Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Clep y Clawdd sef Clawdd Offa
Clep y Clawdd sef Clawdd Offa [GAN YR HUTYN.] I COLLI EI FLAS AR Y CLA WDD.- Gofynnais i gyfaill y dydd o'r blaen os oedd wedi darllen erthygl A.G.G. y Sadwrn cynt. Na," meddai, y mas A.G.G. wedi colli ei flas i mi byth oddiar ei ymosodiad Irastlaidd ar Gymru a'r Cymro byd-enwog Llwyd o Wynedd." Tebyg fod hyn yn deimlad cyffredinol iawn ar y Clawdd, ac yn y tir. I lawr yr a pawb a ymesyd ar ein Siors ni, ac i fyny yr a efe er gwaethaf pob ymosodiad, CENHADAETH EGLWYS LOEGR.— Peth newydd yn hanes yr eglwys hon yw cenhadaeth. Maent yn eglur am ddiwygiad. Peth estronol iddynt hefyd yw diwygiad. Ceisiasant yn ami i ladd y diwygiad grymus diweddaf a ddaeth dros Gymru troisant i ddawasio yn lie gwedd.o, a thrwy hynny coll- asant lawer, ond dysgasant, wers i'w cxnfio. Heddyw, cyohwynnant eu hunain ar wneud diwygiad. Pob llwyddiant iddynt, ond rhy- fedd o anffodus ydynt wrth y gorchwyl. Ni fu dim mor newydd iddynt erioed. GLOYN BYW AR OLWYN.-Y uchod yw teitl drama Mr. Hemmerde, sef yj hen Aelod Seneddol dros Ddwyrain Dinbych, ac hefyd nodweddaidol iawn yw'r teitl o Mr. Hemmerde ei hun. Daeth i'n plith fel math o loyn byw ektronol, ac ar ei olwyn y bu tra fu yma. Yr oedd rhyw fynd anghyff- redin ynddo. Nid oedd dim dichon ei atal, ac o'r cliwedd mynd oddiwrthym a wnaeth. Er cymaint y mynd oedd ynddo, gloyn byw oedd. Nid yw gloyn byw fawr o werth, lowyr byw. Daeth ei well ar ei ol. BRYTHONWR AR EI ADEN.-Maeun o fechgyn Pentre'r Brython yma ar ei aden yn Ffrainc. Cyfyd yn uwch uwch o hyd, mewn medr ac mewn bri. Mab ydyw i Mr. Wycherley, yr adeiladydd. Da gennym weld ein beohgyn yn esgyn. Hyderwn na fydd disgyn disyfyd byth yn eu hanes. Dymunwn bob llwyddiant i'r ehedydd addawol hwn. CILVVG AR Y GADAIR DDI WIN- YDDOL.—Nid pawb fedr lyncu'r syniad o .gael Cadair Ddiwinyddol yn y Colegau Cenedl- aethol. Nid oes fawr flas ar ddiwinyddiaeth fel y mae, ond mwy diflas fyth fydd o'i chael o'r Prifysgolion. Nid wyf ddiwinydd," -meddai rhywun yn ddiweddar, ac o'r hyn a wn am ddiwinyddiaeth nid oes ynof awydd am fod yehwaith." Dyna ergyd cefn dwrn, onite ? LLUNIAU'R 8GMME YN Y DREF.- Tyrra miloedd obJbl tua Gwrec-sam i gael cip ar alanastr y Somme trwy Cinema. Nid oedd le i gynnwys y ddegfed ran ohonynt mewn unrhyw adeilad. Dywedir fod yr olygfa ar y lien yn ddigon i yrru dyn i drwmlewyg. Ond befaiprofiadunofodyno ? Mae'r darluniau hyn yn rhoi rhyw syniad egwan o'r gyflafan oinadwy hon. Eto rhyfedd mor dawel y wlad. Nis gellir mewn ami i le gredu fod rhyfel yn bod. TROI'R CLOG IYN EI OL.