Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
A ARGRAFFU 0 bob math ar gyfer Masnach, Eglwysi, Cyfarfodydd, Cyngherddau, Eisteddfodau, ac yn y blaen, am brisiau rhesymol. Mae Perchenogion y "Brython" wedi ennill enw da iddynt eu hunain fel Argraffwyr a Llyfr- rwymwyr, a byddai'n dda ganddynt gael cyfle i brofi hyn ymhellach gydag unrhyw waith argraffu y bo arnoch ei eisiau, 'Does dim gwaith yn rhy fach na dim yn rhy fawr gennym i ymgymeryd ag ef, Rhowch gyfle inni. HUGH EVANS & SONS, Swyd.dfo'r 'Brython, 356-8 Stanley Road, I Liverpool TELEPHONE Mi BOOTLE Liverpool;. TM"HONE $91 BOOTLE Moses: O'r Cawell i'r Mor Cocb. Drama at wasanaeth Qobeithluoedd Chyfarfodydd y Bobl leuatac Gan PEDR HIR. PRIS: GROT. MAE y ddrama uchod wedi ei pher. fformio dro ar ol tro yn ysgoldai Capeli Cymraeg Lerpwl, ac mewn llawer man yng Nghymru, ac yn para i ennill ffafr. MOSES BACH Drama at wasanaeth Gobeithluoedd Mae hon yn gymwya i blant Muengaoh na'r ddrama uchod. Pris Dwy Geiniog. Cyhoeddedig gan HUGH EVANS All FEISION
-1 .-,:I! -AR GIP. I
-1 AR GIP. I Ymae Mr. J. T. Davies wedi cael ei benodi'n brif ysgrifennydd Mr. Lloyd George, Gweini- dog y Rhyfel, yn ddilynydd Mr. H. J. Creedy. Lladdwyd Thos. Jones, gyrrwr y motor bus a red rhwng Pwllheli a Nefyn, ddydd Iau di- weddaf. Aeth y motor o'i afael yn y nos a'r glaw ar allt serth Bo dfean, ac a ddymchwelodd ar ol mynd yn erbyn y wal. Yr oedd priod Mr. Ellis Davies, A.S., yn un o'r teithwyr, ond diangodd pawb ond y gyrrwr gyda dim ond braw ac ysgytiad. Gedy weddw a phump o blant. Y mae'r Parch. R. Leigh Roose, Holt wedi ymneilltuo a mynd i fyw i Lundain, ar ol bugeilio diacldell Saesneg M.C. Bro'rMefus mn ddeng mlynedd ar hugan. Y mae Syr Watcyn Wyn wedi rhoddi byw- oliaeth Llwydiarth, Sir Drefaldwyn, i'r Parch. D. D. Williams, curad Llanfair, Dyffryn Clwyd. Ddydd Sadwm diweddaf, cleddid yr Hy- barch Archiagon D. R. Thomas, ficer Llan- drinio, Sir Drefaldwyn,-un o'r angladdau mwyaf a welwyd y ffordd honno ers talm, canys yr oedd yn wr mawr ei barch, yn ysgol- haig a hynafiaethydd rhagorol, ac yn eithriadol ei gyraeddiadau a'i ddylanwad drwy'r Esgobaeth. Dyma rai o'r llyfrau a geidw'i enw'n wyrdd am yn hir History of the Church in Wales, Life of Bishop Davies and I Wm. Salisbury, a History of the Diocese. Ffaglodd y gwair yn nheiai fferm y Rhos, ger Gwrecsam—ddydd Sadwrn diweddaf,gan dd bJd gwerth pum pant « bunnau. Yng Nghaemarfon, ddydd Sadwrn diwedd- af, dirwywyd glas-lencyn un ar bymtheg oed —Edwards o Ben y Groe&am feddwi'n chodi helynt. Yn atebiad i'r fainc, dywedodd yr Arolygydd Williaiha ei fod yn ceisio cael gwybod ymhle y cafodd ei ddiod. Cafwyd Mrs. Ann Evans, 47 High Street, Porthmadog-gweddw bymtheg a thrigain oed y diweddar Gapten Wm. Evaps-wedi ymgrogi ynllofft ei thy. Dywedir na fu hi  Dywedir na fu hi byth yr un fath ar ol colli ei mab mor dry- chinebus rai blynyddoedd yn ol. Ar ol deuddydd o chwilio amdano, caed o byd i gorff Walter