Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

0 Lofft y Stabal.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

0 Lofft y Stabal. XVII. I MISTAK GOLTGYDD,—Rydw i'n brudd iawn ¡ heiddiw. Mi faswn yn leicio taaa fodd imi ddiferu nagra'n eiriau ar y papur ma, ac i ddim ond yr hyn sy'n y nghalon i fynd iddyn nhw. Yn meddwl am Dafydd Bach rydw i 'Roeddwn i'n nabod Dafydd ers pan oedd o'n hogyn bach. Mi gollodd i dad yn ifanc iawn, a digon cyfyng fu hi ar i fam afiach i fagu Dafydd, ond drwy i diwydrwydd a'i gofal mi magodd o'n dwt a da. Fuo dim hogyn bach clysach na Dafydd Bach erioed, mi greda i. 'Roedd o a minnau'n ffrindia mawr er pan oedd o'n blentyn, ac mi ddeuda 1 ichl SUt y dechreuodd hynnu. 'Roedd i gar- fcra fo miawn bychan ar ymyl y ffordd, ac ani fyddwn i'n pasio wrth fynd a dwad i'r capal, o'r lle'r oeddwn i'n gweini'r pryd hwnnw. 'Roeddwn i wedi dysgu oddiwrth Jac Jôs i neudsylwo blant bach. Ond fedr- wn i ddim, taswn i'n treio, beidio sylwi ar Dafydd Bach. Peth glywid yn gyffredin iawn gan bobo] wrth i basio fo fydda, O'r tad ond tydi o'n hogyn bach annwll" Oedd, yn wir, yr oedd o hefyd. Ac nid rhw glws gneud oedd o chwaith. Mi welis i rai mama'n gadal i wallt i hogia dyfu'n hir, yn i- j gyrlio fo, yn rhoi oul i neud o sgleinio, ac yn shwmo'i gydyna fo a rubana. Ac ma rhai pnbol yR ffoii vir beth felly, a wyddan nhw ddim rhagor rhwng eelfyddyd a notur. Dyma'r rhai sy'n deud fod merch yn glws am fod swp a.mryliw o'r hyn ma nhw'n i alw'n het ar i phen hi 'Roedd Dafydd Bach yn lan a theidi, ond nid dyna'r f ath swyn oedd amo fo. Fedra i ddim i ddarlunio fo i chi. Ond rydw i'n i weld o, drwy nagra' 'r funud ma—gwym- ad crwn, bochgoch dau lygad mawr, glae edrychiad gwylaidd, diniwed, ond fod rhw wen serchog yn hannar ymguddio tan ei wyleidd-dra-fel blodyn clws yn nythu miawn dail. Un rheswm-a falla'r cryfa—fod Daf- ydd Bach yn fy leicio i oedd fy mod yn arfar dwad ag afal ne ddau, ar y fiordd i'r capal, iddo fo-ond byddai'r fam yn cadw'r fala neR dwad o'r capal, ac yn addo iddo fo'u cael nhw os bydda fo'n hogyn da yn y moddion. Digwyddodd i bregethwr alw i fiawn yno un tro, i mochal cawod, ar y fiordd i'r oedfa. 'Roedd y fam wedi gwiago Dafydd Bach fel pin miawn papur," ac roedd i ddwy foch o'n wridog a theg yr olwg. Crybwyllodd y fam wrth y pregethwr fod ei bachgian yn cael afal bob Sul am fod yn dda'n y capal. 'does ar hogyn bach fel hwn ddim eiaio fala. Cheifit o byth fala oyn neisiad a'r ddau sy'n tyfu ar i fooha fo," au mi dynnodd i fysedd yn dyner dros ei ruddiau, gan droi i gychwyn ymaith. Ond mi welisi ddeigryn yn llygad y fam, a cban osod cusan ar y ddau afal coch mi sibrydodd, 41 'Y mhlentyn annwl i A hogyn da iawn oedd Dafydd Bach yn y capal. 'Roedd rhai'n deud i fod o'n "hen ffaeiwn," fel tasa. Oormod fyddai deud ma fo oedd y mwya deallus o'r beohgyn yn y capal hwirnw, a 'doedd o ddim yn agos mor ddewr a rhai ohonyn nhw. Byddai'i adnod o'n crynnu tipin wrth iddo fo'i deud hi, ond mi fydda pawb yn ffond o'i wyleidd-dra. Pan yn yr yagol ddyddiol, mi fydda'n well gynno to ddiodda unrhw sbeit braidd na mynd i gwffio efo neb. Ond mi gollodd i dempar un- wath hefyd. Mi fydda'i fam yn dwad i ddanfon o i ymyl yr ysgol weitl ia ac un tro mi ddeudodd rhw hogyn air gwawdlyd am i fam wrtho fo. Mi lynodd y gair hwnnw ynghalon