Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
RELIABLE WATCHES I SELF-EXPANDING, POCKET AND WRISTLET WATCHES. NOTICE.—Special Offers this day High-grade Watches, by eminent makers, 10a. saving in every i. Every watch cleaned, tested, and timed, and warranted for a period of years. Also a grand display of Self- Expanding Watch Bracelets, and Strap Watohes, with plain and luminous dials, now offered at DEDUCED PRICES, forming suitable GIFTS. Goods stored free until required. PRICE LIST POST FREE. DAVIES'S, 30 LOW HILL (Via Old Swan or West Derby Oars). Close Wed. at f. Open all Sat, Davies's Price. S6/18/6. USUALLY 914. Russell's English Gold Hunter GENT'S HIGH-GRADE PERFECT KEY- LESS LEVER HUNTER, by THOS. RUSSELL and SON, noted makers to Royal- ty, Church Street, Liverpool, British manu- facture throughout; 16 JEWELS, i-plate, chronometer balance, non-magnetic, fully jewelled Brequet Spiral Overcoil Spring, adjusted to temperatures and positions; KEEPS GREENWICH TIME, mounted in strong, heavy SOLID GOLD Government Stamped and Hall-marked Cases (all through) without mark or scratch makers' and our GUARANTEE FOR 25 YEARS; new this year (proof); also Solid (Gold Gent's WAL- THAM "RIVERSIDE" HUNTER; sale, ilO 168., usual £18; dead gun timist; warranted 25 years; new. 6 months ago. Approval, month's trial. HIGH-GRADE WATCHES—HALF USUAL Davies's Price, 113/19/6 USUALLY 98. Russell's Gold Expanding Watch Bracelet. HIGH-CLASS PERFECT LEVER, LAT. EST SOLID GOLD WATCH-BRACELET patent SELF-EXPANDING, Hall-marked throughout, by those famous makers, THOS. RUSSELL and SON, Church Street, Liver- pool, makers to Royalty; 15 RUBIES, chronometer Balance, Brequet Spring, Patent Keylessi and latest improvements KEEPS PERFECT TIME warranted by makers and ourselves 25 years. New last year (proof); approval. Others by noted makers at £ 2/7/6, £2/14/ £3/16/ Also Benson's, Londoa. Watch Bracelet; sale 14/19/ usually £10. Also Russell's Ditto, £ 4/15/- and £ 5/18/- gun-timists. Davies's Price, 16/11 Silver « Gold Strap Watches. LADY'S STERLING SILVER, high-grade, full-jewelled Strap Wristlet, ACCURATE TIMIST. Also Gent's full-size Sterling Silver, bold dial, sale 21 ditto, superior, with LUMINOUS DIAL, SALE 27/6; also Lady's SOLID GOLD Strap Wristlet Watch, fully jewelled, sale 27 /6, 30 and 35 Also Solid Gold High-grade Russell and Sons, Church Street, Liverpool, Strap Wristlet, sale 12112 Also Russell Gent's Gold Wrist. let, said £ 2 /17 /6, usually £ 5 /5 Also Gent's Solid Gold WALTHAM Lever Wristlet, dead gun timist, sale price £ 4/7/6, usually Every Watch guaranteed. RELIABLE WRISTLET WATCHES. Davies's Price, §12/2/ USUALLY 95. Gent's Waltham Rolled Gold Hunter. World-famed 10-carat Rolled Gold KEYLESS WALTHAM" HUNTING LEVER, timed to a few seconds per month; ruby jewelled, brequet spring, timed to positions and temperatures parent keyless and latest improvements warranted 20 years perfeot ia all detail. Also ditto by Lancashire Watch Co., Prescot; now 29/6. Also ditto Elgin Hunter, 32 /6. Ditto, Russell and Son, 36 /6. Also 6-guinea Rolled Gold Chronograph Key. less Hunter, by Thos. Russell and Son, Church Street, Liverpool; now £ 2/14 /6. Approval. Deposit secures. Free storage.