Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

IGwawr Las Buddugoliaeth I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

IGwawr Las Buddugoliaeth I YN wyneb medr, dewrder, a baddugoliaethau diball ein byddin oddiar Orffennaf laf, gallem ni'n gyfreithlm fel gwlad chwyfio'n baneri ac ymollwng i orohian calonnog. Ond gadawn hynny i'r Ellmyn a'i darostyngodd i grefft, ac a fedr ei gweithio i fyny yn ol yr achos a'r gofyn. Meddianasom ein heneidiau mewn atnynedd yn ny&diau du ein cyni, a hynny heb ubain, chwedl Lloyd George ac yn nyddiau ein llwyddiant, ymgadwn yn ddoeth rhag hyd yn oed orfoledd cymedrol, heb son am rysedd yr Ellmyn. Y mae'r amserau'n rhy ddifrifol i orohian, ond byddem yn llai na dynion pe na baem yn llawen. Dywedai un gohebydd fod Buddugoliaeth yn symud ar adenydd cyn gyflymed yn awr, fel mai amhosibl cadw i fyny a hi. Ni all un ond clunhecian ar ol, a phigo i fyny bluen yn awr ac yn y man, a syrthiodd o'i hesgyll, a chroniclo ei hehediad oreu y gallo. Ap aiff buddugoliaethau mawrion ychydig ddyddiau'n ol yn fychan ynymyl y dlai hedd- e-U nPf 'th a'u had- I noddau yn eu liymdi evkicn tSifesUit wnddeng-.» ys ein byddinoedd yn chwanegu atynt, gan fynd ymlaen o nerth mawr i nerth mwy. 0 ddechreu'r ymgyrch ar y Somme ar Or- ffennaf 1, hyd y pryd yr ysgrifennir y llinellau hyn, ni fu ball ar Iwyddiant byddinoedd Prydain a Ffrainc. Enillasant bsntref ar ol, pentref oddiar yr Ellmyn, ac ni ehollasant, oddigerth efallai am ennyd yn achlysurol, un He na chyfranohono, drwy wrthymosodiadau y gelyn. Ac yr oedd y rhandir a feddiennid gan y gelyn yn rhwydwaith o warchffosydd ac amddiffynfeydd o'r .math mwyaf celfydd a chadarn y buwyd am ddwy flynedd yn eu perffeithio. Ymffrosbiai'r gelyn eu bad yn anorchfygadwy. Ond meddiannwyd hwy o un i un gan ddewrion Ffrainc a Phrydain a choronwyd eu cyfres ddidor o fuddugol- iaethau pan gymrwyd Thiepval yn un o frwydrau mwyaf hanes. Yr ydym ballach ar y blaen i'r gelyn mewn cyflegrau, gynnau a darpar rhyfel. Y mae'n hawyr-longau, llyg- aid y fyddin, yn lly wodraethu uwchben. A'u llygaid hwy'n cymiiwair drwy wersylloedd y gelyn, ni faidd y gelyn ag-ahau i gystremio i'n gwersylloedd ni. Nid yw awdurdodau gor- uchel na swyddogion ein byddin yn llai eu crebwyll a'u medr, a dywedyd y lleiaf, nag eiddo'r gelyn. Gall ein milwyr yn gyffredin wynebu'n ddiofn bigion y gelyn, dyweder y Wurtembergiaid a amddiliynnai Thiepval ond drwodd a thro, nid yw cyfangorff milwyr y gelyn i'w cymharu a'n milwyr ni. A beth a ddywedwn am yr aughcnfilod a elwir Tancod, a heria grebwyll Gwr y Drych i'w disgrifio ? Cydnebydd y TywysogRupprecht fod byddin- oedd Ffrainc a Phrydain yn rhy gryf i'r Ellmyn. Ymhobman, y mae'r gelyn ar yr amddiffynnol. A gyrrwyd eisoes lu mawr o'i longau tanforawl i'w lie eu hunain i waelod y m6r. Dywed popeth fod ein buddugoliaeth derfynol yn sicr.

Basgedaid o'r Wlad

Advertising