Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu

Ffetan y Gol. V ofied pawb jotn an/on i'r Fletan mai dytna'r gair sydd ar ei genau:- NITHIO'R GAU A NYTHU'R GWIR. on North Wales Plants. To the Editor of Y BRYTHON SIa,-Can any of your readers assist me in tracing the essay mentioned below ? At the Ruthin National Eisteddfod in 1868, a prize of ten guineas was offered, and awarded to Dr. Francis Edwards, Denbigh, for an essay on Vale of Clwyd plants. The author of this essay died, I believe, some forty years ago. I learn that T. R. Williams (Rhydderch o Fon), Rhyl, was the General Secretary at the Ruthiij, Eisteddfod in 1868,and Mr. Ezra Roberts was local secretary. Tne latter delievered all the compositions after the Eisteddfod to Rhydd- erch o Fon. Rhydderch o Fon died in 1868, very soon after the Eisteddfod. The adjudi- cator (Jesse Conway Davies, U.D., Holywell) wrote of Dr. Edwards' contribution It is written with a simplicity of style, touching upon all that can be interesting in connection with the subject. The author has pointed out a vast number of very rare plants that are to be found in different parts of the Vale of Clwyd, mentioning and describing the localities where they may be found." As I am desirous of including some reference to Dr. Edwards' work in my forthcoming Flora 01 Flint and Denbigh, and am anxious that any local workers should not be overlooked, any information thereon would be welcomed. Perhaps relatives or friends of some of the persons mentioned may be able to throw further light upon this missing manuscript. I might add that particulars or information of any collections or herbaria of Flint or Denbigh plants or concerning any old manuscript notes or matter referring to or dealing in any way with the flora of either county, would be appreciated.—Yours, etc., ARTHUR A. DALLMAN 17 Mount Rd., Higher Tranmere, Birkenhead, August 14, 1916. Pwy sy'n dal y Dorch ? At Olygydd Y BRYTHON SYR,—Nid wyf fi fardd na mab i fardd, ond byddaf yn cymryd diddordeb mewn pethau Eisteddfodol, ac mae'r rhan fwyaf o gyf rolau'r Cynhyrchion yn fy meddiant. Cyn belled ag y gallaf weled, y ddau sydd wedi ennill amlaf ar yr Englyn Cenedlaethol yng nghorff y pum mlynedd ar hugain diweddaf, yw Gwydderig ac Eifion Wyn. Enilloddy cyntaf deirgwaith, a'r olaf bedair gwaith am yr englyn Cymraeg, ac unwaith ar englyn Saes- neg. Y testynau a'r Eisteddfod sydd fel y canlyn :— GWYDDERIG-" Yr Ogof," Abertawe, 1891; YBreuddwydiwr," Bangor, 1902; Fflam," Llanelli, 1903. EIFION WYN-" Y Dwyreinwynt," Rhyl, 1904 Yr Allwedd," Aberpennar, 1905; Blodau'r Grug," Caernarfon, 1906 Gwrid," Llangollen, 1908 The Gam- bler," Gwrecsam, 1912. Oddiwrth y rhestr- au uchod, mae'n amlwg mai Eifion Wyn sydd yn dal y dorch, a Gwydderig yn sefyll yn ail. Yr eiddoch, Pen Lleyn AP IF AN Young a John Jones. I At Olygydd Y BRYTHON I ANNWYL SYR.