—DAVIES'S, 80 LOW HILL. DAVIES'S FOR ACCURACY AND PRECISION. Davies's Price, l/i5/«, USUALLY £4/4/- I Russell's Silver Keyless QUITE NEW THIS YEAR, GENT'S HEAVY HIGH GRADE, THOROUGHLY RELIABLE KEYLESS SOLID SILVER HUNTING LEVER, by RUSSELL and SON, Church Street, Liverpool; new 1915 (proof), plain Sterling Silver damp and dust proof oases, indestructible crystal glass. OHRONOMETER BALANCE, BREQUET SPRING, NON-MAGNETIC, patent key- less, and latest Improvements without mark or scratch; PERFECT TIMEKEEPER; month's trial. Cash refunded if not as repres- ented. Approval. Stored free. Guarant- eed 20 years. Month's trial. DAVIES'S GUARANTEE EVERY WATCH 22 Ct. Wedding Rings. LUCKY GUINEA GOLD, GOVERN. MENT HALL-MARKED, INCLUDING HALF-A-DOZEN ITEASPOONS, AT 20/ 25/ 35/IG 45/ C'AED FR SECOND-HAND PIANOS AT DAVIES'S 30 LOW HILL, LIVERPOOL Upwards of 25 Second-Hand Pianos for Sale at Special Cash Bargain Prices. Unsurpassed for Tone, Touch, and appearance. A FEW BARGAINS. Davies's Price Worth £ 10' /17 ROSEWOOD.-Panel front, very sweet tone and light touch good appearance. £18 £11/17 CHALLEN.-Rosewood (prize medallist) ivory keys brilliant tone res- ponsive touch £ 19 £ 12/' 18 DALMAINE.-Ha.d. some walnut panel front; loud tone; beautiful touch £20 Y,14110 DREAPER.—Solid wal- I nut; full compass fine tone and touch hand- some appearance £22 £ 16/16 ERARD.—Handsome semi-concert grand brill- iant tone and elastic touch perfect; walnut case £ -10 117/10 HOPKINSON. Rose- wood case; ivory keys full compass rich tone responsive touch 118/18 LATEST MODEL.— Walnut iron frame; tri- chord full compass loud brilliant tone; perfeot touch bargain £30 ?19/10 BRINSMEAD. -Rose- Y,19/10 wood very superior tone and touch, in nice con- dition; elegant appear- ance bargain £ 32 124/10 COLLARD & COLL- ARD.—-Handsome black Piano ivory keys full ocmpass check action perfection in tone and touch; bargain £35 £ 28/10 PIANO-DE-LUXE. — Very dark rosewood; model upright; iron frame piano spontaneous oheck action highest perfection in tone and touch X36 £ 28/10 NEUMEYBR.— High- 928/10 class, solid walnut over. strung piano tape check action mellow tone and perfect adjustment well- made instrument; will stand the closest inspection. X40 NOTICE.—Inspection invited. Any piano reserved ulttil required. Tuning, polishing, and free delivery. DAVIES'S, 30 LOW HILL, LIVERPOOL. i Telephone 716 Anfield. Close Wednesdays at 1.
.0 Big y Lleifiad.