-Mae Ilawer llai o swn am droi'r cloc yn ei ol nag oedd pan wbhiwyd ef ymlaen. Eto hawddach oedd ei wthio na'i droi, a mwy manteisiol hefyd. Niweidir llawer o glociau ac oriaduron drwy eu troi yn ol, a bydd dwylo y repairers yn llawn gwaith am fisoedd o'r herwydd. Daeth yr anghofus i'r oedfa y Sul diweddaf cyn yr aroser priodol,—rhai na fuont mewn pryd k erioed o'r blaen yn eu bywyd. G .vnaeth hyn Jes iddynt. Gwrthyd eraill droi y cloc yn ei ol. Nid oes gan ddyn, meddent, hawl i ymyryd ag amser. Pobl ryfedd yw'r rhain, ond byddai y byd yn ddwl iawn hebddynt hwy. SGOLOR Y SGWLYN.-Mae mab tair ar ddeg oed ysgolfeistr Johnstown, ger Rhiw abon, wedi pasio arholiad y Central Welsh Board. Dywedir mai efe yw'r ieuengaf a wnaeth hyn. Rhaid ei fod wedi ei eni yn ieuanc iawn, fel ei dad. Llwyddiant iddo LIWSIFFER ZEPP I'R LLA WR.- Llawen floedd a glywir ar y Clawdd am ddis- gyn un arall fel Liwsiffer i'r llawr. Mae gyr- wyr y Brifddinas wedi mesur eu maint i'r blewyn ac fe'u. dygir i lawr yn awr yn ddilol. Digon tebyg, mal y dywedai Lloyd George yr wythnos ddiweddaf, mai ond dechreu y mae Prydain Fawr eto. Ond y cebystr yw ein bod wedi b)d cyhyd cyn dechreu. Pe buasem wedi dechreu'n gynt buasai'r rhyfel trosodd erbyn hyn, a miloedd o'n milwyr wedi eu harbed rhag bedd anamserol. Ond da gweld y diwedd yn agoshau. SWN STREICS.—Swn streic y trens oedd yr wythnos ddiweddaf, ond nid cynt nag oedd honno wedi ei hosgoi nad oedd swn streic arall yn disgyn ar ein clyw, sef yw honno, streic llelrioh. Cyfyd y gwerthwyr y pris, a chyfyd y prynwyr eu dwrn. Hyderaf a gobeithiaf mai disgyn ar y pris wna'r dwrn, ac nid ar ben y gwerfchwr druan. Neu gwae fo, YSGOLION GAEAF.-Egyr y rhai hyn yr wythnos nesaf, ac y mae llu ohonynt ar y Clawdd. Cyrchir iddynt gan fechgyn a gen- ethod Jawer, a gwnant waith da odiaeth. Dyma'r unig gyfle pellach am addysg i gan- noedd lawer o fechgyn y gweithfeydd. Dring ami un ohonynt yn uchel iawn drwy- ddynt. Y maent gymaint eu pwys—yr ysgolion hyn—fel y mae yn llawn bryd codi adeiladau cymwys a phwrpasol ar eu cyfer. Daliwch ar eich cyfle, ieuenctyd! ac na fydded i'r canol oed fod yn ddifater yehwaith. Dylid gorfodi bechgyn anystyriol y stryd i fynychu'r rhai hyn. CANTORESAU Y CLAWDD.-Dafydd gan bawb ddeall am Iwyddiant y cantoresau cladus Mari Von a Lora Prisiard, yn ennill yr A.R.C.M. Hyfforddwydhw-yntgan y Doctor Car. Roberts. Mae miwsig yn llais a bys y rhai hyn. Ewch yn eich blaenau nes canu yr A.B.C. i gyd. CLEMICR YSGOLION.—Bu cryn dwrw ar Down Counsil Gwraig Sam y dydd o'r blaen o berthynas i addysg y plant a chlemio'r ysgolion. Haerai rhai nad oedd digon o athrawon yn yr ysgolion i'w cynnal, tra yr haerai eraill fod yno fwy na digon. Eglur yw fod yna ddiffyg mawr yn addysg rhai o wyr y pwyllgor. Dywedodd un Counsilor beth rhyfedd iawn, sef fod dosbarth o blant mewn ysgol neilltuol a'r rhan fwyaf ohonynt heb agor eu genau am dyddiau. Da iawn fai i ychydfg o'r pla hwn ddisgyn ar y pwyllgor. MYND AR YR YSGOL.