Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

0 Lofft y Stabal.

Rhyngoch Chwi a Finnau. ,…

UNDEÐ EGLWYSI ANNIBYNNOL LIVERPOOL,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

UNDEÐ EGLWYSI ANNIBYNNOL LIVERPOOL, MANCHESTER, A'R CYLCH. DYDD Sadwrn diweddaf, cynhaliwyd Cyn. hadledd ynglyn a'r uchod, yn Chorlton Road' Manchester, dan lywyddiaeth Mr. E. Thome. Y.H.,Widnes. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. W. A. Lewis, Liverpool. Caed cofnodion y cyfarfod blaenorol gan yr ysgrifennydd, y Parch. 0. L. Roberts, a chad- arnhawyd hwy.-Darllenodd yr ysgrifennydd lythyr cyflwyniad y Parch. Thorn as Griffiths, o Gyfundeb Meirion. Nid oedd Mr. Grifil iths yn gallu bod yn bresennol yn y Gyn. hadledd, ac yn ei absenoldeb derbyniwyd ef yn galonnog. Mae Mr. Griffiths wedi yro. sefydlu yn Manchester, ac wedi cychwyn mewn masnach. Bydd yn ago red i wasanaethu yr eglwysi ar y Saboth.—Croesawyd tri o ddiaconiaid newyddion a ddewiswyd gan yr eglwys yn Lord Duncan Street, Salfcrd-- Galwyd sylw at afiechyd Pedrog. Dymun- wyd iddo adferiad buan, fel y caiff eto ail ymaflyd yn y gwaith sydd mor agos at ei galon. Hefyd pasiwyd pleidlais o gyd. ymdeimlad ag ef yn ei drallodion teuluaidd o golli ei annwyl briod, wedi cystudd maith a thrwm, ac anliwyldeb presennol un o'i feibion sydd wedi eiglyfo yn y rhyfel. Datganwyd llawenydd fod symudiad ardroed i gyflwvno Tysteb Genedlaethol iddo, a bod argoelion am swm sylweddol. Pasiwyd pleidlais cvffelvh a'r brodyr Mri. Hugh Parry, Marsh Lane a D. Rhyddero, Booth Street, Manchester Rhoddwyd ar yr ysgrifennydd i anfon ilythvr yn datgan cydymdeimlad a theuluoedd y diweddar Mri. W. A. Lloyd, Great Mersey Street, a John Evans, Grove Street, ac eraill oedd wedi colli eu meibion ar faes y frwydr.- Galwyd sylw at lythyr a dderbyniwyd drwv'r ysgrifennydd parth sefydlu Cadair Ddiwm yddol ynglyn a'r Colegau Cenedlaethol Gohmwyd y mater hyd y cyfarfod nesaf a phenodwyd y Parchn. J. Vernon Lewis M,A., ac Albert Jones, M.A., i agor y drafodaeth. Etholwyd y Parch. Albert Jones, M A yn gadeirydd am y flwyddyn nesaf Ail. ddewisyd y trysorydd, yr ysgrifenyddion, a'r arch wil wyr. Diolchwyd i'r swyddogion am eu gwaith yn ystod y flwyddyn. Datganwyd llawenydd o weled y Parch. H. M. Hughes, B.A., Caerdydd, yn y Gynhadledd. Cafwyd ychydig eiriau ganddo, yn datgan ei hyfryd- wch o gael bod yn bresennol yn un o cyfarfod- ydd Cyfundeb y cafodd y fraint o fod yn aelod ohono, oddeutu 22 o flynyddoedd yn ol Cyfeiriodd at yr enwogion oedd yn gwasan. aethu ym mhulpudau'r Undeb y cyfnod hwnnw, i gyd bellach wedi eu symud oddi- wrth eu gwaith at eu gwobr.—Pasiwyd fod v cyfarfod nesaf i'w gynnal yn Grove Street. Dinesydd. [Gweierhanes Cyfarfod y Canmlwyddiant yn Ein Cenedl yn Manceinion].

Advertising