.0 Big y Lleifiad. Eisteddfod 1917. I Cydio ynddi o ddifri. I DWON hawdd gweled, oddiwrth y cyfarfod nos Wener ddiweddaf, fod Pwvllgor Gweithioi Birkenhead yn dechreu cydio ynddi o ddifrif gyda gwaith Eisteddfod 1917 flwyddyn i'rmishwn. Llywyddid gan Mr. J. H. Jones, ac wele'r aelodau oedd yn bresennol, 0 ddau tu'r afon :—Y Parchn. D. D. Williams, D. Adams, B.A., D. Tecwyn Evans, B.A., Mri. J. G. Rowlands, B.A., Wm. Parry, Robert Davies, W. R. Holland, Evan Roberts (West Derby), R. Vaughan Jones, J. T. Jones (Cor y Cymric), P. H. Jones, F.I.C., W. R. Pritchard, Evan Hughes, J. W. Evans, H. Humphreys-Jones, F.C.S., Isaac Davies, Ben Thomas; a gair oddiwrth Mr. W. Garmon Jones, M.A., Mr. F. Richards, y Parch. G. J. Williams, a Phedr Hir, eu bod yn methu a bod yno. Darllenodd yr ysgrifennydd (Mr. Isaac Davies) swp mawr o lythyrau oddiwrth noddwyr a thanysgrif- wyr; oddiwrth Mr. Granville Bantock a Dr. Mary Davies yn cydsynio i feirniadu'r gerddoriaeth gyda'r beirniaid dewisedig eraill.—Dewiswyd Mri. R. Vaughan Jones (Lerpwl) a J. W. Evans (Tranmere) yn archwilwyr cyfrifon yr Eisteddfod.—Rhoddodd y llywydd air o hanes ymweliad dirprwyaeth Birken- head a Gwyl Aberystwyth, ac a ddywedai fod pob. croeso a thiriondeb wedi ei ddangos tuag atynt' iddynt gael llawer o wybodaeth a chyfarwyddiadau gwerthfawr gan swyddogion Aberystwyth ac wedi gweled y fath Iwyddiant ac ias drwyadl Gymreig ar Wyl 1916, iddynt ddychwelyd gartref yn gryfach fyth eu cred yn llwyddiant Gwyl 1917 hefyd.—Ychwaneg- odd y Parch. D. Tecwyn Evans fod un o aelodau'r pwyllgor hwn—y Parch. D. D. Williams—wedi cipio un o brif wobrwyon yr Eisteddfod da oedd ganddo'i weled ef a'i feirniad (y Parch. D. Adams, B.A.) yn eistedd mor hapus a heddychol eu golwg ochr-yn-ochr heno a chan fod i'r traethawd air mor uchel am ei deilyngdod, a bod ei destun (y Prifathro T.C.Edwards) mor gu gan y genedl i gyd, hyderai weld y traethawd allan o'r wasg yn fuan fuan.Rhoddodd Mr. Ben Thomas hanes ei ymweliad a Syr Wm. Lever, llywydd yr Eisteddfod. Bu'n wiw gan y Barwnig hawddgar dderbyn llun Gorscdd y Cyhoeddi ym Mharc Birken- head y mis o'r blaen talodd ei ddau gan punt addaw- edig at dreuliau'r wyl, ac amlygodd bob parodrwydd i gynorthwyo'r pwyllgor a'u cael allan o bob pryder ac anhawater a ddichon eu cyfarfod ynglyn a'r babell a phopeth materol yr Wyl. Yr oedd ganddo rodd arall hefyd i'r pwyllgor os gwiw ganddynt ei derbyn sef cloben o garreg anferth sydd yn Ness, gerllaw Neston, wedi ei chloddio o chwarel Storeton, ac a wnai Faen Llog tan gamp gallem dybio, o ben yr hon y gellid gweled beirdd ac anerchwyr Birkenhead yng Ngwyn- edd a Gwent bron. Yr oedd clywed y pethau hyn yn goglais y pwyllgor yn fawr, ac yn codi clust eu dis- gwyliad. wrth weled parodrwydd a meddylgarwch llywydd yr wyl. Barnai amryw y byddai raid wrth babell a ddaliai saith mil o leiaf, canys yr oedd pabell lian Aber- ystwyth, ddydd Mr. Lloyd George ac ar rai troeon eraill, yn llawer rhy fach i ddal y dyrfa a garasai gael lie. Ar os felly yno, pa faint mwy yma, lie y mae'r fath boblogaeth Gymreigacarall, heb 30.1 am filoedd Maelor ac Edeyrnion, sydd mor Eisteddfodgar eu bryd yn anad yr un cwmwd yng Nghymru, Dde na Gogledd ?