-Torrodd dau hogyn drwg ffenestr i ysgol yn Nhref Gwraig Sam yr wythnos ddiweddaf, ac ymguddiodd cwnstabl yn yr un ysgol ar brynhawn Sul. Gwelir fod mynd anghySredin ar yr ysgol hon. Yr oedd y tri yn y llys ar y Llun y cwnstabl yn cyhuddo'r hogiau o ladrad. Mae llawer hogyn yn dod allan o ysgol yn rhy one-st lawer iawn, gan adael y cwbl ar ei ol. BALM WYL OERDDOROL.Mae Capel Saesneg M.C. Acerfair ar y blaen i bawb ar y Clawdd yn hyn. Hon yw eu seithfed yr oedd hon eto o'r fath oreu. Arweiniwyd yn fedrus gan y Proff. David Ifans, Mus.Doc., Caerdydd. Yn y prynhawn caed cyfarfod arbennig i'r plant. Yr oedd Cerddorfa hefyd yn bresennol, ac yn gwneud ei rhan yn gampus. Cafwyd dydd i'wgofb, a'r arwein. ydd wedi ei foddhavi'n anarferol. ERGYD YR YSGOLFEISTR.-Collodd Mr. Parry, ysgolfeistr adnabyddus a gweitll- gar Acer" air, ei annwyl fab, Clifford, ar faes y gwaed. Efe'n ieuengaf o dri yn y Fyddin. Clwyfwyd y ddau arall hefyd, sef Dyfed a Nathan, a'r ddau yn Lifftenants efo'r R.W.F. Llenwid y Sgwl Hows a galar. Bechgyn da a dewr oeddynt. Daw pob diddanwch a gysuro y tad a'r fam a'r gweddill. GWYL Y CYNHAEAF.-Mae'rGwyliau hyn yn dyfod yn fwy poblogaidd o flwyddyn i flwyddyn, a phrydferthir yr adeiladau yn ddieithriad bron ar yr amgylchiad a jlodau ac a ffrwythau o bob math. Bydd pob capel ac eglwys fel rheol yn orlawn gan bobl. Wythnos y gwyliau hyn fu'r wythnos ddiweddaf yma ar y Clawdd. Anfonwyd llawer llwyth o ffrwythau o'r capelau i'r ysbytai. Daeth rhai o brif bregethwyr Gogledd Cymru y flwyddyn hon i'n Clawdd i'n harwain mewn mawl. TROSED DA LPR DYDD.-Drwg yw can- fod fod troseddau o bob math ar gynnydd y dyddiau hyn yn yr ardaloedd yma. Llenwir y papurau a chronicl o'r hanes. Mae lladrad a meddwdod ar gynnydd mawr, a'r cyntaf fel rheol o herwydd yr olaf. Beth ddaw ohonom? PREGETH WYR G W Y L I A U' R CLA WDD.-Gwreesaan (M.C.)—y Parch. Glyn Davies, Rossett Coedpoeth (A.)—y Parch. E. Hywel, B.A.B.D., Johnstown Nant (M.C.)-y Parch. J. J. Morgan, Wydd- grug Caergwrle (M.C.)—-y Parch. Talog Davies, Lerpwl; (P.M.)—y Parch. C. C. Goodall, Wigan; Southsea (M.C.)—y Parch Glyn Davies, Rossett Llangollen (M.C. )-y Parch. W. M. Jones, Llansantffraid Summer Hill (M.C.)—y Parch. M. R. Owen, Gwrecsam; y Parchn. Ward Williams, Gwrecsam W. S. Jones, M.A., Amwytliig J. H. Howard, Colwyn Bay R. G. Jones, Liscard J. Lewis Jenkins, Lerpwl Gresford (W.)— y Parch. H. H. McCulloch, B.A., Mr. Chas. Dodd, Gwrecsam. --0-
Gorea Gymro, yr un Oddieartre…
Gorea Gymro, yr un Oddieartre I AsHTON-IN-MA-.K-ERFIELD.