Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Trem I—Aderyn Caeth. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Trem I—Aderyn Caeth. I CLYWAIS stori am aderyn a gadwesid mewn cawell caeth, mewn ystafell ac am lawer O amser o gyrraedd pelydr heulwen. Ond o'r diwedd, wrth weld fod can y creadur bach yn colli ei h afiaith, tybiodd ei orthrymydd mai gwell fuasai ei osod ef a'i gawell yn y fienest-r, gan obeithio y bywioeeid ef gan yr heulwen. FeHy y bu hefyd. Cyffyrddodd y pelydr a thannau'r delyn oedd yn natur y deryn bach a dechreuodd chwarae a chanu fel pe'n colli arno'i hun yn Ilwyr. Ond diwedd y stori oedd ddarfod i'r deryn gwympo'n farw ar lawr ei gawell. Yr esboniad a roddid ar y digwydd ydoedd, ddarfod i'r deryn bach, ym mwynder yr heulwen., fyw'n rhy brysur, fel y canodd ac y chwaraeodd ei hun i farwolaeth anamserol. Ac nid anhtbyg ddyn i aderyn. Bum fy hun mewn caethiwed blin, am amryw wythnosau, fel yrhiraethwn am gymaint a chyfle i eistedd wrth ffenestr fy ystafell, a e-yllu allan i'r byd. Cefais y cyfle o'r diwedd, ar brynliawn teg, a theimlais ryw afiaith hyfryd yn adfywio'm natur wyw a llesg, lies yr awyddwn wneuthur rhywbeth. 'Fedrwn i ddim mynegi fy afiaith megis y gwnaethai'r aderyn—wrth ddawnsio a chanu. Prin y mae'r swn goreu O'M heiddo i yn werth ei alw'n ganu ac am ddawnsio—ni ddysgais y grefft, ac nis gallwn gynnyg ami heddyw. I ddywedyd y gwir syxn 1, gan na allwn fynd allan i lefaru, daeth ysfa sgrifennu amaf. Oes, yn sicr, mae grym mewri arferiad, Breuddwydiais, ac ni waeth imi adrodd y breuddwyd liwnnw, gan ei fod ar y pwnc. Yng nghanol fy ngwendid y bu hyn. Gwelwn f y hun mewn yst af ell eang, a ph eiliau mawrio n o bapur gwyn, glan, ynddi. 'Boedd y papur mor gannaidiel yllewychai ar nen yr ystafell. Eisteddwn wrth fy nesg, ac ar y bwrdd yn fy ymyl yr oedd pentwr o bapur gwyn, wedi ei dorri'n ddalennau taclus. Dyna demtasiwn i sgrifennu na welais i erioed ei bath. Beth bynnag i chwi, pan oeddwn ar fedr dechreu, deffroais. Ni wn ar bath y bwriadwn sgrif- ennu. Ond nid yw hynny'n beth newydd b gwbl. Llawer gwaith y deliais y pin inciog yn fy Baw, heb wybod yn y byd both wnawn ag cf. Ond mae hyn o gysur gennyf am fy mreuddwyd.—gwelais bapur gwyn, glan, heb i mi fod yn euog o'i faeddu ag ysgribl. Orid mi dybiaf fod yn hawdd esbonio'r breuddwyd hwn heb ymholi a dewiniaid. Do, daeth ysfa sgrifennu drosof, Ond sgrifennu beth ? Wel, ni fu.gennyf erioed fwy o ryw bethau eisiau eu mynegi. Cyiixyaglyd ydyht, O brudd-der a llawenydd. Ni fynnwn er dim beriprudd der i eireill ac nid oesarnaf eisieu cymorth i bruddhau fy hun. Ond mae'n amhosibl gwneuthur cyfiawnder a phrofiad oni fynegir ei dristwch a'i gysur, y naill ar gyfer y llall.

Trem ll-Myfiaeth Poen.

Trem 111-Cyteillion,.

Neuadd YmneiiituolI Cinmel.…

Advertising