-Enwyd amryw o wyr amlwg Cymru a'r cylch fel Uywyddion cyfarfodydd yr Eisteddfod a'r Gymanfa Ganu'r dydd dilynol dewiswyd Llew Tegid, y Pi off. Edward Edwards, M.A. (Aberystwyth) a Mr. Lewis Jones (Ynyscvr), West Kirby, fel arweinwyr i'r Wyl; a dymunwyd ar y Pwyllgor Cerddorol brysuro gyda'u hadroddiad am y cyngherddau a'u datgeiniaid, am y Gymanfa Ganu, -ei thonau a'i har- weinydd ac yn y blaen ymhohd hefyd ageid per- fformio drama ai peidio y noson 0 flaen yr wyl; tynghedid hwy hefyd i fod yn sicr o gael Miss Hon-a- Hon i ganu ac yn y hlaen.-Parth y llythyrau yn y wasg ar rai o destynau barddonol yr wyl, dylesid egluro i'r beirniaid y bu raid i Bwyllgor Birkenhead, oherwydd hwyrfrydigrwydd cyfeillion Aberystwyth yn penderfynu cynnal eu gtfyl hwy, gwblhau eu rhag- len a'r cwbl ymhen rhyw ddau fis o amser, ynlIe cael blwyddyn fel a gafodd pob pwyllgor blaenorol. Cyfrifid y rhaglen yn un ragorol ac ystyried byrdra'r amser a helynt yr amseroedd. Gofidid clywed fod y Parch. J. O. Williams (Pedrog) yn wael; a phasiwyd i'r ysgrifennydd anfon cydymdeimlad yr hall bwyHgor ato a dymuno'i adferiad buan. Syn clywed yr ysgrifenyddion yn hysbysu fod ceisiadau yn eu cyrr- aedd eisoes am seti cadw (reserved seats) yn yr Eistedd- fod. Dyna rai diferion o flaen y gawod a ddengys yr awch sydd am yr \vyl. tl AR DOMEN r TAIR XXX.-Y mae'r Rifle- man Proctor-y llanc gwylaidd o Birkenhead a enill- odd y V.C. y dydd o'r blaen-yn athro Ysgol Sul a dirwestwr croew; a buwyd yn ei groesawu yng Nghyfrinfa'r Temlwyr Da yr wythnos ddiweddaf. Wrth gydnabod y croeso, dywedodd mor dda am ddal tywydd a chaledi oedd y milwyr dirwestol rhagor y Ilymeitwyr; ac na waeth un gair na chant, y mae'n amhosibl i ddyn, yn y. goleu sydd ar y ddiod erbyn hyn, fod yn Gristion,os yn ymhel dim a hi.- Rhodd. odd y papur lleol gryn le i hanes y cyfarfod ond y peth nesaf iddo, yn y golofn tanodd, oedd hysbysiad bras dwbl-golofn am chwisgi firm neilltuol. Dyna ddifetha'r cwbwl, a ffarwel i bob difrifwch. Ydyw, ydyw, y mae eich ceiliog golygyddol, yn canu Sobr- wydd a Chrefydd yn ardderchog o big ei ysgrif arweiniol ar tudal. 6; ond erbyn edrych, y rheswm fod y gwalch yn clochtar mor godog yw am fod ei draed yn sefyll ar gaead casgen y TAIR XXX sydd ar ben tomen bres yr hysbysiadau dwbl-golofn yma am y chwisgi hwn a'r brandi arall. Rhowch gic i'r gasgen a dyna i chwi ddistaw a fflat ei grib a fydd yr hen geiliog wedyn. Ys gwn i pa bryd y cawn ni Wasg Lan, heb arogl dafn o gwrw ar ei hanesionl-nac ar ei hysbysiadau? ? HIR-IETIIU AM GT.YN.—Y mae pawb o'u cydnabod yn ddwfn eu cydymdeimlad a Mr. a Mrs. T. H. Williams, Preswylfa, Laird Street, Birkenhead, ar farwolacth eu mab, Mr. T. Glyn Gough Williams, yn y rhyfel yn Ffrainc, Awst 19, ac etc ond pedair ar bymtheg oed er mis lonawr diweddaf. Perthynai i'r Royal Welsh Fusiliers, ac nid oedd ond pum wythnos i'r diwrnod er pan aethai allan i'r maes o Cinmcl. Llanc tirion tros ben, hoff gan bawb o'i gydnabod., a cherddor medrus ac addawol ei yrfa, pe