Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Beaty Bros Ltd. MILITARY TAILORS. OFFICERS' UNIFORMS OF EVERY KIND. ALL ACCESSORIES FOR FIELD SERVICE. LOWEST POSSIBLE PRICES. ONLY ADDRESSES:; Church St. and London Rd., LIVERPOOL. Close at I pirn Woduesda". Open all day Saturday*. 'PhoDe-3925 Bank, (f 580 Bootie. I. lriRitnS & Sons, pilitary, Naval & Civil Tailors, 29SOUTH JOHN ST., LIVERPOOL ALSO 349 STANLEY ROAD, BOOTLE. Complete Military Outfits MFAtTCR* 5WORDS 6 3 with Sword Kaot, Nett. Send for Price List. A yw'ch Llygaid yn eich blino ? Yw pethau'n troi'n niwlog ac anelwig ? Dyna arwydd a rhybudd llethdod y Uygad, a dylech ga el eu hedrych rhag blaen; eu gwaethygu wna'u helgeulllo. Gallwn ni, gyda'n hoffer gwyddonol, ddweyd wrthych 08 oes.arnoch angen gwydrau ac os felly, eich cylienwi I r rhai a baral fwyaf o lea i chwi. Galwch heddyw- ARCHER SONS- Eyesight Specialist*. V 3 LORD STREET, Sefydlwyd .hl.LIVERPOOL | "morwsevan^ Household Oil IS STILL ahead of all other remedies FOR Rheumatism, Sciatica, SLiUXXllbagO, and Wounds, of all kinds. In bottles 1/3 2/9 Grocers ct Chemists, or direct for ab»ve prices from MORRIS EVANS & Co., TBB MANUFACTORY, VBSTINIOG Nt WALES. LIVERPOOL The SHAFTESBURY," MOUNT PLEASANT, About twim. walk from Lim* St.& Cmtrai Stat A Ifirst-olass Tamparafioe Hotel. Moderate ob Tilt.: SbaitMbary Kotel, I/pool." Pikmo: ASK FOR IDRIS Table Waters In Syphons and Settle*. SODA WATER. POTASH WATER, SELTZER WATER, LEMONADE, DRY GINGER ALE, Etc., etc. IDRIS & Co., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL D. GRIFFITHS ê SON tM 221. Brack Rd., and 9 Moas St., L'pooM Pianos & Organs by all the leading makers. From 81- per month. TWPKQ»«g—<S6t Amfield 3771 ROYALl SERVICE Such as ours cannot be expressed in terms of money. We are here to help you at any time in any way relative to Cycles and Motor Cycles. All the resources, organization, and experience of the oldest 'firm in our business are at your disposal, so bring all your troubles and pack them in our kit bag, and we will carry them for you. Rudges, 101 Bold Street. Liverpool. WHY SHOULD YOU Pay 10 or 20% more for your Motor Cycle in these hard times when we are selling the Rudge-Multi at pre-war price. We have a large range of new and second-hand Motor Cycles of our own and various other makes in stock for your inspection. Your old machine taken in part payment. Rudges. 1014Bold Street. Liverpool ROBERTS & EDWARDS, ESTATE AGENTS, 64 Kirlidale Rd., Liverpool Telephone: 2193 Rcyol.
