Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

l& oI wOWN GOSTEG. I

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

l& oI wOWN GOSTEG. I BRECHTAN LJNSL—Rhag bod rhai ohonoch yn cosi pen wrth ddyfalu pa fath ar trechtan ydyw brechtan linsi (y gwelir colofn ohonynt ar tud. 4; dichon y byddai'n well dywedyd yma mai un fel hyn oedd hi ym Meirionydd yr adeg y byddem nt'n gwaeddi "rweis wan Ar rw yno. sut fcynna? y mae hi hed-(iyw,- Tafeil o fara amyd un tu iddi tafcll o iara c-feirch y tu a rail caen trwch o dringl yd- rhyngddynt. i'w cymodi a'u cael i lynu wrrh ei gilydd, drwy'r tew a'r teneu. Ac ar adegau pur arbennig-megis y dydd yr ynillid gwobr yn yr ysgol bob dydd ueu ynteu yn y cyfarfod cystadleuol nos Nadolig, neu ynteu pan ddigwvddai fod pregethwr acw i giiiio,-cnern, fe gaem ymenyn rhyngddynt ar adeg felly. A dyna ddiwrnod mawr yng Nghalendr y Cylla oedd y diwmod hwnnw, yn enwedig os byddai'r ymenyn yn nhyllau'r crystyn caled. Os derfydd y rhyfelrhyw dro, ac y daw'r wlad wirion ati ei hun ac i ail ddechreu darllen rhywbeth heblaw rhaffeidiau y gohebyddion blebrog a dibns i'r gwir yma, carem gael naddu blaen ar y bensil i sgrifennu dwy gyfrolen ar gyfer y to sy'n cyfodi ar aelwydydd ac yn ysgolion elfennol a sirol Cymru heddyw. Dyma'r ddwy sy'n fy ngogleisio ar hyn o bryd ;— i-BRECHT.4N LINSI sef profedigaethau bore oes; mwynder afiai th y dyddiau gynt; a hanes troeon trwstan mewn Llan a Chapel ac Ysgol, cyn croesi rhiniog yr hen gartre a mynd i'r byd mawr hwnnw oedd tuallan i'r hen fwthyn. 2-HEL Mwr AR DUON sef myfyrdodau dyn wrth droi'n ol tua'r hen fwthyn ac edrych i fewn i fasged ei brofiad er mwyn pigo'r pethau addfetaf a melysaf a heliwyd oddiar lwyni drain pigog y byd a chael fy nghripio a fy ngwaedu ganwaith wrth estyn at y mwyar uchaf a brasaf. Ond cyn eu hargraffu, fe'a dangosaf i rai o ysgol- feistri Cymru-y gwyr mwyaf cyfarwydd a'r bwyd-llwy iachaf a goreu i cgin y genedl. Hylo dyma un o'r urdd honno i fewn y munud yma—Mr. J J. Williams, prifathro Ysgol Uchelfennol y Cefnfaes, ac ynddijdrichant oieuenctyd Bro Bethesda dan ei ofal, Beth yw eich barn, J. J. W. ? Wel, dyma hi'n fyr, gan nad oes gennych ddim lie i fanylu a chael y ffeithiau'r llawn "ac yn g!ir :-Fod yna do o ysgolfcistri yng Nghymru heddyw sydd yn cam eu gwlad a'u hiaith a'u llenyddiaeth o ddifri calon, ac yn awyddus i achub pob cyfle i gael chware teg i'r pethau hynny yn yr ysgolion end er cystal yw amryw o'r llyfrau a gafwyd ei;ys, y mae yna fwlch mawr yn aros o hyd am ddigonedd o lyfrau Cymraeg addas i'w dodi'n faes darllen i'r to sy'n cyf- odj; a 'does yr un gymwynas fwy y gallai llenorion ei gwneud i'w gw!ad na sgrifennu cyfres o storiau neu bortreadau neu ddramau, gweddus o ran arddull a swyn drisgrifiadol, a