Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
DWYRYD J TEA. Good Tea, is like a good friend whom we never get tired of Try'! DWYRYD Tea-and find the friend you have been looking for.
Advertising
 I -K EE?N ????. 14Self-Raising jttj FLOUR It Makes Perfect Pastry, Scones, êic. Sole Wholesale AGENTS- MORRSS & JONES, Limited. Liverpool and Manchester
Advertising
Beaty Bros MILITARY TAILORS. OFFICERS' UNIFORMS OF EVERY KIND. ALL ACCESSORIES FOR FIELD SERVICE. LOWEST POSSIBLE PRICES. onyA 3810-s Church St. and London Rd., LIVERPOOL. ??  ■ ftssSs* .aturdar*. K. OPhone-3925 lasuh.1 580 Bootle w. Grirnifts s sons. Pilitary, Naval & Civil Tailors, 29SOUTH JOHN ST., LIVERPOOL AUO 349 STANLEY ROAD, 800TLE Complete Military Outfits WFANTRt SWORDS 6 3 with Sword Knot J Nett. Send for Price List. UIUL- J — .1 I. J U Tl IHfll II III iIBi i— A yw'ch Llygaid yn eich blino ? Yw pethau'n troi'n niwlog ac anelwig P Dyna arwydd a rhybidd Rethdod y Uygad, a dylech ga el eu hedrych rhag blaen ea gwaethygu wna'u hosgeutso. Gallwn ni, Ryden hofier gwyddonol, ddweyd wrthych 08 oes arnoch angen gwydrau ac oa felly, eich cyflenwi fr rhai a barai fwyaf o le8 i chwi. Galwchheddyw- I ARCHER SONS Eyesight Specialists, V3 LORD STREET, I Setydlwyd 1349. LIVER Pool. MORRIS [VA'S" Household Oil IS STILL ahead of all other remedies FOR Hheumatism Sciatica, LaID bago. and lATouracls, of all kinds. In bottles 1.¡3 ;? 9 Grocers tfc Chemists, or direct for above prices from MORRIS EVANS & Co., THB MANUFACTORY, WESTINIOGI N. WALES. LIVERPOOL The '• SUAfTESBURY," MOUNT PLEASANT, About i iNtiw. math from Mm* II. III Ctntral &eI. i rst-olaii3 Tana iterance Sotai. Moderate ob rill.: IfeAftesbttiy Hotel, Vpool. Phtu t ASK FOR IDRIS Table Waters In Syphona and Bottle* SODA WATER, POTASH WATER, SELTZER WATER, LEMONADE, DRY GINGER ALE, Etc., etc. iDRIS & Coo9 Ltd., Northumberland St. LIVERPOOL D. GRIFFITHS SON >221 BrecB. Rd,. aDd 9 Moss St.. Voool-I Pianos Sl Organs bv all the leading makers. From 8 ?* per month tjtT,tt!TnwM—466x A.fleld 4 37n MYAL Cofiant y Parch. John Jones, Talysarn. GAN fir. OWEN THOMAS. Fel newydd. Llian, 7s. 6ch, Swyddfa'r/BrythoD, Lerpwl. ROBERTS EDWARDS, | ESTATE AGENTS, 642Kirkdale Rd., Liverpool TeleøhoDeh 12193 lteRI.