Trem I-Sut mae pethau'n .mynd…
Trem I-Sut mae pethau'n mynd ? NIED wyf wedi dilyn hynt y rhyfel yn agos i fanwl ers tro bellach, ac ni feddaf fawr hyder ynof fy hun i son am y sefyllfa filwrol fel y cyfryw. Cafodd darllenwyr Y BRYTHON y fantais o ddarllen nodiadau gohebydd llawer craffach na mi, ar y mater hwn, yn ystod yr wythnosau diweddar. Teimlaf yn hyf i haeru na chaf wyd mewn unrhy w newyddiadur gryn- hodeb mwy cynhwysfawr a chraffus o'r rhyfel fel yr oedd ar y pryd nag a gaed yn yr ysgrif yn Y BRYTHON diweddaf ar Rediad y Rhyfel. Nid oes dim neilltuol wedi digwydd er hynny, am a wn i. Yn Ffrainc, beth bynnag, ym- ddengys fod y Cynghreiriaid yn graddol gael y Haw uchaf ar y gelyn, ac y gellir disgwyl Ilwyddiant pellach cyn hir. Ennill a cholli, bob yn ail, yw hanes y gelyn a'r Rwsiaid yn y Dwyrain. Parha'r Italiaid i ennill tir, ac mae eu hofn ar Trieste-y nod y maent yn bur debyg o'i gyrraedd cyn hir. Ond mae lie. mawr i welliant yn y Balcanau. Anfoddhaol iawn yw'r sefyllfa yn Rumania, ac mae'r teimlad yn gyffredinol na fu'r cydsymud rhwng y Cynghreiriaid a'r Rumaniaid yn ffodus o gwbl, a bod y gelyn, unwaith eto, wedi cael y blaen arnynt. Eddyf pawb mai mater difrifol i ni fyddai gorchfygiad Rumania, gan y byddai i hynny, o leiaf, barhau y rhyfel- trwy gyflenwi Germani a defnyddiau ymborth ac olew, byrhau y llinellau sydd ganddi i'w hamddiffyn, rhoi iddi gyflawn reolaeth dros y Danube, ac felly roi agoriad rhwydd i'w submarines i'r Mor Du. Fel hyn, fe ddygid y Balcanau tan allu'r gelyn, a chadarnheid Brenin Groeg yn ei safiad yn erbyn y Cyng- hreiriaid, gan ei gwneuthur yn hawdd iddo argyhoeddi llawer o'i bobl ei hun, ac eraill y tj? gh y t i hynny, fod Germani'n mynd i ennill y dydd yn y rhyfel. Byddai i hyn gryfhau safle Tino, a gwanhau safle Venizelos, a pheryglid gosod ein byddin ni yn Salonica rhwng dau dan. A fydd 1 hyn ddigwydd yw' r cwestiwn mawr ar hyn o bryd. Gweithia'r Rumaniaid yn lew yn ddiweddar, ac mae at- gyfnerthion o Rwsia'n prysur chwyddo'u grym. Gwyr ygelyn mai ar frys y gall gyrraedd ei nod yn Rumania, os y gall o gwbl ac nid yw'n arbed dim arno'i hun i geisio rhuthro trwy'r bylchau. Erbyn hyn, mae pob rhithyn o amheuaeth wedi ei symud gyda golwg ar ochraeth Tino at Germani, a'i gyfrwys ddichellion yn erbyn y Cynghreiriaid. Ac un o'r pethau mwyaf nodedig yn sefyllfa Groeg yw'r ansefydlogrwydd a berthyn i wrthsafleoedd y Brenin a Venizelos. Gellid tybio weithiau fod peha ym min dod i bwynt rhwng y Brenin a'r Cenedlaetholwyr, ond daw rhyw ddylanwad sydyn i'w hatal. Gwnant inni gofio llinellau loan Arfon i'r ddau glogwyn eyferbyn, Ond er bygwth canrif eto, Byth ni byddant nes i daro. Ond, er hyn oil, mae rhagolygon buddugol- iaeth derfynol yn cryfhau o blaid y Cyng- hreiriaid.
Trem ilm-6; Cofiwch y Morwyp."
