Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
YSUFELL Y BEIROD
YSUFELL Y BEIROD V eyayroltion gogjfer a'r gelofn hon i'w oyf- .irh.1 :-PBDROG, 217 Prescot Road, Liverpool MYFYRION Ar brioda8 y Parch. W. Nantlais Williams, gyda Miss Annie, Price, merch Mrs.Price, a'r diweddar Thomas Price, Ammanford (Brechfa gynt) yn Nhreherbert, Awst laf, 1916. LLAWN yw'r flwyddyn o fendithion, Kael fendithion Daw Meysydd a pherllannau llawnion, Ffrwythau o bob rhyw. Hardd yw'r ddol a'i blodau tlysion 0 bob lliw a llun, Siriol wenant fel angylion, Llonnant ni bob un. Ar y mynydd llwm ac uchel Tyf y grug a'r brwyn, Paentir hwy gan law rhyw angel, Denant ni a'u swyn. Yn y wig—a'u myrdd delynnau-- Clywch y deiliog gor Chwery'r awel ar eu tannau Folawd ber i'r lor. Clywch y eôi. asgellog hefyd, Gyda'u peraidd gan Llawn cynghanedd ac o wynfyd Yw eu bywyd glan. Natur sy'n ei dillad goreu, Ddydd eich uniad gwiw Mae'n proffwydo bywyd goleu, Llawn o wenau DIJW, Fel y flwyddyn yn drymlwythog 0 fendithion rhad, Boed eich bywyd yn gyfoethog 0 rasusau'n Tad. Na foed Gorffen-haf i'ch hanes, Dim ond awyr las Byw dan dywyniadau cynnes Cariad Crist a'i ras. Boed eich uniad fel mae natur, Yn gynghanedd fyw Rhodio law yn llaw, mewn cysur, At ddelfrydau Duw. Mhydaman MORIENYDD ELUSEN Ehodd hapus yw Elusen,—a gwir fel I'r gwr fydd mewn angen Ebrwydd goleua'i wybren, Haul oes yw,-angyles wen. Y FODRWY Diogelir dwy galon-yn fedrus Gan y Fodrwy eurgron Nod arwydd benyw dirion- Enfys aur yw ar fys hon. Y GRUG GWYLLT a man, gwallt y mynydd-yw y Geir ar groen y gelltydd [Grog, I -1 Teulu'r rhos, plant awel rydd, Hen denantiaid y nentydd. Lerpwl Barlwydon GWRONIAETH PRYDAIN I AR danllyd faes y Rhyfel mawr, Saif Prydain yn ei grym— Yn geidwad brodyr geir ar lawr Tan drais y gelyn llym Tra'n brwydro dros y truain hyn, Ac ar yr allor roi Ei gwerthfawr waed, y nefoedd fyn a'i bendith ei gordot. Ca'r Ellmyn dan ei nod o wawd I'r oesoedd fynd i'w hynt Owrthododd fod yn geidwad brawd— Fel Cain lofruddiog gynt 0 gestyll ei honiadau ffol, I lawr i ofid daw A gwg yr lor fydd ar ei ol, A'i fron yn llawn o fraw. Dyrch gwaed y Belgiaid lef am lem Ddialedd am y brad, A chaiff yr euog balch ei drem, Ei hyrddio i sarhad Am noddi gweiniaid byd yn nydd Eu drycin, megis craig Dyrch Prydain yn wronol rydd A'i phen uwch tonnog aig. Yn ddewr hi gerdd trwy niwloedd ing I'w gwaedlyd fryn yn awr Ond i oreuro'r cymyl dring Trem buddugoliaeth fawr; "Tu cefn ei llw, ei gwawd, a sen, Yn hir saif Prydain fyw A'i sail, nid ar ddiflannol len, Ond ar gadernid Duw. Wrth ddwyn Cyfiawnder pur i'r byd "O hyd mae mynd yn fawr, Wrth ddwyn y groes a'r aberth drud, PI-JER hyfryd wynnu'r llawr I ryddid