phopeth ynddynt a'i osgo i ennill bryd y llanc a'r lodes sydd a'u greddfau'n ymagor a gofyn am lyfr fel yr ymegyr y ddeilen i j ofyn am y gwlith, goreu. Cawn weld, J.J. Lwc i chwi alw heibio, A chan eich bod chwi yma, gadewch imi ddiolch i chwi am fwydo trichant y Cefnfaes a'r gwlitli gwladgar a gawsant ar hyd y blynyddoedd gan eich dau ragflaenydd-Iwan Jenkyn a Crowther, ac am ofalu i'w cadw'n gyfarwydd a theleidion lien Cymru, a'i halawon a'i phenillion telyn ac arall ;-me,,A-n gair, am fedru eu cadw dan hud a Hedrith diddan yr hen Gymry heb egusluso eu cadw'n un mor effro ac awchus i ymgyfaddaru ar gyfer y byd chwym a chystadleuol sydd yn rhwym o ddod i'w nol hwy i'w grochan toe. Fe fydd ar y merlyn yma fynych flys carlamu acw i weld eich trichant macwyaid a'u hathrawon, end fod ebran a phedolau newydd yn Sidw mor ddrud adeg y rhyfelgas yma. Da y gwyddwn, pe'r ymollyngwn i ymgomio am d drama ac am lenorion, y buasai ar ben parotoi dim rhagor y gopi heddyw; a beth a wnaed end estyn private scrapbook Ceiriog iddo. A rhwng dau glawr y crair cu hwnnw y mae ei ben byth. ENGLYNJON r PORT READ.—Gweiwn fod amrywiaeth barn pwy a wnaeth yr englynion dis- grifol o bregethwyr y pum enwad, sef o offeiriad yr Eglwys Uladol a'i pedwar cyfundeb Ymneilltuol, Etyb Gwili, Gol. Seren Cymru, mai'r Parch. D. G. Jones (M.C.) Pont ar Dawe, a'u gwnaeth gohebydd arall a dywed wrthym mai Dewi Havesp biau'r un i'r Pregethwr Methodist, a'r Parch. Fred Jones, B.A., B.D., Rhymni y gweddill. Pwy a dyr y dadl. LLrFR CANU ABERrSTWrTH.Does yr un o'r gethern mor hawdd ei godi ac mor anodd ei ostwng a Chythraul y Canu, yn enwedig os byddo Satan y Sect yn aros yn yr un ty; ond drwy ofal mawr a mwyneidd-dra tuhwnt llwyddodd y pwyllgor a ddetholodd Lyfr Cymanfa Ganu Aberys- twyth i wneud gorchest anodd i neb godi bys atynt. Nid yw'n gwbl ddiwall, wrth gwrs a dyma air o foliant a beimiadaeth amo sydd yn y Welsh Outlook am y mis hwn :— A timely protest appears in the preface against the tendency of some editors to interfere with the tunes of some of our best composers. Reference is specifically made to the tunes of J. Ambrose Lloyd. Although the CaHinistic Meth- odist tune book comes deservedly under the lash, for making small alterations, it can boast of finer harmonisations of Welsh tunes (Alawon Cymreig) than some of those which appear in this programme. leuan Gwyllt still holds his own in the way he harmonised such tunes as Llangoedmor and Gwaboddiad. He would never be guilty to the crudeness of the last line of the former tune as it appears in the Gymanfa programme. Certain features in the treatment of Crugybar and Hen DJarbi are calculated to worry the uninitiated as much as the connoisseur. Bydd cyfle i Bwyllgor Birkenhead (Eisteddfod 1917) efelychu'r ami gamp sydd ar Lyfr Aberystwyth, ac ysgoi'r ambell remp sydd amo. š4 I O BEN r BREIDDEN.