Trem ilm-6; Cofiwch y Morwyp." Hanes prudd yw yr un am y gwrthdarawiad a fu'n Mor y Werddon rhwng y llongau Gonnemara a'r Retriever, nos Wener ddiwedd- af. Yn ol pob argoelion, fe gollwyd 90 o fywydau, ac ni ddiangodd onid un i dir. Yr oedd y dymestl yn gref, a dywedid nad posibl rheoli'rllongauhyn. Wyth o Wyddelod oedd ar y Hong glo, Retriever, o'r rhai yr achubwyd yr unig un. Agerlong berthynol i Gwmni'r L. & N.W. oedd y Connemara. Gwelir oddi- wrth ei chriw hi, o tua 30ain, fod agos y cwbl yn Gymry. Mae'n dra thebyg fod nifer go fawr o'r rhai hyn o- Gaergybi a'r cylch. Mynych iawn y mae'r dref honno wedi ei brawychu a'i thrallocli gan newyddion drwg fel hyn o'r mor. Pan oeddwn i ac eraill yn swatio'n glyd tan do, ac yn gwrando swn y gwynt yn erbyn mur y ty, bychan a wyddem am y brodyr a'r chwiorydd hyn oedd yn ymIadd a'r dymestl, allan ar y mor, ac yn diegyn i'w dyfrllyd fedd yn ddisyfyd Ein Tad, cofia"r morwr, Rhwng cyfnos a gwawr, Mae'i long ef mor fechan, A'th for Di mor fawr
Ffetan y Gol.
Ffetan y Gol. Cofied tctub fo't¡ anfcri ft Ffetan mai dyma'r gair sydd ar ei genau:- NITHIO'B GAU A NYTHU'R GWIR. Mor nefol ei sain I At Olygydd Y BRYTHON I ANNWYL MR. GOL.-DyMaairbachowlad bell. Un noson, ym mherfedd y wlad yma, gorweddwn mewn banda (cwt gwellt) yng nghwmni Dutchmen o'r Cape a Sais neu ddau o Ddeheudir Affrig, a phawb yn siarad yn ei hiaith ei hunain. Minrln teimlo braidd yn unig ac yn estronol. Dnd mewn saib yn y twrw clywais ddau yn siarad yr iaith anwylaf a thlysaf yn y byd. Neidiodd yr hen galon, ac ni fuom Iawer cyn gwneud ein hunain yn adnabyddus i'n gilydd. Brodor o Gaernar- fon oedd un, ac yn fab i fy hen ysgolfeistr yn yr hen dref. Y llall yn frawd doniol o Aber- ystwyth. Aeth yr hen fyd yn llai, na lliw pethau ddim yn llawn mor llwyd.—Yr eidd-. och, EVAN J. EDWARDS (o Aigburth). German East Africa. Atbrawiaeth yn holiti, Emyn yn I asio. At Olygydd Y BRYTHON SYR,—Byddaf yn methu'n lan a deall ar ba .dir y bydd rhai dynion-a dynion da iawn hefyd-yn canmol yr hyn a elwir yn sel enwadol." Oherwydd nid oes dim amlycach ynyr Efengylau i mi na'r gwirionedd mawr mai un corff gweledig yw'r Eglwys i fod ar y ddaear. Pwysleisir hyn gan yr Iachawdr ei hun. A'i weddi ddiweddaf ef oedd am i'r Eglwys fod yn un, ac yn gysgod o undeb y Drindod. Cymhellir y gwirionedd arnom gan yr Apoatolionhefyd, ac y mae wedi ei gyd-wau trwy eu holl epistolau fel un o'r gwirioneddau pwysicaf. Dychrynnai'r Apostol Paul rhag y fath beth ag ymraniadau yn yr Eglwys, a dangoso.dd y gwrthwynebiad mwyaf pendant i neb ohonynt alw eu hunain ar ei enw ef. "A rannwyd Crits '?" meddai, "ai yn enw Paul y'ch bedyddiwyd ? Ac et?, yn wyneb hyn, cawn ddynion yn selog dros yr ymran- iadau hyn, ac yn galw'u hunain ar enwau dynion ffaeledig Ni raid i mi enwi y llechres ddu o bethau sydd wedi dod yn sgil enwad- aeth ar ein gwlad,—y genfigen, y digasedd, yr