Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

[No title]

Am Gampy Genethod, sef Athrowesou'r…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Am Gampy Genethod, sef Athrowesou'r Ys- gol Sir. I Dod at ei gilydd-ac at Dduw —yn Nhowyn Meirlooydd Unwaith, dwywaith yn y dydd Tyr ei galon ar y moi-fin;, Oni wyr y gwymon crin ?4 Oni wyv y gro a'r cregin ? SWYN y mor a ddenodd enethod yr Ysgolion Sir i Do wyn eleni. Yr oedd Camp arall yn Llanidloes ac un arall ym Mhen y clawdd yn y De ar yr un dyddiau—sef yr wythnos gyntaf yn Awst-ond nid oedd dim mor yn y naill na'r llall o'r lleoedd hynny. Y mae'r Welsh County Schoolgirls', Camp Movement yn dod yn fwy adnabyddus yn yrYsgolion Sir o flwyddyn i flwyddyn, a degau o enethod ac athrawesau a'u tystiolaeth yn unfryd unfarn fod wythnos o'r Camp yn gweddnewid blwyddyn gyfan. Oni ddaw yn union wedi helbul a mirir chwilio pen a chwalu piniwn arholiadau" Central Welsh Board ? Yma'r anedlir yn rhwydd ac y teimlir eu hunllef wedi ymado. Y mae ysbryd chwilotgar y Latin Prose a byganod eiddigus y French Irregular Verbs a'u coesau ceimion yn cael mud-ddawnsio faint fyw fyd fyn eu calon yn limbo y pethau a fu. Y mae gan Camp ryw hudlath sy'n swyno y da a'r melys a'r bywiol tuag ato ond a. geidw draw bob elfen a gais aflonyddu ar feddwl iach mewn corff iach. Y mae'r mudiad yn chwech oed eleni. Am y blyn- yddoedd cyntaf yn ei hanes arbrawf oedd pob Camp a gyfarfu ond bellach y mae a'i draed yn ddiogel dano a'i le yn dyn yn serch genethod yr Ysgolion Canol a'i ddylanwad yn drwm ar eu bywyd. Ac y mae'r athrawesau a'r efrydwyr a ddaw'n swyddogion mor danbaid a'r genethod o blaid Camp ac nid rhyfedd hynny, oblegid gwyddant fod byw fel hyn hefo'r genethod am wythnos yn dod a hwy yn nes at ei gilydd, yn dangc.s agweddau yn eu personoliaeth na freuddwydiodd y naill na'r llall ddim amdanynt y tu fewn i furiau ystafell y dosbarth, nac hyd yn oed allan ar gae y chwarae. Y mae pob rhagfur i lawr yma, ac athrawesau a genethod yn dod i wybod am agosaeh ac uwch cymdeithas a'i gilydd nag erioed o'r blaen. Byth na ddarffo einioes y Camp oni ddelo angylion, Iwysion lu Llym naws a Human lesu Dyma'r rhai a ofalai am y genethod: Miss Wilson, M.A., Ysgol yr Wyddgrug, oedd y Caplan a Miss Gwen Davies, M.A. (merch llywydd y Gymanfa Gyffredinol) yn Adjutant; ac yn eu cynorthwyo yng ngwahanol adran- nau y gwaith yr oedd y Misses Carrie Lewis a Lucy Lewis (Hawarden), Miss Lockwood, M.A., o Ysgol yr Wyddgrug Miss Myfanwy Morris, L.R.A.M., gynt o Ysgol y Bala Miss Nest Jones, B.A., o Goleg Bangor; Miss Elined Prys, B.A. (merch y Prifathro Prys) o Goleg Aberystwyth, a minnau'n dipyn cen- hades. Trwy garedigrwydd y llywodraethwyr a'r boneddwr Thomas Jones, Ysw., B.Sc., y prifathro, rhoddwyd yr Ysgol Sir at ein gwas- anaeth a chawsom bopeth wrth ein bodd. Teimlem yn berffaith gartrefol o dan arolyg- iaeth tadol Mr. Jones a gwen foddhaus John Williams, ceidwad yr ysgol, wrth fwynhau ein hafiaeth. Yr oedd tair a deugain bhonom yno yn fawr a man aphob bore, ymdrochioeddypennaf