Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
- Gotrea Cympo, yr qn OddieartM
Gotrea Cympo, yr qn OddieartM SPRING VIEW (A.), WIGAN.-Mae r achos byehan hwn wedi bod yn fendith i lawer un o wahanol rannau Cymru ar eu ffordd i dra- gwyddoldeb. Mae gennym atgofion dymunol am rai a fu'n aelodau a swyddogion ffyddlon yn yr eglwys uchod, sydd wedi newid byd i dderbyn eu gwobr gan Dduw. sef John Morris a Thomas Parry, gynt o Fostyn, a Robert Jones o Froncysyllte, tri o hen dadau ffydd- lon a defnyddiol, a'r brawd ffyddlon, gwyn ei gymeriad, Thomas Jones, gynt o Packet House, Caemarfon. Cafwyd pregethau grym- as yn ddiweddar yn yr eglwys hon gan y Parchn. J. Morris a T. Griffiths, Manchester (gynt o Ffestiniog). Y Sadwm a'r Sul di- weddaf, cawsom bregethau grymus gan y Parch. Wm. Roberts, Porth dinorwig, a fu'n weinidog ffyddlon i'r eglwys hon am ddeu- ddeng mlynedd pan yn gysylltidt a'r chwaer- eglwys yn Golbome. CAPEL M.C. SOUTHPORT.-Agorwyd cyfar- fodydd y gaeaf nos Fercher, Hydref 4, trwy gael Mr. R. R. Hughes (Treborfab), Blaenau Ffestiniog, i draddodi ei ddarlith boblogaidd ar Hen Dadau a Mamau Cymru. Mwynha- wyd hi'n fawr gan gynhulliad da. Diddorol a newydd i'r rhai ieuengaf oedd ei glywed yn adrodd hanesion gwrhydri a roddodd gych- wyn i'r hem wlad ar i fyny ac sy'n dal i'w gyrru ar i fyny. Cadeiriwyd gan Mr. W. H. Roberts, brawd a ddaeth yma'n ddiweddar o Fanchester, efe a'i deulu wedi ymuno a'r eglwys yn Portland Street, ao yn profi ei hun yn wr parod ac awyddus i wneud ei ran gyda'r achos. Diolchwyd i'r darlithydd a'r llywydd gan y gweinidog (y Parch. Robert Davies) a Mr. W. D. Owen, a gyfeiriai at Treborfab fel un o gyfoedionei faboed.-R.B.
Advertising
¡ YN EllAU. YN EISIF.U.-Bachgen wedi cael addysg da, mewn Cyfrifdy (Counting House). Ymofynaer drwy lythyr, W.H. WATTS & Co,. Ltd., Compton Hoase, Liverpool MHOiELL BROS., MarahJLane, Bootie. Eagl sh Maoafactured MAPLE BLOCK FLOORING, illI Sizes kept in Stock. Largest Stock in the Kingdom hoas.I(J39jB»ott«. &.Tel. Ad. "F-)isca?titey," Liv erp
BnniMBwnmiiiwi a Biaaiaiafl
BnniMBwnmiiiwi a Biaaiaiafl Eu Cymanfa o'u Cyfeillach. E u Cym í Y Tri Ch,-noad ar Ddeg. I- Dmvr tri chennad ar ddeg a ddaeth l gadw y Gymanfa eleni Y Parchedigion J. H. Hughes Abertawe Joseph James, B.A., Llandysilio D. Tecwyn Evans, B.A., Birken- head; J. O. Stephens, B A.,B D., Caer- fyrddin R. p. Williams, Caergybi J. M. Williams, Pen y groes B. Davies, B.D., Cas- tellnewydd Emlyn; J. Edryd Jones, Cwm- arrian D. M. Davies Waunarhvycld E. J. Edwards Cwmbwrla J. Towyn Jones, A.S., Llandebie Owen Jones,Nant Ffrancon; W. J. Rees, Alltwen. Lluddiwyd y Parch. Rhys J. Huws rhag medru dod gan waeledd. Cynhaliwyd y Gyfeillach nos Sadwrn ddi- weddaf, yng nghapel Grove Street ac wele grynhodeb Mr. Wm. Jones, G. & L.T.S.C., o'r hyn a ddywedwyd yno :— Y Parch. J. Vernon Lewis, B.A.,B.D., yn y gadair. Dechreuwyd trwy ddarllen a gwedd- io gan y Parch. W. J. Rees. Rhagair y Llywydd. Mor llawen ydym i gyd i weld y lie yma n llawn. Y mae hyn yn llawenydd mawr pan gofiwn fod cymaint o'n haelodau'n absennol heno. Dymunwn estyn y croeso mwyaf calonno i'n brawd, y Parch. D. Tecwyn Evans, Birkenhead. Y llynedd, croesawem. y Parch. J. Puleston Jones, ac y mae'r brodyr Methodistaidd wedi estyn croeso cyffelyb i un o'n gweinidogion ni o'r ddinas yma, sef y Parch. O. L. Roberts, i bregethu yn Sir Fon. Bydd hynny'n dwyn gwahanol ganghennau Eglwys Crist yn nes. Chwi welwch fod un brawd, a fuasai'n sicr o fod yma heno, yn absennol. Yr wyf yn cyfeirio at y Parch. J. 0. Williams (Pedrog), sydd wedi cael ei ddal gan gystudd blin, ac