cawsai fyw. Efe oedd organydd eglwys M.C. Parkfield ers rhai blynyddoedd ac ymhopeth a wnai ac a ddetholai gogyfer a'r offeryn, tufewn a thuallan i'r eglwys, amlygai chwaeth uchel a chlasurol. Amlygodd y reddf gorddorol yi bur gynnar canys chwaraeai'n gyhoeddus yn-chwech oed:; enilloddddwy dystysgrif cyn bod yn naw oed wedyn pasiodd arholiadau yr Incorporated Society of Musicians, a bwriadai anelu am arholiad yr A.R.C.O. Dr. Reynolds, organydd Eglwys Crist, Oxton, oedd ei athro cerddorol, a Glyn, ei ddisgybl ieuanc y meddyliai gymaint ohono, a fyddai arfer a chymryd ei le wrth organ fawr yr cglwys honno pan fyddai'r Doctor yn absennol. Cyn ei fyned i'r Fyddin, cynhaliodd amryw organ recitals yn Parkfield ar nos Sul er budd y milwyr, gan ymorol am gantorion blaenllaw ac am raglen goeth, uchelrrw. a gwnaeth wasanaeth cyffelyb yn Rhyl ac Abergele yn ystod ei dymor yng Ngwersyll Cinmel. Ac nid offerynnydd mcdrns mohono'n unig, ond lleisydd swynol, a pharcrd eithriadol i gynwyno'I dalcnt- au addawol at bob achos da, tufewn a thuallan i'r Eglwys a'r Gyfrinfa Ddirwestol. Arfaethai ddilyn galwedigaeth ei dad fel deintydd. ac yr oedd wedi pasio'r arholiad i'w gymhwyso i'r aiwedigoeth henno. Awchai am y cain ymhob dim, a thystiolaeth ddiam- wys ei gyfoedion, yn y Fyddin a chyn mynd yno, ydoedd fod naws lednais a chrefyddol ar ei fuchedd gudd a chyhoedd. Creulon meddwl fod ergyd y gelyn yn cael hyrddio enaid mor gu mor bell o gyrr- aedd ei rieni a'i hanwylai mor fawr eithr er yn beil- ach oddiwrthym ni, nes ydyw at Dduw, ac at lygad y Ffynnon o'r hon yr yfodd ei anian gerddorol mor helaeth. Blaguro'n dlws yr ydoedd Glyn, fel cymer- iad ac fel cerddor a siom i lawer heblaw ei rieni ydoedd c!ywed am ei ddiwedd adfydus; ond 14 Os anaf roes i huno—y gwiwlanc, Nac wylwch amdano Y Nef yw ei drigfan o,— Dianaf ydyw yno." Nos Sul nesaf, bydd y Parch. T. J. Rowlands, M.A,,B.D., yn pregethu pregeth-goffa amdano yn Parkfield, a Dr. Reynolds wrth yr otieryn. Liu yw'r llythyrau a ddaw i'w rieni, a dwfn yw'r chwithtod a amlygir ynddynt am lane mor nddawol ac mor hawdd- gar a glan ei ddylanwad lIe bynnag y bvddai. tt 0 GILGWRl I'R HAFOD.—Nos Fercher ddi- weddaf, dan lywyddiaeth y Parch. Joseph Davies, Birkenhead, cynhaliwyd cyfarfod yng nghapel y Bedyddwyr Cymraeg, Seacombe, i ganu'n iach a'r Parch. Rd. Lloyd, bugail yr eglwys, sydd yn vmadael i fugeilio eg!wys yr Hafod, yng. Nghwm Rhondda. Cyn dechreu'r cyfarfod, digonwyd pawb a the a lluniaeth; ac yr oedd y cynhuiliad yn un cryno a chynrychioladol o eglwysi'r enwad ddau tu'r afon, a brithiad o Annibynwyr a Methodistiaid ac o'r Bed- yddwyr Saesneg. Darllenwyd llythyr oddiwrth y Parch.T.Michael,B.A.,B.D.,i ddweyd mor ddrwg oedd ganddo fethu bod viio.-Sylwodd y Ilywydd fod Mr. Lloyd weid dangos gwroldeb clodwiw wrth ddyfod i eglwys fach, ac a roddodd air uchel iddo fel dyn a phregethwr a bugail. Cryn anturiaeth oedd dod i eglwys cyn lleied; ond llwyddodd i godi ei rhifedi o ddeunaw ar hugain o aelodau i bedwar ugain. Awyddent bellach godi addoldy newydd ar y tir sydd eisoes wedi ei brynnu, a chadw'r un presennol fel ysgoldy cysylltiol wrth y newydd.