Lowe-gweithiwr 37ain oed ar ystad Leighton Hall, Trallwng-yn llyn y Pare, a (Alioben o garreg yng nghlwm wrth ei wddf. Bu drwy ryfel De Affrica, a gedy weddw a chwech o blant. Yr oedd rhyw iselder arno ers tipyn bellach. Y mae rhyw wladgarwr a gar fod yn gudd wedi estyn deng mil o bunnau i'r Henadur Illtyd Thomas, at Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, a dau gyffelyb wedi eetyn pum mil o bunnau yr un at Lyfrgell Genedlaethol Aberystwyth. Bendith ar y kaelfrydigion anad. yma. Y mae'r Parch. James Charles, Dinbych, wedi dweyd wrth bobl ei braidd yn Ninbych Ii od yn ei fryd ymneilltuó fis Mai nesaf, ar -terfyn chwarter canrif o f ugeilio'r eglwys. Bfe oedd llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymreig; efe yw un o bregethwvr ac awduron mwyaf meddylgar ei enw ad ita nid rhyfedd hynny, canys yn IJanuwchllyn y'i ganed.a delw'r ardalhonno ar eigorff dwylath allathr- aidd. Y mae Mr. M. J. Williams wedi cydsynio i fod yn Faer Bangor am y pedwerydd tro'n olynol. Ym marwolaeth Mr. Joseph Roberts, coil- odd Caernarfon un o'i masnachwyr goreu a'r Bedyddwyr un 0\1 diaconiaid a'u colofnau cadarnaf, Yr oedd yn bymtheg a thrigain oed. Yr oedd Miss Edith Evans (19 oed), Treorci, yn treulio egwyl yn Aberystwyth gyda'i th aid, Mr. J. Daniel, Pentrebont ac yngweldci ar foddi yn yr afon, a hithau'n nofiedydd tan gamp, plymiodd ato, ond a iu foddi ei hun, druan, gan gryfed oedd y llif. Yr oedd Mr. R. E. Owen, Garthmyl, Sir Dref aldwyn, agleddid ddydd Mercher diwedd af, yn un o'r beirniaid craffaf ar geffyl yn wlad. Yr oedd ynddo rhyw reddf ryfedd i weld man gwan a man cryf pob anif ail a ddeuai dan ei lygad. Y mae Syr J. Pritchard Jones, Llundain a Niwbwrch, wedi prynnu'r TwthiU, Caernarl on gan Ystad y Faenol, i'r diben o gyflwyno'r bryn yn rhad rodd i'r dref, sy'n meddwl y byd ohono, sef oblegid yr olwg ddiguro sydd ar dir a mor a mynydd o'i ben. Bethbynnagafoar bobl y dref-curyn y pen neu gur yn y f ron--i gorun y Twthill yr ant i gael gwared ap ef, i'w oll wng ymaith gyda'r chwa sydd bob amser yn barod i gl-udo pob anhwylder drosodd i Aber Menai. Ond y mae yno rai pethau cyndyn yn y trigolion na, f edr gwynt Twthill, er ei, gryfed ambell dro, mo'u diwreiddio yn eif yw, mwyaf gresyn. Dywedodd rhywun wrth y Parch. Philip Jones, Llanelli,—"Mae eich gwallt yn newid ei liw yn gyflym iawn, Mr. Jones." "Gwell gennyf iddo newid eiliw na newid eile.frawd," meddai'r gwr ffraeth. Yn y De yn ddiweddar priododd merch 24 oed a gwr oedd yn 63. "Mae cariadfel y mor, A'i (treigliad f el y Ili', A daw a'r twenty four I gwrdd a'r sixty three; Un rhyfedd yw y byd— Pe rhoed hwy gefn yng nghefn, Nid yw y ddau ynghyd Yn ddim ond eighty-seven. Dyna ddau bwt o Fasgedaid Gregin Huwco Penmaen yn y Rhyl Record. Ac ebe rhai o f eirdd y Darian, mewn cwrdd ljongyf arch yr un ar ddeg o Gymry Glannau Am an a enillodd yn Eisteddfod Aberystwyth I deulu llwydd dwylawllon,—heno rown BI aen res y goreuon Ein broydd gan wobrwyon O'r brif wyl s'yn torri bron. Goncwerwyr,—pwy gawn a'u cura,—gemau Yr hen Gymoedd yma Nis gwelwyd yn oes Gwalia Un ar ddeg erioed mor dda. OJj what a feat to afford—now to our District and Ammanford For winning, breaking the record, Prize the eleven, and praise the Lord. -0- COLEO 5Y iBBIFYSGOL, ABER YST- WYTH.