Dafydd Bach, ac ar y fiordd adref o'r ysgol mi alwodd y troseddwr i gyf ri, ac mi aeth yn sgwffwl rhwng y ddau. Yn yr ymdrech, mi ddeflrddd ysbryd cawr yn Dafydd, ac mi roes gweir reit dda i'r llall—er cymysg syndod a boddhad i'r plant erill. Pan alwyd o i gyfri gin rhwun wedi hynnu, ei apad oedd, Beth roedd o'n sbeitio mam, ynta ? Ac mi lithrodd trw bob disgyblaeth yn bus iach. YnWa. Bach i'r un lie ami y doth Dafydd i ddechra ennill i damad, aheipu i fam weddw, Roedd pawb yn ffond ohono, a doedd dim diolch iddyn nhw. Fu neb erioed mwy wyllysgar ac ufudd, diddichell a geirwir, a ohida hynnu roedd o'n dysgui waitli ar redag. Da rydw i'n cofio, ar derfyn i dymor cynta fo, wrth iddo dderbyn i gyflog, fod mistar wedi gofyn iddo, Wel, Dafydd, be wyt ti am neud efo'r arian yma ? ac iddo fynta apad yu y fan, Ond mynd a nhw i mow." Ac felly y gwnaeth. Jrfi dyfodd Dafydd Bach i fynu'n ddyn ifanc da iawn—da'i galon, da'i gymeriad, da'i waith, ac iddo enw da gin bawb—i'r dim i blesio Jac J6s, a dyna dddigon ar y pen yna. Mi ddotb yn ddyn ifanc iach a chry hefyd, er nad yn un o'r rhai tala, eto'n solat trwyddo. Mi fyddwn yn ceigio'i alw fo'n Dafydd Ty'n JL6n wrth bobol eieill, ond enw nghalon i arno fo o hyd ydi Dafydd Bach. Mi glwia ffarmwr' y bu Dafydd yn i was- anaeth yn deud am i dynerwch o. 'Roedd o'n torri eithin ar ochor clawdd, ac mi aeth y eryman trwy ganol nythiad o gywion deryn, gan ladd y fam—oedd wedi oedi yno hyd yr eitha—gyda'r cywion. Mi fu'n snwffian crio wrth weld y trychinab. A chofiwch chi ma un o erthygla ffydd Jac J6s i'w ddisgyblion oedd, am beidio tynnu nythod adar. Y babi mawr," ebra gwas arall wrth Dafydd Bach, "paid a hidio beth fydd o flaen dy gryman di os eiff o drwyddo fo." Ac roedd y ffarmwr yn deud na welodd o mo Dafydd wedi colli dempar ond y tro hwnnw, ac onibai i fod o yn y lle'rjjoedd o'n credu'n sicir y basa hi'n ddrwg rhwng y ddau was. Y llymbar creulon," ebra Dafydd, gan daflu i gryman i lawr, a chau i hun i fynu'n ddwm Ac ebe'r ffarnlwr," Mae yna fetl yn Dafydd pan fydd taro, 'does dim dowt i fod ar y matar." Ryw flwyddyn yn ol 'roedd Dafydd Bach wedi galw i ngweld i, ac mi fyddwn i'n leicio'i blagio fo, ac ynta'n leicio cael i blagio hefyd. A phan welis i o ar y buarth, mi ddeudis wrtho fo, Rwan, Dafydd, paid a dwad i'r fan yma i geisio fy rhedag i efo Mari. Os gwela i hogia hyd y fan ma'n chwara giam felly, 'does dim tryst na fydd ergyd gwn yn mynd i crombil nhw Gun, wir," ebra ynta, y peth ddyla ti neud ydicymyd gwn i amddiffyn dy Fari rhag y Giarmans." Y Giarmans? ebrwn inna, 'd daw y giwad byth i'r fan yma, Dafydd." Mi allan ddwad os na neiff rhywun i rhwystro nhw," ebra ynta, a gneud efo Mam a Mari fel y gneuthon nhw a'r Belgiaid." 'Roedd rhwbath mor seriws yn i d6n o fel y stopia i gellwair efo fo. Tyrd i'r hen Lofft. am sgwrs," ebrwn i. Yn fuan mi welis i fod Dafydd Bach yn medd- wl yr hyn oedd o'n i ddeud-o leia gyda golwg amo fo'i hun; 'Roeddwn i wedi dychryn, ac mi deimlwn fod rhw dan angerddol yn llosgi yn i galon o na fedrwn i'n y myw i ddiffodd o chwaith. Mi wela fod rhwun wedi bod yn pwnio rhwbath i dy ben di, Dafydd." Oes," ebra yntau, ma rhywun wedi pwnio peth i mhey. j, i nghalon i, ao i nghydwybod i hefyd, a fedra i na neb arall i dynnu 0 allan ar frys." Wel, bedi'r matar arnat ti, mach- gian i ? Does bosib fod ohwiw y sowldiwrs wedi dy ddal di, beth bynnag." Pam fi ? gofynnai, braidd yn chwyrn. Wel," ebrwn i, mi fyddat yn ffdl iawn i fynd rwan. 