Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Trem I—Aderyn Caeth. I

Trem ll-Myfiaeth Poen.

Trem 111-Cyteillion,.

Neuadd YmneiiituolI Cinmel.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Neuadd Ymneiiituol Cinmel. o. y y Yn llwyddiant digamsyniol. I RHODDODD y Parch. J. H. Davies, Aldwyn, Abergele, ysgrifennyddy Neuadd Ymneiiituol I yng Nghiiunel, adroddiadhynodgalonnog am y sefydliad i ohebydd a alwodd gydag ef Dywedai fod y wlad yxvteimlo cryn ddiddor- deb yn y sefydliad, a da gennyf ddweyd fod-tri pheth wedi dod yn bur amlwg i bawb ohonom sy'n gweithio gyda'r sefydliad 1, Yr oedd mawr angen ai-ndaiio 2, Gwneir defnydd da ohono gan y dynion 3, Mawr werthfawrogir yr hyn a wneir gennym erddynt. Wrth ateb Pa beth a barodd iddynt feddwl gyntaf am godi'r adeilad ? dywedai mai ar gyfer y moddion crefyddol y codwyd ef i ddechreu. Ar y cyntaf," ebai, yr unig le i gynnal gwasanaeth oedd neuaddau y Y.M.C.A. A byddai raid gwasgu'r dynion yn fan gwmniau, yn lie bod yn un gyiiulleidfa gref. Anghenion ysbrydol ein dynion ieuainc a barodd ifni feddwl i ddechreu am godi Neuadd o'n heiddo ein hun ail beth yn ein golwg oedd ei gwneud yn Institute. Pan oedd y gwersyll yn llawn, teimlem mai annigonol iawn oedd y ddarpar- iaeth ar gyfer oriau hamdden y dynion, ac y dylai'r eglwysi gym ryd mwy o ran ym mywyd cymdeithasol y gwersyll. Credem nad teg oedd yinddiried hyn oil i law'r Y.M.C.A. Da iawn gennyf ddweyd fod y Neuadd yn llwydd- iant mawr fel addoldy ac fel sefydliad mae wedi mwy na chyfiawnhau ei fodolaeth yn y naill gysylltiad a'r llall. Yn wir, mae'r llwyddiant raor fawr fel y gorfu ar y pwyllgor hysbysebu am wr o brofiad mewn busnes i ofalu am y rhan yma o'r gwaith. Er fod lliaws o'r milwyr Cymreig wedi ymadael, mae'r nifer yn oedfa bore Sul yn cynhyddu bob Saboth er pan agorwyd y Neuadd. Bore Saboth diweddaf, yr oedd y Neuadd fawr bron yn llawn yn yr oedfa Gymraeg. Yn y pryn- hawn, bob Saboth, cyferfydd y Brotherhood yn Saesneg, a chynhydda'r cyrddau hyn hefyd bob Sul. Nos Saboth, yn yr oedfa Gymraeg -a chofier mai gwirfoddol y gwasanaeth hwn -yr oedd dros saith gant o filwyr yn bre- sennol. 0 ddydd Llun hyd nos Sadwrn, cerir y gwaith ymlaen ar linellau y Y.M.C.A. Gofelir am hyn gan Miss Williams, Colwyn Bay'; Miss Parrjr, Dinbych a Miss Frances Jones, Abergele. Nid oes ball ar ganmoliaeth y milwyr i siroldeb y boneddigesau hyn a'r ymborth a arlwyant. Rhoddir digonedd o bapur ysgrifennu yn rhad ac am ddim ysgrif- ennwyd dros 2,000 o lythyrau yn yr ystafell y mis diweddaf. Gwyr y cyfarwydd yn dda bwysigrwydd yr agwedd hon ar fywyd gwer- syll. Mae cymaint o ofyn ar yr ystafell ysgrifennu fel y rhaid i'r pwyllgor bwrcasu chwaneg o ddodrefn iddi. Ceir hwyl dd& hefyd ar gyngherddau a chyfarfodydd cys- t adleuol bob wythnos. Byddedhysbys falIy i Eglwysi Rhyddion Cymru nid yn unig fod y mudiad yn llwyddiant, ond yn llwyddiant mor fawr nes gorfodir pwyllgor i fynd i chwan- eg o draul nag y meddyliwyd. Apelia'r brod- yr a ofala am y casgliad at y Neuadd yn daer at holl eglwysi Cymru am eu help. Bydd J llyfrau, games, cofnodolion Cymraeg a Saes- neg, yn dra derbyniol. Gellir eu hanfon i Mr. D. S. Davies, Dinbych y Cyng. Simon Williams, Colwyn Bay i mi neu'n syth i'r Free Church Hall, Kinmel Park."

Advertising