Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

.I psr* GOSTEG. I

DYDDIABUR I

Gyboeddwyr y Cymod I

CAPEL M.C. RAKE LANE, ,NEW…

Advertising

Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu

Beirniadaethau. THAETHAWD BEIRNIADOL ar Athroniaeth William James. DAETH i law bedwar o draethodau, dau ohonynt yn Gymraeg a dau yn Saesneg. Ap Nedd: Dyma draethawd Saesneg maith a galluog. Mae'r awdur yn lienor o gryn fedr, ac yn gallu ei fynegi ei hun mewn modd darllenadwy, clir, gloyw, a byw. Dengyshefydgryn grafftermeddwl agwybod- aeth bur fanwl o weithiau a dysgeidiaeth William James. Ond y mae i'r traethawd ddiffygion pwysig. Ar y cyfan, gwan yw ar yr ochr feirniadol. Ceir sylwadau beirniadol campus draw ac yma, yn wasgaredig trwy'r gwaith, megis pan yn trafod Pragmatiaeth a damcaniaeth yr is-ymwybyddiaeth ond fel rheol, nid ydynt yn ddim anagen nag awgrym- iadau byrion heb eu gweithio allan gyda manylder a thrrfn. Ond prif ddiffyg y traethawd ydyw diffyg cynllun a dilyniaeth resymegol. Llac ydyw o ran gwead a threfn- iant. Tuedda i fod yn wasgarog, ac i'w ailadrodd ei hun, gan ddychwelyd yn ol at bwyntiau a grybwyllasai o'r blaen. Ni threfnodd ei fater yny fath fodd fel ag y bo'r naill adran yn ddatblygiad naturiol o'r adran flaenorol. Yn ei ragarweiniad geilw sylw at bwysigrwydd meddyleg Wm. James fel allwedd i'w athroniaeth. Wrth hyn gellid disgwyl iddo ddechreu gyda chrynhodeb o'i feddyleg, ac yna symud ymlaen at ei ddal- iadau athronyddol,—dyna fuasai'r drefn resymegol. Neu ynteu, gallai adael allan yr ymdriniaeth feddylegol yn llwyr, ar y tir nad yw meddyleg yn rhan o athroniaeth mewn ystyr fanwl. Yn lie hynny, daw ymdriniaeth ar ei ddysgeidiaeth feddylegol ymlaen tua'r canol, ar olyr ymdriniaeth ar Bragmatiaeth. Dywed ar tud. 57 "The contents of his philosophy may be summed up under three main divisions, the nature of the human mind, the structure and criteria of knowledge, and the grounds of religious belief." Gresyn na fuasai wedi dywedyd hyn ar y dechreu, ac wedi mabwysiadu'r dosraniad hwn neu un cyffelyb yn ei ymdriniaeth, a threfnu pob mater arall fel is-raniadau o dan y prif ran- iadau hyn. Enillasai felly'n ddirfawr mewn trefn resymegol, a buasai'r cyfan yn fwy o adeiladwaith. Gellid nodi esiamplau o'r! diffyg trefn y cyfeiriwn ato. Er enghraifft, nid trefmus yw trafod Pragmatiaeth tua'r dechreu, ac yna wedi hir grwydro dod yn ol tua'r diwedd at Humanism, nad ydyw, fel y dengys ei hun, ond enw ehangach ar Bragmat- iaeth, neu o leiaf a berth yn yn agos i Bragmat- iaeth. Ceir adran ganddo ar Ewyllys Rydd," ac yn nes ymlaen ceir adran ar Indeterminism" ond perthyn y ddau fater yn agos i'w gilydd, a dylid eu trafod o fewn yr un adran. Mae'r awdur yn rhy hael ar ddyfyniadau mewn rhannau o'i waith. Er enghraifft, nid yw'r wyth tudalen 59-67 yn ddim ond cyfres o ddyfyniadau meithion (Dibwynt yw'r dyfyniadau maith o Royce td. 