Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Tnt II "t W OLD pOST f\A",1 (Q CJJOR08 ) LARGEST SELECTION -LOWEST PglCfS TELEPHONE 30 75J ROYAL. Aft Dwain" eiyndwi DRAMA GAJM 1- PEDR HIR. x* I TPRIS Is. DRWY'R POST Is. Ig.] I'w gael oddiwrth yr Awdur, 21 Wadham Rd., Bootle
Advertising
Irem t-Oros y Bechgyn. Ein Tad, yr Hwn wyt yn y Nef Tragwyddol yw Dy Orsedd Wen Tan gysgod Dy frenhiniaeth gref, Gad i drueiniaid blygu pen Yn nydd cyfyngder, yn y pant, 0 gwrando'n gweddi dros ein plant Gwel, Di, 0 Dad, y pryder prudd Sy'n difa hedd Dy blant bob awr Tymhestlog nos ddaeth dros ein ffydd, A blin yw disgwyl am y wawr Ein Tad, yr Hwn wyt yn y Nef," O'r Armagedon clvw ein llef Mae'n bechgyn yn y brwydrau draw, Ac Angau'n cael cynhaeaf mawr Beth fydd y newydd nesaf ddaw ? Ein meibion hoff-ple maent yn awr ? O gwrando'n gweddi, Geidwad dyn, A thaena'th aden dros bob un Mae annwyl rai tu hwnt i'r mor, O'h cyrraedd ni, o dan eu clwy'; Ond ynot Ti, drugarog lor, Cydgyfarfyddwn ni a hwy 1 Bendithia Di y weddi wael, A gad i'n bechgyn hoff ei eb ael I wawr i hwyr, sawl iouanc fam Sy'n ocheneidio'n brudd a syn Uwch ben ei phlentyn bach di-nam,- Ag yntau ddim yn deall hyn 0 gwrando'n gweddi, Dad, yn awr, 6 Dros dadau yn y Rhyfel Mawr Mae meibion Cymru heddyw'n mynd Trwy'u Gethsemane gyfyng, drist Boed iddynt yno nabod ffrynd- Yn wyneb hawddgar Iesu Grist » Ein Tad, yr Hwn wyt yn y Nef," Er mwyn yr Iesu gwrando'n llef
i Irem t-Oros y Bechgyn.
Trem it-Eisteddfod Aberystwyth. Nid oeddym yno, petae fater am hynny, ond teimlem ddiddordeb ynddi, a da iawn gennym am ei llwydd ariannol. I Mr. Lloyd George, yn anad neb, y mae diolch ddarfod i'r Wyl Genedlaethol gael ei chynnal, yn gystal ag am ei llwyddiant. Cofiwn yn dda mor daer ei anogaeth ym Mangor y llynedd i'r cyfeilliono Aberystwyth. Cymerai safbwynt delfrydau uchaf cenedl i edrych ar y mater, ac nadfellidgoddef i'r rhyfel droi'rrhai hynny o'r neilltu. Rhaid i genedl, fel person unigol, ofalu am ei henaid.. WrtK gwrs, nid mater dibwys oedd yr un ariannol, a thuedd naturiol y methiant ym Mangor oedd peri i bwyllgor Aberystwyth betruso. Erbyn hyn, modd bynnag, maent yn llawenhau, a'u llafur wedi ei goroni a llwydd mawr. Bydd hyn yn galondid i hyrwyddwyr Eisteddfod Birken- head y flwyddyn nesaf. Taclodd pwyllgor Bangor eu dyled yn ddewr a diffwdan, a bu Cymdeithas yr Eisteddfod yn gymorth da iddynt ond ni cheid o hynny fawr o ysbryd- iaeth i eraill ddilyn. eu hantur. Daw cyn- rychiolwyr Birkenhead adref o Aberystwyth â. chyweirnod hyderus i'w ton. Llongyf arch- wn ein cymydog galluog, y Parch. D. D Williams, David Street, ar ei fuddugoliaeth. Hen arwr ym mrwydrau lien yw efe, ac wedi cynhyrchu gweithiau a werth mawr. Da gennym hefyd fod y gadair wedi eu hennill gan fardd na chawsai hi o'r blaen-y Parch. J. E. Williams, Bangor. Enillodd Mr. Williams gadeiriau lleol o'r blaen, a bu'n ail am gadair Gwrecsam. Gwelwn fod un o'r beirniaid yn anghytuno, a diau y ceir o hynny —fel ynglyn a Choron Bangor-ddefnydd j trafodaeth ymysg ybeirdd a'r beirniaid. Ni allesid disgwyl cystadleuaethau corawl hafal i'r hyn a geid cyn y rhyfel. Pa fodd y ceid hynny, a miloedd o'n cerddorion a'n cantorion goreu allan yn ymladd dros eu gwlad ? Un o neilltuolion y rhyfel hwn yw ei fod yn tynnu i fewn i'w rengau bob math ar athrylith, dysg, a galwedigaeth. Yn y dyddiau gynt, ar y cyfan, rhyw un teip, a hwnnw gyda'r hawddaf i'w hebgor, oedd yn chwyddo'r Fyddin ond yn awr, mae 11u mawr o'r talentau disgleiriaf a'r cymeriadau goreu yn y ffosydd rhyfel.
