Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Pythefnos yn Llandrindod.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Pythefnos yn Llandrindod. Wrth lusern Dr. Campbell Morgan. 0 FEWN terfynau un oes, tyfodd Uandrindod yn dref fawr, ffasiynnol. Dyma gynnydd y faethen neu y cicaion ond er mai mewn nos- waith, megis, y Ini, nid oes arwyddion mai mewn noswaith hefyd y derfydd. Codwyd yma adeiladau mawrion, uchel a chedym. Daeth yr hyn nad oedd ond peritref mynyddig, o fewn c6f ambell un byw eto, yn drigfa gled miloedd o breswylwyr, ac yn gyrchfa mwy na kynny o ddieithriaid, allan o bob rhan o'r wlad, ao o lawer gwlad arall. Ceir yma arwydd amlwg o gynnydd cyfoeth Cymru. Aeth y fechan yn fil, y lom yn foethus, a'r ddinod yn enwog dros gyrrau'r ddaear. Tes- tyn llawenydd yw hyn, oyd ag yr ymgeidw'n gwlad heb yfedgwynt, ac edrych arni oi hunan yn y drych yn rhy fynych. Gwario arian ac ,yr hyn nid yw'n digoni sy'n bechadurus aim yn gondemniedig ac ni ddigonir newyn enaid eenedl ond gan weithredoedd anrhydeddus o wasanaeth achymwynasgarwch. Tynfafawr y miloedd i Landrindod yw ei ddyfroedd ihinweddol, o amryw fathau a chyflawna llawer orchestion yn y cyfeiriad hwn, a gall- ant siarad yn hyawdl yn eu cylch am amser maith. Ac wedi dechreu dod i'r lie trefna llu o bobl i wneud pererindod blynyddol i'r fangre ni allant feddwl treulio gaeaf heb fod ohonynt am seibiant yn y ffynhonnau. Amrywiol yw effeithiau'r dyfroedd ar wahanol gyf ansoddiadau maent yn tynnu yma i lawr, yn codi draw. Uwchben y gwydreidiau dwr, ac yn y rhodfeydd cylchynol, ffurfir cyfeillgar- wch agos, a theimla pawb yn rhydd i fynegi ei deimladau a'i farnau y naill wrth y llall. Dyma gyfle aur i adnabod John Jones gwahanol siroedd y Dywyaogaeth a chymharu'r Gogleddwr a'r Deheuwr. <1 Hwntw fyddai'r naill a'r Hall oddiyno, oblegid amgylchynir y lie gan res o fynydd- oedd—tuhwnt i'r rhai y carfcrefant hwythau. Ymddangosai'r tai-ddalwyr cyn brysured eleni ag arfer a'r unig beth i'n hatgofio o'r rhyfol arswydus oedd preaenoldeb rhai can- noedd o filwyr claf neu archolledig,— ond ar wella. Darogenid y byddai trefi'r ffynhon- nau, fel rhai glannau'r m6r, yn dioddef yn herwydd sefyllfa'r deyrnaa ar hyn o bryd, ac na byddai calon gan y lliaws i adael eu car- trefl am eu haf-seibiant arferol. Ofer, modd bynnag, fu'r rhag-ofalu ac yn wir, rhaid i'r sawl a weithia mor egniol am weddill y flwyddyn gael gollyngdod^m dymor, i ochel llwyr-fethiant. Hyfryd oodd--gweled ainbell weithiwr da yn gystal chwaraewr: wedi gadael ei ofidiau i gyd o'i ol, ac yn ymroddi i wahanol gampau'r peli gyda brwdfrydedd a mwynhad. Eithr heb fyned yn gydwybod i eraill, na bwriadu penderfynu beth oedd ou dyletswydd yn y mater, hyfryted oedd gennym hi ganfod chwaraewyr rhagorol yn cael eu munudau difrifol, ac yn mynychu rhai c gyfarfodydd arbennig y pythefnos hyn. Argyfrif ei afie ddaearyddol a'i boblogrwydd, defnyddir Llandrindod yn fan-cyfarfod llawer Pwyllgor a Chyngor. Bygythia fod yn gyd- ymgeisydd i'r Amwythig yn y peth hwn. Ac er nad yw tafod y lie yn fwy Cymreig nag edddo'r Amwythig, mae iddo'r fantais o fod frufewn i derfynau Gwalia Wen. £ |Bob blwyddyn be-lach, wythnos Gwyl y Bane, cynhelir Cynhadledd er Dyfnhau Bywyd Ysbrydol yno. Treulir y cyfarfod- ydd rheini er linellau dysgeidiaeth Keswick. Daw nifer o'r arweinwyr blaenaf i gymryd eu iohan yn y gwaith, a chynorthwyir gan rai o weinidogion a lleygwyr Cymraeg. Tystiol- aethir fod y cyfarfodydd hynny