Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

-V- ]I -Gotten Cymtfo, yp…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

-V- Gotten Cymtfo, yp no Oddieactpe Bethel (A.), Ashton-ik-Makerfield.-—■ Collodd yr eglwys uchoci yr wythnos ddi- weddaf chwaer ieuanc trwy angaa. Merch ydoedd i Mrs. Macdonald a chwaer i'r Parch. Emlyn Macdonald, gweinidog Bryn Seion (A.), Gilfach Goch, Morgannwg. Yroedd yn ferch ieuanc ffyddlongydagwaithyrArglwydd ac o gymeriad pur; diodd efodd ei chystudd yn d awel 'a d irwgnach. Aeth ad ref at. yr Iesu fore d yd d Mercher, Gorffennaf 12. Daeth llu i hebrwng ei gweddillion prynhawn dydd Sad wrn. Gwasanaetliwyd. yn y capel ac wrth i y bedd gan y Parch. W. Harris, B.A. (Anni- bynwyr Seisnig), ac E. Rogers (Carmel, M.C.). Teimlirhiraeth trwm areihol, achydymdeim- lir yn fawr a'r teulu yn eu trallod. blin. Rhoddwyd wreath gan yr eglwys a'i chyfeill- ion.-Aelod, BIRMINGHAM.-Blin gennym orfod cofnodi marwolaeth a chladded.igaeth Mr. Thomas Jones, Small Heath. Bu yma am dros hanner can mlynedd, a gwnaeth ei ran gyda phob mudiad d aionus ymhlith y Cymry o bob enwad. Blaenor parchus gyda'r Methodist- iaid ydoedd, ae ymae'rcyfundeb ynddyledus iddo. Yr oedd yn fawr ym mhob cylch y troai ynddo fel cerddor, blaenor, a dines- ydd. Yr oedd yn aelod o Gymdeithas y Brythoniaid o'r cychwyn, ac o bwyllgor Eistedifod Cymry Birmingham. Bu'n gadeirydd i ddegau o gyfarfodydd neilltuol y 8t ahanol enwadau. Ni fyddai byth yn gwrthod. Byddai ei galon a'i bwrs o blaid yi d a ymhob agwedd arno. Colled f awr y w coll dynion o'i 'fath. Cafodd glatldedigaeth tywysog, ar y 12fed cyfisol. Diau y ceir ysgrii deilwng ohono yn un o gylchgronau Cymru, gan law fedrus. Ni amcenir yma ond cofnodi ei ymacl awiad.-Gohebydcl. CAPEL M.C. MIDDLESBROUGH-Y Saboth cyn y di weddaf, cynhaliwyd cyfarfod blynyddol Ysgol Sui yr Eglwys uchod. Y bore, pregethwyd ar Werth a dylanwad yr Ysgol Sabothol, gan y gweinidog, y Parch- R. Pryce Jones, B.A., a datganodd cor y plant yn hynod swynol. Y prynhawn hefyd, cafwyd gwas- anaeth gan gor y plant, o dan arweiniad Miss Elsie Thomas a Miss Sarah Evans. Mr. Pierce Edwards, un o aelodau ffyddlon yr eglwys, a brodor o Gonwy, a lywyddai. Dygodd dystiolaeth uchel i dalentau'r plant a gallu eu hathrawesau. Rhannwyd y gwobr- wyon gan Mrs. Richard Jones. Yn yr hwyr, o dan lywyddiaeth W. R. Brackenbury, Ysw., mwynhawyd oedfa gerddorol gan y cor—Mr. Harry Jones (Pwll- heli) yn- arwainfedr arferol. Y darnau a ganwyd oedd 0 Gladsome Light (Sullivan), The Snow (Elgar), a Hear my prayer (Mendelssohn). Ni chlybuwyd y fath ddatganiad ers amser maith. Canodd Mrs. Alec Thomson yr unawd yn Hear my prayer yn odidog tuhwnt, a chodwyd y gynulleidfa anferth i dir uchel gan Mr. W. J. Jones (Stockton), a ganai Father, why hast Thou forsaken Me ? Yn y sain moliant, hawdd ydoedd addoli a gogoneddu Duw. Mae llewych ac eneiniad ar gyfarfodydd yr eglwys, a phair hyn lawenydd nid bychan i ni. Wythnos i'r Saboth, bu'r cor yn cynorthwyo eglwys y Primitive Methodists. Llywyddwyd yn ddeheig gan Mr. E. Denis Owen. Swynwyd y Saeson gan wefr y canu Cymreig. Da gennym weithiau fod yn gynorthwyo i eglwysi'r dref.

-I IClep -y Clawdd I

Advertising

Advertising