Trem it-Eisteddfod Aberystwyth.,
Trem )!)-Canu'n y Rhyfel. Fe gafwyd canu rhagorol yn Aberystwyth, ac nid y salaf i'n bryd ni oedd y gym ani a ddydd Gwener. Yr oedd yn werth cael cyfle i fawl unedig rhwng pob sect ac enwad. Saif dyn syml mewn syndod uwch y ffaith fod yr enwadau a'r sectau yn gallu ymuno mewn emynau mawl a phader, ond yn ymwahanu ar ddefodau a ffurfiau nas gallant fod, ar y goreu, ond pethau damweiniol a chyfnewidiol ynglyn a chrefydd. Ymddengys yn an- nhebyg iawn yr unir hwy trwy ymresymu a dadlu tybed y gwneir trwy gan a gweddi ? Gobeithiwn y cedwir y newyddbeth hwn ynglyn a'r Eisteddfod Genedlaethol ymlaen. Nid yw'r ysbryd cenedlaethol Cyfnreig yn cael ei holl gyfle, na'i gyfle uchaf ,ar wahan i'w donau a'i emynau. Ac nid oes neb yn deall holl anianawd a delfrydau Cymru yn well na Mr. Lloyd George. Tapiodd ddyfnderau ein henaid yn ei areithiau ardderchog. Rhoes ei glust ar ei mynwes ofidus, ond clywodd hi'n canu mewn rhyfel Yr oedd yn galondid i sylwi ar y cyfnewidiad yn rihon y Gweinidog Rhytel. Nid amlygodd ei besimistiaeth ym Mangor, ond deellid gan lawer nad gobeithgar iawn mohono'r pryd hynny. Yn awr, modd bynnag, nis gallai gelu ei optimistiaeth. Gadewch inni ganu!" ebe ef. Ac yn Llanystumdwy, ddydd Sadwrn, dywedir ei fod, "am y tro cyntaf," yn gweled fod y gefeiliau yn cau am y gelyn, ac y gellid disgwyl clywed crac yn ei rengau cyn hir. Nid ydym yn meddwl i Mr. Lloyd George erioed fod yn fwy hapus yn ei anerchiadau na'r tro hwn. Yr oeddynt oil yn fyw gan athrylith a syniad- au dyrchafedig. Mewn erthygl arweiniol yn y LiverpoolPost, dywedid fod ganddo baragraff- au fyddent fyw byth. Yr hyn sydd ryfedd ynglyn ag ef yw, ei graffter a'i barodrwydd i huf ennu'r awgrymiadau mwyaf tarawiadol o'i amgylchedd uniongyrchol, a throi'r pethau mwyaf cyffredin yn ddefnydd araith ddisglair. Gall y bydd i hyrwyddwyr yr Eisteddfod, am flynyddoedd i ddod, farnu'n ddoeth i gwtogi ( amser a rh aglenni' r cyf arfo dydd. Credwn na raid i bwyllgor Birkenhead ofni'r anturiaeth y flwyddyn nesaf—c leiaf, os ceir cymanfa ganu a Mr. Lloyd George iddi.
Trem )!)-Canu'n y .Rhyfel.