-Medi 28, daeth tyrfa fawr i dalu'r gymwynas olaf i Mammie, ail ferch teulu caredig 262 Bolton Rd., Ash ton. Cafodd gynhebrwng tywysoges, a derbyniodd y teulu nifer fawr o lythyrau o Gymru ac o wahanolwersylloeddeingwlad, a dymunant ddiolch i bawb am bob dangosiad o gyd. ymdeimlad a hwy. Cafwyd gwaaanaeth yng nghapel Carmel (M.C.), y Parchn. R. Parry Jones, Warrington, ac Enoch Rogers, Carmel, yn gwasanaethu. Canwyd rhai o'i hoff emynau gan gynulleidfa ddrylliog, wedi hynny ffarfiwyd yn orymdaith tua'r gladdfa, yn y drefnaganlyn y gweinidogion, Cytndeithas; Pobl leuanic Carmel, yr elorgerbyd a'r elud- wyr, y teulu, Cengen Gymreig Undeb Dirwest- ol Merched Lerpwl a'r cyffmiau. Yr oedd amryw flodeudyrch heirdd yn addurno'i harch, wedi eu rhoddi gan y teulu, Mr. a Mrs. Roger Jones, Mr. a Mrs. EvanJones, Mr. a Mrs. Robart Hughes, Mr. a Mrs. Hugh Jones, Mr. a Mrs. Rd. Griffith (Wavertree), Mr. a Mrs. Rob- ert Rogers, Undeb Dirwestol y Merched (Cangen Ashton), Cymdeithas Pobl leuainc Carmel. Dyma linellau oedd wedi eu hysgrif- ennu ar gerdyn un ohonynt Trist hiraethlon fynwes cariad Ar dy fedd ry'r blodau hyn, Wrth dy gloi'n nhlysni gwanwyn Oes, yn niwloedd oer y glyn Blodau meirwon Haw celfyddyd Dlawd, yw'n parch a'n goreu ni, Ond ym mhersawr blodau'r gwynfyd Heddyw y preswyli di. Cof amdanat, eneth wylaidd, DIos, dirionaf, melys fydd Llonder, gwendid, haul a chwmwl Gwersi lond dy hanes sydd Lili purdeb a rhosynnau Rhinwedd, gylch dy Iwybrau drodd," A thrwy anhrefn cysgod angau Gobaitb ar dy feddrod chwardd. Mrs. Hugh Jones. Trwm yw hiraeth y teulu ac Eglwys Carmel amdani, a bwlch mawr i'w deimlo yn y rheng. Gofalwyd am y trefniadau gan y Brodyr Peter Thomas, Robert Hughes a'r Milwr J. H. Griffith.Wele swyddogion Cym- deithas Pobl Ieuainc Carmel am y tymor y Parch. Enoch Rogers yn llywydd, Mr. Tudor T. Jones yn is-lywydd Mrs. Glaslyn Jones, trysorydd, a Mr. David Ch. Roberts, ysgrif- ennydd. Y rhaglen wedi ei threfnu, a rbag- olygon adeiladol.— O.H.J. CAPEL UNDEBOL ECCLES.-Nos Sadwrn a'r Sul diweddaf, cynhaliodd yr eglwys uchod ei chwrdd pregethu blynyddol, pryd y cafwyd un o'r Hoelion Wyth i'n gwasanaethu, sef y Parch. S. T. Jones, Colwyn Bay. Yr oedd disgwyliad eiddgar am ei weled a'i glywed, gan ei fod yn broffwyd sydd yn cerdded ymhell i'r byd ysbrydol, acyn dod a sypiau o rawnwin y wlad, ac o gyfrinion Trefn y Cadw, yn ol, i felyau a chyfoethogi ei bregethau. Teimlwyd grym y Groes, a'r Gwirionedd fel y mae yn yr lesu, ar hyd y gyfres, a theimlad pawb ar y terfyn ydoedd Onid oedd ein calcnnau'n llosgi ynom tra yr ydoedd efe yn agored i ni yr Ysgrythyrau ? Cafwyd oedfa Saesneg am 3 gan y Parch. T. S. Taylor, M.A.,B.Litt. (A.), Fel y brefa'r hydd," etc., oedd ei destyn, a thriniodd ef yn ddysgedig a meistr- olgar neilltuol. Cyrddau a hir gofir. Arosed y Fendith.-W.P. BIRMINGHAM.—Y Parchn. D. Adams, B.A., Liverpool, a J. L. Williams, M.A.,B.Sc., Aber- ystwyth, a wasanaethai yng Nghymanfa eglwys Wheeler Street, Birmingham, Medi 24, 25, 26. Cafwyd odfeuon a hir gofir, gan y ddau gennad hyawdl tyrfaoedd yn gwrando, a'r genadwri'n amserol ac effeithiol. Pe buaset yn gwybod pwy sydd yn ymy], mi newidiet dy d6n," ebe'r Cudyll Coch wrth glywed Robin Goch yn tiwnio am y gongl ddo.