peth ar raglen pawb bron. Cafwyd tywydd perffaith, gwres mawr a dim glaw-dim diferyn—a'r dwr yn gynnes ac yn hudol. Gwaith ychydig funudau oedd cydrhwng yr Ysgol a bod ynghanol y m6r. Dysgodd amryw nofio'n bur dda, trwy ddygnu ati bob dydd. Gwlad hyfryd sydd o amgylch Towyn. Ceir gweld Bau Aberteifi a'i arddunedd o bob man bron. Dacw Enlli, draw acw, welwch chwi a rhywle ffordd yna hefyd y mae Sam Badrig, a chwynfan y tonnau dros ei chreigiau twyllodrus wedi llithio llawer Hong i'w dinistr, fel y clywais fy nhad yn adrodd droeon Glywch chwi glychau Cantre'r Gwaelod ? j Clychau siniarus Na chlybu dyn Eu mwynach erioed Mewn llesmair na hfln. Pwy fedr ein tywys i ogof Owen Glyn Dwr ? Mor glir ydyw Aberystwyth heddyw Dyna'r Coleg onitê? Llygad cyfarwydd sydd wedi gweld gellwch bendenynu. Dilynir sweep y Bau i'r fan yr ymayll yn y tarth caredig. Y fath dlysni sydd wedi ei afradloni yma. Am Feirdd y M or, newydd a hen, y difyr-chwilia'r galon a dyma Sasiwn -Sasiwn y Môr! Sasiwn felys a Sasiwn ofn- adwy! a rhasfcr y pregethwyr yn faith, o feirdd y cynfydhyd yn Eifion Wyn. A dyma genadwri'r pregethwr olaf :— Mae y Cread yn ymestyn At berffeithrwydd, at y Wawr; Ac yn nhrai a llanw'r oesau Cwblheir Un Amcan mawr. Edrychai pen uchaf yr Assembly Hall yn gysurus iawn pan dyrrem beunydd ar ol te gyda'n gilydd i ganu a chlywed canu a chy- meradwyo canu. Y mae doniau adrodd ac actio faint fynnir yma, a phrydyddion ddigon wrth eu gorchwyl ddydd a nos yn anfarwoli'r Camp—ei breswylwyr, ei ddi- gwyddiadau a'i ddywediadau. Heno cyfan- soddir can yfory dacw bawb o'r Camp wyr yn ei llafar-ganu. Nid oes yr un wyneb nad oes wen arno, yr un llygad nad oes chwarae a direidi ei lond, a nwyf a melyster ieuenctid yn y cyfan. Da i'r genethod ydyw dod at ei gilydd fel hyn, oherwydd cofier fod yma gyn- rychiolaeth o un ar ddeg o'n Hysgofion Sir sef y Bala a'r Wyddgrug a Phorthmadcg, Hawarden a Wrecsam, y Drenewydd a Llan- idloes, Presteign a Builth, Gowerton ac Aber- gafenni a dyna Dde a Gogledd a Pherfedd- wlad, onite ? Ac yn yr un fan yn union lie y buom ych- ydig o oriau'n 01 yn perfformio mor hwyliog ac yn chwerthinmor galonnog, cyfarfyddwn bob nos i son wrth y genethod am y Peth Hwnnw sy'n ffynnon llawenydd. Clindarddaeli drain a fai'n chwerthin a'n hafiaeth onibai am y peth hwn sydd yn eisancteiddio yn ei darddle. Gwna bob un o'r swyddogion ei rhan a'i holl galon ar yr ochr ddyfnaf hon i'r Camp, megis y gwna ar yr ochr chwareus. Fe genir emyn- au godidog yr annwyl St. Patrick a St. Francis o Assisi, ac yng nghwmni eu hysbryd fe ddileir y cannoedd blynyddoedd a ymestyn rhyngom ni a hwy. Miss Wilson, y Caplan, sydd yn y gadair, a sieryd un o'r swyddogion yn syml ond o ddifrif am yr hyn sydd yn gwneud bywyd pob dyn, a bywyd cymdeithas, a bywyd teyrnas, yn werth ei fyw. Oher- wydd y mater am yr wythnos ydyw Cym- deithas (Fellowship). Y noson gyntaf am gymdeithas yn y Camp hefo'n gilydd ac am ein cyfeillgarwch rhyfedd y soimir. Yr ail noson fe eir ymlaen i ddangos sail y gym- deithas honno, sef Cymdeithas a Duw. Ac