wedi bod mewn prof- edigaeth lem trwy golli ei annwyl briod, ac wedi cael newydd go drist fod ei fachgen wedi ei glwyfo. Yr ydym yn cydymdeimlo'n fawr ag ef, ac yn hyderu y caifE adferiad buan i'w iechyd. Y mae un o'r brodyr oedd i'n gwas- anaethu yn y Gymanfa yn methu dod oher- wydd afiechyd, sef y Parch. Rhys J. Huws. Y mae nifer o gyfeillion yr eglwysi yn ystod y flwyddj-n a aeth heibio—cyfeillion pur, defn- yddiol, a ffyddlon-.wedi cael eu symud gan angau. Yraae Great Mersey Street wedi colli dau ddiacon Mri. Edward Parry a W. A. Lloyd,—dau frawd ffyddlon iawn i'r eglwys honno, ac i eglwysi'r cylch Grove Street wedi colli Mr. John Evans, Kenmare Road; a Kensington, Mr. George Hughes. Yr oedd y cyfeillion yma'n wir ddefnyddiol, ac yr ydym yn estyn ein cydymdeimlad a'r eglwysi wrth eu colli, a gweddio am i'r Arglwydd gyfodi eraill yn eu lie. Y mae'r Seiat heno yn un bur eithriadol. Y mae llawer ohonoch wedi dod iddi a'ch calonnau'n ysig. Y mae llawer o'n bechgyn wedi cael eu lladd. Loes go drom ydyw peth felly; i rieni'r bechgyn a gollwyd o'r eglwysi. Nid wyf WA, enwi neb, ond gwn fo d llawer iawh o 'r bechgyn yma gyda'r bechgyn goreu a fagwyd erioed gan eglwysi lesu Grist,—bechgyn rhagorol, yn cymryd rhan mewn cyfarfod gweddi ac yn y seiat. Ac y mae eu colli yn golled y bydd yn ano dd iawn ei hebgo r. Yr ydym yn estyn ein cydymdeimlad mwyaf a'r rhieni. Y mae geiriau yn rh ad iawn, ond nid oes gennym ond geiriau. Yr ydym yn hyderu fod ein calonn- au'n well na'n geiriau. A fyddwch chwi mor garedig a sefyll, er mwyn inni ddangos ein cydymdeimlad a'r teulvsoedd sydd mewn cy- maint galar. (Pawl) yn codi ar eu mud- sefyll). Seiat EdJfeirwch.1 I Hwn oedd testyn y Gyfeillach Edifar- hewch gan hynny, a dychwelwch, fel y dileer eich pechodau, pan ddelo yr amseroedd i orffwys o olwg yr Arglwydd, ac yr anfon-3 efe Ieau Grist, yr hwn a bregethwyd o'r blaen i chwi yr hwn sydd raid i'r nef ei dderbyn, hyd amseriad adferiad pobpeth, y rhai a ddy- wedodd Duw trwy enau ei holl sanctaidd broffwydi erioed (Actau iii, 19-21). Gweld y dydd yn dod- Agorwyd gan y Profi. J. O. STEPHENS. Yr ydym wedi cyfarfod ein gilydd yma heno ar achlysur sydd yn gofyn y difrifoldeb mwyaf Yr ydym ynghanol yr Armagedon fawr,—yr Armagedon ddiweddaf, gobeithio. Y mac miliynnau o fechgyn, hufen y gwledydd, yn gorfod wynebu, nos a dydd, ar ddychryniadau a digwyddiadau, tuhwnt i bob dychymyg. Y mae cyflwr Ewrop, y Cyfandir cyfan, yn debyg iawn i eiddo Sodom a Gomora, pan fu Abraham gynt yn gweled eu mwg yn dyrehafu fel mwg ffwrnais o'r gwastadedd mawr. Yn wyneb hyn, ymha le y saif Eglwys Dduw heddyw ? A oes ganddi rhyw gysur yn ei thrallod mawr ? A oes gan yr Eglwys rhyw Igaderriid i'r gwledydd gymryd noddfa yn eu stormydd mawr ? A oes ganddi genhadaeth i genhedloedd,Ewrop ? Y mae rhyw deim- ladau yn ein meddiannu fod pethau mawr- anhygoel fawr-yn bosibl i Eglwys Dduw yn yr argyfwng hwn, dim ond iddi fod yn ffydd- Ion i'w chenhadaeth. Onid ydym yn clywed adlais ymhob man o eiriau Esaia- Dring rhagot, yr efengyles Seion, i fynydd uchel; dyrchafa dy lef trwy nerth, 0 efengyles Jerusalem dyrchafa, nac ofna dywed wrth genhedloedd Ewrop, Wele eich Duw chwi." Y mae'r nef yn barod heno. Os yw'n dywyll ar Gyfandir Ewrop, nid ar y nef y mae'r bai. Yr wyf yn teimlo fodnerthoodd y Tragwydd- ol Ysbryd megis yn awyddu i dorri holl argaeau'r nefoedd, a pheri iddynt lifeirio dros y byd fel y darfu ddydd y Pentecost. Y mae r Nef yn barod Ac ymddengys i mi fod yr hen fyd yma, yn ei drallod mawr, megis yn aeddfedu, os nad ydyw eto'n hollol barod. Dywed rhai wrthym fod cyf no 3 newydd yn