Trem IV-Cleddau'r Orsedd. Fel y sylwasom ynglyn ag Eisteddfod Bangor, nis gallwn yn ein byw ddeall y rheswm dros adael y Cleddau yn ei wain, ac na roir y cyfle arferol i'r bobl ateb, fel arfer, yr hen gwestiwn, A oedd heddwch ? Ymddengys i ni ei fod yn ymylu ar wrthuni. Mae'r un gwaith yn mynd ymlaen yn y cylch Gorseddog ac Eisteddfodol ag o'r blaen. Wel, ni a adawn y mater yn y fan yna ar hyn o bryd, gan obeithio fod rhywun yn tynnu Cleddau'r Orsedd o'i wain i'w gadw rhag rhydu, ac y bydd heulwen hedd yn disgleirio ar ei lafn pan dynnir ef allan yn Birkenhead. Gydallaw, peth go anghyff redin fu i'r Eistedd- fod Genedlaethol fod heb neb yn ei gofyn. Y cwrdd doniolaf o'r oil, fel rheol, fyddai'r cwrdd dadlu rhwng cynrychiolwyr gwahanol drefi am ei chael. Ond mae'r amgylchiadau cyfrif am hynny, hefyd a diau, wedi llwydd Aberystwyth, y daw rhywrai i'w gwahodd erbyn 1918.
Trem IV-Cleddau'r .Orsedd.
Trem V-Y Rhyfel. I Parha'r Cynghreiriaid i ennill yn Ffrainc— yn raddol, ond yn sier. Daw'n eglurach o hyd nad yw ym mryd y Prydeiniaid a'r Ffrancod i wneuthur rhuthriadau mwy costus i fywyd nag sydd raid,—fel y gwnaeth y gelyn yn Verdun,—eithr taro arno rfiewn safleoedd o bwys, a chadarnhau'r lleoedd a enillir-hyd nes daw'r crac y soniai Mr. Lloyd George amdano. Er y gwesgir ar y gelynion ym mhob ffrynt, nid yw'r Rwsiaid (pan ydym yn sgrifennu) yn cyhoeddi enillion tebyg i'r eiddynt dro'n ol; a chwrddir hwynt a gwrth. wynebiad cryf a phenderfynol ar linell Kovel a Lemberg. Dydd Sadwrn, daeth adran o Lynges Germani allan i For y Gogledd collasom ni ddwy long ryfel ysgafn, a'r gelyn o leiaf un-credir mai dwy-submarine. Erbyn hyn, fe deimla Germani fod galw am iddi ddefnyddio pob gallu a fedd, ar for a thir, a diau ei bod yn ceisio cyfle arall ar ein Llynges. Pan welodd fod einllongau ni mor gryfion, diangodd eiddo'r gelyn i'w ffau-fel arfer.
Trem V-Y Rhyfel. 'I
o Lofft y Stabal. j XVI I lVIA nghlust i o hyd fel rhw lyn tro, ac yn tynnu i fiawn y swn fydd o nghwmpas i pie bynnag yr a i. Dyma beth glwis i ar ol y llythyr dwaetha i'r BRYTHON "Mamrynion yn ddigon anodd i trin yn barod, heb i neb i gneud nw'n waeth. Hym mi fydd arnyn ?V nhw eisio i cyrloga mawr am neucl Vim toe, a'r peth gora fydda i bob teulu ffarmwrs neud hebddyn nhw o gwbwl-gneud y gwaith i hunain." Wel, syr, dyna ddarn o araith na fasa chi ddim wedi i chael hi bae'r liyn sgwennis i chi o'r Llofft ma. Ond fedar neb gael syniad am yr hyawdledd llifeiriol y noflodd yr araeth arno fo, allan o ddyfndera enaid yr un oedd yn siarad. Mi glwis am ddyn wedi bod yn gwrando darlith awr o hyd ar y Werddon," a bod y darlithiwr yn lletya efo'r dyn hwnnw'r noson. Darlith ar y Werddon oedd gynnoch chi'n te ? la, siwr." Rhoswch chi, sut nadrodd oeddach chi'n ddeud oedd no ? "Deud ddaru mi nad oedd no ddim nadrodd." Ho, ho," felly wir Wel, roeddwn inna'n meddwl ych bod chi wedi deud fod nadrodd yno, ond nad oedd no ddim Pabyddion." Ddeudis i ddim o'r fath betli deud ddaru mi nad oedd no ddim nadrodd, ond fod y mwyafrif mawr o'r bobol yn Babyddion." Wel, fel