Teyrnas Dduw ei hun WJY cwyd ein gwlad ei phen, Arei thonnau'n glaer bob un yJLlewycha goleu'r nen. Mae plant eih dewr Lyw ola'n llu, WA chedyrn tiroedd pell, Yn unol ddwyn ein mamwlad gu 1 olud gwynfyd gwell Tra ton ar fryn yr eigion rwym »Ein hynys yn ei bri, Fe gofir y drydanoldwym Am ei gwroniaeth hi. Llanbrynmair DEMETRIUS ► Y SUBMARINE. I Un llwfr rydd her llofrudd hyll-y mor yw Y submarine erchyll A gostwng ein mor gbstyll O'r golwg a'i fawrddrwg ddryll. Eilir Aled DARLUN CYBI (yri y Dysgedydd) I ■Gwelwch y Priiarda gOlau,-dyna fo, Dan ei faich o wobrau Ei dy geir wedi ei gau, Yn wych dwr, a, chadeiriau. Pwllheli W, PRYS OWEN A CRANOGWEN 1 Duw lor, ar Eos y De,—a alwodd, Hithau'n wyl, aeth adre Granogwen wen y Wiwne Yw hi yn awr, yn y Ne\ Os yn hen, 'does yno oed, Di-ing yw'r wlad ieuengoed. 0 weled Islwyn wylaidd,-a'i frodyr, Mewn hyfrydwch sancfcaidd, Oni fu, mewn llonnaf aidd, Am ennyd, gyfarch mwynaidd ? Son am Y Fodrwy swynol—ragorodd Ar gewri awenol Ond heddyw'n lan, can pob col I Briodas Y,brydol.-C YBi. YR HEDDGARWR GWR hyfwyn, na werth ei grefydd— er aur' Arwrol ddiffynnydd Dyn frawd er ei wawd, rhydd Aur ei waed yn waredydd. Yfory, gwel ei fawredd-dwyfol, Edifar Ddialedd Ac Ewrop, lie y gorwedd, A blyg lin-heb ei wael gledd. I ddaear y Brawd, ni ddeuant-a wyrodd Werin, yn eu trachwant O'i wyddfod o y ffoant, Lu diffaith, yn oddaith ant.—Cybi.
Basgedaid o'r Wlad.
Basgedaid o'r Wlad. YMAD AW I AD Y PAROH. G, fi- HAVARD, M.A.,B.D., O'R RHYL.- Treuliwyd y seiat nos Fercher ddiweddaf, Awst 23ain, yn Clwyd Street, Rhyl, i ganu'n iaeh a'r Parchedig G. H. Havard, M.A.,B.D., a'i deulu ar eu hymadawiad o'r Gogledd i'w hen gynefin yn y De. Daeth Mr. Havard o Lundain i'r Rhyl tua phum mlynedd yn ol. Afiechyd a gwendid yn unig a barodd iddo dorri ei gysylltiad a'i hoft' Wilton.- Drwg gennym na chafodd ef a'i annwyl briod yr iechyd a'r nerth a garasem ac a obeithiem y buasent yn ei gael trwy ddyfod i fyw i'r Rhyl. Gwaeledd hefyd, a'r ffaith eu bod yn credu mai oddiwrth yr Arglwydd y daeth yr alwad i Abercarn, a barodd i'r brawd a'r gweinidog ffyddlon benderfynu derbyn yr alwad i'r De. Parlysodd y ffeithiau yna bob tuedd ac awydd oedd yn yr eglwys i geisio eu perswadio i aros gyda ni. Y r oedd gweinidog aeth Mr. Havard mor dderbyniol ac addawol ac ymlyniad yr eglwys wrtho yn gyfryw fel y meiddiwn gyffel- ybu ei theimlad i deimlad teulu lluosog, wedi colli'r pen teulu pan oedd fwyaf o'i angen. Gwelir weithiau mewn rhai mynwentydd gof- golofnau fel pe wedi eu torri yn eu canol. Credwn fod cofgolofn felly yn sefyll heddyw ym mynwent gobaith eglwys Clwyd Street. Wedi gwneud sylwadau yn cynnwys cyfeiriad. at ragoriaethau