-Mewn cyfarfod o'r Senedd, a gyn- haliwyd Medi 25, dyfamwyd yr Ysgoloriaeth- au a ganlyn ar bwys yr Arholiadau a fu'r wythnos cynt Emrys D. Owen, Ysgol Sir Ebbw Vale—Ysgoloriaeth ago red, 130 Thos. C. Jones, Ysgol Sir Dolgellau,—Ysgoloriaeth Clarke, £30; Elwyn A. V. Peers, Ysgol Sir Llandilo, Ysgoloriaeth y Commercial Tra. vellers, £ 20 Idris Herbert, Ysgol Sir Ebbw Vale, Ysgoloriaeth agored, £ 20; Sarah B. Williams, Ysgol Sir Towyn—Ysgoloriaeth Alfred Jones, £ 20 Arthur O. Roberts, Ysgol Sir y Bermo, Exhibition agored, ilO; ElunedGriffiths. YsgolSirPwllheli- Exhibition agored, XIO; Dd. J. Davies, Ysgol Sir Tre- garon—Ysgoloriaeth R. IR. Richards, £ 20 Wm. Clifford Lewis, Ysgol Sir Llandeilo- Ysgoloriaeth Joseph Thomas, £15 Eliz. M. Micah, Ysgol Sir Machynlleth,—Ysgoloriaeth Humphreys-Owen, £ 20. Dyfarnwyd Exhib tions o 15 i'r rhai a ganlyn Gertrude Mo- Breeze, Ysgol Sir y P rth Mavis I. Emery, Uch-Ysg 1 y Merched, Mynwy Eliz. M. Evans, Ysgol Sir y Barri Valinai B. Evans, Ysgol Sir Aberystwyth EnidM. John, Ysgol Sir Llanelli Dorothy V. Jones, Ysgol Sir Pembroke Dock Hilda M. Richards, Ysgol Sir Ceredigion. Cyhoeddir eto enillwyr Ys- goloriaeth Caerfyrddin Alfred Jones, ac Ysgoloriaeth Cynddelw. Gall holl enillwyr Ysgoloriaethau ac Exhibitions sydd ar waith rhyfel oedi dal yr Ysgoloriaeth hyd derfyn y hyfel. j
11 EWNO DF G HOLIG \ - ._.,.…
11 EWNO DF G HOLIG Sef yn gwrando'r Hybarch Bad o Lundain Bernard Noughan Wrth edrych tua'p Allor. I PAN gefais docyn gwadd gan ben offeiriad yr eglwys i wrando'r Tad Bernard Vaughan yn pregethu yn St. Nicholas, Copperas Hill (tucefn i westy'r Adelphi), ar ran bechgyn yr 8th Irish sy'n clemio'n ddrwg en cyflwr yng ngharcharau Germani, fe'i derbyniais yn eithaf parod, gan esgeuluso'm cydgynhulliad y bore Saboth hwnnw oblegid body Bern- ard hyglod yn Gymro o gyff. a hwnnw'n gyff athrylithgar, ac wedi giynu ar hyd y canrif- oedd wrth y Ffydd Rufeinig. Addoldy digon plaen asurbweh yrolwg ydyw St. Nicholas o'r tuallan, ond unwaith yr eloch i fewn, a dyna'ch dau lygad yng ngwydd yrharddwch drutaf y medr arian ei bwrcasu a chelfyddyd ei lunio. Painting ar ol painting ar y muriau bob ochr a thalcen, sef o'r prif ddigwyddiadau ym myw a marw'r lesu, o'i breseb i'w groes gan mwyaf ohono Ef o'i fam a dacw un arall dipyn pellach draw o Seimon ddu Syrene yn chwysu a gwegian dan bwysau Croes ei Waredwr, a welid mor ddwys ei drem wrth ddringo Gallt serthaf y byd-Gallt Calfaria. Ac o flaen yr allor, dacw hanner cylch o golofnau marmor, a phob colofn yn sgleinio mor lan—ac oer 1-a gwlith Nant Ffrancon ar fore o Ebrill. Ac am yr offeiriaid, amrywiai eu