Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

m GOSTEG. I

DYDDIADUR. 1

I C yhoeddwyr y CymodI Y Saboth…

CAPEL M.O. RAKE LANE,I . NEW…

Heddyw'r Bore set bore dydd…

| Ein GonedI ym ManceinionI

Advertising

Ffetan y Gol.:

Advertising

BEDYDDWYR CYMRU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Parhad o tudal. 2 hithau. Sylwodd hefyd, Gwaith anodd iawn fyddai penderfynu ar y clawdd terfyn sydd rhwng crefydd a ywir wleidyddiaeth eithr onid yw barn a chyfiawnder i'r gorthiym- edig yn rhan o grefydd, yna'r oedd proffwydi pennaf cenedl Israel heb wybod fawr am faich yr Arglwydd. Pwy sydd yma a faidd dynnu y iinell rhwng crefydd agwlcidyddiaeth Amos a Hosea, Esay a Jeremiah ? Oni chlywsorn erioedson am eiriau fel hyn ?-' Cas ganddynt, a gtnyddo yn y porth, a ffiaidd ganddynt a lefaro yn berffaith. Oherwydd hynny, am i chwi sathru'r tlawd, a dwyn y beichiau gwenith oddiarno, chwi a adeiladasoch ichwi dai o gerrig nadd, ond ni thrigweh ynddynt planasoch winllannoeddhyfryd, ac nid yfwch eu gwin hwynt canys mi a adwaen eich anwireddau lawer a'ch pechodau cryfion, etc., etc." A adawsom drosgof yr ymadrodd- ion croyw hyn ?-' Gwae y rhai sydd yn cysylltu ty wrth dy, ac yn cydio maes wrth faes, hyd oni byddo eisieu lie, ac y'ch gwneir chwi (orthrymwyrrayn unig i drigo yng nghanol y tir.' Oni ddarllenasom cyn yma, o groesi i'r Testament Newydd Pa leshad i ddyn os eiinillefe'rhollfydaeliclli ei enaideihiin?' a'r geiriau am dynged y dyn esmwyth a dder- byniasai ei wynfyd yn ei fywyd ? Ai ei lwyr anghofio'i hun, a'r gweddusder aVeddai iddo, yr oedd lago pan lefodd Eich aur a'ch arian a rydodd, a'u rhwd hwynt a fydd yn dystiol- aeth yn eich erbyn ac a fwyty eich cnawd fel tan ? Wele y mae cyflog y gweithwyr a fedodd eich meysydd chwi yn llefain, a llefain y rhai a fedodd a ddaeth i mewn i glustia.u Arglwydd y lluoedd,' etc., etc." Dywedai Gwili na pherthynai'r hyn a ddywedai i blaid fel y cyfryw, ond yn hytrach i'r cyfiawnder sy'n sylfaen gwladwriaeth berffaith a sylfaen Teymas Dduw. Hawliai i'r gweithiwr (1) Hawl i fyw, a (2) Hawl i gyflog byw. Y ddau beth hyn un ydynt, ac ni ellir mo'u liysgar. Dyma i chwi ddrych-olwg ar bethau yn yr ynysoedd hyn mewn cyfnod o Iwyddiant dirfawr cyn y rhyfel. Yr oedd miliwn o wyr mown llawn oed yn derbyn llai na phunt yr wythnos. Yr oedd tal benywod mewn ffatrioedd yn warth ar ein gwareiddiad Barn yr ystadegwyr oedd fod tua deuddeng miliwn o boblogaeth ein gwlad arnthr ei chyf- oeth yn perthyn i gartrefi yr enillid llai na phunt yr wythnos i'w cynnal. Y mae bywyd ,gwirioneddol yn amhosibl o dan y fath amodau, ac nid rhyfedd i'r diweddar Keir Hardie, o weled y trueni a'r pechod a achosai 'r gyfundrefn, ofyn yn feiddgar Can a man be a Christian on a, pound a week ? Diau y derfydd am gyflogau mawr tymor y rhyfel yn fuan wedi dychwelyd y miliynau o'r gad, ac y mae'n bosibl y bydd arafu ar olwymon mas- nacli eithr pa arafu bynnag a fo, gweddus fydd inni godi'n lief yn groyw yn erbyn y chwysu a'rgorthrymu afu, a thros gyflog byw i bob dyn a dynes. Dylai gwlad a fforddiodd chwe miliwn y dydd ar arfau dinistr ddod o hyd i foddion at fforddio hyn. Hwyrach mai ynghylch y moddion i ddwyn hyn i ben y cyfyd amrywiaeth barn. Ymddengys i mi mai sylfaen pob diwygiad ym Mhrydain yw diwygiad ynglyn a'r tir Y mae Quo Quaranlo, deddf Torwerth y Cyntaf, ar lyfrau cyfraith y wlad o