EISTEDDFOD GENEOLOETOOL
EISTEDDFOD GENEOLOETOOL [ Y Cyf&rfodydd éilíttol. I Y MAE'n gofod mor fach, a'r Eisteddfod a'i gweithrediadau mor fawr, nes fod yn hollol amhosibl goddef dim mwy yma na chry- bwylliad moel o'r gweithrediadau, er mai hawdd a dymunol, pe buasai He, fuasai nyddu saith neu wyth colofn a fras-nodion am ei phobl a'i phethau. Ar y rhyfel y mae'r bai, ac nid amom ni. Cynhaliwyd dau gyfarfod brynhawn dydd Mawrth y cyntaf, cyfarfod Cymdeithas Lyfryddol Cymru Mr. J. Herbert Lewis, A.S., a'i briod yn croesawu a gwledda'r aelodau yn ystafell braf y Brifysgol; Mr. D. Rhys Phillips, F.L.A., Abertawe, yr ysgrif- ennydd, yn darllenllythyrau oddiwrth amryw ajjfethai fod yn bresennol. Darllenodd y cad- eiryddhefyd, Mr. Evan D. Jones, Y.H., lythyr Cymraeg oddiwrth Syr Ifor Herbert, A.S., yn cyflwyno holl lawysgrifau Llyfrgell Llan- ofer, a gasglwyd mor ddiwyd gan Gwenynen Gwent, ac eraill, yn rhad rodd i'r genedl, ac i'w cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aber- ystwyth. Caed papur galluog a chyfarwydd tuhwnt ar hanes yr Eisteddfod yn y 18fed ganrif gan Miss Elizabeth Lloyd, M.A., a phapur arall, Cymraeg bob gair, gan Lydawr hawddgar a hyddysg a'i fater, sef An Autrou P. Mocaer, ar Dueddiadau Llenyddiaeth Llydaw: dylanwad Cymru a'r Werddon." Siaredir y Lydaweg gan filiwn ahannero bobl. Mae gan y Llydawiaid lenyddiaeth, ond un draddodiadol yw, a choleddir hi gan y werin, ameithrinirhi ganyroffeiriaid. Niphenodir neb yn offeiriad yn Llydaw oni fedro siarad a phregethu yn iaith y bobl, ac mae ganddynt bregethwyr hyawdl; ond mae'r ffaith fod y Llydawiaid yn Babyddion a'r Cymry yn Bro- testaniaid wedi peri i ni gamddeall ein gilydd yn ddybryd, yn gymaint nes teimlodd y Cymry'n angenrheidiol anfon cenhadon i Lydaw i ddwyn y paganiaid at Grist; a thai- odd y Llydawiaid am y gymwynas trwy anfon cenhadon i Gymru, i geisio dwyn y Cymry i'r goleuni. Gobeithio y down i ddeall ein gilydd yn well, a boed i bob un ohonom lynu wrth y grefydd y cred sydd yn iawn. A gawn ni gerdded law yn llaw, a pheidio ag edrych ar ein gilydd fel paganiaid ?—Darllenodd yr ysgrii- e mydd ei adroddiad, gan dalu teyrnged uchel i Syr John Rhys, oedd yn un o is-lywyddion y Gymdeithas, am ei wasanaeth i lenyddiaeth. Derbyniwyd yr adroddiad; dewiswyd Syr Ifor Herbert, A.S., yn is-lywydd yn lie Syr John Rhys. Yr oedd mfer o aelodau'r pwyll- gor yn mynd allan o'u swydd. Ail ddewis- wyd Mr. L. J. Roberts, M.A., y Parch. T. Shankland (Bangor), Mrs. Mary Davies Mus.Doc. (Llundain), Mr. T. Mathews, M.A., (Llandebie), Mr. Hugh Evans (swyddia'r BRYTIION); ac i lenwi'r lleoedd a aeth yn wag trwy farwolaeth Mr. John Morris, Y.H., Llansannan, a dau er$ill a giliai o'r swydd, dewiswyd Syr Vincent Evans, y Profit. J. E. Lloyd, M.A., a Mr. Farr (Llyfrgell Rydd Caerdydd)., Gwnaeth y lienor a'r gwladgarwr ieuanc o Lydaw argraff dymunol dros ben a chanddo fo y cafwyd mwyaf o Gymraeg, a'r Cymraeg goreu braidd, yn y cyfarfod hwnnw. Yr un prynhawn, yng nghyfarfod blynyddol Oymdeithas y Cymrodo rion, cafwyd papur ar A Record Office for Wales the question considered, gan Mr. Arthur Roberts, F.R.H.S. a Mr. Herbert