dechreu gwawrio ar y byd yma. Beth bynnag, yr ydym wedi cyrraedd adeg nodedig iawn, ac y mae'r cyfnewidiad wedi dechreu. Os nad oes gennym grefydd heddyw, yr ydym yn rhodio yn y tywyllwch, ac yn yr anialwch. Y mae'r Net yn barod. Y mae'r byd yn paratoi. Y mae'r meysydd yn wynion i'r cynhaeaf, a'r cwestiwn heno ydyw-A yw'r Eglwys yn paratoi ? Ni ddywedwyd dim'mwy gogon- eddus am yr Eglwys erioed na syniad yr Apostol Paul, mai corff Crist ydyw." Gall fod yr ysbryd yn barod a'r corff yn wan. Y mae'r Ysbryd yn barod. Y mae nerthoedd Duw yn curo wrth y drysau. Ond y mae'r corff yn wan. Y mae lesu Grist yn barod, ond y mae'r Eglwys i raddau helaeth yn ddi- ymadferth. Edifarhewch, gan hynny, a dychwelwch, fel y dileer eich pechodau,"— dyma ran o'r paratoad. Rhaid inni gael ein Sancteiddio. Rhaid i bechod gael ei symud, fel y bydd yr Eglwys yn gorff addas i Ysbryd Duw breswylio ynddo. Amcan mawr y genhadaeth sydd ar ddechreu yn y wlad yma ydyw cael yr Eglwys ar ei gliniau. Ceisio lefeinio ein bywyd cenedlaethol a chym- deithasol ag egwyddorion yr Efengyl ydyw ein hangen mawr. Cymhwyso Cristnogaeth at y bywyd cymdeithasol fel y cyfryw. Naturiol gofyn, A oes yma le i edifarhau ? Onidyw'rrhyfelyma'ngyfiawn ? Onid yw'n hachos yn gyfiawn ? 'Fedrwn ni byth edrych ar y rhyfel yma fel cosb uniongyrchol, ond yr un pryd, dyletswydd Prydain yw ymostwng mewn edifeirwch gonest. Dichon fod y rhyfel yma wedi ein gwaredu rhag cosb waeth. Yr oeddym bron ar ddibyn rhyfel cartrefol, ac anghytundeb rhwng meistr a gwas. Y mae gorffqniiol Prydain yn gofyn yn uchel am inni edifarhau. A dyma gyfle'r Eglwys Y mae'r wlad yn feddw iawn. Iaith gywilyddus hefyd gan y dynion sydd yn paratoi i'r rhyfel ac anfoesoldeb y dinasoedd mawr yma. Y mae'n bryd i'n gwlad edifarhau. Dyma gyfle'r Eglwys. 0 cy- fod, ferch Seion, a gwel dy gyfle godidog yn awr. Fe ddaw y gobaith ar ol yr edifeirweh. Er mor dywyll yw hi yn Ewrop, y mae goleuni yn y canol. Er y rhyferthwy ar wyneb y m or, y mae'r eigion yn ddigon tawel i lawr. Ymae rhyfel Ewrop yn ddatguddiad o ysbryd Cal- faria, er ei bod yn ddangoseg o uffern. Dyma ein cyfle ni Ac os byddwn yn ffyddlon i edifarhau, fe, y dileer ein pechodau, fe ddaw adferiad popeth. Draw mi wela'r nos yn darfod, Draw mi welaf oleu'r dydd, etc. Edifeirwch ynteu Dinistr-prun ? Y Parch. D. TECWYN EVANS B.A. Yrwyf yn credu mai pwnc yr adnodaufmawr sydd gerbron heno, pe bai raid eu henwi, ydyw hwn Edifeirweh a'i fendithion." Ac ni fedraf ddim llai na llongyfarch y neb a ddewis- odd y pwnc hwn yn fater y gyfeillach yn Grove Street heno, oblegid, yn bendifaddeu, dyma'r pwnc mwyaf amserol a phwysig i bawb ohon- om heddyw. Dair blynedd yn ol, digon prin y gallech feddwl am Gymanfa yn dewi jf pwnc yma'n bwnc cyfeillach grefyddol, oblegid yr oedd llawer ohonom yn edrych arno'n commonplace. Yr ydym wedi dech- reu dysgu mai pethau cyffredin. common place, ydyw'r pethau wedi'r cwbl. No sermon is worth much unleas it contains two cr tflre of the great commonplaces of the Gospel.. iheddai Dr. Dale. Yr ydym yn gw. led y fath angen sydd am edifeirwch yn anad dim heddyw. Cyn y rhyfel, yr oeddym wedi mynd i siarad yn ysgafn am bechod. Rhywbeth nacaol oedd pechod. Y mae Cal- faria yn profi digon. Ai nacaol oedd lladd Tywysog Bywyd ? Pre. eth llofruddwyr Crist oedd y brege h yma. Y mae'r rhyfel yma wedi datguddio inni achlysuron y creu- londer a'r bwystfileiddiwch y gall dyn fynd iddo. Y mae. wedi dangos mai ein hangen cyntaf yw cael gwared a phechod. A changed spirit in the general body of Society is the first need of Great Britain," meddai H. G. "Wells bedwar mis cyn y