felly o noson i noson, fe ddangosir y pethau yn ein gwlad ein hunain sydd yn rhwystr yn ffordd gwir gymdeithas rliwng dynion a'i ll,-a,s r l iwn g dyii i on d'i gilydd. Fe osodir problemau'r slum ger ein bron, a'n dyled i bawb na chafodd ein breint- iau. Sonnir am ddwyn ysbryd y Gymdeithas Fawr i'r Ysgol, i'r Cartref ac i'r Eglwys. Ar noson goffa cyhoeddi'r Rhyfel, datguddiwyd i'r genethod y rhwystrau sydd ar ffordd cym- deithas rhwng gwledydd Ewrop a'i gilydd, a'r ffordd y symudir y rhwystrau hynny. Arwain hyn ni erbyn nos Sul at £ World-Wide Fellowship," a dangosir angen y gwledydd paganaidd, India a China, Japan ac Affrica, am y gymdeithas hon,, a'n cyfrifoldeb ninnau ltuag at y gwledydd hyn. Araith gloi gan y Caplan geir y noson olaf, yn annog ufudd-dod i bob gweledigaeth a gawsom yn y Camp, megis yr ufuddhaodd y Cenhadwr Mawr o Darsus. Am ba achos, o Frenin Agrippa, ni bum anufudd i'r weledigaeth nefol." Pwy na wel yn y Camp un o foddion y Gwar- edwr Mawr i ennill genethod yr Ysgolion i feddwl ei feddyliau Ef ac i wneud a allont gyda brwdfrydedd a grym ieuenctid i wirio'r Ddau Ddyhead. Deled Dy Deymas, Gwneler Dy Ewyllys." Fe ddaw cenadesau'r dyfodol allan o'r Mudiad hwn, gewch chwi weld. Ond pa un bynnag ai gartref ai oddicartref y mae gwaith y genethod i fod, eu hennill i arwriaeth Teyrnas yr Arglwydd Iesu ydyw'r prif amcan. Dyma fo megis y'i ceir ar y rhaglen "ObJect of Camp To bring school- girls together for a happy, healthy week's holiday, and to present before them the high- est ideals of Christian life and service." Mi gwelaf nhw'r funud yma fel yr oeddynt o fy mlaen pan yn ceisio dweyd gair wrthynt-y mwyafrif yn eistedd ar lawr ac yn pwyso'n ol yn gyffyrddus ar y rhai oedd yn y rhes cadeiriau'n hanner cylch. Lie caech wran- dawiad mwy astud ? Y mae-nt yn ymawyddu i wrando ac i ddeall, ac y mae' -eyfle yn rhy werthfawr i golli dim amser ond mynd yn syth at y pwnc. Pwy fedr fesur effaith y Camp ? Y mae pob llinyn mesur yn rhy fyr, a diolch am hynny. Yr oedd wyth yn Nhowyn wedi bod yn rhyw gamp neu'i gilydd droeon o'r blaen ac yn deall ei ystyr i raddau helaeth bellach, a'n hymlyniad wrtho yn cryfhau bob tro. Rhai fel hyn oedd y chwe Junior Officer. Rhoisant eu goreu i wneud y Camp yn llwyddiant ar y ddwy ochr. Gwir oedd yr ymadrodd a rodd- wyd mewn can gan un o'r prydyddion:- We run the Camp," said the six J.O.'s. Hwy oedd ei enaid i raddau helaeth iawn. Un diwrnod ceir ni yn y tren bach a ddring yn ara' deg i fyny i Abergynolwyn. Yno disgynnwn a cherddwn ar hyd y ffordd yr elych i Dal y Llyn. O'n deutu cwyd y bryn- iau heirdd wedi ymwregysu a hyfrydwch. Y dolydd a wisgir a defaid a'r bryniau a orchuddir ag yd. Am hynny y bloeddiant ac y canant," Ac am hynny y bloeddiwn ac y canwn ninnau,oherwydd ceir atsain i'w mawl- gan hwy yng ngharreg ateb calon pob un ohonom wrth droedio yn ddi-frys rhwng gwrychoedd tlysion Meirion. Aroglwn ber- sawr y gwair a ddaw'r awel fwyn inni yn llond ei dwylo. Swn y peiriant yn lladd y gwair ddaw o bobman na nemor bellach o weld y Pladurwyr