Mr. Havard, cyflwynodd y llywydd, Mr. Wm. Joues, oriawr aur iddo ar ran yr eglwys, a, galwodd ar Mrs. D. H. Jones, Llys Aled, i gyflwyno rhodd gyffelyb i Mrs. Havard. Wedi hynny cyflwynodd Mrs. Price roddion i'r plant, Augustine a Joan, ac i Miss Enid Jones (nith). Deallwnfod ei dosbarth yn gofalu am rodd i Miss Jane Williams, eu morwyn ffyddlon. Yna cafwyd anerchiad gan Mr. Havard a'i briod, yn cydnabod yr anrhegion ynghyda'u gwerthfawrogiad o'r caredigrwydd cyffredinol a dderbyniasent pan yn glaf ac yn iach, yn ystod eu harosiad yn y dref. Dilynwyd hwy gan y Parchn. R. Richards ac E. James Jones, M.A., ac amryw frodyr. Llongyfarchodd Mr. Rich- ards ei frawd ar y waredigaeth oedd yn ei aros mewn eglwys heb flaenoriaid. A chynghorai ef i beidio a gweithio mor galed yn Abercarn ag y gwnaeth yn y Rhyl. Cyfeiriodd Mr. E. J. Jones yn chwaethus at ysgolheigtod a chyitoeriad Mr. Havard, gan roddi pwys ar ei foneddigeiddrwydd. Credwn y carasai am- ryw, pe buasai amser, gyfeirio yn ddiolchgar at yr anerchiadau a gafwyd gan Mr. Havard ar ddechreu'r seiadau ar wahanol faterion, ac yn enwedig y gyfres a draddododd ar y Salmau ac ar rannau o Lyfr y Datguddiad, ynghyda'i bregethau coeth ac amserol. Edrychwn ymlaen yn awchus am ei esboniad ar Lyfr y Datguddiad. Heblaw a wnaeth i'r eglwys, i'w chleifion ac i'w galarwyr, y mae iddo ef hanes a bery mewn cysylltiad a'r milwyr a fu yn y dref yn ogystal a'r ugeiniau o'n pobl ieuainc ni ein hunain sydd wedi ymuno a'r Fyddin ac ar wasgar yn Ffrainc yn yr Aifft ac ym Mesopotamia. Gofalodd amdanynt pan oeddynt yn paratoi,ac nid ydyw wedi anghofio yr un ohonynt ar ol iddynt adael eu gwlad. Y dydd hwnnw yn unig a ddengys faint a gwerth yr hyn a wnaeth trwy ymddiddan ac mewn llythyrau at y bechgyn. Cydnabuent hwythau ei ofal tadol amdanynt mewn llythyrau diddorol a serchog ato yntau'n ol. Pan glywodd un sydd yn yr Aifft fod son am iddo ein gadael, anfonodd i ofyn i ni amgylchu, Noddfa a barbed wire entanglements, fel nad allai fyned ymaith. Felly yr oedd ein gafael ynddo, gartref ac oddicartref, yn llwyr a chyffredinol, ao y mae ein dymuniadau am ei lwyddiant a'i gysur ef a'i deulu yr un mor lwyr a chyff redinol.-R.J. O'R HEN SIR, SEF SIR FON.Bu dydd Iau diweddaf yn ddydd y blodau mewn ystyr neilltuol yn Llangefni, pryd y gwelwyd y merched bach yn chwim droedio'n ysgafn o gwmpas y cannoedd pobl brysur a geid yn y dreflan, a'u dwylo'n llwythog o flodau per i'w gwerthu er budd milwyr y lie ac 0 mor anodd oedd gwrthod blodeuyn o law mor gu a than wen mor dynqr. A gweithred dlysach na'r blodau, aphereiddiach na'u sawr, oedd eu gwerthu i amcan mor ddrud. A bu i'r dreflan ddiwyd anfon oddeutu cant a hanner o wyau i'r milwyr anffodus sydd yn Ysbyty Bodlon- deb y Borth.