y ma rhwun yn camddallt, ynte ? Sgusodweh n am ych holi chi fel hyn, achos ma arna i isio casglu cimin o wybodaeth ag y fedra i-wedi i chi ddwad aton ni, ac o mor bell hefyd. Ond wyddwn i ddim o'r blaen mae'r Gwyddelod ddaru ladd Syr Watein-yr hen Syr Watcin oeddach chi'n i feddwl, ynte ? Gwarchod pawb, ddyn ddeudis i mo hynnu chwaith. Mi allwn i feddwl ma'r ffordd ora i chi neud ydi cymyd yn ganiataol ma'r hyn ddeudis i am bob peth oedd yr hyn sy'n hollol o chwith i'r hyn rydach chi'n i feddwl ddeudis i." Wel, wyddoch, ma gin bobol wahanol fama am betha." 11 Wel, os oes yn y byd rhyfadd yma ddwy farn am danoch chi, ma petha'n waeth nag roeddwn i rioed wedi meddwl. Da chi, gleuwch gannwll i mi, i fynd i ngwely Dyna rwbath, 'ma tipin o ola ym mhen hona. Nos dawch." Ac fel yna, ma rhw bobol na fedra nhw ddim, ne na fynnan nhw ddim dallt yr hyn ddeudir ne sgwennir mor eglur ag y gall iaith i osod o. Be gancar sy ar rhw benna cabaits fel hyn, deudweh ? Ond rhaid imi geisio cadw'r hen dempar ma i lawr. Rydw i am i fistras fod yn fistras, a morwyn yn forwyn. Ydw'n neno'r taid annwl! Gadwch inni ddallt yn gilydd ar hynnu, beth bynnag. Ma rhai mrynion dwl ac anraslon, fel y cewch chi ffyliaid ymhob dosbarth. Mi welis i rai felly. Ma un o'r criw'n dwad-o flaen fy meddwl i'r funud ma, ac ma'n gwilydd gin i i gweld hi, yr hen sopan fler, i gwallt am i gwymad, ac yn sychu thrwyn yng nghefn i Haw, a hynnu wrth ben y crochan uwd A doedd dim iws i neb ddeud dim wrthi hi. Pan ddeuda'i mistras am iddi hi neud fel ar fel, mi clwis hi'n apad yn ol, Gnewch o'ch hun." Wel, roedd gin honno dempar dychrynllyd. Fasa waeth gin i briodi cythral ffatri ddim, na phriodi peth felly. Ond mi gafodd honno ddyn digon gwirion i chymyd hi hefyd, a'r dyn mwya diniwad'a distaw yn yr holl wlad oedd o. Mi fu'n teimlo dipyn yn anghyffyrddus dros amsar, ond ein hir iawn mi gynfinodd a'i swn hi,—fel y bydd dynion wedi arfar a swn ffowndri'nmedru cysgu'n i ganolo. Mi welis i amball i fistras yn actio mam ac athrawes i frynion. Ma amball fam yn sgluso disgyblu i phlant, a gwae fydd i rheini oni chant rwun arall i afael ynyn nhw'n ifanc. Ma disgybl- aeth ddoeth yn hanffodol i gymeriad pob mab. a merch. A'r drugaredd fwya gafodd amball ferch ifanc fu mistras gall, ond fanwl a threfn" us, i dysgu hi sut i byhafio ac i neud i gwaith yn iawn. Pari geiff morwyn fistras felly, mi geiff fendith fawr, ac mi fydd yn fendith i bawb o'i chwmpas hi. Tybad, miawn difri, syr, nad ydw i wedi gneud fy meddwl yn ddigon clir, i'r neb sydd a mymryn o sens yn i ben o, gyda golwg ar fy syniad am hawl meistresi ? Ond pan na i fy meddwl i fynu ar rwbath, rydw i'n styfnig ddi-riwl drosto fo wedyn. Ac ma gwerth ac urddas galwedigaeth mryn- ion ffermydd yn un o'r pethau rydw i am sefyll drostyn nhw. Mi fydd yn ffiadd gin i glwad amball un yn i dirmygu nhw. Dro byd yn ol, roedd hi'n helynt fawr yn rardal ma nghylch carwriaeth rhwng mab siopwr a morwyn ffarm. Doedd dim lie i ddowt nad oedd y cariad o bobtu o'r iawn stwff. Ac roedd y par ifanc yn