-Diolch am lythvr o'r lie y mae Sir Amwythig yn cusanu Sir Drefaldwyn, a He y mae'r iaith gyffredin, er mae Saesneg y hi, yn cael ei hacennu'n ol rheolau'r iaith Gymraeg, megis y dengys yr ymgom a ganlyn a glywir dros y gwrych rhwng dau hwsmon weithiau :— How be you, Wm. Jones, Hafod ?" Bad reit, got a griping in my breast, Huw Price y Keel. 0 diar I know for a remedy for you, ebe'r Hall, ac nid remedy. Iaith digon rhyfedd sydd ymhob man lie byddo un yn dod i fewn a'r llall yn graddol fynd allan. A dyma'r swn pruddaf a glywais i yn f'oes :— I-Swn oen wedi colli'i fam. 2—Swn bardd wedi colli'i gadair. 3-Swn yr hen Gymraeg yn marw yn ymyl CJawdd Offa. Y mae gennyf gyhoeddiad maes o law heb fod aepell o'r Breiddin, ac hoffwn ddod i'ch gweled, gael fod yno ddau'n siarad Cymraeg am y waith gyntaf ers dau can mlynedd. PWNIO PE.IVELIN.-Rhoddasoch eithaf enw ar y dull hwn o boeni gwyr y wasg am gyhoeddus- rwydd a phe gwrandawai ddyn ar bob pwniad a ga, feyddai ei benelin yn gig noeth er ystalm. Ond rhaid bod yn onest cyn y gellir fforddio bod y gymwynasgar, er mai dyma'r gwir sydd a mwyaf ufuddhau iddo mewn ami swyddfa Os mynnet gael hogi dy fwyell yn iawn, saim canmoliaeth a dry'! olwvn gyflymaf ni. CHWARE TEG I'R DEFAID ERE ILL.—Yr ydym yn mawrhau eich sel a'c h amcan ond peidiweh a phydcru cymaint am bobl sy lawn mor ejddgar a chwithau dros y gwir-serch eu bod yn ei el -ir a ?ros v gw i r, weld yn wahanol i chwi. Gair cynnes iawn i rai yw hwnnw gan v %Iei,tr A defaid creill sy gennyf y rhai nid ynt o'r gorlan hon. A gwir eisiau ei ddywedyd cilwaith wrth rai poM dda yw hwnnw a ddywedodd Frederick Newman wrth benhoethiaid culfarn ei oes ynrsu To set up any fixed creed as n test of spiritual "charaCtt>T is a most most unjust, oppressive and mischievous superstition." a Mr. J. E. Morris )Iri. Morris a Jones) yngh yIch y llyfr Northern English. Anfonodd ddwywaith at Mri, Triibner, Ludgate Hill, a dychwclwyd ei. lythyr y ddau dro a "gont away" ar yramlen. Tebyg mai Germaniaid oetfdynt, a'u bod bellach yn cyhoeddi melltithi n yn He cyhoeddi llyfrau. Gwelwch fod cich englynion i Verdwn wedi bod yn ystafcll Pcdrog-a chael dod allan hefyd, a hynny heb yr un marc amynt. Pob parch i'ch Andes chwi, ond yr Wyddfa a'i hawdl o fynyddoedd i ni! r CHWI srDD AM 1'1<. GYMRAEG Fl'W,— Darllenwch yr apel a ganlyn, a gofelwch bawb ohon- och a fo yn Aberystwyth, fynd i'r cyfarfod-yr uuig gyfarfod ynglyn a'r Eisteddfod nad yw y Twrch Trwyth na'i lydnod i gael mynd iddo At garedigion yr iaith 1'n 'gytJredinol, ae at Gymry Dyfed yn arbennig. Cynhelir cyfarfod dan nawdd Undeb v Cymdeith- asau Cymraeg yn Neuadd Coleg y Brif Vsgol, Aberystwyth