-Daethai Mr. Griffith Jones, Glan Traeth, Bodorgan, adref i weld ei deulu, dros y mor o Awstralia bell, wedi bod i ffwrdd am oddeutu pymtheng mlynedd a dyfod yn un pwrpas i ymladd dros ei wlad. Dyna newydd drwg oedd yn ei ddisgwyl ar aelwyd ei hen gartref-fod ei frawd, y eyfeiriwyd ato yr wythnos, ddiweddaf, Mr. Albert Jones, wedi ei ladd yn y ffrynt. Trwm iawn oedd y newydd a dderbyniodd y Cyrnol Williams, Trefeilir, Bodorgan, fod ei fab hynaf wedi ei, glwyfo'n enbyd yn ei goesau yn FfTaine a newydd diweddarach tristach yn mynegi y go rfuwyd to rri'r ddwy go es ymaith. Newydd yn cyrraedd Llangefni fod un arall o'i dewrion, Mr. Willie 0. Williams, Glasynys, wedi cwympo. Bachgen glandeg a siriol; ac ar nos Wener, yng nghapel Penuel, ymgryix. hodd cynhulliad eryf o'r dref i gydalaru a chydgofio am yr arwyr ieuainc. A bro Llan- fair yng Nghornwy yn cwyno o golli'r Preifat Thos. P. Lewis, Llain dirion, oedd mor hoff gan yr ardal.le, dim ond un wobr ddaeth o Aberystwyth i Fon, sef i Mr. Harry Will- iams, mab talentog y Mynydd Mwyn, Llan- nerch y medd, am gynllun o furlen i hysbysebu y dref honno. Da Harri am gadw Mon rhag cael ei hanghofio.Y dydd o'r blaen, gwel- wyd un o ddoniau melfin yr Hen Gorff yn mwynhau awelon adfywiol Rhosneigr, neb amgen na'r Parch. Thos. Williams, Armenia, Caergybi, efe a'i briod a'i ferch fach eurwallt Mary. Yr un enw a'i nain ardderchog ydyw hi a ffordd ei phatriarchaidd nain fo llwybr- au bywyd Mary gain. Nid oes bregethwr naturiolach yn y Sir nag efe, heb ynddo ddim o'r chwydd annioddefol a geir mewn rhai, ac sydd yn eu gwneud yn gymaint o fwrn i gymdeithas a balchter y Caiser.-Llygad Agored.
Clep y Clawdd 1 sef Clawdd…
Clep y Clawdd sef Clawdd Offa I [GAN YR HUTYN.] Y DALL I ARWA.IN Y DALL.-Pen- odwyd Caplan Dall i filwyr dall y Deyrnas Gyfunol y dydd o 'r blaen, a g wr o 'r Clawdd a benodwyd, sef y Parch. David Griffiths, o Ros y medre, ger Rhiwabon, sydd yn awr yng Ngholwyn Bay. Gwr rhagorol ac yn deilwng o'r swydd bwysig ac uchel hon ysgolhaig da a phregethwr cryf, heblaw bod yn fugail wrth fodd calon ei gorlan. Y mae'n ddall ers yn chwech oed. Rhyfedd fod dynion dall mor alluog. Mae deillion wedi bod ymhlith rhai o ddynion galluocaf y byd. Un llygad oedd gan Christmas Ifans. Nid oes yr un gan Griffiths, ond fe fydd yn gwneud i'r deillion i weled, maes o law. Gwna milwr dall gystal milwr a neb dan Faner y Groes. Y PEYN TRAETHODWR.