'Does run gwas ffarm o'r ardal ma, hyd y gwn i, wedi mynd, nac eisio mynd. Aros am dipin, beth bynnag." Mae aros allan o'r E.,tiwn," ebra fo. Mi fethis i gysgu am nosweithia, ac mae hi wedi dwad efo mi i un o ddau beth-naill ai mynd i'r Fyddin neu fynd i Ddimbach." Gan feddwl y baswn i'n rhoi cl6 ar ei holl ddadleuon, mi ddeudis, Mi dorri galon dy fam, os ei di." Wel," ebra fynta, rydw i wedi cymryd pob peth i'r cyfri, ac mi wn o'r gora y bydd hyn yn loes i deimlad mam, fel y bydd o i minna. Ond matar o ddyletswydd ydi o, a rhaid aberthu teimlad, ia, bywyd os bydd raid, er mwyn cydwybod. Fe barhaodd y sgwrs ynhir, ond 'doedd dim troi ar Dafydd Bach pob rheswm godwn i i fynu, roedd o'n i daro fo i lawr yn fflat. Mi ath Dafydd o'r Llofft ma'n y man; ond chyagis i fawr y noson honno. Y peth nesa glywis i oedd fod Dafydd Bach wedi muno &'r sowldiwrs a rhyfeddach na hynnu fod yr hen wraig i fam wedi dygymod a'i thrallod yn bur dda. Mi ddoth Dafydd i ngweld i droion wedyn, a'r wiag cacimwci am dano fo ac roedd o'n drychyd yn smart ddi- riwl, ac ynsymudmorhoew'igam a thasa fo'n ddyn india rybar. Mi fuo am lawer o tisoedd yn, Cinmal Pare, yn dysgu saethu Giarmans. Pan alwodd o ddwaetha, cin mynd i Ffrainc, mi gafodd groeeo mawr yn y ty ma, ac mi fynna Miss J6s, y ferch, neud tA cycenna iddo fo, ac mi ges inna ran efo nhw, tasa fatar am hynnu. A diaist i, hefyd, roedd llgada Miss ar y sowldiwr agos o hyd, ac roedd hi'n rhw glebran miawn ffordd oedd yn peri i ddyn feddwl am i meddwl hi ac mi welis wrid y fala oedd gin Dafydd pan yn blentyn yn codi i focha fo'r tro yma, ac yn i neud o'n annwl iawn yn wir. A dyma ichi biain go dda o'r hanes 'doedd dim a wnai'r tro gin Miss Jos ond cael mynd i dldanfon Dafydd beth o'r ffordd adra, yn y car bach oedd gin y teulu, efo'r esgus fod ami hi eiaio galw'n y pentra i neges. Pan glywodd hi hynnu, mi winciodd Mari ama i, ac roeddwn i'n dallt y wine yn burion. laer i ddau oedd yn y car poni. Biti na fasa ma le i titha ddwad efo ni," ebra Miss Jds wrtha i. Biti garw," ebrwn inna'n slei, ac mi chwerthoddpawb. Wei," ebrwn i, o'r diwadd, dydw i ddim yn leicio dy weld yn mynd, Dafydd Bach." Ac ebra fynta'n chwap, dan wenu, Rhaid i rhywun fynd i ymladd droli Mari." Ac ar hyn i ffwrdd ag o ac fel y gwyliwn i i gap o'n diflannu o'r golwg droa y bryn, mi ddeudis yna fy hun,— Dyna'r peth hwnnw a go,dodd yng nghalon yr hogyn yn erbyn sbeitiwr i fam, ac yn erbyn y gwas ffarm a siaradai'n greulon am dorri nyth a lladd adar—dyma'r peth hwnnw wedi codi eto'n erbyn y Caiser, ac yn mynd allan i'r Armagedon yn sowldiwr." Cin pen mis wedi i Dafydd Bach fynd i Ffrainc, dyma'r newydd yn cyrraedd i fod o wedi'i ladd Mae ma alar mawr yn y teulu yma, yn enwedig gin Mari a Miss Jds. Yn wir, ar ganol crio rydw i'n ceisio sgwennu'r llythyr yma. Mi at i weld yr hen wreigan i fam o nos yfory. Fu rioed yn ddim gwell gen i fedru credu fod Duw yn bod Rydwi i'n reit sicir na ddarfu iddo Ef ddim gadael Dafydd Bach yn unig yn rhwla rwla Ffrainc. Rhoddodd i fywyd dros i wlad, dros ddynoliaeth, dros gyfiawnder, a thros Mari a tinna-.a'i Jam 0 Dafydd Bach I I YR HEN WAS.

SASIWN BANGOR.

AR GIP. I

Advertising