—Dywedodd Pedr Hir fod Mr. Lloyd wedi ennill serch a chymeradwy- aeth pawb ac wrth fynd i'r Hafod, ei fod yn mynd i eglwys fywiog, weithgar, mewn ardal a'i phoblogaeth yn cynhyddu'n gyflym, a lie y caffai eu hannwyl frawd ddigonedd o waith a digonedd o ragolygon. Ac yr oedd gan yr eglwys, yn y cyfwng hwn yn hanes y byd, waith mawr rhyfeddol o'i blaen. ac yr oedd yn bryd i'r saint, bellach, gyflawni y gan sydd yn Llyfr y Datguddiad A ni a deyrnaswn ar y ddaear," fel y caffer pob chwarae teg i'r werin. Dilynwyd gan y Parch. H. R. Roberts, Edge Lane, a chan Mr. Evan Wiliiams, ysgrifcnnydd yr egiwys ac wedyn cododd Mr. Lever, un o'r diaconiaid, i gyflwvno cadair-droi (revolving chair) yn. rhodd i Mr. Liayd, ar ran aelodau'r eglwys.-Wrth ddiolch am:y gadair, a chydnabod yr anerchiadau a'r teimladau graslon a ddatgenid yn- ddynt, sylwodd Mr. Lloyd mai caredigrwydd trwyadl a dderbyniodd ar hyd y pum mlynedd y bu gyda hwy, a hynny gan bawb yn ddiwahan. Dywedodd iddo benderfynu derbyn yr alwad gyntaf a ddeuai ato, prun bynnag ai bach ai mawr fyddai'r eglwys. Seacombe, y hi oedd y gyntaf, ac er ei lleied, fe'i derbyniodd ac a lynodd wrth ei ddiofryd, er iddo gael galwad o leoedd mwy ar ol hynny. Nid oherwydd dim byd annymun- ol yr oedd yn ymadael, eithr am fod ynddo duedd gref i fynd at ei blant bach, oedd mor gu ganddo (claddodd Mr. Lloyd ei annwyl briod rhyw flwyddyn yn ol, ac yn y -Deheudir y mae'r plant a'i theulu hi ac yntau). Canwyd yn ystod y cyfarfod gan Mr. Ellis Roberts, Mr. Ambrose Jones, Miss Olwen Jones caed adrodd- iad hefyd gan Miss Jones dechreuwyd y cyfarfod drwy ddarllen a gweddio gan Mr. O. Owens, Earls- field Road a dibennwyd gan y llywydd. ++ I TUSW BRITH. 1 Dyma fel yr englynodd Gwilym Deudraeth i orfod- aeth filwrol:- Dyn'r cledd Brydeiniwr, clyw,—mae y ddeddf Mewn modd addfed heddyw; Rhaid ar bob creadur byw, A gorfodaeth gref ydyw. it Y mae ei lu cydnabod ddau tu r nfon yn cydyni- deimlo a'r Parch. Simon G. Evans, B.A., ar farwolaeth ei chwaer a gleddid ym mlodau ei dyddiau ym myn- went Nefyn y dydd o'r blaen, ar ol goddef cystudd hir. it Cantpt nb ddalllen llith Yr Hen Was ar Dafydd Bach o'r Llont Stabal (tudal. 4) heb deimlo ar un waith fod yna law gynhefin yn disgrifio cymenad gwerth ei godi i'r amlwg ar adeg enbyd fel hon, a dangos y mettle diofn os distaw sydd mewn ambell lencyn llyweih ar yr olwg gyntaf. tt Y mae ein cydwladwr Mr. T. T. Rees, yr architect, a-brawd Mr. G. C. R ees, A.S., wedi cael ei benodi'n I gynrychiolydd milwrol (military representative) ar Dreibiwnal Birkenhead, yn lie Mr. Mansfield. Cymer- odd ei le ar y fainc am y waith gy*taf ddydd Llun diweddaf, ac a'i llongyfarchwyd gan Mr. T. L. Dodds, y cadeiryddj a Mr. J. T. Thompson, y cylreithiwr. Diau y bydd pob Eisteddfodwr. cerddor neu beidio, yn sicr o ddarllen adolygiad Mr. L. J. Roberts, M.A., ar Gymanfa Aberystwyth, i gael clywed syniad gwr cyfarwydd am y llawlyfr a'i donau. Er cystal hwnnw, gwelir fod lie i wella arno a thybed y myn Pwyllgor Birkenhead geisio gwneuthu hynny ? it Y mae Byddin Gymreig Cinmel yn cael ei chwalu i'r pedwar gwynt. Adran ar ol adran yn mynd i'r Cyfandir, i lenwi"r bylchau a channoedd wedi eu symud i Litherland, yn eu mysg Mr. W. H. Jones,B.A. (Elidir Sais), Mr. Thos. Roberts, M.A.