rhyfel. Yr oedd un arall (Harold Cox), yr un mis yn un- ion yn ysgrifennu A change of spirit is far more necessary than any mechanical organ- ization." Our motto should not be Educate! Educate l' neither should it be Legislate! Legislate!' our motto should be Regenerate Regenerate meddai rhyw weithiwr goleuedig yn 1913. Dyna fo- Edifeirweh Onid edifarhewch, chwi a. ddifethir oil medd Proffwyd y proffwydi. Ac y mae gennym ddau beth i ddewis rhyng- ddynt. Dyma IÙlW, Edifeirwch" a Dinistr.'1 Edifeirwch-beth yw hwnnw ? Edifeirweh, mewn gair, ydyw gadael pechod." Newid ysbryd oddimewn. Pen- derfynu, trwy ras Duw, ei adael. Y mae'n anodd, ond rhaid ei gael. Y mae'r Bardd Cwsc yn gweled ryw ffynnon fach ar ymyl y ffordd, ac yn gofyn beth oedd hi. Ffynnon edifeirwch, yn llawn o ddwfr hallt, a rhaid i bob un ilebi ei lygaid yn y ffynnon fach hon i ddechreu cyn mynd i'r wlad well. Y mae proffwydi Israel wedi galw ar y genedl i edifarhau. Y mae lesu Grist wedi galw ar y dosbarthiadau i edifarhau, a'r apostolion wedi galw ar yr eglwysi i edifarhau. Y mae'n iawn i ni alw ar y wlad i edifarhau. Naturiol i ni heno yw son am bechodau ein gwlad ein hunain. Y mae pechodau sydd yn ein difwyno ni, acsydd yn warthrudd ar ein byw- yd goreu ni. Yr ydym ni yn gobeitnio am i Brydain lwyddo yn y rhyfel yma, ond y mae rhai ohonom yn ofni buddugoliaeth heb edifeirwch. Duw a'n llwyddo yn y rhyfel ond nid wyf yn sicr iawn na wnaiff buddugol- iaeth fwy o ddrwg nag o dda inni os na chawn edifeirweh. Y mae yfed ar gfcmnydd, er fod llai o feddwi nag oedd 30 mlynedd yn ol. Un o'r arwyddion mwyaf difrifol ydyw fod yfed yn mynd ar gynnydd ymysg y merched. Dyn a bechod arall sydd yn uchel ei ben, ydyw betio. Dyma brif bechod a chancr Prydain Fawr heddyw, a hynny am fod dyn yn gwneud cam naill ai ag ef ei hun neu ynteu efo rhywun arall, wrth fetio. Dyna bechod arall, —torri'r Saboth. Gwell gennyf ddyn yn meddwl gormod o'r Saboth na rhy fach. Os aiff y Saboth i lawr fe aiff llawer iawn o bethau i lawr efo fo. Dyma i chwi rhyw don foesol isel, ac y mae eisiau inni brotestio, fel Esgob Llundain, yn ei herbyn. Dywedai'r Cadfridog Syr H. Smith-Dorrien yr wythnos ddiweddaf fod amhurdeb ac anfoesoldeb yn rhwystr i gannoedd o filwyr wneud eu gwaith dros eu gwlad. Yr hyn sydd yn arswyduS ydyw fod y pechod yma yn andwyo cymaint, ar fyddin ein gwlad. Y mae galwad amom ninnau heno i edifarhau. Hawdd iawn inni alw ar eraill i edifarhau a pheidio a gwneud ein hunain. Y mae modd inni fod yn respectable ac eto beidio a bod yn saint Duw. Er ein bod yn son am edifeirweh cenedlaethol, gallwn ddechreu trwy i bawb ysgubo o flaen ei ddrws ei hun, sef ei bechodau dirgel, na wyr neb am danynt ond Daw a ninnau. A oes rhyw bech od dirgel na wyr neb ond Duw a mi amdano sydd yn anfantais i'r amser o adnewyddiad— times of refreshing-yma, oblegid fel yna y mae cyfieithu y rhan yna o'r adnod? Yr unig beth a fedr agor y dorau tragwyddol i'r rhai hynny lifo i lawr eto ydyw,—edifarhau. A wyf fi yn peidio a bolltio'r drws amynf ? A ydyw hen bechodau'r gorffennol wedi eu rnaddeu ? A oes hunangarwch a bydolrwydd a diffyg sel yn rhwystro i'r adnewyddiad ddod i fewn ? Kid oes neb mor ddibwys yma heno fel nad yw ei edifeirwch yn help i amseroedd adhewyddiad corff eymdeithas lifo i lawr i gyfoethogi ac i sancteiddio ac i ddyrchafu bywyd y byd. Ni ddeuant heb edifeirwch ond y mae Duw yn rhoddi edifeirweh. Y mae wedi dyrchafu ei Fab yn Dywysog ac Iachawdwr i'w roddi. Nid cynghorion da yw yr Efengyl, ond newyddion da. Gobeithio y byddwn yn derbyn y gras yma yn helaethach nag erioed, er dyrchafiad dynion ac