103-108) ac o Balfour (td. 149) oni buasai i'r awdur ddangos yn fwy manwl berthynas eu dysgeidiaeth hwynt ag eiddo James ar yr-un pwynt. Teimlwn fod yma ddefnyddiau traethawd rhagorol a chryf ond rhaid ei daflu'n ol i'r tawdd-lestr i gael gweled a ellir ffuriio o'r defnyddiau gyfangorff mwy cyfluniol a chadarn. Ond' dywedwn eto, ar- ddengys traethawd Ap N edd lawer iawn o wybodaeth a gallvi, yn ogystaf a choethter a bywiowgrwydd iaith ac arddull. Lladmerydd Traethawd Cymraeg gwir alluog yw eiddo'r ymgeisydd hwn. Ceir yma well trefn a chynllun nag a geir gan Ap Nedd. Rhanna ei faes yn gliriach, o dan y tri phen Moddwl, Gwy0 o daeth, Crefydd,—y rh aniad au a nod wyrt (fel y gv/elsom) gan Ap Nedd hefvd, ond na fabwysiadwyd ganddo yn ei ymdrin- iaeth. Yn sicr, y mae ei draethawd yn fwy o dyfiant byw, organaidd, nag eiddo Ap Nedd ac hefyd dengys fwy o gryfder ac annibyn- iaeth fel meddyliwr nag ef. Yn wir, y mae Lladmerydd yn athronydd praff a chryf. Ond nid yw wedi dysgu crisialu ei feddyliau mewn brawddegau clir, cryno, goleu. Tuedd i feddwl dipyn yn droellog a niwlog, ac i fraw- ddegu braidd yn drwsgl a chlogyrnaidd. Nid yw hyn efallai yn un syndod mewn ysgrifen- nydd Cymraeg ar bwnc fel hwn, canys nid yw'r Gymraeg yn gyfarwydd iawn a llwybrau anhygyrch athroniaeth. Ond y mae Llad- merydd yn Gymro gwych, eithr gedy'r argraff amorn fod cysgod y gwyll yn gorwedd ar ei feddyliau weithiau. Tybiwn fod aneglurder ei lawysgrifen i raddau helaeth yn gyfrifol am yr argraff hon; oblegid wrth inni dalu sylw manwl i'r llythrennau a'i geiriau unigol er ceisio eu dehongli, ein perygl yw colli rhediad yr ymresymiad. Ceir gan yr awdur grynhodeb rhagorol o ddysgeidiaeth James ond dylasai roddi mwy o le i'w Luosogaeth (Pluralism), yn lie cyfeirio at y mater yn fyr a brysiog tua'r diwedd. Nid ydym yn deall paham y gohiriodd ei feirniadaeth bron yn gyfangwbl hyd yr adran olaf, o dan y pen Crefydd." Buasai llawer o'i feirniadaetho dan y pen.hwnyn fwy perthynasol o dan yr ail ben (" Gwybodaeth "), megis ei sylw- adau beirniadol ar Bragmatiaeth, ar y lie annigonol a roddir i'r gwrthrychol, ar y pwys- lais ar y cyflwyniadol," etc. Wrth drafod sylfaen athroniaeth Wm. James y dylid dadlennu'r diffygion hyn, yn lie aros hyd oni ddel y pinacl i'r golwg. Fel y sylwyd, y mae Lladmerydd yn deall iaith ei fam yn dda, o ran ei gramadeg a' i chystrawen, er nad yw'n nodedig o glir a llyfn fel broddegwr. Hawdd gweled iddo dalu sylw manwl i orgraff a chystrawen yng ngoleimi ysgolheigtod di- weddar a dyna ddyletswydd pob un cyn anturio ohono i gystadleuaeth fel hon. Ond nid yw yntau bob amser yn gywir, yn ol canon y ddysg newydd. Er enghraifft, ysgrifenna boreu, chwareu, disglaer, engraifft, cymhorth, calonog. Mae weithiau'n bur ffodus gyda thermau Cymraeg i gynrychioli tennau Saes- neg, megis cydsoddol (concrete), gweith- ydd (factor), "tyfiannol" (genetic). Ond nid mor ffodus ymdeimladol (cognitive), cychwyn yn osiadol," mae'r gyndyb grefyddol yn anwireddadwy." Mae'r gair olaf yn awgrymu anwiredd i'r llygad a'r glust yn gynt na "gwireddu." Mae'n rhy hoff o adael allan y rhagenw perthy-nasol a, megis y maes gyflwynir i brofiad," yn lie a gyflwynir," ac felly bron yn ddieithriad. Myfyriw Yn Saesneg yr ysgrifenna/r ym- geisydd hwn. Y mae'n fwy o feistr ar ei waith, yn athronydd mwy disgybledig ac ddau flaenorol. Cawsom bleser o'r mwyaf wrth ddarllen traethiad mor feistrolgar. Nid oes dim o olion y prentis yn y gwaith hwn, na dim yn fwngleraidd ac amrwd. I'r gwrthwyneb, y mae'r cyfan yn dwyn delw disgyblaeth a diwylliant ac addfed- rwydd. Beirniadol yw bron y cwbl o'r traethawd. Nid yw'n disgrifio ac egluro dysgeidiaeth James, ond yn unig fel y daw ei ddysgeidiaeth i'r golwg-a hynny mewn modd clir a theg-yng nghwrs y feirniadaeth ei hun. Efallai y buasai'r traethawd yn fwy llawn a chytbwys pe rhoddasai adrannau i esbonio ei awdur, ar wahan i'r feirniadaeth fel y cyfryw. Wedi sylwadau rhagarweiniol pwrpasol,dech- reua ar ei waith fel beirniad yn ddiymdroi. Ac fel beirniad, y mae ganddo ei safbwynt pendant ei hun. Fe'i rhestra ei hun yn bur ddibetrus gyda'r ysgol athronyddol afeirniad- wyd mor llym a didrugaredd gan Wm. James, ac a gynrychiolir heddyw gan wyr fel Bradley a Bosanquet. O'r safbwynt yna ymesyd yntau ar brif ddaliadau James. Gwrthyd Bragmatiaeth, nid am ei bod yn anwir, ond am ei bod yn annigonol—-nid am ei bod yn anghywir, eithr yn unig-am ei bod, fel cyfun- drefn sy'n honni bod yn derfynol, yn ddi- ffygiol (t.10). Ni thybiwn y buasai James ei hun yn derbyn y geiriau cyfundrefn sy'n honni bod yn derfynol fel disgrifiad cywir o Bragmatiaeth. Ond ar wahan i hynny, credwn y llwydda Myfyriwr i gyfiawnhau ei osodiad fod Pragmatiaeth yn annigonol a diffygiol, ac felly'n gondemniedig. Mae'n amheus gennym a yw'r adran ar James a Bergson yn profi fod yr awdur yn meddu gwybodaeth first-hand o Bergson. Ymddeng- ys fel pe'n dibynnu ar bennod James ei hun amo, ac ni chyffyrdda a'r gwahaniaeth rhwng y ddau, sydd bron mor darawiadol a'r pwynt- lau o debygrwydd rhyngddynt. Yn yr adran ar Grefydd a'r Is-ymwybyddiaeth," dengys Myfyriwr fwy o gydymdeimlad a James nag mewn un adran arall, er y eawn beth beirniadaeth anffafriol yma hefyd. The treatment," meddai, "which James accords to the subject [of religion] as a whole, is throughout consistently pragmatic." Wedi'r gosodiad yna, a'r feirniadaeth lem ar Bragmatiaeth mewn adran flaenorol, buas- em yn disgwyl ymosodiad cryf ar athroniaeth James yngl^n a chrefydd, ar y tir ei bod yn rhy bragmataidd. Ynllehynny, darllenwn Certainly it is in the sphere of religion, if anywhere, that Pragmatism comes into its own, for here at least we can never exclude for a moment the practical results of our prin- ciples. Ond yn sicr, os yw Pragmatiaeth i'w gwrthod fel athroniaeth gwybodaeth, y mae i'w