Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Advertising

i Irem t-Oros y Bechgyn.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Trem it-Eisteddfod Aberystwyth. Nid oeddym yno, petae fater am hynny, ond teimlem ddiddordeb ynddi, a da iawn gennym am ei llwydd ariannol. I Mr. Lloyd George, yn anad neb, y mae diolch ddarfod i'r Wyl Genedlaethol gael ei chynnal, yn gystal ag am ei llwyddiant. Cofiwn yn dda mor daer ei anogaeth ym Mangor y llynedd i'r cyfeilliono Aberystwyth. Cymerai safbwynt delfrydau uchaf cenedl i edrych ar y mater, ac nadfellidgoddef i'r rhyfel droi'rrhai hynny o'r neilltu. Rhaid i genedl, fel person unigol, ofalu am ei henaid.. WrtK gwrs, nid mater dibwys oedd yr un ariannol, a thuedd naturiol y methiant ym Mangor oedd peri i bwyllgor Aberystwyth betruso. Erbyn hyn, modd bynnag, maent yn llawenhau, a'u llafur wedi ei goroni a llwydd mawr. Bydd hyn yn galondid i hyrwyddwyr Eisteddfod Birken- head y flwyddyn nesaf. Taclodd pwyllgor Bangor eu dyled yn ddewr a diffwdan, a bu Cymdeithas yr Eisteddfod yn gymorth da iddynt ond ni cheid o hynny fawr o ysbryd- iaeth i eraill ddilyn. eu hantur. Daw cyn- rychiolwyr Birkenhead adref o Aberystwyth â. chyweirnod hyderus i'w ton. Llongyf arch- wn ein cymydog galluog, y Parch. D. D Williams, David Street, ar ei fuddugoliaeth. Hen arwr ym mrwydrau lien yw efe, ac wedi cynhyrchu gweithiau a werth mawr. Da gennym hefyd fod y gadair wedi eu hennill gan fardd na chawsai hi o'r blaen-y Parch. J. E. Williams, Bangor. Enillodd Mr. Williams gadeiriau lleol o'r blaen, a bu'n ail am gadair Gwrecsam. Gwelwn fod un o'r beirniaid yn anghytuno, a diau y ceir o hynny —fel ynglyn a Choron Bangor-ddefnydd j trafodaeth ymysg ybeirdd a'r beirniaid. Ni allesid disgwyl cystadleuaethau corawl hafal i'r hyn a geid cyn y rhyfel. Pa fodd y ceid hynny, a miloedd o'n cerddorion a'n cantorion goreu allan yn ymladd dros eu gwlad ? Un o neilltuolion y rhyfel hwn yw ei fod yn tynnu i fewn i'w rengau bob math ar athrylith, dysg, a galwedigaeth. Yn y dyddiau gynt, ar y cyfan, rhyw un teip, a hwnnw gyda'r hawddaf i'w hebgor, oedd yn chwyddo'r Fyddin ond yn awr, mae 11u mawr o'r talentau disgleiriaf a'r cymeriadau goreu yn y ffosydd rhyfel.

Trem it-Eisteddfod Aberystwyth.,

Trem )!)-Canu'n y .Rhyfel.

Trem IV-Cleddau'r .Orsedd.

Trem V-Y Rhyfel. 'I

o Lofft y Stabal. j

GOLYGFA RYFEDD.

- - - - EISTEDDFOD CORWEN.