iachawd. wriaeth y byd. I Cosbi pawb am bechod Clique- Y Parch. JOSEPH JAMES B.A. Ni synnwll i ddim nad un o ddatguddiadau mawr y rhyfel ydyw, y bydd i'r wlad gael datguddiad beth yw cenedl, a pheth yw bod yn aelod o genedl. Yr oedd perygl cyn y rhyfel ein bod ar y ffordd lydan honno sydd yn. arwain i ddistryw ynglyn a'r ddau syniad. Yr oedd yr amserau cyn y rhyfel yn amseroedd pwysig iawn. A phan oeddym yn edrych o am- gylch, a gweld y mudiadau a'r symudiadau oedd yn ein gwlad. yr oedd rhai ohonom yn ofni ein bod yn colli gafael ar yr hyn oedd yn cyfansoddi gwir genedl. Yr oedd awdurdod ymhob man yn crynnu. Yng nghanol y can- lyniadau mawr yr oedd perygl i'r genedl suddo fel cenedl. Gobeithio ar ol y rhyfel y byddwn wedi toddi i'n gilydd, ac y gallwn sefyll o flaen y byd fel uh genedl, fel un teulu. Yr oeddym wedi rhoi gormod o bwys ar yr unigolyn cyn y myfel, yn erbyn y lliaws. Yr oedd yr unigolyn wedi cael ei c-sod ar binael, y lliaws wedi cael eu lluchio o'r neilltu. Ni synnwn i ddim na fydd y lliaws, ar ol y rhyfel, yn gwthio eu Haw i fewn. a dweyd wrth bob un sydd am fynnu ei hawliau, fod yn rhaid iddo gofio fod gan y lliaws ei hawliau hefyd. Dyna, sydd y tu ol i'r adnod yma —syniad mai y genedl yw'r peth mawr. Nid yw'r unigolyn yn neb. Rhaid iddo ddod yn sgil y wlad. Y mae galwad ar ddynion i edifarhau. Pa- ham ? Am eu bod wedi pechu ? Nage Dim ond clique bach oedd wedi gwneud drwg, ond yr alwad ar y bobl i gyd i edifarhau. A dyna awican y Gyfeillach yma heno,—galw arnom i gael gafael ar y gydwybod genedl- aethol. Y mae'n anodd ein cael i deimlo fod drwg gwlad yn pwyso arnom. Y national conscience ydyw'r ddelfryd sydd yn yr adnod yma. Nid ydyw'r wlad yn iach, a charwn ddwyn ger ein bron y pethau sydd fel caner ym mywyd ein gwlad heno. Y mae Royall Commission wedi cael ei apwyntio'n ddiwedd- ar i ddelio efo secret sin, ac y mae'r ffaith yna yn dweyd wrthym ein bod ni yn gyfrifol am hyn. Y mae nwnument ym Manchester o ddau filwr, y naill a bandolier llawn ganddo, yn estyn cartridges i'r llall, oedd a'i fandolier yn wag. Fe ddaeth Arglwydd Roberts i ddad- orchuddio'r golofn, a phan oedd yno, yr oedd un o'r bechgyn oedd yn y cerflull. ar yr heol yn gwerthu matches,-yn gofyn am fara, a ninnau yn rhoi iddo garreg Y mae Duw yn ein dal ni'n gyfrifol am bob bachgen sydd wedi mynd ar ddisberod, am bob geneth ieuanc sydd wedi colli'r ffordd. Yr ydym wedi cael ein gwau i'n gilydd, ac am fod darn o'r genedl wedi syrthio, y mae'r bai yn disgyn arnom ninnau. Y mae galwad arnom i edifarhau ynglyn a'r rhyfel yma. Yr wyf yn credu ein bod yn rhydd ym mprn y nef am yr immediate cause yn 1914. A beth er hynny, dyma fywyd yn cael ei ddarnio gan ddur a phlwm oer, a hynny ar ol ugain canrif o Gristnogaeth. Nid ydym yn rhydd fel gwlad. Yr oedd arogl cyflafan yn yr awyr ers llawer dydd. Yroedd y tywydd moesol yn sultry, a'r taranau a'r mellt yn dechreu hedeg. Yr oedd Ewrop wedi symud yr hen landmarks. Yr oedd aradr y wlad a'i Swch tuag at bleser ac at anfoes a gwanc a rhaib. A phetb-ydych yn ddisgwyl ei gael ? Nid oes dim ond bullio a beario ar y Stock Exchange. Nid oes dim ond combines anniwall. Yr ydym wedi sy- mud y marciau ac wedi crwydro ymhell. A gawn ni ddod yn ol ? Bydd yn anodd. A wyt ti a finnau'n rhydd ? A wnest ti rywbeth erioed i rwystro'r hylif yma ? Fe ddaw y wlad yma yn ei h6l. Nid ly w wed i mynd yn rhy bell. Dyma ddam o waith H. G. Wells Religion is the first thing and the last thing, and till a man has found God, and been found by God, he begins at no beginning and works to no end. God, who fights through man against blind force and might