gwrthod hefyd fel Sylfaen athroniaeth crefydd. pe dim ond ar y tir a nodasai Myfyr- iwr ei hun. vn flaenorol, sef ei bod nid yn "anwir" neu "anghywir," ond yn "an- nigonol a diffygiol." Os yw Pragmat- iaeth yn methu Ii gwarantu gwirionedd cyffredinol, gwrthrychol, ac annibynnol ar ddyn, ym myd gwirionedd yn gyffredinol, metha a'i warantu hefyd mewn crefydd, lIe r ydym yn ymwneud a sylweddau a delfrydau nad ydynt i'w mesur wrth safon y defnyddiol a'r offerynol yn unig. Dywed Myfyriwr fod crefydd yn annibynnol ar athroniaeth ac yn cynnwys ei hathroniaeth ynddi ei hun (td. 59). Ni ddisgwyliem osodiad fel hwn gan un a rydd le inni gredu ei fod yn perthyn i ysgol Hegel neu Bradley. Eto, wrth feirn- iadupwyslais James ar le'r ybyddiaeth mewn crefydd, dywed yn briodol iawn fod a wnelo crefydd a'r ewyllys, Disgwyl1 em i un o'i ysgol ef ychwanegu'r feirniadaeth bellach i fod a wnelo crefydd a'r deall, a bod yr is- ymwybodol yn is-resymol ac fel y cyfryw yn ddall," yn unol a'i hoff ddyfyniad o Kant, "sensation without understanding is bund. Mewn gair, tra y cynhwysa'r adran ar Grefydd sylwadau rhagorol, teimlwn fod y beirniad cryf a chraff a gawsom yn yr adrannau blaen- orol yn cloffi tipyn yma. Diwyd o Ceredigion Traethawd Cymraeg ywhwn ac o ranhyd, manylder, trylwyredd, a chydbwysedd, saif ar ei ben ei hun. Dyma'r traethawd meithaf a mwyaf llafurfawr yn y gystadleuaeth. Symuda ymlaen o gam i gam gyda phwyll ac arafwch tywysogaidd, teilwng o athronydd. Ond er mor hamddenol ei symudiadau, nid yw un amser yn colli ei afael gref yn ei fater, nac o ganlyniad ar ei ddarllenydd. Mae ei ganfas yn fwy nag eiddo Myfyriwr cymer i mewn faes ehang- ach. Ein hargraff yw na chafodd gystal manteision addysg a Myfyriwr ac nid yw morgyflym yn cyrraedd ei bwynt nac mor gryf ei froddegiad. Ond os mai self-made ydyw fel athronydd, yn ol fel y dyfalwn, mae'n amlwg fod llafur maith ac amyneddgar wedi ei alluogi i ddod yn hollol gartrefol ym meys- ydd eang athroniaeth. Nid Wm. James yn unig fu maes ei astudiaeth. Gall alw prif athronwyr yr oesau at ei wasanaeth yn awr ac yn y man cawn ef yn ymdroi ychydig gyda hwn ac arall ohonynt, eithr heb golli golwg ,o l wg, sef ar yr amcan sydd ganddo mewn golwg, sef dehonali a beirniadu James. yr hyn a wna gyda chraffter a gofal cydwybodol. Ceir yn ei draethawd well cydbwysedd rhwng yr esboniadol a'r beirniadol nag yn y lleill. Mae ei feirniadaeth o Luosogaeth yn un o'r pethau goreu a ddarllenasom yn y cyfeiriad hwn. Wrth gwrs, y mae ymhell o fod wedi dadrys yr holl anawsterau. Er enghraifft, pan ddywed Fel y mae'r person dynol yn rhwymo holl rannau amrywiol ei brofiad yn undod cyfan, yr un fath y mae'r Bersonoliaeth Ddwyfol yn cylymu ac yn cysylltu'r cyfan sydd mewn bod yn undod o'r math uchaf y gallwn synio am dano," ni ddengys pa fodd y mae cysoni'r undod a geir yn Nuw a rhyddid ac annibyniaeth y person dynol, gwir- ionedd y dadleua'n gadarn drosto. Er hynny, nid nacaol yn unig yw ei feirniadaeth, eithr cynhwysa awgrymiadau cadarnhaol gwerthfawr. 