ar fore'r cadeirio (lau, Awst 17, 1916) am r J ar y gloch. I adran Dyfed-siro-,dd Caer Fyddin, Pcnfro a Chcredigion-y trefnir y cwrdd yn fwyaf nciJltuoL ond bydd croeso calon i gyfeillion o bob man. Llywyddir gan Mr. E. T. John, A.S., (Llywydd yr Undeb); anerchir y cyfarfod gan Mr. Dan Jenkins, C.M., Ysgol Lian y(Crwys y Parch. J. Jenkins, M.A., (Gwili); a swyddogion yr Undeb. Y Gymraeg yn siroedd Dyfed fydd pwnc y cyfarfod. Bwriedir sefydlu Cymdeithas Gymraeg ymhob tref a phentref yn yr Adran a cheisir egnïo ymdrechion aelwyd, eglwys, ac ysgol ar ran yr hen iaith. Mae'r mudiad yn un pwysig drwy'r holl wlad, am fod bywyd yr iaith yn golygu bywyd a pharhad pethau goreu Cymru. Mae'n bwysicach fyth yn Adran Dyfed am fod cynifer o blanl: y siroedd gwledig yn mudo i barthau gweithfaol Morgannwg. Dymunol iawn fyddai ennyn serch ynddynt oil at elfennau puraf bywyd ein cenedl, fel na phallont yn eu ffyddlondeb iddi mewn ardaloedd newyddion. Taer erfynnirfellyam bresenoldeb pob Cymro neu Gymraes a drigo mewn tref neu bentref yn Nyfed ydd heb Gymdeithas Gymraeg ynddynt. A doed y Cymrodyr hefyd yn gryno i roddi a derbyn ysbrydiaeth. Hyderwn yn fawr y ccir eich cwmni a'ch cymorth. Mae'r maes yn llawn addewid; doed lliaws o weithwyr i feddiannu'r cynhaeaf. Dros yr Adran, J. DYFNALLT OWEN, Caer Fyrddin, Cadftrydd. JOHN HUGHES, Aber Gwaun, Ysgrijennydd. Awst. 4, 1916. YR HEN WAS ,4'1 FARI.—Y mae pymthegfed llith yr Hen Was o'i Lofft Stabal wedi cyrraedd, ac a ddaw yr wythnos nesaf. Erbyn ei darllen, gwelaf mai baich hon ydyw y genethod gweini'n gyffredinol a'i Fari ef ei hun yn neilltuol felly. A dyma fy marn i amdani, yn ddibetrus :—Fe ddarllenais ami i lith yn f'oes, ar bob math o bobl a phethau ond yr un crioed fwy naturiol a doniol a chyrhaeddgar na hon. Y mae doethineb a doniolwch wedi eu cyfleu mor daclus ynddi ag ydyw gwyn a melyn mewn wy a rhyw bupur a halen blasus ganddo ar bob llwyaid rywsut. Y mae ganddo lawer iawn i'w ddywedyd y tro hwn am y "merchaid yma" sydd yn mynd o'r trefi i weithio ar ffermydd, ac ambell bwyth yn gymysg a'i bluen. Petaswn i yr Hen Was, fe gyhoeddwn Lithoedd y Lloft yn gyfrol swllt, ac a fynnwn weld copi ohoni ar fwrdd pob ty drwy Gymru. Fe werthai honno yng ngrym ei theilyngdod a'i bias hi ei hun, heb orfod troi at yr un gwr mawr a chyhoedd- us i sgrifennu Rhagymadrodd iddi. Ni raid i steamer S:\f-pTopeUed ddim wrth tug flats sydd raid iddynt wrth help pwff a mwg peth felly. Y mae yna gannoedd wedi gofyn imi pwy ydych chwi.yr Hen Was; ond yr un ohonynt ffeisen callach, er pob cast a chynnyg cil dwm. Chwi synnech nif< r yr enwau a ddyfelid. Ond gollwng y gath o'r cwd ? Na wnaf, byth

I -DYDDIADUR.

Cfhoeddwyp y Cymod'

I CAPEL M.C. RAKE LANE, Ii…

- - - - - - - -Basgedaid o'r…

Advertising