dillad hwy yn ol eu gradd a,'uhurddas, o 'r bais biws a gwyn hyd i'r amwisg goch a melyn harddaf y gallai dy- chymyg bardd na chalon merch ei ddeisyf byth. A'r bais lac wedi eu brodio a'r gwyn teieidiaf, a rhyw dorch am y gwar a droid ac a dynnid ol a blaen gan yr is a'r egin-offeiriaid, i ateb rhyw gwmin ac annis seremonïol sydd yn Llyfr Defosiynau'r Eglwys Lan Gatholig. A'r fath ymgrymu a munudio a dwys lygeidio oedd ar bob llaw a'r su a goda; oddiwith gobanau a llaes beisiau'r offeiriaid yn peri i air Mr. Lloyd George neidio i'm cof, sef y gair a ddywedodd flynyddoedd yn ol wrth blicio gwallt offeiriaid cyffelyb eu hymdumiau. This is salvation by haberdashery ebr y fo, yn union fel efe'i hun. Pe gwerthasid y gwisgoedd offeiriadol, a'r painting a'r marmor a'r delwau drudion, fe gawsid digon i gynnal dau neu dri o genhadon ar y maes am ddeng mlynedd, a digon yn weddill wedyn i fwydo a dilladu plant llawer o'r addolwyr hyn sy'n swatio mor noethlwm yn y slums gerllaw. Ymhle y mae d'esgidiau di, mhwt i ? ebe gwraig galon feddal wrth grwt o werthwr Echo a rynnai'n droednoeth goesnoeth ar Lime Street yna. Wedi mynd i brynnu'r fflownsus a'r phylacterau a welsoch chwi am yr offeiriaid sy'n yr Eglwys yna, mam," ebe'r crwt, a'i bwyslais yn grafiad i gyd. Gresyn meddwl fo d ei gylla ef mo r wag er mwyn igefn y llall fodmor llawn. A phob rhywhyn ahyn yn ystod y gwasanaeth cyn ac wedi'r bregeth, dacw is-offeiriedyn arall yn dod a chawg yr arogldarth o'r cefn yn rhywle, ac yn chwyfio hwnnw ol a blaen, nes llenwi cyleh yr allor a'i iwg a'r holl addoldy a'i ddrygsawr, oedd yn weddol ar y cyntaf, ond a aeth yn ddrewdod a chyfog ar ddyn ymhell cyn y diwedd. Ac mor dda oedd cael dracht o wynt halen y Mersey ar ol dod allan. Pob parch i'r offeiriaid diau eu bod yn eithaf cydwybodol ac wedi eu magu fel hyn; ond fe fuaasai'n ganmil gwell gan y Nef gael ffroeni tusw o rug y mynydd oddiar firiddoedd Meirion, neu arogi drain gwynion neu. wair newydd ladd neu "hen wr"; neu gwell fyth,—y perarogl Crist hwnnw sy'n esgyn tuag ati bob bore a nos o Dy'n Lon, Lleyn, wrth i'm hen gyfaill Wm. Parry, chwech, a phedwar ugain oed, gadw dyletswydd," a tharo'i tuning fork ar ei lin i gychwyn canu "0 'fenaid! gwel addasrwydd Y Person Dwyfol hwn," ar y don Meirionydd. A'ch belpo wrth ymyl yr hen William Beth pe gwelsech y Nefoedd yn plygu ei chlust dros ganllaw'r Gogoniant rhag colli'r un.o'i ocheneidiau am faddeuant a glanhad Ond wrth weled rhyw lol a drygsawr paganllyd fel hwn, yn debyeach gan i eu bod hi'n gwneud yr un peth ag a wneu- thum innau bore heddyw tisian fy mhrotest o'm ffroenau dros y lie. Ac at hyn i gyd, yn y Lladin farw y darllenwyd ac y gweddiwyd ac y llafarganwyd y cwbl. na mwy o efengyl ddealladwy ynddo i ddreth y dyrfa nag yn swn eacwn mewn bys coch. Y mae gennych berffaith bawl i addoli yn y ffordd ac yn yr iaith y mynnoch, ac nidgwamalu'ngoeglydyr ydwyf wrth s6n am eich oedfa, eithr yn dy- wedyd y teimladau a gerddai dros fy nghalon wrth edrych tuag atoch chwi a'ch allor yn St. Nicholas bore heddyw. ? i I Wrth edrych tua r Pulpud. Toe, dacw'r bechgyn claerwyn eu erysau (ac ambell berl o wyneb yn eu mysg! pawb yn cludo'i gannwyll a mwmio,i. Ladin$ dacw'r offeiriaid i'w le .