—Y Parch- D. D. Williams, Llynlleifiad, yw hwnnw. Fe fu gynt ar y Clawdd yma am fiynyddoedd, a gwnaeth waith ardderchog fel bugail eglwys y M.C. Saesneg yng Nghroesoswallt. Credwn hefyd mai pan ar y Clawdd y daeth vn gamp- wr yn y grefft ysgrifennu. Fe fyddai casgliad cryno o'i gynhyrchion llenyddol buddugol yn un llyfr yn amheuthun mawr. Dywedir mai gorchestwaith yw ei draethawd buddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddiweddaf yn Aberystwyth ar ddylanwacl Dr. T. Charles Edwards ar lenyddiaeth a meddwl Cymru. Nis gallai fyth gael testyn mwy cydnaws a'1 aidd. Bydd disgwyl mawr ar y Clawdd am i'r traethawd gael goleu dydd, a bydd, yn ddiameu, ddarllen ac astudio lawer arno. Ychwanega'r fath gynnyrch at gyfoeth llen- yddol ein gwlad. SWN TRW ST TRAED Y PLANT.- Mae Cerddo riaeth newydd ar y stryd bob bore yn awr. Ceirliarmoni traed y plant yn gyrru tua'r ysgol. Caed seibiant yn ystod y gwyl iau. Bu cannoedd o'r plant, diolch iddynt, yn cynorthwyo'r amaethwyr yn y meysydd. Maent yn edrych yn fwy wynebgoch a graenus ar gyfrif yr awyr agored a'r lluniaeth iach. Ni fuasai'n bosibl cael gwell holiday. Maent yn dychwelyd yn ol i'r Ysgol gan deimlo eu bod wedi gwneuthur eu rhan yn ystod yr haf, ac y mae trwst eu cerddediad yn deffro cerddoriaeth ar yglust nas clywid ers dyddiau. ac y mae rhyw nodau cryfach i'w clywed yn lleisiau'r plant ar gyfrif eu hoender brwd a'u hysbryd uchel. Dysgant fwy y term nesaf, mi gredaf pe bai dysgu a gwasanaethu bob yn eildydd, ymbraffent yn ysgolorion gwych yn ddiymdroi. Bendith ar y plant CYNHILWCH CYNIIILWCH .Daeth rhyw swyddpg o Lundain—oblegid yno ymae magwrfa a nytitle Swyddogion o bob gradd, lliw a llun tua r Clawdd yr wythnos ddi- weddaf, gan floeddio'r gair Cynhilo yng nghlust pob Cyngor Sir a Thref. Eglur yw ei fod wedi deffroi rhai, canys gwelir symudiadau amiyw ar droed i gychwyn pwyll- gorau i drefnu ac i symbylu cynhildeb er prynu'r War Loan Certificates. Da fai cynhilo bob amser, ond da ddwy waith yn awr, sef da i'r dyn a da i'r wlad. Dywedir ein bod wedi darbod rhyw bedwar ugain miliwn o bunnau yn ystod y misoedd diweddaf ond mor ychydig yw hynny pryd y cofir fod traul y rhyfel rhyw chwe miliwn y dydd, ac y gwas- treffir yn ddyddiol yn ddiangenrhaid lawer yn ychwaneg na hynny. Euog iawn yw'r Clawdd o wastraff gwirfodd. Pa bryd yr ymddeffri i'th gyfrifoldeb, 0 Glawdd ? HEN SORT YN YMNEILLTUO.— Mae bugail yr Hollt, yr hen sort, yn ym. neilltuo ar ol deugarn mlynedd lawn o fugeilio defaid Seisnig y gwastadedd ar y Goror. Gwr uchelben talgryf yw'r hen fugail, ond wedi cael cystudd maith a thrwm yn ddi- weddar, ond llawen yw deall ei fod, er hynny, yn llawer gwell, yn medru siarad, sgrifennu a cherdded, er nas gall fugeilio defaid crwydrus mwy. Bugail gwlad a fu trwy gydol ei oes faith, a bugail defaid estronol hefyd a fu, er fod yr hen fugail yn Gymro twymgalon ac yn Gymreigiwr gwych. Nid oedd yn bregeth wr mawr, or ei fod yn ddywedwr anghyffredin, ac yn glebrwr diddan. Yn awr yr ymneilltua ar ol hirddydd o lafur mawr, a chymer arall ei le, a bugail newydd a welir ar y goror hyn, ond fe fydd colled fawr a hiraeth am hir ar ol yr hen, oblegid hen sort oedd. ESTYN FFON I'R DAITH.