and no-n-existence--Who is the end -Who is the means—He is the only King. And before the coming of the true King, the onlv King, these puny kings and tottering empires will presently shrivel and pass like paper thrust into a flame." Y r yd yn sôn am reconstruction of small empires. Pa reconstruction fedr y poliitician ei wneud ? Ni wyddom ni ddim sut i'w reconstructio ond ynddo Ef. Fe ddaw Duw yn ol rhyw ddiwr- nod i fuildio yr hen fyd yma. Y mae Duw yn mynd heibio i lawer ty a llawer calon heddyw, ond fe edfyr y cwbl maes o law. f Y byd oll le am fod Crist heb ei Ie. Y Parch. O. JONES Y mae llawer o gyfoeth y paragraff amserol wedi ei ddangos i chwi. Carwn bwysleisio y rhan yma—" Ac yr anfono efe lesu Grist, yrHwn a bregethwyd o'r blaen i chwi." Yr wyf yn meddwl mai dyna binael, climax, y paragraff. Gallaf fentro rhoi aralleiriad fel hyn "Ac fel y gallo ddanfon Crist, yr hwn a apwyntiwyd i chwi, lesu" Dyna'r fendith fwyaf. Dim ond i Ieu Grist gael ei le. Y mae'r Nef wedi ei ddanfon. Y mae'n curo wrth y drws. A gaiff 0 ei le ? Dyma'r peth mwyaf yn holl gylchoedd dyn yn y byd—lesu Grist. Y mae Pedr yn apelio at y genedl i edifarhau. Dyna hanfod ei phechod i gyd —peidio a rhoi ei le i lesu Grist. Pe buasai wedi ei groesawu i'w le, buasai'r genedl wedi ei hachub ac wedi llwyddo. Yr ydym i edifarhau ac i ddiwygio Ac yr wyf yn eredu mai dyma'r pechod mawr sydd wrth wreiddyn y dinistr sydd yn mynd trwy'r gwledydd dyma'r peth mawr sydd yn andwyo bywyd dyn ymhob man—heb roi ei le i lesu Grist y mae. Y mae'r llythyr at y saith eglwys yn dweyd fod lesu Grist yn dod. Y mae'r nefoedd wedi rhoi ei le i lesu Grist. Y mae Uffern yn gorfod ei roi. Y ni, feibion dynion, sydd yn ei wrthod. Derbyn lesu Grist yn rhannol y roae hyd yn oed yr eglwysi. Clywais bregethwr yn dweyd, Yr ydych ,?,' Ydi derbyn lesu Grist. Ymhle yr ydych yn Ei roi ? Yn y spare room-dynlt lie y mae llawer yn rhoi lesu Grist. Am y cylch- oedd y mae lesu Grist wedi ei apwyntio iddynt, ni, fyddBnt yn iawn hyd nes yf bydd 0 wedi mynd yno. Y mae wedi ei apwyntio gan y Nefoedd i fynd i bob cylch lie y mae wedi ordro i ddyn fod. Nid ydym ni yn rhoi Ei le iddo. Nid ydyw Prydain Fawr wedi rhoi Ei le iddo. Y mae eisiau dod i fewn i fasnach y byd i'w buro. Lie bynnag y mae cylch o feibion dynion, lesu sydd i fod yn arweinydd. Y mae eisiau bod yn y teulu. Y mae'n cael ei droi allan. Pan ddaeth yma gyntaf, nid oedd yr un teulu am ei dderbyn. Rhaid Iddo gael y lie blaenaf, y lie pennaf, neu nid ydym yn ei dderbyn.. Y mae eisiau dod i gylchoedd addysg yn y byd. Y mae eisiau cael ei le yn ein coleg.ym Mangor. Os nad ydyw lesu Grist yn cael Ei dderbyn yno, 'fydd addysg ddim yn foddion i ddyrchafu dyn. Y mae wedi cael ei apwyntio i ddod i fewn. Pan y mae trefniadau cym- deithasol wedi gwneud appointment, v mae'r person apwyntiedig yn mynd i fewn yn sytb. Y mae lesu Grist wedi ei apwyntio i fynd i fewn i seneddau'r byd. Y mae'n rhaid i bob un edifarhau yn bersonol, a thrwy hynny gall cenedl gyfan edifarhau, ac felly gall lesu Grist fynd i fewn i seneddau'r byd. Nifedrdynion byth lunio deddfau iawn ar gyfer eu cyd- ddynion heb oleuni oddiwrth lesu Grist. Y mae'r Nef wedi ei ddanfon i fod yng ngweinyddiad deddfau'r byd. Yr ydym yn dweyd ei fod i fod yn yr edifeirwch cenedl- aethol. Meddyliwch am diplomacy. A oes rhywbeth anhebycach i egwyddorion lesu Grist na diplomacy Ewrop y blynyddoedd diweddaf. Ystumiau ydyw hanner diplomacy Ewrob heddyw. Ond uniondeb, cyfiawnder, tegweh, ydyw egwyddorion lesu Grist. Ni ddaw diplomacy a theyrnasoedd' byth i'w lie. Y maent yn cau'r lesu allan. lesu ydyw leader