%•: o'r naill du f a dacw'r Tad Bernard Vaughan yn dwys droedio tua'i bulpud yn ddyn tua'r trigain oed gallwn feddwl arno symol lal, ond yn bar gadam a chnodios ei firan. genau llydan a hyblyg grYlll ewyllys yn ei drem a'i adwy wefus cnu o wall" s,wi'neu tua'r gwegil a dwy ocl r y pen, ond nem >r flewyr, ar y coran da. t lygad llyrion, byw, 'n Uamu'n ei bpn," fel march Tudur Aled, ac ymron a neidio o'u tyllau pan gynhyrfid ef i ddal dros y ffydd Bapistaidd taken gweddol, nac yma nac acw felly a'r wyneb, a'i gymryd gyda'i gilydd, yn awgiymu mwy o gyfraith nag ) gariad—mwy o awdur- dod eglwysaidd nag o feddylgarwcn treiddgar, mwy o'r Laud erlidgar nag or Chiysostom aur ei enau. Chwarae teg iddo, fe ddarllsn- )(Ad y '•hweehed benn^d o;r Llythyr at y Galatiaid yn campus yn araf, yn groyw gan bwysleisi) n naturiol, heb ddim o'ch gorbwyslais poenus o eloeMionary, na dim o'ch gwmad. bersonllyd wrth rygnu a rhith. oslefu Gair Duw. A phennod iawn ydyw hon a'r nn o'i blaen. ac ynddi gyfle i ddyn ddangos y dawn prin hwnnw: dawn i ddarllen v Beibl yn deilwng o gyfoeth ei iaith ac o urddas ei wirionedd. Rhowch imi ddarllen- wr iawn, a chroeso i chwithau o bob Esboniad sydd ar f'estyll. Y Tad Bernard, fe wn i am res o Gymry sy'n well a thrymach pregethwyr na thi, ond tydi biau'r wobr gyntaf am ddarllen, a dyma hi i ti. Poethai ei waed a gloewai ei lygaid wrth ddod at ambell adnod,—hon, er enghraifft :— Oblegid os tybia neb ei fod yn rhywbeth, ac yntau heb fod yn ddim ac a daflai hynny o guwch a gwawd a fed a i'w bwyslais deifiol ar y" whereas he is nothing." A phan ddaeth at hon, dipyn nes- ymlaen Na thwyller chwi ni watworir Duw; canys pabeth bynnag aheuo dyn, hynny hefyd a fed efe," fe'i pwysleisiai nes oedd eich enaid yn delwi gan arswyd o'ch cyfrifoldeb, ac a'm hatgoffai o sylw dyn dyfnach lawer na B.V.—David Charles Davies-wrth bregethu ar yr un adnod yn Fitzclarence Street, os iawn y cofiaf Y mae gwirionedd fy nhestun i nior dra- gwyddol bwysig nes yr aeth Dwyfol Ysbiydoliaeth at ddeddf gryfaf a sicraf y Cread i fenthyg cymhariaeth i'w osod yn glir gerbron—deddf hau a medi." Gwnawn, fe gerddwn ugain milltir i glywed y Parch. Chas. Street yn darllen y ddwy bennod hon yn Saesneg, a Gwilym Hiraethog yn eu darllen yn Gymraeg. Y Pabydd Pendant. Ond beth axil y bregeth ? Traddodiad rhagorol iaith gref, goetli, ond heb ddim o'r chwyddedig eiriau gorwagedd," agondemn- ir mor net gan Petr yn ei drydedd Epistol geiriau dethol, ac yn cael eu cynhanu'n groyw nes eu clywed a'u deall bob sillaf yn Ilawr a llofft yr eglwys fawr. Yn amlwg ei fod yn studied elocutionist, ac hwyrach yn picio i ambell thoatr, fel y gwnai John Elias pan yn y Brifddinas, er