-Mae cylchdaith Seisnig Wesleaidd Bryn Baw ar golli ei bugail. Gwr ifanc diweddar o'r Coleg yw, ond enillodd serch y frawdoliaeth yn arw, ac nis gallent ei ollwng heb ddangos eu hed. mygedd ohono. Y nos o'r blaen, estynasant ffon ebonwydd bert iddo, fel pedywedasent Gan eich bod yn mynd mor bell a swydd Esecs, gwell i chwi gymryd y ffon rhag i'r daith fod yn ormod i chwi, ac hefyd fel y galloch ddychwelyd atom ar ei phwys eto os bydd awydd ynnoch ryw dro. Bydd yma galonnau cynnes yn eich disgwyl a breichiau tyner i'oh derbyn. Rhai garw yw'r Wesleaid am wneud presantiau mae gan ami i weini- dog symudol iawn lond ty ohonynt eisoes, ac nid yw eto ond ar hanner ei yrfa ddaearol. Hwyrach nad oes yr un Cyfundeb yn y cread wedi rhoi cymaint o anrhegion ond pa ryfedd, rhoddwr diail yw eu Meistr Mawr, a cliofiant hwythau am ei weision liar. Da chwi NEUADD Y MILWYR 'YNG NGHIN. MEL.—Agorwyd y Neuadd yn deilwng o Ymneilltuaeth yn swn can a mawl. Yr oedd prif bregethwyr Cymru yno'n traddodi'r Gair, a Seneddwr penna'r byd yn dweyd gair. Yr oedd yr holl enwadau yno'n ddiwahan, a neb yn tynnu'n groes. Ond y mae hynny wedi creu malais yng nghalon rhywrai. Dy- wedant nad yw ffosydd (drainage) y Neuadd yn iawn, a gosodant y cyfrifoldeb ar y Llwyd o Wynedd. Onid efe sydd yn gyfrifol am bopeth ? Cred y byd fod y Creawdr mawr ar ffyrlo, ac mai Lloyd George sydd yn cym- ryd ei le. Nid yw ffosydd y Neuadd yn iawn, medd rhyw ymgecrwyr ar Gyngormewn Sir. Yn y drains, ac ar y drains, y mae'r math yma'n byw ac yn bod,—dreigiau'r drains ydynt. Gobeithio y bydd y fath bre- gethu yn y Neuadd newydd hon fel y sychir i fyny holl ffosydd llygredigaeth yr holl wlad. DA V FILWR DWL.-Yn yr Wyddgrug yr oeddynt, yn baeddu pen rhyw wr dieithr didramgwydd oherwydd nad oedd mewn khaki. Eglur iawn nad oeddynt hwy'n deilwng o'r wisg honno diraddiasant y khaki, a hynny oherwydd diod. Drwg medd- wl mai dau Gymro oeddynt. Y math yma sydd wedi diraddio ein gwlad yng ngolwg y gwledydd drwy'r canrifoedd. Gobeithir y cosbirhwy yn ol eu gwirhaeddiant, ac y dysg- ant wers o bwys-sef bod yn Gymry gartref ac nid yn Huns. DOD I WELD YR HEN LE.-Felly y gwnaeth cyn-weinidog Johnstown y dyddiau hyn. Gadawodd landeg lannerch y Bliw Maris am docach a cheinach lannerch ei gyn- hefln yn yr Rhos a'r cylch. Pregethodd hefyd ar y Ponciau yma y Sul yn deilwng o wyr y lie. Fe dry pob mam-aderyn i weld yr hen nyth tra pery. CAEL EI ALW I'R SOWTH.