IFfetan y Gol. I II
Ffetan y Gol. Ceficd JClub foin anfon i'r Ffetan mai dyma'r gair sydd ar ei genau:- NITHIO'R GAU A NYTHU'R GWIR. Gair arall at fylNghyfeillion. At Olygydd Y BRYTHON Fy ANNWYL GYFAILL,-Toimlaf ddarfod i mi esgeuluso un peth arbennig ynglyn a chysylltiadau perthynasol fy annwyl ddi- weddar briod, sef y ffaith fod iddi chwaer- Mrs. William Griffiths, Prospect Vale. Collodd ei mam a'i chwaer hynaf flynyddoedd yn ol, y rhai a gladdwyd yn yr un man a hithau. Bocllonrwydd mawr i fy meddwl yw ddarfod i Mrs. Griffiths fod yn byw yn ein hymyl, yn gofalu'n dyner am ei hannwyl chwaer yn ystod biynyddoedd meithion ei chystudd, a'i bod gyda hi yn ei chystudd olaf oil hyd i'r diwedd. A goddefwch imi chwanegu ddarfod i'w hunanfeddiant, ei doethineb, ei chyfarwyddyd, a'i mwyneidd- dra diball hi fod yn foddion i arwain y plant a minnau trwy'r ystorom a'r tywyllwch, dan fendith yr Arglwydd, y tu hwnt i ddim a ddis- gwyliais. Er yn egwan ei hun, cafodd north i ddal yn ddewr, ac i gyfnerthu ac arwain eraill. Ni lwyddodd neb erioed i daenu cysgod mwy clyd am deulu mewn drycin, a hynny mor naturiol a phe na buasai'n gwneu- thur dim allan o'r cyffredin. Gyda golwg ar y llythyrau cysurlon lluosog a dderbyniais oddiwrth eglwysi o bob enwad, a chyfeillion personol o bell ac agos, ofer yn awr geisio eu hateb oil, ac maent yn parhau i'm cyrraedd. Mae'r cwbl yn ddatguddiad mawr i mi,—datguddiad o gariad dynol a dwyfol,—a gobeithiaf gael adferiad iechyd digonol cyn hir i gyfeirio atynt yn helaeth ach. Mawr yw fy rhwymau i'r cyfeillion lluosog am eu caredigrwydd imi Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau." Er y gallaf ddywedyd, a hynny, mi gredaf, heb ryfygu, nad wyf yn ofni'r diwedd, eto mi hoffwn fyw i geisio cyflawni rhyw bethau, ac yn enwedig ddych- welyel i gylch o fywyd sydd wedi datguddio cymaint o faddeugarweh a chydymcleimlad a mi. Ond rhaid terfnyu. Yr eiddoch yn wir, Hyd. lal, 1916. PEDROG. Yr Iaith Fain a'i gwich mewn I Gorsedd. At Olygydd Y BRYTHON I ANNWYL MR. GOL.-BOtIl a feddyliwch o ddwyn Saesneg i Orsedd y Beirdd ? Hyderaf yn fawr y gwnewch eich goreu i'w chadw o Orsedd ac Eisteddfod Pen y Berewy. Dwrdiai rhai yn enbyd yn Aberystwyth am y bobl oedd yn dwyn Saeson a Saesneg i'r Orsedd, ac am y Saeson a'r Die Shon Dafyddion oedd yn dwyn ten hunain iddi, a barn onest un oedd fod eisieu llenwi'r cwbl ohonynt ag uwd a'u saethu. Dywedaf finnau hyn os oes eisieu canu God save the King yn olaf i gloi'r Orsedd i fyny, fod eisieu canu God save the People hefyd. Nid wyf yn dywedyd nad oes eisieu canu Duw gadwo'r Brenin-—gwyddom i gyd od arno ei eisieu ei gadw fel rhywun arall, a'i b ) d yn fendith