mwyn cael gwers ar iawn- draddodi a sut i yrru hoel y Gwirinoedd adref di-wy galon y gwrandawr. Wrth wylio'i wyneb, tyblwn fy mod yn ei glywed yn distaw siarad ag ef ei hun fel hyn ymlaen Ilaw Wel, dyna'rsylw a'rsylw, fe'i dywedaf fel hyn neu fel acw," canys siaradai a'i holl gorff cystal ag a'i dafod. Sutt the action to the word," ebe Shakespeare, awdurdod ucha'r byd ar y pwnc, a dyna a wna i Bernard Vaughan bore heddyw, ond heb luchio na sboncio fel rhyw Sioncyn y Gwair chwaith. Pregeth o'r frest," bob gair, ac nid a'i bopeth yn ei bapur," fel y dyn hwnnw sydd mor fasw ac aneffeithiol am ei fod a'i wyneb ar ei notes yn lie sbio'n syth i fyw llvgad ei bobl, canys pe gwnai hynny, a bwrw fod ei ysbryd ar dan, a bod ei genadwri yn un effro, fe gaffai yfed ysbrydoliaeth a chalondid wrth weld blinds dylni a difatei-weh yn cael eu codi oddiar y naill ar ol y Hall o ffenestri llygaid ei wrandawyr. Ni waeth pa mor doeslyd y byddai'r pVlncant neu fil o wynebau a ddigwyddai fod o flaen Edward Mathews, Ewenni, dim ond i chwi aros deng munud iddo geibio'i ffordd at ei destyn, a dacVr blinds i fyny bob un, a phob llygad yn dawnsio o fwynhad ysbrydol. Sbywr diail ydoedd Mathews a'r sbyo rhyfedd hwnnw- heb ddywedyd gair ond a'i lygad, dim ond rhyw fwmian dwfn rhyngddo ag ef ei hun- dyna un o'r pethau mwyaf hyawdl a grymus a chyrhaeddgar a glywodd Cymru erioed. Y mae'r Bernard yntau'n sb:wr yn ei ffordd ei hun, ond nid ffordd Mathews mo honno o lawer. Fe sb'ai'n rhy ddogmataidd ac a bwysleisiai'n rhy fympwyol-yn rhy cocksure, a benthyca un o eiriau nodweddiadol yr Iancod, sef gan gystal a dywedyd, ar ol ambell osodiad go bendant Dyna fo'r gwir i chwi, fel y dywedodd Duw o wrthyf fl, drwy Ei Eglwys, sef yr Eglwys Lan Gatholig, ac fel nas dywed- odd wrth neb arall ond wrthi hi." Gael i chwi weled nad ydwyf yn gwneuthur y cam lleiaf a B.V., dyma 'mhrawf Baich ei bregeth ydoedd clodfori Padrig, sant enwog y Werddon, am blannu crefydd Crist yn y wlad honno, a'i phlannu mor dda a dwfn nes ei bod hi wedi blaguro yno hyd heddyw, ac nad oes dim a'i dymchwel, canys y Graig yw Crist. Ar y tywod y saif pob Protestant. Ond dyma eiriau B.V. mor agos ag y gallaf eu cofio Saint Patrick's great message to the Irish race was this :Remember that you are a Cb risti anro illy in the measure that you are a Roman." Go ddigywilydd, onite ? a chofio fod yno frithiad o Bntestalllald bore heddyw, canys gwahoddesid yr Arglwydd Faer a'i osgordd o Henaduriaid a Chynghorwyr Dinesig yno. Gwelais un Ymneilltuwr yno-yr Henadur John Lea, ac yn ol rhestr y papurau bore drannoeth yr oedd dau Gynghorydd Cymreig yno, er na welais. i mohonynt, gan fwg yr arogldarth neu lywbeth. Ond er ein bwrw bendramwnwgl fel hyn dros riniog yr Iechydwriaeth, a'n gadael i abredu dros byth tuhwnt i'r Wal Ddiadlam o'u rhaii hwy, sylw- ais i blat y casglu ddod atom bob un ar y diwedd, ac i bob heretic gyfrannu'n ol ei fedr, a'r Maer a'i osgordd yn rhoi eu papurau punt a'u ehweugain,ac yif yblaen, I aino, a finnau'm hatling, a honno o'r un mint, gobeithio.