—VT ffrynt y gelwir milwyr y Gogledd, ac i'r Sowth y pregethwyr. Mae'r Deheuwyr wedi dechreu syrthio mewn cariad a'r Gogleddwyr. Ca ami i un ei alw i lawr clywodd Mr. R. R. Jones, B.A.,B.D., Bwlchgwyn, lais o Gwm Rhondda—sef Y cwm culach na cham ceiliog yn galw amo. Atebodd yntau yn gadamhaol, a mynd i'r Porth a wna. Gobeithio na fydd yn borth cyfyng" iddo. Mae Mr. Jones yn ysgolhaig gwych, ac wedi graddio'n uchel. Dymunir llwyddiant mawr ar ei waith gweinidogaethol. Y Bugail Mawr fo'n ddelfryd iddo. AM WELD Y CLA WDD.-Deuir o bell ac agos i gael cip ar y Clawdd, sef Clawdd Offa. Yr wythnos ddiweddaf, bu Syr Preis, K.C.M.G., o Dde Affrig yma. Dod i roi gwledd i'w lygaid a wnaeth. Cadd ei fwynhau yn fawr. Mae ganddo hefyd gysylltiadau agos a'r Clawdd. Pwy a ddaw yma nesaf, tybed ? Yr hen Botha hwyrach. MARW DROS EU GWLAD.-Wrth ysgrifennu, disgyn y newydd prudd am syrth- io o am rywo'njnilwvrgwirdclewr o amgylch Ý Clawdd yn Ff rainc. Bydd Roll of Honour y Goror yma yn cynnwys enwau aneirif pan wneir i fyny'r cyfrif eto nid oes ball ar fechgyn yn eu hawydd i fynd allan i gyfarfod a'r gelyn. Bryd y ceir heddwcli ?
Advertising
Palatine Trade Protection Office (L'pool). 35 Exchange Chambers. 2 Bixteth Street, LIVERPOOL, and at LONDON. Subscription ii is, per annum. Includes an UNLIMITED number of collections of accounts. Tel. 8365 Central (jliues). 'Telegrams,' Quorum- Apply for further particulars— PARKIN S. BOOTH, General Manager. Coupon Rhad-Yswiriaeth (Peidier a'i hollti'n rhydd), BYDD 1JX GRESHAM fire and Accident Insurance Society Ltd St. Mildred's House, Poultry LONDON. E.C. dalu £ 100 (can pant) i gyntyohiolydd oyfreitbio & phersonol y aawl a fo'n ddiles-ddaliwr y coupon hwn, os y bo iddo fo nen hi gael eu lladd yn hoilol ac yn uniongyrohol drwy ddamwain rown Deyrnas Gyfunol i dren unryw Gwmni BeilSordd, Tramcar, Omnibus, Cab, neu Gerbyd Trwyddedig a Llbg, yu yr hwn y bo'r daliwr yn oael ei glndo fel telthiwr tooyn a chlud, yn ddarostyngedig bob amser i'r amodau arbennig a ganlyn syda i'w ystyried fel rhan a ohyfran o'r oytundeb- (a) Fod y marwn digwydd o fewn denl. niwrnod ar nagain wedi'r ddamwain (b) fod rhybudd ohoni'n cael ei roi i'r Gymdeithas o fewn saith niwrnod yn eu Prif Swyddfa yn Llundain (e) fod y oyfryw. dystiolaeth res- ymol parth achos y farwolaeth yn cael ei gyflwyno ag a fo'r Gymdeithas yn ei ofyn; (i) fod y daliwr wedi 'sgrifennu ei arwydd- enw arferol, oyn i'r ddamwain ddigwydd, ag ino yn y lle darparedig gogyfer a hynny I na bo'r Gymdeithas yn gyfrifol i fwy nag un person parth mwy nag un coupon yn y paptur hwn nafr un oyhoeddiad arall; (f) na t o ]?!r ?