—dau olygydd Yr Ilr, y misolyn milwrol a gychwynnai ddod allan mor fiasus o Wersyll Cinmel. Yr oedd yr Ysgolion Sul a'r oedfeuon yng nghapeli'r cylch y Saboth di weddaf yn frith o fechgyn y khaki, a rhai o'r eglwys yn deifro ati i'w croesawu 5 lluniaeth brynhawn Su ac i'w gwneud mor gartrefo] byth ag y gall Cymro cref yddol ei flas fod mewn lie a chyda gwaith mor anghy naws a'i anian. u- Y mae Mr. a Mrs. W. H. Barrow Williams wedi dychwelyd o Leeds i fyw ar Lannau Mersey, er mwyn iechyd Mr. Williams. Y maent wedi cymryd ty yn Prenton, Birkenhead, o fewn golwg yr Hen Wlad, ac yng nghyrraedd ei hawelon bywiol hi a ddaw drosocfd o Ddvfiryn Clwyd. Pa eglwys bynnag a'i caiff, bydd gwasanaeth Mr. Williams gyda'r plant a'r ieuenctyd yn gaffaeliad iddi, gan mor fedrus ac effro ydyw ef i gael popeth yn effeithiol a gwastad a galw- adau'r oes. ac nid glynu'n gildyn a phengry wrth gyn- lluniau sychion a hespion. H Dyma fel y teimlodd Eilir Aled. y Rhos, wrth weled englyn Pedrog o'i wely cystudd yn Y BRVTHON diweddaf Ow, Pedrog enwog, heini,—a nwyfus Mewn afiach drybini Dyro, Ion, o'th ddaioni, I wr doeth dy gyffyr Di. Da gennym ychwanegu fod y Prifardd hoff yn giaddol pryfhau. tt (fofid, Dyled, GobaifÍJ-dyna destun ysgrif J.D.R. (Bootle) yn Y BRYTHON nesaf. Gweld y clwyfedigion druain, ac alaeth y rhyfel, a barodd y ddau ben cyntaf yn y portread, ond sbio ymhellach a thu draw i'r rhyfel a barodd y trydvdd—GonAiTH. it Dywed y papurau heddyw (dydd Mereher) fod enwl ein eyd ddinesydd Mr. Hugh Edwards o flacnl pwyllgor gweithioi un o bnf ctholaethau Deheudir Cymru fel ymgeisydd Rhyddfrydol. tt Drwg gennym glywed am waeledd Mr. W. A. Lloyd (Glan Alwen), Fonthill Road, blaenor hynaf eglwys Annibynnol Great Mersey Street, ac un o Grmry ffyddlonaf yr holl gyich i'r Achos Goreu. H Y mae'r Parch. R. W. Davies, Scacombe, yn ennill poblogrwydd mawr fel areithiwr yn yr iaith Saesneg. Y Sul o'r blaen,anerchai'r Brothethood lluosocaf yn y cylch, sef ciddo*r Wesleaid Seisnig yn Lodge Lane, a'r Sul diweddaf areithiaîn y Central Hall. Y mae'r gvvr ieuanc talentog hwn cyii hyotied yn y Saesneg ag yw yn y Gymraeg, ac y mae hynny'n golygu llawer. Rhaid i'r Cymry ddal gafael ynddo rhag i'r Saeson ei ladrata. tt Y mae Eglwys Mynydd Seion wedi anrhydeddu mewn modd teilwng iawn y rhai a ymrestrodd o'r eglwys i wasanaethu eu gwlad. Y mae'r Rhestr Anrhydedd ysblennydd sy'n mhorth y capel yn wrthrych edmygedd ac yn'destyn clod pawb a*i gwcll Ce r hanner cant o enwau ynddi. + + Awst 11, lladdwyd Driver Wm. Salusbury, A.S.C., ail fab Mr. a Mrs. Sulusbury, 22 Higher Lane, Faza- kerley, yn y rhyfel. Yr oedd yn wyr i'r diweddar Ddr. John Salusbury, Conwy, a'r ddiweddar Mrs. Salusbury, Wood Grove, Edge Lane, Lerpwl. H Mae Miss Nellie Evans, merch Mr. Herbeit Evans, Cartref, Holly Road, Fairfield, wedi lllynd- drwy arholiad y Junior Oxford yn llwyddiannus, a hi ond tair ar ddeg xed.