mawr y byd. Efe sydd i arwain teym. asoedd. BIwn sydd i'n harwain lli. Yr yd- ych yn siwr o fynd i lawr os nad ydyw Hwn yn eich harwain chwi. Y mae llawer yn meddwl fod addy&g yn ddigon i arwain. Y mae ar Ewrop eisiau arweinydd heddyw. Y mae yn niwl ofnadwy. Os nad ydyw Ewrop. os nad ydyw Prydain Fawr, os nad ydym bob un yn bersonol yn mynd i roddi ei Ie apwyntiedig i'rArglwydd lesu fel arwein- ydd, yr ydym yn siwr o fynd ar gyfeiliom. Brysied y dydd y gwelir Ef ar y blaen gyda phob symudiad yn y byd. Nid oes neb a fedr ddyrchafu unrhyw gylch o fywyd i'w safon right ond Hwn. Y mae'n rhaid iddo Ef gael Ei le apwyntiedig yn holl gylchoedd bywyd. Pared Duw i bob un yma ei gymryd fel Ei arweinydd ymhob cylch y byddo'n troi ynddo. Ond iddo Ef gael Ei le, daw popeth arall i'w le i'w ganlyn. I Edifarhawn am ein meddwdod a'n hanlladrwydd* Y Parch. B. DAVIES, D.D. Y mae'r gor- chymyn yn cynnwys cyhuddiad. Ni fuasai'n gofyn inni edifarhau onibai fod rhywbeth o'i le. Yr wyf yn sicr fod dewisiad yr adnodau hyn yn codi oddiar yr ymwybyddiaeth nad ydyw, ein cenedl a'n gwlad yn yr amgylch- iadau presennol ddim yn yr agwedd meddwl dyladwy. Y mae edifeirwch mwy yn bosibl nag edifeirwch am weithred, sef edifeirwoh am yr agwedd meddwl, oblegid oddiar yr agwedd meddwl y mae'r weithred yn codi. Y mae'n bosibl i chwi feddwl am ddyn yn dioddef tlodi oherwydd afradlonedd, ac yn dangos edifeirweh tra'n byw yn ei dlodi. Ond pe caffai ei sefyllfa yn debyg i'w sefyllfa flaenorol, y mae'n debyg y buasai'n afradloni wedi hynny. Felly gydag iechyd. Rhai wedi colli eu hiechyd. Pe buasent yn cael adferiad o'u hiechyd, buasent yn ei golli wedi hynny oherwydd yr un rheswm. I gael edifeirwch, rhaid inni gael argyhoeddiad, a rhaid i'r argyhoeddiadynagynhyrchu agwedd meddwl fydd yn aros. Golyga'r argyhoeddiad yna fod y meddwl yn cael ei ddwyn i'w le. Nid ydyw meddwl y cenhedloedd y dyddiau hyn yn ei le. Yr oedd Rwsia yn allu oedd yn gorthrymu ac yn gwasgu bywyd y genedl allan ohoni. Fe ddaeth i deimlo mai y ddiod feddwol oedd yn cyfrif am fethiannau yn rhyfel Ewrop. Y mae un gallu yn aros yn y wlad hon sydd yn ddiraddiad inni. Ai tybed a ydyw yn adlewyrchu yn ffafriol amom fel cenedl fod cymaint o yfed ar y diodydd meddwol ? Y mae Rwsia wedi cau ei drysau, ac oddiar hynny y mae llai o droseddau, nid yn unig yn gymharol, ond mewn gwirionedd. Ymha le yr ydym ni, tybed? Nid pethau eithriadol ydyw'r pethau mwyaf bendithiol a'r pethau mwyaf dinistriol. Pethau cyson ydynt. Beth am yr ugeiniau o filoedd sydd yn cael eu dinistrio gan anghymedroldeb yn y dinasoedd yma bob blwyddyn ? Beth am yr anlladrwydd sydd yn cloddio dan urddas cymdeithas yn y deymas hon ? Beth am y bydolrwydd sydd yn daearoli dynion, nes y maent yn ddall i drueni'r byd ac yn fyddar i'w wylofain ? Pa faint ohonom sydd yn barod i fynd ymhellach na damnio pechod—i'w groeshoelio,—yn y dyddiau hyn ? Pa faint sydd yn wylo am anwiredd mereh fy mhobl y dyddiau hyn ? Y mae miloedd o'n bechgyn yngwaedu ac yn marw, ac yn cael eu claddu mewn daear estronol, y mae dynion eraill yn ymgyfoethogi ar waed. Ai tybed nad ydyw'». bryd inni fynd ar ein gliniau i ymostwng ger- bron Duw, iddo gyfryngu yn y dyddiau nyn ? Ond inni geisio cofio nad ydyw'r geiriau anodd," amnosibl." yng ngeiriadur Duw gallwn weddio amo i sobri ein gwlad, a'n dwyn ar ein gliniau. Sancteiddied yr Arglwydd bob un obonom, fely byddom yn teimlo mwy o alar am bechod. Terfynwyd drwy weddi gan y Parch. J. H. Hughes, Abertawe.
Advertising
????BMt. PofMt?tMMMt.     fBOBWtCK'SI I BAK!NQ POWDER J ?LThe mMt I&OMMOAL bwwm It gm fartha? JBi thm mftt emer mkeg.