gwyr miniog wedd Gwyr y maes a'r grymusedd. Egyr wanaf gywreiniol, Rhed ei ddur ar hyd y ddol, A'i bladur gaboledig Glaer wawr yn goleuo'r wig. Pan yn eistedd wrth y llyn ger ty ffarm tlws yn ei unigrwydd, a chymryd ein lluniaeth, gwelem wraig y ffarm yn paratoi i ymuno a dyn oedd eisys yn gweithio yn ei chae gwair. "Dyma ni griw ohonom wedi dod yma am fwynhad. a dyna'r rheina yn f yr o ddyn- ion." Ufuddheais i symbyliad y foment a lawr a fi atynt. Wedi ei chyfarch, cynhygiais wasanaeth rhai ohonom i'r wraig. Derbyn, iodd ef yn groesawus, a dyma redeg i fyny at y lleill i alw am volunteers i'r gwair Cododd pymtheg. Yr oedd y wraig a'i mab wrth eu bodd. Eisteddai ef ar ben y gribin fawr, a thywysai un o'n genethod ni ben y ceffyl iddo, a chan nad oedd gribin fachi bawb, heliasom y gwair a'n dwylo. Mor hapus oeddym wrth weld y gwair yn cael ei bentyrru mor fuan. Daw'r drol i'w gario yn y man. Ca pedair ohonom y fraint o fynd i ysgawnu yn y. cowlas (newydd i ni oedd y gorchwyl a'l enw). Safwn yn y ty gwair a derbyniwn y gwair drwy'r ffenestr, ac yna ei luchio ar hyd lawr a'i fathru. Beth pe n gwelid ni, tua diwedd y prynhawn, wedi i'r gwair i gyd gael ei fforchi i mewn, yn cydio yn nwylo ein gilydd, ftc er mwyn ysgawnu 'r gwair yn ber „ ffeithiach, yn gwneud y goose-step ol a blaen air hyd y llofft. Dyna hwyl! Ond bellach dyma hi'n bedwar ar y gloch, ac wedi gweithio ers un. Y mae gennym oed a'r lleill o'r fintai a gerddodd o amgylch y llyn, i'w cyfarfod am de yn y pen uchaf iddo. Pnawn da, Mrs. Jones. Diolch i chi am adael inni helpu yn y gwair." Pnawn da i gyd, a diolch yn fawr. Mae'n siwr gen i mai'r Brenin Mawr ddaru'ch anfon chi yma hedd. yw Mae'n reit siwr i chi, Mrs. Jones Pnawn da." Pnawn da, a brysiwch yma eto." Ddydd arall ceir ni ymysg yr ami ogof a rhaeadr sydd tua Dolgoch, a thro arall yn darganfod prydferthion Aberdyfi. A dydd arall cawsom groesawu rhai.o gyfeillion twym galon Towyn. ac wedi cypaned o de ar y lawnt,buwyd yn ceisio egluro amcan deublyg y Camp, a diolch yn bersonol i'n gwahodd- edigion am y croeso cynnes a roisant inni. Ond yr oedd yn amlwg fod gweld y genethod yn ddigon o eglurhad ar y Camp ganddynt hwy. Diddorwyd hwy yn hawdd a phwt o gan a rhyw dipyn o berfformiad. Ymhlith y rhai oedd yno yr oedd Mrs. R. H. Morgan a Mrs. Bynner (sef mam Haydn Jones, Ysw., A.S.). Dywedwyd gair byr o longyfarch a chalonogi gan y Parchn. W. Bynner a Robert Davies. Y mae atgofion am Camp o flwyddyn i flwyddyn ymhlith. ytrysorau anwylaf, aphwy a wyr na cheir Girls' Camp yn India cyn bo hir iawn. Fe gofir yn hir am y canu a'r chwerth- in, y tennis a'r ymdrochi, y gwrando dwys, y gymdeithas wirioneddol a gafwyd gyda'n gilydd a chyda'r Gwr oedd yn y canol. Ac yn y gymdeithas hon y cawsom y weledigaeth yn nydd Gofwy ein Gwlad. Fe fydd gan y genethod hyn eu rhan i helpu cyfieithu'r weledigaeth honno i fywyd a phroflad y dyddiau anodd a ddaw arnom Drqnnoeth y Güfwy. Follow the Christ, the King. Live pure, speak true, follow the King, Else wherefore born ? J. HELEN ROWLANDS

Advertising