMP I

Clep y Clawdd sef Clawdd Offa

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EISTEDDFOD ABER YST W YTH.-Nid oes mwyach ond ychydig amser cyn cynnal yr Wyl Genedlaethol yn Aberystwyth, ac y mae'r Pwyllgor wrthi'n brysur yn darpar. Yn ol pob argoel bydd llawer o gystadlu yn y gwahanol gystadleuaethau, yn enwedig yng nghystadleuaeth y corau merched. Gan fod y brif gystadleuaeth gorawl wedi ei thorri allan mae'r ail gystadleuaeth yn awr wediel chodi'n brif, a disgwylir y bydd ymryson tyn am y wobr. Cynheliryr Eisteddfod ddydd Mercher adydd lau, Awst 16 a 17 a'diwrnod dilynol -sef dydd Gwener, cynhelir cymanfa ganu genedlaethol. Mae cwmniau'r rheilffyrdd wedi addo trenau arbennig argyferyr wyl, ac y mae hynny yn dipyn o ffafr ar hyn o bryd. Bydd Mr. Lloyd George yn llywyddu'r ail ddiwrnod, a chan ei fod yn cymryd cymaint diddordeb yn y Gymanfa, diau yr erys hyd ddydd Gwener. Hyderir y cymerir rhan gyffredinol yn y Gymanfa Ganu, ac y gofala arweinydd canu pob capel ac eglwys i anfon at ysgrifennydd yr Eisteddfod am raglenni'r tonau. Ceir dros hanner cant o donau eidvvy anthem yn y rhaglen, ac fe'u gwerthir am 4d. (Solffa) a 6d. (Hen Nodiant) a chan y bydd galw mawr amdanynt, goreu po gyntaf yr anfonir archeb. Ceir rhestr testynau'r Eis- teddfod oddiwrth y Mri. James Davies a'i Gwmni, South Wales Press, Llanelli,-Sd. drwy'r post. Gwasanaethir yn y cyng- herddau gan Gor yr Eisteddfod, a chan gan- torion uchel iawn ym myd y gan. Cofied y cystadleuwyr fod ys enwau a'r cyfansodd. iadau i fod ynllaw yr ysgrifennydd cyffredinol erbyn y lOfed o Orffennaf.

Advertising