= wiriaeth hwn ddim yn gaffaeladwy i bersonan tan ddeuddeg na thros-ddegathrigain mlwydd oed, ao a ddeil yn ddilys am saith niwrnod o 12 o'r gloch y dydd 7ia oodir. Arteyddnod y Daliw frig fed, I Danysgrifwyr, Raid I dderbyowyr cyson r papur hwn aalm arwyoao r Coupon os ca'r Gymdettha* gwbl sicrwydd a phra wf el fod yo, cael eu anfon iddynt yn ddifwtch. Olain eiygffl DRAMA r GA PEDR HIR. rrPRIS lB. DRWY'R POST Is. ig. I'w gael oddiwrth yr Awdur, 21Wadham Rd., Bootle ■/ ■■ ■ ■ W. & J. VENMORE, Estate Agents & Volusto 200 SCOTLAND RD., Liverpool Inmon Mo. 4216 Boysl (t Unn). ALLAN LINE To CANADA fSfiRPOOL. GLASGOW, LONDON ftBAVHi I TO CANADA, NEWFOUNDLAND & UAA. James St., Lirerpool; 14CookSp«rr St? SoW., and 1M Lead.nha11 St.. London, BJ1. G. W. HUGHES,Q. & L.T.S.C (JriMfoydd* 0. rw Jftiwvol M.O. PrUk— «MMI» Arweinydd Cymanfaoedd Canu„ Beirniad, ac Arholwr. Parotoir Yingeiewwr at DyatyagHfau uwekm Coleg y Solffa, Hen Nodiant a soles 70 KINGSLEY ROAD LOP\) J. Lloyd Jones, & Co., BSTATB AGENTS, Ac, 6 Lord Street, Liverpool rmiaruowm 811 bam*: FRANCIS & HOLLAND, Sight Testing Opticians, AFRICAN HOUSE, < WATER STREET LIVERPOOL. (Close to the Town Hall). HARTLEY & GO., Liverpool 202 LONDON ROAD. MLJIJ BY AUOTIOJf BVBBY tfUSSDAT AND FBIDAY A* ONH. SATDSDAt NIGHTS A* 8BVBH VALUABLB HOUSEHOLD URNI"URB OF AMM DBSOBIPTION8. UAQKIFIOBNT "W AMM SBOON-D-HAND PIANON 6Bl3315.LAUGR VARIBIT OF BEDSTEADS BBDDING, && BVBBY NEOEMITY FOB HOU8BKBBPIHQ AW saasB BAHM AND save at L?w ? MR ON?. A MAGMMOBNt SELBOtlOH 9UPEBIOB FURNITURE IS ALWAYS on III 1TOOK AND ANYTHING MAY BB PUBORADAU SY PBIVATB TREATY. GOODS STOKBD On Tliw 6.S0 a.m. to 9.80 p.m.; SatmdaT 1 Mk 'mphone 17M Bofsi. i'<O!<OpNhBonMe NMNNTS (HITHBB URaB 09 «MA 0' ANY DJMORIPTION INVITBD FOB IHM ULBI. BBIT BBSULT GUABANTBBB. — -fI( If you want I The moat Comprehensive POLICIES 1818 THE BEST TERMS "rite for pariioulars to I The Gresham LIFE, FIRE, AND ACCIDENT Insurance Offices. Bead omc. I 81. Mildred* House Poultry. LONDON. S.S. Branch Offlot i I 014 CxcbtBit A'U« I LIVERPOOL] JAMES B. SCOTT, Goneral.macmaer I Balls' Wedding Rinas. Guinea Gold Wedding Rings from 7/8 la GO/ Half dozen Beat Electro-plated Spoom giraa to each purchaser of a RiDe" BALL'S LUCKY WEDDING RING DEPOT, 33:LONDON ROAD, LIVERPOOt. Finger Size Card post free. Clow on Wednasdajs at i o'siock. Dwy Action Song Cymreig Da. Y MILWYR. BYCHAIN (The Little Soldiers). Y MAMAU BYCHAIN (The Little Nurses). Gan Pedr Alaw. TONIC SOLPFA, 2g. yr un. Drwy'r post. 210. HEN NODIANT, 6ch. yr un. Drwy'r post, 6 a. Cystal a'r goreu a gwell na llawer a gyhoeddir yn Saesneg. Cyhoeddedig yn S-vvyddfs"r « Brython," 356, 358 Stanley Rd., Lirerpool.