deilwng y naill o'r llall. Bachgian deallus a da oedd mab y siop, ac yn. burion o ran pryd a gwedd, fel tasa. A fuo dim smartiach merch ifanc ar ddau droed nag oedd y forwyn ffarm, na'r un glysach na hi chwaith. Cofiwch nad ydw i ddim yn rhoi gormod o bwys ar i ferch fod yn rhw egstra o glws, achos mi welis i amball un felly'n rhw slwt ddigon di-lun miawn ty. Ond nid un felly oedd yr un tan sylw. Roedd hi'n debig iawn i Mari'r forwyn ma,—ddim yn bodloni ar drychyd arni hun yn y lwcing glas, ond mi fynnai weld i hun yn y dodran a'r llestri fydda hi'n i glanhau. Diwcs annwl! mi fydda i'n teimlo, wrth drychyd ar Mari'n glnhau'r ty ma, fod pob peth bron yn troi'n lwcing glas tan i dwylo hi Ond does gin Mari ddim busnas i ddwad ata i rwan, fel tasa. Yn deud roeddwn i am y ferch arall. la, syr, genath iawn oedd hi, o deulu duwiol, yn dduwiol i hun hefyd-ac mor lawan a'r gog, fel y deudir -ac yn Ifin a medrus efo gwaith y ty. Ac roedd hi gin gallad ag un ferch yn yr ardal heblaw bod yn dallt i Beibil yn well nag amball i brygethwr welis i. Mi alia i roi gair fy hen ffrind Jac J6s ar y matar yma, a dyna ben ar y peth. Wel, roeddan nhw-mab y siopwr a morwyn y a bod yn can- lyn i gilydd am flynydda, ac wedi gneud amod a'i gilydd i briodi cin hir iawn. Beth bynnag i chi, mi drodd rhieni'r bachgian yn erbyn y ferch, a fynnen nhw ddim clwad son am iddyn nhw briodi. Buont yn taflu. rhw awg. rymiada felly ato fo gynta dalltson nhw fod y ddau yn caru. I neud petha'n waeth, mi ddoth rhw ferch ifanc arall-merch i saer coed-i fynych ymweld a'r siop, ac mi gred- odd y rhieni fod gin honno ffansi'n y mab. Ond doedd dim troi ar y bachgian oddiwrth i gariad cynta. Waeth imi heb ddeud y gyfrinach i gyd, ond y ffaith ydi mod i miawn cyfla i wbod y cwbwl rydw i'n son amdano fo —fel taswn i'n byw ar aelwyd y Siop. Bobol annwl, mi fcio no halabalw A dyma be deudodd i dad wrth i fab, David bach, m a dy fam a minna'n synnu atat ti. 'Rwyt ti wedi bod yn fachgian da iawn hyd yma, ond rwyt ti wedi troi'n styfnig iawn rwan. 'Does gynnon ni run plentyn ond y chdi, ac ryda ni wedi rhoi addysg dda iti. 'Roeddan ni'n meddwl gadal pob peth i ti ar yn hola ond, yn wir, rwyt ti'n gneud inni feddwl am newid yr wyllys rwan. Da rnaehgian i, gna gimin a hyn er mwyn dy dad a'th fam." Be sy gynnoch chi'n erbyn Doli, nhad ? gofynnai yntau. "Wei, David," ebra'r fam yn chwap, "be nei di a morwyn .ffarm, y machgian i ? Ond roedd cariad David at Doli miawn lie anos i' w dynnu n ol nag arian ei rieni oedd yn y bane. Mi fuo'r fam yn ochain ac yn crio o gwrnpas David bora a hwyr. a clianol dydd, a'r unig amean oedd boinbardio Doli allan o'i galon o. Roedd y rhieni hyn yn bur grefyddol yn i ffordd, ac yn ffyddlon yn y moddion. Ond roedd yn hawdd gweld hyd noed yn y capal Yria Dav-td a Doli oedd "matar i henaid" nhw erbyn hyn. Pan fydda'r gwr yn deud i brofiad, yn son am siomdigaetha bywyd y bydda fo, ac am y diffyg parch i rieni oedd yn nodweddu llawar o'u plant ac mi fydda'n taflu rhw gipolwg ar David, yn amal, pan fyddai wrthi. A phan