anghariad, y saethau gwenwynig yn y ey- hoeddiadau enwadol, ond yn bennaf oil y mae amcan yr Eglwys wedi ei newid, sef o ddwyn dynion o'r byd at Grist, i ddwyn dynion o'r byd i'r enwad, neu o un enwad i'r llall. Byddaf yn. dychmygu, syr, fod y diafol wedi gweld o'r dechreu mai ei unig ffordd i lesteirio gwaith yr Eglwys fyddai trwy rannu ei hael- odau, a'i fod wedi gyrru gorchymyn allan o'i Fagddu Fawr, Split His followers (Nid yw'r diafol, mi gredaf, yn rhyw hylithr iawn yn y Gymraeg) ac nid yn unig y mae wedi llwyddo i wneuthur hynny, ond hefyd i wyr- droi synnwry rhai i gredu fod yr ymraniadau er lies yr Eglwys A oes modd cyfanu'r rhwygiadau ? Tybiaf yn ostyngedig fod. Wel sut i ddechreu ? Dyma lie y byddaf yn gweld synnwyr difeth y sawl a rydd gy- maint pwys ar y llyfr emynau, ac ar gydio'r Gymanfa Ganu wrth yr Eisteddfod Genedl- aethol. Ni rwystrir neb ohonom yn yr emyn. Ni ellwcli roi Clawdd Terfyn enwadaeth na chenedl i hon. Fe genir heddyw, mewn capel ac eglwys, emynau o waith y Pabydd a'r Eglwyswr, yr Annibynwr a'r Methodist, y Wesle a'r Bedyddiwr. fel ei gilydd, heb beri briw i gydwybod neb. Pam y mae'r nod- weddion hyn yn perthyn i'r emyn ? Am ei bod yn waith dynion sydd wi adnaltod y pethau a phwys ynddynt, yn gynnyrch profiad dynion yn trigo yn yr uchelderau y clyw- som Dr. Moelwyn Hughes yn son amdonynt a rhaid i mi ddweyd, wrth basio, y byddai'n werth i chwi fynd i gapel er mwyn clywedy Dr. yn ledio emyn, heb son am ei glywed yn pregethu. Fe fum i yn dychmygu, syr, gweld yr hen emynwyr mewn rhyw gymanfa ganu fawr yng Ngwynfa. Yrm mhen draw'rset yr oedd Ann Griffiths yn "siriol wenu ac yn tragwyddol syllu bellach yn ei hymyl yr oedd Glan Geirionydd "'Nawr yn gwisgo'r goron wedyn Newman wedi mynd trwy ei "nos" ac yn y Goleuni am byth bellach Dr. Watts wedi dechreu ei infinite day William Williams Yn iach trwy rin y gwaed," ac yn canu am "y fuddugoliaeth fawr Alun wedyn, wedi dechreu canu heb gwyno byth." Yn nrws y set yr oedd Gwilym Hiraethog yn sisial rhyngddo a fo ii hun, "Dymagariadfelymoroedd," Adym hwy i gyd, "heb neb yn tynnu'n gro&s," Trwy rym yr lawn A'u hodlau yn hyfrydlawn Ag urdd llawn o gyraedd llid, Yn gyfan uwch y gofid, Ac yno myg ganu mawl Tri agweddau Tragwyddawl, Yn nwyfol wlad tangneiedd Tu draw i bant ty du'r beddf Sefton Square, DANIEL O. JONES Lerpwl. (Y gweddill ar tud. 2)
Advertising
DONEGAL TWEED CO. LIVERPOOL'S TAILO S. FOREMOST X1 /AUTT LIUALD XOC, MAKE UP YOUR MIND TO PLACE YOUR ORDER EARLY FOR THAT NEW SUIT, = .———— PRICES AS USUAL. ———— S 8t t ,,I 301 NO EXTRA Suit to IT.eOSUre FROM MESa FIT GUARANTED. mi'- IT WILL PAY YOU TO SEE OUR Famous hd!go Serge Jeu"£ 401 omous n Igo erge measure 40/ NOTE ADDRESS t g UYERPOOL Manager' JOHN JONES. Also 95,105, 165 GraDge Rd., B'head 6. ey;ro am by?. at 226 High Street, Bangor, LA^IoEr! .Cr°r?TU5lfa SeSMfromMA and throughout th.?ngdom.