tawr cael brenin duw- iol, ond y mae eisiau i ni ganu mwy ar Duw gadwo'r Bobl. Oes, ac y mae eisieu i ni gadw Saesneg allan o Orsedd y Beirdd. TEIFI. Cymhariaeth Mr. Lloyd George. At Olygydd Y BRYTHON u" I I SYR,—Clywais tod rhai o'r hen ffrindiau wedi ffromi eto dipyn wrth Mr. Lloyd George am a ddywedodd wrth wr y wasg American- aidd. Prif gwyn y cwynwyr Cymreig yw'r dull a gymerodd i egluro ei feddwl. Tram- gwyddant wrth y termau a ddefnyddiodd, ac awgrymant fod geiriau fel game, sportsman, ring, a'r eyffelyb, yn dangos diffyg chwaeth, a diffyg sylweddoliad o bwysigrwydd y rhyfel. Ond cwyd y gwyn, mi dybiaf, o ddiffyg syniad priodol o safle Mr. Lloyd George. Edrychir arno o hyd fel Cymro a dyn mawr Cymru yn unig, ac yntau, erbyn hyn, yn ddyn mawr y byd. Pe'n siarad a Chymry'n unig, defnydd- iasai gymariaethau gwahanol, ond gan ei fod yn siarad wrth y gwledydd, ac yn enwedig wrth yr Unol Daleithiau, yr oedd yn rhaid iddo ddefnyddio'r termau mwyaf dealladwy i gorff ei wrandawyr. Y mae gan y Cymro cyffredin rhyw ragfarn yn erbyn pob math ar bethau a elwir yn games, ac apeliant yn gwbl wahanol ato ef i'r hyn a wnant at y Sais a'r Americanwr. Y mae play the game yn cyf- lwyno ar unwaith i feddwl y Sais yr hyn sydd deg o gonest, a chredaf mai amhosibl fuasai i'r llefarwr anrhydeddus ddewis cymariaethau mwy priodol. Nid oes dim dichwaeth yn- ddynt. Oni chymer Paul y Campau Groeg- aidd i ddangos gwirioneddau ysbrydol ? Ac os oes rhywun wedi agor ei lygaid i bwys y rhyfel Mr. Lloyd George yw hwnnw. Nid oes neb wedi gweld ei ystyr ofnadwy o'r dechreu yn debyg iddo ef. Ac fe erys ei araith ar ddech- reu'r rhyfel i Gymry Llundain y datganiad uchaf a chliriaf a gafwyd eto o ystyr y rhyfel a safle'n gwlad. Hefyd, gofynnir Pam yr oedd yn rhaid iddo ef siarad ? Onid gwaith Arglwydd Grey oedd hynny ? Hwyrach mai ie, ond erys y ffaith fod y Weinyddiaeth, pan fydd eisieu datgan rhywbeth o bwys neilltuol, bob amser yn penodi Mr. Lloyd George i'r gwaith. Y mae un neu ddau o bethau yn cyfrif am hyn. Yn un peth, ei boblogrwydd anghymarol ymhob gwlad, felly ei air yn fwy dylanwadol, a'i allu diail i ddethol geiriau i wneud y datganiad yn groew a diamwys. Gofynnir hefyd, Oni fydd i ddatganiad mor bandant wneud mwy o ddrwg nag o dda ? Na fydd; y mae prif ddyijion Germani yn gwybod yn eithaf da erbynhyn eu bod wedi colli'r rhyfel, a'u hunig obaith wrth ei pharhau ydyw y medrant berswadio y Cynghreiriaid i dderbyn rhyw heddwch clytiog fel na fydd iddynt hwy dderbyn cyfiawn gosb am eu gwaith erchyll. Onid y peth goreu ydyw eu darbwyllo ar un- waith nad oes unrhyw obaith am hynny ? Ond bydd i ddatganiad croew Dyn Mawr Pry- dain