fyddai'r wraig yn deud adnod, gofalai am bethau fel hyn, Anrhydedda dy dad a dy fam," etc") Y plant, ufuddhewch i'ch rhieni," etc., ac mi fydda'r adnod yn ddrylliog iawn hefyd. A doedd neb yn y capal yn dallt y profiad a'r adnod yn well na David a Doli. Yn y man, beth bynnag, yr oedd perthyn- asa i Doli adref ar dro o'r Mericia, ac roedd gynnyn nhw ffarm fawr yn y wlad honno. Gan fod Doli erbyn hyn yri ymddifad, a'i bod hi'n ferch mor ragorol, mi perswadiodd y Mericians ma--niodryb i Doli a'i gwr—hi i fynd efo nhw adra. A'r diwadd fu i Doli fynd. Ond roedd y cymdogion yn dirgal gredu ma un amcan mawr gin Doli wrth fynd i'r Mericia oedd medru mynd yn nes at David, ac i David fedru mynd yn nes at Doli. Hynnu ydi, roedd Doli a David yn d3¡llt i gilydd yn y peth. Wedi i Doli fynd i ffwrdd, mi gredodd rhieni David fod cyfla'u ffefryn hwy merch y saer-wedi dod. Gwahodd- ent hi i'r ty pan ddeuai i'r siop, ac arosai i de -i swpar weithia. Gofynid iddi chwara'r piana, ac roedd gwr a gwraig y siop yn i chamol hi run fath yn union a thasan nhw'n gwbod rhwbath am y grefft. Ryw fora mi ddeffrodd rhieni David i ddallt fod i mab nhw wedi dianc i'r Mericia, a chin pen hir cawsant air i fod ef a Doli wedi priodi, ac miawn amgylchiada cysurns. Eu llythyru rhwng David a'i rieni. Ebra'r tad, miawn un llythyr, Doedd raid i ti ddim mynd mor bell o'r cartra i gael gwraig, David." Ac ebra David yn ol, Ma'n ddrwg gin i feddwl, nhad, fod yn rhaid imi ddwad mor bell a hyn o'r cartra i briodi'r unig ferch allwn i garu fel gwraig, a Doli oedd honno." Syr, dwn i ddim i be byddai'n mynd at bwnc y caru ma, achos ma'n anodd iawn mynd yn ol oddiwrtho fo wedyn. Ond dyna ichi siampal o'r balchtar, y bydolrwydd, y dall- ineb, a'r gormas mwya annuwiol y medra rhieni i ddangos, er i bod nhw'n ceisio rhoi lliw crefydd ar i gwaith. Mi ddarun geisio gin i mab werthu anwylyd i galon ac uniondab i gydwybod am dipin o arian. Mi fuon yn gneud defnydd o air Duw i geisio gynno fo bechu'n erbyn Duw. Mynnent fod y gogon- iant o fedru chwara piana 'n anfeidrol uwch na'r gogoniant o fedru "cweirio menyn." Wrth feddwl am lol annuwiol fel hyn, syr, ma'r bethma ma sy yna. i'n fflamio, a rhaid i mi gael cadw chwara teg i "forwyn ffarm." Morwyn ffarm ydi Mari, wyddoch -0
o Lofft y Stabal. j
GOLYGFA RYFEDD. CEFAIS fyhun yn y flwyddyn 1936 argyfandir Ewrop, ynghanol golygfeydd arddunol, a "phopeth yn ddwyfol ond ysbryd y dyn." Trwy ryw ffordd na wyddwn i cefais fy hun yn yr Almaen, yn senedd-dy y wlad. Yr o edd yn adegp gyffro mawr, gan fod anghydwelediad pwysig wedi codi rhwng Germany a Rwsia. Yr oedd llawer o lythyrau wedi pasio'n swyddogol rhwng y ddwy deyrnas, a'r sefyllfa yn mynd yn fwy difrifol o ddydd i ddydd. Cymerid trafferth fawr i gael allan beth oedd y rhagolwg am help gan deyrnasoedd eraill sicr o gymryd plaid yr Almaen, ond ofnid y buasai Awstria yn troi gyda Rwsia. Yn ol y ddeddf newydd a ddaethai i rym yn ddi- weddar, yr oedd y senedd i benderfynu a elid i ryfel yn erbyn Rwsia ai peidio. Cynhygiwyd o blaid rhyfel gan swyddog uchel