-i hatling y wraig weddw. Ond i ddod yn ol at Bernard Vaughan :— Cofia hyn, B.V., er eynmint dyn ydwyt, mai nid tydi na neb o'th urdd a osodwyd yn oruchwyliwrgras Duw. Y mae Dwry Bywyd yn gefnfor mawr didrai yn curo ar bob glan ac enwad ac unigolyn ac yn dy herio di na'th Eglwys i'w syndicatio na'i gadw i redeg drwy dy beipen fain a phapistaiud di. Clyw ed a dyfndsr y Parodrwydd Dwvfol yn arsiyn Pnnt y Celyn :— M-io r f fel v mor, Yn chwyddo. byth i'r lan Mae yntldi ddigon, digon byth, t'r truan ac i'r gwan." j Ni waeth i ti na'r u.n Cardinal na neb geisio ( sefyll rhyngom a'r mor yna, onite fe'lh ysgtiba di o'r ffordd fel deilen ar flaen ei don. Ac am Dduw yn cadw'i wirionedd a'i gyfrinach i ti a'th Eglwys Rufain, nac yn ei ddatguddio i neb o'r eglwysi emilI, dos i dy gut i gyfarth t canys yr wyf yn bur sicr na ddywedodd 0 crioed d.d;m. byd mwyna gwell wrthyt ti na'r Pab nag a fyddai'n ddweyd wrth fy hen dad a mam i ar aelwyd Ty ar y Graig, Talsarnau, ers talm, ae awn y bvddai'n te,*nilo'n Ilawe, mwy cartrefol gyda hwy a'u carinwyll frwyn yn yr hen fwthyn dwy-ystafell hwnnw nag y teimlai yn dy gathedral gorwych di yn Llun- dain. Gan i ti gymryd yn hyf i siarad mor blaen a dibetrus wrthym ni heddyw'r bore, rhadi i ti ddioddef i ninnau siarad yr un mor blaen a dibetrus wrthyt tithau, canys aheuo dyn, hynny hefyd a fed efe." ebe'r adnod honno a ddarllenaist ti mor dda ar ddechreu'r oedfa. A" Peter's saving Ark is the only lifeboat ebe fo wedyn ymhellach draw, wrth ymffrostio yn henafiaeth ac anffaeledigrwydd "EIN HEGLWYS NI." Dywedai fod rhai o'i gyfeillion Anglicanaidd yn y Brifddinas yn cwyno wrtho'u bod yn methu cael eu dynion i fai-w'n dawel a diamheuaeth am eu hiachawd- wriaeth. A'r rheswm am hynny, ebe B.V. heddyw, ydoedd hyn nad oedd ganddynt ddim awdurdod na dim gwirionedd pendant (definite) i'w ddywedyd wrthynt, a'u bod yn analluog i ddywedyd dim sicr wrth eu praidd end amdanynt hwy'r Catholigion, fod gan- ddynt air pendant, awdurdodol, oddiwrth Dduw a'i eglwys; ac wedi derbyn hwnnw drwy Sydd, fod y milwr Catholig yn medru rhcddi ei ?e? ar ei obennydd i farw mewn sicrwydd ei fod am ddisgyn yr Ochr Draw ar y Graig ac nid i Gors y Protestant. Felly ç-ç I Dal dros y Gwyddel, Ond dyna ddigon-a gormod—am ei athrawiaeth. Fe ddywedodd amryw bethau da a gwir iawn am y Gwyddel a'i ran dros Brydain a'r Ymerodraeth Y mae yiiddo ddigono feiau a gwendidau; oes, megis y mae ynoch chwithau yn nes adref, heb fynd dros y Sianel i'w hel a'u hedliw ond hyn sy'n sicr beth bynnag fod y Gwyddel yn ddewr ac yn barod bob amser i golli ei fywyd dros ei wlad ac yn ail, fod ei ferched yn bur a diwair. The Irishman is brave, and the Irish- woman is pure and chaste." A dyna'r gwir, chwarae teg iddynt a'u diweirdeb yn uwch na diweirdeb ein merched ni yng Nghymru a'r Alban a Lloegr. Os cyll geneth ei throed yma, fe