0 ran arddull y mae r traeth- awd hwn ar y cyfan yn lan a choeth, heb fod yn rhodresgar a blodeuog. Rhydd Diwyd argraff amom ei fod yn ddisgybl cymharol newydd o'r orgraff ddiwygiedig. Gwna ymgais dda i'w dilyn, ond y mae ymhell o fod yn sicr a diogel ynddi. Ceir ganddo enghreiff- tiqu ac engrheifftiau, ymwacâd ac ymwaghad (yn yr un llinell), ei gilydd ac ett gilydd (a hynny'n ami yn ymyl ei gilydd I), elfennau ac elfenau, a nifer o anghysonderau cyffelyb. Rhyfedd yw darllen yr ystyr gyfyng hwn ddwywaith ar yr un tudalen, gydag ystyr yn wrywaidd a benywaidd yr un pryd. Dylai pob lienor Cymraeg erbyn hyn wybod mai ystyr adwaen yw I know (y person cyntaf unigol), ac felly mai anghywir yw am adwaen ei natur," yn lie adnabqq. Cei r rhai ilithriadau A- Pierce ?-n —" Havard yn lie Harvard, Pierce yn He Peirce, Realm of Aims (bedair gwaith) yn lie Realm of Ends. Gwell gennym y gair Meddyleg am Psychology nag Eneideg (am fod yr olai yn awgrymu rhyw sylwedd fel enaid," gan einhatgofio am yrhen ratimial psych-ology sydd ymhlith y pethau a fu), Vnigaeth am monism, nag unigoliaeth (gan gaclw'r gair olaf ar gyfer individualism), ac yn sicr Pragmat- iaeth na'r gair Pragmategiaeth neu Brag- madegiaeih (yr hyn o'i gyfieithu yw Prag- matology-ism /). Ond nid yw'r pwyntiau hyn ond man lwch y cloriannau mewn traeth- awd mor sylweddol, dihysbyddol, a galluog. Wrth roi'm dyfamiad, mynegaf fy marn fod pob un o'r pedwar traethawd, o "i gy-ryd ar ei deilyngdod ei hun, yn llawn haeddu'r wobr a gynhygir yn y rhaglen dalfyredig. Gresyn mawr oedd tyxinu 'r wobr i lawr i'r hanner. Nid-yw'r wobr bresennol (5 gini) yn deilwng o'r pwnc nac o'r gystadleuaeth ragorol hon,—yn wir, nid yw'n fwy na digon i brynnu'r llyfrau angenrheidiol ar gyfer y gystadleuaeth. Er rhagored yw traethawd Myfyriwr, dyfamaf y wobr yn gyd- wybodol a dibetrus i Ddiwyd o Geredigion, gan ychwanegu eto fod y wobr yn anghyfartal i werth y gwaith. Anturiaf awgrymu i'r Pwyllgor y priodoldeb o roddi'r wobr lawn yn ol y rhaglen wreiddiol i'r ymgeisydd buddugol. D' MIALL EDWARDS. Aberhonddu, Awst laf, 1916. [Mabwysiadodd y Pwyllgor yr awgrym a geir yn y paragraff olaf, trwy roi gwobr o 10 giniJ. —1—o—■—■ Gwr cibog yr olwg oedd Dr. Allen, y beim- iad cerddorol, ac a gymerai lawer iawn i'w lwyr foddio, a'i famu oddiwrth ei wyneb. Sut bynnag, bore dydd Gwener, eisteddai yn rhes flaen y llwyfan, tua'r canol, er mwyn clywed canu cynulleidfaol y Cymry ar ei oreu. Dyma Llangoedmor neu un o'r tonau yn cael ei chanu dacw'i lygad yntau'n dechreu lledu a gloewi dacw'i ben yn dechreu ysgwyd a'i wyneb yn gweddnewid, nes cyn gorffen y d6n ei fod yn dechreu dod yn debyg i wyneb Stephan yn y chweched bennod o Actau r Apostolion.

Beirniadaethau.

Gorea Cympo, ylfun Oddieatttre…

IAR DRAWS A CAR HYD

Advertising