CHWITH ATGO' I
o wyr lien a lleyg yr eglwysi o bob enwad yno i'w hebrwng. Llywyddid y gwasanaeth yng nghapel y fynwent gan y Parch. R. Aethwy Jones M.A. darllenoddy Parch. Win. Henry ran o'r Ysgrythyr a thalodd y llywydd y deyrnged deilwng a ganlyn yn Saesneg er mwyn y dieithriaid liaws oedd yn y dyrfa :— Yr ydym heddyw, yn ddibetrus, yn claddu dyn mawr. Y peth cyntaf a paennaf i w ddweyd amdano ydyw hyn ei fod yn ddyn o dduwioldeb dwfn a dtamheuol. Crefydd oedd y peth pwysicaf yn ei olwg, ac arni hi yr oedd ei gymeriad wedi ei adeiladu gorffwysai n dawal yn ei ffydd,a'i obennydd ef yd. edd car- iad y Duw byw. Ac yr oedd Cariad Crist yn ei gymell a'i gyfarwyddo ymhob dim a wnai. Fel masnachwr, yr oedd yn gywir ac yn agored ac i ymddiried ynddo'n llwyr a hollol am bob dim. Ond yr oedd felly am ei fod wedi ei gadw gan Grist lesu. Nid gonest mohono ef am mai hynny oedd oreu fel polisi, ond am mai dyna'i hy- frydwch,ac am mai hynny oedd yn deilwng o wr Duw. Nodai dri pheth amlwg iawn yn- ddo yn gyntaf, ei urddas. Yr oedd yn urddasol ei bryd a'i wedd yn hardd a Uathraiddo gorff ac yn urddasol a thywysog aidd ei droediad. Yn ail, yr oedd yn un a'i galon yn dygyfor o lawenydd. Bu. fyw ei fywyd yn ddedwydd ymorfoleddai yn yr Arglwydd. Ymlawenychai oblegid y profiad ysbrydol a gafodd yn Niwygiad '59, yr edrychai'n ol ami bob amser fel yr adeg y syiweddolodd arglwyddiaeth Crist arno. Cafodd ei ran o brofedigaethau bywyd ond ni surodd hynny ddim ar ei ysbryd, ac ni sychodd ddiferyn ar ei lawenydd gwastadol. A dyna'r pain fod ieuenctyd Newsham Park yn gweled ynddo enghraifft mor odidog o werth crefydd—gweld dyn fel Mr. Patton mor orlawn o lawenydd yn wastadol. Yn dry- dydd, yr oedd yn saintly tuhwnt. Unwaith y byddech yn ei bresenoldeb chwi a deimlech yn y fan eich bod yng ngwydd sant cywir. Gwir fod ynddo ffynnon o hiwmor, ond hiwmor eanctaidd ydoedd, na dim adflas amheus ao aflednais ar yr un o'i stor hanesion a st-oriau y gallai eu hadrodd mor ddiddan. Gladdwn dywysog o wr heddyw, nad oedd ei well na'i dduwiolach drwy'r ddinas i gyd. Dilynwyd yn Gymraeg gan y Parch. Wm. Owen, Webster Road gynt, gan sylwi fel y cyfunid yn ei gymeriad brydferthwch y btodeuyn a chademid y gedrwydden. Yr oedd a Dr. John Hughes ar eiYsgrythyroldeb a'i lwyrder fel diwinydd ac yr oedd mor nodedig am ei ymroddiad ag ydoedd am ei dalentau disglair. Yr oedd yn dirf ac yn iraidd hyd henaint, nac yn colli dim o'i irder wrth heneiddio. Cedrwydden Libanus ydoedd, ac a rhai o'i fath y mae Duw yn medru adeiladu ei Daml Ysbrydol o oes i H Canwyd emyn ac wedi i'r Parch. J. Owen wedd o, aed yn orymdaith at y bedd, lie y cymerwyd rhan gan yParchn.R, Aethwy Jones pjr. Edmund Griffith, ac y canwyd Bydd myrdd c ryfeddodau cyn ymwasgar. Y rhain oedd y prif alarwyr Mr. D. J. Patton (mab), Mr. Edkins a Lieut. Roger Owen, RN.R. (meibion-yng-nghyfraith) Mr. Chas. Jones a J. Hughes Mri. D. E. Jones a 0. Lloyd Jones (neiod); [Miss Patton gartref yn Rufford Road Mr. R. E. Patton (mab) yn Tampa,, Florida a Mrs. Whipp(merch) yn Carlisle.] Wele rai a welsom ymysg y dyrfa y Parchn. R. R. Hughes, B.A., O. J. Owen, M.A. O. L. Roberts, Eilian Owen, J. D. Evans, Geo. Lamb, D. D. Williams. Mri. J. W. Row- lands, John Evans, R. Williams, W. D. Will- iams, R. Roberts, Y.H., J. Jones, W. 0. Thomas, J. J. Williams, 0. J. Williams, D. Powell, W. O. Hughes, Lloyd Jones, Ellis W. Jones, O. Rolands, E. O. Roberts, J. Will- iams, R. D. Morris, T. Jones, H. Lloyd, R. Williams, Evan Edwards, R. Hughes-Jones, Wm. Jones (West Derby), Dr. Glyn Morris, r; H. Jones, David Jones, Seth Roberts, R. O. Roberts, etc., etc. Lluddiwyd Mr. Jas. Venmore, Y.H., cadeirydd yr Assurance Trust, rhag medru bod yn yr angladd. Bydd y Parch. R. Aethwy Jones, M.A., yn traddodi pregeth-goffa amdano yng nghapel Newsham Park nos Sul nesaf.