gwyd ei phen eilwaith ymhen ariser ond unwaith y collo'i choron yn y Werddon, nid byth y cwyd hi ei phen yno gan mor fawr yw'r cwymp yn eu golwg. Ac wrth ddibennu, daeth yn ol at ei SBahydd- iaeth drachefn. ac a roes un wawch uchel wrth waeddi'r frawddeg hon dros y He "0 England England let us bring Christ back to our schools A'i ddwy foch yn cochi mewn gwewyr angerddol wrth ddweyd. Y mae gennyf anlcan pellach pam fod yr hybarch dad hwn mor boblogaidd, ac mai efe ydyw prif dynfa pulpudol Catholigion Llundain a'r wlad, sef nid am ei fod yn feddyl'wr dwfn nac yn ym- resymwr cadarn ac ysgolheigaidd, eithr 1—Am ei fod yn dal mor gyndyn dros awdur dod ac uchafiaeth Rhufain, ac mor ddisyfl dros y pethau mwyaf crin a hesb yn ei chredo. 2—Am ei fod yn draethwr mor hyawdl ac yn gwybod mor dda sut i chwarae ar dannau'r delyn sydd yng nghalonnau ei wrandawyr. 3—Am ei fod yn ddinoethwr mor Ilym ar bawb sy'n coleddu cyfeiliomad, ac yn medru eu gosod mor daclus a dibetrus yn Affwys yr Hereticiaid. Yn y set "nesaf i mi, eisteddai Syr Edward Russell, Gol. y Daily Post. Mewn oedfa bur wahanol yr eisteddais i mor agos iddo ef o'r blaen, sef yn Oedfa Evan Roberts y Diwygiwr yn 1904 neu 5, ar nos Sadwrn yn eistedd yn y Set Fawr y diweddar Mr. Eleazar Roberts (Meddyliwr)ya eistedd yn ei ochr ac yn bras- gyfieithu'r cwbl iddo, ac yntau Syr Edwart yn nyddu colofn a hanner o'i syniad am yr oedfa i'r Post drennydd—dydd Llun, ac yn amlwg fod y gloyn eirias o Gas Llwchwr, a chanu'r dyrfa ddwyfil o Gymry oedd yno, wedi toddi mwy amo nag a wnaeth harangue Bapistaidd Bernard Vaughan. Yn ochr Syr Edwart, eisteddai Mr. T. P. O'Connor, A.S., un o newyddiadurwyr goreu Prydain Gwyddel athrylithgar a char- edig a hawddgar tuhwnt, yn meddwl y byd o Mr: Lloyd George, ac a'i clywais yn dweyd, adeg etholiad gyfyng Bwrdeisdrefi Caemarfon ac y rhyw led-ofnid y'i teflid allan Mi halfalwn ar fy neulin bob cam o Lerpwl yma i Gaernarfon, er mwyn cael rhoi fy fot i'w gadw o i fewn, pe rhaid "wrthi." A'runig reswm fod gwr mor alluog agoleuedig yn medru bodloni ar ofergoelion pagan- llyd y Babaeth ydyw ei fod wedi ei fagu amynt. What's bred, in the bone," chwedl y Sais. Pan yn dechreu agrifennu, arfaethwn fras fynd dros Lyfr Emynau Cymraeg y Catholig- ion, a gefais gan y diweddar Dad J. H. Jones, Treffynnon (Caemarfon cyn hynny) ond dyma'r llith eisoes yn rhy hiiy a minnau'n gorfod hel y merlyn ilw stabl, iies y ceir amser i'w farchogaeth drwy'r ddarlith odidog a dra* ddododd Syr Henry Jones yn New Brighton y nos o'r blaen. Llygad y Wawf. J.H.J.
Advertising
EVERY WOMAN -jxopi.t> sand stamps for our 32 page Illustrated Sopfc ,j cOlltainingvaluable information how all Irregu>sJitieSi inri Suppressions may be entirely avolded ortfin&vta by simple ir eaas. Recommended by eminent *Pbystc6n#3 19 tr-s only Safe, Sure and Genuine Bemedy. Nevw Tbousands of Testimonials. Bstabhsced isoi. Mr. PAUL BLAIMCHARD l 6timent liuate.D.iøt"(j Laisr. LONDON