H- Vaughan, M.A., uchel-siryf Ceredigion, yn y gadair. Cynhaliwyd cyngerdd yn y r hwyr Maer y dref, yr Henadur John Evans, yn y gadair; Cor yr Eisteddfod, dan arweiniad Mr. J. T. Rees, Mus.Bac., yn canu Mr. Spencer Thomas, Miss Leah Felissa, Mr. W. Hubert Davies, Miss Dilys Jones, Dewi Mai o Feirion a Thelynores Gwyngyll yn cymryd rhan. Cynhaliwyd yr Orsedd bore dydd Mercher, yr orymdaith yn cerdded yn hardd a hudol ei golwg o Neuadd y Dref i ben y Castell. Yr Archdderwydd Dyfed yn llywyddu lolo Rhys (Mr. Edward Rees, Y.H., Caersws) yn offrwm Gweddi'r Orsedd Llew Tegid a Phedr Hir yn traddodi anerchiadau y Prifardd Job yn coffhau am y diweddar Broff. D. Jenkins, Ieuan Mynyw, a Chranogwen Isfryn yn dweyd gair am Feirdd a Llenorion enwocaf Ceredigion Ap Gwyddon (Dr. Rees, Caer- sws), Mr. D. Samuel, M.A. (Dewi o Qeredigion) a Mr. L. J. Roberts, M.A., yn cyhoeddi detholiad o Destynau Birkenhead gogyfer a'r flwyddyn nesaf; a Dewi Mai o Feirion a Thelynores Gwyngyll yn diddanu'r dorf chwe mil a phenillion a chanu gyda'r tannau. Cyflwynwyd yrAberthged i'r Archdderwydd gan briod y Prifathro T. F. Roberts, a chyf- lwynwyd offrymau eraill cysylltiol g-an ferch y maer a chan Gwenllian Clwyd,—y wraig ffyddlon sydd yn dal i ddod i bob Gor- sedd ac Eisteddfod, o Langollen, ac ym mhais :■ a beown a het gorun hir yr hen amser gynt. Prynhawn dydd Mercher, yn yr Ysgol Sir, cynhaliwyd cyfarfod Cymdeithas yr Eistedd- fod a Gorsedd y Beirdd Mr. Llewelyn Will- iams, K.C., A.S., yn y gadair. Hysbysodd yr ysgrifonnydd (Syr E. Vincent Evans) nad •.oedd E'eteddfod lqls -xedi dod o unman hyd yma, a phasiwyd i ohirio'r pwnc am dri mis. Sylwodd Ficer Aberpergwm nad oedd wedi cael ei awdurdodi i ddwevd dim yn swyddogol, ond credai y byddai Castell Nedd yn awyddus a pharod i'w chroesawu'r flwyddyn honno. Yr oedd Elfed yn gryf o'r fam y byddai'n well cadw'r Eisteddfod Genedlaethol, o hyn ymlaen, ar linellau a maint un Aberystwyth, er mwyn i drefi cymharol fach-fel y Bala, Dolgellau, yn y Gogledd, ac eraill cyffelyb eu maint yn y De, gael cyfle ami. 0 leoedd felly y caffai Cymru ei harweinwyr goreu, ym myd Crefydd, Lien, Awen a Chan, ac nid o'i threfi poblog dylid cofio'r llennyrch hyn oedd yn rhy dlodion a bach i fedru cymryd gwyl bum diwmod, ond a fedrent, gyda chymorth ardaloedd cyffiniol, groesawu gwyl ddau neu dri diwmod. Cyffelyb ydoedd barn y cadeirydd hefyd, a chafodd yr awgrym gryn ffafr yng ngolwg y cyfarfod, er na phasiwyd dim byd yn bendant ar y peth. Da gweled Elfed ac eraill mor ystyriol o hawliau a theilyngdod y lleoedd bach, sydd yn porthi a magu mwy nag nnman arall ar wir anian y genedl. Cy flwynwyd copi o Destynau Eisteddfod 1917 (Birkenhead) i'r Archdderwydd ac eraill gan Mr. J. H. Jones, a rhoes ef a Mr. Arthur Venmore a Mr. Isaac Davies wahoddiad cynnes i bawb i'r *yl honno. Yng nghyngerdd yr hwyr, cymrwyd rhan gan Gerddorfa'r Eisteddfod, Madame May Wayman, Mr. Ivor Foster, Miss Sophie Rowlands, Mr. Purcell Jones, a Chor yr Eisteddfod. I Gorsedd oedd y peth cyntaf eto bore dydd Iau, a chaed anerchiadau oddiar y Maori Llog gan Elfed, y Parch. D. Tecwyn ltvans, Cadfan, a Mr. Llewelyn