hyd, a dylai mesur tir effeithiol beri i dirfeddianwyr ddwyn i'r golwg eu profion o'u hawl i rai o erwau brasaf yr ynys hon. Ni ddylai treigi blynyddoedd droi'n hawl, ar fater fel hyn, mwy nag y troes yn hawl i'r eglwys ar ei gwaddoliadau Dengys y rhyfel, yn eglur ddigon erbyn hyn, mai priodol fyddai i'r wlad feddiannu'r rheil- ffyrdd a'r mwngloddiau oil; a buasai'n wych gennyf fi, ar ddeehreu'r mis Awst hwn, glywed llaa o ddilomi gan Ymneilltuwyr ar y glowyr am fygwth codi eu cefnau am ddenddydd, a mwy o acenion barn ar y gwýr a wnaeth dros ddeng miliwn o extra profit allan o waed ein bechgyn dewr sydd dan weryd Ffrainc. Hwyrach, y deuwn igredu., rywbryd, ei bod yr un mor bwysig cysylltu Uafur hanfodol a'r wladwriaeth ag yw dadgysylltu crefydd a hi. Pan ddinistrir y gyfundrefn gysfcadlu bres- ennol, pan genedlaetholir holl foddion llafur hanfodol, ni raid ofni na cha pob teulu, mewn gwlad fel hon, gyftog hyw." Dadleuai Gwili yngryf ac arhesymau di-droi'n-ol dros addysg rydd i bob plentyn o'r Ysgol Elfennol hyd i'r prif ysgolion. Y mae'h dechreu gwawrio ar feddwl Cjanru a Lloegr hefyd nad gwiw rhan- nu tren addysg i first and third class compart- ments, a rhaid i'r Bedyddwyr, os am wasan- aethu gwerin gwlad, unwaith yn rhagor godi lief o blaid y corridor train y soniodd rliyw-un amdano yn ddiweddar. Credasom mewn addysg elfennol rydd, i gymhwyso mwyafrif gwlad at fod yn weithwyr hanner-goleuedig, Y mae'n gweddu i ni bellach gredu mewn addysg ganolradd rydd i bob plentyn gweith iwr. Mwy na hynr. v, dylai c-olegau'r brif j^sgol fod yn golegau rhydd, a gwladwriaetb vn eefn i gynghorau mawr eu gofal am adnoddau aur, ac o'r tu ol i bob plentyn tlawd, fel y dat- blygo'i ddawn, neu'r egluro'i athrylith." Ar fater arall, a'r olaf, dywedodd Gwili "Y mae gan y Bedyddwyr—pall amser i mi fanylu-eu rhan i'w chwarae ynglyn a lled- aeniad egwyddorion rhyddid a thangnefedd ym Affirydain, a'r Almaen, a Rwsia, a'r byd. Rhaid iddynt rymuso dyhead ieuanc gwirionedd y ddaear am frawdoliaeth na thorrir mohoni gan bendefigion ac arglwyddi rhyfel, a gwladgarwoh ynfyd a dall. Rhaid iddynt ddysgu 1 werin y dyfodol mai ar sail Efengyl Crist yr adeiledir y frawdoliaeth na edwyn liw croen na chyffiniau gwlad. Ac er cydjmdeimlo hyd wraidd enaid a gwir fuddiant cjmdeithasol y myrddiwn, rhaid iddynt ddal yn ddifloesgni i gyhoeddi mai mwy yw cyfnewidiad calon na chyfnewidiad aiagylchiadau, ac mai yn rhinwedd ysbryd newydd mewn gwladwriaeth y daw wyneb y ddaear fol meysydd y nef." Terfynodd Gwili ei araith a dyfyniad gobeithlawn o'r proffwyd Esay. Nos Fawrth, cafwyd cyfarfod cyhoeddus y Genhadaeth, dan lywyddiaeth y Cynghorwr W. Evans, Perth. Y llefarwyr oedd y Parch. Morgan .Jones, B.A., y Parch. George Hughee. India Miss Higson, un o'r cenadesau a'r Parch. T. Lewis, Congo. Cyfarfod i'w gofio, a hynny er lies y Genhadaeth. Bydd Mr. Lewis yn aros am dymor eto yn y wlad, a cheir ei weled a'i glywed yn Lerpwl cyn bo hir yn gystal ag yn llawer man yng Nghymru. Dydd Iau pregethu afu, yn y Noddfa," ac n'ewn pedwar capel arall. Dyma'r rhai a bregethodd,y Parchn. D. Phillips, Cil- fynydd D. R. Owen, Cefn mawr W. R. Jones, Glyn Ceiriog E. Ungoed Thomas, Ca,erfyrddin; Peter Jones, Colwyn Bay Pedr "Hir D. C. Jones, Pen y graig T. R. Morgan, Pontrhydfendigaid Gwili Charles Davies, Caerdydd J. G. Young, Llanidloes i D. Collier, Abertileri, « A