—Edward Young biau r pennill Saesneg a ddyfynnwyd gennych yr wythnos ddiweddaf, a cheir y llinellau yn Night Thoughts, campwaith y bardd. Dyma'r Ilinell gyntaf yn llawn Imagination's fool and error's wretch." Clerigwroedd Young, a fu byw yn niwedd yr eilfed ganrif ar bymtheg a hanner cyntaf y ddeunawfed. Ysgrifen- nodd beth wmbredd yn ystod ei oes, ac er iddo -ennill cryn fri llenyddol,ychydig o'i waith sy'n adnabyddus heddyw. Dywedir mai math ar "gwyn coll" ar farwolaeth ei wraig yw Night Thoughts ac er i'r gerdd ddisgyn tan fflangell y beirniaid ceir ami i gwpled awen- yddol ynddi, ac ambell i linell sydd yn tyfu'n ddihareb, megis Procrastination is the thief of time." Gyda llaw, Cymro o Gaer- fyrddin o'r enw John Jones oedd curad Young a'r olaf yn rheithor yn Welwyre, swydd Herts. Bu farw Young yn 1765, ac yn ol yr hanes bu peth helynt ddydd y claddu. Taerai rhai o'r teulu na ddangoswyd parch dyladwy i'r ymadawedig er enghraifft, na chanwyd cloch cnul yr eglwys ond daliai John Jones druan iddo gyflawni'r holl gyf- raith Modd bynnag, y flwyddyn ddilynol, mae'r curad yn ysgrifennu a ganlyn mewn llythyr at gyfaill "I am now in the 66th year of my age (and after- all my honest and best labours) unprovided of a proper retreat to go to." Tybed i'r hen Gymro ddioddef ar gam ? Pwy wyr ?—Yr eiddoch, R. PIERCE JONES Amrwd. At Olygydd Y BRYTHON SYR,—Carwn wybod pa ystyr sydd i'r gair hwn yn ysgrif T. Mathews, ar "Y Garreg Wen yn y Cymru y mis hwn. Yn y rhan hon o'r wlad, yn ogystal ag yng Ngeiriadur Dr. Owen Pughe, claiar yw ei ystyr. Gallwn dybio mai mewn ystyr hollol wahanol y defn- yddir ef yn yr ysgrif hon, sef yn gyiystyr a berw. A oes ystyr felly iddo ac osoes, pa fodd y daeth i feddu'r ystyr hwnnw ? YMOFYNNYDD Pwy sy'n elwa fwyaf ? At Olygydd Y BRYTHON SYR,—Gwelaf fod Hutyn yn ei glep yn gofyn barn Eilir ar yr englynioni'rtafarnwr a ymddangosodd yn Y BRYTHON ychydig amser yn ol. Wel, fy marn i ydyw y buasent yn ddarlun pur gywiro dafiarnwr hanner can mlynedd yn ol, ond nid o dafarnwr y dyddiau hyn. Mae llawer, fel yntau, yn synio fod y tafarnwr yn elwa ar ffyliaid, fel y gelwir pob un 'nad yw'n proffesu rhyw athrawiaeth. Gallaf ei hysbysu nad oes llawer o'r rhai hynny'n awr. Y rhai sydd yn elwa fwyaf y dyddiau hyn ydyw'r ffarmwr, y glowyr, a'r gweinidogion. Gwaith y tafarnwr yn awr ydyw gwylio adeg cau ac agor, neu agor a chau. Rhaid agor cynymedrwch chwi gau, a thalu biliau. Os ydyw Hutyn eisiau cadw'i bicell yn loew, planned hi yn rhywun arall weithiau, ac nid yn yr hen Eilir druan yn wastadol. EILIR ALED Amryw Bethau. At Olygydd Y Bbython Syft,Mewn llythyr a ysgrifennodd at yr Archdiagon Beynon yn 1831, ynghylch ysgrifennu'r iaith Gymraeg, dywed Thomas Lloyd Jones (Gwenffrwd) fel liyn: "It is reasonable to conclude that the style which is best understood is the best vehicle to please and improveDyna i chwi frawddeg werth gini, y dydcl a fynnoch (chwedl Talhaearn) ond ar yr un pryd, ofnaf