ynglyn a'r fyddin, ac oedd hefyd yn aelod seneddol dros ,ran o'r wlad. Siaradai yn gyffrous ac yn danbaid iawn, yn dangos y risk dirfawr a fuas- ai peidio a defnyddio'r cyfle i sefyll dros yr ymherawdr a'u gwlad. Cefnogwyd gan un o'r Sosialwyr, yr hwn a ddywedai ei fod yn cynrychioli mwyafrif ei blaid, er fod rhai yn barnu'n wahanol. Ond hyderai y delai'r rhai hynny drosodd yn fuan i weled cyfiawn- der eu hachos, ac i fodloni rhoddi opiniynau personol o'r naill du er budd y wladwriaeth. Cynhygiwyd a chefnogwyd gwelliant, a bu cryn ddadleu.ond y cynnyg gwreiddiol a gar- iwyd gyda chryn fwyafrif. Yna digwyddod d peth hynod cynhygiodd un aelod nad oedd wedi siarad o'r blaen fod pob un o'r aelodau oedd wedi cofrestru ei bleidlais o blaid y rhyfel i fynd i ryfel ei hun, a'r rhai oedd yn erbyn i gael eu hesgusodi.Cefnogwyd hyn,a syrthiodd rhyw gyfaredd ar y ty fel y pasiwyd ycynnyg gyda chryn fwyafrif, er syndod a braw i lawer. Priodol dweyd fod amryw wedi dod i mewn ar ol y bleidlais gyntaf, i gymryd rhan yn y bleidlais hon. Wedi i hyn gael ei basio, aeth llawer o'r rhai a bleidiodd ryfel at ei gilydd, i geisio cael rhyw ffordd o ymwared. Dadleu- ai amryw mai mewn amryfusedd yr oeddynt wedi rhoddi y bleidlais, a dymunent am gyfle arall. Penderfynwyd eu bod yn ceisio ffordd i ddodi ddealltwriaeth a'r galluoedd eraill, fel na byddai raid dadweinio'r cledd. Yr oedd gan amryw resymau cryfion iawn dros beidio a mynd i faes y frwydr. Ymgynghorwyd a'r ymherawdr, a phan ddeallodd hwnnw, os pleidiai ryfel, y byddai raid iddo ef fynd i'r man mwyaf peryglus yn y fyddin ymosodol, yr oedd yn amlwg yn awyddus iawn am gael osgoi'r taro. Deallwyd fod golygfeydd cyffel- yb wedi digwydd yn y gwledydd eraill hefyd, a gwelwyd erbyn hyn fod y cweryl mor ddi- bwys fel y gellid yn rhwydd ei wneud i fyny heb golli dafn o waed. Ynghanol y llawenydd am y trefniad bodd- haol, deffroais ac wele breuddwyd oedd. 11 PERERIN.
GOLYGFA RYFEDD.
EISTEDDFOD CORWEN. Beirniadaethau Pedrog Englyn, YR YSBIWR (The Spy)." DAETH 46 o ysbiwyr i law. Pe llwydd- aswn i ddal cynifer a hynny o ysbiwyr y Caiser, credaf y cyfrifesid fy mod wedi gwneuthur fy "bit" dros fy ngwlad, ac y cawswn dystysgrif i ddangos fy mod yn ddyn call, ac nid yn brydydd gwirion Tuedd y mwyafrif o'r ymgeiswyr hyn fu disgyn ar yr Ysbiwr yn ei gymeriad gwaethaf yn unig, ac fel gelyn bradwrus. Gall hynny fod yn ddigon naturiol ar hyn o bryd ond pan fo testun o'r fath yn gystadleuol, goreu po gyflawnaf fo'r deffiniad ohono. Ac mae'r nodwedd ddeffiniadol yn perthyn i'r englyn Cymreig yn anad un math arall ar ein bardd- oniaeth. Mantais fuasai cofio fod yr Ysbiwr yn cymryd i fewn Caleb a Joshua yn gystal ag ysbiwyr y Caiser. Yr un pryd, pe ceid englyn penigamp, er iddo fod yn anghyflawn ei ddeffiniad, credaf mai gwell hynny na deffiniad cyflawnach oni feddai deilyngdod awenyddol hefyd. Bu'n hawdd dethol a throi heibio'r canlynol am eu bod yn wallus,—Gwylan, Eco'r Drin, Ting y Dur, Eiddo Bwl, Brython. Ceir yma ddosbarth Iluosog arall, cywir o ran cynghanedd, ac yn