rymuso llawer braich a chodi llawer calon ysig yn y gwledydd sydd wedi eu hanhreithio mor giaidd gan y gelyn. Nid wyf yn credu fod Mr .Lloyd George wedi dywedyd dim mwy nag a ddywedwyd eisoes gan y Prif Weinidog am benderfyniad y wlad hon i ddal hyd y diwedd; ac yn lie pigo beiau, byddwn ddiolchgar mai Cymro sydd yn sefyll heddyw fel prif gynrychiolydd yr hyn sydd uniawn a theg, a gelyn pennaf p-)b trachwant a gor- thrwm. 17 Sefton Square, DANIEL 0. JONES Lerpwl.
\ Fflint eto.
Fflint eto. At Olygydd Y BRYTHON SYR,- Chwilio am air, a chael mwy." Fel y gellid disgwyl, gwerthfawr yw sylw'r hynafiaethydd craff, Ap Gwyddon, aryruchod yn eich rhifyn diweddaf. Anodd dyfalu beth yw priod ystyr yr enw hwn. Mae" ei ystyr ieithegol a daearegol mor gyf artal debyg yn y naill wedd a'r llall. Ni ddywed Owen Jones, Pennant, etc., ddim terfynol ynglyn a hynny. Eto, o safle iaith, mwy naturiol fuasai tybio mai'r enw Saesneg, fel y mae, sydd yn gywir, yn hytrach na'i fod yn llygriad o Fflintia, Ffluentum, a'u tebyg. Yn gyson a hynny, y gair o safle ddaearegol a ystyriwn fel yn wreiddiol gywir. Ar y llaw arall, fel y dywed Ap Gwyddon, mae seiliau eryfion dros dybio mai'r gair o safle iaith sydd gywir, ac nid o safle daeareg.- Yr eiddoch mewn tywyllwch, etc. CYBI
Advertising
Telephone Rsjrsjlli? Established 1864 ROBERT ROBERTS SgTATl AQMNTt 31 Netherfield Road South' Had Property to Let is various parts of ife. own. Mortgages arranged. Vainstleson-,ad 205 Established 1884. 'Phone-' 11401800t Ie 1547 WOOSNAM ROBERTS, F.A.I., Estate Agent, Bootle Estate Office, Personal, Practical, Prompt, and Reliable Management of all Classes of Real Estate, 52 STANLEY ROAD, BOOTLB (% doors from Bedford Road) Telegrams 14 WOOSNAM. BOOTLH, Telephone Na, 780tt. 'felepho!&G N o. 7g0. J. LEWIS JONES, SSTAT 4QKKT & VALUER, 60 Victoria St., LiverpooL Properties esarslully managed. Rssta psi tonally eoilected. Purchases and Sate as gotlated. Mortgages arranged aDd IsaaxsaK sSeoted. THOMAS a JONES; BSTATB AGEKTS VALUERS. INVIBSYNIMMI-P fSlILSIlii, 67 Lord Street, Liverpool, Telephone No. —S868 Bank, Properties Bought and Sold. MortgagS! arranged. Valustionsmads. Bentocollectpd Tn. II ? bnllw, MGVABUSXSD » It Stephen Roberts & SO .4Jj.AGlIN. ÁLlllllttf, ¡ 137 Everton Road, Liverpool Properties oarefnlly managed. Beats pet aosaily Collected. Purchase* so-d Bala, negotiated. Mortgages arranged and Is auranees afleoted. Henry Jones, ESTATE AGENT, VALUER & PROPERTY AUCTIONEER, 3 Lord Street, Liverpool Tni BAVE H8i 0. JONES WILLIAMS, Fij., lmTATJi AGENT & VALUES., 17 Boundary Place, Moss St, Liverpool, Est, 1885. Telephone 13561 Rayal IGfelephoae 8586 Ba nk JONES aliUGHESs ESTATE OFFICE, 13 Whitechapell Liverpool FREEHOLD LAND FOR SALE, Advances Made. R. E. HUGHES, Satate Agent, Surveyor a Valuer, Charing Cross, Birkenhead. Telephone No.