fod perygl o'r cyfeiriad arall y dyddiau hyn, sef o gyfreithloni geiriau rhy ystrydebol, a pheri i'r iaith golli'r mawr- edd a'r urddas hwnnw a wna Gymraeg y Beibi mor swynol. Y mae rhai geiriau a arferir gan ein prif ysgrifenwyr ar yr un tir yn hollol i mi a phe y cyfreithlonai ein cyfeillion y Saeson yr ymadrodd am an heggs am ei fod yn arfer gwlad i alw'r danteithion hynny felly, ac i fod dipyn yn rhyddfrydig hefo'n haitsh. Y mae llawn gormod o duedd hefyd i arfer geiriau Saesneg pan na fydd galw am hynny, ac y bydd gennym air llawn cystal yn y Gymraeg. Ond ni chredaf y gwel neb fai am Gymreigio geiriau Saesneg pan nabydd gennym eu cyfystyr yn llawn yn y Gymraeg dyna hiwmor Birkenhead yn enghraifft. Gyda Haw, Mr. Gol., ai iawn fydd galw perchen y peth hwnnw yn hiwmorus, deyd- wch ? Hefyd, y mae yna rhyw atgoflon melys o gwmpas rhai geiriau megis "cloc," etc., ac y mae hynny, a'rhir arfer ohonynt, yn ddigon o warant dros eu cadw, goeliaf fl. Wedi darllen yr ysgrif flasus am ymweliad y Naill a'r Llall a'r Gerddi Bluog, tynnais hen Gomon Prear inawr fy nhaid, Sion Prys (o ach yr Archdiagon) oddiar y shilff, i ddarllen y Salmau Can, a sylwais fod yr Archddiacon, er yn Gymro mor wych, yn arfer geiriau fel y rhain :— Pan fo oel ar ei dafod doeth, Tyn gleddyf noeth yn ddirgel (dyna debyg i'r hen Gaiser, onite, syr ?) Oel acnid"olow"ywgairllafargwlady Gogledd. Eto :—■ Ac a lefeli dy fwau At eu hwynebau cedyrn. Yn arogldarth ac aberth hwyr, Fel union ddiwyr lefel. Gwyr pob chwarelwr, beth bynnag, beth yw "lefel." Dyma air arall Sawl 'honynt sydd a'i wifr yn llawn, I Mae'n ddedwydd iawn ei foddion. Ai cyfaddasiad o'r gair Saesneg quiver yw gwifr ? Hwyrach y bu gwifr rhyw dro mewn arferiad. Y mae bias Cymreig iawn arno, beth bynnag, a thybiaf ei fod yn well o lawer na'r ymadrodd carbwl cawell saeth- au." Eto Ni wnaeth efe yn y dull hwn I neb rhyw nasiwn arall. Ow! hybarch Archddiacon, pa fodd y gollyngaist hwn o'th law gelfvdd ? Ond hwyrach mai dyma air llafar gwlad y pryd hwnnw am genedl, megis y defnyddir sasiwn neu seiat gennym ni yn awr, a champ i lewion Pen y Bercwy newid dim ar y rheini, beth bynnag. 0 ie, 'doeddwn i ddim yn hitio rhyw lawer am y dyn hwnnw a welodd eich gohebydd o Fanceinion yn darllen ei Feibl yn y tren. Rhywbeth o'r golwg yw darllen y Beibl i fod, goeliaf fi, a'i fywo argoedd,—dyna'rgamp. Bum innau yn yr hen wlad am dro yr wythnos o'r blaen, ac wrth gerdded (yr wyf dipyn yn hen ffasiwn, wyddoch) hyd ryw Ion wledig, gwelais beth mwy naturiol o lawer, sef dyn yn darllen Y BRYTHON mewn trol a wir, y mae darllen Y BRYTHON mewn trol yn fwy true to nature o lawer i mi na darllen y Beibl mewn tren. Ond dyna beth annaturiol oedd darllen am y Naill a'r Llall yn sugno cysur ac yn derbyn help wrth suoganu y parodi ar yr emyn ar y d6n Caersalem Wel, rhad arnvnt DANIEL O. JONES. 17 Sefton Square, Liverpool. -o

Ffetan y Gol. I

Clep y ClawddI