cynnwys rhai taraw- iadau da, ond yn gyffredin, dibwynt, neu'n terfynu'n llesg, o'r rhai y mae Rhys Puw, Sniper, Galeb, Vandyke, Badger, A welon yr Hwyr, Tec, Gwyliwr y Glanau, Hen Wr, Berwyn, Pedr, Casement, Argus, Dafydd Gam-, Ap Fenlli (dau englyn), Sherlock Holmes, Ystyriol. Darlleniad arall arnynt a barodd i'r canlyn- ol hefyd gael eu troi o'r noilltu,-heb fod fawr iawn gwell na'r dosbarth diweddaf a wnaed- Gwladwr (1), Gwladwr (2), Gwladgarwr (I), Hogyn o Gymro, Nid Crefftwr, Gtvyliedydd, Anafus, Llef o'r Lli. Mae'n aros Gwladgarwr (2), Glan Hafesp, Bleddyn, Llygadog, Special Constable, Barcut, Caleb, Albanydd, Of nus, Daliwch 0, Pro Patria, Celt, Rex, Cymro, Ymgais. Lied gyffredin a chyfartal yw hyd yn oed y goreuon, ac am hynny cafwyd llawer o dra- fferth i ddethol ohonynt y goreu oil; ond o'r diwedd gorffwysodd fy meddwl ar un sydd, yn fy marn i, yn rhagori peth ar y gweddill. Ceir yma rai'n meddu mwy o bertrwydd englynol nag ef-megis Special Constable, Ymgais, Caleb, Daliwch 0, etc., ond credaf mai'r darlun cyflawnaf athecaf o'r Ysbiwr yw'r un a geir gan Rex, ac iddo of- y dyfernip y wobr,—Ar air a chyclwybod, I PEDROG
- - - - EISTEDDFOD CORWEN.
Coupon Rhad-Yswlriaetb (Peidier a'i hollti'n rhydd), BYDD -gili GRESHAM Fire and Accident Insurance Society Ltd St. Mildred's House, Poultry LONDON, E.C. dalu £ 100 (can punt) i gynryohiolydd oyfreitbio a phersonol y sawl a fo'n ddiles-ddaliwr y eoumm hwn, os y bo iddo lo neu hi gael en lladd yn hollol ao yn uniongyrohol drwy ddamwain o fewn J Deyrnas Gyfunol i dren unryw GwmDi Keilfforda, Tramcar, Omnibus, Gab, neu Gerbyd Trwyddedig a Llôg yn yr hwn y bo'r daliwr yn cael ei glndo fel teithiwr tocyn a chlnd, yn Adarostyngedig bob amser i'r amodau arbennig a ganlyn sydd t'n ystyxied fel rhan a ohyfran o'r oytundeb- (a) Fod y marw'n digwydd o fewn dens niwrnod ar hugain wedi'r ddamwain (b) fod rhybudd ohoni'n cael ei roi i'r Gymdeithas o fewn saith niwrnod yn eu Prif Swyddfa yn Llnndain (c) fod y cyfryw dystiolaeth res- ymol parth achos y farwolaeth yn cael ei gyflwyno ag a fo'r Gymdeithas yn ei ofyn; (d) fod y daliwr wedi 'sgrifennu ei arwydd- dy I i r enw arferol, cyn i'r ddamwain ddig-wydd, Sg ino yn y lie darparedig gogyfer a hynny na bo'r Gymdeithaa yn gyfrifol i fwy nag on 1 person parth mwy nag un coupon yn KO rm hwn D& r un cyhoeddiad arall (f) na Wi y»- wiriaeth hwn ddim yn gaSaeIadwy i bersooaa tan ddeuddeg na thros-ddeg a thrigain mlwydd oed, ac a ddeil yn ddilvs am saith niwrnod o 12 o'r gloch y dydd y i oodir. Arwyddnod y Daliwr fftigfed I Danysgrifwyr, Raid 1 dderbynwyr cyaon y papur hwn ddim arwyddo'r Coupon os ca'r Gymdeithas gwbl nicrwydd a phra wl.1 fod yn c*«l «u anfon iddyat yn ddlfwlch, Dwy Action Song Cymreig Da. Y MILWYR BYCHAIN (The Little Soldiers). Y MAMAU BYCHAIN (The Little Nurses). Gan Pedr A law. TONIC SOLFFA, 2g. yr un. Drwy'r post, 2ic. HEN NODIANT, 6ch. yr un. Drwy'r post, 6 c. Cys tal a'r goreu a gwell na llawer a IYheecldir yn Saesneg. Cyhoeddedig yn I Swyddfaljr Brython," 356, 358 Stanley Rd., Liverpool.