—S< Behead. Has Houses to Let and for Sale in various partt of the Town and out districts. Also Land to be Sold for Building purposes. Advances made tc Builders. Estates iaid out. Reuts.Colleoted,aal; Property oarefnlly managed. Telephone-Anneld. 309 1155 KENSINGTON,Q LIVERPOOL. R. W. EVANS, FUNERAL DIRECTOR. All Orders personally attended to throughout. I P. Lloyd Jones FUNERAL DIRECTOR, 364 Stanley Road, L'pool. TELEPHONE—261 BOOTLE. TELEPHONE-575 -ANFIELD. J. T. JONES, Funeral Undertaker, EVER TO N 40   EVERTON/ ?????. LIVERPOOL. Funerals personally arranged to all parts. Why go to Town ? When the BOOTLE Shorthand & Typewriting ACADEMY, 4 TRINITY ROAD, give pupils a practical business training in Shorthand, Typewriting, and General Office Routine equal to any City School. No Failures. Day and Evening Classes. Apply Principal. BARGAINS.—Underwoods, Remingtons, JD Yosts, Smith, Premier, Barlocks, Em- pires, Oliver, Blieks, Royal Standard, from X2 new condition, See the REX £ 23 worth for 12 guineas.—LONGMORE, 41b North John Street, Liverpool, Sole Agency Carona Portable Typewriters. C00K& TOWNSHEND Special Value this week. Boys' Oilskin Coats, 8/6 to 12/6 Boys' Sylkoyly Coats, 14/6 to 21/6 Splendid Selection of Boys' Sports Suits, Rugby Suits. 12/6 to 15/6 15/6 to 21/6 Boys' Covert Coats, 12/6 to 21/- Gentlemen's Business Suits to measure, 50/ 55/- and 63/- Byrom St. & Dole St., LIVERPOOL. For Baths, LavatoriesClosets, Brass Fittings r Lead PipM, etc., apply to- JAMES CHEW CO., Plumbers' Merchants A Brassfounders, Tel. No. 58 60PARADISE STREE r, Bank 3402. LIVERPOOL. Manufacturers of Copper OyUnders, Boilers, and whingxoilers. DIM TALU YMLAEN LLAW. ARIAN YN FENTHYG. (yn ddistaw bach), mewn symiau baoh neu tawr (heb fod llai naCIO) AB ADDAWEB T BENTHYCIWR Bl HU& iBFYDLWTD ERS 46 MLYNEDD. ac yn awr yn rhoi kgolow YN FENTHYG BOB BL WYDDYB Am daflen a thelerau ymofynnera George Payne a'i Feib., 3 Crescent Road, Rhyl, a 16 School Lane, Liverpool, PAINLESS DENTISTRY. J. P. LAMPLOITGH'S (Son of the late J. Lamplough, for many years In the Dental Profession at Mold and Holywell). Dental Surgery, 235 EDGE LANE, LIVERPOOL. Houris-10 a.m. to 8-30 p.m. Oonanttation hoe. Tel. 245 Anfield. BARDDON1AETH GORONWY OWEN. Chweched Argraffiad. Gyda Bywgraffiad gan Pedrog a Llyfrbryf. Amlen, Is. Swyddfa*i%"Brython,M Lerpwl. For Bedsteads and Bedding. W. WHITTLE SON & STOTT, LTD,, 116, 118 0 120 WHITECHAPEL, LIVERPOOL. 0 0 AN A Telephone .2131 Royal.