Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

TUSW BRITH.

Advertising

IIPelydrau IWatcyn Wyn.

Advertising

I Ffetan y Gol.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I Ffetan y Gol. Cofied pawb fo'n anfon i'r Ffetan mai dyma'r gair sydd ar ei genau:- NITHIO'R GAU A NYTHU'R GWIB. Awgrym i bwyllgor Birkenhead. At Olygydd Y BRYTHON 6YRI-yn 01 tYstiOlaOtIL amryw y gellir dibynnu ar eu barn a'u profiad, un o'r pethau a wna Eisteddfod Aberystwyth yn anfarwol ydyw'r Gymanfa Ganu odidog a gafwyd ynglyn a, hi. Heb fyned i mewn i'r cwestiwa 0 gwbl a ddylai hyn fod yn beth parhaol ai pernio, credwn ar yr un pryd yn sicr y dylid eael un gyffelyb ynglyn ag Eisteddfod Birken- head, dyweder prynhawn dydd Sadwrn, wythnos yr wyl. Rhoddai hyn gyfleustra i gannoecld sydd yn gaeth gyda'u gorchwylion yn ystod dyddiau eraill yr wythnos, i fwynhau yr agwedd hon ar yr w-yl, mewn ffurf o gan. ladaeth gysegredig. Credaf hefyd, ar ol edrych dros gynnwys y llyfr a ddefnyddiwyd eleni yn Aberystwyth, na fyddai angen am ddetholiad gwahanol. Braint o'r mwya fydd i Gymry Esyllt a Gwynedd ddysgu'r tonau hyn —nifer fawr ohonynt heb fod i mewn yng nghasgliad unrhyw enwad. Profent yn wir werthfawr i'w canu yn ein cyfarfodydd un, debol, etc., gan eu bod, i'n tyb ni, yn meddu'r peth byw a alwn yn wir athrylith. Gwaith cymharol hawdd fydd eu trysori a'u cadw yn y cof, a thrwy gyfrwng yr emynau cyfoethog sydd yn gysylltiedig a hwy profant yn ych- wanegiad gwerthfawi ynglyn a chaniadaeth gysegredig ymhlith y gwahanol enwadau Cymreig. Gobeithiwn y gwel pwyllgor yr Eisteddfod eu ffordd yn glir i drefnu yn ol yr awgrym. Dyna ddymuniad llawer heblaw eich ufudd was, CALEB JONES (Tegla). 24 Beaconsfield Street. I Amrwd. I At Olygydd Y BRYTHON SYB,—Defnyddiais y gair amrwd fel y gwneir yn yr ardal yma, yn yr ystyr berw. Os edrych Ymofynnydd yng Ngeiriadur Syr O. M. Edwards, fe wel taw yn yr ystyr yma am rywbeth newyddy defnyddir yr ansoddair. Gwel hefyd 1 Samuel ii, 15. Nid oes imi hamdden i roddi hane3 y gair.—-Yn gywir, T. MATTHEWS Eryl, Llandebie, Caerfyrddin

Advertising