-0-DAU T U"R AfOki,
-0- DAU T U"R AfOki, ,i,Y PREIFAT ]A. H.1 MORRIS.—Ychydig ddyddiau yn ol, derbyniodd Mr. a Mrs. Morris, i Lothair Road, Anfield, y newydd trist fod eu hannwyl fab, y Preifat Arthur H. Morris, wedi marw o'i glwyfau. Bu am flynyddoedd yng ngwasanaeth Mri. John Collier (masnachwyr coed) a phan ffurfiwyd y Pals, ym- unodd Arthur a hwynt yn ddioed. Aeth i Ffrainc yn Hydref, 1915, a bu am risoedd yn y ffosydd. Gwerthfawr iawn oedd ei wasanacth ym marn ei swyddogion, a'i gwmni llawen yn heulwen i'w gyfeill- ion. Yr oedd yn un 0 blant eglwys Anfield Road, ac yn fawr ei barch ymhob cylch. EDGE LANE (B.): Anrheg Werityawr. — Nos Sul ddiweddaf, am yr ail dro, defnyddiwyd Llestri Cymundeb newydd yn addoldy"r Bcdyddwyr, Edge Lane. Cyfhvynwyd hwynt i'r Eglwys yn rhodd gan deulu'r ddiweddar Miss Rosina Hughes, er cof am- dani y hi yn aelod gwir ddefnyddiol o'r eglwys, ac a fu farw cyn cyrraedd ei dwy flwydd ar bymtheg o'i hoedran, ddeng mis yn ol. Individual cups ydynt, yn ol y cynllun diweddaraf. Deallwn fod yr anrheg yn werth ugain punt. Dywedai'r gwein- ideg fod y service yn addurn i unrhyw eglwys,pan yn eu cyflwyno ar ran y teulu, set Mr. H. Hughes, ei thad ac ysgrifennydd yr eglwys; Mrs. Hughes, ei mam, 51 Esher Road; a hefyd Mr. E. O. Hughes, swyddog arall yn Edge Lane, sydd wedi bod am lawer blwydd- yn yn llctya gyda hwynt. O'u maint yr ydym yn si c, na cheir dim yn un o eglwysi'r cylch yn rhagor: arnynt
Family Notices
PRIODI. MORGAN-JONES—Medi 2, yng nghapel M.C. Stanley Road, Bootle, gan y Parch. O. Lloyd Jones, M.A.,B.D., unwyd Thomas W., mab hynaf Mr. a Mrs. T. R. Morgan, 59 Orwell Road, Lerpwl, mewn glan briodas ag Alice, merch ieuengaf Mr. a Mrs. Edward Jones, Tregeiriog Farm, Y Waun (Chirk),
Advertising
SPECIAL. Line at prewar price—5 The Ovefstone.' An ex. eeptionally well finished machine, complete with accessories. ready for the roaci. Ladies' or Gents', £7/19/6-Ca8h or on Easy Payment Terms at 14/g permsnth. Delivered afterfirst paymentof 14/8. jRudgeiWhllwortb, Bold Street, Liverpool,