yn rhai gwir fendithiol, ac heb fod ynddynt ddim yn gadael adflas ar daflod y genau. Ond eleni fcrefnwyd yn ychwanegol i gael Cynhadledd Feiblaidd" yno, dan arolygiaeth Dr. G. Campbell Morgan. Erfyr yntau, era deng mlynedd, gynnal cyfarfodydd o'r fath at wasanaeth athrawon a phregethwyr. Am naw gwaith ymgynhullent mewn lIe o'r enw Mundesley ar arfordir y dwyrain ond yn herwydd y peryglon yno, o'r wybren a than mor, aymudasant eu lluest y llynedd i Lun- dain, ac eleni i Landrindod. A throes yr anturiaeth allan yn wir lwyddiannus. Pwrpas arbennig y Gynhadledd yw dyrchaiu Gair Duw fel ffynhonnell athrawiaeth Grist- ionogol. ac fel rheol ac egwyddor bywyd da. Nodwedd wahaniaethol yr addysg yw ehang- der yr ymdriniaeth trinir llyfrau'r Beibl yn ea cyfanrwydd, gan gymryd cipdrem gyffred- inol ar eu cynnwys. Anodd cael hafal i Dr. Morgan fel darllenydd yr Ysgrythyr. Heblaw bod yn berchen meddwl cyflym a chawraidd, rhydd ynni ac amser i ddod yn gwbl gynefin yn yr boll faes. Gwiw ganddo ddarllen llyfr helaeth drwodd bob dydd, am wythnosau a misoedd, nes cael ei drwytho a'i feddyliau cyn dechreu ei agoryd i eraill. Ac nid rhyfedd yw deall fod gan y fath athro eiddgar a hyddysg "Ddosbarth Darllen wythnosol yn ei egiwys ac ynddo dros fil o aelodau. Casgl feibion a merched o'i gwmpas fydd wedi hynny yn gymwys i ddysgu eraill a thraidd ei ddylanwad trwy ei bregethau a'i ddarlithiau, ei gynadlcddau a'i lyfrau, dros yr holl fyd Cristionogol. A thry y cwbl o amgylch y Gyfrol Sanctaidd ac anliysbydd. Clywais wraiidawr mynych arno yn tystiol- aethu y pregetha am lawer o Sabothau yn olynol heb ddefnyddio un gymhariaeth o'r tu allan i Lyfr y llyfrau ac eto traetha'n amser- ol yn gystal ag yn adeiladol. Nid yw'n ddieithr i'rhyn a elwir yn Feirniadaeth, ac nid yw lawer llai cartrefol yn Hebraeg yr Hen Destament a Groeg y Testament Newydd nag ydyw yn y Saesneg ond ni siglir ei ffydd gan yr ymchwiliadau beiddgaraf, a nofia ei lestr mewn hedd uwchlaw'r stormydd oil. Heb gyhwfanu golygiadau gwrthwynebwyr, nagwastraffuei amser a'i nerth gyda chwest- iynau anorifen, diau ei fod yn un o amddiffyn- wyr cadarnaf y ffydd a roddod unwaith i'r saint. Gwna ei ran yn lew, er yn ddistaw. at I\no'r enwadau dena ato ei hun feddyliau cyd i-ywiol allan o holllwyth au Israel sicrha gydweithrediad calonnog lliaws o'r meddyl- wyr praffaf, heb ymholi nemor beth yw nifer erthyglau eu credo, nac i ba adran o'r fyddin y perthynant, ond eu bod yn filwyr lesu. Er gwrando arno dair ar ddeg o weithiau o fewn y pythefnos hyn, ni chlywais ef yn enwi ei gatrawd ei hun. Daeth dros anhaws- ter y Llyfr Emynau yn rhwydd ddigon, trwy fEurfio casgliad catholig, heb arwydd un o'r pleidiau arno. Arweinid y moliant gan y canwr medrus—y Parch. Arthur Davie?, yn aw* o Ferthyr Tydfil. Ac heblaw ei ddeg darlith ef ei hun, y deg arall rhwng Dr. Selbie a Dr. Hutton, caed deg drachefn o bregethau gan wyr grymus perthynol i'r gwahanol oglwysi. Llenwid y pafiliwn eang bob min hwyr i wrando'r rhai olaf hyn. A phan. sylwir fod y rhestr yn cynnwys Dr. J. D, Jones, H. Elvet Lewis, J. H. Shakespeare, Gwilym P4 ees, J. Clifford Banham, a'r tri darlithydd, ceir warant am yr arlwy rhagorol a ddarperid ar ein cyfer. A hyn oil mewn pythefnos o amser, dros ben awyriach baimau Llandrindod, ei ddyfroedd llesol, ei gwmni- aeth ddiddorol, ie, a'i chwarae ymroddedig. '-O- CLWYDYDD.

I Ein G,&.Sradi ym Mancsinion.

! Basgodaid olp Wiad.

Coleg y Gogledd, Bangor I

Advertising