Williams, A.S. caed anerchiadau barddonol gan Gwynonwy (Birmingham), Gwili, Wnion, Brjfdir, Volander, Gwyndaf, D. Emrys James, Maol Ddafydd (y Tad Kane, offeiriad y ddiadell Babaidd sydd yp. Llandrindod), Awen Mona canodd Dewi Mai ei benillion a Thelynores Gwyngyll ei thelyn cyhoeddodd Ficer Aberpergwm faes arholi'r beirdd y flwyddyn nesaf; Mr. J. T. Rees, Mus.Bac., faes y cerddorion a chyhoeddwyd rhai o destynau llenyddol Birkenhead gan y Vinsent ac ar y diwedd aeth Mrs. Mary Davies,Mus.Doc., i ben y Maen, i ganu Hen Wlad fy Nhadau, gan ddangos fod peth o f elyster ei llais godidog yn aros o hyd yn y He y dylifai mor wefreiddiol ohono i swyno miloedd y dyddiau gynt. Yng nghyngerdd yr hwyr, llywyddid gan Mr. D. Davies, A.S., a chymerwyd rhan gan G6r yr Eisteddfod, Mr. David Evans, Miss Agnes Nicholls, Mons. Nicolas Laoureaux (crythor chwim a chyfarwydd o Felgium] Cerddorfa'r Eisteddfod, Dewi Mai o. Feirion,. a Thelynores Gwyngyll. Yn y bore, am 11, yng Ngholeg y Brifysgo T cynhaliwyd cyfarfod Adran Dyfed o Undeb y Cymdeithasau Cymraeg Mr. E. T. John, A.S. (llywydd yr Undeb) yn y gadair; Mr. Dan Jenkins, ysgol Llan y Crwys, a Gwili, yn darllen papurau blasus ac eiddgar dros gadw'riaith Mr. J. Hinds, A.S., Syr Viia&tni Evans, Mri. J. R. Jones (Lerpwl) a Mocaer (y Llydawr) yn dilyn. CjTahulliad da, a'r ddau bapur i'r dim at yr amcan mewn golwg. Gresyn na chawsid lie i ddyfynnu a helaethu ar eu hawgrymiadau. Yn y prynhawn, am chwarter wedi pump, cynhaliwyd cyfarfod Cymdeithas Caneuon Gwerin Cymru; Dr. Mary Davies yn y gad- air Miss Amy Preece yn ysgrifennydd Mrs. Herbert Lewis yno'n traethu ar rai o'r alawon a genid Miss Morfydd Owen, Mus. Bac., Llanelli, yn canu amryw ohonynt, a Mrs. Mary Davies yn dywedyd mai hi oedd un o gerddorion ieuanc mwyaf addawol Cymru heddyw. Yr oedd yno saith o enethod hefyd yn canu detholiad o'r hen ganeuon swynol; a Dr. LloydWilliams yn arwain, ac yn traethu hanes pob hen gan cyn i'r geneihod godi i'w chanu, a gwefusau Mrs. Mary Davies a Mrs. Herbert Lewis i'w gweld yn canu gyda hwy heb yn wybod dim iddynt eu hunain, gan mor Ilwyr y mae'r ddwy wedi ymgolli ym miwsig syml ond swynol odiaeth taid a nain. Can- odd Miss Bertha Jones hefyd amryw eraill; ac yr oedd y cyfarfod yn un blaaus a diddan trwyddo. Ymhell y bo'r hen ryfel yma na chawsid plethu colofn neu ddwy o'r hyn a glywyd ac a deimlwyd heddyw'r prynhawn. Cyrddau'r Babell. Arglwydd Rhondda oedd i lywyddu bore dydd Mercher-dydd cyntaf yr Wyl; ond galwesid ef i Lundain ar neges anhebcor, a daeth ei ferch, Lady Mackworth, i lywyddu yn ei le. Yr oedd rhai o'r beirdd wedi troseddu
Advertising
DONEGAL TWEED CO. LIVERPOOL'S TAILORS LFIVOERREPMOOOSLT "s TAILORSO MAKE UP YOUR MIND TO PLACE YOUR ORDER EARLY FOR THAT NEW SUIT I PRICKS AS USUAL. S 8tt M 301 NO EXTRA Suit to eosure fROM. CHARGES. FIT GUARANTED. turwui»-<ui"tu'Mur<u»' IT WILL PAY YOU TO SEE OUR f .1 d. S Suit to 40/ Famous !nd!go Serge  40/= NOTEADDREB8: 8 LONDON RD., LIVERPOOL Manager JOHN JONES. 165 Grange Rd., B'head Manager JOHN JOf?ES. at 226 Higb Street, Bangor, ?f?i n? ?.? ? ??t.' 23 Hope Street, Wrexham, LASM?S ?Xm5nA and thr.ush.ut ?.Ktngdom.